Monday 5 December 2011

Mona Antiqua Restaurata Casglwr 103 Nadolig 2011


Yn ei llyfr “Gwynedd” (A Guide to Ancient and Historic Wales, CADW 1995) mae Frances Lynch yn cyfeirio at meinihirion Bryn Gwyn ger Brynsiencyn  fel “Meini Hirion Oes Efydd neu Gylch Cerrig”, ond mae hi yn cydnabod fod mwy o gerrig yn sefyll yn y ddeunawddfed ganrif er fod amheuaeth ynglyn a chywirdeb y ffynonellau hanesyddol. Un peth sydd yn sicr, erbyn i’r Parchedig John Skinner dynnu llun inc ym 1802 dim ond dwy garreg sydd yn sefyll ac un ohonynt yn rhan o wal bwthyn  – mae olion lle bu y trawslathau i’w gweld ar y garreg hyd heddiw.
                Roedd y bwthyn yn sefyll ym 1817 ond fe’i ddymchwelwyd ym 1841 pan ail drefnwyd  y caeau, felly mae’n debyg fod  unrhyw gerrig oedd o gwmpas pryd hynny wedi eu clirio a dim ond y ffaith fod y ddwy garreg wedi ffurfio pyst giat sydd yn rhan o wal y cae sydd wedi sicrhau eu bod wedi goroesi’r cyfnod o ail drefnu a chlirio. Mae’r giat yno hyd heddiw rhwng y ddwy faenhir.
                At lyfr enwog Henry Rowlands (1655-1723) ‘Mona Antiqua Restaurata’ (1723, ail arg 1766) y dylid cyfeirio gyntaf. Dyma’r disgrifiad cyntaf o Gerrig Bryn Gwyn ac wrth sgwennu ym 1723 cyfeiria Rowlands at y cylch cerrig
“The great standing columns at the West end, three of them yet standing whole and entire, and the stump of a fourth taken notice of and adjusted to the left, will discover to anyone, the position and range of them to be somewhat above a third part of a circle”
                A’i yn ei flaen wedyn i ddamcaniaethu mae gweddillion cylch cerrig sydd i’w gweld yma
“the whole set of them, when standing, made a ring or coronet of eight or nine pillars with a large area in the middle”.
                Y disgrifiad nesa sydd wedi creu dipyn o ddryswch wrth iddo son am “the carnedd in the middle” neu’r  “gromlech” yng nghanol y cylch, achos does dim olion gweledol o hyn bellach, ond mae’n byr debyg fod esboniad syml i hyn.  Yn ol adroddiad yn dyddio  o 1797 (Hutton, W. 1797. ‘Remarks upon North Wales’ tud 181) soniodd Hutton fod yna  ignorant country people supposing money was hid under them, recently tore them up’, felly efallai mae cerrig o’r cylch wedi eu dymchwel oedd y pentwr neu’r garnedd yng nghanol y cylch.

                Rowlands sydd mae’n debyg ,yn bennaf gyfrifol am gysylltu’r Derwyddon a’r oilion cyn hanesyddol yma; Rowlands er engraifft ddechreuodd yr arfer o alw capfeini’r cromlechi yn “Garreg yr Allor” ond rhaid cofio cyd destun yr amser, a’r unig lyfr oedd ganddo er mwyn cymharu cyfnodau oedd y Beibl. Mae’r obsesiwn gyda’r Derwyddon i’w weld ar ei orau ar dudalen 64 Mona Antiqua Restaurata gyda’r llun hynod hwnnw o’r Arch Dderwydd yn gafael yn ei ffon a sbrigyn o’r Dderwen.
                Dyma Rowlands unwaith eto wrth esbonio’r cynllun o’r cylch cerrig
 “I shall now adventure to represent this great Druidical Grove or Temple, as it then consisted, or at least might be conceived or consist, of a Cirque, Carnedd, Columns and Altars and surrounded with a Quercetum, or a round enclosement of tall and spreading Oak to be conceived in the manner described in Plate IV Fig 2”
                Yn ei lyfr ardderchog, cynhwysfawr a gwerthfawr i ddilynwyr  megalithau cyn-hanesyddol “The Modern Antiquarian” (Julian Cope 1998) mae Cope yn disgrifio lluniau Rowlands a rhai William Stukeley wedyn ym 1776 fel rhai heb unrhyw hygrydedd. Yn wir mae’n ymddangos fod lluniau Stukeley yn fawr mwy na chopiau o waith Rowlands. Yn ol Cope,
“Unfortunately both Henry Rowlands and William Stukeley attempted reconstructions of the monuments which were so fanciful as to take credibility from other drawings by those artists".
                Ond er hyn i gyd, mae yna werth  i ddisgrifiadau Rowlands a’r amcangyfrif  ganddo fod oddeutu 8 neu 9 carreg yn sefyll fel rhan o’r cylch. Wrth i Frances Lynch ysgrifennu ym 1995 doedd dim tystiolaeth pellach ar gael heblaw awgrym fod yna ffos a chlawdd i’w gweld yn y 1930au (RCAHMW 1937 xlviii) ond bellach gan fod y tir wedi ei aredig mor aml does dim modd gweld hynny ar y ddaear yn sicr.
                Dyma’r cyd-destun felly i arolwg geoffisegol ym 2006 a gwaith cloddio ym 1998 gan George Smith, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a wedyn gwaith diweddarach ar yr un safle ganddo ddiwedd 2010. Y bwriad oedd cloddio i weld beth yn union sydd ar y safle gan gadw golwg ar luniau a nodiadau Rowlands, i drio gweld faint o gerrig oedd yn y cylch a hefyd i drio gweld os oedd clawdd a ffos o amgylch y cylch cerrig.
                Y darganfyddiadau pwysicaf yn ystod y gwaith cloddio ym 2008 i’r gogledd o’r ddwy garreg sydd yn dal i sefyll, oedd dod o hyd i dyllau ar gyfer tair maen hir gyda darn waelod y meini yn parhau i fod o dan y ddaear. Felly wrth glirio’r cerrig roedd pwy bynnag chwalodd nhw wedi gadael  bonyn ar ol o dan y pridd yn hytrach na chodi’r faen yn gyfan o’i thwll. Y tyllau a ddadorchuddwyd oedd y rhai a gyfeirir ato fel Pit 3, 6 a 7 ar gynllun Smith.
                Gorweddai tyllau 3 a 7 mwy neu lai ar yr un cylch ar ddwy garreg sy’n sefyll, gan awgrymu cylch cerrig oddeutu  16 neu 17 medr ar draws. Y peth arall hynod ddiddorol am y cerrig yw fod dwy fath o garreg yn rhan o’r cylch, fel sydd yn amlwg o’r cerrig sy’n sefyll, un yn slab fflat a’r llall fwy fel piler. Yr awgrym felly yn dilyn y darganfyddiad yw fod hyn yn fwriadol gan yr adeiladwyr  a fod y cerrig yn amrywio o un i’r llall mewn patrwm pendant.
                Gorweddai twll 6 wedyn o fewn y cylch ac ar linell sydd yn awgrymu cysylltiad a safle arall o fewn tafliad carreg i’r cylch cerrig, sef Castell Bryn Gwyn. Erbyn heddiw mae’n cael ei dderbyn fod Castell Bryn Gwyn wedi dechrau fel clostir Neolithig hwyr  (mae offer callestr o’r safle yn awgrymu  hynny) a wedyn wedi cael defnydd arall yn ystod yr Oes Haearn a’r Cyfnod Rhufeinig fel fferm wedi ei amddiffyn. Mae’r ddwy safle yma mor agos i’w gilydd, anodd credu nad oes cysylltiad rhyngddynt onibai eu bod o gyfnodau gwahanol ond mae’r ddamcaniaeth o gysylltiad yn cael ei ffafrio. Pryd bynnag adeiladwyd rhain, ac os oedd Castell Bryn Gwyn yn gynharach, byddai’r ddau yn weledol i’w gilydd.
                Ai’r twll yma felly, Twll 6 a’i charreg oedd y “gromlech” efallai o fewn y cylch a ddisgrifiwyd gan Rowlands ac yn wir eto gan Pennant ym 1773 ? Yn ystod y ddeunawddfed Ganrif mae sawl disgrifiad gan Rowlands ac eraill o fwy o gerrig i’r De-ddwyrain o’r cylch. Mae son hefyd am gerrig rhwng Cerrig Bryn Gwyn a Chastell Bryngwyn lle saif fferm Bryn Gwyn Bach heddiw a diddorol nodi fod yna fferm gyfagos or enw Fferm Maen Hir.
                Gan fod cymaint o olion megalithig yn y rhan yma o Dde-orllewin Mon, mae’n ddigon rhesymol awgrymu fod yma ganolfan bwysig ddefodol efallai yn cyfateb a’r clostir cyfagos yn Llandegai, yr ochr arall i’r Fenai. Ac er gwaetha damcaniaethau Rowlands ynglyn a’r Derwyddon mae’n ymddangos iddo fod yn agos i’w le yn yr ystyr mae yma hefyd oedd canolfan y Derwyddon yn ddiweddarach fel y gwyddom ond ei fod, yn ddi-ymwybod, mil neu ddwy o flynyddoedd allan o ohonni.
Yr hyn sydd yn cael ei awgrymu o bosib gan ddarganfyddiadau Smith yw fod yna gysylltiad rhwng y garreg yn Twll 6 a Chastell Bryn Gwyn gan fod y llinell rhyngddynt yn rhedeg drwy fynedfa dde-orllewiniol Castell Bryn Gwyn ac i ganol y clostir. Dyma linell gwawrio Ganol Haf a machlud Ganol Gaeaf.
Dydi canlyniadau gwaith cloddio Smith yn ystod 2010 heb eu cyhoeddi eto ond mewn ebost atof dyma oedd ei ganlyniadau bras. Mae’n debyg fod 8 neu 9 carreg yn rhan o’r cylch cerrig fel awgrymodd Rowlands, felly rydym yn sicr nawr fod yma Gylch Cerrig Oes Efydd. Ni ddaeth yr archaeolegwyr ar draws unrhyw olion o glawdd na ffos allanol felly mae amheuaeth efallai am adroddiad y RCAHMW 1937. Cadranhad felly gyda Twll 6 fod yna garreg o fewn y cylch ond a dim perthynas amlwg ar cylch ei hyn ond yn awgrymu perthynas gyda’r clostir yn Castell Bryn Gwyn.
Daethpwyd o hyd i ddarnau o gallestr wedi ei naddu, sydd yn rhoi dyddiad fod pobl yma  neu o ddefnydd o’r safle yn gynharach - yn ystod y Neolithig. Hefyd cafwyd ddarn o lestr pridd o’r Oes Efydd Cynnar gyda olion amlosgi corff mewn pydew llai na’r rhai ar gyfer y meini. Er fod y cromlechi o’r cyfnod Neolithic bob amser yn gysylltiedig a chladdedigaethau, dydi’r un peth ddim o hyd yn wir hefo meini hirion, er fod olion o amlosgi a rhoi’r llwch mewn llestri pridd yn ddigon cyffredin yn ymyl meini hefyd.
Yn olaf mae Smith i weld yn fodlon awgrymu cysylltiad rhwng Cerrig Bryn Gwyn a Chastell Bryn Gwyn ac yn crybwyll y posibilrwydd o rhyw fath o rodfa sydd bellach wedi diflannu yn cysylltu’r safleoedd.Felly efallai fod safleoedd a thirwedd defodol yma sydd yn pontio rhwng y Neolithig hwyrach a’r Oes Efydd cynnar, yn agos i’r Afon Braint, yn agos i’r Fenai a fod pwysigrwydd y lle yma, a pherthynas dyn a’i gynefin os mynnwch wedi parhau neu ei atgyfodi wedyn yng nghyfnod y Derwyddon, er i’r Derwyddon ddewis coed fel eu lle sanctaidd yn hytrach na chylch cerrig.
Mae gan Sir Fon ei gylch cerrig felly – roedd yr hen Henry Rowlands yn berffaith gywir !

Cydnabyddiaeth / Diolch : George Smith, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd am ei gymorth ac am y lluniau.

No comments:

Post a Comment