Wednesday 27 May 2015

Super Furry Animals @ Albert Hall, Manceinion, Herald Gymraeg 27 Mai 2015.



Yn y llyfr ‘Rise of the Super Furry Animals’  gan Ric Rawlins (2015), mae’r grwp roc Cymraeg buais yn aelod ohonno, sef yr Anhrefn, yn cael eu disgrifio fel hyn: “Anhrefn were one of the most inspirational groups around – proactive, subversive, almost Dadaist in their sense of humour”. Rwan ta, dwi rioed di sgwrsio hefo Rawlins felly dwi’n cymeryd fod y darn am ‘Dadaists’ wedi dod gan Gruff Rhys, canwr y Super Furry’s.

Rwyf i o hyd wedi son am fy ysbrydloliaeth celfeddydol fel un sydd wedi deillio o weithgareddau y ‘Situationists Internationale’ yn ystod chwyldro Mis Mai 1968 ym Mharis a’r maniffestos celfyddydol a fabwysiadwyd o ganlyniad i hyn gan bobl fel Vivienne Westwood, Malcolm McLaren a Jamie Reid. Felly dyna chwa o awyr iach cael ein disgrifio fel ‘Dadaists’ yn hytrach na ‘Situationists’. Cofiwch yn llyfr Mick Middles ar y grwp Manic Street Preachers cefais fy nisgrifio fel “a benign rebel”. Gadewch iddynt sgwennu medda fi …….

Ond, pam son am hyn o gwbl? Wel, mae’r Super Furry Animals yn ol ar ol chwe mlynedd o seibiant a dyma wahoddiad gan y grwp i fynd i’w gweld yn perfformio yn yr Albert Hall, Manceinion. Dyma dderbyn y gwahoddiad ond doeddwn ddim wedi disgwyl ein bod am gael seddau yn yr ardal VIP, gyda rhaff goch yn ein gwahannu o’r “werin bobl”. OK mi oedd lle i eistedd, ac OK mi roedd yr olygfa yn well, ond dwi rioed di bod yn hollol gyfforddus hefo pethau fel hyn.

Digwyddydd rhywbeth tebyg ar ol rhoi sgwrs neu ddarlith weithiau, lle mae’r siaradwr yn cael bechdannau a phanad ar y bwrdd top a’r gynulleidfa arwahan yn “llwgu”. Eto, dwi’n falch o fechdan a phanad, peidiwch a cham ddallt, ond dwi hefyd yn teimlo rhyw ysfa i rannu’r bechdannau !

O ran cyngerdd y Super Furry Animals dyma berfformio ‘Rings Around The World’, ‘Hello Sunshine’ a ‘Ice Hockey Hair’ felly dyma deithio adre o Fanceinion yn hapus, doeddwn ddim angen dim mwy o’r ddwy awr. Mae’r dair gan yna ymhlith fy hoff ganeuon erioed (hawdd i’w blesio). Yn ystod ‘Hello Sunshine’ dyma’r grwp yn dod i ben rhy gynnar, a’r gynulleidfa yn bloeddio canu cyn i’r grwp ail-afael yn y gan.

Dyma’r unig awgryn o hiwmor Dada-istaidd gafwyd yn ystod yr holl gyngerdd. Braf gweld y grwp yn gally tynnu coes ychydig – achos mae hynny o hyd yn bwysig. Ond wrth i’r grwp ddechrau ar y toriad cerddorol (bwriadol) yma yn ‘Hello Sunshine’ yr unig beth oedd yn mynd drwy fy meddwl oedd fod y llinell orau heb ei chanu eto. Peidiwch a gofyn pam, ond pan mae Gruff Rhys yn canu “You’re a disgrace to your country” rwyf yn teimlo gwefr. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod am beth mae o’n son ond mae’n linell fendigedig.

Yr achlysur dros ddod yn ol at eu gilydd i berfformio oedd ail ryddhau y record hir Gymraeg ‘Mwng’ a hynny ar label recordio uchel eu parch Domino. Ddeng mlynedd ar ol ei ryddhau yn wreiddiol, dyma gyfle arall i brynnu ‘Mwng’ ar feinyl. Dyma’r record hir Gymraeg sydd wedi gwerthu mwya o gopiau erioed. Dros 50,000. Rwan mae ‘Mwng’ yn mynd i werthu mwy byth.
Rydym yn son am record Gymraeg sydd wedi gwerthu dros y Byd, felly un peth mae’r Super Furry’s wedi ei wneud o ganlyniad, yw cyflwyno’r Gymraeg i lefydd hollol newydd. Cyflawnwyd rhywbeth tebyg drwy berfformio yn fyw hefyd wrthgwrs.

Os gwelsoch y rhaglen ddogfen ‘Super Furry Animals’ ar S4C yn ddiweddar, fe glywsoch sawl aelod o’r grwp yn trafod y “drafodaeth” fu wrth iddynt ddechrau canu yn Saesneg yn ol yng nghannol y 1990au. Fe glywsoch am y penderfyniad Dada-istaidd i berfformio ‘Mwng’ yn fyw yn Siapan ac America ond ddim yng Nghymru. Dwi’n credu i un ohonnynt yn ystod y ddogfen gyfeirio at y Byd Cymraeg fel ‘ghetto’ . Roedd yr holl ddogfen yn eitha Dada-aidd a da o beth mewn ffordd, ac eto dwi’n siwr fod darllenwyr yr Herald Gymraeg yn gofyn “Am beth mae nhw’n son?”

Diddorol ynde, achos dwi’n eitha sicr fod ‘triniaeth pobl ifanc’ mwy neu lai yn golygu fod yr iaith yn anealladwy wedyn i’r rhai sydd dim yn ei siarad. A dyma ni, pawb yn siarad Cymraeg ond mae mwy nac un iaith yn mynd ymlaen yma. Weithiau mae’n bwysig fod yr hyn mae’r Super Furry Animals wedi ei gyflawni yn cael ei ddweud mewn iaith arall i’r un Super Furryiaidd. Mae nhw wedi cyflawni rhywbeth anhygoel fel grwp Cymreig ac aml/achlysurol Gymraeg.

Da o beth fod S4C wedi darlledu rhaglen o’r fath. Diddorol fod yr amseru mor berffaith. Jest cyn taith y Super Furry’s. Mae angen dipyn o lwyddiant yn Llundain, Lloegr, America, Japan ac unrhywle arall heblaw Llanrwst i gael y math yna o ddylanwad ar S4C.

A beth am y Byd Pop Cymraeg? Wel, mae elfennau dal yn geidwadol, mewnblyg hyd yn oed pan yn ddwy-ieithog. Rhaid cyfaddef i mi dreulio rhan helaeth o’r ddogfen Super Furry Animlas yn gweiddi ar y teledu (fel mae rhywun). Does dim byd chwyldroadol ym maniffesto y Super Furry’s, bu Ar Log er engraifft yn teithio yn rhygwladol, ond mae’r Furry’s wedi cael llwyddiant masnachol sydd wedi caniatau iddynt weithio ar lefel uwch a chyda cefnogaeth ariannol i wireddu syniadau (Dada-istaidd).


Y rhai sydd wedi dysgu gwers y Super Furry’s yw artistiaid fel 9Bach, H Hawkline a Gwenno – yr un ohonnynt yn grwp gitar traddodiadol!

Wednesday 20 May 2015

CBA Cymru Herald Gymraeg 20 Mai 2015





Yn ddiweddar, bu cyfarfod y Gwanwyn, Cyngor Archaeoleg Prydain / Cymru ym Mhlas y Brenin, Capel Curig. Does dim modd osgoi’r golygfeydd godidog dros Llynnau Mymbyr a beth bynnag arall oedd Pennant (caethweision a phlanhigfeydd siwgwr) roedd yn amlwg yn dallt y dalltings o ran tirwedd a lle i adeiladu’r ‘Capel Curig Inn’ ym 1801. A, fel sydd yn arferol, os nad anorfod yn ystod y 19ganrif, bu i Fictoria ymweld a’r gwesty a dyma ail-fedyddio’r ‘Inn’ yn ‘Royal Hotel’.

Heddiw fel canolfan fynydda, mae’r lle yn llond ‘dringwrs’ a’r ddadl fawr ymhlith y Cymry Cymraeg sydd a diddordeb yn yr awyr agored a’r diwredd hanesyddol Gymreig yw faint, os o gwbl, mae’r holl ‘ddringwrs’ yn ddallt am gyd-destyn y llefydd mae nhw’n ei ddringo. A ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yng Nghymru (tebygol), yn ymwybodol o’r Iaith (anhebygol) ac hefo unrhyw ddiddordeb yn y diwylliant lleol /brodorol / hanesyddol / Cymraeg (cwestiwn da).

Ta waeth am hynny, tra roedd y ‘dringwrs’ allan yn y mynyddoedd roedd criw brwdfrydig o archaeolegwyr  a dinasyddion gogledd Cymru wedi dod i wrando ar sgyrsiau, a dyma lle mae modd dadlau pam mor berthnasol oedd y diwrnod yma i NI Gymry Cymraeg.


Y sgwrs gyntaf a gafwyd oedd gan Frances Richardson ar sut y bu i dirfeddianwyr ac amaethwyr a fferwmyr llai cefnog, ymestyn eu gweithgareddau i’r Ucheldir yn y cyfnod 1500 -1900. Dyma olwg wahanol ar y cysyniadau a damcanaiethau arferol. Awgrymid er engraifft, fod rhai o’r hafotai, sef y cartref dros dymor yr Haf yn draddodiadol, wedi datblygu i fod yn gartref drwy’r flwyddyn mewn rhai achosion.

Mynegwyd o’r llawr gan Peter Crew, cyn archaeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri, fod olion aredig i’w gweld o’r awyr, sydd yn llawer uwch na fyddai rhywun wedi ei ddisgwyl. Hynny yw, mae ein dealltwriaeth o’r dirwedd fynyddig a’r ucheldir yn parhau i ddatblygu ac i ymestyn. Wrth reswm roedd Pennant a’r Penrhyn yn cael sylw fel cymaint eraill o’r tirfeddianwyr oedd yn ymestyn eu tirroedd drwy briodas. Ond hefyd, roedd y tirfeddianwyr yn ychwanegu at eu stadau drwy “ddwyn” tir o’r Goron – dim byd newydd felly – y Toriaid o hyd yn hunnanol.



Sgwrs arall hanfodol oedd yr un ar ardal chwarelyddol Cwmorthin a hen dy Cwmorthin Uchaf yn benodol gan Bill Jones o Gymdeithas Hanes Dolwyddelan. Son oedd Bill am ymdrechion criw bach brwdfrydig yn ardal Blaenau a Thanygrisiau i wneud gwaith cynnal a chadw ar yr hen dai a’r capel yng Nghwmorthin. Archaeoleg Diwydiannol, fel soniodd Gai Toms / Mim Twm Llai / Anweledig – ‘mae’r lechan yn fy ngwaed’.

Cymry Cymraeg yw’r criw sydd wrthi yng Nghwmorthin, criw lleol, y werin bobl – nid ysgolheigion na phobl ddwad hefo ‘tatan yn eu ceg’. Does gennyf ond y parch mwyaf atynt, am fynd ati i wneud rhywbeth am gyflwr yr hen dai, heb gwyno, heb ddisgwyl am gymorth, heb ddisgwyl i rhywun arall arwain.

Tanniodd Bill ddychymyg y gynulleidfa a chafodd ymateb gwresog wedyn gan rai o’r archaeolegwyr proffesiynnol oedd yn bell ar ei hol hi o ran y math o wybodaeth lleol a ddiwylliannol feddai Bill. Un o’r pethau mwyaf diddorol gan Bill, oedd fod modd dyddio rhai o’r tai drwy astudio’r math o lif a ddefnyddiwyd i dorri’r llechi. Hynny yw rhaid bod y llif yn bodoli (wedi ei ddyfeisio)  cyn adeiladu’r tai os yw’r marciau llif i’w gweld ar ochr y llechi. A dyna sut mae modd rhoi dyddiad bras i rai o’r hen dyddynod yma.

Y pwynt arall am CBA/Cymru yw fod hwn yn gorff lle mae’r aelodau yn mynegi barn ac yn trafod anghenion archaeolegol a’r dirwedd adeiladol yng Nghymru. Un gair – perthnasol !

Wednesday 13 May 2015

Adolygiad CAM15 Herald Gymraeg 13 Mai 2015




Rwyf angen sgwennu erthygl am ddiwylliant yr wythnos hon. Fe ddigwyddodd rhywbeth ychydig dros bythefnos yn ol, sydd, wedi crisialu’r hollol amlwg, ond weithiau mae rhaid i rhwyun gyflawni’r hollol amlwg er mwyn gwneud neu brofi’r pwynt.

Gwyl o’r enw ‘CAM15’ oedd y digwyddiad arbenig yma, wedi ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yn Nghaerdydd. O ran hanes, fe ddyliwn roi y lleoliad fel ‘Tiger Bay’, onid fandaliaeth ddiwylliannol oedd cael gwared a’r fath enw, sydd a chysylltiad a’r treftadaeth ddiwydiannol, y dociau Bute ac yn cynnwys cyd-destyn a chefndir y gantores Shirley Bassey ?

Gwyl i ddathlu cerddoriaeth electronig oedd CAM15, felly y ffordd ora o egluro hynny yw fod yr holl gerddorion yn chwarae allweddellau neu gyfrifiaduron. Doedd dim gitars yn yr adeilad (siwr fod yna eithriad gan y cerddor R. Seiliog). Roedd sawl peth yn bwysig am y diwgwyddiad yma, a fy mwriad drwy gyfrwng y golofn yw ceisio amlinellu rhai o’r pwyntiau yma.

Yn gyntaf, roedd hwn yn wyl wedi ei leoli yng Nghymru ond gyda naws rhyng-wladol. Roedd un o’r panelwyr, yr awdures Agata Pyzik, o Wlad Pwyl, hi yw awdur y llyfr Poor But Sexy: Culture Clashes in Europe East and West'. Cerddor arall oedd yn cymeryd rhan oedd y Bwyles, Ela Orleans, sydd bellach yn byw yn Glasgow. Felly pwynt un, yw’r elfen Rhyngwladol.

Yr ail beth amlwg yw fod hon yw Wyl Gymreig hefyd, o ran naws-am-le a chyd-destyn, gyda’r Gymraeg yn hollol amlwg. Nid digwyddiad ‘Cymraeg’ felly, ond y Gymraeg yn bodoli ac yn cael ei weithredu yn y cyd-destyn ehangach – Ewropeaidd. Wedi’r cyfan mae Caerdydd yn brif-ddinas Ewropeaidd ei naws bellach.

Hoffwn awgrymu fod yr ‘arbrawf’, Cymraeg yn unig bron a bod drosodd. Mae lle i ddigwyddiadau un-iaith Gymraeg (fel yr Eisteddfod) yn sicr ond yn y cyd destyn yma, ac i bob pwrpas gyda cerddoriaeth, sydd yn iaith ryngwladol, does fawr o synnwyr i’r peth bellach. Ac i geisio cyfiawnhau hyn hoffwn drafod llwyfannu y grwp Datblygu am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Yn eu dydd roedd y grwp pop arloesol Cymraeg, Datblygu yn ‘chwyldroadol’, erbyn heddiw mae nhw yn ‘ddylanwadol’, o bosib un o’r grwpiau Cymraeg mwyaf dylanwadol erioed yn ol Gruff Rhys o’r Super Furry Animals. Yn eu dydd roedd cryn gwrth-daro yn gysylltiedig a gigs Datblygu, a hynny o bob ochr, grwp a chynulleidfa ond ar y noson hon mae dros 500 wrth eu bodd hefo pob nodyn gan Pat Morgan  a phob gair gan David R Edwards.

Son am newid Byd. Dyma Datblygu yn cael parch. Cynulleidfa ifanc, gelfyddydol yr olwg oedd rhain, yn gymysgedd o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg ond hefyd rhai wedi teithio o bell. Doedd yr iaith ddim yn ‘broblem’ ac eto roedd yr iaith yn ganolig, yn holl bwysig i fodolaeth Datblygu, heddiw a ddoe.

Dyma lle ddylia cerddoriaeth Gymraeg fod, ar y llwyfan rhyngwladol, a’r dyddiau yma mae hyn yn fwy amlwg nac erioed o’r blaen gyda 9Bach yn ennill gwobr albym y flwydyn yng Ngwobrau Gwerin Radio 2, Super Furry’s yn ail ryddhau ‘Mwng’ a Gwenno newydd arwyddo gyda Label Heavenly ac ar fin ail-rhyddhau ei CD uniaith Gymraeg.

‘Parch’ oedd y gair mawr. Dyna’r brif argraff gefais o fynychu CAM15. Roedd pawb yn cael eu parchu ond doedd dim angen dwueud hynny. Y curadur oedd y gantores Gwenno ac wrth sgwennu adolygiad ar gyfer Blog link2wales awgrymais fod Gwenno wedi sgwennu pennod newydd, yn sicr o ran hanes Datblygu. Pennod llawer gwell na’r un dwetha.

Llongyfarchiadau felly i wyl Cam15, am wneud beth oedd ei angen, yr hyn sydd mor amlwg go iawn.

Dyma'r Adolygiad yn link2wales 

http://link2wales.co.uk/2015/crudblog/datblygu-gwyl-cam-millennium-centre-cardiff/ 

Wednesday 6 May 2015

"Digging Down" Herald Gymraeg 6 Mai 2015

Llun: Shari Llywelyn

 
 
Os ydi unrhywun o ddarllenwyr yr Herald Gymraeg yn cofio’r cerddor electronig o Aberteifi, Malcolm Neon, (bellach yn Malcolm Gwyon yr arlunydd) fe fyddwch yn cofio teitl un o’i ganeuon, sef ‘Pwy sy’n gwybod beth yw Art?’. Cwestiwn da iawn, a dyma chi ofyn yr union gwestiwn yn ddiweddar wrth i mi gael gwahoddiad i Nant Peris i fod yn rhan o ddigwyddiad celf yn dwyn yr enw ‘Digging Down’.
Yn ôl y gwahoddiad gefais, roedd y digwyddiad yn cynnwys elfennau o archaeoleg, gwyddoniaeth, hanes lleol, celf, cerddoriaeth a pherfformiadau felly doedd dim angen meddwl ddwywaith cyn derbyn y gwahoddiad
Rwan ta, os dwi’n dweud fy mod i a’r gwaheddedigion eraill yn “rhan” o’r digwyddiad, dydi hynny ddim yn cyfleu y cyfan. Roeddwn i a’r dwsin arall hefyd yn gynnulleidfa o fath, yn profi y digwyddiad ac yn lygad-dystion. Ond roeddem hefyd yn cymeryd rhan. Fe egluraf yn y man.
Roedd yr holl ‘ddigwyddiad’ wedi ei drefnu ar ffurf y ‘Swper Olaf’ ac yn cymeryd lle mewn hen ysgubor yn Nant Uchaf. Felly dyma ni yn eistedd o amgylch y bwrdd ar gyfer gwledd o fwyd wedi ei baratoi gan Gert Vos, Oren, Caernarfon. Bellach mae Oren yn gyfrifol am drefnu bwytai neu gaffis ‘Pop-Up’ yn wythnosol rhywle yn Eryri.
Fel arfer os ydi rhywun yn cyfeirio at fwyd fel ‘gwahanol’ neu fel ‘diddorol’ mae rhyw awgrym yna fod rhywun heb ei blesio, fod y bwyd ddim at y dant go wir, ond yn yr achos yma roedd y bwyd  wirioneddol yn ‘ ddiddorol’ ac yn wirioneddol ‘wahanol’ – ac yn fendigedig oherwydd hynny. Profiad a hanner oedd blasu’r bwyd, gan gymeryd pwyll i fwynhau ac mewn ffordd i arbrofi gyda’r broses o fwyta. Bwyd naturiol iawn gyda cymhwysion ‘gwyllt’ oedd ar y fwydlen.
Ein diod, er engraifft,  oedd sydd grug, yn blasu fel y mynydd a’r pridd ond hefyd yn flodeuog – dyma ’lemonade’ cyntefig. Bron yn ddigon i’n cludo yn ôl i’r Oes Efydd. Tra reodd y gwahanol gyrsiau yn cyrraedd ein bwrdd dan ofal Gert, roedd y perfformaid yn mynd yn ei flaen. Rhan bwysig o’r noson, rhan o’r perfformiad efallai?, oedd y drafodaeth.
Nawr ac yn y man byddai’r perfformwyr yn taflu rhyw gwestiwn neu yn gosod rhyw ddamcanaieth ger ein bron. Wedyn, roedd rhwydd hynt i ni (fel cynnulleidfa) ymateb, i drafod, i greu dadl. Cyn bo hir bydd yr Hen Sgubor yn cael ei drawsnewid i fod yn gartref gwyliau – oedd y ffaith yma yn rhan o’r holl ddigwyddiad, yn fwriadol er mwyn ennyn trafodaeth? Cwestiwn da arall.
Ond roedd y gwesteion yno hefyd i fod yn ‘guinea pigs’ bach i’r holl brosiect. Wedi derbyn ychydig o nawdd gan gynllun ‘Waleslab’ drwy’r Theatr Genedlaethol, roedd elfen o arbrofi ar y noson, i weld sut mae’r prosiect yn ffurfio a datblygu, i weld lle ddylia’r prosiect fynd nesa. Nid cynnulleidfa draddodiadol oedda’ni felly ond rhan o’r broses ddatblygu.
Llun: Lindsey Colbourne
Mwynheais yn fawr iawn ganu a barddonaieth ddwy-ieithog yr ymryddawn Sam Fox, yn ogystal a’i chyflwyniad ar y delyn. O Gymmoedd y De daw Sam a mae hi i weld yn perfformio fwy yn Ewrop nac yng Nghymru. Cafwyd synnau cefndir i’r noson ac ar adegau diffodwyd y goleadau gan ein gadael i fyfyrio yn syn yn y tywyllwch, tywyllwch llonydd a distaw Nant Peris.
Yr artist oedd yn gyfrifol am hyn ôll oedd Lindsey Colbourne a’r cysylltiad archaeolegol yw’r ffaith i Lindsey fod yn ‘cloddio’ ychydig yn y domen sbwriel Fictoraidd iddi ddarnganfod yng nghefn ei gardd. Poteli megis y rhai ‘Cod’ gyda marblen, ‘Hamilton’ gyda’r gwaelod pigog / crwn a’r rhai yn dal gwenwyn gyda’r asennau ar eu hyd yw rhai o’r pethau mwyaf cyffredin i ddod allan o’r domen. Wrth reswm cafodd Lindsey gannoedd ar gannoedd o ddarnau o lestri ond hefyd yn ddiddorol iawn cafwyd sawl darn o ‘ddoliau-China’, sef rhai wedi eu gwneud o’r clai caled.
Felly y gwrthrychau sydd wedi ysbrydoli Lindsey. Ymateb i’r ‘pethau’ bob dydd yma, oedd ar un adeg yn perthyn i’r teulu Williams oedd yn byw yma yn hen fwthyn Coed Gwydr, wnaeth Lindsey i greu digwyddiad aml-ddisgyblaeth.
Cyn i ni eistedd am y ‘Swper Olaf’ gwahoddwyd ni oll i weld y domen sbwriel ac i ddewis ambell ddarn neu gwrthrych a dod a nhw hefo ni, gan eu gosod ar y bwrdd swper – eto yn y gobaith o ysgogi trafodaeth. Efallai fod ambell i ddarllenydd yn gwingo yn ei sedd erbyn hyn, gallai’r math yma o ‘ddigwyddiad’ lithro i ryw arall-fyd celfyddydol mewnblyg ac ymhongar tu hwnt. Ond nid digwyddiad felly ddatblygodd ar y noson.
Roedd pawb gyda ddigon o ddiddordeb yn y ‘digwyddiad’ i wneud pethau weithio, i ymuno ac yn sicr i drafod /ddadlau. Gyda ychydig o ysbryd mentro, ac ymwrthod a sinigiaeth naturiol am bethau fel hyn roedd hon yn noson bleserus iawn. Rhaid canmol yr artist, Linsey, am guradu’r holl beth mor gelfydd, ac am gadw elfen Gymreig iawn, lleol iawn a thirweddol iawn i’r holl beth.
Dyma ddigwyddiad oedd, nid yn unig yn perthyn i le, ond oedd wedi ei sbarduno gan wrthrychau hanesyddol, olion materol rhywun oedd wedi byw yn y lle dros ganrif yn ôl. Fy marn i ar bethau oedd fod hwn yn wych gan fod Lindsey wedi creu digwyddiad celfyddydol heb gyfaddawdu i unrhyw elefen o gelf-ddinesig-drefol. Roedd y digwyddiad yma o’r wlad ac yn y wlad. Dyma ddigwyddiad celfyddydol diddorol a gwahanol – a hynny yn yr ystyr gorau.


Llun: Shari Llywelyn