Thursday 29 October 2015

Nodiadau Archaeolegol, Llafar Gwlad Rhif 130



 
 
Gwersyll Carcharorion Frongoch

Yn ystod mis Mai eleni bu Gary Robinson o Adran Hanes Cymru ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor yn cynnal arolwg geo-ffisegol ar safle gwersyll carcharorion Frongoch ger Y Bala. Bwriad y gwaith geo-ffisegol oedd ceisio gweld os oes unrhyw olion o’r gwersyll yn bodoli o dan y pridd. O edrych ar y safle heddiw, cae yn unig sydd i’w weld, ac i’r rhan fwyaf o ymwelwyr, dim ond y gofeb yn y gilfan parcio sydd yn nodi’r safle hynod bwysig hwn.

Rydym yn gwybod drwy astudio ffotograffau  fod yr unig ‘gaban’ sydd i’w gweld ar y safle heddiw yn un diweddarach, a nid yn dyddio o gyfnod y Rhyfel Mawr a chyfnod y carcharorion Gwyddelig. Yn ol Robisnson fe all fod rhai o’r pyst concrit o amgylch y gwersyll  yn rhai gwreiddiol ac wrthgwrs mae llwybr y rheilffordd yn parhau yn amlwg hyd heddiw. Rydym hefyd yn weddol sicr fod platfformau concrit yn dal i fodoli o dan y pridd, ond yr unig ffordd o wybod yn union beth sydd yno, fyddai cloddio archaeolegol.

Yr hyn sydd yn ddiddorol nawr yw fod archaeolegwyr yn edrych ar y safle, a’r bwriad fydd cofnodi yr olion materol o dan y pridd er mwyn atgyfnerthu yr hyn rydym yn wybod drwy ffynnonellau hanesyddol a ffotograffau ar hyn sydd wedi ei goheddi yn barod diolch i awduron fel Lyn Ebenezer (Fron-Goch and the birth of the IRA).

Rhywbeth arall amlwg yn ystod y gwaith geo-ffisegol yw fod y tir yn parhau i fod yn wlyb yma, er gwaetha ymdrechion dros y blynyddoedd i ddraenio’r tir, felly does syndod fod y carchariorion wedi dioddef safle mwdlyd tu hwnt yma yn ystod y gaeaf ac unrhyw dydwydd gwlyb.

Ar Ddydd Sadwrn 10 Hydref bydd Diwrnod Agored yn Ysgol Bro Tryweryn rhwng 10yb a 4-30 y pnawn a bydd Jane Kenney o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yno i gasglu unrhyw wybodaeth sydd gennych. Mae Jane ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth am safleoedd a chysylltiad a’r Rhyfel Mawr yng ngogledd Cymru. Bu carcharorion Almaenig yn y gwersyll cyn 1916 a symudwyd rhain allan ar gyfer carcharorion o’r Iwerddon ym 1916, felly mae hwn yn safle diddorol dros ben yn pontio dwy stori wahanol iawn.

Cysylltwch a WWI@heneb.co.uk

 

Meillionydd
 

Dyma’r chweched tymor o gloddio ar safle cylchfur-dwbl Meillionydd, ger Aberdaron, sydd yn dyddio o’r Oes Efydd Hwyr hyd at Oes yr Haearn Cynnar. Wrth barhau ar gwaith cloddio dros gyfnod hir o amser, gobaith yr Athro Raimund Karl o Brifysgol Bangor, yw y bydd modd cloddio rhan helaeth o’r safle dros amser a bydd hyn wedyn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o gymunedau amaethyddol yn y rhan yma o’r byd yn ystod y mileniwm cyn Crist.

Yr hyn sydd yn amlwg o’r gwaith cloddio hyd yma yw fod trigolion Llyn yn yr Oes Efydd Hwyr wedi buddsoddi mewn amser ac ymdrech i adeiladu’r safle cylchfur-dwbl (sef dau glawdd o amgylch y safle) a hefyd wedi buddsoddi yr un fath, mewn amser ac ymdrech, wrth adael y safle a’i chau yn ddefodol oddeutu 200/100 cyn Crist gan fod nifer o’r cytiau crynion wedi eu llenwi a cherrig llosg (sbwriel ar ol coginio?)

Eleni cafwyd olion sawl cwt crwn (dyma lle roedd pobl yn byw) wrth gloddio a’r tebygrwydd yw fod yr olion yma yn dyddio o gyfnodau gwahanol o ddefnydd, sydd yn cadarnhau’r ddamcaniaeth o ddefnydd o’r safle dros oleiaf 500 mlynedd gyda cytiau yn cael eu chwal a’u hail godi fel roedd angen.

Yn gadarnhaol iawn, parhau mae ymdrechion Prifysgol Bangor i gysylltu’r gwaith cloddio gyda’r gymuned leol, ac eleni cafwyd ymweliadau ysgolion gan Pont y Cof, Crud y Werin, Ysgol Dolbadarn ac Ysgol Thudweiliog. Braf hefyd yw gweld fod nifer o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith o Brifysgol Bangor bellach yn aelodau cyson a blynyddol o’r criw cloddio.

 

Rhuddgaer
 

Prin iawn yw’r olion archaeolegol o’r cyfnod rhwng  400 tan tua 1000 oed Crist, sef y cyfnod Canol Oesoedd Cynnar yma yng ngogledd Cymru.  Mewn cyfnod fel hyn,  lle mae diffyg tystiolaeth archaeolegol o ran sut a lle roedd pobl yn byw, mae gwaith cloddio diweddar Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Adran Hanes Phrifysgol Bangor  ar safle Rhuddgaer, Ynys Mon yn ofnadwy o bwysig.

 

Bu mymryn o gloddio ar y safle llynedd yn dilyn arolwg geoffisegol o’r tir i’r dwyrain o Afon Braint,ac  agos i lan y Fenai. Datgelwyd drwy’r arolwg geoffisegol fod sustem o gaeau amaethyddol a hyd at saith adeilad yn bodoli o dan y pridd. Er hyn mae dweud ‘o dan y pridd’ yn gor-symleiddio pethau yng nghyd destyn ardal Rhuddgaer gan fod yr ardal yma wedi dioddef effaith stormydd tywod o gyfeiriad y mor.

 
Felly wrth gloddio, rhaid symud oddeutu medr os nad medr a hanner o dywod glan, melyn, cyn cyrraedd y pridd a’r ‘archaeoleg’. Rydym yn ymwybodol wrthgwrs am hanes storm enfawr 1330/1332, y storm dywod sydd yn gyfrifol am guddio Llys Rhosyr gerllaw yn Niwbwrch. LLys Rhosyr a gloddwyd gan Neil Johnstone (Johnstone 1999) ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yw un o lysoedd tywysogion Gwynedd ac un o’r ychydig adeiladau llys rydym wedi ei ddarganfod.

 
Gwaith Johnstone yn Llys Rhosyr  arweiniodd wedyn at ddarganfod un o lysoedd arall Llywelyn ap Gruffydd yn Nhy’n y Mwd, Abergwyngregyn gan ddatgelu adeilad tebyg iawn o ran ffurf a maint i’r hyn a welir yn Llys Rhosyr. Yn anffodus yn Abergwyngregyn doedd dim digon o oilion wedi goroesi i’w cadw ar agor fel yn achos Rhosyr.

 
Hefyd yn achos Abergwyngregyn mae’r ddadl barhaol am Pen y Bryn fel safle’r llys yn tueddu i ddrysu pethau. Mae’r archaeoleg a gwaith Johnstone (a John G Roberts / David Hopewell yn ddiweddarach) yn awgrymu yn gryf mae buarth y domen-gastell Normanaidd, a gipwyd yng nghyfnod Gruffydd ap Cynan, a ddatblygodd fel safle’r neuadd neu lys ar gyfer tywysogion Gwynedd.

 
Wrth cloddio yn Rhuddgaer dros gyfnod o bythefnos mis Gorffennaf  gyda criw o wirfoddolwyr drwy gymorth nawdd cloddio gan Cadw, cafwyd cyfle i ddatgelu un o’r adeiladau. Adeilad sylweddol wedi ei wneud o fowlderi mawr oedd hwn a daethpwyd o hyd i ddwy fynedfa / drws a chorneli crwn i’r adeilad hirsgwar.

 

Yn anffodus, ni chafwyd hyd i le tan gan yr archaeolegwyr felly amhosib yw cadarnhau fod rhywun wedi byw yma, ond rhaid cyfaddef mai heb gael hyd i le tan yr ydym yn hytrach na gallu datgan gyda unrhyw sicrwydd nad oedd lle tan yma. Felly, efallai fod gennym adeilad lle roedd rhywun yn byw yn un rhan ohonno a defnydd amaethyddol i’r rhan arall?

 
Mae dyddiadau radiocarbon llynedd yn awgrymu dyddiad rhywbryd o gwmpas 800 – 900 oed Crist i’r safle ac os yn gywir, mae hyn oleiaf yn taflu ychydig o oleuni ar y cyfnod yma o Hanes Cymru, sydd yn draddodiadol wedi cael ei enwi yn ‘Dark Ages’ gan archaeolegwyr ac ysgolheigion.

Ceir blog llawn am y gwaith cloddio eleni gan gyfarwyddwr y gwaith cloddio David Hopewell, ar www.heneb.co.uk

 
Archaeoleg ar S4C



 

 
Ac i gloi, credaf ei bod yn bwysig crybwyll y ffaith fod S4C (yn ol pob son) wedi penderfynu peidio comisiynu ail gyfres o ‘Olion’, sef y rhaglen archaeoleg gyda Dr Iestyn Jones. Does fawr o wybodaeth  gennyf am y penderfyniad, ond mae’n bwysig fod Hanes ac Archaeoleg Cymru yn cael ei gynnwys ar S4C.  Dwi ddim am ddadlau am rinweddau y rhaglen yma yn benodol. Yr hyn sydd yn bwysig yw fod comisiynwyr S4C yn cael gwybod fod yna ddiddordeb allan yna ar lawr gwlad mewn rhaglenni o’r fath, a hefyd y math o gynnwys sydd o fewn cloriau Llafar Gwlad. Felly, os yw darllenwyr Llafar Gwlad yn credu ddigon cryf am hyn, ysgrifennwch  at S4C, Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

New Brighton, Herald Gymraeg 28 Hydref 2015


 

Tiriogaeth yr awdur Iain Sinclair (a aned yng Nghaerdydd ym 1943) yw ‘seico-ddaearyddiaeth’, y ddisgyblaeth hynod yna o grwydro’r dirwedd drefol a darganfod yr hyn sydd yno i’w ddarganfod. A Llundain yw’r lle mae Sinclair yn gyfforddus bellach, yn archwilio’r M25 neu’r rheilffyrdd tanddearol gan ddod ar draws diwylliant a hanes yn ystod ei grwydriadau.

Nid Sinclair oedd y cyntaf o bell ffordd, roedd arloeswyr fel Raoul Vaneigem wrthi yn crwydro ers ddiwedd y 1950au, ond peth anodd fu darbwyllo’r crwydrwyr trefol dros y blynyddoedd fod gwerth ‘darganfod’ a chrwydro’r dirwedd wledig. Dwi ddim yn amau mai Mike Parker gyda’i lyfr ‘Real Powys’ oedd y cyntaf i ddangos fod hyn yn bosib (nid fod rhywun yn ama go iawn yn enwedig gan fod cymaint ohonnom yng Nghymru o’r wlad).

Ond, dyma chi arbrawf mewn seico-ddaearyddiaeth ar bnawn Mercher gwlyb o Hydref. Dyma grwydro’r A5119 sydd yn mynd o’r Wyddgrug i’r Fflint gan ddod allan o’r car yn New Brighton (ym maes parcio’r Beaufort Park Hotel, gwesty sydd yn cynnig gofod ar gyfer cynhadleddau). Dwi’n trio cofio os dwi di bod i’r Beaufort Park hefo gwaith rhyw dro, mae’n edrych yn gyfarwydd, ond efallai rhy gyfarwydd i mi gofio.

New Brighton ger yr Wyddgrug yw hwn NID y New Brighton ar lan y mor ar y Wirral. Gwrthgyferbyniad llwyr. Ffordd brysur yw’r A5119 gyda goleadau traffig  yng nghanol pentref New Brighton. Does dim canol fel arall i’r pentref, dim eglwys dim ond tafarn ‘Ar Werth’, y ‘Rose & Crown’. A dweud y gwir mae’r A5119 yn ymuno a’r A494 i’r gogledd o New Brighton, dydi rhywun ddim yn mynd drwy New Brighton go iawn ar y ffordd i’r Fflint, dim ond ffordd arall o gyrraedd yr A494 a Chei Connah yw’r darn yma bellach.

Yng nghanol y pentref cawn droi am Sychdyn a chawn ddewis o  ddwy ffordd wledig fechan, un ddeheuol ac un ogleddol (yn mynd heibio Neuadd Sychdyn) ond y ddwy ffordd yn arwain yn y diwedd am Sychdyn ac ymlaen am Laneurgain a’i heglwys gyda thwr yn yr arddull Perpendiciwlar Hwyr. Llaneurgain yw un o’r enwau hyfrytaf ar bentref Cymreig. Prin fod New Brighton hyd yn oed yn cyfleu Cymru.

Rhwng y ddwy ffordd yma cawn olion Clawdd Wat, y clawdd tebyg i un Offa ac sydd yn rhedeg ar linell cyd-ochrog yn aml. Y tebygrwydd yw fod Clawdd Wat hefyd yn perthyn i un o Frenhinoedd Mersia yn ystod yr 8fed ganrif. Doeddwn ddim yn siwr os oedd caniatad i groesi’r cae am linell y gwrych lle rhed y clawdd, felly aros mae Clawdd Wat ar gyfer ymweliad yn y dyfodol.

Un o’r adeiladau mwyaf diddorol ar stryd New Brighton, ar y chwith wrth deithio yn ol am yr Wyddgrug, yw hen gapel ‘Zion’ sydd bellach mewn defnydd fel swyddfa fusnes os deallais yn iawn. Adeiladwyd y capel yn wreiddiol gan y Wesleaid ym 1844 ac ym 1872 prynwyd y capel gan y ‘Methodistiaid Cyntefig’. Un o rinweddau’r Meddodistiaid arbenig yma oedd ymwrthod yn llwyr a’r ddiod feddwol a chawn gofnod o’r Capel  yn dyddio rhwng 1891-93 sydd yn rhestru’r ymwrthodwyr.

Rhaid oedd llofnodi addewid ‘Byddin y Riban Glas’ a dyma oedd y cytundeb: "We promise by Divine Assistance to Abstain from all Intoxicating Drinks as a Beverage". Yn y cyfnod yma ar ddiweddedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg llofnodwyd yr addewid gan 72 o drigolion New Brighton, (does ryfedd fod y Rose & Crown ar werth) er gwelwn fod 10 enw wedi eu croesi allan o’r rhestr. Efallai mai rhain fethodd a chadw at eu gair at Duw!  A dweud y gwir, mae hanes Capel Zeion yn unig yn gwneud hi werth dod allan o’r car !

Wednesday 21 October 2015

Hanes Canu Pop Cymraeg (Written by the victors) Herald Gymraeg 21 Hydref 2105


 

 

 

‘History is written by the victors’ dyna ddywedodd Walter Benjamin (1892-1940), y sylwebydd  Marcsaidd, a fu dan ddylanwad syniadaeth ‘ysgol Frankfurt’ a chymeriadau fel Brecht. Cysylltir y dyfyniad yn aml gyda Churchill ond bellach mae’n ddywediad cyfarwydd a chydig sydd yn gwybod am hanes Benjamin.

Yn fy ngholofn yr wythnos dwetha (14 Hydref) awgrymais fod y rhaglen ddogfen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ (S4C) gan Gareth Potter a Pete Telfer wedi llwyddo i adrodd hanes y ‘Sin Danddearol’ (cerddoriaeth pop Cymraeg amgen yn ystod y 1980au hwyr / 1990u cynnar) yn fanwl gywir. Awgrymais hefyd fod ymosodiadau rhai fel Pat Datblygu a Mark Lugg o’r grwp Traddodiad Ofnus, ar yr ‘hen stejars’ wedi bod yn hanfodol ac angenrheidiol.

Ond gadewch i mi ail feddwl, ac efallai ail osod y cwestiwn. O ystyried dyfyniad Walter Benjamin, onid oedd Potter a Telfer felly yr un mor euog, o sgwennu’r stori drwy eu sbectol dywyll cwl eu hunnain? Oedd yna le yn rhywle yn ystod y rhaglen i gael sylwadau gan rhywun fel Geraint Davies (Hergest) neu Cleif Harpwood (Edward H), y nhw wedi’r cwbl oedd y ‘gelyn’ dan sylw. Cwestiwn arall wrthgwrs yw, os oedd Geraint neu Cleif hyd yn oed yn malio neu yn ymwybodol o beth oedd Pat Datblygu neu Mark Lugg yn ei ddweud ar y pryd?

Ar ol yr holl ganmoliaeth gennyf i’r rhaglen, dyma ail feddwl, a theimlo fod angen naratif arall. Mae angen gwybod weithiau beth oedd y ‘gelyn’ yn feddwl. Beth yn union oedd yn mynd drwy feddyliau cenhedlaeth Edward H wrth i’r Cyrff arwain y chwyldro cerddorol newydd drwy Gymru, Lloegr a Llanrwst?
 

 

Cawn sawl naratif ar Hanes Canu Pop Cymraeg wrthgwrs, ac efallai un o’r rhai mwyaf ‘diddorol’ yw’r un a geir gan y casglwr recordiau o Fanceinion, Andy Votel. Rwan dyma chi rhywun o’r ‘tu allan’ yn ‘darganfod’ cerddoriaeth Cymraeg a chyda cymorth Gruff Rhys (Super Furry Animals) dyma rhyddhau casgliad ar CD o ganeuon ‘coll’ Cymraeg ‘Welsh Rare Beat’.

Nid mel i gyd yw hyn cofiwch. Cwestiwn Un: Oes angen rhywun o Fanceinion i ‘ddarganfod’ cerddoriaeth Cymraeg a wedyn ei ail-gyflwyno (ail-dwymo) i ni frodorion fel petae ni rioed di sylwi pam mor dda oedd y gerddoriaeth yma. Cwestiwn Dau: Oes unrhywbeth o’i le gyda’r syniad o gasgliad o’r fath?  Oleiaf mae ‘Rare Beat’ yn cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg, ac yn an-uniongyrchol yr Iaith Gymraeg, i gynulleidfa ehangach.

Felly beth yw’r broblem gyda’r naratif? Un ateb wrthgwrs yw fod hyn yn ail-sgwennu’r union ‘hanes’ a fynegwyd mor ddi-flewyn ar dafod ar rhaglen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Doedd Votel ddim yn byw yng Nghymru yn y 1970au, doedd o ddim yn gorfod dioddef y roc-saff-canol y ffordd- traddodiadol Cymraeg oedd yn ddigon i droi pobl fel fi, a hynny ar garlam, ac ar y dren gyntaf o’r orsaf, tuag at gerddoriaeth Saesneg (a chwl) y Sex Pistols, Y Clash neu Blondie.

Sgwni beth fyddai ymateb Votel petawn i yn rhyddhau casgliad o gerddoriaeth o Fanceinion o’r 1970au hwyr ond ddim yn cynnwys Joy Division na’r Buzzcocks gan ddweud wrth y “Manc’s” ‘but you don’t understand – this is really cool stuff’.

Naratif arall bosib yw’r un gan y genhedlaeth ifanc gyfoes yn y Byd Pop Cymraeg. Sawl gwaith rwyf wedi sgwrsio a rhai sydd ddim yn gweld unrhyw anghysondeb yn y ffaith eu bod yn mwynhau cerddoriaeth Edward H a Datblygu. Ddigon teg heddiw, wedi’r cyfan - heddiw yn 2015, byddwn yn rhestru ‘Mistar Duw’ gan Edward H fel un o’r caneuon gorau i’w chyfansoddi yn yr Iaith Gymraeg erioed – a chan y byddwn yn fwy na hapus i wneud trefniant ohonni hefo unrhyw brosiect cerddorol y byddwn yn gysylltiedig. Ond, petae rhywun wedi awgrymu hynny ym 1980, wel, mi fyddwn wedi poeri’r syniad allan heb eiliad o ystyriaeth.

Yr hyn sydd yn ofnadwy o anodd i’w ddeall heddiw yw fod cenhedlaeth Y Cyrff a Datblygu yn yr 1980au wedi gorfod ymwrthod a’r hyn oedd wedi bod o’r blaen. Doedd dim dewis ganddynt os am greu y Gymru newydd – a dyna oedd yn hollol hollol amlwg wrth wylio rhaglen ddogfen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Dydi’r cyd-destyn cymdeithasol a gwleidyddol ddim yr un peth heddiw – felly mae disgwyl i ddilynwyr y Byd Pop Cymraeg heddiw ddeall hyn yr un mor anhebygol a fod pobl heddiw yn deall beth ysgogodd Edward H I sgwennu can fel ‘Mistar Duw’ am Ryfel Fietnam.

Wrth reswm, mae’r archaeolegydd / hanesydd ynof am bwysleisio pwysigrwydd y cyd-destyn gwleidyddol a chymdeithasol. Dydi canu pop ddim yn bodoli mewn gwagle a mae dadl arall yndoes fod y gerddoriaeth pop orau bob amser gyda ‘neges’ – meddyliwch am ‘Dwr’, neu  ‘Y Teimlad’ – dau begwn gwahanol, dwy gan bop perffaith, ond y neges yn hanfodol !

Byddaf yn rhoi sgyrsiau yn aml iawn i ddisgyblion ysgol am Hanes Canu Pop Cymraeg, rhan o ymdrech / ymgyrch ehangach i ledaenu’r gair fod diwylliant Cymraeg nid yn unig yn berthnasol ond ei fod hefyd yn rhywbeth ‘cwl’. Ewch i unrhyw fuarth ysgol a buan iawn mae rhywun yn sylwi fod siarad Saesneg yn bell rhy ‘cwl’ a fod y gwaith cenhadu yn ddi-orffen, ac angen ei gyflwyno flwyddyn ar ol blwyddyn.

Pennod arall yn y naratif yma ar Hanes Canu Pop Cymraeg yw cyngerdd sydd yn cael ei drefnu yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar y 7fed o Dachwedd er mwyn codi arian i’r elusen ‘Cerddoriaeth Mewn Ysbytai’. Noson yw hon i ddathlu cyfraniad Barry Cyrff, Al Maffia, Johnny Fflpas a Bern Elfyn Presli i’r Byd Pop (tanddaearol) Cymraeg.
 
 


 

 

Thursday 15 October 2015

Chairman Mwyn v Gareth Potter, Herald Gymraeg 14 Hydref 2015







Rwyf yn hoff iawn o Gareth Potter, cerddor, DJ, actor a chyflwynydd. Mae o yn un o’r cymeriadau hynny sydd yn gwneud Cymru yn lle mwy diddorol ac yn sicr o ran diwylliant Cymraeg mae Potter wedi cyfrannu ac arloesi ers ddechrau’r 1980au. I’r rhai sydd yn llai cyfarwydd a’r Byd Pop Cymraeg dyma’r gwr ffurfiodd y grwpiau Clustiau Cwn, Pry Bach Tew, Traddodiad Ofnus, Pop Negatif Wastad a Ty Gwydr.

I’r rhai sydd yn dilyn diwylliant y Byd Mawr tu allan i Gymru, fe fu unwaith, yng nghanol y 1980au, yn aelod o gast ‘Eastenders’, ond erbyn heddiw fel troellwr (DJ) mae Potter fwyaf adnabyddus. O bryd i’w giliydd cawn weld Potter ar y teledu (S4C). Bu’m yn ffilmio yn ddiweddar gyda Potter (ar gyfer S4C) a fe ysgogodd hyn i mi ail edrych ar ei raglen ddogfen a ddarllewdyd llynedd ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’.

Rhaglen am y ‘Sin Danddaearol’ oedd ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’, sef cenhedlaeth o grwpiau ffurfiodd yn yr 1980au fel adwaith yn erbyn yr hyn roeddynt yn ei weld fel roc Cymraeg “hen ffasiwn”, “canol y ffordd”. Mae’r sefydliad Cymraeg (hen stejars y Cyfryngau)  o hyd wedi cyfeirio at y roc Cymraeg canol y ffordd yma fel yr ‘Oes Aur’ – felly roedd (gwrth) safbwynt gwahanol iawn ar hyn yn nogfen Potter.

Grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu, Tynal Tywyll, Llwybr Llaethog, Fflaps, Elfyn Presli, Traddodiad Ofnus,  oedd rhai o’r enwau mwyaf amlwg a blaenllaw o’r Sin Danddaearol. Chwerthais yn uchel wrth weld Mark Lugg o Traddodiad Ofnus a Pat Morgan o Datblygu yn datgan faint roeddynt yn ‘casau’ yr hen grwpiau. Teledu hanfodol felly. Does dim o’i le mewn mynegi barn a pheth iach oedd agor y ‘generation gap’ yn Gymraeg.

Wrth ail edrych ar y rhaglen, dyma gadarnhau pam mor dda yw Pete Telfer fel cyfarwyddwr ffilm. Bu Telfer, fel Potter, yn rhan o’r Sin Danddearol; rol Telfer oedd ffilmio fideos a thynnu lluniau mewn cyngherddau. Gyda’r ddau yma, Potter yn cyflwyno a Telfer yn cyfarwyddo cafwyd cipolwg manwl a chywir o’r cyfnod – neu i arall eirio hyn – ‘manwl-gywir’ a ‘ffeithiol-gywir’.

Rwyf yn derbyn fod hyn yn deledu o ddiddordeb cyfyng iawn, lleiafrif o leiafrif sydd yn mynd i fod a diddordeb yn hyn o fewn y Gymry Cymraeg ond argian dan,  da o beth fod S4C yn gweld yn dda i ddarlledu rhywbeth fel hyn. Oleiaf dyma gydnabod fod mwy i ddiwylliant Cymraeg na’r hyn sydd ar gael fel arfer ……. Fel rwyf wedi datgan miloedd o weithiau – mae rhai ohonnom angen sylwedd, angen BBC 6 Music, angen Radio 4 a BBC 4 yn Gymraeg.

A dyma ni, yn 2015, y ddau hen ‘pync’ Potter a Mwyn, yn ffilmio yng Ngaer Digoll ger Tre Llai, Sir Drefaldwyn. Nid cerddoriaeth, na punk, na’r Sin danddaearol y tro yma ond archaeoleg (diolch i’r nefoedd). Bryngaer o Oes yr Haearn yw hon sydd yn cael ei chadw bellach gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ffilmio cyfres am hanes y ffin oedd Potter ar gyfer Cwmni Da.

Peth od yw cyfarfod mewn ‘bywyd arall’, dwi byth yn siwr beth mae fy hen gyfoedion o’r Byd Pop yn feddwl am y droedigaeth (archaeolegol) dwi di gael. Ar ol ffilmio roeddwn yn mynd yn syth am eglwys Sant Mihangel yn y Ffordun. Esbonias wrth y criw ffilmio y byddaf yno am yr awr nesa yn astudio ffenestr William Morris & Co yn y gangell.



Ar ol hynny crwydrais ddarnau o Glawdd Offa ger Ffordun a Chirbury. Yn dilyn hyn cefais banad yn y Castle Kitchen yn Nhrefaldwyn cyn mynd fyny am y castell. Er cymaint mwynheais ffilmio gyda Potter, roedd hyn hefyd yn gyfle da i fynd i grwydro.



Friday 9 October 2015

'Drysau Agored' Cadw, Herald Gymraeg 7 Hydref 2015


Castell Dolforwyn
 

Bellach rydym yn cysylltu Mis Medi a chynllun ‘Drysau Agored’, y cynllun gwych hynny sydd yn rhoi cyfle i ni gael ymweld ac adeiladau hynafol, cestyll, hen dai ac eglwysi a chapeli – rhai sydd ddim ar argor fel arfer. Eleni, cafwyd y pwyslais arefrol a’r safleoedd archaeolegol gan Cadw, ond braf iawn oedd cael ychwanegu cestyll Dolforwyn, Carndochan, Dolbadarn a Chastell y Bere i’r rhestr.

Rhain oll yn gestyll tywysogion Gwynedd wrthgrws. Fe soniais am gastell Llywelyn Fawr yng Ngharndochan, ger Llanuwchllyn yn fy ngholofn yn ddiweddar (Herald Gymraeg 23 Medi). Trefnwyd yr ymweliad ‘Drysau Agored’ a Charndochan i gyd fynd a chloddiadau archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ar y safle.

Dyma’r tro cyntaf i ni gynnwys Dolforwyn, Dolbadarn a Chastell y Bere ar rhestr ‘Drysau Agored’, felly heb os, roedd elfen o ‘arbrawf’ yn y peth. A yw’n bosib denu ymwelwyr i gastell llai amlwg, anghysbell ????. fel Dolforwyn ger Abermiwl (rhwng Y Trallwng a’r Drenewydd) – dyna oedd yr her.

Un o gestyll Llywelyn ap Gruffydd yw Dolforwyn, wedi ei adeiladu o fewn tafliad carreg i gastell Hari III yn Nhrefaldwyn ac heb os roedd Llywelyn Ein Llyw olaf yn herio yma yndoedd. Efallai wir, mai adeiladu Dolforwyn a’r dref Gymreig cysylltiedig, ym 1273 oedd un o’r ffactorau dros ymosodiad Edward I ar Gymru wedyn ym 1277.

Bu criw ohonnom (tywyswyr WOTGA) yn ymweld a Dolforwyn rhyw bythefnos yn ol er mwyn gwenud yr asesiad risg ac er mwyn paratoi y ‘daith dywys’ ac yn ein plith roedd dau oedd ’rioed di ymweld a Dolforwyn o’r blaen. Chawson nhw ddim eu siomi. Dyma chi gastell a safle bendigedig.

Soniais ddipyn am Gastell Dolforwyn yn ystod fy sgyrsiau ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Meifod, eleni a chefias adborth gan sawl un eu bod wedi bod draw yno am dro. Roedd cynnwys Dolforwyn ar rhestr Drysau Agored 2015 yn bwysig – y gobaith nawr yw gallwn ddenu mwy yno a chodi ymwybyddiaeth o’r safle erbyn 2016.

Dydi Dolbadarn ddim mor ‘anghysbell’ a Dolforwyn a chafwyd diwrnod llwyddianus yno yn esbonio adeiladwaith Llywelyn ab Iorwerth. Oleiaf gyda Castell Dolbadarn mae pawb yn weddol gytun fod hwn y gastell yn perthyn i gyfnod Llywelyn Fawr yn adeiladu ei gestyll yn ystod y 1220au. Er ein bod yn awgrymu mai Llywelyn ap Gruffydd adeiladodd Dolforwyn mae ambell hanesydd wedi awgrymu fod rhywbeth ar y safle yn barod boed hynny yn adeiladau gan dywysogion Powys neu hyd yn oed ab Iorwerth?

Ceir sawl cyfnod o adeiladu yng Nghastell y Bere a’r tebygrwydd yw fod y ddau Llywelyn ac yn wir Edward I wedi adeiladu darnau o’r castell. Heb os, dyma un o’r safleoedd mwyaf prydferth ar gyfer cestyll tywysogion Gwynedd gyda golygfeydd hyfryd ar hyd Ddyffryn Dysynni a thua Craig Yr Aderyn. Petae yr ymwelwyr a nemor dim diddordeb yn yr hanes, byddai dal modd iddynt fwynhau eu hymweliad a’r Bere.

Heblaw am gestyll tywysogion Gwynedd, roedd Din Lligwy, y pentref ‘Celtiadd’ o’r cyfnod Rhufeinig, siambr galddu Llugwy a Chapel Llugwy (o gyfnod Gruffydd ap Cynan) hefyd ar ein rhestr. Gyda’r safle yma, y penderfyniad eleni oedd dnagos y tri safle fel rhan o un daith dywys gan roi pwyslais ar ddehongli’r dirwedd archaeolegol yn ardal Moelfre yn hytrach na chanolbwyntio ar un safle neu un gyfnod.

Ac i gloi cafwyd penwythnos o Haul poeth ym meddrod Barclodiad y Gawres, Ynys Mon, gyda bron i ddau gant yn ymweld a’r safle dros y benwythnos – rhai o agos ac eraill o bell. Fy argraff o’r holl weithgareddau ‘Drysau Agored’ yw fod y diddordeb yn ein henebion ar gynydd ac edrychaf ymlaen at wneud yr un peth eto yn 2016.