Wednesday 26 November 2014

Plas Gwynfryn, Llanystumdwy, Herald Gymraeg 26 Tachwedd 2014


 

Fy hoff awdur (es) ar hyn o bryd yw Fiona MacCarthy, rwyf newydd gwblhau darllen ei llyfr am Edward Burne-Jones, y cyn-Raffaelydd olaf, a newydd ddechrau ei llyfr ‘William Morris, A Life of our Time’. Wrth son am fywyd cynnar William Morris (bardd, cynllunydd, arlunydd) mae hi’n disgrifio Morris fel hyn “even at this stage Morris was temperamentally suspicious of the mainstream”  gan ychwanegu mai’r ffordd ymlaen i Morris oedd “the maverick instinct of reforming by uspestting”.

Ac wrthgwrs dyma lawenhau fod eraill, hyd yn oed yn y cyfnod Fictoraidd, wedi sylweddoli fod rhaid “chwalu er mwyn creu” fel byddai Francis Bacon a Malcolm McLaren mor hoff o’n hatgoffa. Weithiau rhaid saethu’r taflegarau diwylliannol o’r tu allan os yw’r tir canol yn amharod i dderbyn fod angen symud pethau ymlaen. Wrth ddarllen hanes Morris, rhaid cyfaddef fod “Croeso i Gymru” yn mynd drwy’n meddwl, a hyn yn y Gymru sydd ohonni yn 2014, os da ni’n gallu derbyn / darlledu / mwynhau ‘Horni’ (S4C) mae rhwyun yn gofyn, fel gwnaeth Huw Jones unwaith mewn cân “lle aethom ni o’i le?”

Ac er fy holl blogio a sgwennu am Sir Basil Spence druan, does neb wedi ymateb, neb yn poeni am ei goncrit yn Traws. Sefyllfa debyg oedd hi ym 1877 wrth i William Morris a’i gyfeillion lansio maniffesto ar gyfer y Society for the Protection of Ancient Buidlings. Eto am weithred mor anarchaidd-gelfyddydol gan Morris, rhaid wrth faniffesto sydd yn ei hyn yn darllen fel gwaith o gelf.

“It is for all these buildings, therefore, of all times and styles, that we plead, and call upon those who have to deal with them, to put Protection in the place of Restoration, to stave off decay by daily care, to prop a perilous wall or mend a leaky roof”

Er nad oes ymateb wedi bod i Basil Spence, cafwyd ymateb i erthygl gennyf rai misoedd yn ȏl yn son am ddymchwel yr adeilad arddull ‘Celf a Chrefft’ yng Nghaernarfon, sef hen ysbyty Bryn Seiont – efe a ddiflannodd heb unrhyw wrthwynebiad fel y gwnaeth concrit ysblennydd adeilad ATS. Llawenhawn nawr o gael archfarchnad arall yn Nhre’r Cofis.

Cefais nodyn i gymeryd golwg ar sefyllfa Plas Gwynfryn ger Llanystumdwy. Efallai fod y nodyn fwy o “tip-off” fod angen dwyn sylw at gyflwr truenus yr adeilad rhestredig yma. Fy sefyllfa i gyda’r Herald Gymraeg wrthgwrs yw colofnydd, rwyf yn sgwennu darnau gyda barn am hyn a llall, ond nid newyddiadurwr mohonnof. Does dim yr awdurdod na’r grym gennyf i fynd ar ol storiau caled newyddiadurol, felly efallai fod hon yn stori i’r Byd a’r Bedwar neu un o ohebwyr y Daily Post.

Ond fel rhwyun sydd a diddordeb mawr yn y dirwedd hanesyddol Gymreig, mae gweld adeilad yn diriwio, yn amlwg yn rhwybeth  sydd yn fy nhristhau. Efallai caf gyfle i godi sefyllfa Plas Gwynfryn yng nghyfarfod nesa CBA Cymru/Wales, byddwn yn fwy na bodlon gwneud hynny.

Y bennod ddiweddara yn hanes yr hen blas yw fod tan wedi bod yno eto ym mis Ebrill 2014, fe all hwn fod wedi ei danio yn fwriadol, digon o waith fod adfail yn mynd ar dan yn naturiol. Gallwch ddarllen yr hanes ar wefan newyddion y BBC. Ond yr hyn sydd efallai mwyaf od yw’r distawrwydd llethol am Blas Gwynfryn, hen gartref i’r aelod seneddol Hugh Ellis-Nanney yn ei ddydd.

Bu rhyw fath o alw am yr angen am gadwraeth brys yma yn 2011 wrth i’r grwp Save Britain’s Heritage adnabod Plas Gwynfryn fel un o naw hen dai Cymreig oedd dan fygythiad difrifol.

Dyma ddechrau felly drwy ofyn cwestiwn, beth nesa i Blas Gwynfryn ?
 

Wednesday 19 November 2014

Ffenestri Burne-Jones, Herald Gymraeg 19 Tachwedd 2014


 


 
 

 
Rwyf wedi sgwennu sawl gwaith am ffenestr hyfryd Burne-Jones yn eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan. Yr wyf wedi ymwled ag Eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan ddwsinau o weithiau i weld y ffenestr hyfryd yma. Rwyf wedi dysgu’r hanes o lyfr Matthew am stori’r lili a fod Duw yn edrych ar ȏl y rhai sydd angen.

Felly dipyn o “sioc” oedd darllen gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (stainedglass.llgc.org.uk) a gweld fod Martin Crampin (awdur y llyfr Stained Glass from Welsh Churches, gwasg y Lolfa) wedi nodi mae cynllun gan George Measures Parlby sydd i’r ffenestr hon a nid Burne-Jones.

Wedi ei chreu ym 1885 gan gwmni Ward & Hughes, does dim cysylltiad felly a Morris & Co na Burne-Jones. Mewn ffordd does dim gormod o ots, mae’n parhau i fod yn ffenestr drawiadol yng nghangell St Margaret’s ochr yn ochr a phedair ffenestr gan O’Connor ac un arall gan Ward & Hughes,  heb anghofio’r ffenestr ddywrieniol hyfryd gan O’Connor.

Ond roedd rhywun wedi amau yndoedd. Ar ȏl pob ymweliad, roedd rhyw fymryn mwy o amheuaeth, doedd y cartŵns fel y gelwir y lluniau, ddim yn rhai amlwg gyn-Raffaelaidd o ran eu harddyll. Rhywsut mae’n gysur mae ffenestr Ward & Hughes yw hon wedi’r cwbl. Byddaf yn parhau i ddychweld i’r Eglwys Famor, yn parhau i fwynhau, ond ddim yn disgwyl Burne-Jones yno byth eto.

Os am weld ffenestri Burne-Jones ar eu gorau yma yng ngogledd Cymru, efallai mae Eglwys Sant Deiniol ym Mhenarlag yw’r lle i fynd. Os amserwch eich hymweliad yn iawn cewch fynd drws nesa i Lyfrgell Gladstone am eich panad.

Oherwydd difrod yn ystod y Rhyfel Gartref, does dim ffenestri canoloesol wedi goroesi yn eglwys Sant Deiniol ond mae gennym chwech ffenestr gan Burne-Jones. Mae ffenestri eraill yma gan William Wailes yn dyddio i’r 1850au ac un arall gan Edward Frampton yn dangos Sant Gregory (1897).

Y cysylltiad ac Ewart Gladstone, prifweinidog,  a’i gyfeillgarwch a Burne-Jones sydd yn esbonio pam fod yr holl ffenestri  gan Burne-Jones yma. Roedd Burne-Jones yn ymwelydd cyson a Chastell Penarlag. Diddorol a dweud y gwir yw olrain hanes y byd creadigol yn y cyfnod Fictoriadd. Beirdd a llenorion ac arlunwyr yn troi yn yr un cylchoedd. Byd bach, pawb yn adnabod eu gilydd a cymeriadau fel William Morris a Dante Gabriel Rossetti yn gweithredu fel catalyddion yn dod a ‘r credigol at eu gilydd.

Oddifewn i Eglwys Sant Deiniol cawn weld cofeb Ewart Gladstone a’i wraig Catherine, er fod y ddau wedi eu claddu yn Abaty Westminster, yn ȏl y son, yr unig wleiddydd yno wedi ei gladdu gyda ei wraig. Ffenestri gan William Blake Richmond sydd yn y capel coffa i Gladstone.

Y ffenestr fawr ar wal orllewinol corff yr eglwys yw’r olaf i Burne-Jones ei gynllunio cyn ei farwolaeth ym 1898. Ffenestr goffa i Gladstone a’i wraig Catherine yw hon wedi ei roi i’r eglwys gan blant Gladstone.

Mae’r ffenestri eraill (o’r cyfnod 1907-13) yn gynlluniau Burne-Jones drwy gwmni Morris & Co sydd yn dyddio ar ȏl marwolaeth Burne-Jones. Fel nodai Crampin yn ei lyfr, mae hyn yn dangos pam mor boblogaidd oedd cynlluniau Burne-Jones hyd yn oed ar ol ei farwolaeth

Ond yr hyn sydd  yn hollol amlwg gyda’r chwech ffenestr ym Mhenarlag, sef y pedair ffenestr ochr a’r ddwy fawr – dwyreiniol a gorllewinol, yw fod y ffigyrau / cymeriadau yn rhai amlwg yn yr arddull cyn-Raffaelaidd. Dyma’r gwahaniaeth mawr gyda ffenestr Ward & Hughes ym Modelwyddan, does dim cymhariaeth go iawn.

Gyda cymeriadau a chynlluniau Burne-Jones cawn ein cludo i arall-fyd, mae’r lliwiau yn fwy arall fydol, llai real. Mae’r cartŵns yn debycach i gartŵns comic. Hawdd fyddai treulio oriau yn gwneud dim mwy na syllu ar pob un o’r ffenestri yma yn eu tro. Heb os mae rhain yn ddarnau o gelf, cystal a llun. Rwyf yn ffan mawr o waith JMW Turner a Richard Wilson (sef eu tirluniau Cymreig) ond er mor wahanol mae ffenestri Burne-Jones yr un mor bleserus i’w hastudio ac i fyfyrio o’u blaen.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi ymweld ag Eglwys Sant Deiniol. Nid dyma fydd y tro olaf. Y mwyaf o amser mae rhywun yn dreulio mewn hen adeilad, neu mewn eglwys, neu gyda gwaith celf, y mwyaf mae rhywun yn dod i werthfawrogi yr hyn sydd o’n blaen. Byddaf yn aml yn cymhauru hyn a dysgu Iaith newydd. Rhaid wrth “eirfa” os am gael gwerth eich harian. Rhaid ymdrechu i ddysgu er mwyn gwella’r profiad – a’r gwerthfawrogiad.

Rhywbeth arall rwyf wedi ei grwybwyll yn ddiweddar yw fod ceisio dadansoddi a gwerthfawrogi diwylliant Cymreig heb yr Iaith Gymraeg fel gwylio teledu du a gwyn. Hyd yn oed os am astudio ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag, siawns bydd yr Iaith Gymraeg o ddefnydd yn rhywle. Gyda’r Iaith Gymraeg mae gennym sgrin deledu HD yndoes – llun clir, darlun llawr, sgrin lydan, y modd i gael gwerth ein harian.

Rhywsut neu’i gilydd mae angen cyflwyno’r neges yma i’n cyfellion, cymdogion, cyd-weithwyr di-Gymraeg. Pa wrth teledu du a gwyn yn 2014? Ac er mor ddiflas yw’r ystrydeb fod disgwyl i bobl ddysgu Ffrangeg os am fyw yn Ffrainc, neu os am werthfawrogi bywyd Ffrengig – mae’n hollol, hollol amlwg yntydi.

Parhau i chwilota dow dow yr wyf am hanes y cyn-Raffaeliaid yng Nghymru. Dwi heb glywed am arlunydd Cymreig neu Gymraeg oedd yn rhan (hyd yn oed ymylol) o’r frawdolaeth cyntaf neu’r ailo’r cyn-Raffaeliaid. Does dim modd gor ganmol ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag.
 

 

 

Thursday 13 November 2014

Sir Basil Spence, Atomfa Trawsfynydd, Herald Gymraeg 12 Tachwedd 2014



Rwyf newydd orffen darllen llyfr o’r enw ‘Phoenix at Coventry, The Building of a Cathedral – by its Architect Basil Spence’. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1962, blwyddyn fy ngenedigaeth, a wyddoch chi beth, trwy ddamwain cawsom hyd i gopi o’r llyfr ar silffoedd llyfrau ail-law caffi Machinations yn Llanbrynmair. I’r rhai ohonnom sydd yn or-gyfarwydd ar A470, y caffi bach hynod yma, yn hen neuadd y pentref Llanbrynmair, yw’r cafffi rydym yn ei werthfawrogi fwya ar y daith hir o’r gogledd i’r de (neu’r ffordd arall).

Dyma chi lyfr sydd yn ysbrydoli rhywun, nid yn unig oherwydd gweldigaeth pensaerniol Spence a’r modd mae’n cyfuno’r hen a newydd yn Coventry drwy gadw’r hen furiau a chwalwyd gan fomiau’r Almaenwyr ond hefyd am y dadleuon a’r rhesymeg mae’n gyflwyno am y broses a’r dewisiadau mae yn ei wneud.

Cawn bennod hynod ddifir am y gystadleuaeth mae Spence yn geisio ym 1951 gan feddwl nad oedd ganddo unrhyw obaith o ennill y comisiwn a mae agwedd ddihymongar Spence yn parhau drwy’r llyfr. Rhywbeth arall oedd yn amlwg yw fod Spence wedi ceisio ei orau i roi pob sylw a phob gofal i’r agwedd grefyddol yn y gadeirlan. Nid gosod pensaerniaeth ar ben crefydd mae Spence, ond yn cyfuno’r ddau beth gyda gofal manwl.

Pennod arall hynod ddiddorol yw’r un sydd yn ymdrin a’i ymweliadau drosodd i Ffrainc i ddwyn perswad ar Graham Sutherland i dderbyn y comisiwn i greu y tapestri anferth o Grist sydd i’w osod yn y gangell. Nid yn unig felly, llyfr yn disgrifio’r bensaerniaeth sydd yma, ond llyfr yn olrhain y cymeriadau fel Sutherland ac wrthgwrs Jacob Epstein sydd yn gyfrifol am y cerflun o Sant Mihangell a’r Diafol ar wal y gadeirlan newydd.

Chwerthais yn uchel wrth ddarllen yr hanes sut bu i’r Pwyllgor Adlunio wrthwynebu penodi Epstein “but he’s a Jew” a Spence yn eu rhoi yn eu lle, “so was Christ”. Epstein wrthgwrs sydd yn gyfrifol am y cerflun o Grist yng nghadeirlan Llandaf (y cysylltiad Cymreig). Ond i droi at y cysylltiad Cymreig a Basil Spence, y cysylltiad wrthgwrs yw Atomfa Trawsfynydd.

Rwyf wedi cyfeirio at gwaith concrit Spence yn Traws sawl gwaith yn ddiweddar a fel y soniais, rwyf yn cael ymateb ddigon negyddol wrth drafod gwaith Spence. Daw’r gwrthwynebiad o gyfeiriad y rheini a wrthwynebai ynni niwclear, dallt hynny, ond son am y bensaerniaeth wyf i nid y da neu’r drwg am ynni niwclear.

Y gobaith oedd cael trefnu ymweliad a’r atomfa i gael gweld gwaith Spence ac hefyd i drafod y cynlluniau am y dyfodol. Beth yn union fydd yn digwydd i’r adeiladwaith a phensaerniaeth Spence wrth i’r lleoliad gael ei dirweddu. Felly dyma gysylltu a Magnox PR yn y gobaith o drefnu ymweliad a sgwrs.

Ond siomedig iawn oedd yr ymateb. Ni fydd gwahoddiad yn cael ei roi meddant a theimlais rhywsut fod yr ymateb yn un swta a braidd yn ddi-sylwedd. Dyma a gefais Yr ydym yn gweld nifer fawr o geisiadau am ymweliadau safle ar draws ein holl safleoedd. Mae angen parhau i ganolbwyntio ar gyflawni rhaglen waith y safle ac felly, mae'n ddrwg gennai, ond na fydd yn briodol ar hyn o bryd i gynnal y math yma o ymweliad”.

Efallai eu bod yn ofni ymgyrch un dyn i achub concrit Basil Spence. Efallai nad yw PR yn cyfri iddynt, mae’n amlwg nad ydynt eisiau nac angen sylw yn yr Herald Gymraeg. Rwyf yn siomedig achos rwyf wirioneddol a diddordeb sgwennu mwy am Spence a’r cysylltiad Cymreig. Yr unig beth gefais gan Magnox oedd linc ar gyfer gwefan y Comisiwn Brenhinol. Ella bydd rhaid bodloni ar ymweliad a Choventry felly i sgwennu am y gadeirlan, mi wneith drip tren bach difyr.

 


 

Thursday 6 November 2014

CBA Wales/Cymru Herald Gymraeg 5 Tachwedd 2014



Sadwrn, 18 Hydref, Royal Oak, Trallwm, rwyf yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Archaeoleg Prydain, Cymru / Wales (CBA Wales/Cymru). Tybiaf, gyda sicrwydd gweddol bendant, mai y fi yw’r unig siaradwr Cymraeg yn yr ystafell. Rwyf wedi derbyn enwebiad gan ddwy aelod o’r pwyllgor i ymuno a nhw ar y pwyllgor, yn bennaf er mwyn cael siaradwr Cymraeg ar fwrdd y llong.

Cefais fy nerbyn heb unrhyw wrthwynebiad, bu rhiad i mi gyflwyno fy achos ger bron y cyfarfod, ac yn hollol syml yr hyn awgrymais yw fy mod yn gallu cynorthwyo’r mudiad gyda’r Gymraeg. Siawn fod gennyf sgiliau eraill, ond nid am y tro cyntaf dyma ymuno a phwyllgor er mwyn cael Cymro Cymraeg yno, ac wrthgwrs neith o ddim drwg cael rhywun o’r gogledd yno chwaith.

Ydi Cymru yn wlad y pwyllgorau yn ogystal a gwlad y gân, ddigon posib, ac eto dwi ddim yn siwr os yw hyn unrhyw wahanol mewn llefydd eraill chwaith. Rwyf i mor euog a ffol a phawb arall yn hyn o beth, yn cytuno i fod yn aelod o sawl bwrdd, pwyllgor, pwyllgor gwaith, ond yn amlach na pheidio mae’r ffactorau o’r Gymraeg a rhywun o’r gogledd rhywle ar yr agenda.

Rwyf newydd ymddiswyddo o bwyllgor WOTGA, pwyllgor tywysion swyddogol Cymru, gan fy mod yn chael hi bron yn amhosib mynychu cyfarfodydd yn y de oherwydd y gwlawadau darlithio sydd gennyf. Mewn cyfnod o ddwy flynedd, dim ond dwy waith llwyddais i fynychu cyfarfod WOTGA.

Siomedig, ond mae eraill all wneud y gwaith yma. Eto y Gymraeg a’r gogledd oedd y prif reswm dros gytuno i fod ar y pwyllgor, ond dyna fo fedra ni ddim dal i ym mhob man. Dim ond gobeithio fod y newydd ddyfodiad yn gallu’r Gymraeg. Peth od iawn yn fy mewddwl i yw fod cymaint o bobl sydd yn tywys yng Nghymru yn ddi-Gymraeg, neu efallai, od iawn nad oes mwy o Gymry Cymraeg yn ymwneud a’r maes.

Chefais i fawr o ddewis wrth gael fy ethol oddi ar fwrdd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn ddiweddar, er i mi fod yno bron o’r dechrau – a hynny yn cael ei gynnig a’i eilio gan ddau Gymro Cymraeg. Eto cael rhywun o’r gogledd oedd yn siarad Cymraeg oedd y rheswm pennaf i mi fod ar y bwrdd ond fel rwyf wedi son sawl gwaith mae yna nadroedd gwenwynig iawn ym mhorfeydd gwelltog y Byd Pop Cymraeg. Er mor siomedig oedd agwedd fy nghyd Gymry, mae’n rhyddhau amser i mi ganolbwyntio ar yr archaeoleg.

Rhwng mis Mawrth a’r Haf daeth y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig i ben beth bynnag, gofynnwch i’r Cynulliad. Chlywais i fawr o son, dim gwrthwynebiad i’r ffaith fod corff mor bwysig yn diflannu. Yn ȏl a ni at ddiwylliant yn lle diwydiant. Canlyniad hyn fydd mwy o gerddorion yn troi eu gorwelion at Loegr a llai o strwythurau Cymreig. Bydd y byd amateraidd yn llewyrchu, fel bydd talent newydd, ond rhaid wrth economi, rhaid gwneud pres heb nawdd os am barhad hir dymor i fusnesau.

Felly os yw WOTGA a’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi mynd oddiar yr agenda, mae amser gennyf i ganolbwyntio ar CBA Wales/Cymru. Sefydlwyd y CBA ym 1944 er mwyn diogelu yr amgylchedd hanesyddol yn y cyfnod helbylus yna o adeiladu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r mudiad felly yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed eleni.

Er fod CBA Wales/Cymru yn amlwg yn cytuno a’r amcanion cenedlaethol o ran diogelu’r amgylchedd hanesyddol, mae’r ffaith fod y sector yma dan ofal Llywodraeth Cymru a chyrff fel Cadw yn gwneud hi’n berffaith amlwg fod rhaid cael corff Cymreig – edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddod ar Gymraeg yn ganolig i’r frwydr hon.

 

Saturday 1 November 2014

Cofio John Peel Herald Gymraeg 29 Hydref 2014


 

Felly mae hi’n ddeng mlynedd ers marwoleth John Peel, neu John Robert Parker Ravenscroft o ran ei enw go iawn. Troellwr recordiau, DJ, cyflwynydd radio ar BBC Radio 1, BBC Radio 4, a llawer mwy wrthgrws, ond fel cyflwynydd y John Peel Show yn hwyr y nos bydd y ran fwyaf ohonnom yn ei gofio.

            Yn wir mae cenhedlaeth gyfan ohonnom oedd, ar un adeg, yn gwrando ar Peel bob nos, roedd ei raglen mor hanfodol a hynny. Dyma lle roedd rhwyun yn clywed caneuon newydd gan grwpiau newydd, dyma oedd ein haddysg cerddorol (hyn a’r NME). Fe holwyd mi yn ddiweddar ar rhaglen Eleri Sion ar BBC Radio Wales “beth fydda fy swydd ddelfrydol?” Am eiliad fedrwn i ddim ateb, wedi’r cyfan rwyf yn gwenud yr union beth rwyf yn ddymuno, yn cael sgwennu, yn ymwneud ar byd archaeolegol Cymreig, yn cael gweithio hefo artistiaid a cherddorion.

            Ond, ar ȏl eiliad i feddwl, dyma ateb, efallai gwneud yr un peth a John Peel, yr ateb roddais oedd dychmygwch fod y cyntaf i chwarae ‘Love Will Tear Us Apart’ gan Joy Division ar y radio. Does fawr all guro hunna. Bu i mi gyfarfod Peel sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fyddwn’i ddim yn disgrifio’r berthynas fel cyfeillgarwch, doedd Peel ddim yn un am agosau atoch ormod, efallai effaith ysgol fonedd, ond roedd y ddau ohonnom yn deall beth oedd yn digwydd. Dyma gerddoriaeth tanddaearol Cymraeg, Mr Peel.

            Y tro cyntaf i John Peel ffonio’r tŷ, fy nhad atebodd y ffȏn a gweiddi arnaf, “mae John Peel ar y ffȏn i ti”. Hyn tua 1982, a finnau yn meddwl mae rhywun o’r Coleg oedd yn tynnu coes. Ond doedd dim modd peidio adnabod llais Peel, fo oedd o, yn barod i chwarae cân Gymraeg ac angen cyngor ar sut i ynganu’r gair cyn mynd ar yr awyr. Bu hyn yn alwad ffȏn rheolaidd am flynyddoedd wedyn.

            Tua 11-15pm, ffȏn yn canu,  “how do you say LLwybr Llaethog?”, fydda na ddim “hello, its John here”, doedd dim amser i hynny, bydda’i Peel jest yn gofyn “how do you say ……..” a wedyn yn ynganu’r gair bron yn berffaith ar Radio 1, o flaen cynnulleidfa o filoedd. Dim ond fi a Gorwel Owen oedd yn gwybod hyn, byddai Gorwel yn cael galwadau tebyg yn y cyfnod yma.

            Ond beth oedd arwyddocad hyn i grwpiau Cymraeg? Bu cyfnod yn ystod yr 1980au pan roedd grwpiau fel Datblygu, Elfyn Presli, Tynal Tywyll, Y Fflaps, Plant Bach Ofnus yn cael eu chwarae yn rheolaidd gan John Peel. Y “myth” yw fod Radio Cymru yn gwrthod chwarae y grwpiau newydd tanddaearol Cymraeg. Roedd mymryn o wir yn hyn, yn bennaf oherwydd un cynhyrchydd oedd yn credu fod rhaid i grwpiau swnio fel The Eagles i gyrraedd y safon angenrheidiol i gael eu darlledu.

            Dwi’n dweud “myth” achos roedd grwpiau fel Anhrefn, Cyrff a Tynal Tywyll yn cael eu chware ar Radio Cymru ond yn sicr bu amharodrwydd i dderbyn y grwpiau mwy arbrofol fel Datblygu a’r Fflaps gan gynhyrchwyr BBC Radio Cymru. Ond, yn fwy diddorol byth, beth waneth Peel drwy roi y fath sylw i’r grwpiau tanddaearol Cymraeg oedd dod a nhw i sylw cynulleidfa newydd a chynulleidfa ehangach.

            Yn sydun iawn doedd cael eich chwarae ar Radio Cymru ddim mor bwysig a hynny. A dweud y gwir nid dyna cynulleidfa Datblygu neu’r Fflaps ac i raddau helaeth nid dyna oedd cynulleidfa’r Anhrefn a’r Cyrff chwaith. Wrth ddechrau canu o flaen cynulleidfaoedd di-Gymraeg led led Cymru, o Fae Colwyn i Gasnewydd dyma sylweddoli fod mwy i hyn na gigs yn y Steddod ac ambell raglen ar S4C. Roedd y cyfnod yma yn un o gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaeodd Cymoedd y De, y trefi ȏl-ddiwydiannol yn y Rhondda, yng Ngwm Nedd ac yn Abertawe. Heb John Peel, fydda neb yn Porth neu Treorci wedi clywed am yr Anhrefn neu’r Cyrff.

            Felly roedd cael eich chwarae gan John Peel yn beth mawr, roedd cael ei sel bendith yn beth mawr, ond roedd y cyrrhaeddiad yn newid popeth. Cofiaf yn iawn sut roedd cynulleidfaoedd Newcastle neu Bryste neu Birmingham yn trio eu gorau i ganu hefo ni, “we heard you on John Peel” oedd hi bob tro, “we love that song about Moscow” neu beth bynnag. Doniol. Diddorol.

            O ran ‘Y Greal Sanctaidd’, y peth mwya, y sêl bendith mwya, oedd cael recordio sesiwn i rhaglen John Peel, “Peel Session”, fel roeddynt yn cael eu galw. Hefo hyn, y cynhyrchydd John Walters oedd yn ffonio. Munud bydda rhywun yn clywed llais Walters ar y ffȏn bydda rhywun yn gwybod – dyma ni, Peel Session arall i rhywun.

            Fe recordiais dri ohonnynt yn stiwdios  Maida Vale hefo’r Anhrefn, fe fu’r Fflaps a Plant Bach Ofnus lawr i recordio sesiwn, Llwybr Llaethog sawl gwaith a Datblygu fwy na neb. Yn ddiweddarch yn y 1990au cafwyd cefnogaeth pellach gan John Peel i grwpiau fel Topper a Melys.

            Anodd credu heddiw, yn oes soundcloud, BBC 6 Music a’r holl raglenni sydd ar C2 fod dylanwad un troellwr yn gallu bod mor bell gyrrhaeddol. Y fantais pryd hynny mae’n debyg oedd fod llai o ddewis rhaglenni felly mwy o ffocws ar rhaglen John Peel. Heddiw mae grwpiau Cymreig yn cael eu chwarae yn rheolaidd ar 6 Music ond does dim yr un ffocws.

            Anodd credu heddiw, fod BBC Radio 1 wedi rhoi mwy o sesiynau i grwpiau fel Datblygu na wnaeth Radio Cymru erioed. Oes arall ………