Wednesday 25 May 2016

Straeon y Ffin, S4C, Herald Gymraeg 25 Mai 2016






Os oes yna ffasiwn beth a ‘thrysor Cenedlaethol’ mae’n rhaid fod y cerddor, actor a DJ Gareth Potter bellach yn gymwys ar gyfer y disgrifiad yna, Mae ei gyfraniad i’r Byd Pop Cymraeg yn amhrisiadwy a fel soniais beth amser yn ôl yn y golofn hon wrth drafod ei raglen rhagorol ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’’ ar S4C, a oedd yn cofnodi’r ‘Sin Danddaearol Gymraeg’, dyma rhywun ddylia fod ar y sgrin fach.

Heb os mae rhaglen ‘Straeon y Ffin’ yn un o’r pethau gorau sydd wedi bod ar S4C ers amser maith (os nad erioed).  Gan gyfuno hanes, diwylliant, cerddoriaeth, seico-ddaearyddiaeth ac ardal ddaearyddol benodol dyma’r math o raglen fyddai yn gyfarwydd iawn i wylwyr rhaglenni yn yr iaith fain ar BBC 4. Dim ond un gair sydd gennyf i ddisgrifio ‘Straeon y Ffin’ – gwych.

Ond, os am ddamcaniaethu ychydig, sgwn’i os yw’r ffaith fod y cyflwynydd Potter, y cynyrchydd Meinir Gwilym (cantores arall) ac aelod arall o’r criw cynhyrchu Osian Howells (cerddor ac aelod o’r Ods) yn dod o’r Byd Pop wedi rhoi golwg ychydig mwy eanfrydig, mwy celfyddydol, mwy aesthetig i’r holl beth? Beth am awgrymu golwg mwy ‘angerddol’ hyd yn oed – wedi ei gyflwyno gyda angerdd, wedi ei greu gyda angerdd.

Nid dyma’r ‘cynnyrch’ arferol o ran talentau (honedig) Cymraeg neuaddau preswyl y prifysgolion,(yr hyn arferai fod yn Brifysgol Cymru) a mae hyn mor amlwg. Nid golwg draddodiadol Gymraeg na thraddodiadol dosbarth canol Gymraeg sydd i’r rhaglen yma ond chwa o awyr iach gan fod yr ystradebau arferol (neu yn sicr rhy aml) wedi cael eu rhoi o’r neulltu.

Pa raglen arall, pa gyflwynydd arall fyddai yn cyfuno trafodaeth am Glawdd Offa gyda ymweliad a ‘Boundary Lane’ yn Saltney er mwyn sgwrsio hefo Phil Bradley o’r grwp Brodyr (neu Brodyr y Ffin fel oedda nhw yn y dechrau un)? Fe ddylid allu cyfuno Offa a’r Brodyr. Fe ddylia ni fod yn gwybod am hanes Offa a hanes Y Brodyr!

Wrth ymweld a thafarn ‘The Oak’ yn Hendre ar yr A541, rhyw bedair milltir i’r gorllewin o’r Wyddgrug ac wrth ddilyn trywydd Gwenfrewi yn Nhreffynnon mae Potter yn amlygu eu ddawn fel gwrandawr  gan roi cyfle i’r cyfrannwyr esbonio ond gan ein sicrhau ni (y gwilwyr) ei fod yn gwrando yn astud, ac yn cymeryd diddordeb. Rhaid dweud fod Potter yn ddiddorol hyd yn oed pan mae’n ddistaw.

Dyma ddyn sydd yn cymeryd gofal o’i wedd a’i ddelwedd. Mae ei wallt wedi ei dorri gan farbwr nid rhywun sydd yn trin gwallt. Mae ei farf yn awgrymu rhywun sydd yr un mor gyfforddus gyda llyfrau Kerouac ac y mae gyda cwrw lleol, ac yng nghyd-destyn y rhaglen yma, cwrw o fragdy’r Hafod sydd yn cynnwys cynhwysion wedi eu casglu ar lethrau Moel Famau.

O ystyried fod hon yn rhaglen amrywiol iawn, mae hi hefyd yn rhaglen sydd yn gwneud synnwyr perffaith. Bron, byddai rhywun yn ei chymharu a chyfres Hel Straeon ers lawer ddydd, ond fod Straeon y Ffin yn llawer mwy amgen, yn llawer mwy rwan. Dyma chi brofi, a hynny heb ormod o ymdrech,  fod modd i raglen “boblogaidd” fod yn amgen ac yn hip ac yn cŵl. Does dim angen gor-egluro na gor-symleiddio. Iawn a da o beth yw fod Potter yn cymeryd yn ganiataol ein bod yn ymwybodol o’r Brodyr. Pa obaith sydd os oes rhaid ail adrodd drwy’r amser, os oes rhaid egluro eto am y canfed tro.

Gallwn wylio Potter ar y sgrin fach drwy’r nôs. Nid gor-ddweud oedd agor y drafodaeth drwy awgrymu ei fod yn deilwng o’i urddo yn drysor Cenedlaethol. Dyma deledu hanfodol sydd wedi bod ar goll yn rhy aml ar ein sgrin fach Gymraeg.

Thursday 19 May 2016

Capel John Hughes, Pontrobert, Herald Gymraeg 18 Mai 2016







Rwyf wedi cyfeirio yn ddiweddar at apel Capel John Hughes, Pontrobert am do newydd ar gyfer y capel a braf iawn oedd cael ymweld a’r capel bythefnos yn ôl gyda llond bws o ddysgwyr o aradl yr Wyddgrug. Diwrnod allan ar ddiwedd tymor oedd hyn ar gyfer oedolion sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy ddilyn cyrsiau ‘Cymraeg i Oedolion’, Prifysgol Bangor yn Nhy Pendre.
Bwriad y diwrnod oedd ymweld a lleoliadau diddorol yn nwyrain Maldwyn a fod hyn yn rhoi cyfle wedyn i’r dysgwyr gael sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg a fod innau a’ nghyd diwtor Aled Lewis Evans yn cael trosglwyddo ychydig o wybodaeth iddynt am hanes yr ardal. Fy nadl i bob amser yw fod angen gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl, felly mae chydig bach o Hanes Cymru ac archaeoleg yn gymorth mawr yn hyn o beth.
Yn amlwg, roedd nifer o’r criw yn gyfarfwydd a’r ardal gan fod Eisteddfod Meifod newydd ei chynnal a rhai eraill ymhlith y criw yn cofio Eisteddfod Meifod 2003, a dyma gynllunio diwrnod fyddai’n ymweld a chartref (neu lys) Glyndŵr yn Sycharth ac Eglwys Sant Dogfan yn Llanrhaeadr ym Mochnant lle bu William Morgan yn ficer yn y 1580au yn ystod ei gyfnod o gyfieuthu’r Beibl.
Diwrnod da felly, cael Glyndŵr, William Morgan ac Ann Griffiths i mewn yn yr un diwrnod – tri o arwyr Cymru a rheini o fewn tafliad carreg i’w gilydd yn y darn dwyreiniol yma o ganolbarth Cymru – mor, mor agos i Glawdd Offa.




Cafwyd croeso mawr yng Nghapel John Hughes, roedd Nia Rhosier yno i groesawu y criw a chafwyd sgwrs eglur a chryno ganddi yn crisialu hanes John Hughes, ei wraig Ruth (y ‘forwyn’) ac wrthgwrs pwysigrwydd Ann Griffiths fel emynyddes. Ar wal gefn y capel mae gludwaith neu collage brodawith gan blant ysgolPontrobert a greuwyd ar gyfer Eisteddfod 2003. Yma cawn ddarlun o’r tri pwysig, John Hughes, Ruth ac Ann ond wrth wrando ar Nia yn sgwrsio roedd yn amhosib peidio teimlo mai i Ruth mae’r diolch mawr heddiw gennym fel Cenedl.
Beth bynnag oedd talentau Ann, byddai ei emynau yn rhai colledig onibai am y ‘forwyn’ an-llythrennog a gadwodd yr emynau a’r gof a mynnu fod John Hughes yn eu sgwennu ar bapur. Peidiwch ac anghofio Ruth! – dyna oedd fy nheimlad i yn sicr wrth fwynhau pob eiliad o’n hymweliad.



O ran hanes, mae darnau o hen bwlpud John Hughes yn dal yno (a gwych o beth yw hynny) ond efallai mai’r hanes diweddar sydd yn rhoi rhyw fymryn o obaith i wareiddiad heddiw. Fel un sydd wedi ymwrthod a chrefydd ac yn byw o ddydd i ddydd heb ‘ffydd’ roedd o ddiddordeb mawr i mi fod y capel yn cael defnydd heddiw fel man pererindod ar gyfer pobl o bob enwad.
Yn wir ger y pwlpud mae bwrdd wedi ei orchuddio a lliwiau’r Iddewon a’r Mwslemiaid. Dyma wers ar gyfer gwleidyddion. Dyma gynnig gobaith fod modd i bobl gyd-fyw a pharchu eu gwahaniaethau. Amserol meddyliais o ystyried y ffrae (yn y Wasg oleiaf) ar drafodaeth ynglyn a beth yn union yw bod yn wrth-Iddewig neu yn wrth-Seionaidd. Mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau beth, Mae digonedd o Iddewon sydd yn gwrthwynebu Seioniaeth a’r cyfaneddu anghyfreithlon gan Iddewon (Seionaidd) ar y Lan Orllewinol er engraifft.
Amserol hefyd, gan fod y Wasg bron yn sicr wedi camddehongli a drysu’r ddadl yma drwy fethu a gwahaniaethu yn glir rhwng y ddau beth. Cyfleus er mwyn tanseilio Corbyn a rhai fel Livingstone pa bynnag mor anoeth oedd i Livingstone gyfeirio at Hitler yn y drafodaeth. Rhaid cael y drafodaeth yn sicr ond rhaid gwneud yn glir fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau beth.
Pleidleisias (fel arfer) yn yr etholiadau diweddar, a disgrifiais fy  hyn fel ‘anarchydd gwael’. Byddaf yn bwrw pleidlais bob amser er fy mod yn tueddu i ‘ddrwgdybio’ gwleidyddion. Mae un neu ddwy gwleidydd rywf yn barchu (sylwer fod defnydd o’r ‘ddwy’ yn hollol fwriadol). Rwyf yn parchu rhai fel Bethan Jenkins, Kirsty Williams, Helen Mary neu eithriadau fel Adam Price – ar y cyfan byddai ein tirwedd gwleiddyddol yn well lle gyda merched a phobl hoyw (gan ddi-ysturu Teresa May neu Ruth Davidson – dydi bod yn ferch neu yn hoyw ddim bob amser yn gwneud pobl yn gallach).
Felly hefyd gyda crefydd, neu beth mae pobl a gwleidyddion wedi ei wneud yn enw Crefydd, rwyf ar y cyfan yn ddrwgdybus,  er fy mod fel unigolyn (lled-anarchaidd) yn credu fod fy moesau yn eu hanfod yr un peth a rhai pawb arall. Gwleidyddiaeth a chrefydd sydd mor aml yn creu y drwg yn y caws yn hanesyddol ac yn wir heddiw.



Ond, yma yng Nghapel John Hughes does dim dewis ond parchu’r hyn mae Nia Rhosier yn ei wneud a wedi ei gyflawni. Dyma engraifft lle mae gobaith yn trechu drwgdybiaeth, lle mae croeso yn trechu’r ofn am rhywun gwahanol. Dyma wers yn sicr i’r newyddiadurwyr anghyfrifol asgell dde sydd a dim gronyn o ddiddordeb mewn pethau mor ddibyws a ffeithiau, neu gyd-destun neu hyd yn oed beth yn union gafodd ei ddweud.
Un bwrdd bach mewn capel hynafol yng nghesail Sir Drefaldwyn ac eto rhywsut dyma deimlo y byddai’n fuddiol i gymaint o bobl fynd yno ar bererindod er mwyn gweld fod hyd yn oed y gweithredoedd lleiaf, y symboliaeth lleiaf yn gallu cynnig gobaith.
A dyna redeg allan o eiriau heb ddechrau son am William Morgan na Glyndŵr a rhyfeddodau Sycharth a Llanrhaeadr ym Mochnant.


Wednesday 11 May 2016

Darganfod Hen Dai Cymreig, Herald Gymraeg 11 Mai 2016




Cefn-y-Fan, Dolbenmaen




Ers tua blwyddyn a hanner bellach rwyf wedi bod yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr grwp ‘Darganfod Hen Dai Cymreig’. Dim ond yn ddiweddar y newidiwyd yr enw i ‘Darganfod’ gan fod y pwyslais wedi bod ar ddyddio hen dai drwy’r broses dendrogronoleg. Ond mae’r grwp nawr yn agor pennod newydd felly diflannu mae’r hen enw ‘Dyddio Hen Dai Cymreig’.
Y weledigaeth felly, yw fod mwy i dai na dyddiad yn unig; mae pobl wedi byw ynddynt, mae’r tai wedi bodoli mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ac er fod dyddiad yn ddiddorol / pwysig mae angen edrych ar y stori gyfan. O gofio hefyd os yw coed wedi tyfu yn rhy gyflym fe all fod yn anodd sicrhau dyddiad pendant drwy ddendrogronoleg.
Os yw ‘dendro’ yn llwyddianus, yr hyn sydd yn cael ei ddatgelu yw dyddiad torri’r goeden a gan gymeryd wedyn fod tŷ yn cael ei godi o fewn blwyddyn neu ddwy o hynny, mae modd cael syniad gweddol o pryd adeiladwyd y tŷ.
Prosiect mawr y ‘Gwrp Dyddio’, dros y blynyddoedd diweddar  oedd arolwg mawl o’r hyn a elwir yn ‘Dai Eryri’ a cyhoeddwyd llyfr cynhwysfawr ar y cyd a’r Comisiwn Brenhinol. Y ‘Tai Eryri’ ddatblygodd (neu esblygodd) o’r hen neuaddau Canol Oesol a mae’r tai yn unigryw fel arddull neu ffasiwn pensaeniol i ogledd orllewin Cymru.
Gan fod rhan go helaeth o’r gwaith yma (Tai Eryri)  wedi ei wneud, rydym nawr am drio dod o hyd i wybodaeth am y tai oedd yn bodoli ar ddiwedd y 14ganrif ac ar ddechrau’r 15fed ganrif. Prin iawn yw’r tai o’r cyfnod yma sydd yn dal i sefyll a mae rhesymau amlwg am hynny.
Yn gyntaf wrthgwrs, bu bron i hanner y boblogaeth farw yn sgil y Pla Du yng nghanol y 14ganrif ac o ganlyniad i hynny roedd tai yn troi yn adfeilion a neb yn eu cadw a fawr o angen ar rhai o’r tai. Yr ail ffactor  i’w ystyried ar ddechrau’r 15fed ganrif yw Gwrthryfel Glyndŵr a faint o dai a ddifrodwyd / llosgwyd yn ystod ymgyrchoedd cefnogwyr Glyndŵr neu ar yr ochr arall, ymateb y tywysog Harri (Henry V yn ei dro).
O ystyried fod y rhan fwyaf o’r adeiladwaith wedi hen ddiflannu boed hynny yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr neu drwy ddiriwiad arferol o goed yn pydru a tho yn disgyn ayyb, mae unrhyw olion yn mynd i fod yn agosach i’r hyn rwyf yn arfer ei weld yn fy swydd ddydd i ddydd – sef olion archaeolegol yn hytrach na adeiladau cyfan.
Yn ddiweddar bu i’r grwp Darganfod Hen Dai Cymreig ymweld a safle Cefn-Y-Fan, ger Ystumcegid, Dolbenmaen a dyna yn union yw’r gweddillion yma. Gwelir ambell i ddarn o gwrs isaf y wal wedi ei chuddio gan fwsog neu laswellt yng nghornel cae ond byddai’r ymwelydd di-fater yn prin sylweddoli fod neuadd wedi sefyll yma ar un adeg.
Mae’r ffaith fod wal cae o’r ganrif neu ddwy ddwetha yn sefyll ar ben ochr orllewinol a deheuol y neuadd yn cymhlethu pethau i raddau ond yn sicr, dim ond yr archaeolegydd neu’r brwdfrydig fydd yn gwirioni wrth gyrraedd safle Cefn-Y-Fan.
Bu cloddio archaeolgol yma ym 1953 dan ofal Colin Gresham, ond er yr holl son fod y neuadd wedi ei llosgi gan ddilynwyr Glyndwr ym 1403 (ar eu ffordd am Gastell Cricieth) chafodd Gresham ddim olion llosgi sylweddol yma wrth gloddio. Mae angen mwy o waith ymchwil ac archaeolegol ar y safle.


Os am ddarganfod mwy am y grwp Darganfod Hen Dai Cymreig mae gennym de- parti yng ngardd Plas Penmynydd, cartref y Tuduriad ym Môn, ar Sul yr 22 o Fai. Mae croeso i bawb ond fod angen archebu lle rhysmwyn@hotmail.co.uk

Wednesday 4 May 2016

BBC 6Music yn Gymraeg. Herald Gymraeg 5 Mai 2106



Efallai mai hwn yw’r ethygl ddyliwn i ddim ei sgwennu ac eto efallai mai hwn yw’r ethygl mae’n rhaid i mi sgwennu. Os am sgwennu rhaid gwneud rwan – cyn iddi fynd rhy hwyr a rhy bell ar hyd y ffordd. Rwyf wedi cael job newydd da chi’n gweld, yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth bob Nos Lun ar BBC Radio Cymru.

Ar ôl blynyddoedd o alw am rhywbeth tebyg i BBC 6Music yn y Gymraeg, a hynny yn dilyn erthygl gwych gan Miranda Sawyer yn yr Observer yn pwysleisio fod pobl oed ni (nail ochr i 50) yn dal i fwynhau cerddoriaeth (amgen wrth reswm) dyma’r alwad yn cael ei wireddu!
Nid fy mod am eiliad wedi bod yn galw am hyn yn y gobaith o gael ‘swydd’ gan y BBC, a dewud y gwir roeddwn yn ddigon parod i droi fy nghefn ar y Byd Pop Cymraeg am byth a chanolbwyntio ar yr archaeoleg. Does dim dwy waith fod gwaith cenhadu angen ei wneud yn y maes archaeoleg a threftadaeth diwylliannol,  materol ac adeiladol Gymreig.
Onid yw’r Genedl Gymraeg wedi rhoi yr holl ar unig  bwyslais ar lenyddiaeth a cherdd (draddodiadol) drwy eisteddfota eu ffordd i anwybodaeth llwyr o hyd yn oed y cestyll Cymreig mwyaf ‘amlwg’ fel Carndochan, Ewloe neu Caereinion? Byddwn wedi bod yn hapus i dreulio gweddill fy amser ar yr hen fyd yma yn mynd a pobl am dro i gestyll fel Caergwrle, yr union le o lle bu i Dafydd ap Gruffydd ymosod ar gastell Penarlag ym 1282 – digwyddiad pell-gyrhaeddol o ran Hanes Cymru.

Rhaid oedd derbyn gwahoddiad y BBC wrth reswm gan fy mod hefyd yn gwybod fod talp anferth o hanes canu pop Cymraeg, yn sicr o ddiwedd y 1970au tan ganol y 2000au rhywsut wedi mynd ar goll. Felly mewn ffordd yr un amcan sydd gennyf wrth gyflwyno rhaglen ar y BBC. Ail-gyflwyno, gwneud pethau yn berthnasol, addysgu a diddanu – dydi tyrchu am recordiau ddim mor wahanol a hynny i dyrchu am lestri pridd Rhufeinig!
Ar ôl blynyddoedd o sylwebu (ac aml feirniadu) braf felly cael sgwennu fod pethau wirioneddol yn gwella gyda BBC Radio Cymru. Does ond rhaid gwrando ar Aled Hughes yn y boreau, gyda’i storiau difyr i sylweddoli fod esblygiad pendant wedi bod yn y polisi cerddorol. Cofiwch, dwi ddim yn ama fod Aled yn gwbod ei stwff yn gerddorol, ond dyna braf oedd clywed rhaglen yn agor yn ddiweddar gyda ‘Bore Da’ gan y Euros Childs. Cân amgen ond hawdd i wrnado arno.

Felly hefyd gyda Rhaglen Tudur Owen, beth bynnag eich barn am Tudur yn ‘rwdlan’, (anodd peidio chwerthin) mae’r gerddoriaeth yn wych. Yn anhygoel felly. Ond, mae yna gynhyrchydd tu cefn i’r sioe sydd, fel Aled Hughes, yn gwybod ei stwff. Dyna pam dwi’n dweud fod well i mi sgwennu hyn cyn i mi gael ‘gagging-clause’ gan y BBC.
Bellach mae gwrnado ar raglenni nosweithiol Radio Cymru yn bleser yn hytrach na dyletswydd (neu ymchwil fel roeddwn yn ei alw). Gyda cyflwynwyr fel Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens mae gennym gyflwynwyr sydd, nid yn unig yn gwybod ei stwff, ond hefyd yn angerddol am beth mae nhw’n ei wneud. Bydda’r tri yn gorwedd yn hapus yn y gwely gyda BBC 6 Music – a felly ddylia hi fod. Os am fynd cam ymhellach, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, cawn weld Lisa yn cyflwyno yn y pnawniau a rhywun arall ifanc (gwybodus) yn rhoi sylw i’r grwpiau ifanc.


Nid mater o farn yw hyn cymaint a mater o adlewyrchu’r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad go iawn – dyna pam fod Euros Gorky’s yn y bore yn gwneud synnwyr. Hyd yn oed petawn ddim yn rhan o’r newidiadau yma bydda’r golofn yn dweud yr union ru’n peth !