Thursday 28 December 2017

Addunedau 2018, Herald Gymraeg 27 Rhagfyr 2017




Amser yma’r flwyddyn da ni gyd wrthi’n llunio’n rhestr addunedau ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Mae’n beth ddigon rhesymol. Rydym am symud ymlaen gyda charlam yn y flwyddyn newydd a chael gwared a’r holl ‘ddrwg a hyll’ o’r hen flwyddyn. O ran seicoleg personol mae’r broses yn caniatau i’r unigolyn gael golwg newydd ar bethau ac yn fodd o gael gwared a’r pethau hynny sydd wedi bod yn ein dal yn ôl. Digon rhesymol.

Dyma fi felly yn rhestru. Mae dau lyfr gennyf i’w sgwennu, felly efallai nad adduned yw hyn ond bydd rhaid canolbwyntio ar y sgwennu yn ystod 2018. Rwyf yn greadur rhy brysur a mae angen llonydd i sgwennu. Felly rhaid i mi roi chwarae teg i mi fy hyn yn ystod 2018 medda fi. Adduned neu ddim, os dwi ddim yn cymeryd gofal bydd y flwyddyn drosodd a’r llyfrau heb eu sgwennu.

Yn feddyliol rwyf yn agosau at y penderfyniad. Ymwrthod fydd y gair mawr – bod yn fodlon dweud Na!, gwrthod y cynigion gwan ffwrdd a hi a chanolbwyntio ar yr hanfodol.Yr hanfodol yn unig efallai?

Rhywbeth tebyg yw’r teimlad tuag at y bobl yna sydd ond yn creu awyrgylch negyddol o’ch cwmpas. Ar-lein mae hyn mwyaf cyffredin, ac i raddau gan ein bod yn byw y bywyd cyhoeddus Cymareg yma rhaid derbyn fod sylwadau llai caredig yn ymddangos o bryd i’w gilydd ar ein llinell amser Facebook a Twitter. Dim problem a hynny OND, a mae yna o hyd OND yndoes.

OND, mae rhai o’r ‘trolls’ (bratiaith y rhyngrwyd) yn ddiflas. Y diffiniad Saeneg am ‘trolls’ yw “ugly cave-dwelling creatures” sydd wedi cael ei fabwysiadu gan eirfa bratiaith y rhyngrwyd i gyfleu pobl sydd yn aflonyddu, achosi pryder a bod yn gas drwy bostio negeseuon ar y rhyngrwyd. Weithiau cofiwch mae’r ‘trolls’ yn gallu bod yn ffraeth ac yn ddoniol. OND.

OND, ar y cyfan cymeriadau dan-dîn ydi’r ‘trolls’. Yn hapus i fod yn gas neu ffiaidd ar-lein ond digon o waith y byddan yn fodlon dweud yr un peth i wyneb rhywun. Eu hanwybuddu sydd orau, wrthgwrs, wrthgwrs! Amlwg. OND, weithiau mae’n ormod o demtasiwn i beidio dweud rhyw air bach yn ôl. Er mai eu hanwybyddu sydd orau – prin iawn ydi’r ‘trolls’ sydd yn cadw eu sylwadau ar-lein munud mae rhywun yn eu herio.

Felly, wrth lusgo fy hyn yn ôl at fy rhestr addunedau ar gyfer 2018 rwyf yn sgwennu ANWYBYDDU NHW ar frig y rhestr. Rhif 2 os ydynt yn ddiflas iawn neu yn hollol anghywir RHOI GAIR I GALL. Rhif 3, yr opsiwn niwclear. BLOCIO.

Byddaf yn dilyn yr arlunydd Banksy a’r cerddor Brian Eno ar Twitter a wyddo’chi be’ – mae’r ddau yn datgan perlau o ddoethineb sawl gwaith y dydd ar eu llinell amser. Does dim posib i ni gael yr atebion i gyd wrth law a weithiau mae angen mymryn o gymorth, mymryn o gyngor – jest fel y Beibl yn yr hen ddyddiau. Sawl gwaith yn ddiweddar mae Banksy ac Eno wedi darparu’r geiriau angenrheidiol er mwyn cyfeirio rhywun yn nôl at y llwybr sicr.

Felly, wrth lusgo fy hyn yn ôl at y gwaith sgwennu, dwi ddim yn credu fod unrhyw addunedau perthnasol rhywsut. Dwi jest angen sicrhau fod yr amser a’r llonydd gennyf i sgwennu a chrwydro. Gwaith caled yw’r gweddill.

Y gwaith darlledu ar Radio Cymru pob nos Lun yw’r peth mawr arall. ‘Paratoi’ yw’r gair mawr yma – ond does dim angen adduned i wneud hynny chwaith achos mae’r gwaith ‘paratoi’ yn rhywbeth parhaus, gwrando ar gerddoraieth yn y car, meddwl am syniadau …. drwy’r amser. Fedra’i ddim gweld bod yna adduned berthnasol onibai am, ymdrechu i wella’r sioe.

Does gennyf fawr o restr felly nagoes, gwneud llai er mwyn gwneud yr hyn dwi yn ei wneud yn well. Canolbwyntio ar y pethau pwysig. Anwybyddu’r pethau negyddol.

O ran y sgwennu mae gennyf ddigonedd o gwestiynau sydd angen rhyw fath o ‘ateb’ neu ‘ddadansoddiad’. Heddiw rydym yn gaeth i’r cysyniad o Gymru fel gwlad,lle, cenedl ond cyn y Rhufeiniaid, yn y cyfnodau cyn-hanesyddol roedd rhannau helaeth o’r arfordir gorllewinol yn rhannu arferion a diwylliant tebyg.

Yn hytrach na son am Gymru, yn y cyfnodau cyn-hanesyddol yn aml mae rhywun yn son am yr holl ardaloedd hynny ar hyd yr arfordir gorllewinol, ac eto cawn amrywiaeth rhwng gogledd a de. Roedd amrywaieth lleol i arferion ac amrywiaeth rhanbarthol ychydig mwy eang.




Rwyf newydd fod yn edrych ar, a sgwennu am, siambr gladdu o’r enw Bedd yr Afanc ger Brynberain yn Sir Benfro. Beddrod ar ffurf oriel yw hon gyda siambr ar yr ochr orllewinol. Yn yr Iwerddon mae’r beddrodau oriel mwyaf cyffredin. 
Beth yw’r stori yma felly? Cysylltiad diwylliannol neu deuluol rhwng Iwerddon a Sir Benfro yn y cyfnod Neolithig (4dd/3dd mileniwm cyn Crist)

Cymhariaeth arall rwyf yn ei drafod ar hyn o bryd yw y ddau faen hir Oes Efydd (ail mileniwm cyn Crist) ger Penrhosfeilw ar Ynys Môn. Un o’r ychydig barau o feini hirion ar yr Ynys ac eto mae parau o feinihirion yn bymtheg a dwsin yn Sir Benfro yn yr un cyfnod? Pam y gwahanaieth neu’r amrywiaeth?


Eto nid addunedau sydd ei angen arnof, jest parhau i ymchwilio, parhau i ofyn cwestiynau, parhau i dreulio amser yng nghwmni’r henebion yma. Does dim sicrwydd o gael atebion. Gofyn a chodi mwy o gwestiynau sydd mwyaf tebygol. Gallaf roi hynny ar y rhestr Adduneda efallai: GOFYN MWY O GWESTIYNAU.

Wednesday 13 December 2017

Popeth yn Gymraeg, Herald Gymraeg 13 Rhagfyr 2017




Wrth sgwennu’r erthygl yma rwyf yn gwrando ar CD ‘Everybody Digs Bill Evans’ y cerddor jazz o dras Gymreig. Ei dad, Harry, mewn ffordd oedd o dras Cymreig uniongyrchol, felly roedd Bill yn Gymro o bell. Yn ôl y son roedd Harry yn ddyn cas a threisgar oherwydd y ddiod feddwol.

Cyfrannau at y record ‘Kind of Blue’ yr albym jazz sydd wedi gwerthu mwyaf erioed ddaeth a Bill i enwogrwydd fel pianydd. Pedair miliwn copi sydd wedi gwerthu o LP Miles Davies (a ryddhawyd yn 1959) hyd yma. Ond y ‘poen’ sydd am ddwyn fy sylw yr wythnos hon. Anghofiwch y cyffuriau, er mae’n debyg fod heroin wedi chwarae rhan amlwg yn natblygiad y sîn jazz yn y cyfnod yna hefyd.

Bill Evans

Y ‘poen’ yw’r peth yna mae cymaint ohonnom yn ei gario – weithiau mae modd cyfeirio at hyn fel ‘angerdd’ ond mae’n ddyfnach peth na hynny. O ran pethau Cymraeg a’r iaith Gymraeg mae’n weddol amlwg fod cymaint o bobl yn gweithredu yn angerddol achos eu bod yn credu yn nyfodol y Gymraeg. Gall angerdd a brwdfrydedd fodoli yn hawdd iawn yn y cyd-destun Cymraeg – cyfrannu at y Papur Bro, eisteddfota, gwylio S4C yn nosweithiol, pleidleisio i’r Blaid – protestio yn achlysurol hyd yn oed. Chafodd heroin rioed effaith ar y Gymraeg.

Fyddwn i ddim am eiliad yn amau didwylledd cefnogwyr yr Iaith Gymraeg, ond faint ohonnynt sydd yn cario’r ‘boen’ barhaol? Yn achlysurol iawn fe fyddaf yn cyfarfod Cymro / Cymraes arall lle rydym yn sgwrsio ac yn esbonio nad ‘dewis’ yw hyn ond ‘rheidrwydd’. Rhaid creu, rhaid mynegi, rhaid rhannu’r boen ac arllwys pethau allan, mewn print, ar record, mewn llyfr, mewn darlith neu a’r raglen radio ….. lle bynnag.

Dwi ddim yn credu mai cyfrinach yw’r ffaith ein bod ni fel colofnwyr yr Herald yn sgwennu achos ein bod awydd cyfathrebu gyda’r darllenwyr, rhannu’r pethau sydd yn ‘bwysig’ neu o ‘ddiddordeb’ i ni fel colofnwyr. ‘We ain’t doing it for the money kids’, mae hynny yn sicr. Y gobaith bob pythefnos yw eich bod chi ddarllenwyr yn cael rhyw bleser a mwynhad o ddarllen y golofn.

Y ‘sgwrs’ arall felly yw’r un gyda’r bobl hynny sydd yn ‘gorfod’ creu yn hytrach na chreu er mwyn gwneud bywoliaeth. Bywoliaeth yw un nod (yn y Byd go iawn hefo biliau i’w talu) yn sicr, ond yn y Gymraeg does byth ddigon ohonnom (yn prynu) rhywsut nagoes? Crafu byw am dros 10 mlynedd wnaeth y grwp roc Anhrefn. Byw ar ‘ffa pob ar dost’ os mynnwch. Heb Ewrop, heb gynulleidfa’r Almaen, Ffrainc, Sbaen, yr Iseldiroedd, Belg, y Weriniaeth Tsiec, Iwerddon mi fydda hi wedi bod yn weddol bîg arnom. A dyma ni heddiw yn wynebu Brexit – popeth sydd yn groes i’r hyn ddysgom wrth deithio’r cyfandir yn y 1980-90au.




Dave Datblygu sgwennodd y llinell fod “byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”, a mae yna wir yn hynny. Gwir poenus. Cefais sgwrs hefo’r cerddor Gai Toms yn ddiweddar wrth iddo lansio ei CD newydd ‘Gwalia’. Ar y CD yna mae cân hollol berthnasol a hollol hanfodol o’r enw ‘Ewrop’. Heblaw am y neges hanfodol, mae’r gerddoriaeth yn eich hudo a chludo i arall fyd. Llwyddiant o ran cyfansoddi ddywedwn i.

Ond yr hyn a fynegais wrth Gai, (doedd ganddo ddim dewis ond gwrando), oedd y byddwn wrth fy modd yn gallu diflanu am flwyddyn neu ddwy i gyfansoddi albym neu i gael sgwennu fy llyfrau. Ond dwi’n gaeth i wneud bywoliaeth. Doedd unrhyw freindal o ‘Rhedeg i Paris’ ddim yn caniatau ymddeoliad cynnar. Croeso i Gymru.

Felly mae’r ‘creadigrwydd’ yn gorfod digwydd o fewn fframwaith gwneud bywoliaeth. Rheoli amser yw’r gyfrinach. Dwi’n credu mewn gweithio. Dwi ddim yn ddiog. A bod yn onest prin iawn yw’r amser rhydd rwyf yn ddewis ei gymeryd. Hyd yn oed wrth gerdded mynyddoedd – dwi’n meddwl am rhywbeth, yn tynnu lluniau yn llunio colofn Herad Gymraeg yn fy mhen.

Efallai fod fy mod yn ‘gryfach’ na’r cerddorion jazz - mewn rhai ffyrdd, yn fwy ‘normal’, mae gennyf wraig a dau o hogia (wedi eu mabwysiadu) a rwyf hefo swydd go iawn gyda’r sioe radio wythnosol ar Radio Cymru. Efallai mai mwy ffodus neu lwcus ydwyf. Mae’r ‘boen’ parhaol yn dal yna, pob eiliad o bod diwrnod – fe ddyliwn fod yn hapus neu hapusach. Dwi rioed di bod yn berson ‘cyffuriau’.

Rhyfedd pam fod y Gymareg mor allweddol yn hyn ôll. Berwaf yn barhaol am y byd Archaeolegol Cymreig lle mae’r Gymraeg mor brin ymhlith y rhai sydd yn honni eu bod a diddordeb yng Nghymru. Rwyf newydd sgwennu colofn am hyn i Llafar Gwlad. Os am gloddio ar safle fel Meillionydd onid oes angen ynganu’r enw yn gywir? Engraifft cyffredinol yw hyn yn hytrach na engraifft penodol.

Onid set deledu du a gwyn sydd gan yr holl archaeolegwyr di-Gymraeg felly yn hytrach na theledu lliw HD? Pam fod y di-Gymraeg hyd yn oed yn bodoli o gwbl yng Nghymru? Anghofiwch cefndir teuluol, y chwyldro-diwydiannol, daearyddiaeth a’r drefn addysg am eiliad. Cwestiwn (moesol), lle mae’r awydd? Rhaid wrth y Gymraeg os am ddallt y dalltings – ar ei fwyaf syml, i gael gwerthfawrogi T H Parry Williams os am ymweld a Rhyd Ddu. Teledu lliw.

I rai mae ‘salwch meddwl’ yn gallu oleiaf esbonio’r ‘boen’, nid ei leddfu ond oleiaf cynnig rhyw fath o ateb. Rhywle ar y spectrwm mae gan gerddorion, beirdd ac awduron y cysur yna, mae’r alcohol neu’r cyffuriau neu’r salwch yn cyfrannu at y creadigrwydd a mae pawb yn ‘dallt’ hynny. Dwi bell rhy ‘normal’ i hynny. Jest gormod o angerdd sydd gennyf.
Popeth yn Gymraeg.



Sunday 3 December 2017

Y Lle Hanes, Llafar Gwlad 138





Arbrawf o fath ond un llwyddiannus tu hwnt. Eleni dyma gynnal y trydedd LLE HANES ar Faes yr Eisteddfod gyda’r cyrff a’r sefydliadau canlynol yn cyd-weithio: Amgueddfa Cymru; Cadw; Casgliad y Werin; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Oriel Môn ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Fel rhywun sydd yn gweithio yn y maes archaeolegol / treftadaeth yn llawrydd doedd dim byd anarferol yn hyn o beth – mae rhywun yn gwneud gwaith i wahanol gyrff a sefydliadau yn rheolaidd ond o ran gweld yr holl sefydliadau yn cyd-weithio o dan yr un tô ac i’r un pwrpas, efallai fod lle i awgrymu fod hwn wedi bod yn arbrawf arloesol.

Hanes Cymru wrth reswm oedd y ffocws a’r pwrpas, a braf oedd gweld Hanes Cymru yn ei holl ogoniant ac amrywiaeth yn cael lle, yna ar Faes yr Eisteddfod, ochr yn ochr a stondinau fel Y LLE CELF sydd wedi hen gymeryd ei le. Fel Cenedl mae tuedd i gwyno byth a beunydd am ddiffygion y gyfundrefn addysg neu rhai o’r sefydliadau uchod yng nghyd destun Hanes Cymru – ond dyma ni, yn hollol ymarferol ac ar lawr gwlad (neu Faes yr Eisteddfod yn sicr) yn unioni rhan o hyn.

Yn wleidyddol, agorwyd Y LLE HANES gan Rhun ap Iorwerth, cafwyd ymweliad gan Carwyn Jones ac ymwelodd rhai o benaethiaid y sefydliadau a’r stondin. Dyma gyfle felly i bwysleisio pwysigrwydd Hanes Cymru ac i fanteisio ar y cyfle i atgoffa pawb fod cyd-weithio er lles Hanes Cymru yn cynnig ffordd ymlaen. Prin yw’r cyfleoedd i gael ‘dweud ein dweud’ wrth y gwleidyddion ac yn sicr manteisiais ar y cyfle – cenhadaeth yw archaeoleg Cymru i mi.

Felly os cafodd y gwleidyddion a’r penaethiaid y bregeth am bwysigrwydd archaeoleg a hanes Cymru, doedd dim angen o gwbl pregethu gyda’r werin bobl oedd yn ymweld a’r stondin. Prynais lyfr nodiadau gan wybod y byddai ymweliadau cyson gan bobl oedd wedi darganfod rhyw wrthrych neu a oedd am wybod mwy am heneb ar eu fferm. Y drefnb ddyddiol oedd cadw nodiadau gan addo ymweld yn fuan neu cael hyd i fwy o wybodaeth iddynt.


Fel y disgwyl roedd ambell un wedi cael hyd i fwyell garreg neu efydd. Byddai’r fwyell garreg felly yn debygol o fod yn perthyn i gyfnod y Neolithig (4000-2000 cyn Crist) a’r fwyell efydd o’r Oes Efydd (2000-700 cyn Crist). O’r disgrifiad o’r fwyell efydd mae’n amlwg mai bwyell palstaf oedd hon wedi ei cynllunio i’w dal rhwng pren wedi ei hollti. Byddai rhaid gweld y fwell garreg er mwyn adnabod ffynhonnell y garreg ac o ganlyniad pa ffatri fwyeill fyddai tarddiad y fwyell?

Y cam nesa fydd ychwanegu’r bwyeill hyn at Gofnod yr Almgylchedd Hanesyddol sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Pwrpas hyn yw cadw cofnod o’r gwrthrychau a’r lleoliadau y darganfuwyd hwy. Ychwanegu at ein dealltwriaeth yw’r nod yma.

Roedd ambell gwestiwn ynglyn ac enwau llefydd. Gan fod Hwfa Môn yn un o brif gymeriadau’r LLe Hanes eleni doedd dim syndod fod rhai wedi gofyn beth oedd ystyr ‘hwfa’? Yn ôl Ifor Williams (Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru) enw personol oedd Hwfa o bosib yn tarddu o’r enw Hwrfa o’r 14eg ganrif. Byddai nifer yn gyfarwydd a’r pentref ar Ynys Mon, Rhostrehwfa, ond roedd yn ddiddorol clywed am enw cae yn Nyffryn Conwy o’r enw ‘Cae Hwfa’.

Holodd rhywun arall am ‘Cae Crogi’ ger Gwyndy, Glan yr Afon, eto ar Ynys Môn. Wrth edrych ar gofnodion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd mae hyn yn agos iawn i adfeilion canol oesol Bodychan, ond oes unrhyw gysylltiad? Dyma’r math o ymholiad sydd yn arwain at fwy o waith ymchwil. Amser ac ymchwil a ddengys o caen unrhyw wybodaeth pellach.

Rhywbeth hollol newydd i mi oedd ymholiad am Dai Cwrdd Methodistaidd cynnar. Wrth sgwrsio a gwraig o Flaenau Ffestiniog awgrymodd fod adefeilion tai cwrdd i’w cael ger Llyn Elsi, Betws y Coed a hefyd ar Fwlch Sychnant. Yr unig awgrym yn yr achos yma yw trefnu ymweliad. Rhaid cael ei chwmni i weld be di be – i gael mwy o wybodaeth.

Arweiniodd sgwrs arall at ymholiad am gerflun neu ddelw Nelson ar lan y Fenai. Rhyfedd o fyd, ond rwyf wedi gorfod dysgu am y cerflun o Nelson ar gyfer yr holl deithiau tywys lle rydym yn croesi Pont Britannia (Robert Stephenson 1850). Wrth edrych at lan y Fenai ochr Môn, mae’r cerflun i’w weld ychydig i’r gorllewin o fynwent Eglwys Santes Fair (ddim mor bell a hynny o garreg fedd John Morris Jones).

Mae’n debyg mai Clarence Pagett, mab fenga Ardalydd Môn, Plas Newydd, oedd yn gyfrifol am gerfio Nelson. Bu Clarence yn y llynges gan dreulio amser ar HMS Asia, Pearl, Howe, Princess Royal ac Ailge. Mae son fod Nelson wedi cyfeirio at y Fenai rhwng y ddwy bont fel un o’r darnau mwyaf peryglus i’w hwylio yn y Byd ond hyd yma rwyf wedi methu dod o hyd i dystiolaeth fod Neslon wedi treuliuo amser yma.

Cerflunydd amatur ond brwdfrydig oedd Clarence a thybiwn mai ei gefndir morwrol a gyda’r llynges ysgogodd iddo osod Nelson ar ymyl y ‘Strait nid Straits’.

Efallai o fwy o bwys na’r hen Nelson druan, er mor ddiddorol yw’r cerflun, oedd cwestiwn ynglyn a dyfodol carreg Gwern mab Cuuris Cini yn Eglwys Llangaffo. Awgrymir fod hwn yn un o’r engreifftiau cyntaf ysgrifenedig yn yr iaith Gymraeg neu o enwau Cymraeg. Dyddia’r garreg i’r 7fed ganrif ond awgrymir gan Frances Lynch mai cofeb i rhyw bwrpas ansicr yw hon yn hytrach na charreg fedd.

Gwelwn nifer o gerrig beddau croes 9fed-13eg ganrif gyferbyn a phorth yr eglwys sydd yn gasgliad hynod iawn ond mae carreg Gwern yn y Festri a mae cwestiwn wedi codi ynglyn a pherchnogaeth yr adeilad a beth fydd yn digwydd i’r garreg? Deallaf fod Frances Lynch ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ymwybodol o’r sefyllfa ond dyma chi engraifft berffaith o sut mae henebion pwysig yn gallu bod dan fygythiad.

Os yw’r garreg yn engraifft cynnar o enwau Cymraeg, mae hyn yn golygu fod hon yn gofeb o bwys Cenedlaethol yn ogystal a bod yn heneb pwysig o ran Ynys Môn. Efallai mai yn Oriel Mon dylia hi fod os nad oes modd ei symud i’r eglwys? Yr hyn sydd yn sicr yw fod angen gwneud yn siwr ein bod ni (y cyhoedd) yn gallu gweld a gwerthfawrogi’r garreg.


Ychydig o engreifftiau felly o’r sgyrsiau a gafwyd yn Y LLE HANES. Dywedias wrth bawb oedd yn ymweld fod Hanes Cymru yn fyw – nid yn bodoli mewn cas gwydr – er fod atgynyrchiadau o wrthrychau Llyn Cerrig Bach a Llyfr Gwyn Rhydderch yn cael eu harddangos mewn casus ar y stondin !!!!

Gwaith Cloddio Cae Mawr, Llafar Gwlad 137






Ym mis Tachwedd 2015 cafodd Alun Jones, Felinheli, hyd i ddarnau o lestri pridd Rhufeinig mewn cae ar ochr orllewinol Afon Saint (Seiont) yng Nghaernarfon. Hyd yma doedd dim tystiolaeth archaeolegol o unrhyw weithgaredd o’r cyfnod Rhufeinig yn y rhan yma o ardal Caernarfon er fod yn weddol amlwg y bydda rhywbeth wedi digwydd pryd hynny yn yr ardal i’r gorllewin o’r afon.

Y gaer Rhufeinig, Segontium, oedd prif gaer y Rhufeiniad drwy gydol y cyfnod Rhufeinig, o 77 oed Crist hyd at 393 oed Crist yng ngogledd Cymru, yr unig gaer i barhau mewn defnydd dros yr holl gyfnod. Cawn hefyd yr olion a elwir yn ‘Hen Walia’ uwchben yr afon ger yr A487 sef y ffordd am Bwllheli allan o Gaernarfon (South Road).

Does neb yn hollol siwr o union bwrpas Hen Walia y gaeran sydd yn dyddio o’r ail ganrif oed Crist ond fel arfer yr awgrym yw fod y gaeran yn gysylltiedig a’r porthladd Rhufeinig. Cawn adroddiadau hanesyddol yn cyfeirio at ‘bont Rufeinig’ yn croesi’r afon Saint rhywle yng nghyffuniau Hen Walia. Honir yn y Morning Chronicle 14 Tachwedd 1817 fod gweithwyr wedi dod ar draws pyst pren sylweddol ar lan Afon Saint.

Gan fod y cae lle cafodd Alun hyd i’r llestri pridd mwy neu lai gyferbyn a Hen Walia ac yn agos i lle byddai pont bosib wedi croesi’r afon penderfynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gynnal arolwg cerdded o’r cae ‘Cae Mawr’ yn ystod Chwefror 2017 er mwyn chwilota am fwy o lestri pridd.



Treuliwyd deuddydd yn cerdded ar hyd rhychau aredig Cae Mawr yn oflaus gan godi pob darn o grochenwaith a chofnodi eu lleoliad yn y cae gyda offer GPS. Canlyniad y deuddydd o archwilio oedd cael hyd i dros hanner cant o ddarnau o lestri Rhufeinig ac un darn bach iawn o froetsh bylchgron sydd yn nodweddiadol o’r Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig.

Cafwyd hyd i sawl darn o offer callestr wrth gerdded y caeau. Dyddio o’r cyfnodau Neolithig / Oes Efydd fyddai rhain a chafwyd ddarnau o grafwyr a llafnau cyllill calletr. Doedd dim yn annisgwyl yn hyn a dewud y gwir gan fod dyn wedi amaethu a hela dros y wlad dros yr holl ganrifoedd a mae cael hyd I offer callestr yn beth weddol gyffredin os yw rhywun yn gwybod am beth i chwilio.

Profwyd felly nad darnau siawns oedd crochenwaith Alun ond fod defnydd o’r ardal yma wedi digwydd yn y cyfnod Rhufeinig. Y cam nesa oedd trio deall mwy am hanes yr ardal a phenderfynwyd cynnal arolwg geoffisegol o dri cae, Cae Mawr, Cae Isaf a Stack Yard Field er mwyn gweld os byddai unrhyw nodweddion archaeolegol yn ymddangos o dan y pridd.

Ar y cyfan siomedig iawn oedd canlyniadau’r arolowg geoffisegol. Doedd dim byd amlwg fydda’n awgrymu adeilad o unrhyw fath wedi ymddangos ar y canlyniadau felly doedd dim golwg o’r ‘fila Rhufeinig’ fydda wedi bod mor fendigedig i’w ddarganfod. Cael hyd i’r ‘fila Rhufeinig’ oedd ein jôc / ‘chydig o hwyl i gadw’r hwylia pan roedd y tywydd yn wlyb.

Yr unig nodded a ymddangosodd ar ganlyniadau’r arolwg geoffisegol oedd llinell hir weddol syth yn croesi Cae Mawr a Cae Isaf ac yn dod i ben rhywle ger y clawdd presennol yn Stack Yard Field. Cam nesa ein archwyliad felly oedd rhoi ffos archaeolegol 6medr x 2 medr ar draws darn o’r linell er mwyn cael cipolwg a cheisio dehongli beth yn union oedd y nodwedd hon.

O ran daearyddiaeth roedd y nodwedd hir yma yn gorwedd ar ‘linell’ o gyfeiriad Afon Saint tuag at gopa bryncyn Coed Alun (Coed Helen) lle gwelwn y Castell Bach sef yr hafdŷ 18fed ganrif oedd yn ffug-dŵr gan deulu Coed Alun. Beth petae’r nodwedd hon yn hen ffordd neu lwybr Rhufeinig o’r  ‘bont’ at rhyw fath o wylfan ar ben y bryn? Yn sicr dyma cvhi un cwestiwn roeddem yn awyddus i’w ateb.

Fe gymerodd tan Mis Mawrth eleni (2017) i ni drefnu i gloddio yma gyda chaniatad caredig teulu Hendy a gyda chriw bychain a phrofiadol o archaeolegwyr dyma fynd i’r afael a’r cwestiwn o beth yn union oedd wedi ymddangos fel llinell ar yr arolwg geoffisegol.
Lleolwyd y ffos gloddio archaeolegol i’r fodfedd drwy beiriant GPS gan David Hopewell ac ar ôl clirio tua 10modfedd o bridd wedi aredig dyma ddecharu ddod ar draws rhes o gerrig oedd yn cyd-fynd yn union a  chanlyniadau yr arolwg. Digon hawdd efallai oedd cael hyd i’r cerrig ond rhaid cyfaddef mai siomedig iawn oedd y canlyniadau.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig mai gweddillion hen glawdd sydd wedi ymddnagos ar yr arolwg geoffisegol. Wrth gloddio chafwyd dim awgrym o gwbl fod unrhyw adeilad yma, doedd dim awgrym o gwbl o ffos wedi ei pharatoi ar gyfer wal o unrhyw fath a doedd dim awgrym o gwbl fod y cerrig yma yn ffurfio wyneb hen ffordd na llwybr.

Doedd dim byd cadarn yma o gwbl felly roedd rhywun yn amau yn gryf fod hon yn hen glawdd pridd efallai hefo wyneb o gerrig oedd mwy neu lai wedi ei chwalu un llwyr dros y canrifoedd drwy’r broses amaetrhyddol o aredig y cae. Deallais gan deulu hendy fod cerrig wedi eu clirio o’r cae dros y blynyddoedd felly a dweud y gwir doedd rhywun ddim yn synnu fod yr olion yma yn rhai bregus.

Hyd yma does neb wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw fapiau  o’r caeau cyn Map y Degwm 1840 (sydd yn danos ffiniau y caeau sydd i’w gweld heddiw) felly does dim modd bod yn 100% sicr mai hen gawdd yw’r nodwedd rydym wedi ei gloddio ond dyna yw’r farn gyffredinol gennym fel archaeolegwyr.

Os felly, sut mae esbonio’r llestri pridd Rhufeinig? Bellach rydym yn gallu bod yn weddol sicr nad oes olion adeiladau yn y tri cae sydd wedi cael eu harchwilio ond efallai fod y ‘fila’ colledig o dan maes carafannau Coed Helen – pwy a wyr? Bydd angen mwy o dystiolaeth arnom cyn gwybod os oes yna unrhyw werth cloddio ymhellach yn y caeau yma.

Fe all fod y Rhufeiniaid wedi defnyddio copa bryncyn Coed Alun fel gwylfan dros orllewin Afon Menai. Fe all fod goleudy Rhufeinig yma hyd yn oed ond gan fod y ffug-dŵr wedi mwy neu lai chwalu a lefelu copa’r bryn, digon o waith fod unrhyw olion Rhufeinig (os oedd rhai) wedi goroesi’r broses adeiladu yn y 18fed ganrif.

Rydym yn gaeth i brosesau fyddai wrth fodd Sherlock Holmes, rhaid dilyn y dystiolaeth a’r dystiolaeth sydd yn arwain. Canlyniadau’r gwaith hyd yma yw gallu cadarnhau fod nifer o  ddarnau Rhyfeinig wedi eu darganfod ar lan orllewinol Afon Saint. Rhaid fod rhywbeth wedi bod yn digwydd yma yn y cyfnod felly ond hyd yma does din tystiolaeth oendant o unrhyw adeiladau, o unrhyw ffyrdd neu lwybrau neu hyd yn oed unrhyw gaeau o’r cyfnod.

Bydd yr adroddiad am waith cloddio Cae Mawr a’r gwrthrychau yn cael eu cofnodi a’u cadw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  www,heneb.co.uk









Castell Carndochan Llafar Gwlad 136





Yn ystod mis Medi 2016, bu criw ohonnom ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio am y drydedd tymor yng nghastell Carndochan ger Llanuwchllyn. Does dim angen atgoffa darllenwyr Llafar Gwlad am bwysigrwydd hyn ond bu sawl sgwrs ymhlith y criw dros banad am bwysigrwydd y gwaith. Dyma un o gestyll tywysogion Gwynedd a doedd neb yn anghofio hynny am eiliad na chwaith yn anghofio faint o ‘fraint’ yw cael cloddio a’r safle o’r fath.

Ond, y ‘dirgelwch’ mawr hyd yma o ran yr archaeoleg, yw fod y ddyddiadau radiocarbon sydd ganddom yn disgyn yn rhywle rhwng y ddau Llywelyn. Y posibilrwydd felly gyda Castell Carndochan yw fod yma adeiladwaith gan Llywelyn ab Iorwerth a hefyd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd? Petae modd dyddio rhai o’r adeiladau yn fwy pendant mi fydda hynny yn gymorth mawr o ran dehongli’r castell a phwy oedd yn gyfrifol a phryd bu’r gwaith adeiladu.

Awgrymai David Hopewell, y cyfarwyddwr cloddio, fod yna gyfnodau gwahanol o adeiladu yma gan fod mortar gwahanol wedi cael ei ddefnyddio yn rhai o’r adeiladau. Y gamp wedyn yw ceisio dehongli’r drefn adeiladu – pa dŵr neu fur ddaeth gyntaf? Yn sicr, rydym bob amser yn dysgu rhywbeth wrth gloddio, felly fy nadl i gyda safle fel Carndochan yw fod unrhyw waith archaeolegol pellach yn cyfrannu ac yn ychwanegu at yr hyn rydym yn ei wybod. Gan ein bod ar un o safleoedd tywysogion Gwynedd, does dim angen pwysleisio hyn ymhellach – mae’r peth yn amlwg.

O ran yr ochr ymarferol o ‘gloddio’ yng Ngharndochan, mae’n debyg mai symud cerrig yw rhan helaeth o’r gwaith. Pur anaml mae’r trywal yn dod allan gan fod cymaint o gerrig wedi disgyn o’r muriau neu’r tyrrau a rhaid clirio rhain cyn gallwn ddechrau gweld unrhyw ‘archaeoleg go iawn’.

Mae’n waith caled ac yn cymeryd rhai dyddiau cyn i ni glirio digon o gerrig i ddechrau gweld beth yw beth. Ffactor arall yma yng Ngharndochan yw ein bod yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri felly mae unrhyw symud cerrig yn fater sensitif. Does dim modd gadael tomennydd o gerrig ar ein hol yma! Ar ôl hir feddwl dyma benderfynu mai’r peth doethaf a mwyaf sensitif i’r diwredd fyddai creu llwybr tuag at y castell gyda’r cerrig rydym yn eu clirio.

Felly o hyn ymlaen bydd modd i ymwelwyr gyrraedd porth y castell heb orfod dringo’r sgri neu’r holl fowlderi rhydd sydd o amgylch y castell. Efallai fod hyn yn fymryn o gyfaddawd, sef ‘creu’ llwybr newydd tuag at y castell, ond tydi symud cerrig o’r safle ddim yn bosib a fel soniais tydi gadael tomennydd ddim yn dderbyniol chwaith o fewn y Parc. Gyda threuliad amser bydd ein llwybr bach newydd ni yn ymdoddi’n naturiol i’r dirwedd.



Dyna oedd y ddadl neu’r cyfaddawd ymarferol. Wrth ddadlau’r achos ac wrth ofyn y cwestiwn sylfaenol pam ein bod yn cloddio yng Ngharndochan yr ateb bob amser yw ein bod am wella ein dealltwriaeth o safleoedd tywysogion Gwynedd. Rhan o’r fargen felly yw dwyn sylw i’r safleoedd yma yn y gobaith bydd mwy o ymweliadau hefyd maes o law. Wrth ddarlithio hyd a lled y wlad, rwyf yn gofyn yn aml faint sydd wedi clywed am Gastell Carndochan? Tydi’r ateb ddim o hyd yr un yr hoffwn ei glywed – er nad yw hynny yn hollol annisgwyl wrth reswm.

Canolbwyntwyd y tro yma (2016) ar archwilio porth y castell. Roedd safle’r porth wedi ei ‘ddarganfod’ yn 2015 felly penderfynwyd cynnal mwy o waith ar y rhan yma o’r castell ac o fewn ddyddiau o glirio cerrig dyma wneud darganfyddiad pwysig a chyffrous iawn. O dan yr holl rwbel oedd wedi disgyn o’r gorthwr ac i lawr ar ben y fynedfa - ac i raddau felly nid yn unig wedi chwalu’r porth ond hefyd wedi ei gladdu dyma ddod ar draws ddarnau o fwa cerrig.

Roedd y ‘garreg gloi’ yn amlwg – sef y garreg olaf oedd yn cloi y bwa yn gyfan – a thua hanner y bwa yn weddill. Roedd ail hanner y bwa yn deilchion. Dyma sylweddoli felly fod yna borth a bwa yn fynedfa i’r castell ac er fod elfen amrwd i’r cerrig byddai hyn yn sicr wedi bod yn fynedfa ddigon ‘nobl’ neu drawiadol wrth i bobl gyrraedd Carndochan.

Yn anffodus oherwydd cyflwr bregus y bwa, penderfynwyd mai’r peth doethaf fyddai i’w ail-gladdu. Does dim posib ar hyn o bryd ail godi’r bwa a’r porth – does dim cyllideb ar gyfer hynny, na chwaith unrhyw obaith byddai gweddill y bwa yn goroesi’r tywydd garw petae ni wedi gadael y bwa ar un ochr yn yr awyr agored. Felly ar ôl ei gofnodi yn ofalus a thynnu lluniau, dyma osod cerrig a phridd yn ofalus dros ein bwa gan wybod bydd yno yn saff am flynyddoedd i ddod – reit o dan draed unrhyw ymwelwyr fydd yn cyrraedd Carndochan drwy’r porth.

Sicrhawyd fod y porth yn aros ar agor drwy wneud gwaith cynnal a chadw gan seiri maen lleol felly un canlyniad cadarnhaol iawn o waith 2016 yw fod llawer mwy o’r fynedfa bellach yn weladwy – ac yn weddol hawdd i’w ddehongli.



Darn arall bu i ni ei archwilio eleni oedd y gorthwr canolog lled sgwar. Unwaith eto proses o glirio rwbel oedd hi i ddechrau gan symud unrhyw gerrig oedd yn amlwg yn rhydd neu wedi disgyn i un ochr ac yn raddol dod o hyd i weddillion muriau go iawn y gorthwr. Dim ond rhyw dri neu pedwar cwrs o’r mur oedd wedi goroesi. Camp arall wrth edrych ar y gorthwr canolog oedd sicrhau ar ddiwedd y gwaith fod yr holl gerrig yn cael eu hail osod fel fod neb yn sylwi ein bod wedi cloddio yma.

Rhyw ddiwrnod go dda o waith oedd clirio’r cerrig a glanhau wyneb gwaelod y tŵr a’r hyn oedd yn bwysig iawn yn yr achos yma oedd gallu cadarnhau fod yna ‘batter’ ar waelod y tŵr. Batter yw’r nodwedd pensaerniol lle mae gwalod tŵr yn ymledu am allan (goleddf) gan gyrfhau gwaelod tŵr. Gwelwn engrieifftiau gwych o ‘batter’  ar dyrrau Castell Biwmares ond hefyd gwelwn awgrym o ‘batter’ o amgylch y tŵr lled sgwar yn Ninas Emrys.

O gymharu, roedd rhaid cydnabod y tebygrwydd rhwng y tyrrau sgwar yn Ninas Emrys a Charndochan – gwneuthuriad tywysogion Gwynedd. Felly, er mai darn fechan iawn gafodd ei glirio o amgylch y tŵr canolog roedd gallu cadarnhau y ‘batter’ yn ddarn bach ychwanegol o wybodaeth a gafwyd o ganlyniad i waith cloddio 2016. Mae pob darn o wybodaeth newydd yn bwysig.


Wrth ysgrifennu’r erthygl yma, does dim sicrwydd cawn ddychwelyd i Garndochan yn ystod 2017. Mae hyn yn llwyr ddibynnol ar gyllidebu. Cawn weld beth ddaw, ond gallwn fod yn fodlon fod y gwaith tros y dair mlynedd dwethaf oleiaf wedi bod yn help i roi Carndochan ‘ar y map’. Rydym wedi codi ymwybyddiaeth am un o safleoedd tywysogion Gwynedd. Mae llawer mwy wedi ymweld a’r safle (gan gynnwys disgyblion ysgol) na fydda wedi bod yno petae ni heb gloddio. Rydym yn deall mwy ac o ganlyniad yn gyfoethocach fel Cenedl o ran Hanes Cymru yn ystod y 13eg ganrif.

Friday 1 December 2017

Teithiau Cerdded Archaeolegol, Herald Gymraeg 29 Tachwedd 2017





Rwyf wedi llwyddo i fynychu dau o deithiau cerdded Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ystod mis Hydref eleni. Fy ‘swydd’ oedd fel ‘tail end Charlie’ sef fi oedd y person oedd i gerdded yn y cefn i wneud yn siwr fod pawb yn iawn a fod neb yn cael eu gadael ar ôl. Dwi yn un o’r bobl hynny sydd yn mwynhau fy hyn yn llawer gwell os oes gennyf joban.

Y daith gerdded cyntaf oedd ar hyd Mynydd Conwy gan gychwyn ym mryngaer fechan Allt Wen (SH 747774) yn uchel uwchben Dwygyfylchi. Er mai ond un clawdd a ffos oedd yn amddiffyn y gaer ar y cyfan roedd awgrym o ail glawdd ar ffurf isglawdd sgarp neu counterscarp ar yr ochr ogleddol llai serth. Beth fyddai yn digwydd mewn achosion fel hyn yw fod rhan o bridd y ffos yn cael ei daflu allan i greu yr isglawdd sgarp tra roedd y rhan helaeth o bridd y ffos yn cael ei ddefnyddio i greu y clawdd mewnol wrth adeiladu’r gaer.

Gan fod y mynydd newydd losgi (Mehefin llynedd) roedd y nodweddion Oes Haearn (sef y canrifoedd olaf cyn Crist) yn fwy amlwg a roedd Jane Kenney o’r Ymddiriediolaeth wedi gwneud archwiliad fwy manwl o’r gaer ar gyfer Cadw. Mewn amser bydd y llysdyfiant yn ail afael ar y mynydd a bydd waliau cerrig a’r cloddiau yn diflanu eto dan wyrddni.

Peth braf yw cael ein tywys gan Jane gan mai hi sydd wedi gwneud y gwaith ar Allt Wen, felly mae gennym dywysydd sydd yn siarad o brofiad – a hynny yn brofiad diweddar iawn iawn. Jane yw un o’r archaeolegwyr gorau sydd gennym yng Nghymru. Rwyf yn ei pharchu am sawl rheswm, ond un rheswm arbenig yw fod Jane bob amser yn fodlon cyfaddef pan mae rhywbeth yn ddirgelwch neu ein bod heb ddatrus pethau eto – nad oes modd cynnig ateb pendant. Mae hi’n fodlon dweud “Dwi ddim yn gwybod …..”

Credwch neu beidio, yn y maes archaeolegol, mae hynny yn beth pwysig – gwell awgrymu posibiliadau na chynnig atebion pendant os nad yw’r dystiolaeth archaeolegol yn caniatau sicrwydd i ni.




Wrth groesi at Castell Caer Lleion (SH 760778) ar ochr ddwyreiniol y mynydd dyma groesi caeau lle roedd olion aredig Canol Oesol ar ffurff cefnen a rhych. Hawdd i’w weld, hollol amlwg, olion aredig heb os, Prin fod rhaid Jane ddweud dim – roedd unrhywun oedd ar y daith oedd a chefndir archaeolegol yn eu gweld yn syth. Ymhen dim roedd cwt hir Canol Oesol yn awgrymu ei bresenoldeb drwy’r rhedyn. Eto – mi ddylia ni fod ddigon craff i adnabod y nodweddion.

Bryngaer gyda mur o gerrig sylweddol yw Castell Caer Lleion, nid anhebyg i’r bryngaerau amlwg ar Llŷn, Boduan, Fadryn a Thre’r Ceiri ac yn cynnwys dros 50 cwt crwn. A dweud y gwir mae yna debygrwydd gan fod yna hefyd citadel neu is-gaer / caer ddinesig ar Gastell Caer Lleion fel sydd ar Carn Fadryn a Garn Boduan.

Er fod yna ddiffyg tystiolaeth pendant i ddyddio’r gaer ddinesig ar Fynydd Conwy  mae’n hollol amlwg ei fod wedi cael ei osod oddifewn fewn i’r gaer Oes Haeran a nad oes mynedfa i’r gaer ddinesig o’r gaer fawr. Gwelir hefyd fod cloddiau’r gaer ddinesig yn cuddio darnau o’r prif gaer felly mae’n rhaid ei fod yn adeiladwaith diweddarach. O ystyried y cysylltiad traddodiadol gyda Maelgwn Gwynedd a’r safle ar Fynydd Conwy – oes unrhyw siawns mai castell ôl-Rufeinig neu Ganol Oesol yw’r gaer ddinesig? A fu Maelgwn yma? Dyma chi gwestiwn nad oes modd ei ateb ar hyn o bryd




Yr ail daith gerdded i mi fod yn ‘tail end Charlie’ oedd dan arweinyddiaeth Spencer Smith, unwaith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ond bellach yn rheolwr ar Ironbridge. Doedd na ddim cweit cymaint o angen ‘tail end Charlie’ yn yr achos yma gan nad oedd gwaith cerdded mawr.

Treuliwyd bron i ddwy awr ar safle Castell Dolbadarn gyda Spencer yn dangos nodweddion na fyddai’n amlwg i’r mwyafrif. Ar ddiwed dy bore gofynnodd Spencer i mi oes oeddwn wedi dysgu unrhybeth newydd? Fy ateb oedd, “Do wrthgwrs – dwi o hyd yn dysgu rhywbeth newydd hefo ti Spencer!” A mae gwirionedd yn hynny. Rydm yn dysgu rhywbeth newydd o hyd.
Arbenigedd Spencer yw gerddi a thiroedd hela Canol Oesol. Spencer sydd wedi gwneud y gwaith diweddaraf ar Sycharth a mae ei wybodaeth a’i barodrwydd i rannu gwynodaeth wedi bod yn werthfawr iawn i mi wrth sgwennu am Sycharth, cartref Owain Glyndŵr, yn fy nghyfrol Archaeoleg ddiweddaraf (2016, Gwasg Carreg Gwalch).

Merch y Brenin John oedd Siwan gwraig Llywelyn ab Iorwerth a chawsom ddehongliad gan Spencer o lle byddai gardd Siwan wedi ei osod yng Nghastell Dobadarn. Roedd tŷ bach priefat iddi a neuadd gyfarfod breifat ar gyfer ei gwesteion – a hyn ôll i ffwrdd o’r gorthwr crwn lle byddai Llywelyn yn cynnal ei lys.

Llys brenhinol oedd yma yn Nolbadarn gyda’r holl ‘drappings’ Ewropeaidd, Uchelaidd. Daeth pethau yn fyw wrth i Spencer ein harwain o amgylch y castell. Do fe ddysgais sawl ffaith newydd wrth wrnado ar Spencer ond efallai mai’r peth pwysicaf oedd atgoffa pawb fod Llywelyn yn dywysog Gwynedd, yn Frenin i bob pwrpas a rhaid cofio hynny os am ddehongli Castell Dolbadarn.

Bydd sgwrs gan Jane Kenney ar y gwaith cloddio archaeolegol yn Hedd yr Ynys, Llangefni ar Nos Fawrth 12fed Rhagfyr am 7:30pm yng Nghanolfan Ebeneser,
Stryd y Bont, Llangefni LL77 7NP.