Saturday 16 March 2019

Adfywiad Diwylliannol, Herald Gymraeg 20 Mawrth 2019


Agoriad sioe SAITH Swci Delic hefo Janice Long a Mared Lenny

Dyma chi’r cwestiwn yr wythnos yma – oes yna adfywiad diwylliannol yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd? Fe gafwyd ‘Cool Cymru’ ar ddiwedd y 1990au / troad y Mileniwm, disgrifiad amhoblogaidd gan gymaint a grewyd gan y Wasg. Dwi o hyd wedi dadlau fod ‘Cool Cymru’ yn well na ‘Un-cool Cymru’, ond prin iawn yw’r artistiaid / cerddorion oedd yn hapus hefo’r disgrifiad yma. Ond dyna fo, fedrith artistiaid ddim rheoli beth sydd yn y Wasg ac ar y Cyfryngau – nac yn yr Herald Gymraeg.

Y frwydr mewn ffordd yw sicrhau fod diwylliant Cymraeg a Chymreig yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Brwydr arall gyfochrog yw cyrraedd y Cymry hynny (a bleidleisiodd dros Brexit), ‘I don’t speak Welsh’ sydd yn fwy tebygol o wylio ‘Eastenders’ na thiwnio mewn i Radio Cymru. Dwi’n gwneud y pwynt yn wythnosol ar fy sioe radio – “Does dim byd ar y teli” – be dwi’n drio ddweud yw fod yna gyfoeth o gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar raglenni Georgia, Lisa a Huw gyda’r nos ar Radio Cymru – tiwniwch i mewn!

Dyma ni yn 2019. Dim ond hen ffans Super Furry’s a’r Manic Street Preachers sydd hyd yn oed yn cofio’r term ‘Cool Cymru’. Tydi’r 2 filiwn a mwy sydd wedi lawrlwytho cân ‘Gwenwyn’ gan y grwp Alffa ddim yn poeni am ‘cool’ unrhywle – mae nhw jest wedi gwirioni / cyffroi hefo arddull blues y band ifanc o Lanrug. Wrth edrych ar Spotify wrth sgwennu’r golofn hon mae ‘Gwenwyn’ wedi ei lawrlwytho 2,762 150 o weithiau – yn bell dros y 2 filiwn erbyn hyn.
Os di Alffa yn arwain un chwyldro – yr un digidol, ar-lein, ifanc, hip, does fawr o neb wedi cysylltu hyn a’r ffaith fod rhywbeth ehangach yn digwydd yng Nghymru – onibai fod y Guardian wedi sgwennu rhywbeth yn ddiweddar. Wrth reswm mae hyn oll yn hollol amlwg i’r rhai sydd yn dilyn pethau yn agos gyda bys ar y pyls.

Mae labeli fel Libertino ac yn enwedig y grwp Adwaith yn creu argraff ar hyn o bryd. Led led Prydain does dim ond canmoliaeth i’r grwp o ferched o Gaerfyrddin. Eto ifanc – digwydd bod yn ferched – ond y pwynt pwysig ydi fod Adwaith mor mor dda, mor mor safonol – mae yna agwedd yn sicr – ond mae’r gerddoriaeth hefyd yn dweud y cyfan – dim angen esgusion o unrhyw fath.

Dim ond canmoliaeth sydd wedi bod i albym diweddaraf Lleuwen ‘Gwn Glan Beibl Budr’, campwaith rhyfeddol, angerddol, amrwd sydd yn effeithio’r gwrandawr. Canmoliaeth ac ymateb haeddianol i gampwaith cerddorol. Does dim dadl am ddawn Lleuwen fel cantores a chyfansoddwraig ond mae Aled a Dafydd o Cowbois Rhos Botwnnog, Llio Rhydderch a Owen Lloyd Evans ar y double bass wedi cyfrannu at y naws yma – o’r pridd ac o’r galon.

Efallai does dim cysylltiad go iawn rhwng Alffa, Adwaith a Lleuwen heblaw’r Iaith Gymraeg – ac eto mae nhw’n digwydd rwan hyn – ac yn rhan o’r clytwaith amrywiol yna dan faner y Byd Pop Cymraeg. Cwl heb unrhyw label.

Yng Nghaerdydd mae digon o ddewis, dyddiol, wythnosol, misol. Gigs, agoriadau celf, theatr. O fewn y dalgylch ehangach – y Cymoedd a chyffiniau’r M4 mae treuan o boblogaeth Cymru yn byw – da ni’n son am agos i filiwn o bobl o fewn llai nac awr o deithio nes cyrraedd unrhyw ddigwyddiad yn y Brifddinas.

Tydi’r boblogaeth ddim yn agos i hynny yn y Wynedd wledig ac eto yn ddiweddar roedd gig Lleuwen yng Nghapel y Groes, Penygroes wedi gwerthu allan – pob tocyn wedi mynd. Roedd y 300 tocyn ar gyfer gig diweddar MR (Mark Cyrff) yn Galeri wedi gwerthu. Dyma pam dwi’n awgrymu bod adfywiad a bwrlwm yn digwydd – o flaen ein trwynau.

Llwyddodd MR (Mark Cyrff fel cyfansoddwr) ar ei albym newydd i gyfansoddi caneuon sydd yn barod yn ‘glasuron’. Yn y gig yn Galeri bu bron iawn i ‘Pwysau’ gan MR gael cystal ymateb a ‘Cymru’ Lloegr a Llanrwst’ y clasur gan Y Cyrff. Be dwi’n ddweud yn fan hyn, yn datgan yn hytrach nac awgrymu yw fod Mark Roberts yn dal i sgwennu clasuron.

Galeri hefo Mark a Paul Cyrff / Catatonia / MR etc

Bron yn wythnosol rwan dwi’n cael y cyfle i fynychu digwyddiad yn Galeri neu Pontio Bangor. Rhaid cydnabod gwaith da Emyr Ankst yn rhaglennu ffilmiau Pontio. Dyma ni ar bnawn Sadwrn yn ail-wylio ffilm Derek Jarman,’Jubilee’ (1978) gyda Adam Ant, Toyah, Gene October, Jenny Runacre (a’r Slits yn gwneud ymddangosiad sydun iawn). Wythnos yn ddiweddarach, sinema Galeri a dwi’n gwylio ffilm ddogfen am Frank Sidebottom a gwrando ar sgwrs fyw gyda’r cyfarwyddwr.

Dim angen byw yng Nghaerdydd (neu Lerpwl / Maceinion) felly i gael mwynhau Frank Sidebottom neu Derek Jarman. Rhyfeddol pa mor broffwydiol oedd ‘Jubilee’ – fe all fod yn ffilm am wallgofrwydd Brexit heddiw mor hawdd. Nid nostalgia am Adam Ant a gafwyd – ond ‘wake up call’ – dyma ni heddiw – deffrwch bobl bach!

Ac o ran celf, mae Ffordd Balaclafa, Doc Fictoria, Gweriniaeth Cofiland yn fwrlwm o gelf gweledol. Balaclafa yw’r enw ar yr oriel fechan ar Ffordd Balaclafa – drws nesa i Galeri. Yr hen gaffi ‘Pieces of Ate’. Ar hyn o bryd mae Balaclafa yn gartref i gelf gan fenywod dan faner Gŵyl y Ferch.

Drws nesa yn oriel Galeri mae arddangosfa lliwgar a seicadelig Swci Delic sef Mared Lenny y cerddor a fu yn perfformio fel Swci Boscawen ond sydd bellach yn canolwbyntio ar ei gyrfa fel artist. Cefais y fraint o sgwrsio a hi yn ddiaweddar yn fyw ar lwyfan fel rhan o Gŵyl Arall.




Colofn arall am Brexshit Herald Gymraeg 6 Mawrth 2019



Sgwrs hefo Dafyd Êl oedd hi, a hynny yn y bar ar y teras ym Mhalas Westminster, fel mae rhywun yn ei gael o bryd i’w gilydd. Dwi’n tynnu coes rhyw fymryn, ond do fe ddiwgyddodd y sgwrs a fe arhosodd un o sylwadau Dafydd hefo mi ers hynny. Lansio record yn Nhy’r Cyffredin oedd yr achlysur yn 1996 ac ar ôl y lansiad fod ni wedi eistedd am banad gyda Dafydd ar y teras.

Rhaid ein bod yn trafod Cymru, Cenedlaetholdeb – y stwff arferol a fod Dafydd wedi mynegi pwysigrwydd ffurf o Genedlaetholdeb sydd yn edrych am allan yn hytrach nac un mewnblyg sydd yn edrych am i mewn. Canlyniad edrych am i mewn, neu edrych yn ôl (am ddyddiau gwell a fu) yw fod y feddylfryd honno yn tueddi i ddinistrio ei hyn. Dyna pam dwi’n dweud fod sylwadau Dafydd wedi aros hefo mi.

Wrth i Brexit rygnu yn ei flaen yn ddi-gyfeiriad mae rhywun yn ymwybodol iawn o’r awch ymhlith rhai am oes a fu, y 1950au, dim gwynebau croenliw, dim ieithoedd heblaw’r Saesneg, dyddiau hirddydd haf hyd yn oed yn y gaeaf a’r ungyrn bondigrybwyll. Os bydd Brexit ddigwydd, chaiff neb ei blesio. Bydd y Brexiters, cas a blin (hiliol rhy aml) yn gweiddi brad a Brad gyda B fawr am flynyddoedd i ddod.

A’n helpo. A go damia’r henoed hynny yn eu hunnanoldeb hiliol Little England sydd am rwystro ryddid y genhedlaetrh ifanc, y genhedlaeth nesa i gael astudio, teithio, symud, caru a magu teulu ym mha bynnag wlad yn Ewrop yr hoffent. Dyma chi weithred hunanol – os bydd rhaid dioeddef yn economaidd oherwydd Brexit, pris sydd yn werth ei dalu / ddioddef medda rhai – a rhan health o rheini yn debygol o farw cyn gweld y goleuni economaidd. Rhag eu cywilydd yn gwneud hynny i’w wyrion!

Y darlledwr o Fanceinion Terry Christian a’r cyflwynydd James O’Brien (LBC) yw’r ddau sydd wedi gwneud mwy na neb efallai i ddarnio’r Brexiters yn ddyddiol. Dwi ddim yn credu hyd yma fod Terry na James wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw Brexiter sydd yn gallu datgan yn syml unrhyw fantais amlwg o ganlyniad i Brexit. Gofyn a wnant am un ‘tangible benefit’ – does ru’n byth yn dod. Dim ond son an ungyrn a dyddiau o hirddedd haf.

Cyflwyno rhaglen deledu hwyr y nos ‘The Word’ ar Sianel 4 ddaeth a Terry Christian i sylw’r cyhoedd go iawn. Rhaglen anarchaidd, ffwrdd a hi, Pop go iawn lle roedd rhywun yn hanner casau Christian a hanner chwerthin hefo fo. Ond argian dan son am wylio hanfodol. Fe wylltiodd y cyd-gyflwynydd Mark Lamarr unwaith yn fyw ar yr awyr hefo’r cerddor reggae Buju Banton wrth i Banton barablu’n homoffobig.

Dwi’n cofio’n iawn sut gaeodd Lamarr geg Banton yn fyw ar yr awyr drwy ddweud wrtho “That’s crap and you know it!”. Meddyliwch hunna yn dod gan gyflwynydd i westai ar raglen teledu. Gwylio hanfodol.

Rhaid cyfaddef, does dim taw ar Terry Christian, mae ru’n mor feiddgar a heriol ond mae ei sylwadau dyddiol tuag at y Brexiters ar Twitter yn ddarlen hanfodol. Gan fod y Brexiters mor hoff o ddatgan ‘we knew what we voted for’, mae Christian yna yn syth pan mae ffatri ceir yn debygol o gau oherwydd ansicrwydd Brexit. Ond mae Christian yn gwthio go iawn.
Awgrym Christian yw y dylia’r Brexiters, rheini bleidleisiodd dros Brexit, fod yn barod i wirfoddoli colli eu swyddi cyn y rhai bleidleisiodd dros aros. Gan fod y Brexiters yn gwybod beth fyddai canlyniad Brexit – dim ond yn iawn eu bod yn rhoi eu dwylo yn yr awyr ac yn derbyn eu P45 cyn y ‘Remainers’. Fely hefyd medda Christian os bydd diffyg meddygyniaeth oherwydd Brexit.

Fe ddylia rheini belidleisiodd dros adael wirfoddoli i fynd i gefn y ciw neu’r rhes a derbyn eu tro. Os bydd dim meddygyniaeth ar ôl wel dyna oedd canlyniad y bleidlais. Fe wyddoch yn iawn am beth y pleidleisioch. Bydwch fodlon. Rhaid derbyn y poen tymor byr. Dwi’n chwerthin yn uchel wrth ddarllen sylwadau Christian – rhaid ei fod yn ymfalchio yn yr atgasedd sydd yn cael ei yrru yn ôl mewn ymateb gan y Brexiters!

Darnio’r Brexiters wrth iddynt ffonio ei raglen ar LBC mae James O’Brien hefyd a prin iawn iawn yw’r Brexiters sydd yn gallu dal eu tir yn erbyn O’Brien. A dweud y gwir mae’n gwneud darllen a gwrando trist go iawn. Prin iawn yw’r dadleuon o blaid Brexit sydd yn para mwy na hanner munud dan lach O’Brien.

Dwi yn dal i fethu meddwl am un fantais amlwg o Brexit. Yr un ‘tangible benefit’ sydd dan sylw Christian ac O’Brien – dwi’n dal i ddisgwyl ateb. Cofiaf yn 2016 sgwennu am y gwleidyddol-anllythrennog.  Weithiau teimlaf yn euog am hynny, ond ar adegau eraill dwi’n cael fy hyn yn gweiddi at y teledu wrth weld pobl yn Brychdyn sydd dal yn credo fod Brexit yn syniad da. Hyd yn oed os di Airbus yn cau. Brexit. Syniad da! Sut?

Cawn weld dros yr wythnosau nesa lle mae hyn oll am arwain. Bydd y Brexiters yn gweiddi “just get on with it” heb sylweddoli mai cymhlethtod yr holl beth sydd yn ei wneud bron yn amhosib. Hynny a’r gwleidyddion ddylia wybod yn well!

Monday 4 March 2019

Ysgol Magnelau Ail Ryfel Byd y Gogarth, Herald Gymraeg 20 Chwefror 2019





Hwn oedd y diwrnod cyntaf o ‘archaeoleg go iawn’ eleni a rhaid cyfaddef roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael diwrnod allan yn yr awyr iach (beth bynnag y tywydd) gyda fy nghydweithwyr.

Daeth y gwahoddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a’r bwriad oedd clirio llysdyfiant o amgylch safle’r Ysgol Magnelau ar y Gogarth sydd yn dyddio yn ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Felly rydym am gael diwrnod ar y Gogarth (beth bynnag y tywydd) a chael diwrnod yn gweithio ar safle milwrol Ail Ryfel Byd. Does dim modd i hyn beidio bod yn ddiwrnod da.

Rheswm arall dros fod yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect yma oedd fod hon yn safle newydd i mi. Ychydig a wyddais o flaen llaw er i mi gofio fy nhad yn son am y gynnau mawr yn tanio ar y Gogarth pan roedd yn aros gyda’i ewythr ym Mhenmaenmawr ar adegau yn ystod y Rhyfel. Does dim gwell na chyfle i ddysgu rhywbeth newydd.



Sefydlwyd yr Ysgol Magnelau Arfodirol ar y Gogarth gan y Magnelau Brenhinol wrth i’r ysgol wreiddiol yn Shoeburyness, Essex orfod symud gan fod yr Almaenwyr yn agosau at arfordir gorllewinol Ewrop. Codwyd y safle yn sydun gan y Peirianwyr Brenhinol ym Medi 1940 gan dyllu i ochr llethrau isaf y Gogarth, gosod llwyfanau ar gyfer adeiladau, gosod ffyrdd a’r holl isadeiledd angenrheidiol. Chwalwyd nifer o’r adeiladau ar ôl y Rhyfel ond yr hyn sydd yn bwysig ar ochr orllewinol y Gogarth yw fod cymaint o olion wedi goroesi hyd heddiw.
Drwy edrych yn ofalus mae sylfaeni adeiladau, sylfaeni ar gyfer y gynnau mawr, cuddfannau tanddaearol yma i’w gweld. Y broblem fwyaf efallai ar y darn yma o’r Gogarth yw fod yr eithin Ewropeaidd yn frith ar y llethrau ac yn tyfu dros a chuddio rhannau o safle’r Ysgol Magnelau Arfordirol.

Bwriad Cadw yn hyn o beth yw gwella’r cyfleoedd dehongli archaeolegol ar gyfer y cyhoedd tra fod Parc Gwledig y Gogarth yn gyfrifol am yr holl dirwedd. Felly roedd yr archaeolegwyr a’r naturiaethwyr yn cyd-gerdded llaw yn llaw yn yr achos yma. Pwysleisiaf pa mor dda yw hyn – mae’r holl amgylchedd a’r dirwedd yn bwysig – does dim blaenoriaeth gan un elfen. Rhaid cael cydbwysedd cadwriaethol – rhaid cadw’r olion Ail Ryfel Byd a’r glaswellt hynod sydd yn tyfu ar y galchfaen (limestone grassland).

Treulwyd rhan health y diwrnod yn clirio ardal y ‘magazine’, sef y storfa arfau (arfdy neu ystordy arfau) felly torri a symud yr eithin a wedyn ei losgi ar lwyfan bwrpasol er mwyn osgoi unrhwy niwed i’r archaeoleg neu’r glaswellt dan droed. Mewn geiriau arall – gwaith caled, ond ar ôl awr neu ddwy roedd rhywun yn dechrau gweld canlyniadau yr holl chwysu.

A dweud y gwir mae digon o waith yma i hyn fod yn brosiect tymor hirach a dyna yn sicr yw bwriad Cadw. Hyn a hyn sydd modd ei gyflawni mewn diwrnod, ond mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth. Roedd criw go dda o wirfoddolwyr wrthi yn clirio – pawb hefo’i focs bwyd, pawb i weld yn sgwrsio ac yn mwynhau.



Dros amser cinio cafwyd taith o rhan o’r safle gan Jeff Spencer o Cadw a braf oedd cael darganfod safleoedd eraill oedd wedi eu cuddio gan fieri ac eithin. O fewn hanner awr roedd pawb wedi cael cipolwg go dda ar tua hanner y safle. Yn ei gyfanrwydd mae’r olion Ail Ryfel Byd yn ymestyn am tua kilomedr i gyfeiriad y gorllewin ar hyd llethrau isaf y Gogarth.
Wedi goroesi mae’r tri adeilad ar gyfer y chwiloleadau (searchlight houses) er fod y goleadau a’r peirianwaith wedi hen fynd. Felly mae’r rhan yma o’r safle yn weddol amlwg a hawdd i’w ddehongli. Roedd rhywun yn sylwi fod darnau o’r rendro allanol yn disgyn yn rhydd o’r adeiladwaith ac yn amlwg byddai rhywun yn hoffi gweld mwy o waith cynnal a chadw ar yr adeiladau hyn.

Does dim disgwyl i’r gynnau mawr fod wedi goroesi ond mae’r llwyfannau ar eu cyfer ddigon amlwg ac yn enwedig y bolltau haearn ar gyfer gosod y gynnau – mae rheini dal yna ar y llawr hyd heddiw. Wedi goroesi hefyd mae un o’r adeiladau peiriannau ar gyfer y chiloleadau.



Dwi ddim am ddechrau ar ‘Brexit’ ond yn sicr bydd yr arian sydd ar gael ar gyfer archaeoleg yn debygol o leihau os yw Brexit yn digwydd. Bydd llai byth o arian ar gyfer archaeoleg os bydd Brexit yn mynd a ni dros y clogwyn di-gytundeb. Doedd neb yn trafod archaeoleg wrth drafod Brexit mwy na gafodd y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth ei chrybwyll. Mae’r pethau yma yn bwysig. Mae’r pethau yma yn cael effaith bois bach!

Y gobaith, os bydd y gwaith yn parhau ar y safle yma, yw bydd ein dealltwriaeth o dactegau a hyfforddiant milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cynyddu. Diddorol mewn ffordd yw fod yr ysgol wedi ei symud yma rhag y bygythiad o’r Cyfandir a’r yr union adeg (1940-41) pan roedd bygythiad arall fod yr Almaenwyr am ymosod arnom o’r Iwerddon niwtral neu di-duedd. Dyma pam fod cymaint o flychau amddiffyn yn ardal Nant Ffrancon, Pen y Pass a’r arfiodir gorllewinol rhwng Borth y Gest a’r Friog.

Diwrnod da felly. Fe gafwyd tywydd braf. Fe ddysgom rhywbeth newydd a’r gobaith yw cawn ddychwelyd cyn ddiwedd y flwyddyn i wneud mwy o waith clirio.