Thursday 22 March 2018

NME RIP, Herald Gymraeg 21 Mawrth 2018





Y newyddion a oedd yn bell o fod yn ‘syfrdanol’ wythnos yn ôl oedd fod y papur / cylchgrawn cerddorol NME (New Musical Express) yn dod i ddiwedd ei oes fel papur printiedig. O hyn ymlaen ar-lein yn unig y bydd modd darllen yr NME.

Peidiais a malio am yr NME yng nghanol y 1990au. Pan ddigwyddodd ‘Cool Britannia’, Oasis, Pulp, Blur a’r holl grwpiau ‘Britpop’ roedd y peth drosodd i mi. Rhyw atodiad oedd ‘Cwl Cymru’, dim fod bod yn cŵl yng nghyd destun cerddoriaeth o Gymru yn beth drwg ond roedd yr NME mwy fel comic na chylchgrawn erbyn y cyfnod yma.

Fedra’i ddim cofio pryd darllenais yr NME ddwetha, sydd yn beth od o ystyried yn fy nyddiau 6ed Dosbarth ddiwedd y 1970au roedd y papur wythnosol yn hanfodol. Roedd John Peel ar Radio 1, Nos Lun tan Nos Iau yn hanfodol a roedd yr NME ar ddydd Mercher yn hanfodol. Yng nghefn gwlad Cymru dyma oedd yr unig ffordd o wybod beth oedd beth fel roedd Punk yn troi ac yn esblygu yn Post-Punk.

Anodd cyfleu pa mor hanfodol oedd hanfodol – ond roedd Peel a’r NME yn holl bwysig, yn allweddol, yn cadw rhywun i fynd – dyma’r Brifysgol ysbrydol a diwylliannol – yr gwrthwenwyn i diffaethwch diwylliannol Gymraeg a Chymreig – yn oes y deinasoriaid denim fel cyfeiriodd Gruff Rhys at y cyfnod yma.

Heblaw am yr ysbrydoliaeth a’r wybodaeth am y gerddoriaeth newydd cefais rhywbeth arall o’r NME. Cefais flas ar yr arddull sgwennu. Ar y dudalen gefn fewnol rhestrwyd y cyfranwyr. Yn 1978 y golygydd oedd Neil Spencer (y gwr adolygodd y Sex Pistols am y tro cyntaf). Ar y staff roedd Tony Parsons a Julie Burchill. Cyflogwyd Parsons a Burchill fel yr ‘hip young gunslingers’, neu dyna’r stori oleiaf.

Tafod neu deipiadur miniog oedd gan Burchill. Hi fwy na neb ysbrydolodd fy ngholofnau yn Y Faner yn ddiweddarach yng nghanol y 1980au. Fel rwyf wedi son sawl gwaith, chefais i rioed fy ngolygu na sensro gan Emyr Price y golygydd – a dweud y gwir chefais ddim ond anogaeth ganddo a rhywdd hynt i herio’r Byd Cymraeg.

Heddiw byddaf yn chwerthin wrth feddwl am yr erthyglau ffwrdd a hi haerllug yma yn Y Faner ond go iawn doedd dim byd newydd yna na fydda rhywun yn gael yn wythnosol gan yr hen Julie yn yr NME. Y dacteg oedd herio, cega, lladd ar, enllybio a darnio diwylliant Cymraeg canol y ffordd. Digon o waith fod mwyafrif o ddarllenwyr Y Faner wedi deall y ‘reference-point’. Doedd enw Julie Burchill ddim yn un cyfarwydd i’r Byd Cymraeg.

Sais braidd oedd Parsons. Llundeiniwr. Dim diddordeb yng Nghymru dybiwn i. Er dwi ddim yn gwybod hynny. Nath Parsons rioed fy nharo fel rhywun byddwn yn ei hoffi. The Clash oedd ei grwp o yn hytrach na’r Sex Pistols ac ar y pryd (1978), yn fy marn chwyldroadol bach i, roedd hynny yn gwneud Parsons chydig bach o fabi mam – dyna oedd fy marn am unrhywun oedd yn hoffi’r Clash dros y Pistols. Yr opsiwn hawdd.

Bellach mae Parsons yn sgwennu erthyglau yn cyfiawnhau safbwyntiau UKip. O blaid Brexit. Mae o bellach wedi troi mewn i’w dad. Little Englander bron a bod. Siomedig ond ddim yn sypreis mawr chwaith. Efallai mae’r Mwyn ifanc oedd yn iawn i ddrwgdybio Parsons. Wrth heneiddio mae Parsons fel Rotten, fel Morrissey, fel Noel Gallagher ôll yn eu tro wedi dilyn llwybr tuag at wneud esgusodion am Brexit. A dyna ddiwedd ar wrando arnynt gan Mr Mwyn i chi!

Gohebydd arall na ddalltais ei erthyglau erioed oedd Paul Morley. Amhosib oedd dehongli na dilyn ei erthyglau a fe ddaeth yn adnabyddus am sgwennu darnau anealladwy. Rhyfedd o fyd, ond roeddem yn derbyn Morley yn hyn o beth. Dim siawns o ddallt am be mae o yn son ond mae Morley yn ‘cŵl’. O Fanceinion. Gwisgo mewn du.

Bellach mae Morley yn ‘pundit’ - rhywun sydd yn ymddangos ar raglenni radio a theledu i drafod y diwylliant pop. Punk, post-Punk a Manceinion yw arbenigedd Morley. Go brin gwelwch chi raglen am Joy Division / New Order heb Morley. Dwi ddim yn meindio Morley – os unrhywbeth rwyf yn gallu uniaethu ac ef. Dwi hefyd yn gwneud rhan sylweddol o fy mywoliaeth yn trafod diwylliant. Dwi’n cael fy nahlu mwy am siarad am be dwi’n neud neu wedi wneud nac ydwyf am wneud y pethau hynny.

Papur inc oedd yr NME, felly roedd rhywyn yn cael bysedd du wrth ei ddarllen. Wrth sgwennu’r golofn hon dwi’n edrych ar gopi o 19eg Awst 1978 hefo Steve a Paul o’r Pistols ar y dudalen flaen. 18 ceiniog oedd pris yr NME. Llai na 20ceiniog felly. Anodd credo rhywsut. 18 ceiniog am y fath addysg.


Erthygl David Quantick

Yn fy swyddfa mae rhai cannoedd o gopiau o’r NME yn dyddio rhwng 1977 a 1987. Rhai yn cynnwys adolygiadau, lluniau a chyfweliadau gyda’r Anhrefn, y grwp roeddwn yn aelod ohonno rhwng 1983 a 1993. Y tro cyntaf i ni gael cyfweliad yn yr NME, fe gyfeiriodd David Quantick atom fel Welsh rarebeat. Yn ei ffordd bach ei hyn roedd Quantick yn garedig – ond roedd rhaid i’r NME gael penawd bachog / doniol.

Anghofiaf faint o ‘Cwm Dancing’, ‘Tom Jones’, ‘Shirley’ a ‘daffodils’ fu mewn penawdau ond roedd ein hyder an ffydd yn drech ac unrhyw ohebydd NME gyda geirfa greadigol ystradebol. Poenodd ddim o hyn y grwp!

Perthyn i’w gyfnod oedd yr NME – fydda’i ddim yn ei golli.



Photoshoot cyntaf Anhrefn i'r NME
LLuniau: Bleddyn Butcher


Thursday 8 March 2018

STOP BREXSHIT, Herald Gymraeg 7 Mawrth 2018





‘The Brexit people voted for’, ydi’r ystrydeb ddiweddaraf i gael ei chwydu allan gan yr arch-Brexiteers er fod pawb yn ei iawn bwyll yn gywbod yn iawn fod y bleidlais dros adael yr UE wedi bod yn un aml-reswm a chymleth iawn. Mewnfudwyr oedd yn poeni gormod o’r boblogaeth a bleidleisiodd dros adael ond byddai eraill yn dadlau fod nhw isho gweld mwy o arian yn mynd i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Doedd na rioed un Brexit.

Cawsom ‘Brexit means Brexit’, ‘Red, White and Blue Brexit’ a wedyn ‘Jobs First Brexit’. Malu awyr llwyr. Golygu dim. A’i oes yr ystradebau (hawdd / rhy hawdd) yw hi felly? Oes hyn a hyn o eiriau ar Trydar a dyna ni. Popeth yn syml. Dim brawddegau rhy hir.

Pwy fydda wedi dychmygu? Dyma ni yn gwrando ar areithiau diweddar John Major a Tony Blair a beth bynnag rydym yn ei feddwl am safbwyntiau a pholisiau Major a Blair yn y gorffennol (a mae digonedd o bethau i’w anghytuno a nhw) rhaid cyfaddef fod y ddau wedi mynegi pryderon ddigon pwyllog, call a rhesymol am effeithiau bosib Brexit.

Iawn ein bod yn cytuno /anghytuno a gwleidyddion – dyna ydi gwelidyddiaeth. Iawn ein bod yn dadlau. Iawn ein bod yn trafod. Welais i rioed gymaint o ddadlau yn erbyn dadlau na sydd yn dod o geg y Brexiteers. ‘You lost – get over it’, ‘Let’s just get on with it’. Chwerthinllyd onibai fod eu dadleuon mor ddifrifol wrth-ddemocratig (ond tydi’r eironi yna byth yn mynd i fod yn amlwg iddynt).

Does dim ond rhaid gwylio BBC Question Time yn wythnosol i glywed yr ystradebau yn llifo gan bobl yn gweiddi yn fochgoch - ond peidiwch a galw nhw’n hurt. Hurt bost yn agosach ati. Mae’r ddadl bellach wedi troi yn ddadl dros beidio cael dadl o gwbl. Tydi’r Senedd ddim hyd yn oed i ddadlau yn ôl rhai o’r mwyaf bochgoch.’jest get on with it’.

Yn amlwg mae pob cell yn fy nghorff yn gwrthwynebu ffolineb Brexit ond mae’r ffaith fod cymaint bellach ‘wedi diflasu’ hefo’r holl drafod am Brexit yn dangos yn glir pa mor bell rydym yn llithro lawr llwybr diniweidrwydd gwleidyddol – a mae hyn yn frawychus. Tydi Brexit heb ddigwydd eto. Dyna oedd pwynt Major – roedd pleidlais dros adael heb wybod lle roedd y pwynt cyrraedd.

Dychmygwch ysgariad. Cytuno i ysgaru. Dechrau gweiddi – ‘Jest get on with it’, ond mae angen datrus pethau yn gyfreithiol, mae angen delio gyda’r tŷ, yr eiddo, y plant. ‘Jest get on with it’. ‘You lost’. Fydda neb yn gweld hyn yn rhesymol nac yn effeithiol go iawn er gwaetha y drama bosib o ysgaru. Er mai’r cyfreithwyr sydd yn ennill ‘go iawn’ fel mae nhw’n dweud – anodd datgymalu heb ddelio a’r materion cyfreithiol – pam fod hynny mor anodd i’w weld yng nghyd destun Brexit? (Heblaw wrthgwrs fod Davies, Fox, Gove a Boris wedi dweud byd pethau yn hawdd – na phoener)

Felly oedd hi ar ‘Pawb a’i Farn’ yn ddiweddar ar S4C. Dyma chi raglen dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle i fod ar y panel ond mewn gwirionedd byth yn fwynhau. Tydi’r gwleidyddion ar y panel byth yn datgelu gormod, gwell iddynt beidio. Y tro yma gofynwyd gwestiwn am brinder nyrsys a rhaid oedd ateb drwy ddweud fod Brexit yn cael effaith yn barod o ran prinder nyrsyr yn enwedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Do fe gafwyd gymeradwyaeth gan rai, ond mynegwyd diflastod gan eraill ein bod yn dal i drafod Brexit, yn enwedig felly gan ‘trols’ Twitter. Bron a bod fod rhywun yn gwylltio cymaint am hyn a mae rhywun yn anghytuno a Brexit ei hyn. Tydi’r ddadl ddim drosodd. A hynny o bell ffordd.

Dim ond Dydd Gwener dwetha cafwyd araith May yn amlinellu yn fras ei gweledigaeth ar gyfer Brexit. Beth bynnag eich barn – roedd angen gwrando ar May er mwyn cael y cyfle i weld sut mae’r ddadl a’r dadleuon am ddatblygu dros y misoedd nesa.

Bron a bod (a mae hyn yn ddewud mawr) ond bron a bod fod gan rhywun biti dros May. Digon o waith fod Corbyn yn dymuno gwisgo ei sgidiau hi ar y foment yma achos mae hi mewn lle anodd iawn. Yn gyntaf (fel sydd wedi bod mor amlwg erioed gyda Brexit) rhaid i May rhywsut neu’i gilydd uno’r farn o fewn y Ceidwadwyr. Dyma rhywbeth roeddwn yn ddadlau hefo’r Ceidwadwr Aled Davies a’r Pawb a’i Farn.

Yn ail, rhaid darbwyllo’r Undeb Ewropeaidd fod modd dod i gytundeb a chyfaddawd – anodd gwybod pa mor agos yda ni i’r lan ar ôl araith may dydd Gwener. Do fe awgrymodd May y bydd rhai pethau yn ‘wahanol’ os bydd Prydain yn gadael y Farchnad Sengl. Dyma y tro cyntaf dwi’n credu i ni glywed hyn gan y Llywodraeth yn hytrach na rhai fel Soubry. Beth oedd May yn ddweud go iawn yw fod yn berffaitrh bosib bydd rhai sectorau a rhai ohonnom mewn sefyllfa gwaeth tu allan i’r Farchnad Sengl.

Ar ddiwedd yr araith gofynwyd i May os oedd yr holl fusnas Brexit yma werth y drafferth? Chwerthodd May a wedyn ateb nad oedd gan y Llywodraeth ddewis ond ymateb i ganlyniadau’r refferendwm. Pleidleisio dros aros wnaeth May. Roedd y wen yn adrodd cyfrolau. Pa wleidydd, nid Corbyn hyd yma yn sicr, sydd yn mynd i wynebu’r wlad a chyfaddef fod yr holl beth yn gangymeriad anferth.

Efallai ar ddiwedd yr holl broses o drafod gyda’r UE bydd pethau yn gliriach. Bydd y canlyniadau o adael yn fwy amlwg. Y manteision (oes rhai?) yn amlwg. Rwyf yn byw mewn gobaith bydd pawb yn callio.