Saturday 24 December 2011

LIKE PUNK NEVER HAPPENED Top 5 SRG.

Rhestr arall SRG ddim mewn trefn o reidrwydd. Pob record wedi ei ryddhau ar ol 1977, sydd yn awgrymu fod Strummer wedi methu eu cyrraedd mewn pryd.

1. ROCYN  "Sosej, Beans a Chips"
Marcia "Like Punk Never Happened" 10 allan o 10.
yn bennaf am y "We He!"

2. ERYR WEN  "Siop Dillad Bala".
Marcia "Like Punk Never Happened" 8 allan o 10.
am sgwennu can am siop ddillad yn y Bala; Caffi'r Cyfnod a mi fydda rhywun yn madda iddynt !



3. OMEGA "Nansi"
Marcia "Like Punk Never Happened" 6 allan o 10.
Prog. Ond mae ychydig o faddeuant gan fod Gorwel Owen yn chwarae allweddellau ar hwn.



4. DAFYDD IWAN  "Yma o Hyd"
Marcia "Like Punk Never Happened" 7 allan o 10.
Ail anthem Cymru ddiwedd nos. Lle mae'r Billy Bragg Cymraeg ?

 
 
5. CARYL "Chwarae'n Troi'n Chwerw"
Marcia "Like Punk Never happened" 6 allan o 10.
Stadium Rock yn Gymraeg - Anthem ar gyfer Radio Cymru ond er mawr syndod dyma cover version gan Gruff Rhys  http://youtu.be/OWMOlOTgf4Y

No comments:

Post a Comment