Wednesday 26 October 2016

Tydi'r Brexiteers ddim i gyd yn hiliol, Herald Gymraeg 26 Hydref 2016





Dwi’n dal i chael hi’n anodd gweld unrhyw fanteision o Brexit. Rhai misoedd ers y refferendwm does fawr o ddim wedi cael ei ddweud fyddai hyd yn oed yn cynnig llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol. Ar ben hyn oll mae’n ymddangos fod Corbyn ddigon hapus i fod yn arweinydd plaid sydd am wrthdystio ar yr ymylon yn hytrach nac arwain Llywodraeth.

Do fe lwyddodd Corbyn i chwyddo ei fandad ond dyna chi wastraff amser llwyr oedd yr etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Pam? Doedd Owen Smith byth yn mynd i argyhoeddi. Fydd neb yn cofio amdano mewn blwyddyn. I unrhywun fel fi a ddaeth i oedran pleidleisio yng nghyfnod Punk, does dim gobaith fod rhywun a barf (a mwy na thebyg yn gwisgo sandalau) yn mynd i’n argyhoeddi chwaith. Mae Corbyn yn rhy ystrydebol o’r chwith barfog fyddai’n destyn gwawd rhaglen gomedi fel The Young Ones. Mae angen rhywun llawer mwy siarp. Dwi’n meddwl am wleidydd mor siarp a Weller neu Strummer (neu Sturgeon a McGuinnes). Nid cadach llestri.

Wrthgwrs dydi’r Toriaid ddim yn hiliol. Wrthgwrs dydi’r Brexiteers ddim yn hiliol. Ddim i gyd. Ond o wrando ar Rudd yng nghynhadledd y Toriaid hawdd fyddai drysu a dechrau meddwl ein bod yn gwrando ar ddarlith hanesyddol. Dwi’n meddwl am y math o bethau oedd yn cael eu crybwyll ar y Cyfandir yn ystod y 1930au. ‘Foreign’ hyn a ‘foreign’ llall. ‘British’ hyn a ‘British’ llall.

Anhygoel, angrhedadwy, brawychus. Pwy fydda wedi disgwyl clywed iaith fel hyn? Doeddwn rioed yn ffan mawr o Cameron ac Osborne ond dwi ddim yn credu bod nhw cweit fel Rudd, Hunt a May. Dyma ymdrech amlwg i fod yn fwy UKIP na UKIP gan Theresa a’i Brexiteers. A does neb yna i’w gwrthwynebu.

Dyma son am fod yn hunnan gynhaliol gyda doctoriaid Prydeinig o fewn deng mlynedd. Hunt oedd hyn. Anghredadwy. Anghyfrifol. Ac eto, pam ddylia rhywun synnu hefo Hunt? Ond er gwaetha bygythiadau Rudd i gosbi busnesau am gyflogi tramorwyr os na chafodd Prydeinwyr gynnig y swyddi gyntaf, doedd na ddim golwg o Corbyn, dim siw na miw. Anghredadwy.

Felly dyma Theresa yn croesi i’r ochr arall yn gynt na Farage yn ceisio ymddeol. Yn wreiddiol roedd rhywun yn meddwl fod penodi Davis, Fox a Johnson yn ffordd iddi roi y bai ar y triawd doeth pan fydd yr holl beth yn mynd yn fler. Ond na, dyma Theresa yn troi am y dde cyn i neb gael cyfle i’w chymharu a Thatcher. Clapio mawr gan y Toriaid. Y mwya y rhethreg y mwya roedd y clapomedr yn cyrraedd y coch.

Byddai unrhywun call yn gweld fod addewidion am gael Gwasanaeth Iechyd wedi ei staffio’n llwyr a Phrydeinwyr yn hollol amhosib os nad hollol afresymol. Ond, dyma’r clapomedr yn y coch ac yn aros yn y coch. Dyma mae’r Brexiteers eisiau ei glwyed, ‘British jobs for British workers’. Does dim synnwyr yn y peth. Heb dramorwyr o ddoctoriaid a nyrsys fydd na ddim Gwasanaeth Iechyd.

Ond nid y gwirionedd mae’r Brexiteers eisiau ei glywed. Dwi’n methu coelio fod May, Rudd a Hunt wedi cael dweud y fath bethau heb achosi chwyldro. Davis, Fox a Johnson ella – mae nhw yn dweud pethau mawr o hyd. Felly beth am gael gwared a phob doctor o dramor a fydd na neb ar ôl i’n trin. Gadewch i’r cleifion ddioddef ond oleiaf bydd Brexit yn golygu Brexit.


Rhywsut rydym wedi cyrraedd pwynt fydda wedi bod yn amhosib yw amgyffred blwyddyn yn ôl. Fel mae pawb yn dweud, dydi’r Brexiteers ddim yn hiliol, ond mae’n anodd meddwl am ddisgrifiad arall addas ar eu cyfer wrth wrando ar iaith a rhethreg fel hyn.


Thursday 20 October 2016

Adolygiad Bendith yn Galeri, Herald Gymraeg 19 Hydref 2016





Dwi’n siwr bysa pawb yn cytuno fod ‘cadw safon’ ac yn wir ‘codi’r safon’ yn bwysig yng nghyd destyn diwylliant cyfoes poblogaidd Cymraeg ond tybiaf fod gan pawb ei farn ynglyn a beth yn union yw safon a sut yn union mae mesur hynny. Tydi ‘poblogaidd’ ddim o reidrwydd yn gyfystryr a ‘safon’ a mae achosion di-ri o’r hyn rwyf yn ei alw’r ‘nodwedd gyffredin’, y saff, y gor-syml, y ceidwadol yn britho’r dirwedd ddiwylliannol Gymraeg.

Petrusaf cyn gwneud, ond rwyf am awgrymu ein bod fel Cenedl wedi arbenigo dros y blynyddoedd mewn dyrchafu’r cyffredin a’r cymedrol yn y byd diwylliannol.  Efallai fod hyn yn mynd yn ôl i’r Noson Lawen, y Steddfod Pentref, y ddrama lleol, y gig yn y dafarn, y felltith gân actol neu yn waeth byth, yr opera roc. Yn eu lle mae rhain yn iawn. Cyfle i’r werin bobl gael perfformio. Ond, os mai’r gymhariaeth yw peldroed, peidied drysu rhwng gêm 5 pob ochr ar fuarth yr ysgol a thim Cymru yn chwarae yn Euro 2016.

Canlyniad dyrchafu’r amatur, y cyffredin a’r cymedrol yw drysu pethau. Drwy chwistrellu niwl dros y cae peldroed does neb yn gweld pwy sy’n cicio’r bel – a felly hefyd gyda diwylliant poblogaidd. Mae’n debyg y byddaf yn cael fy ngweld fel snob diwylliannol yn sgwennu hyn ond dwi’n credu ei bod yn ofnadwy o bwysig ein bod yn gwahaniaethu. Gwahaniaethu rhwng y gwir dalentog - a’r amatur sydd yn iawn yn ei le.

Felly, gan gytuno neu dderbyn fod angen croesawu pob perfformiad ac ymdrech gan yr amatur, a phob lwc iddynt, a fod cael pobl yn ymwneud a’r celfyddydau a diwylliant Cymraeg yn beth pwysig – pwysleisiaf mai cyd destun sydd yn bwysig. Mae lle i bopeth ond fod popeth yn ei le.

A gan dderbyn hefyd fod hyn oll yn fater o farn, dyma awgrymu fy mod wedi gweld un o’r perfformiadau mwyaf grymys yn ddiweddar i mi weld ers amser. Perfformiad oedd hwn yn y Galeri Caernarfon gan Carwyn Ellis o’r grwp Colorama ar y cyd ac aelodau’r grwp gwerin cyfoes Plu a cherddorion lled glasurol eraill. Naw cerddor i gyd.

Beth bynnag yw diffiniad ‘athrylith’, rwyf yn eitha sicr fod Carwyn Ellis yn un o rheini. Ers amser bellach rwyf wedi bod yn ffan mawr o ganeuon Colorama, fel yr amlwg ‘Dere Mewn’ a’r trefniant bendigedig o ‘Lisa Lan’, ond rwan dyma weld Carwyn yn ymuno a thriawd Plu i greu prosiect Bendith gan creu rhywbeth wirioneddol fendigedig.

Digon hawdd yw osgoi ystrydeb fel ‘siwpergrwp,’ achos nid dyna sydd yma, ond amhosib yw osgoi’r hollol amlwg gyda Bendith - fod yma dalentau anhygoel. Yn amlwg mae’r ffaith fod Plu yn cynnwys brawd a dwy chwaer yn creu undod cerddorol sydd yn ymylu ar y perffaith. Nid ers Linda a Roy Plethyn y gwelwyd y fath raen o ran cyd-ganu ar lwyfannau Cymru.



Caneuon ‘gwerin’ sydd gan Bendith ond fod trefniant lled glasurol a llinynnol i rai ohonnynt heb son am ambell offeryn gwahanol iawn. O ran creu y CD a’r perfformiad byw rydym yn gorfod dychwelyd at y gair ‘athrylith’. Os mai gweledigaeth Carwyn yw hyn oll, rhaid, does dim dewis, ond cydnabod athrylith wrth ei waith.


Wrth ei longyfarch ar ddiwedd y sioe awgrymais wrth Carwyn fod pob eiliad wedi cyfri. Doedd dim gwastraff a dim gor-ddefnydd yn ystod y perfformiad a felly hefyd gyda’r CD. Mae popeth yn ei le ac i bwrpas. Dyma’r peth agosaf at berffeithrwydd cerddorol dwi di glywed ers amser – efallai ers ‘Y Dydd Olaf’ gan Gwenno.


Mater o farn yn sicr – ond dyma brosiect sydd wedi dyrchafu Cerddoriaeth Gymraeg i’w briod le – yn agosach at y nefoedd!

Wednesday 12 October 2016

Cloddio yng nghastell Carndochan, Herald Gymraeg 12 Hydref 2016





1282 y flwyddyn dyngedfennol o ran Hanes Cymru. Dyna’n ‘1066’ ni fel Cymry Cymraeg yn sicr, (onibai am 1588). Ond mae hyn 734 o flynyddoedd yn ôl. Rwyf wedi trafod arwyddocad 1282 ar seicoleg y Cymry sawl gwaith yn ddiweddar. Mewn cyfweliad gyda gwefan Welsh Not, awgrymais fod y ffaith ein bod wedi ein ‘gormesu’ ers 1282 wedi creu rhyw fath o is-ddiwyllliant negyddol a masocistaidd ymhlith rhai o’r Cymry – dyma’r peth sydd yn cadw’r fflam yn fyw.

Rwyf hefyd wedi ymdrin a hyn yn fy llyfr nesa ar archaeoleg wrth holi pam fod y cestyll Cymreig (sef rhai tywysogion Gwynedd yn benodol) yn cael eu ‘hanwybyddu’. Awgrymaf yn y llyfr fod y diwylliant o gael ein gormesu yn ein rhwystro rhag gweld a mynd am dro. Llawer haws rhoi bai ar bawb a phopeth (a rhywun arall) nac ydi darllen map OS a mynd i grwydro.

Yr ystrydeb arferol yw fod yr holl sylw a ffocws yn cael ei roi ar gestyll Edward I. Nawr, rwyf yn cydnabod bod elfen o wirionedd yn hyn ond, a’r ond mawr, yw pwy sydd yn caniatau hyn? Awgrymaf yn garedig mai’n difaterwch ni yw’r broblem fwyaf nid cyrff cyhoeddus, athrawon gwael neu hyd yn oed gweledigaeth (neu ddim) Llywodraeth Cymru.

Os yw’n haws beio’r ‘rhywun arall’ na darllen map OS, a dyna rwyf yn ei awgrymu, mae’n rhaid i ni ddechrau felly, geisio newid agweddau – a hynny ymhlith y Cymry Cymraeg.  Yn aml iawn wrth drafod hyn byddaf yn gofyn y cwestiwn, ‘faint o honnoch sydd yn ymwybodol o Gastell Carndochan?’

Rydym newydd gwblhau’r trydydd tymor o gloddio yng nghastell Carndochan gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Dyma chi un o gestyll tywysogion Gwynedd ar gopa bryn a chraig serth ger Llanuwchllyn. O bosib, dyma’r castell Cymreig lleiaf adnabyddus yng Ngwynedd, onibai ein bod yn dechrau son am gastell Cymer (lle????).

Dyma chi safle a hanner, ac wrth edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain dros Ddyfffryn Dyfrdwy a Llyn Tegid mae’n weddol amlwg pam y lleolid y castell yma gan dywysogion Gwynedd. Byddai’r castell hefyd wedi cadw golwg ar y ffordd drosodd am Drawsfynydd ac Eryri, felly mae’r lleoliad yn arwyddocaol heb son am fod yn drawiadol.




Ond, yn achos Carndochan, mae’n bur debyg na fu hir oes na chyfnod wirioneddol llewyrchus i’r castell. Rydym yn dysgu llawer wrth gloddio ac awgrymir dyddiad rhywbryd yng nghanol y 13eg ganrif gan ddyddiadau radiocarbon. Oleiaf mae hyn yn y cyfnod cywir ond does dim ddigon o fanylder o’r dyddiadau radiocarbon i allu cadarnhau 100% os mai un o gestyll Llywelyn ab Iorwerth yw hwn ynteu Llywelyn ap Gruffudd, neu fod y ddau wedi adeiladu yma.

A beth oedd pwrpas y castell? A’i rheoli de Gwynedd a Dyffryn Dyfrdwy oedd y bwriad. Beth fyddai’r berthynas a’r castell llawer mwy sylweddol yn y Bere ger Abergynolwyn?
Awgrymir fod gwahanol gyfnodau o adeiladu yma. Mae’r archaeoleg wedi dangos fod mortar gwahanol wedi ei ddefnyddio mewn gwahanol ddarnau o’r muriau, ac o bosib, a phwysleisiaf yr ‘o bosib’ yma, fod y twr siap D deheuol o wneuthuriad gwahanol i weddill y castell.

Cafwyd hyd i fynedfa’r castell y llynedd ac eleni fe wnaethpwyd llawer mwy o waith cloddio ar y rhan yma o’r castell gan ddarganfod darn syweddol o’r bwa fyddai ar un adeg wedi sefyll dros borth y castell. Y broblem fawr gyda gweithio yng Ngharndochan a cheisio dehongli’r safle yw fod gymaint o gerrig wedi disgyn o’r muriau a’r tyrau fel fod unrhyw weddillion wedi eu claddu o dan dunelli o gerrig.




Gwaith caled felly, symud cerrig (trwm) er mwyn gweld beth sydd yna, ond does dim modd disgrifio mewn geiriau pa mor wirioneddol freintiedig yr oeddem fel criw i gael y cyfle i gloddio yma. Dyma ni yn gweld muriau a waliau (a bwa) sydd wedi eu cuddio ers canrifoedd, dyma ni yn gweithio ar safle a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr neu Llywelyn Ein Llyw Olaf neu’r ddau.

Nid fod angen gwneud hynny, ond bachais ar y cyfle yn ddyddiol i atgoffa pawb ar y criw pa mor freintiedig oedda ni. Ond roedd pawb yn gwybod hynny, pawb yn angerddol am eu gwaith a dangoswyd hynny wrth i bawb weithio drwy’r gwynt a’r glaw mwyaf erchydus bron yn ddyddiol.

Rydym yn dechrau gweld fod gwneuthuriad y castell yn un weddol sâl. Fe weithiais yn ystod yr wythnos olaf ar ddarn o’r twr sgwar canolog a synnais pa mor wael oedd  sylfaen y twr. Nid dyma fyddwn wedi ei ddisgwyl o gwbl, felly mae’n rhaid i ni ystyried fod rhannau o’r castell wedi disgyn ar ôl cyfnod y tywysogion oherwydd gwneuthuriad y castell. Fod y mortar yn pydru neu erydu a’r cerrig yn disgyn.

Er dweud hyn, fe ddangosodd y cloddio archaeolegol fod yna ‘batter’ ar waelod y twr canolog, sef fod y waliau yn ymestyn am allan ar y gwaelod fel modd o gryfhau gwelod y twr. Wrth chwerthin dros banad, rhaid oedd gofyn os oedd adeiladwyr Llywelyn yn chydig bach o ‘gowbois’?

Anodd dweud os bu i’r castell gael ei chwalu drwy ymosodiad neu yn fwriadol neu drwy dreigl amser yn unig? Rydym wedi cael hyd i olosg oddifewn i’r twr canolog ond cawn weld os bydd hyn yn ddigon i awgrymu rhyw anffawd neu ymosodiad.


Yr hyn sydd yn bwysig, ofnadwy o bwysig, yw fod Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Cadw a Pharc Cenedlaethol Eryri yn gwneud y gwaith yma yng Ngharndochan.Dydi’r cestyll Cymreig DDIM yn cael eu hanwybyddu!

Thursday 6 October 2016

Yr eneth ga'dd ei Gwrthod, Herald Gymraeg 5 Hydref 2016





Gwahoddiad gan Carys Jones o Rhyd-y-Glafes i ymweld a siambr gladdu Tan y Coed ger Llandrillo, Corwen ddechreuodd y detour. Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn gyfarwydd a hoffter Mr Mwyn a’r syniad o grwydro a chymeryd ambell detour. Felly ar ôl i ni gadarnhau, neu oleiaf awgrymu yn weddol bendant, mai siambr gladdu o’r arddull Hafren-Cotswold yw’r un yn Nhan y Coed yn dyddio o’r cyfnod Neolithig, doedd ond angen hanner awgrym gan Carys ein bod am ymweld a charreg fedd ‘yr eneth ga’dd ei gwrthod’ nes ein bod yn neidio nol mewn i’r car a fwrdd a ni am Gynwyd.

Rhaid cyfaddef, mai fersiwn y grwp gwerin amgen 9Bach yw’r ferswin mwyaf cyfarwydd gennyf, ac yn sicr y trefniant gorau gennyf o’r ‘Eneth ga’dd ei gwrthod’. Fel arall, chydig iawn a wyddom am hanes y gân go iawn, felly roedd ymweld ag eglwys Cynwyd yn apeilio yn fawr.

Wrth i ni gyrraedd Eglwys Ioan yr Efengyl, dyma Carys yn dangos llun o’r garreg fedd a’r her gyntaf oedd lleoli’r carreg o fewn y fynwent, ond gyda’r eglwys yn ymddangos yn y cefndir yn y llun roedd y ddau ohonnom yn sefyll wrth y garreg fedd o fewn ychydig eiliadau. Digon hawdd oedd cael hyd iddi.



Jane oedd enw’r ferch a ga’dd ei gwrthod, a dim ond 23 oed oedd hi yn diweddu eu bywyd yn Afon Dyfrdwy. Tristwch ac unigrwydd sydd yn cael ei gyfleu ym mhennill gyntaf y gân:

Gadwyd fi yn unig
Heb gar na chyfaill yn y byd
Na chartref chwaith fynd iddo

Wedi ei gwrthod gan ei chariad a wedyn gan ei theulu (a’i am fod yn feichiog?) roedd pethau yn ofnadwy o ddu ar Jane yn ystod mis Gorffennaf 1868, Croeso i fyd rhagrithiol yr Eglwys a Chapeli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim sicrwydd pwy gyfansoddodd y geiriau a’r alaw.

Wrth syllu ar frithyll yn nofio yn Afon Dyfrdwy, edmygai Jane symylrwydd bywyd y brithyll ac awchai am gael marw dan y dwr yn syml heb neb yn ei hadnabod. Er mor hyfryd yw alaw’r gan, neu pa mor effeithiol yw trefniant grwp fel 9Bach, does dim dwy waith fod y geiriau, o wrando yn ofalus, yn iasoer.

Yr hyn sydd yn gwneud y garreg fedd yn fwy ‘diddorol’ wrthgwrs yw dymuniad Jane na ddylid codi carreg i gofio amdani. Diddorol hefyd yw ymweld a charreg fedd sydd yn chwarae rhan mewn cân werin mor amlwg – mae hon yn stori wir a mae’r dystiolaeth o’n blaen yn Eglwys Sant Ioan.

Fel gyda cymaint o ganeuon gwerin Cymreig, does dim diweddglo hapus:

Y boreu trannoeth cafwyd hi
Yn nyfroedd glan yr afon
A darn o baour yn ei llaw
Ac arno’r ymadroddion
“Gwnewch immi fedd mewn unig fan
Na chodwch faen na chyfnod
I nodi’r fan lle gorwedd llwch
Yr Eneth ga’dd ei Gwrthod

Ond nawr te, dyma lle mae pethau yn mynd yn fwy diddorol. Pwy yn union aeth yn groes i ddymuniadau Jane? Pryd codwyd y garreg iddi? Apel sydd gennyf unwaith eto am fwy o wybodaeth. Apel hefyd i godi ychydig mwy o ymwybyddiaeth am arwyddocad y garreg fedd di-nod yma yng Nghynwyd.

Sylwais ar gofnodion Archwilio ar y we, sef rhestr a disgrifiad safleoedd archaeolegol yng Nghymru fod eglwys Cynnwyd yn cael sylw ond doedd dim sylw o gwbl am yr ‘eneth ga’dd ei gwrthod’. Dydi’r archaeolegwyr ddim yn gyfarwydd a’r traddodiad gwerin yn amlwg.


Gyda llaw mae siambr gladdu Tan y Coed ar dir preifat ond mae hi i’w gweld yn glir o’r ffordd B4401 ychydig i’r de o fferm Rhyd-y-Glafes rhwng Llandrillo a Cynwyd ac ar yr un ochr a’r afon o’r ffordd.