Thursday 21 November 2019

Adolygiad Chip Taylor @ Galeri, Herald Gymraeg 13 Tachwedd 2019



RM a Chip Taylor @Galeri
Llun: drwy garedigrwydd Joan Taylo5

Mae’n debyg fod rhywun yn chwilio am ysbrydoliaeth drwy’r amser. Rwyf yn crefu’r peth. Bron fel cyffur ar gyfer lleddfu’r boen. Ysbrydoliaeth ddiwylliannol sydd bwysicaf i mi. Mae hyn yn cynnwys ysbrydoliaeth creadigol. Rhaid i ddiwylliant a chreadigrwydd gerdded llaw yn llaw ar hyd y llwybrau gwledig a mynyddig Cymreig. Neu y strydoedd Dinesig Cymreig wrth reswm.

Rwyf wrthi yn ddarllen llyfr Debbie Harry ‘Face It, A Memoir’. Hunangofiant o fath, maniffesto efallai. Onid yw ‘memoir’ yn llawer gwelll disgrifiad. Strydoedd Efrog Newydd yw pererindod Debbie Harry. Y Lower East a Lower West Side, St Mark’s Place a Soho. Efallai fod Debbie yn lwcus, achos ar yr union adeg mae hi yn ceisio darganfod ei hyn a beth yw’r Byd Celf yn Efrog Newydd mae eraill fel Patti Smith ac aelodau Television a’r Ramones ar yr union ru’n daith.

Yn weddol amlwg, mewn dinas mor fawr ac Efrog Newydd, ac yn sicr wrth fynd yn ôl i’r 1970au lle roedd rhent yn rhad mewn ardaloedd llai ‘dymunol’, roedd gobaith dod ar draws eneidiau tebyg Hyn cyn yuppies a ’gentrification’. Dychmygwch petae Debbie Harry wedi ei magu yn Llanwrthwl ger Rhaeadr. Lle wedyn? Strydoedd Rheadr? Castell Yr Arglwydd Rhys, 1177?

Rwyf yn trafod Castell Rhaeadr a chestyll Yr Arglwydd Rhys / tywysogion Deheubarth yn fy nghyfrol archaeoleg ddiweddaraf ‘Cam i’r Deheubarth’ (Carreg Gwalch). Ond yn ôl at Debbie, efallai mai yn y ganolfan Wyeside Arts yn Llafair ym Muallt byddai hi wedi gweld ffilmiau a theatr ac os yn lwcus ambell i grwp pop neu rock. Credaf mai’r unig dro i mi fod yn y ganolfan oedd yn ystod un o deithiau y grwp Big Leaves pan roeddwn yn gweithio hefo’r grwp ar ran y Label Crai.

Er mor wahanol i unrhyw brofiad Cymreig yw’r hyn mae Debbie Harry yn ei brofi a darganfod yn Efrog Newydd mae ei deheuad am ddiwylliant yn rhywbeth gall Cymry ifanc uniaethu a fo.Tydi’r deheuad yma ddim yn perthyn i unrhyw gyfnod neu genhedlaeth – mae’n ddeheuad bythol-wyrdd.

Efallai wir mae Geraint Jarman, y bardd a’r cerddor sydd yn dod agosaf at rhywun fydda wedi ffitio mewn hefo Debbie Harry yn Efrog Newydd yn y 1960au hwyr a’r 1970au. Dwn’im os oedd Jarman yn rhan o’r Genhedlaeth Beat, wedi ei ysbrydoli gan Kerouac a Ginsberg, dychmygaf ei fod – ond dyma’r artist fwyaf amlwg Cymraeg dinesig. Un o’r artistiaid lleiaf nodweddiadol traddodiadol Cymraeg a Chymreig.

Symud ymlaen mae diwylliant wrthgwrs. Gall rai fynu aros yn eu hunfan, unai drwy deyrngarwch neu styfnigrwydd. Dyma dranc yr ‘youth cults’. Dal yn ‘Mod’ neu dal yn ‘New Romantic’. Ddigon teg mewn rhai ffyrdd ond eto – siawns fod rhywun isho profi rhywbveth newydd?

Dwi hefyd newydd wylio ffilm BBC 4 ar Vivienne Westwood o’r enw ‘Westwod: Punk, Icon, Activist’. Yn sicr mae hwn yn ffilm ddiddorol. Tydi’r ffilm ddim yn dangos Westwood ar ei gora. Rhan amla mae hi yn flin, yn ddrwg ei thymer ac yn annymunol. Bron fod angen rhywun yn rhywle ddweud wrthi beidio bod mor flin a dangos chydig o barch. Gormod o ffordd eiu hyn – ond efallai fod rhaid bod felly er mwyn llwyddo yn y Byd Ffasiwn.

Beth bynnag am ‘gymeriad’ Vivienne – mae un neges clir ganddi – does dim diddordeb sefyll yn ei hunfan. Oleiaf mae Westwood yn edrych a symud ymlaen. A dyma’r pwynt os nad y neges – mae angen symud ymlaen. Trafodaeth yw diwylliant a chreadigrwydd – sgwrs wrth gyd-gerdded nid rhywbeth statig.

Wythnos yn ôl dyma gysylltiad arall ac Efrog Newydd wrth i’r canwr-gyfansoddwr Chip Taylor berfformio yn Galeri, Caernarfon ar nos Fawrth ddigon oerllyd. Er hyn cyfrais ymhell dros gant o bobl yn y gynulleidfa. Pob un wan jac wrth ei bodda.

Chip Taylor wrthgwrs gyfansoddodd ‘Wild Thing’ a ddaeth i amlygrwydd Byd-eang drwy drefniant The Troggs o’r gân. Pwy ar wyneb y ddear sydd ddim yn gallu cyd-ganu y gytgan “Wild Thing !!!!!!!!!!!’

Taylor hefyd gyfansoddodd y gân hyfryd ‘Angel of the Morning’. Trefnwyd a pherformwyd y gân yma gan ddwsinau ar ddwsinau o artistiaid amlwg gan gynnwys Evie Sands, Nina Simone, P.P Arnold a’r Pretenders / Chrissie Hynde.

Cyfle felly yn Galeri i gael profi ‘masterclass’ mewn cyfansoddi. Fe ddylia pob aelod o bob band yng ngogledd Cymru fod wedi mynychu. Dyma wers gan feistr wrth ei grefft. Crefftwr ydi Chip Taylor, yn naddu a siapio alawon a geiriau ac yn creu byd arall lle mae’r gwrandawydd yn gallu ymgolli ynddo. Dyna’r grefft wrthgwrs. Hudo pobl i lefydd eraill – os ond am yr awr a hanner o berfformio neu wrth wrando ar y recordiau.

Efallai y dyliwn wneud mwy o’r pwynt yma am gerddorion ac aelodau grwpiau. Yn aml iawn byddaf yn mynychu gigs gwerin / gwlad / roots sydd yn cael eu trefnu gan Owen ‘Cob’ Hughes. Mae gan Owen gynulleidfa ffyddlon sydd yn ymddiried yn ei ddewisuadau fel trefnydd / hyrwyddwr. Ond pur anaml dwi’n gweld aelodau o grwpiau neu bands cyfoes yn y gynulleidfa.

Does bosib fod bob cerddor a pob band yn gwybod ‘popeth’ Rhaid fod lle i ddysgu? Neu oleiaf awydd i ddysgu – ar ffordd orau o wneud hynny yw drwy wylio meistr wrth ei grefft. Yn sicr mae angen i fwy o artistiaid yn y bydysawd Cymraeg ddechrau meddwl am hyn -be di’r grefft ar lwyfan, be di’r grefft o gyfansoddi? Mae angen edrych tu hwnt i ffiniau Cymru - a mae Efrog Newydd yn le reit dda i gychwyn!