Wednesday 28 June 2017

Jah Punk, Herald Gymraeg 28 Mehefin 2017




Er gwaetha’r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sydd yn naturiol gysylltiedig a’r arddegau dwi’n credu i fy nghenhedlaeth i fod yn un weddol lwcus. Wedi fy ngeni yn 1962 ac yn cyrraedd fy arddegau yn y 1970au hwyr. Roedd Thatcher a 1979 yn linell glir iawn – Thatcheriaeth oedd popeth roeddem yn ei gasau ac yn ei wrthwynebu. Syml.

Cofiaf y DJ John Peel yn son am effaith positif Thatcher ar gerddoriaeth pop wrth iddo esbonio fod Thatcher wedi gwneud nifer fawr iawn o bobl yn flin iawn – a phan mae pobl yn flin mae hynny yn creu cerddoriaeth dda gyda angerdd. BBC Radio 1 oedd Peel. Hanfodol.
Magwraeth gefn-glwlad gymharol ddiniwed a chymarol braf gefais i, a hynny yn Llanfair Caereinion. Mwynder Maldwyn. Ond, roeddwn yn gwrando ar John Peel pob nos rhwng 10 a hanner nos ar BBC Radio1. Dyna mewn ffordd oedd yn fy nghadw i fynd. Yn fwy na hynny, Peel a’r recordiau roedd yn ei chwarae oedd fy addysg gwleidyddol.Roedd sioe Stuart Henry o’r enw ‘Street Heat’ ar Radio Luxembourg ar nosweithiau Sul yn hanfodol hefyd.

O’r diniweidrwydd cefn gwlad fe esblygodd meddylfryd oedd wedi ei ffurffio, ei lywio a’i gyfoethogi gan recordiau. Meddyliaf yn syth am gân gan y Tom Robinson Band, “Glad To Be Gay”. Rwan, digon o waith fy mod yn gwybod rhyw lawer am rywioldeb hoyw yn ystod fy arddegau, mwy na wyddwn am unrhyw rhywioldeb arall go iawn,  ond o edrych yn ôl mae’n weddol amlwg fod nifer o fy nghyfoedion ysgol yn hoyw. Dwi ddim yn credu i ni drafod y peth ac yn sicr na’th hyn rioed boeni neb. Pam ddylia fo?

Y cwestiwn heddiw, oedd y record yna gan y TRB wedi tawleu meddwl rhywun wrth i rywun drio gwneud synnwyr o bethau wrth dyfu fyny yng nghefn gwlad.? Roedd hi’n iawn bod yn hoyw. Roedd record TRB yn un da yndoedd.Hyd heddiw rwyf yn canmol effaith bositif y record yna.



Record arall oedd yn gyson ar sioe Stuart Henry oedd ‘Ku Klux Klan’ gan Steel Pulse o Handsworth, Birmingham. Rwan. pwy a beth oedd y Klu Klux Klan? Doedd dim son am bethau fel hyn yn Llanfair Caereinion. Eto dyma sylweddoli fod y Rastas yn Steel Pulse neu Aswad neu Black Slate neu’r Cimarons a’r yr un ochr a ni. Doedd na ddim Rastas yn Llanfair chwaith ond fe oedd cyfle i weld bands fel hyn yn y Music Hall yn yr Amwythig.

Efallai mai’r erthygl gan Vivien Goldman yn y cylchgrawn cerddorol Sounds, 3dd Medi 1977, wnaeth yr argraff fwyaf arnaf. Dyma Tony James o Generation X ar y llwyfan hefo’r Cimarons, dyma Viv Albertine (y ferch ddelia yn y Byd) tn cael tynnu llun hefo Steel Pulse, dyma Patti Smith a Burning Spear yn gwenu gefn llwyfan. Y pennwad ar yr erthygl oedd ‘Jah Punk, New Wave Digs Reggae OK’.

O fewn blwyddyn roedd Carnifal Rock Against Racism wedi ei gynnal yn Victoria Park. Mae’r clipiau o’r Clash yn canu White Riot a Jimmy Pursey o Sham 69 yn ymuno a nhw bellach yn un o’r clips fideo mwyaf eiconaidd o’r cyfnod Punk. Ond, Misty in Roots arweiniodd yr orymdaith. Fu bywyd rioed ru’n fath wedyn i genhedlaeth gyfan. Hyd yn oed os nad oeddem yn Victoria Park roedd Rock Against Racism yn bennod yn ein gwerslyfr.

Yn sicr fe gefais gysur mawr a sicrwydd am fywyd o’r recordiau yma. Mae Thatcher wedi mynd (efallai) ond y meddylfryd yna yw’r gelyn hyd heddiw. Dyna pam mae Brexit mor wrthyn. Dyna pam mae May, Gove, Leadsom a’r boi gwallt-felen mor wrthyn. Os yw cerddoriaeth yn gwneud rhywun yn hapus mae neges Jah Punk yn rhoi’r ffocws.






Saturday 24 June 2017

Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 21 Mehefin 2017




Dyma’r trydedd tymor o waith cloddio archaeolegol dan ofan Cadw yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Rwyf wedi bod yno dros y bythefnos yn bennaf gyfrifol am ymweliadau ysgolion. Braf yw gweld cannoedd o blant ysgolion cynradd Môn yn cael hwyl ac ychydig o antur wrth iddynt gael dod allan o’r dosbarth a gweld archaeolegwyr wrth eu gwaith a chael hwyl yn archwilio’r siambr gladdu.

Pwysleisiaf y gair hwyl. Wrth reswm bydd y disgyblion yn dysgu ond y peth pwysicaf yw eu bod yn cysylltu archaeoleg a Hanes Cymru gyda profiad pleserus a hwyliog. Fe fydd hynny yn creu diddordeb ynddynt.

Petae rhywun yn gofyn pa heneb cyn-hanesyddol yw’r enwocaf yng Nghymru, yr ateb, mae’n debyg, fyddai unai cromlech Pentre Ifan yn Sir Benfro neu Bryn Celli Ddu ym Môn. Tybiaf, neu yn sicr gobeithiaf, fod y rhan fwyaf o drigolion Gwynedd a Mȏn oleiaf yn gyfarwydd â’r enw Bryn Celli Ddu, hyd yn oed os nad ydynt wedi ymweld â’r feddrod Neolithig hwn ger pentref Llanddaniel-fab.

Fel yn achos siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Rhosneigr dyma engraifft o feddrod cyntedd, lle mae cyntedd hir a chul (7.5m o hyd ac 1 medr o led) yn arwain i mewn i’r siambr gladdu. Dyma feddrod amaethwyr cynnar y cyfnod Neolithig: mae ddyddiad wedi ei rhoi ar ei chyfer, sef oddeutu 3100 cyn Crist. Cromlech Dyffryn Ardudwy yw’r gynharaf yng Ngwynedd a Môn, yn dyddio i 3500 cyn Crist, ac o ran cymhariaeth mae Barclodiad y Gawres yn ddiweddarach wedyn, yn dyddio oddeutu 2500 cyn Crist.

 Mae’r traddodiad o gladdu’r meirw mewn cofadeiladau, yn draddodiad sy’n ymestyn dros fil o flynyddoedd yn ystod y cyfnod Neolithig (4000-2000 cyn Crist).           Efallai fod yr amaethwyr cynnar yma yn codi’r cofadeiladau er mwyn dynodi terfyn neu ffiniau tir ond yn sicr roeddynt yn mynd i ymdrech a thrafferth i gofio am y meirw a’u cyn-deidiau.

Cawn y cyfeiriad cyntaf at ‘Bryn Kelli Ddu’ yn y llyfr anhygoel a phwysig hwnnw Mona Antiqua Restaurata (1723), sef arolwg Henry Rowlands o henebion Mȏn, yr arolwg cyntaf o’r fath. Cawn lun o’r gromlech gan Rowlands sy’n awgrymu hyd yn oed bryd hynny fod y domen fyddai dros y gromlech wedi diflannu drwy ganlyniad i glirio amaethyddol.
           
Yr hyn sydd yn wirioneddol hynod am Bryn Celli Ddu yw fod y cyntedd wedi ei adeiladu ar linell codiad yr haul ar hirddyd haf – a fod hyn yn fwriadol felly gan yr adeiladwyr Neolithig oddeutu 3100 cyn Crist. Dim ond yn ddiweddar mae archaeolegwyr wedi derbyn fod hyn yn weithred fwriadol a phwrpasol.

Ar 12 Mehefin 2011, am 4.30 y bore, euthum i Fryn Celli Ddu yng nghwmni Ken Brassil o’r Amgueddfa Genedlaethol. A hithau dros wythnos cyn hirddydd haf, y bwriad oedd gweld a oedd effaith yr haul yn codi ac yn goleuo’r cyntedd a thu mewn i’r siambr yr un fath i bob pwrpas â’r hyn welir ar y 21 Mehefin..
            Roedd Steve Burrow o’r Amguedfa Genedlaethol eisoes wedi ffilmio’r digwyddiad yn 2005 ac wedi cyhoeddi papur yn awgrymu fod sail i ddamcanaiethau’r astrolegydd Sir Norman Lockyer fod cysylltiadau astronomegol â beddrodau. Dipyn o gymeriad oedd Lockyer (1836−1920) − bu’n ceisio profi ei ddamcaniaeth er 1901, ac yn 1907 bu iddo ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe er mwyn sefydlu cymdeithas o’r enw The Society for the Astronomical Study of Ancient Stone Monuments in Wales ond ychydig o gefnogaeth gafodd ei ddamcanaiethau gan archaeolegwyr y dydd.

Diddorol yw nodi na enwir Lockyer o gwbl yn adroddiad W.J. Hemp ar ei waith cloddio ym Mryn Celli Ddu, ac un rheswm sy’n cael ei awgrymu gan Burrow am hyn yw diffyg manylder neu amwyster Lockyer wrth iddo drafod beddrodau eraill lle nad oes cyfeiriad astronomegol neu linell amlwg iddynt.

 Cymaint oedd gwrthwynebiad y sefydliad archaeolegol i Lockyer, fe fynegodd Sir Henry Howarth, is-lywydd y Cambrians ei amheuon amdano yn 1914. Yn ȏl un adroddiad ar y pryd yn trafod sylwadau Howarth dyma sut pwysleiswyd ei amheuon, ‘he did not know anybody living except one great man who accepted Lockyer’s theories and that great man was Sir Norman Lockyer!’

 Ar ôl ymweld â’r beddrod ar doriad gwawr gyda Ken, rhaid i minnau hefyd gydnabod fod Lockyer yn llygad ei le. Roedd yn brofiad bythgofiadwy y bwyddwn yn argymell i bawb ei brofi. Mae fy nyled yn fawr i Ken Brassil am fy llusgo i Fryn Celli Ddu mor blygeiniol. Wrth i’r haul godi yn y dwyrain mae’r pelydrau’n ymestyn ar hyd y cyntedd ac yn taro un o’r meini sy’n ffurfio cefn y siambr gladdu. Does dim nodwedd amlwg i’r maen yma er bod Burrow yn cydnabod bod rhyw gymaint o garreg cwarts wen ynddo.

Bydd Cadw ac aelodau Urdd Derwyddon Môn yn cynnal defod ym Mryn Celli dros nos heno y 21ain / yn gynnar bore fory. Disgwylir i’r Haul godi oddeutu 4-30 y bore. Rwyf wedi mynychu’r digwyddiad ddwywaith dros y blynyddoedd diweddar ac yn sicr mae’n brofiad. Yn amlwg fel archaeolegydd rwyf yn derbyn nad y Derwyddon Celtaidd adeiladodd y siambr gladdu – roedd y siambr wedi ei chodi oleiaf 2500 o flynyddoedd cyn y Derwyddon ond does dim drwg yn y ddefod flynyddol bresennol. Mae’n hwyl ac yn rhoi parch i’r cofadail. Mae’n creu diddordeb a thrafodaeth. Mae’n dod a siambr gladdu Neolithig yn fyw yn 2017.



Dros y penwythnos mynychodd cannoedd ar gannoedd y Diwrnod Agored ym Mryn Celli sydd yn beth gwych.


Monday 19 June 2017

Etholiad Cyffredinol 2017, Herald Gymraeg 14 Mehefin 2017




Arhosais tan fore Gwener, y bore ar ôl yr Etholiad Cyffredinol cyn sgwennu’r golofn. Pwy fyddai wedi dychmygu? 19eg Ebrill eleni a Theresa May yn cyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol ar yr 8fed o Fehefin, gyda’r bwriad, yr unig fwriad, o sicrhau mwyafrif llethol i’r Blaid Ceidwadol. Mwyafrif llethol er mwyn sicrhau Brexit caled. Methiant. Bydd rhaid ail-feddwl.

Methiant go iawn i’r strategydd ymgyrchu o Awstralia, Lynton Crosby. Os mai ei eiriau ef oedd “strong and stable”, (O.N Theresa, cofia ail adrodd hyn pob tro rwyt yn rhoi brawddeg at ei gilydd), fe ddaeth y geiriau yn ôl fel bwmerang milain i frathu Crosby ar ei ben ôl hunnan sanctaidd.

O fewn dim roedd May yn ‘weak and wobbly’, yn bennaf oherwydd ffolineb y ‘dreth gorffwylledd’ a munud mae’r wasg a’r cyfryngau yn bachu ar y gwrth-safbwynt, strong/ stable / weak / wobbly – mae doethineb Crosby yn ymddangos yn llawer llai doeth. A’i dyna’r cangymeriad mawr – y dreth gorffwylledd - ymosod ar ei chefnogwyr ei hyn?

Heblaw’r ail-adrodd di-dor am strong and stable pan roedd May mor amlwg yn ymddangos yn fwy-fwy sigledig ei gwedd roedd ei phenderfyniad (Crosby eto ta pwy?) i beidio cymeryd rhan mewn cyfweliadau a’r drafodaeth arweinwyr ar y teledu wedi adlewyrchu’n ddrwg. A dweud y gwir, dwi ddim yn credu i May ateb fawr o gwestiynau dros yr holl gyfnod ymgyrchu. Ydi oes y ‘soundbite’ trosodd felly?

Llwyddodd Corbyn mewn sawl ffordd. Siaradodd yn naturiol, atebodd y cwestiynau. Denodd yr ifanc. Llai amlwg, a dyma’r broblem fawr hefo Corbyn, yw beth yn union yw llwybr y Blaid Lafur gyda trafodaethau Brexit? Y farchnad sengl fydd y cwestiwn mawr nawr.

Ar lefel Prydeinig diolch byth fod Caroline Lucas wedi ei hail-ethol. Dyma chi un llais rhesymol mewn môr o wallgofrwydd a soundbites. Syndod efallai fod Nick Clegg wedi colli ei sedd. Tydi Clegg ddim yn ddrwg i gyd. Eto ran amla roedd Clegg yn cynnig llais rhesymol cytbwys ond mae wedi colli ei etholaeth, ei etholwyr – y gosb eithaf. Dim maddeuant am y glymbliad yna nagoes Nick na’r ffioedd myfyrwyr?

Os mai Cenedlaetholdeb Seisnig, llawer gormod o hiliaeth, y bleidlais brotest oedd UKIP mae hynny trosodd. Mabwysiadwyd y cenedlaetholdeb Seisnig yn ddigon hawdd gan adain dde y Toriaid ac ymddengys nawr fod pantomein Nutall trosodd. Fe fu’m yn dadlau ers blynyddoedd fod y cyfryngau wedi rhoi llawer gormod o sylw i UKIP o gymharu a’r Blaid Werdd. Heb os fe gynyddwyd cefnoagaeth UKIP oherwydd yr holl sylw cyfryngol. Farrage y meistr PR a soundbites eto.

Fydd hi ddim mor hawdd ar Farrage alw ar ei werin fyddin bellach. Ond os bydd Brexit yn meddalu – sgwn’i lle aiff Farrage. A fydd y werin-fyddin allan ar y stryd gyda ey picwerchi?
Ar lefel Prydeinig, diolch byth fod gan Plaid Cymru bedwar aelod seneddol – eto er mwyn cyd-bwysedd yn erbyn cenedlaetholdeb Seisnig a Brexit caled. Ond, yng nghyd-destun Cymru – dim ond jest. Os llwyddodd Ben Lake drwy fod yn ifanc a chall method Ieaun Wyn Jones drwy fod yn ail-dwym. Agos oedd hi ym mhob man a’r bleidlais yn rhannedig.

Trosodd hefyd mae cenedlaetholdeb caled yn yr Alban. Does dim awydd am annibyniaeth mae’n ymddangos. Collodd Angus Robertson ei sedd. Un da oedd Robertson yn San Steffan heb os. Tawelodd Sturgeon ar Indy Ref 2 yndo, collwyd gwynt o’i hwyl rhywsut.

Mewn gwirionedd mae arweinyddiaeth May, Wood, Sturgeon, Farron ôll wedi cael cic yn y pen ôl. Tydi hi ddim yn dda arnynt. Mae angen ail-feddwl. The British people have spoken ond nid yn y ffordd roedd pobl yn ei ddisgwyl. Oleiaf ar ôl gwallgofrwydd pleidlais Brexit mae llygedyn o obaith nawr. Cawn weld.


Thursday 8 June 2017

Tuduriaid Ynys Môn. Herald Gymraeg 7 Mehefin 2017





Un diddorol yw’r cysylltiad Tuduraidd ac Ynys Môn. Rydym yn ymwybodol fod y cartref teuluol ym Mhenmynydd ond sut mae’r Cymry yn teimlo am y llinach Gymreig i deulu Brenhinol Lloegr? Oes modd awgrymu yma fod hanes ar ei ora, ar ei fwyaf diddorol pan fod elfen o anghyfforddusrwydd, elfen heriol, elfen sydd yn gwneud i ni orfod penderfynu.

Nid fod pawb yn gorfod penderfynu. Go brin fod trigolion yr Ynys yn poeni rhyw lawer am dras Harri VII a hithau yn gyfnod etholiad cyffredinol sydd yn debygol o gael effeithiau pell-gyrrhaeddol a hir-dymor ar y mwyafrif (sydd ddim yn filiwnyddion). Go brin fod y mwyafrif yn poeni rhyw lawer am Harri VII wrth i ni wynebu gwallgofrwydd Brexit, ac eto dyma rhywbeth sydd yn rhan allweddol o hanes yr Ynys.

A hithau newydd fod yn wythnos Eisteddfod yr Urdd a finnau newydd fod yn tywys criw o Lansannan o amgylch Plas Penmynydd, fedrwn’i ddim osgoi y gymhariaeth amlwg rhwng yr holl famau (neu rienni) ar flaen eu seddau yn cyd-ganu a chyd-adrodd gyda Mererid neu Llinos fach ac yn mynny’r rhiban gyntaf am eu perfformiad a’r fam frenhinol Margaret Beaufort yn sicrhau fod Harri yn cael y goron, Coron Lloegr.

Margaret Beaufort oedd mam Harri Tudur / Harri VII a gwraig Edmwnd Tudur o linach Penmynydd. Yn ei dro, Edmwnd oedd mab Owen Tudur, Penmynydd a frwydrodd gyda chlod ochr yn ochr a Harri V. Ac yntau yn lanc golygus, yn ôl y son, fe ennillodd Owen galon Catherine de Valois, gweddw Harri V, a dyma mewn ffordd o ran llinach brenhinol sydd yn arwain at y Tuduriaid yn hawlio Coron Lloegr. A’r ffaith fod Edmwnd yn hanner brawd i Harri VI.

Efallai nad oes cymhariaeth mewn gwirionedd gyda’r mamau Urdd, ond mae rhywun yn dychmygu fod  Magaret Beaufort yn ddynes benderfynnol. Bu farw Edmwnd yn fuan ar ôl genedigaeth Harri yng Nghastell Penfro a mae son fod ei frawd Jasper a Margaret wedi bod yn agos iawn er hynny. Bu i Margaret briodi pedair gwaith er ddim gyda Jasper Tudur.

Erbyn Brwydr Bosworth 1485 mae’r cysylltias gyda Ynys Môn wedi lleihau, doedd Margaret na Harri VII yn byw ym Mhenmynydd, (does dim sicrwydd iddynt fod yno hyd yn oed?). Ail godwyd rhan o Blas Penmynydd gan Richard Tudur yn 1576 gan greu tŷ daulawr yn hytrach na neuadd un llawr ganol oesol. Mae awgrym weddol amlwg yn wal ogleddol y tŷ o ddau gwrs gwahanol o gerrig adeiladu.

Efallai mai rhywbryd yn y cyfnod yma y gosodwyd arfbeisiau Ednyfed Fychan a’r Tuduriaid naill ochr i’r prif- ddrws (gogleddol). Ednyfed Fychan gafodd y tir yma am wasanaethu Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Felly beth bynnag ein barn am deulu brenhinol Lloegr mae’r llinach Tuduraidd yn mynd yn ôl i un o weision mwyaf teyrngar Llywelyn Fawr. Dyna chi beth ydi hanes. Cymhleth.

Efallai mai y fi sydd yn gwneud ati hefo’r holl gyfyng-gyngor  ‘brenhinol’. Doedd dim ond gwen ar wynebau yr ymwelwyr o Lansannan. Does dim byd gwell na chael gweld cartrefi a gerddi pobl nagoes. Dwi’n siwr fod ni gyd yn mwynhau hynny – cael busnesu ’chydig, ond heb os, er fod Penmynydd yn dŷ hynafol diddorol tu hwnt, mae’r cysylltiad a’r teulu Tudur yn gwneud unrhyw ymweliad yno yn ‘sbesial’.

Rhaid canmol y perchennog Richard Cuthbertson am fod mor groesawgar bob tro rwyf yn trefnu ymweliadau. Gyda drysau agored di-amod bron anodd curo ei groeso a’i frwdfrydedd tuag at hanes y plasdy.

Yr unig gwestiwn sydd gennyf, yw hyn. Pa mor bwysig yw’r cysylltiad Tuduraidd i ni yma yn y Gymru heddiw, 2017?

Yn gwisgo fy het hanesydd mae’r hanes yma mor ddiddorol, mor bwysig a dwi heb ddecharu  son am gorffddelw Goronwy Tudur yn Eglwys Sant Gredifael.