Thursday 19 December 2019

Cloddio Haf 2019, Llafar Gwlad 146





Heb os, mae hi wedi bod yn haf prysur o ran archaeoleg yng ngogledd Cymru, a mae hynny diolch i waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Fe soniais am y gwaith cloddio ym marics Pen y Bryn yn chwarel Dorothea yn Llafar Gwlad 145.

Un o’r pethau diddorol ddaeth i’r amlwg o’r gwaith cloddio hwnnw oedd y defnydd o lytheren I fawr gyda llinell drywddi i ddynodi’r llythyren J. Canfuwyd sawn engraifft o ‘graffiti’ lle roedd rhwyun wedi cerfio enwau ar y graig naturiol ger y barics. Gan ddyddio i ddiwedd y 19ef ganrif cafwyd amrywiaeth o J arferol a’r I fawr gyda llinell i gyfleu J.

Wrth i’r archaeolegwyr bendroni beth oedd ‘dirgelwch’ neu arwyddocad yr I fawr gyda llinell, cofiais am stori o fewn ein teulu ni am fy hen ewythr John Richard Thomas. Chwarelwr oedd John Richard yn Chwarel Cilgwyn. Roedd yn frawd i fy nhaid, un arall o chwarelwyr y Cilgwyn. Gan fod nam ar goes John Richards, gweithio yn glanhau’r siediau oedd o yn hytrach nac ar wyneb y graig.

Rhywsut neu’i gilydd bu i’w garreg fedd gael ei gadael ar ôl yn y cartref teuluol a dyma sut y bu i mi fod yn gyfarwydd a’r I ar gyfer J. Darllenai’r garreg IRT – hefo llinell drwy’r I. Ond, gan mai carreg fedd John Richard Thomas yw hi, gallais awgrymu yn ystod y gwaith cloddio ym Mhen y Bryn fy mod yn weddol sicr beth oedd hanes y llythyren.

Ers hyn (mis Awst) mae David Hopewell o’r Ymddiriedolaeth a finnau wedi dod o hyd i engreifftiau di-ri o gerrig wedi eu naddu gyda’r I fawr gyda llinell. Ceir engreifftiau yn Nyffryn Ogwen felly roedd modd awgrymu nad rhyw draddodiad yn perthyn i Ddyffryn Nantlle yw hyn. Ychydig yn ddiweddarach wrth hel mwyar duon yn y Groeslon dyma weld postyn giat ger hen eglwys Sant Thomas gyda’r union symbol.

Rydym a diddordeb clywed am engreifftiau eraill a byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth – ebostiwch rhysmwyn@hotmail.co.uk.



Newid cyfnod oedd hi go iawn wedyn wrth adael Pen y Bryn a dechrau cloddio ar fryngaer arfordirol Dinas Dinlle, ychydig i’r gorllewin o Gaernarfon. Gan fod darnau o’r gaer yn disgyn i’r môr oherwydd erydiad arfordirol penderfynwyd cynnal archwiliad o’r gaer. Dyma gyfle felly i gloddio o dan y pridd a gweld beth sydd wedi goroesi yno.

Er fod awgrym fod cytiau crynion ar y safle, dyma’r tro cyntaf i archaeolegwyr gael cloddio yma. Canfuwyd gwt crwn sylweddol ei faint ger ymyl y clogwyn. O fy mhrofiad yn cloddio ym Meillionydd ger Aberdaron lle cawn sawl cwt crwn o fewn safle cylchfur dwbl Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn Cynnar, roedd gwneuthuriad cwt Dinas Dinlle yn llawer mwy sylweddol.
Mesurai’r cwt oddeutu 8medr ar draws. Roedd sylfaeni cerrig y cwt bron yn fedr ar draws. Wrth drafod arwyddocad hyn gyda’n cyd archaeolegwyr ar y safle, anodd oedd peidio tynnu coes mai cwt y pennaeth oedd hwn. Wrth reswm does dim modd o wybod pwy oedd yn byw yn y cwt crwn. Byddai nifer o gytiau eraill o fewn y gaer yn creu cymuned o drigolion.

Oes modd galw hyn yn bentref gaerog? Cwestiwn da! Roedd y trigolion wedi eu hamddiffyn gan gloddiau a ffosydd y gaer – mae hynny yn sicr. Beth bynnag y tynnu coes dros banad – roedd hwn yn adeilad sylweddol. Awgrymaf felly bydda hwn wedi bod yn gartref ddigon urddasol yn y cyfnod Celtaidd / Rhufeinig.

Rhywbeth arall pwysig ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod o gloddio yn Ninas Dinlle yw’r diddordeb cynyddol ymhlith Cymry Cymraeg yn y Byd Archaeoleg. Bellach mae Gerallt Pennant a chriw Heno S4C ac Aled Hughes, BBC Radio Cymru, yn rhoi sylw cyson i’r maes. Prin fod unrhyw gloddio yn digwydd heb gamerau Heno a meicroffon Radio Cymru yn ymddangos yn ystod y cyfnod gwaith.

Daeth dros 400 i’r diwrnod agored yn Ninas Dinlle. Bu pedwar ohnnom yn cynnal teithiau tywys ar ran yr Ymddiriedolaeth a bu’r pedwar ohonnom allan gyda pump grwp gwahanol yn ystod y dydd. Fy nghyfrifoldeb i oedd y teithiau tywys drwy gyfrwng y Gymraeg a roedd pob un yn orlawn.



Os nad oedd cael cloddio mewn chwarael lechi a bryngaer Geltaidd yn ddigon i fodloni enaid unrhyw Gymro / archaeolegydd dyma gyfle wedyn yn ystod mis Medi i archwilio rhan o’r pentref brodorol ar gyrion caer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon.

Saif hen safle Ysgol Pendalar ychydig i’r gogledd ddwyrain o’r ffordd Rufeinig a redai o’r gaer i gyfeiriad is-gaer Hen Walia yn agos at Afon Saint / Seiont. (Hyn yn ôl Mortimer Wheeler, 1924, Segontium and the Roman Occupation of Wales). Rhywbeth y dylid ei drafod mewn erthygl yn y dyfodol yw pwysigrwydd ei wraig, Tessa Wheeler.

Clywais son sawl tro mai Tessa oedd yn gwneud y gwaith archaeoleg ‘go iawn’. Sgwn’i os oes unrhyw sail i hyn? Ta waeth am hynny am y tro, awgrymodd Wheeler fod tai masnachwyr brodorol wedi eu gosod ar hyd y ffordd Rufeinig. Heddiw bydda’r ffordd yma yn gyfochrog a Ffordd Cystennin (A4085) sef y ffordd allan o Gaernarfon am Waunfawr / Beddgelert.

Yma y bydda’r vicus neu’r aneddle frodorol, lle byddai’r brodorion wedi sefydlu gweithdai, siopau, tafarndai ac yn y blaen er mwyn masnachu gyda’r milwyr yn y gaer. A dweud y gwir bydda’r ffordd Rufeinig yn rhedeg o dan gerddi cefn y tai ar hyd Ffordd Cystennin.
Rydym wedi bod yn cloddio tu cefn i’r tai cyfnod Rhufeinig fydda ar ochr ddwyreiniol y ffordd – felly rydym yn cloddio yn y iard / buarth / cwrt cefn. Awgrymodd Frances Lynch y byddai ardal o’r fath yn frith o olion ad-hoc. Ac yn wir, dyma a ganfuwyd, ffynnon, oleiaf pedwar odyn neu bobty o glai a sawl pydew a thyllau pyst.

Roedd llestri pridd Rhufeinig ym mhob man er gwaetha’r ffaith fod fferm Cae Mawr wedi bod yma am rai canrifoedd cyn adeiladu’r ysgol. Syndod go iawn fod cymaint o olion Rhufeinig wedi goroesi.

Tair safle hollol wahanol felly, ond rydym wedi dysgu llawer o bethau newydd drwy wneud y gwaith cloddio.

Wednesday 11 December 2019

Gigs Geraint Jarman, Herald Gymraeg 11 Rhagfyr 2019


Theatr Clwyd

Mae 40 mlynedd ers i’r Clash rhyddhau eu trydedd LP ‘London’s Calling’. Rhyddhawyd yr albym ar y 14eg Rhagfyr 1979. Roedd yr holl beth ‘Punk’ cychwynol wedi gwybio heibio a chwythu ei lwyth ac efallai mai’r Clash fwy na neb (ac eithro’r Slits) oedd yn symud yr agenda a’r gerddoriaeth yn ei flaen – yn sicr o ran y grwpiau oedd yna yn 1976 / 1977.

Fel un o’r recordiau mwyaf dylanwadaol ac uchel ei barch erioed, mae gan pawb ei farn am ‘London’s Calling’. Bydd gan bawb eu hoff gân neu hoff ganeuon. Pawb ei hoff neges neu lyric. Pawb ei hoff ‘riff’ neu ‘intro’. Gall y rhan fwyaf hefyd gytuno fod y record dal i swnio yn ffres iawn. Dyma record ryfeddol ym mhob ystyr – ac un sydd yn dal yn swnio yn gyfoes.

Ond mae yna ffactor arall pwysig wrth geisio dadansoddi ‘London’s Calling’. Er cystal y caneuon, er cystal y cynhyrchu, er cystal y basslines gan Paul Simenon ac er cystal cyfraniad Strummer a Jones – a hynny yw y drymio. Os gwrandewch yn ofalus ar y record mae drymio Topper Headon yn symud popeth yn ei flaen, yn rhoi’r pwyslais angenrheidiol, yn cadw popeth yn ei le ac ar yr amser iawn.

Byddwn yn dadlau fod modd gwrando ar y drymiau yn unig wrth wrando ar ‘London’s Calling’ ac y byddai hunna yn brofiad gwerth chweil ac un boddhaol dros ben. Y drymiau sydd yn gwneud y record yna yn glasur – ac wrth reswm heb y caneuon fydda hunna ddim yn bosib.Ond gwrandewch ar ddrymio Topper.

Bore Sul fel yr arfer, mae Cerys ymlaen ar BBC 6 Music a da ni fel teulu fel miloedd ar filoedd eraill dros y wlad yn coginio ein brecwast i gyfeiliant dewisiadau cerddorol Miss Matthews. Topper oedd ei gwestai fore Sul. 40 mlynedd ers yr albym dyma gyfle Topper i hel atgofion. Nid edrych yn ôl ar y ‘dyddiau da’ wnaeth Topper ond yn ei ffordd ddi-ymhongar ei hyn fe lwyddodd i gydnabod fod y record dal yn swnio’n dda.

Holodd os oedd modd cael clywed ‘Tha Card Cheat’ a chyflwyno’r gân i’w gariad. Dyma radio ar ei ora. Cerys yn ein tywys. Topper yn gofyn am gais i’w gariad. Ar fore Sul, dyma be di bendigedig.

Record arall ddylanwadol tu hwnt yw ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman. 1979 oedd blwyddyn rhyddhau y record hir yna hefyd. Hyd at heddiw mae’r prif gân ‘Gwesty Cymru’ yn swnio yn gyfuniad o’r perthnasol a’r hanfodol. Efallai fod y gân yn deillio o’r blynyddoedd ol-Punk a fod y dylanwad punk-reggae i’w glywed ond go brin gall unrhyw un ddi-ystyru’r gân ar sail ei fod wedi ‘dyddio’.

Dros y penwythnos roedd Jarman yn perfformio ddwywaith yng ngogledd Cymru. Theatr Clwyd oedd hi nos Wener a Cell B, Blaenau Ffestiniog ar nos Sadwrn. Er fod Jarman wedi chwarae mwy neu lai yr un set, roedd y ddau gig yn eitha gwahanol o ran naws y canolfannau a’r gynulleidfa.

Nos Wener dwetha dyma benderfynu ar ‘road-trip’ bach draw i’r Wyddgrug. Roedd peth amser ers i ni fod yn Theatr Clwyd a felly rhan o’r apel oedd cael gweld Jarman mewn canofan wahanol. A55. Awr a chwarter o Gaernarfon. Stop yn y garej 24awr ar y gylchfan am Caerwys / Chwitffordd.

Cell B

Nos Sadwrn roedd Jarman yn Cell B, Blaenau Ffestiniog, a gan ein bod wedi mwynhau’r gig gymaint yn Theatr Clwyd dyma benderfynu mynd draw. Er cymaint dwi’n hoffi cyfeirio at Gaernarfon fel ‘Gweriniaeth Cofiland’ rhaid cyfaddef mai ‘pobl ddwad’ fel fi sydd yn mynychu gigs yng Nghaernarfon. Pur anaml mae’r Cofis go iawn yn mynychu gigs – ta beth yw iaith yr artistiaid. Dwi ddim cweit yn dallt. Ond dwi’n cyfaddef mai’r dosbarth diwylliedig Cymraeg yw’r bobl fydda fwya tebygol o fynd i weld Jarman yng Nghaernarfon.

Efallai fod Blaenau Ffestiniog yn fwy o ‘weriniaeth’. Pobl leol oedd yn y gig yn Cell B – nid yr arferol ‘teips’ Cymraeg. Roedd rhywbeth braf yn hyn. Ar y cyfan cynulleidfa yn barod am eu reggae oedd criw Blaenau. Fe ath ‘Reggae Reggae’ a ‘Rocyrs’ lawr cystal ac unrhywbeth. Fe aeth ‘Hiraeth am Kylie’ lawr yn dda hefyd fel gwnaeth ‘Ethiopia Newydd’.

Fy argraff o’r gig yn Blaenau oedd mai fel hyn ddylia hi fod – canolfan wedi ei wreiddio yn y gymuned. Pawb yn siarad Cymraeg. Ond wedyn dyma ddau bwynt yn codi yn syth. Pam nad yw dilynwyr reggae gogledd Cymru sydd efallai ddim yn siarad Cymraeg ddim yn mentro draw i weld artist mor dda a Jarman? Yn ail – pam fod cyn llied o’r ‘teips diwyllianol’ yn fodlon teithio i rhywle gwahanol i weld gig?

Er fod y ddau gig yn barchus llawn fe ddylia nhw fod wedi gwerthu allan. Doedd yr un ganolfan yn ofod mawr. Fe ddylia dilwynwyr reggae – ar ôl 40 mlynedd a mwy o Jarman fod yn gallu mentro draw i ‘gig Cymraeg’. Os di cerddoriaeth yn Iaith Ryngwladol – does dim esgusion go iawn.

Rhaid mi ddweud fod gweld Jarman ddwywaith mewn penwythnos wedi gwneud synnwyr perffaith. Ar ôl Theatr Clwyd doedd fawr o ddewis a dweud y gwir. Be oedda’ni fod i wneud? Aros adre? Fel dwi’n dweud yn aml ar y sioe radio ar nos Lun ‘does dim byd ar y teli’.

Wednesday 4 December 2019

Archaeoleg a Cherddoriaeth, Herald Gymraeg 27 Tachwedd 2019





Dyma ni bythefnos cyn yr Etholiad Cyffredinol. Oherwydd fy ngwaith hefo’r BBC, yn cyflwyno’r sioe nos Lun, rwyf wedi cael cyfarwyddyd i gadw draw o’r maes gwleidyddol tan fod yr etholiad drosodd (yn yr ystyr datgan barn cyhoeddus). A wyddoch chi beth, mae hyn fel cael gwyliau ger Fôr y Canoldir ar rhyw ynys fechan i ffwrdd o sŵn y byd. Yr ail beth da am hyn yw fy mod yn cael canolbwyntio ar fy ddau hoff beth: archaeoleg a cherddoriaeth.
Cerddoriaeth roddodd y rheswm i fyw i mi wrth gyrraedd fy arddegau, cerddoriaeth hefyd roddodd gyfarwyddiadau gwleidyddol i mi o ystyried fy mod yn gwrando ar grwpiau fel Jarman, y Slits a Steel Pulse. Drwy gydol fy arddegau roedd fy mryd ar fod yn archaeolegydd. Dros y blynyddoedd mae’r ddau lwybr wedi bod yno – weithiau yn cyd-redeg, weithiau yn dechrau diflanu o dan dyfiant. Ond mae archaeoleg a cherddoriaeth dal hefo fi – yn fwy felly nac erioed wrth edrych ymlaen at 2020.

Byddaf yn datgan yn aml ar nos Lun wrth ddarelledu yn fyw o BBC Bangor faint rwyf yn gwerthfawrogi’r cyfle i baratoi tair awr o gerddoriaeth ar gyfer y gwrandawyr. Mae’r gwaith hefyd wedi ail-gynna’r tân i fynd allan i weld grwpiau ac artistiaid yn canu yn fyw. Yn aml iawn byddaf yn mynd i weld gigs mae Owen Cob yn drefnu, cerddoriaeth ‘roots’ / gwlad / Byd ran amla. Bydd CD ar gael ar ddiwedd y noson – bydd traciau newydd i chwarae ar y radio.

Wythnos yn ôl fe es draw i’r Fic ym Mhorthaethwy i weld canwr o Appalachia o’r enw Riley Baugus. Pwysleisiodd Riley ar ddechrau’r sioe mai o Appalachia oedd o yn dwad a NID yr Appalachians. Rhwng pob cân roedd gan Riley storiau difyr oedd yn rhoi cefndir a chyd-destun i’r caneuon. Wrth drafod hefo fo wedyn soniais fel roedd ei storiau yn creu darlun yn ein meddyliau – ond Duw a ŵyr os oedd y darlun yn un cywir. Chwerthodd Riley, mewn gwerthfawrogiad.

Cerddoriaeth ‘traddodiadol’ ar y banjo. Banjo roedd wedi ei adeiladu ei hyn. Mynnodd nad oedd angen unrhyw effaith nac atsain ar ei lais drwy’r sustem sain – yn enwedig felly gyda unrhyw ganeuon di-gyfeiliant. Traddodiadol - ond yn fyw, yn berthnasol ac yn gyfoes. Dwi’n dal i synnu na fyddwn yn gweld mwy o gerddorion Cymraeg / Cymreig yn y gigs yma.
Os di rhywun yn gweithio yn y maes ‘traddodiadol’ / gwerin mae’n gwneud synnwyr gweld a dysgu o artistiaid arall. Mae’n gwenud synnwyr cysylltu a gweddill y Byd. Dyma un bregeth diweddar. Dwi ddim am bregethu gormod. Jest gwneud y pwynt. Doeddwn ddim yn adnabod llawer yn y gynulleidfa. Canran isel o Gymry Cymraeg? Dwn’im.

Ta waeth roedd Riley Baugus yn fendigedig, cefais gopi o’r CD a rwyf yn siwr o chwarae traciau ganddo cyn bo hir ar y sioe nos Lun.



Y dydiau gorau yw’r rhai allan yn y maes yn gwneud gwaith archaeoleg. Does dim all guro awyr iawch Cymru. Hyd yn oed yn y gwynt a’r glaw mae rhywun yn mwynhau. A dyma alwad gan fy hen ffrind a chyd-weithwraig o’r dyddiau cloddio ym Meillionydd, Llŷn. Carol bellach hefo Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Roedd Carol yn holi os oeddwn ar gael am wythnos i gynnal archwiliad o’r Ffatri Fwyeill Neolithig ger Llanfairfechan. Sut gallwn wrthod. Digwydd bod dwi newydd orffen sgewnnu llyfr a thra mae’r golygydd yn edrych dros fy ymdrechion – dwi’n weddol rhydd.
Tyllu beth sydd yn cael eu galw yn ‘test pits’ neu dyllau profi oedd y gwaith. Y bwriad oedd asesu beth oedd y potensial archaeolegol ar y llethrau uwchben Llanfairfechan. Pum mil o flynyddoedd roedd y garreg leol (carreg Graiglwyd) yn addas ar gyfer creu bwyeill. Y cyfnod oedd y Neolithig 4000CC – 2000CC. Rhain oedd yr amaethwyr cyntaf.

Ar ôl deuddydd o gloddio daeth yn amlwg fod angen diwrnod a hanner i gloddio a recordio pob twll – hyd yn oed hefo dau ohonnom yn gweithio gyda’n gilydd. Gyda nifer fawr o wirfoddolwyr yn dod i gloddio am y tro cyntaf rtoedd cryn amser yn mynd ar eu cynorthwyo a chyfarwyddo. Gwaith pwysig – a gwaith pleserus.

Yr hyn roeddem yn eu canfod oedd darnau carreg oedd wedi torri (flakes) er mwyn creu bwyeill. Yn ystod y Neolithig y drefn oedd cael hyd i garreg addas a wedyn gwenud fwyell fras (roughout) ar y safle cyn mynd a’r garreg fras lawr at y cartref / fferm i’w chwblhau a pholisio yn llyfn.

Bwriad y prosiect, ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Cadw a Pharc Cenedlethol Eryri yw gweld os oes modd datblygu hyn i fod yn brosiect ehangach flwyddyn nesa. Felly ein gwaith ni oedd asesu’r potensial archaeoleg. Cyda pob twll yn cynhurchu naddion gwastraff creu bwyeill roedd yn weddol amlwn fod gwaith ar raddfa enang iawn wedi digwydd yma pum mil o flynyddoedd yn ôl.

Gwibiodd yr wyth diwrnod o gloddio heibio ddigon sydun. Mwynhais pob eiliad. Fel dwedais – dyma’r dyddiau gora – allan mewn cae yn cloddio. Roedd un o fy nghyfeillion archaeolegol pennaf, ‘Beaver’ ym methu bod yno – dyna oedd yr unig biti am y cloddio.

Yn ystod yr wythnos cloddio cefais weld Natacha Atlas a Riley Baugus yn fyw a chymerais rhan hefo’r darllediaid o ffilm y Manic Street Preachers ym Mangor. Roedd y llwybrau yn cyd-redeg yn braf.