Wednesday 30 November 2016

Adolygiad o CD Rogue Jones, Herald Gymraeg 30 Tachwedd 2016





Meddyliwch am Ari Up (The Slits), Alison Statton (Young Marble Giants), Bjork mae na ddigon o engreifftiau allan yna o gantorion sydd wedi cael effaith ddiwylliannol enfawr, wedi creu recordiau arloesol a hynod ddylanwadol ac eto, petae rhywun yn gofyn y cwestiwn – ydi rhain yn gallu canu go iawn?

Canu go iawn sydd yn digwydd gyda Maria Callas, Elin Manahan Thomas, Leila Megane a da o beth yw hynny ond mae yna le (arall) yn sicr i’r arloeswyr sydd yn torri rheolau a mae angen nhw yn y Byd Cymraeg (fwy nac erioed).  A bod yn onest rwyf yr un mor gyfforddus yn gwrando ar Maria Callas ac yr ydwyf ar The Slits ond o ran record sydd wedi newid fy mywyd – wel mae Colossal Youth gan Young Marble Giants yn un o rheini.

Ar adegau rwyf yn clywed rhyw dinc o’r Young Marble Giants wrth wrando ar CD newydd Rogue Jones ‘Fi Yw’. Efallai mai dangos fy oed yw hynny. Pwy a wyr os yw Ynyr Ifan a Bethan Mai o Rogue Jones hyd yn oed wedi clywed Colossal Youth?

Ar ‘Hungry’ i gyfeiliant syml accordion a chlocenspiel mae Bethan yn swnio yn agos iawn i Bjork a’r mwyaf Cymreig, y mwyaf Rrrrrroad Rrrrrrage mae hi’n ynganu, y gora. Ambell waith clywaf dinc Americanaidd i ambell air Saesneg gan Bethan, beirniadaeth fach iawn yw hyn, ond fel petae’r gwarchodwr wedi cysgu am eiliad, a gadael rhywbeth drwy’r rhywd.

Y pwynt gennyf yw fod y cyfuniad Bjork-aidd a Cherys-aidd yna yn gweithio yn well. Dyma greu sain Gymreig i’r lleisio beth bynnag yw’r Iaith. Gwthio hyn i’r eithaf ddylia Bethan a pheidio bod ofn hynny am eiliad.

Y rhythm sydd yn gyrru ‘Human Heart’ a hynny yn hypnotaidd ac yn hynod effeithiol. Daw’r melodi yn ddistaw bach dros y gorwel nes eich gwasgu’n dyn a chawn lais dwfn a melfedaidd Ynyr Ifan yn eistedd yn daclus yn y sedd fawr heb orfod bloeddio na gor-ganu. Cynnil ‘di’r gair. Ond effeithiol felly.

Wrth wrnado ar y CD drosodd a throsodd mae rhywun yn ymgyfarwyddo a’r cynnildeb bwriadol – a dyma’r cryfder – mae’r holl beth o’r dechrau tan y diwedd yn tyfu. Yn tyfu ar rhywun. Ond mae’n glyfrach na hynny, yn llawer clyfrach. Dyma chi grefftwyr wrth eu gwaith.

Yr hyn sydd yn amlwg erbyn y tryddydd gwrandawiad yn sicr yw fod Ynyr a Bethan wedi crefftio’r caneuon yma.Ydi mae pob un ac alaw afaelgar ond mae’r datblygiad o fewn pob cân mor grefftus - pa bynnag mor syml mae’r holl beth yn ymddangos ar yr olwg gyntaf (neu’r gwrandawiad cyntaf).




Mochyn Coed sef ‘Little Pig of Tree’ yw’r gân sydd yn fy atgoffa fi fwyaf o rhywbeth oddiar Colossal Youth. Ond eto dyma Bethan yn ynganu mochyn coed yn ‘mochyn côd’. Perffaith. Yn sicr mae’r rhythm ar y periant drwm a’r gitar cynnil yn rhywbeth fydda rhywun wedi ei ddisgwyl gan y brodyr Moxham.

Daw tro arall, annisgwyl cyn ddiwedd y gân a chawn gytgan afaelgar a wedyn darnau fwy od ond mae’r darn ‘electro’ yn syth allan or gwerslyfr pop o’r 1980au. Eto perffaith.
Ar ‘Baby’ mae Ynyr a Bethan yn swnio fel cefndryd pell i Elvis Presley, yn union fel petae hen fodryb iddynt wedi cael cyfathrach sydun gefn llwyfan a’r dyn ei hyn a flynyddoedd wedyn dyma’r ffrwyth genegol yn ymddangos ochrau Caerfyrddin.

Heb os, heb os, a mae angen bloeddio hyn, dyma CD sydd wedi ei grefftio yn ofalus o’r dechrau i’r diwedd. Dyma grefftwyr wrth eu gwaith. Dyma dalentau anhygoel. Rwyf yn rhoi 10 allan o 10 yn hawdd ond gallwn ddygymod a chydig mwy o wthio ganddynt – peidied bod ofn amlygu’r odrwydd.


Wednesday 23 November 2016

The Lost Songs of St Kilda, Herald Gymraeg 23 Tachwedd 2016




Os byddwn yn gorfod rhestru fy hoff recordiau hir erioed, mae’n debyg y byddwn yn gorfod cynnwys Never Mind The Bollocks. The Clash, Inflammable Material, Gwesty Cymru, Crossing The Red Sea, Cut a Colossal Youth yn y 10 Uchaf. Er dweud hyn, mae rhai o’r dewisiadau uchod yn perthyn i’w cyfnod. Faint bynnag o effaith gafodd y Sex Pistols arnaf neu faint bynnag o wefr oedd clywed John Peel yn chwarae albym gyntaf Stiff Little Fingers yn ei gyfanrwydd – chydig iawn o sylw fyddaf yn roi i’r Pistols a SLF y dyddiau yma.

Ond, dydw’i rioed wedi diflasu ar albym Young Marble Giants y band hynod hynny o Gaerdydd mwy na dwi di diflasu ar Jarman dros yr holl flynyddoedd, rhyfedd ynde. Er mor bwysig yw’r recordiau hir uchod, mae’r wefr o ddarganfod recordiau hir newydd yn parhau a fe ysgrifennais yn ddiweddar am y grwp Bendith – heb os albym Bendith yw albym Cymraeg 2016.

Albym tra wahanol yw ‘The Lost Songs of St Kilda’. Dyma chi record hir y clywais amdani ar sioe fore Sul Cerys Matthews ar BBC 6 Music – a dyma deimlo yr un wefr a chlywed Colossal Youth am y tro cyntaf. Clywed y gerddoriaeth fendigedig yma ar y radio a mynd ati i brynu’r record hir y diwrnod canlynol.

Gan fod trigolion dwetha St Kilda wedi gadael yr ynys ers 1930 nid un o drigolion yr ynys sydd yn perfformio ar y CD. Dyma chi stori wahanol iawn. Yn ôl y son fe ddysgwyd gwr o’r enw Trevor Morrison sut i chwarae’r piano gan un o drigolion St Kilda yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ol i Trevor gael ei yrru o Glasgow i Ynys Bute rhag y bomio tra yn hogyn ifanc  
.
Wrth ei ddysgu i chwarae’r piano rhaid fod yr athro o St Kilda wedi trosglwyddo rhai o’r hen alawon iddo a hynny er gwaetha’r ffaith nad oedd piano ar ynys St Kilda – felly dyma’r tro cyntaf i’r alawon yma gael eu trosglwyddo i’r piano. Caneuon llafar oedd rhain yn wreiddiol. Caneuon yn cael eu canu gan y trigolion wrth iddynt hel wyau adar o’r clogwyni.

Bu farw Trevor yn 2012 mewn cartref hen bobl yng Nghaeredin. Ef mae’n debyg oedd y person olaf oedd yn cofio’r alawon yma. Diolch i’r nefoedd bu cyfaill iddo, Terry Blair, ddigon craff i berswadio Trevor i recordio’r caneuon yma ar ei gyfrifiadur gan recordio ar y piano yn cartref preswyl.

Mor hawdd, mor hawdd, fyddai fod y caneuon yma wedi myng yn angof am byth. Ychwanegir at yr holl naws gerddorol gan fod y recordiad yn syml ac yn finimol a dweud y lleiaf. Anodd curo hen biano plincdi plonc. Cawn synnau organig minimol tebyg ar albym Bendith ac yn yr oes yma o berffiethrwydd digidol, glan a di-enaid mae clywed synnau go iawn, amrwd a chynnes yn rhywbeth i’w gofleidio.

Cawn ambell i drefniant cerddorfaol hefyd, un gan Francis Macdonald (o’r Teenage Fanclub) gyda llais hyfryd Gaeleg Julie Fowlis yn ychwanegu at y naws, ond heb os yr wyth recordiad gan Trevor Morrison ar ei biano syml sydd yn rhagori.

Er na fuais erioed i St Kilda, mae’r gerddoriaeth hudol yn ein hudo yno yn syth. Beth bynnag rydym yn ei ddychmygu, mae’r gerddoriaeth yn gwneud i ni ddychmygu. Os cefais wefr a phleser o chwarae albym Bendith drosodd a throsodd, mae hon yn albym arall fydd yn cael ei gor-chwarae yn Mwyn HQ. Braf cael darganfod rhywbeth hen/newydd/newydd/hen. Heb os mae cerddoriaeth fel hyn yn rhoi pleser a gwen, yn gwneud dirwnod yn well diwrnod.

Mewn ffordd rhyfedd mae rhywun hefyd yn dychmygu Ynys Enlli. Dyma chi le arall, arall-fydol. Sgwn’i fu yna erioed alawon gwerin a oedd yn perthyn i Enlli? Cwestiwn. Does gennyf ddim ateb, ond byddai mor braf darganfod fod yn Enlliwyr wedi cyfansoddi caneuon Enlliaidd unigryw.

Cyfeirio at y creigiau, y darnau anferth o graig, yr ynysforoedd, yr archipelago yn gorwedd yng nghanol y mor tua 64 kilomedr i’r gorllewin o weddill Ynysoedd Heledd (Hebrides Allanol)  mae’r teitlau fel Stac Lee, Boreray, Stac an Armin. Cawn ein hudo gan y teitlau cyn cychwyn gwrando ar y gerddoriaeth, onid yw Boreray yn creu darlun ac yn ysgogi’r dychymyg o’i ddarllen yn unig?

Rydym yn pontio rhwng y gwerin a’r clasurol yma (fe wnaeth Bendith yr un peth) a does dim o’i le a hynny. Cyfeirio at ddefaid Neolithig ac Oes Efydd mae Soay a Boreray a mae gwrthrychau Neolithig wedi eu darganfod ar yr ynysforroedd yma.

Cawn hefyd stordai o garreg sydd yn unigryw i’r ynysoedd ar St Kilda o’r enw cleitean neu bothy. Mae dros fil ohonynt ar ynys Hirta ac ar Boreray cawn y Cleitean MacPhàidein  sef y ‘pentref’ o dri cleit hefo’u gilydd. Stordai fyddai rhain ar gyfer tatws, wyau, pysgod, cig, adar y mor wedi eu halenu yn ogystal ac offer pysgota. Fe all rhywun eu cymharu i’r cwt tatws neu’r ‘cladd’ Cymreig fel sydd i’w gweld yn Nhudweiliog (yn y Cwt Tatws) neu fel yr un sydd wedi ei adfer ar Stad Egryn yn Ardudwy.

Anodd ddyddio’r cleitiau gan fod defnydd dros gyfnod hir iawn o amser o’r math yma o stordai. Byddai taith i weld yr archaeoleg yn St Kilda yn gwneud y tro yn sicr. Yn y cyfamser rhaid bodloni hefo’r gerddoriaeth hyfryd iawn ar y CD ‘The Lost Songs of St Kilda’ a diolch byth fod Trevor Morrison wedi llwydo i’w recordio ar gof a chadw.






Wednesday 16 November 2016

“If Adolf Hitler flew in today, they’d send a limousine anyway”. Herald Gymraeg 16 Tachwedd 2016



Dyma'r fideo:

https://www.youtube.com/watch?v=IkM5lrrnq_Y


If Adolf Hitler flew in today, they’d send a limousine anyway”. Daw’r llinell hon o’r gân ‘White Man in Hammersmith Palais’ a ryddhawyd ar y 17 Mehefin 1978. Nid gor-ddweud  yw awgrymu fod y gân yma wedi cael effaith fawr iawn ar fy mywyd, a’r llinell honno yn benodol. Ond dros yr holl flynyddoedd o chwarae’r gân a hynny heb ddiflasu, mae un peth wedi bod yn gyson, dwi o hyd wedi dweud wrth fi fy hyn “Na, fydda nhw ddim yn gwneud hunna go iawn”.

Heddiw dwi ddim mor sicr. Daw’r dyn bach hynod flin ac annymunol hwnnw, Nigel Farrage i’m meddwl yn syth. Dyma chi ddyn, a oedd heb gynrychiolaeth yn y Senedd, a gafodd fwy o sylw na’r Blaid Werdd , a oedd oleiaf gyda Caroline Lucas wedi ei hethol, a mae modd awgrymu mai’r Cyfryngau greodd Farrage.

Mae na rhywbeth am ddynion bach sydd yn gweiddi. Mae nhw’n gwneud teledu da, yn rhoi dyfyniadau da ar gyfer y papurau newydd. Digon o ddyrnu byrddau. O ran gwneud teledu da a rhoi “dyfyniadau da” mae rhywun yn meddwl am Adolf Hitler neu Enoch Powell hefyd, oll yn ddynion bach, a’i ‘little man syndrome’ yw hyn oll? Gan dderbyn nad oes mwstash gan Farrage mae o’n debyg iawn o ran personoliaeth, mae’n mynnu ffordd ei hyn, yn gweiddi dros unrhyw lais sydd yn ei wrthwynebu. Bwli.

Awgrymais rhyw ddwy flynedd yn ôl ar rhaglen ‘Pawb a’i Farn’ fod Farrage a UKIP wedi cael llwyfan llawer mwy nac oedd yn deg o ran eu grym etholiadaol – ac ylwch ar ganlyniad hynny erbyn heddiw. Mae modd awgrymu mae bwlio Farrage sydd wedi arwain at y drychineb economaidd a chyfansoddiadol sydd yn wynebu gwledydd Prydain heddiw – a fe chwaraeodd y Cyfryngau rhan yn creu hyn yn hytrach nac adlewyrchu hyn. Fe ddisodlodd Farrage Nick Griffin oddi ar y Cyfryngau yn ddigon hawdd  yndo.

Codwyd fy nghalon ychydig wythnos dwetha wrth ddarllen erthygl yn y Guardian fod Theresa May nawr dan bwysau i dawelu bloeddio a bwlio y dorf Brexit. ‘Brexit mob’ oedd disgrifiad y Guardian 4dd Tachedd 2016. Canlyniad oedd hyn wrthgwrs i ddyfarniad yr uchel lys fod yn rhaid i’r Senedd gymeradwyo pwyso botwm coch Erthygl 50. A dyma’r bwlis allan yn syth.

Farrage yn awgrymu y bydd Brexit yn cael ei fradychu.  Suzzanne Evans isho diswyddo’r barnwyr. Fox yn son am ‘farn y wlad’. Ac unwaith eto, roedd angen sylwebwyr craff y Guardian i’n hatgoffa mai rhain oedd wedi bloeddio, a bloeddio, a bloeddio am gael ‘rheolaeth yn ôl a pharchu democratiaeth’. Chwerthinllyd petae’r holl beth ddim mor ddychrynllyd.

Roedd ymosodiadau’r Mail a’r Express yn mynd rhy bell a dyma ddechrau (o’r diwedd) glywed Aelodau Seneddol yn mynegi barn i’r gwrthwyneb. Roedd synnwyr cyffredin gan Caroline Lucas a Nick Clegg oleiaf, ond poenus iawn yw diymadferthrwyr ein Haelodau Seneddol yn sgil ‘barn y bobl’. Efallai fod nhw ofn y ‘mob’?

Efallai fod angen eu hatgoffa mai 17 miliwn oedd o blaid Bexit, 16 miliwn o blaid aros a 12 miliwn heb bleidleisio. Nid mwyafrif llethol heb son am y rhai heb bleidlais. Felly beth am gynrychioli’r 16 miliwn? Dwi’n un o rheini ac yn hynod hynod siomedig yn ymateb fy nghynrychiolwyr seneddol a chynulliadol.

Y ffaith pornus yng  Nghymru wrth reswm yw mai prin oedd y mwyafrif dros Ddatganoli hefyd, felly rhaid bod yn ofalus herio ‘barn y bobl’ ond eto i ddyfynu newyddiadurwr arall yn y Guardian mae’n beth od iawn teithio ar awyren heb i’r capten gydnabod pen y daith.

Dwi’n ofni mae methiant gwleidyddol sydd wrth wraidd hyn oll a mae barn y bobl / dorf / ‘mob’ yn beth peryglus heb addysg a ffeithiau a thrafodaeth agored.

Dathlu Barry Cyrff, Johnny Fflaps, Al Maffia a Bern Elfyn Presli, Herald Gymraeg 9 Tachwedd 2016





Beth bynnag rwyf wedi ei ddweud a wedi ei ysgrifennu am y Byd Pop Cymraeg dros y blynyddoedd, faint bynnag rwyf wedi ddamcaniaethu a beirniadu, mae un peth cyson yn hyn oll. Mae gweithio yn y maes pop dros y blynyddoedd wedi dod a fi i gysylltiad a chymeriadau hynod iawn. Yn wir, byddwn yn dweud fy mod wedi mod yn freintiedig iawn, a lwcus iawn mewn ffordd, i gael ’nabod rhai ohonnynt.

Erbyn heddiw, yn 2016, a hynny 37 mlynedd ers i mi ddcehrau teithio ar y llwybr pop, dydi pob un o fy nghyfoedion ddim wedi cyrraedd y pwynt yma, mae gormod ohonynt wedi ein gadael  a llynedd fe ddechreuais feddwl fod angen gwneud rhywneth i gofio amdanynt. Rhywbeth i gydnabod yr ymroddiad llwyr a roddwyd i greu cerddoriaeth (ac ambell i chwyldro) yn yr Iaith Gymraeg.

Peth od iawn ydi’r Byd Cymraeg ’ma, heb son am y Byd Pop Cymraeg (sydd o safbwynt masnach yn llai byth). Fydda na ru’n cerddor Cymraeg yn filiwnydd, a dwi ddim yn credu i unrhyw gerdddor Cymraeg ddisgwyl hynny. Ar y gorau ella byddai cerddor Cymraeg yn crafu byw, onibai eu bod yn un o’r chydig iawn iawn o gerddorion sydd am ba bynnag reswm yn cael eu derbyn gan y ‘brif-ffrwd’ ond hyd yn oed wedyn, byr oes yw’r yrfa fel arfer.

Yn y Byd Cymraeg, yr unig ffordd o wneud bywoliaeth fel cerddor Cymraeg yw cael swydd arall hefo’r Cyfryngau neu canu yn Saesneg. Da neu ddrwg, dyna’r ffaith plaen amdani. Mae’r rhan fwyaf ohonnom ar yr un gwch – yn gwneud sawl peth er mwyn talu’r biliau. Dydi’r gerddoriaeth ddim yn ddigon. Does yna ddim dewis.

Dechreuodd pawb gyfansoddi a pherfformio am y rhesymau iawn – sef fod awydd yna i ddweud rhywbeth, i rannu cerddoriaeth boed hynny ar record neu ar lwyfan. Dwi rioed di clywed neb yn dweud eu bod wedi dechrau band er mwyn gwneud pres. Creadigrwydd a chelfyddyd oedd yn eu gyrru.




Fel casglwr recordiau rwyf wrth fy modd hefo’r recordiau bach feinyl du 7” hynny rwyf yn eu galw yn ‘brin’. Meddyliaf yn syth am y record ‘N.C.B’ gan y Llygod Ffyrnig neu ‘Maes B’ gan y Blew. ‘Casgliadwy’ medda ni am rhain, ond gofynnwch i’r casglwr, neu unrhywun arall enwi aelodau’r band a mi fydd na chwys go arw ar y talcen.

Hawdd iawn yw rhestru aelodau’r Stones, neu’r Stranglers hyd yn oed, ond yn y Gymraeg does na fawr o wasg gerddorol, dim hanner digon o drafod a dadansoddi ac o ganlyniad prin iawn yw gwybodaeth pobl am yr unigolion sydd yn ffurfio grwpiau Cymraeg. Diolch byth am raglenni nos Radio Cymru ( a dwi’n dweud hyn gan ddatgan diddordeb amlwg) ond mae Lisa Gwilym, Georgia Ruth a Huw Stephens yn rhoi ‘parch’ i artistiaid.

Yn achlysurol cawn raglenni o safon uchel ar S4C. Rwyf yn meddwl am y gyfres gyfredol ‘Cwl Cymru’ gan Alun Horan (Tinopolis) a rhaglen ddogfen ragorol Gareth Potter ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ lle cawn werthfawrogiad o wahanol gyfnodau yn hanes cerddoriaeth pop Cymraeg. Ond hyd yn oed wedyn, triwch chi enwi holl aelodau’r Cyrff, neu’r Fflaps, neu Maffia Mr Huws, neu Elfyn Presli?

Mae’r pedwar grwp yna wedi colli aelod gwreiddiol o’r band, Barry, Johnny, Al a Bern a mae llawer llawer mwy wedi ein gadael fel Lwi o’r Rocyrs, Huw Brodyr. Pippa Gwefrau neu Rheinallt H Rowlands. Mae angen gwneud mwy, i gofio, i ddathlu ac i ddiolch iddynt.





Bydd cyngerdd yn Neuadd Ogwen, Bethesda Nos Sadwrn 12 Tachwedd i ddathlu cyfraniad rhai o’r cerddorion uchod. Elw at elusen Cerddoriaeth Mewn Ysbytai drwy ddymuniad y teuluoedd.

http://neuaddogwen.com/events/fay-ray-rabo-de-toro-welsh-rebel-outpost-burnham-burnham-white-ether/

Thursday 3 November 2016

Lefel A Archaeoleg a Chloddio yng Nghwn Orthin, Herald Gymraeg 2 Tachwedd 2016



Y dyddiau gorau yw’r rhai allan yn yr awyr iach yn gwneud gwaith cloddio archaeolegol hefo ffrindiau. Dwi’n defnyddio’r gair ‘ffrindiau’ yn fwriadol yma, achos dros y blynyddoedd, a hynny yn cloddio ym mhob tywydd, mae rhywun yn dod yn ffrindiau da iawn hefo ei gyd-gloddwyr.

Ymhlith y criw mwyaf hwyliog, ac yn sicr y criw archaeolegol mwyaf Cymraeg eu hiaith, mae’r criw sydd wedi bod wrthi yn ddygn a selog yng Nghwm Orthin yn gweithio ar olion tai Chwarel Cwm Orthin. Byddaf yn trydar weithiau gan ddefnyddio llun o Gwm Orthin (gan edrych dros y llyn) ac yn datgan ‘golygfa o’r swyddfa heddiw’. Rhyw joc fach ymhlith y rhai sydd yn trydar yw’r ‘golygfa o’r swyddfa’ ond mae’n gweithio, mae’n rhoi gwen ar wynebau a mae’n dod a sylw at y lle neu’r prosiect.

Dros yr wythnosau dwetha mae’r criw wedi bod yn cloddio o amgylch y barics yng Nghwm Orthin a chwestiwn amlwg oedd yn codi oedd, beth ddigwyddodd i’r hen lwybr tuag at Gapel Tiberias. Yr ateb syml wrthgwrs yw fod yr holl beth bellach o dan y mawn ond joban pum munud oedd hi i Bill Jones a’i wialen brocio gael hyd i’r darnau caled o’r llwybr rhyw fedr o dan y mawn.

Wrth i mi gyrraedd fy ngwaith, y joban nesa oedd defnyddio offeryn o’r enw ‘rutter’, sef rhyw fath o raw anferth gyda phen hanner cylch miniog er mwyn torri drwy’r mawn. Deallais gan Bill mai dyma ddefnyddir gan goedwigwyr i dorri ffosydd. A dyna chi beth yw rhaw (neu rutter) go iawn, bron cymaint a maint dyn ond son am effeithiol.

O’r eiliad roedd rhywun yn rhoi ei bwysau ar droed y ‘rutter’ a llwyddo i dorri i mewn i’r mawn roedd gweddill y gwaith yn hawdd gyda thalpiau o fawn yn codi wedyn yn gymharol hawdd. Er mwyn symud y talpiau mawn roedd rhaid defnyddio offeryn arall wedyn a oedd yn ymdebygu i rhyw fath o gribyn miniog er mwyn halio’r mawn o’r ffordd.




Buan iawn y llwyddom i gyrraedd wyneb y llwybr, ond ein tasg go iawn oedd cael hyd i’r bont droed fyddai wedi croesi’r ffrwd sydd yn rhedeg am Lyn Orthin rhwng y barics a’r capel. Yn sicr roedd na duchan a chwysu. Roedd na gryn dipyn o chwerthin a baglu hefyd ond awr neu ddwy yn ddiweddarach roedd y bont droed wedi dod i’r golwg.

Efallai fod y bont droed fechan amrwd yma o grawiau ’Stiniog ddim cweit mor drawiadol a’r ‘wonderful things’ roedd Carter yn ei ddisgrifio i Carnarvon ond cyn belled a dwi yn y cwestiwn mae darganfod pont droed yng Nghwm Orthin yn llawer mwy perthnasol ac yn rhoi cymaint o wefr ac unrhyw aur, i mi.

Glanhawyd y bont droed a bu Bill yn brysur wedyn yn cofnodi a thynnu lluniau a’r bwriad yw ei gadael nawr fel ac y mae hi. Os bydd unrhywun yn mentro dros y tir gwlyb rhwng y barics a Chapel Tiberias bydd modd iddynt groesi (a gwerthfawrogi) y bont droed hynafol a hynod hon. Does dim byd ‘ffansi’ am y bont, crawiau yn unig sydd yma, ond dyna sydd yn ei gwneud mor hynod. Syml ac i bwrpas. Sawl un groesodd y bont fechan yma ar y Sul? 

Fedra’ni ond dychmygu y bywyd caled, ac ar adegau garw o ran tywydd, oedd gan drigolion chwarelyddol Cwm Orthin. Ond drwy glirio’r bont rydym nawr yn gallu troedio’r un llwybr. Rydym yn sefyll yn yr un lle. Mae modd I ni ddychmygu oleiaf.

Yn gwisgo het arall, fel un o ymddiriedolwyr Cyngor Archaeoleg Prydain (Cymru), dyma’n union sydd ei angen. Gwaith cloddio cymunedol fydda ddim yn digwydd fel arall. Dyma sydd yn wych a phwysig am griw Cwm Orthin – mae hyn o’r gymuned leol, gan y gymuned leol ac ar gyfer y gymuned leol ac yn wir – gweddill y Byd. Fe gaiff pawb fwynhau ffrwyth y gwaith cloddio. Cofiwch y wybodaeth yw’r gwir drysor.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar na fydd modd astudio lefel A Archaeoleg bellach yng ngwledydd Prydain. Deallaf fod yr un peth yn wir am Hanes Celf. Ymddengys fod y philistiaid nawr yn gyfrifol am addysg. Anhygoel. Anghredadwy. Trist. Rydym yn gwybod fod y celfyddydau yn eu holl amrywiaeth yn cyfoethogi bywydau pobl – mae archaeoleg a hanes yn cael ei gynnwys yma gennyf. Rydym hefyd yn gwybod fod gwerth economaidd i’r celfyddydau.

Dyna pam dybiwn i fod Sadiq Khan, Maer Llundain wedi dechrau poeni fod cymaint o glybiau nos y brifddinas (hy D.U) yn cau neu dan fygythiad gan ddatblygwyr – gan fygwth economi nos Llundain. Yn y byd ôl-Brexit mae angen i ni ddechrau poeni, achos does gan y Toriaid/UKIP ddim syniad o gwbl am werth diwylliant. Te parti hefo Jac yr Undeb a gwisg ffansi o’r 1950 yw eu diwylliant nhw.

Dydi cerddoriaeth reggae neu unrhywbeth Celtaidd neu hyd yn oed Noson Agoriadol Olympaidd Danny Boyle ddim yn rhan o’u byd bach nhw. Mae’n amhosib troi y cloc yn ôl ac eto, dyna nod Brexit, rhyw Loegr ddychmygol o’r 1950au – a’n helpo ni Geltiaid!
Hyd yn oed o fewn sefydliad fel Cyngor Archaeoleg Prydain (Cymru) mae angen dechrau codi llais – os fydd pobl ifanc ddim yn cael astudio archaeoleg cyn y Brifysgol does ond modd disgrifio hyn fel ‘cam yn ôl’.

 Rwyf yn sgwennu hyn ar ddiwedd 2016 yn methu coelio fod hyn yn digwydd mewn gwlad oedd i fod yn un oleuedig.