Wednesday 27 July 2016

Y Sioe Frenhinol, Herald Gymraeg 27 Gorffennaf 2016




Ardent Eisteddfodwyr may disagree, but the Royal Welsh is the nation’s true cauldron’. Geiriau yr awdur a’r seico-ddaearyddwr Mike Parker yn ei lyfr Real Powys (2011). Nid fod hon i fod yn gystadleuaeth (rhwng y ddwy ŵyl) ond mae darllen sylwadau Parker, mewnfudwr sydd bellach yn Gymro, yn ysbrydoli rhywun i edrych ar y Sioe Frenhinol drwy sbectol wahanol.

Amlwg felly i Parker, sydd yn rhydd o’r rhagfarnau ieithyddol mae’r gweddill ohonnom wedi eu hetifeddu, fod maes y Sioe Frenhinol yn un lle, lle mae’r ddwy iaith yn cerdded llaw yn llaw. Dim ond seico-ddaearyddwr ac awdur o dras amgen fel Parker all gyfeirio at ddwy-ieithrwydd fel hyn: “the Welsh and English languages collide and elide, slipping over one another like post-coital lovers’.

Er mor farddol yw geiriau Parker, rwyf wedi colli’r trywydd braidd o ran y rhyw ol-gytgnawdol, ond dyna ddawn yr awdur, plethu geiriau, creu darluniau a thirwedd newydd (ar gyfer Powys) a siawns …… ysbrydoli rhywun i grwydro …….

Defaid yw defaid a gwartheg yw gwartheg, tyfais fyny drws nesa iddynt yn Llanfair Caerenion. Drwy’r drws ffrynt a cherdded y ffordd darmac (ddim cweit yn stryd) i’r pentref, drwy’s drws cefn a dros gamfa i’r caeau (o ddefaid a gwartheg). Ond rhyfeddais yn y Sioe ar y gwahanol liwiau. Doedd dim defaid a gwlan melyn yn Llanfair Caereinion yn y 1970au mae hynny yn sicr.

Gallwn fod wedi treulio gweddill y diwrnod yn trafod y gwahanol fridau o ddefaid, yn hawdd. Pa well ffordd o ddysgu na chael sgwrs hefo’r perchnogion balch, yn enwedig y rhai gyda’r rhosglwm Dosbarth 1af ar eu brest, mor falch a buddugolaethus. Ond nid diwrnod felly oedd hi, roeddwn yno i weithio, ac ar ben hynny roedd y teulu wedi dod hefo fi am dro. (Peth prin yw cael hogiau yn eu harddegau i ddod am dro hefo ‘Dad’ dyddiau yma!).

Am 2-20 y pnawn roedd awyren Spitfire yn hedfan dros y maes, a hynny sawl gwaith. Clywsom rhuthr yr injan rhai munudau cyn i ni gael golwg ar yr awyren ei hyn – a dyma hi yn dod dros y bryniau i’r gogledd yn isel ac yn gyflym cyn troi ar ei hochr ac amlygu’r arwydd targed cylchog RAF o dan ei hadenydd.  Dyma fi yn hogyn 10oed eto. Am gyffrous, ac ar ben hynny roedd y ddau arddegyn wedi eu cyfareddu hefyd – diolch byth am hynny – rhywbeth iddynt fwynhau.

Cafwyd gwledd a dweud y gwir, yn enwedig yn yr ymrysonfa ganolig, gyda Cossacks o’r Iwcrain yn cyflawni campweithiau ar eu ceffylau a thryciau anferth yn gyrru dros rhesi o geir gan eu malu’n rhacs i gyfeiliant cyflwynydd yn herio’r dorf – “Yda chi’n barod am chydig o ddinistr?” Erbyn hyn roedd ‘Dad’ wedi adfer mymryn bach o hygrydedd – “ylwch hogia dydi gwaith ‘Dad’ ddim bob amser yn ddiflas”.

Uchafbwynt arall, y tro yma ychydig fwy llythrennol, oedd cael mynediad i falconi S4C, roeddwn yma i ffilmio hefo Heno/S4C. Roedd yr arddegwyr yn falch o gael eistedd i lawr erbyn hyn a thra roedd ‘Dad yn ffilmio’ fe gafo’ nhw ei sbwilio gan y gyflwynwraig Sian Thomas a oedd yn gwneud yn siwr fod ganddynt gyflenwad barhaol o ddiod a biscedi. Chymerodd yr un o’r ddau unrhyw sylw o’r ffilmio ond cafwyd cyfle i weld ceffylau yn neidio a rasio a hynny o seddi ddigon moethus ar y balconi diolch i S4C. Braf cael rhyw fân fantais weithiau yntydi!.


Er fod gwaith wedi hawlio rhan fwyaf o fy sylw, mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn.Os dychwelaf eto dwi am wneud yn siwr fy mod yn cael dysgu mwy am y bridau defaid anhygoel melyn yna!

Thursday 21 July 2016

Fanzines Amgen Herald Gymraeg 20 Gorffennaf 2016




Yn ôl yn Haf 2015 fe ysgrifennais erthygl ar gyfer cylchgrwan Y Casglwr (Rhif 114) ar gasglu fanzines. Dyma sut y bu i mi ddiffinio a cheisio esbonio beth oedd fanzine yn yr erthygl honno: “Diffiniad ‘fanzine’ yw cylchgrawn wedi ei sgwennu gan ddilynwyr brwd, sef y ‘ffan’ ac ychwanegir y gair  ‘zine’ o’r gair magazine. Yn ystod 1976 ymddangosodd y fanzines Pync cyntaf, a rhain oedd, mewn amser, i sbarduno ac ysbrydoli cyhoeddi cylchgronau tanddaearol tebyg yn y Gymraeg ar ddechrau’r 1980au. Daw’r disgrifiad ‘tanddaearol’ yn y cyd-destyn Cymraeg oherwydd natur ac ysbryd amgen y cylchgronau yma a hefyd oherwydd eu safbwynt gwrth-sefydliadol”.

Rwan ta roedd dau broblem sylfaenol gyda chyhoeddi’r erthygl yna yn Y Casglwr. Yn gyntaf doedd gan (yn wir, does gan) ddarllenwyr Y Casglwr fawr o ddiddordeb mewn cylchgronau tanddaearol yn trafod cerddoriaeth a gwleidyddiaeth tanddaearol. Yn ail, ac yr un mor amlwg, dydi dilynwyr cerddoriaeth tanddaearol ddim yn ymddiddori rhyw lawr mewn hen lyfrau Cymraeg a Chymreig. A’i fi yw’r eithriad? Ddylia hi ddim bod felly.

Y rheswm dros gyhoeddi’r erthygl, a hynny gyda brwdfrydedd llawn y golygydd, Mel Williams, Llanuwchllyn, oedd fod y ddau ohonnom yn teimlo yn gryf fod angen gwthio ychydig ar y ffiniau o ran pa ddeunydd Cymraeg sydd yn cael ei ystyried yn gasgliadwy. Felly dros y blynyddoedd rwyf wedi cyhoeddi erthyglau yn Y Casglwr ar gasglu recordiau feinyl Cymraeg, llyfrau sydd yn ymwneud a cherddoriaeth pop Cymraeg yn ogystal ac erthyglau mwy traddodiadol am gasglu llyfrau Gwilym Cowlyd a beirdd Dyffryn Conwy oedd a chysylltiad ac Arwest Glan Geirionydd.

Rhyw bythefnos yn ôl, ar fy rhaglen Nos Lun ar BBC Radio Cymru, daeth cyfle arall i drafod fanzines yng nghwmni Pat Morgan o’r grwp Datblygu ac Owain Meredith, archifydd gyda HTV. Eto ein bwriad, mewn ffordd ddigon hwyliog, oedd ceisio dod i’r afael a phwysigrwydd a chyfraniad diwylliannol y cylchgronau tanddaearol llun- copïedig yma. Rhaid oedd cyfaddef (gan chwerthin) mae prin iawn oedd eu cylchrediad, gwael iawn ar y cyfan oedd eu safon argraffu ac amrwd iawn oedd y cynnwys (a dweud y lleiaf).

Pat Datblygu oedd golygydd y fanzine Yn Syth o’r Rhewgell  ac un canlyniad ddiddorol o’r trafodaethau yma yn Y Casglwr ac ar Radio Cymru oedd sylwi fod cymaint o’r ‘golygyddion’ yn bobl sydd wedi dod i’r amlwg wedyn. Golygydd  ‘Dyfodol Dyddiol’ er engraifft oedd Gorwel Roberts (yn ddiweddarach aelod o’r grwp Bob Delyn) ac wrth ddisgrifio ei gyhoeddiad yn fy erthygl yn Y Casgwr dyma oedd fy argraffiadau wrth edrych yn ôl:
a chawn gyfuniad bler o erthyglau, rhai mewn llaw ysgrifen a’r lleill wedi eu teipio yn wael – a phopeth wedi ei lungopio mor wael nes fod y darllen bron yn amhosib ar adegau. Ond dyna oedd natur ffansins, mater o gyhoeddi barn mor sydun a mor rhad a phosib. Cawn adolygiad o ‘Daith y Carcharorion’ gyda Geraint Jarman a Maffia Mr Huws yn rhifyn Mai 1986 sydd yn byrlymu o farn di-flewyn ar dafod y golygydd. Dyna’r pwynt”.

Fy mwriad yn Y Casglwr yn sicr, oedd ceisio dal ysbryd cyfnod y ffansins ac i roi ar gôf a chadw ychydig o sylwadau am y cyfnod yma yn hanes diwylliant amgen Cymraeg. Da ni ddim yn dda iawn fel Cenedl am fod yn ‘amgen’. Mae’r duedd Methodistaidd i gydymffurfio yn parhau i fod yn gryf iawn.



Yn ystod cyfnod y ffansins, fe ehangodd y drafodaeth Gymraeg i gynnwys pethau fel ‘Hawliau Anifeiliaid’. Roedd un ffansin penodol Profion Dirgel yn cael ei gyhoeddi gan olygydd ifanc o’r enw Nigel Trow o Lanuwchllyn a Profion Dirgel yn fwy na unrhyw gyhoeddiad arall efallai lwyddodd orau i wthio ffiniau’r drafodaeth Gymraeg. Tra roedd myfyrwyr Pantycelyn yn gwrthdystio dros yr hawl i lenwi ffurflen arall yn y Gymraeg roedd Trow yn dilyn llwybr grwpiau fel Crass a Poison Girls ac yn trawsblannu hyn i’r ardd Gymraeg. Son am ddau fyd mor wahanol.

Anodd heddiw wrthgwrs amgyffred pam mor wrth-sefydliadol roedd pawb yn y byd tanddaearol yn deimlo yn ystod yr 1980au. Ond y sefydliad oedd y Byd Cymraeg. Roedd Trow yn cynnig gobaith i bobl ifanc di-Gymraeg ar stryd fawr Corwen fod mymryn bach iawn o’r Byd Cymraeg yn gallu bod yn berthnasol iddynt. Rwyf yn dal i adnabod rhai o’r bobl yna hyd heddiw, y rhai oedd ddim am siarad Cymraeg yn Ysgol y Berwyn, ond fe ddangiswyd iddynt fod popeth Cymraeg ddim ru’n fath. Dangoswyd (I’r rhai oedd ei angen) fod yn ‘amgen’ yn Gymraeg.



A heddiw, i rhywun fel fi, sydd yn ysgrifennu i’r Herald Gymraeg, yn cyflwyno ar y BBC, yn beirniadu traethodau i’r Eisteddfod Genedlaethol, anodd iawn yw hawlio fy mod dal yn ‘amgen’. Rwyf bellach yr un mor hapus yn rhoi sgwrs i Ferched y Wawr ac y byddwn yn cynnal gig. Esblygiad dros gyfnod o amser yw’r ffordd orau o esbonio hyn ond does gennyf fawr o ddiddordeb mewn ail adrodd y bregeth danddaearol o 1985 er fod pwyntiau Trow am fywddyrniad ac hawliau anifeiliaid yr un mor agos i fy nghalon heddiw ac yr oedd pryd hynny.


Does gennyf ddim syniad bellach beth yw bod yn ‘amgen’ yn y Byd Cymraeg yn 2016? Oes unrhywun yn amgen bellach?  Oes angen i bobl fod yn amgen yn y cyd destyn Cymreig bellach? Efallai fod rhywun yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol (ond heb werthu allan). Yn sicr mae edrych yn ôl ar y ffansins yn rhoi cipolwg ddiddorol iawn a’r safbwyntiau amgen iawn ar un cyfnod penodol yn ein hanes diwylliannol.





Monday 18 July 2016

Gareth Bale yn Nant Gwrtheyrn, Herald Gymraeg 13 Gorffennaf 2016




Rwyf yn edrych ymlaen rhywsut at gael dychwelyd at fywyd ‘arferol’ yn trafod a sgwennu am archaeoleg a diwylliant (amgen) Cymraeg ond rhaid yndoes grybwyll beth ddigwyddodd gyda tim peldroed Cymru yng nghystadleuaeth Ewros 2106. Fel rwyf wedi son yn fy ngholofn dros y bythefnos ddwetha, prin iawn yw fy nghymwysterau fel sylwebydd gwleidyddol ond ‘ddim yn bodoli o gwbl’ mae fy arbenigedd ar beldroed.

A bod yn hollol onest, y tro dwetha i mi gymeryd diddordeb go iawn mewn peldroed oedd cyfnod George Best, Bobby Charlton a Denis Law, sydd yn rhoi syniad eitha da i chi o lle dwi arni. Ond dyma dro ar fyd, dyma ddechrau sylweddoli fod rhywbeth yn digwydd, ac o gymeryd ‘diddordeb’ yn y canlyniadau, dyma ddechrau gwylio’r gemau ar y teledu. O fewn dim roeddwn wedi cael troedigaeth.

Ychydig iawn o fy nghyd-weithwyr yn y byd archaeoleg oedd yn cymeryd unrhyw sylw o’r Gystadleuaeth a dyma ddechrau glywed fy llais dros amser panad yn mynegi fy ngobeithion a fy ngofidion am y gêm nesa fel petawn wedi dilyn y peth erioed. Ymateb fy nghydweithwyr ar y cyfan oedd edrych yn syn arnaf.

Erbyn y gêm yn erbyn Gwlad Belg methais ac eistedd yn llonydd ar y soffa i wylio’r gêm. Codais gyda ochneidiau aflafar bob tro roedd Bale yn agosau at y gôl - roeddwn wedi troi mewn i ddilynwr brwd (‘ffan’) dros dro yn sicr. Erbyn y gêm yn erbyn Portiwgal roeddwn yn deall pam fod sylwebyddion yn cyfeirio at ‘artaith’ ac erbyn 5 o’r gloch y prynhawn tyngedfennol yna roeddwn ar bigau’r drain
.
Cyfeirwyd at y ‘daith anhygoel’ y bu’r peldroedwyr a’r dilynwyr arni dros yr wythnosau dwetha ac heb os fe welwyd brwdfrydedd anhygoel led led Cymru ac erbyn y diwedd dros Brydain gyfan wrth i Loegr fethu mor drawiadol a Gogledd Iwerddon golli i Gymru. Roedd pawn isho bod yn Gymro, hyd yn oed Cameron.

Heb os, fe gafodd yr Iaith Gymraeg hwb amhrisiadwy o ran PR, a fe fu hyd yn oed y cwmniau masnachol mawr yn cydnabod gwerth defnyddio’r Gymraeg er mwyn gwerthu pethau i ni da ni ddim wirioneddol eu hangen. Os am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n weddol amlwg fod y tim peldroed yn gorfod chwarae rhan allweddol yn y frwydr yna. Bale yn Nant Gwrtheyrn ar S4C!

Byddai cyrraedd y gêm derfynol wedi bod yn beth anhygoel, ac wrth reswm mae’n siom enfawr colli mor agos i’r lan, ac eto, mae pawb di dallt hi – roedd cyrraedd mor bell ac y gwanaethom yn beth anhygoel hefyd – yn debygol o ysbrydoli cenhedlaeth newydd ifanc o beldroedwyr am flynyddoedd i ddod.

Rhoddwyd hwb i’n ‘hyder Cenedlaethol’ heb os, ond wrth sobri y bore wedyn ar ôl gêm Portiwgal, roedd yr hen gwmwl du yn ail ymddangos. Rydym yn parhau i wynebu’r her wleidyddol fwyaf a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd. Awgrymwyd gan rai sylwebyddion gwleidyddol y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael hyd i ffordd o barhau yn yr Undeb Ewropeaidd tra bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl fel rhyw atodiad dibwys i Loegr. A tydi Lloegr ddim hyd yn oed yn gallu chwarae peldroed yn iawn!


Doedd fawr o neb am wynebu hyn nos Fercher dwetha ond sylwais fod y colofnydd Iestyn George (gynt o’r NME) wedi trydar ei fod yn falch o fod yn Gymro heblaw pan rydym yn pleidleisio i adael yr UE. Dwi dal yn ei chael hi’n anodd deall beth oedd hanner dilynwyr peldroed Cymru yn ei feddwl. Rhywsut rhaid uno pawb ar y terasau heb son am ein cymunedau. Rwan mae’r gwaith caled yn dechrau, a mae meddwl am fod yn rhan ddibwys o Loegr yn wirioneddol frawychus!

Thursday 7 July 2016

'Rock Against Racism', Herald Gymraeg 6 Gorffennaf 2106




Byddaf yn disgrifio fy hyn yn aml fel ‘anarchydd gwael’, oherwydd y ffaith fy mod yn pleidleisio yn hytrach nac yn ymwrthod yn llwyr a’r drefn wleidyddol sydd ohonni. Ystyr anarchiaeth yn ei ffurf mwyaf positif yw ffordd neu model arall o sut y gallwn drefnu cymdeithas heb heirarchaeth, heb wladwriaeth, heb lywodraeth. Damcanaieth wleidyddol amgen efallai, ond dim mor afresymol a hynny o ran yr egwyddorion sylfaenol o gydraddoldeb a thegwch tuag at ein cyd-ddyn.

Fe all rhywun ddadlau fod Comiwnyddiaeth yr un mor anghyrraeddadwy yn yr oes sydd ohonni, ac eto dim ond ffwl fyddai yn gofyn pam fod eira yn wyn ac yn fodlon di-ystyrru yr ochr orau o’r damcaniaeth/syniadau yma.Felly hefyd gyda egwyddorion y Blaid Werdd, anodd anghytuno 9 gwaith allan o 10.

Ond gan ein bod yn byw yn y byd go iawn, dyma’r ‘anarchydd gwael’, sydd yn byw yng Ngwynedd, yn peidleisio dros Plaid Cymru bob tro. Pleidlais wag fyddai’r un i’r Blaid Werdd a Duw a’n helpo petae y Toriaid yn fuddugolaethus, (mwy o beryg ar Ynys Mon er engraifft) felly pleidleisio amdani.

Mae canlyniad y Refferendwm (ffôl a di-angen) ar y UE yn brathu rhywun ar ei ben ôl – dyma syd yn digwydd pan mae’r werin yn cael eu hudo gan yr asgell dde a wedyn yn rhoi croes ar bapur. Heb os, heb os, bydda’r union bobl yma (yr anllythenog wleidyddol fel y galwais nhw yr wythnos dwetha) yn pleidleisio dros atgyfodi crogi a dienyddio fel y gosb eithaf. Anodd bod yn hollol siwr na fyddai gwrachod yn cael eu boddi hefyd o ystyried yr ofnau sydd wedi eu chwipio i’r amlwg gan y Dde (eithafol).

Teimlais yn euog (braidd) wrth sgwennu wythnos yn ol yn yr Herald a chyfeirio at punk fel dylanwad gwleidyddol positif ond dyma ni, heddiw, 2016, diolch i Dave, George, Michael, Boris, Nigel, mae hiliaeth yn fyw ac yn iach ar strydoedd y Deyrnas Doredig. Does ond rhaid dilyn y cyfryngau cymdeithasol a gweld faint o ddoctoriaid, siopwyr, myfyrwyr sydd wedi deffro y bore canlynol a’r anllythrenog wleidyddol yn gofyn iddynt ‘pam eu bod dal yma? – rydym wedi pleidleisio i’ch gyrru adre’.

Cewch ddrwgdybio/chwerthin am punk ac anarchiaeth os mynnwch ond oleiaf roedd grwpiau fel The Clash, Aswad, Misty in Roots, Sham 69 yn rhannu llwyfan ‘Rock Against Racism ym1979 ac yn cyrraedd yr anllythrenog wleidyddol, y di-freintiedig, y tlawd, y di-waith. Roedd Strummer yn gallu cyfathrebu. Methodd y National Front wneud cynnydd.
Os dysgodd punk unrhywbeth i ni, peidiwch ac ymddiried mewn dyn hefo barf a sandalau (onibai am Che a Christ efallai), does dim dwy waith fod rhaid i Corbyn fynd am y rheswm syml, ar yr awr dyngedfennol yma does dim gwrthblaid cenedlaethol Brydeinig. Mae Sturgeon a’r SNP yn agosach na’r Blaid Lafur. Efallai fod angen i’r SNP gymeryd y seddau yna drosodd unwaith eto!

A beth am Gymru? Y diweddara yw fod Plaid Cymru am awgrymu rhyw ffurff o Annibyniaeth drwy uno’r gwladwriaethau unigol ym Mhrydain oddi fewn i Erwop. Eto, anodd anghytuno a’r sentiment. Ond, wrth dagu dros fy mhaned, mae yna waith i’w wneud bois bach. Heblaw am Wynedd, Ceredigion, Caerdydd, Bro Morgannwg a’r sir lleiaf ‘Cymreig’, Mynwy, mae’r gweddil wedi ochri hefo Lloegr/Boris/UKIP a chymaint wedi mynd yn groes i’w haelodau Seneddol a Chynulliad. Pob lwc.


Os medraf helpu, neu awgrymu fod angen i’r Byd Pop Cymraeg ymateb rhywsut, byddai dechrau cyfres o gigs Rock Against Racism yn un cam fach ymlaen. Beth bynnag arall gallwn ei gyflawni yn y tymor byr – mae’n hollol bosib dechrau herio hiliaeth. Fel arall does fawr o arweiniad gwleidyddol sydd yn fy argyhoeddi i roi’r gorau i fod yn anarchydd gwael.