Wednesday 28 December 2016

Proud Valley, Pontio, Herald Gymraeg 28 Rhagfyr 2016




Dwi ddim yn amau fod magwraeth mewn cartref lle roedd copi o record hir The Incomparable Voice of Paul Robeson wedi cyfrannu yn sylweddol at fy niddordeb eang mewn cerddoriaeth erbyn heddiw. Gallwn ddadlau mai ferswin Robeson o ‘Ol Man River’ yw fy hoff gân erioed. Mae ambell ‘hoff gân erioed’ gennyf, fel pawb arall ma’n siwr, ac ar rhai dyddiau mae ‘Tracks of My Tears’ Smokey Robinson yn rhoi cystadleuaeth go dda i Robeson. Ar ddiwrnod arall ‘I wish I knew how it would feel to be free’ gan Nina Simone sydd yn cipio’r dlws.

Ychydig yn ôl dangoswyd y ffilm ‘Proud Valley’ ar y sgrin fawr yn Pontio, Bangor a dyma fynychu fel teulu – yr hogia hefo ni, y ddau wedi eu trwytho yn hanes Robeson yn cael ei rwystro rhag teithio dramor yng nghyfnod McCarthy. Heb os, un o’r digwyddiadau pwysicaf o ran hanes diwylliant yng Nghymru yw Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl, 1957, pryd cannodd Robeson dros y ffôn o Efrog Newydd i’r gynulleidfa o dros 5000 ym Mhafiliwn Porthcawl.

Cefais gyfle i sefyll ar yr union lwyfan lle bu Cor Meibion Treorci yn cyd-ganu a Robeson yn weddol ddiweddar a dyna’r peth cyntaf ddywedodd pawb wrth droedio’r llwyfan. Doedd syndod fy mod yng nghwmni y canwyr protest Billy Bragg, Martyn Joseph a’r bardd Patrick Jones ar y diwrnod penodol hwnnw. (Noson i gofio Streic y Glowyr oedd honno).

Mae recordiad yn bodoli o’r cyngerdd hanesyddol hwnnw yn 1957 a mae modd cael gafael ar y CD drwy gwmni Sain. Daw dagrau i’m llygaid bob tro wrth wrando ar anerchiad Wil Paynter, llywydd y glowyr,  wrth iddo groesawu Robeson (dros y ffôn) i’r Eisteddfod. Edrych braidd yn wirion felly oedd gwaharddiad Adran y Wladwriaeth wrth i Robeson gael croeso i Gymru, pasport neu ddim!

Fe sgwennodd Paynter at Robeson wedi’r cyngerdd gan ei sicrhau am “the feeling that exists in Wales for you and your release from the bondage now forced upon you”.  Dyma wers hanes bwysig i rheini beleidleisiodd dros Brexit yng Nghymoedd y De yn ddiweddar. Mewn Undeb mae Nerth. Mae ymwybyddiaeth o’n hanes mor bwysig.

Cyn dangos y ffilm yn Pontio cafwyd cyflwyniad uniaith Gymraeg gan Dafydd Iwan gyda chyfieithu ar y pryd ar gyfer y di-Gymraeg. Rwyf wedi hen arfer gwneud cyflwyniadau dwyieithog pan fyddaf yn trafod archaeoleg a byddaf yn dadlau yn aml fod dwyieithrwydd (naturiol) fel hyn yn ffordd reit dda o bonito ac o gyflwyno’r Gymraeg i bobl.Ond ar y noson hon roedd unieithrywdd Dafydd yn cryfhau’r ymdeimlad o gefnogaeth radicalaidd i unigolyn fel Robeson.

Ar noson fel hon, doedd neb yn mynd i gwyno am y ffaith fod Dafydd wedi siarad yn uniaith Gymraeg. Teimlais fod hyn yn gwneud lles iddynt. Dysgwch Gymraeg!! Doedd dim anhawster dilyn gyda’r cyfieithu ar y pryd a mewn ffordd roedd Dafydd yn gwneud y pwynt, pam fod rhaid cyfaddawdu o hyd ac o hyd. Byddai Robeson wedi gwenu meddyliais.

Gyda llaw roedd gwylio’r ffilm ar y sgrin fawr yn brofiad bendigedig. Ffilm du a gwyn (1940) o stiwdios Ealing (ond nid comedi). Sicrhaodd presenoldeb Robeson a drama a hiwmor y ffilm fod yr hogia (12 ac 13 oed) wedi eu cyfareddu. Sylwer ar balchder y tad yma. Yn ddiweddarach bu i mab Robeson, Paul Robeson Jr, wneud sylw fod y dyn du yn marw ar ddiwedd y ffilm ond I mi dewder Robeson oedd yn cael ei gyfleu yma yn hytrach na’r dyn du yn cael y diweddglo drwg.


Mae yna linell yn y ffilm lle mae arweinydd y côr yn siarsio rhywun a farnodd liw croen Robeson, “ein bod oll yn ddu dan ddaear”. Rhagorol. Diolch Pontio. Diolch Dafydd Iwan.

Wednesday 21 December 2016

'Gwleidyddiaeth ôl-wir’ Herald Gymraeg 21 Rhagfyr 2016





Heb i ni syweddoli bron, daeth y disgrifiad ‘gwleidyddiaeth ôl-wir’ (post-truth politics) yn rhywbeth roedd pawb yn ei dderbyn fel rhan annatod o wleidyddiaeth 2016. Hynny yw does dim disgwyl iddynt fod yn dweud y gwir mwyach.Nid fod gwleidyddion wedi cadw at y gwir bob amser yn hanesyddol chwaith ond dyma’r tro cyntaf dychmygaf lle mae celwydd noeth wedi ei normaleiddio, ei wneud yn dderbyniol ac yn rhywbeth hollol arferol.

Anhygoel ynde. A da ni yn trio addysgu ein plant i ddweud y gwir. Mae’n debyg fod y term diweddar ‘gwleidyddiaeth ôl-wir’ wedi ei fathu gan flogiwr o’r enw David Roberts yn 2010 mewn erthygl yng nghylchgarwn Grist. Diffinir gwleidyddiaeth ôl-wir fel un sydd yn apelio at yr emosion yn hytrach na’r rheswm a lle mae’r gwirionedd yn eilradd i’r nod gwleidyddol.

Fe ellir dadlau fod hyn yr union ru’n peth a datgan fod y Byd yn fflat, nad oes cynhesu Byd eang, fod arbenigwyr yn siarad trwy eu tinau a fod modd darbwyllo pobl drwy ail-adrodd yr un neges syml drosodd a throsodd nes fod y neges syml (celwydd neu ddim)  yn dod yn ‘wirionedd’.

‘Take Back Control’, fe weithiodd hwnna yn dda yndo.’Let’s Make America Great Again’, dyna chi un arall. Fe welwyd rhai o ddilynwyr Trump gyda placardiau ‘Let’s Make America White Again’. Yn sicr roedd y slogan honno yn ffeithiol anghywir o ran hanes y wlad ond di’m ots ……

A dyma ni, hyd yn oed yng Nghymru mae ymgyrch (os ydi’on cyfri fel ymgyrch? – efallai cyfrif Trydar yn unig ydi o)  @Yes Cymru (Cefnogi Annibyniaeth i Gymru) newydd gyhoeddi ‘Let’s Make Wales Great Again’. Os nad yw hyn yn chwerthinllyd o wleidyddol naif, mae’n codi un cwestiwn amlwg – pa bryd yn union oedd Cymru yn ‘fawr’ ac yn ‘falch’. Yda ni angen mynd yn nol i’r 10fed o Rhagfyr 1282 efallai? Diwrnod cyn i Lywelyn ap Gruffudd gael ei ladd. Popeth yn iawn.

Yn bersonol byddwn yn awgrymu y Chwyldro Diwydiannol gan mai Cymru oedd y wlad  gyntaf i gael ei chyfrif fel gwladwriaeth ddiwydiannol yn y Byd.

Ond yn waeth byth gyda slogan @Yes Cymru rydym yn llithro ar groen banana drwy hunnan-ddewis yma, drwy ddilyn cwrs adain dde cenedlaetholgar afiach ala Farage a Trump. Beth am addasu poster UKIP yn dangos gormod o Saeson yn dod mewn i Gymru? Os ydi cenedlaetholdeb Cymreig am symud i’r dde poblogaidd fel pawb arall bydd hi ar ben go iawn arnom. (Rwyf yn ymddiried ym merched Plaid Cymru Leanne, Bethan ayyb i wrthsefyll nonsens o’r fath)

Mae yna bwynt yn mynd i gyrraedd, a hynny yn weddol fuan dybiwn’I, pan fydd rhaid i May a Trump ayyb wynebu’r dorf a chyffesu nad oedd yr holl addewidion yna yn hollol wir. Yn wir, bydd rhaid iddynt wynebu’r ffaith fod yr addewidion yn amhosib i’w gwireddu. Ond, disgwyliaf bydd y peiriant ôl-wir yn gweithredu mor slic a mellten mewn storm – bydd digonedd o bobl i’w beio. Cawn feio’r Pwyliaid, Mwslemiaid, y bobl croenddu yn yr Gwasanaeth Iechyd, y di-waith, mamau sengl, pawb beleidleisiodd dros Berexit – arna chi mae’r bai fod hyn i gyd yn ‘cock-up’ anferthol.

Yr hyn sydd yn poeni rhywun go iawn yw fod rhan helaeth o’r Cyfryngau a llawer gormod o newyddiadurwyr i weld yn ‘cyd-fynd’ a’r dirwedd ôl-wir newydd yma heb ei herio. Rydym yn troi at ohebyddion fel Nick Cohen ac Andrwew Rawnsley am air o gall, am ychydig o synnwyr a dadansoddiad yn hytrach na’r arferol bellach - dilyn y dall.


Engraifft pendant o hyn yw’r nifer o weithiau mae Farage wedi bod ar Question Time – oleiaf dwsin o weithiau. Diolchaf yn fawr i Will Self am ei roi yn ei le fel “a grubby little opportunist riding the coat tails of history”.

Wednesday 14 December 2016

Dadeni Newydd, HMS Morris a Radio Cymru Mwy, Herald Gymraeg 14 Rhagfyr 2016






Rwyf am aros yn y byd diwylliannol eto yr wythnos hon. Cyfeiriais yn ddiweddar at CD’s ardderchog Bendith a Rogue Jones yn y golofn hon a dyma un arall wedi fy nghyrraedd, yr un mor safonol, hyfryd a gwych: Interior Design gan HMS Morris.

Rydym mewn cyfnod hynod lewyrchus o ran safon cerddoriaeth a chreadigrwydd cerddorol yng Nghymru. Dadeni arall. Am y tro cyntaf (efallai) ers Cool Cymru ar ddiwedd y 1990au mae Cymru yn cynhyrchu grwpiau sydd o safon rhyngwladol. Rwyf yn dweud hyn ar sail safon y cyfansoddi, safon y cynhyrchu, natur arbrofol ac amgen y gerddoriaeth - OND yn sicr cerddoriaeth gyda apel eang.

Mae’r apel (ehangach) yma yn mynd a ni i lefydd gwahanol fel awgrymai’r hen hysbysebion cwrw Heineken ers llawer dydd – yn cyrraedd mannau gwahanol. Heddiw cawn haenau gwahanol o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yn ei holl ogoniant – bydd ein pobl ifanc yn chael hi’n anodd amgyffred pam roeddem yn cwyno a brwydro am ‘rhywbeth gwell’ yn ystod yr 1980au – cyn i Cool Cymru wireddu’r chwyldro cyntaf o ail hanner y 1990au ymlaen.

Anhygoel meddwl a dweud y gwir, er yr holl greadigrwydd dros y blynyddoedd diweddar, fod artistiaid fel Bendith, Rogue Jones a HMS Morris yn rhyddhau CDs sydd mor bell-effeithiol a bwled arian o ran rhoi ergyd ddiwylliannol i rhywun gan achosi i’r gwrandawydd aros yn ei unfan am eiliad a sylweddoli beth yw gwir ystyr y gair ‘talentog’.

Anodd yw osgoi natur dwy-ieithog rhai o’r CDs . Yn bersonol, byddwn yn dadlau fod yn biti fod cyn llied o ganeuon Cymraeg ar CDs Rogue Jones a HMS Morris, os ond am resymau hunanol fel cyflwynydd gyda’r nos ar BBC Radio Cymru - gallwn chwarae llawer mwy ar y caneuon Cymraeg!  Ond hefyd fel gyda dwy-ieithrwydd yn gyffredinol mae’n ymddangos mai’r grwpiau gyda’r gallu dwy-ieithog sydd yn arloesi a rhagori ar hyn o bryd. Fedra’i ddim enwi grwp Cymreig sydd ddim a chaneuon Cymraeg sydd yn gwneud y fath argraff?

Dwy gân Gymraeg sydd ar Interior Design  ac eto mae’r holl CD yn swnio yn Gymreig. Prin fod rhywun yn sylwi. Mae ‘Nirfana’ yn gyfarwydd i glustiau’r Cymry hynny sydd yn gwrando ar y Cyfryngau Cymraeg. Hon di’r gân hefo’r “Aa Www” yn rhedeg trwyddi. Cân bop berffaith afaelgar a chrefftus. Mae’n hyfryd, hyfryd iawn.

Gallwn ddadlau fod y gân yma yn ddigon. Fel mynegodd y Situationists Internationale rydym wedi gadael yr Ugeinfed Ganrif. Rydym yn gwybio drwy’r Unfed Ganrif ar Hugain. Mae’n wych fod rhywbeth mor grefftus a Nirfana yn bodoli yn Gymraeg ochr yn ochr a chaneuon artistiaid fel Gwenno ac Ani Glass – yn hip bron heb ymdrech, yn hip heb orfod gweiddi a sgrechian.

Yr ail gân Gymraeg ar Interior Design yw ‘Gormod o Ddyn’ eto gyda synnau ailadroddus gafaelgar drwyddi. Dyma Massive Attack petae’r Bristoliaid wedi croesi’r Avon a wedi eu magu yng Ngwalia fach. A dwi heb ddechrau adolygu gweddill y CD. Un gair: rhagorol.




Rhywbeth arall rwyf wedi ei fwynhau yn ddiweddar yw’r dewis sydd ar gael ar Radio Cymru Mwy – nid ar y donfedd radio prif-ffrwd ond yn ddigidol ar y we ac ar Sky. Gwrandewais yn ddiweddar ar awr o ddewisiadau cerddorol Gareth (Gaz Top) Jones. Ar ddechrau’r rhaglen dyma Gareth yn cyfaddef ei fod yn llai rhugl na rhai – ond doedd dim angen iddo – dydi’r ‘plismyn iaith’ traddodiadol ddim yn debygol o wrando ar raglenni digidol.

Chwa o awyr iach oedd cael gwrando ar Gareth yn cyflwyno. Dyma un o’r cyflwynwyr mwyaf brwdfrydig rwyf yn ei adnabod. Bu Gaz Top yn enw cyfarwydd ar raglenni fel ‘How 2’ ac ar raglen fore Sadwrn ‘It’s Just Not Saturday’ hefo Danni Minogue. Unwaith eto, croeso i’r Byd Cymraeg, os nad croeso yn nôl, fedrith Gareth ond cyfoethogi’r arlwy Cymraeg, bratiog neu ddim, ddim bod hynny o unrhyw ots! Mae o yn gwbod i stwff yn gerddorol hefyd (ond does dim angen dweud hynny).

Yr hyn sydd i’w gael ar Radio Cymru Mwy go iawn yw amrywiaeth cyflwynwyr ond y ddolen gyswllt efallai yw’r ffaith fod y rhan fwyaf yn ifanc, yn leisiau newydd ac yn sicr yn frwdfrydig dros y gerddoriaeth. Gwych o beth yw meithrin talentau newydd fel hyn. Fel Gaz Top mae’r cyflwynwyr yn gwybod eu stwff yn gerddorol. Dyma agosau at wneud y math o arlwy a gawn ar orsaf fel BBC 6 Music yn bosib yn y Gymraeg – nid yr un caneuon yn amlwg ond yr un hyder ffwrdd a hi.

O ran cyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg ac argymell y tri chwarter miliwn arall fod yna werth yn y Gymraeg a fod hi werth yr ymdrech i ddysgu,  mae’n rhaid ail feddwl a chynnig mwy – llawer mwy. Rhywsut rhaid darbwyllo poblogaeth llefydd fel Prestatyn fod gwerth dysgu’r Gymraeg ac er nad Gaz Top yw’r darlledwr sydd yn mynd i achub yr Iaith Gymraeg mi neith fymryn o les.

Mae Gareth oleiaf yn siarad yr un Iaith a phobl y gogledd ddwyrain.  Diolch i Radio Cymru Mwy mae modd clywed y lleisiau yma. Bydd lleisiau rhai fel Gareth yn rhoi ail-berchnogaeth i’r di-freinteiedig ieithyddol a diwylliannol yn y gogledd ddwyrain yn sicr.

Credaf fod yna Ddadeni newydd gyda artistiaid fel HMS Morris a chredaf fod yna ddatblygiadau cyffrous fel Radio Cymru Mwy – y cam nesa yw cael hyn i dreiddio, fel yr Heineken, ar hyd y lonydd bach cefn gwlad led led Cymru  a strydoedd trefol fel Fflint neu Port Talbot.


Saturday 10 December 2016

Prif-ffrwd a Brexit, Herald Gymraeg 7 Rhagfyr 2016





Ychydig yn ôl cefais gyfle i gyfweld a Dr Sarah Hill o Brifysgol Caerdydd ar fy sioe Nos Lun ar BBC Radio Cymru a fe gyfeiriodd Sarah at gerddoriaeth ‘ganol y ffordd’ Cymraeg fel y ‘prif-ffrwd’. Dyna chi ddisgrifiad da. Doeddwn ddim wedi dod ar draws y disgrifiad yma o’r blaen er yn amlwg rwyf yn gyfarwydd iawn a’r gerddoriaeth (a wedi ceisio ei osgoi ers fy nyddiau ysgol).

Dros y blynyddoedd mae diwylliant Cymraeg ac yn sicr y Byd Pop Cymraeg wedi cael ei dagu a’i rwystro rhag datblygu a gwireddeu ei wir botensial oherwydd yr obsesiwn yma hefo’r ‘prif-ffrwd’ - hynny yw canol y ffordd. Dydi’r prif-ffrwd ddim hyd yn oed yn gorfod bod yn dda - dim ond ‘poblogaidd’ hefo’r gynulleidfa ‘draddodiadol’.

Efallai mai un o’r engreifftiau gorau o hyn yw beth ddigwyddodd yn ystod Cool Cymru ar ddiwedd y 1990au. Dyma grwpiau amgen (rhai gwych gyda llaw) Cymraeg fel Ffa Coffi Pawb, U Thant, Crumblowers a’r Cyrff yn trawsnewid i fod yn grwpiau prif-ffrwd (er dal yn fymryn amgen) fel Super Furry Animals a Catatonia, yn canu yn Saesneg, ac yn gwerthu mwy o recordiau na’r prif-ffrwd Cymraeg hefo’u gilydd erioed.

Yn ddiweddar bu cyfres wych ar S4C o’r enw Cool Cymru wedi ei gyfarwyddo gan Alun Horan (Tinopolis) yn olrhain y stori yma. Gan fod Alun rhy ifanc i fod yn rhan o’r peth cafwyd ffilm wrthrychol heb unrhyw agenda cudd – a dyna chwa o awyr iach. Wedi ei ffilmio yn gyffrous, yn symud yn gyflym a wedi ei oleuo yn dda – dyma ffilm lwyddodd i bonito yn hawdd rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg gan osod Kevin Allen (Twin Town) a Richard Parfitt (60 Ft Dolls) ochr yn ochr a siaradwyr Cymraeg fel  Owen Powell (Catatonia) a Dafydd Ieuan (Super Furry Animals). Felly mae hi yn y Byd go iawn. Felly ddylia hi fod. Un Cymru.

Doedd neb yn datgan y peth go iawn, ond erbyn 1993/94 doedd dim dewis gan y cerddorion Cymraeg amgen ond canu yn Saesneg achos roedd y Byd Cymraeg wedi cefnu arnynt mewn gwirionedd, yn sicr yn fasnachol. Beth oedd y pwynt ffurfio band newydd er mwyn bod yn brif grwp yn yr Eisteddfod unwaith eto? (a dal yn gorfod cadw’r ‘day-job’)

Fe barhahodd y brif-ffrwd Cymraeg yn ei flaen fel arfer, fel petae Cool Cymru erioed wedi digwydd. Ddysgodd neb wers o’r peth. Heddiw mae’r amgen yn ‘chydig fwy gweledol ond yr un mor dlawd. Dwy-ieithrwydd yw’r norn newydd.

Roedd ffilm Alun Horan mor dda  a dyma edrych ymlaen at wylio S4C yn wythnosol ond dwi ddim wedi clywed fawr o ymateb na chanmoliaeth i’r gyfers. Dydi’r gynulleidfa draddodiadol ddim i weld unrhyw falchach o hyn heddiw mwy nac yr oeddynt yn 1997. Y prif-ffrwd ar S4C yw Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.

A weithiau mae’r ser pop yn troi yn ôl at y Gymraeg a rydym yn hynod ddiolchgar ond mae bywyd yn haws iddynt ganu yn unrhywle ond Cymru. Caf fy atgoffa o ‘Gân yr Ysgol’ gan Dafydd Iwan. Byddwn ddiolchgar.

Nid byddinoedd Che na’r Sandanistas oedd Cool Cymru ond cerddorion yn gobeithio am fywoliaeth. Nid chwyldro oedd Cool Cymru ond sel bendith dros dro gan Gyfryngau Llundain.

A beth am ein cysyniad o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg - mae’n rhaid i ni ail-feddwl pethau. Rhaid meithrin prif-ffrwd ddiwylliannol newydd achos dydi’r hen brif-ffrwd erioed wedi gallu symud tu hwnt i’w ffiniau presennol. Yn rhyfedd iawn roedd y gystadleuaeth Euros 2016, llwyddiant peldroed Cymru a chaneuon fel ‘Bing Bong’ yn cynnig llygedyn o obaith a wedyn cafwyd Brexit. Un cam ymlaen a cham anferth yn ôl.



Tuesday 6 December 2016

Cloddio yn Hedd yr Ynys, Llafar Gwlad 134





Fe sonias yn fy ngholofn ddwetha (Llafar Gwlad 133, Awst 2016) ein bod am gloddio yn Hedd yr Ynys ger Llangefni gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd dros yr Haf. Soniais hefyd ein bod yn gobeithio darganfod mynwent ganol oesol ar y safle. Does byth sicrwydd beth yn union fydd yn cael ei ddarganfod nes ein bod yn cloddio a dros y bythefnos o gloddio bu i Jane Kenney a minnau gadw dyddiadur o’n hynt a’n helyntion wrth gloddio.

Diwrnod 1: 30 Mehefin 2016
Er nad yw’r gwirfoddolwyr yn cyrraedd tan Ddydd Llun mae’r gwaith wedi dechrau wrth i ni baratoi’r safle ar gyfer y gwaith cloddio. Cafodd y cae ei droi yn y gorffennol felly does dim disgwyl i unrhyw olion archaeolegol fod wedi goroesi yn y pridd uchaf ac o ganlyniad rydym wedi defnyddio peiriant i symud y pridd a’r tyweirch.
Yn ystod y gwaith yma bu Cliff ‘Beaver’ Hughes a Ian Harrison-Brown yn archwilio’r pridd gyda synhwyrydd metal a chofnodwyd yn union lle cafwyd unrhyw wrthrych. Ymhlith y gwrthrychau roedd nifer o hoelion, llawer o ddarnau o haearn a hefyd darnau arian Fictoraidd, un darn dime Americanaidd, pwysau plwm a gwrthrych diddorol iawn o efydd sydd heb ei adnabod eto.
Er hyn, roedd darganfyddiadau eraill hyd yn oed fwy diddorol. Cafwyd hyd i un darn gwael ei olwg o lestr pridd Rhufeinig a chrafwr callestr cyn-hanesyddol sydd yn awgrymu fod gweithgaredd yma yn y cyfnodau Rhufeinig a chyn-Hanesyddol. Mae hyn ôll yn addawol iawn.



Diwrnod 3: Gorffennaf 4dd
Dyma ddiwrnod cyntaf y cloddio gyda gwirfoddolowyr ar y safle. Rhaid gwneud y gwaith papur gyntaf, egluro am iechyd a diogelch a chefndir y safle cyn i’r gwirfoddolwyr ddechrau gweithio go iawn.
Roedd dipyn o waith glanhau’r safle gyda tryweli ond buan iawn dechreuodd nodweddion ymddangos yn y pridd. Ar ôl gorffen y gwaith glanhau, cawn olwg manylach ar rai o’r ffosydd a rhai o’r clystyrau o gerrig a all fod o ddiddordeb.
Daethpwyd o hyd i nifer o wrthrychau o’r pridd uchaf a chafwyd hyd iddynt drwy ddefnydd o’r synhwyrydd metal ond y gobaith nawr yw y cawn fwy o wrthrychau wrth ddechrau cloddio’r nodweddion. Awgrymir y gwrthrychau fod defnydd o’r safle yn y cyfnod Rhufeinig.



Diwrnod 4: Gorffennaf 5ed
Pawb yn brysur cloddio. Does neb yn gwybod beth sydd yma eto ond mae’n edrych yn ofnadwy o ddiddorol.

Diwrnod 7: Gorffennaf 8fed
Rydym ar ddiwedd yr wythnos gyntaf a mae’r tywydd wedi bod yn ffafriol. Doedd rhagolygon Dydd Iau ddim cyn waethed a’r disgwyl ac o ganlyniad i’r tamprwydd mae’n haws trywelu’r pridd.
Erbyn hyn mae sawl ffos wedi ei osod ar draws gwahanol nodweddion a bu nifer wrthi yn tynnu lluniau er mwyn cofnodi’r nodweddion.
Rydym bellach wedi darganfod ffos y lloc petryal a welir yn yr arolwg geoffisegol. Cafwyd hyd i wrthrych o garreg gyda ochr miniog fel pyramid yn y ffos: ond does neb yn siwr beth oedd ei bwrpas?
Cafodd pydew sylweddol a dwfn ei gloddio. Roedd y pydew wedi llenwi a cherrig a’r ddamcaniaeth ar hyn o bryd yw mai twll postyn yw hwn wedi llenwi a cherrig ar ôl i’r postyn gael ei symud. Os felly, fe ddylid cael hyd i fwy o dyllau pyst er mwyn gweld cynllun adeilad. Awgrymir maint y twll fod hwn yn perthyn i adeilad sylweddol. Mae angen mwy o waith er mwyn draganfod tyllau pyst eraill.
Cafwyd hyd i ddarn arian Rhufeinig wedi glynu i fwd ar waelod esgid un o’r gwirfoddolwyr a charreg a all fod yn ddarn o garreg hogi gan ei fod yn garreg mor llyfn ger un o’r ffosydd.

Diwrnod 12: Gorffennaf 15
Dyma ddiwedd y cyfnod cloddio gyda gwirfoddolwyr. Dros y bythefnos rydym wedi cael nifer dda o wirfoddolwyr ac yn amlwg roeddynt wedi mwynhau y profiad. Cafwyd tywydd amrywiol gyda Dydd Iau yn ddiwrnod poeth iawn a Dydd Gwener wedyn yn ddiwrnod gwlyb. Gan mai clai yw’r pridd naturiol yma mae’r broses o drywelu yn anoddach wrth i’r pridd sychu a chaledu ond pan yn wlyb mae’n mynd yn fwdlyd dros ben ac y mwd yn mynd i bobman, gan gynnwys dros y gwirfoddolwyr. Er gwaethed y tywydd parhaodd pawb i weithio gyda gwen.
Gan fod cymaint o ffosydd a nodweddion ar y safle, nid hawdd yw dadansoddi’r hyn rydym yn ei weld ac yn enwedig perthynas y gwahanol nodweddion a’u gilydd. Ymdebygai’r nodweddion yng nghornel gogledd-orllewinol y safle i olion anheddiad.
Edrychwn ymlaen at y Diwrnod Agored Ddydd Sul. Gyda 128 wedi rhoi eu henwau yn barod mae’r teithiau tywys bron wedi eu llenwi.




Diwrnod Agored: Gorffennaf 18
Cafwyd Diwrnod Agored hynod lwyddiannus gyda dros 150 yn ymweld a’r safle. Gyda’r tywydd yn braf roedd yr ymwelwyr wedi mwynhau a rhwng y teithiau tywys roedd ein pabell gyda’r gwrthrychau yn orlawn.
Dros y ffordd roedd y caffi dros dro gan Julia Morgan yn cynnig paneidiau a chacan i’r ymwelwyr. Codwyd dros £600 ar gyfer elusen ‘Digartref’, elusen  sydd yn codi arian ar gyfer y di-gartref yn lleol, drwy redeg y caffi am y prynhawn.

Argraffiadau ar ddiwedd y cloddio
Bu 56 o wirfoddolwyr hefo ni  ar wahanol gyfnodau dros y dair wythnos a hoffai Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ddiolch o waelod calon am eu holl ymdrechion. Cyflawnwyd gwyrthiau mewn cyfnod byr.
Mae diolch arbennig i Wyn a Julia Morgan am eu holl gymorth ac am ganiatau i ni gloddioa r eu tir.
Felly beth gafwyd ar y safle?  Mae cynllun o’r safle yn dangos nifer o ffosydd gan gynnwys y ffos lloc hirsgwar a welwyd ar yr arolwg geoffisegol. Yn wahanol i’r disgwyl ni chafwyd unrhyw awgrym o fynwent ar y safle, ac yn sicr dim olion beddau.
Cafwyd un ffos sydd yn rhedeg ar linell fymryn yn afreolaidd ar draws y safle o’r dwyrain tua’r gorllewin gyda phroffil siap llythyren V sydd yn awgrymog o ffos amddiffynnol Oes yr Haearn. O edrych yn fwy manwl ar yr arolwg geoffisegol gwelir fod y ffos yma yn ymuno a ffos sylweddol tu allan i’r ardal cloddio. Gwelwn wagle yn y ffos honno gyda dau blob du ar naill ochr, sydd yn awgrymu mynedfa drawiadol gyda thyllau pyst sylweddol. Fe all fod y ffosydd yma yn rhan o loc yn dyddio o Oes yr Haearn a mewn defnydd yn y cyfnod Rhufeinig, fel yr awgrymir gan y gwrthrychau rydym wedi eu darganfod ar y safle. Mae draen gyda cerrig capan, cerrig llawr, rhigolau bach syth a phydew yn awgrym o breswylio o fewn y lloc bosib.
Gan na chafwyd gwrthrychau y gellir eu dyddio yn y nodweddion penodol yma wrth gloddio, anodd yw profi fod hwn yn aneddiad o’r cyfnod Oes yr Haearn / Rhufeinig ond mae hyn yn bosibilrwydd cryf. Fe all fod rhai o’r ffosydd ar gyfer llociau bychain neu gorlannau.
Cafwyd tri pydew o faint sylweddol yn rhan ogleddol y cloddiad. Ymddengys fod rhain o gyfnod hwyrach na’r aneddiad bosib ond ansicr yw eu pwrpas hyd yma. Fe all fod y pydewau yn dyddio o’r 16ed neu 17ed ganrif gan i ddarnau o lestri pridd o’r cyfnod yna ddod i’r amlwg yn rhan uchaf y pydewau.

Mae mwy o waith i’w wneud nawr o ran astudio’r gwrthrychau, y samplau pridd ac edrych yn fanylach ar yr holl gynlluniau o’r safle. Siawns bydd hyn yn help i esbonio beth oedd yn digwydd yma.

Fe fydd adroddiad rhagarweiniol yn barod erbyn ddiwedd Mawrth 2017  a bydd hwn ar gael ar safle we heneb.co.uk. Bydd adroddiad llawn yn dilyn adroddiadau am y gwrthrychau a’r samplau.