Friday 24 August 2018

Olion Rhufeinig Caernarfon. Llafar Gwlad 141





Yn Llafar Gwlad, Rhifyn 137, Awst 2017, fe gyhoeddais erthygl am y gwaith cloddio archaeolegol yng Nghae Mawr ar ochr orllewinol Afon Saint (Afon Seiont) yng Nghaernarfon. Roedd y diweddar Alun Jones, Felinheli wedi canfod darnau o lestri pridd Rhufeinig wrth gerdded y cae a fe ysgogodd waith ymchwil Alun archwiliad pellach o’r cae gan dîm bychan o archaeolegwyr ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (GAT).

Er fod canlyniadau’r archwiliad yn weddol siomedig cafwyd hyd i fwy o wrthrychau Rhufeinig ond er i ni archwilio tri cae yn gynhrach yn 2017 chafwyd ddim awgrym o unrhyw adeiladwaith Rhufeinig yma.

Yn Rhifyn 140 (Mai 2018) o Lafar Gwlad cyhoeddwyd erthygl yn dwyn y penawd ‘Porthladd Rhufeinig yng Nghaernarfon?’ a chyfeiriodd yr erthygl at y caeau o amgylch ‘Castell Bach’ y ffolineb (summerhouse) 18fed ganrif sydd yn perthyn i Stad Coed Alun (Coed Helen).

Hoffwn ymateb gyda tri pwynt i erthygl Emrys Llywelyn. Yn gyntaf mae’n weddol sicr y byddai porthladd neu gei Rhufeinig wedi ei leoli rhywle ar lan Afon Saint yng nghyffiniau Hen Walia. Yn ail mae’n berffaith bosib fod ‘gwylfan’ Rufeinig wedi ei leoli ar union safle Castell Bach, Yn drydydd, hyd yma oleiaf, chafwyd ddim olion Rhufeinig yn y caeau o amgylch Castell Bach er i ni gynnal arolwg geoffisegol o dri cae a chloddio yr unig ‘olion’ bosib ddangoswyd gan y ‘geophys’.

Croesawaf erthygl Emrys, mae’n bwysig creu diddordeb a chynnal y drafodaeth. Fe awgrymodd yr archaeolegydd Frances Lynch mewn sgwrs gyda mi yn ddiweddar y byddai safle Castell Bach yn un delfrydol ar gyfer gwylfan neu oleudu Rhufeinig. Y broblem fawr gyda profi neu dad-brofi hyn yw fod y gwaith adeiladu gan stad Coed Alun yng nghanol y 18fed ganrif yn debygol o fod wedi wedi chwalu unrhyw olion blaenorol.



Mae’n fwriad cyn bo hir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd i wneud archwiliad o amgylch Castell Bach rhag ofn fod unrhyw wrthrychau Rhufeinig yn cael eu canfod. Rhaid cynnal yr arolwg yma er mwyn ceisio ychwanegu at ein gwybodaeth o hanes Rhufeinig Caernarfon.

Pan ddatblygwyd y Cei Llechi a Chei Newborough ar ochr ddwyreiniol Afon Saint (Seiont) yn dilyn Deddfau 1793 / 1809 fe ddefnyddwyd ‘balast’ o longau i codi’r ddau gei. Felly,unwaith eto, os oedd ‘porthladd’ neu gei Rhufeinig yma, ac os oedd pont Rufeinig fel roedd adroddiadau papurau newydd ar ddechrau’r 19fed ganrif yn awgrymu byddai popeth wedi ei gladdu neu ei chwalu wrth i’r diwydiant llechi gyrraedd ei anterth yn ystod y 19fed ganrif. Go brin fod unrhyw olion ar ôl dan y cei llechi.

Cyfeiriaf ddarllenwyr Llafar Gwlad yn ôl at fy erthygl (Awst 2017) er mwyn gweld beth yn union oedd canlyniad y gwaith cloddio yn ardal Castell Bach.


Bryn Celli Wen 2018

Bryn Celi Wen.

Eleni bu Cadw yn cloddio ar safle Bryn Celli Wen, ychydig i’r de-ddwyrain o siambr gladdu Neolithig Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Dyma’r pedwaredd flwyddyn o gloddio gan Cadw yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu.
Y syniad yn fras yw cael golwg ehangach ar y dirwedd cynhanesyddol o amgylch Bryn Celli Ddu. Siambr gladdu Neolithig, yn dyddio oddeutu 3100cyn Crist yw Bryn Celli Ddu. Dyma heneb sydd yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonnom ac yn sicr dyma un o’r siambrau claddu mwyaf trawiadol yng Nghymru.

Yr hyn sydd ddim mor amlwg, a ddim bob tro yn weledol, yw’r pethau eraill oedd yn digwydd ar y tir o amgylch Bryn Celli Ddu a hynny am gyfnod sydd yn ymestyn dros fil o flynyddoedd. Awgrymir dyddiadau radiocarbon fod carnedd gladdu Oes Efydd ger Bryn Celli yn dyddio oddeutu 1800cyn Crist.
Er fod y garnedd Oes Efydd a siambr Bryn Celli Ddu o gyfnodau gwahanol a dros mil o flynyddoedd rhyngddynt, yr hyn sydd yn cael ei awgrymu o astudio’r dirwedd yma yw fod parhad o gladdu ar y darn yma o dir, parhad o ddefnydd defodol a sanctaidd ar y tir.

Bu gwaith cloddio ger Bryn Celli Wen gan Mark Edmonds a Julian Thomas o Brifysgol Dewi Sant, Llanbed yn ystod 1990. Unwaith eto roedd Edmonds a Thomas yn edrych ar y dirwedd gyfan o amgylch Bryn Celli Ddu.
Awgrymir yn eu hadroddiad fod posibilrwydd eu bod wedi canfod lloc neu glostir sarnau (causewayed enclosure) ger Bryn Celi Wen. Canfuwyd lestri pridd o’r cyfnod Neolithig ac awgrym o ffos.

Rhan o amcanion y gwaith eleni gan Cadw oedd agor cloddfa ger safle cloddio Edmonds a Thomas er mwyn ceisio darganfod mwy o wybodaeth am y clostir sarong bosib. Yn ne Ynysoedd Prydain oedd y clostiroedd sarnog mwyaf cyffredin a petae rhywbeth tebyg yma yng ngogledd Cymru byddai’n rhywbeth prin os and anarferol.

Wrth gloddio eleni, roedd yr archaeolegwyr yn gobeithio cael hyd i ffos y clostir. Fel arfer mae unrhyw ffos sydd wedi ei dyllu mewn i’r pridd naturiol yn tueddu i ddangos fel pridd tywyllach wrth gloddio yn ofalus gyda’r trywal.

Y siom oedd and oedd golwg o unrhyw ffos nac unrhyw awgrym o glostir sarong. Roedd ein cloddfa ni yn union drws nesa i ffosydd cloddio Edmonds a Thomas, yn wir roedd yn hawdd gweld llinell derfyn eu ffos o 1990 yn dangos fel pridd tywyll o ganlyniad iddynt ail-lenwi eu ffos ar ddiwedd y gwaith cloddio.
Heblaw am ambell ddarn o gallestr, prin iawn oedd y gwrthrychau a ganfuwyd yn 2018. Ni chafwyd lestri pridd o arddull Peterborough fel gafwyd yn 1990.

Dyma siom unwaith eto. Ond efallai o droi y siom yn rhywbeth adeiladol – dyma godi cwestwin am ddamcanaiethau ac awgrymiadau y gwaith cloddio yn 1990. Doedd Edmonds a Thomas ddim yn dargan eu bod wedi darganfod clostir sarnau yn bendant. Posibilrwydd oedd yn cael ei gynnig ganddynt.
Ofnaf yn fawr iawn fod ein gwaith eleni yn tanseilio eu damcaniaethau. Roedd digon o archaeolegwyr hynod brofiadol ar y safle eleni – a phob un o’r farn nad oedd unrhywbeth yn ymdebygu i glostir sarnog wedi dod i’r golwg.

Y dystiolaeth sydd yn gorfod arwain nid beth fydda ni yn hoffi ei ddarganfod. Felly gyda ‘olion’ Rhyfeinig ger Castell Bach yng Nghaernarfon a gyda clostir sarnog Bryn Cell Wen tydi’r dystiolaeth diweddar ddim wedi bod yn gadarnhaol. Efallai fod angen mymryn bach o bwyll cyn gwneud datganiadau rhy gadarn, maes digon ansicr yw archaeoleg wedi’r cyfan.


Wednesday 22 August 2018

Herald Gymraeg 22 Awst 2018





Heb os, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bae yng Nghaerdydd yn llwyddiant ysgubol – mewn sawl ystyr a mewn sawl ffordd. Dwi ddim am ddechrau dadansoddi hynny yn y golofn hon. Byddai trafod y rheol iaith yn sgwarnog ddiddorol – beth am Gwenno yn canu yn y Grenyweg neu Bob Delyn a’u caneuon Llydaweg? Na! Na! Na! Mae well gennyf adael i’r ‘trydarati Cymraeg’ fynd ar ôl hunna.

Cian Ciaran o’r Super Furry Animals oedd mwyaf gyfrifol am roi pin yn y swigen a deffro Mr Mwyn o’i drwmgwsg. Ers amser bellach mae Cian wedi bod wrthi yn ymgyrchu yn ddidwyll, yn gofyn cwestiynau, yn herio’r gwleidyddion. Gwrthwynebu Wylfa B oedd / yw ymgyrch amlycaf Cian ond yn ddiweddar dyma bennod arall yn y bennod niwclear – un angrhedadwy bron.

Dyma glywed fod pridd a mwd ymbelydrol (ond hollol saff medda nhw, wrthgwrs ei fod o!) am gael ei symud o safle Hinkley Point A – safle creu arfau niwclear – a’i ollwng ar ochr arall moryd Hafren ger Caerdydd. Byddai’r craff (Cian yn un) wedi sylwi fod cwmni Horizon ymhlith noddwyr yr Eisteddfod.

Ond dyma’r eironi. Pŵer Niwclear Horizon oedd noddwyr sioe Hwn yw Fy Mrawd. Meddyliwch am hyn am eiliad. Dwi’n eistedd i lawr. Yn ysgwyd fy mhen. Ddim yn siwr os dwi fod i chwerthin neu crio. Rwan dwi angen gwneud un peth yn hollol hollol glir. Rwyf yn credu fod y syniad o’r sioe agoriadol o Hwn yw Fy Marwd yn dathlu Paul Robeson – y canwr a’r ymgyrchydd yn un rhagorol a hanfodol.

Heb os, mae rhoi ‘Paul Robeson’ ar lwyfan yr Eisteddfod yn hollol amserol, 60 mlynedd ers ei ymweliad a’r Steddfod yng Nglyn Ebwy ac yn hollol berthnasol os nad angenrheidiol heddiw yn 2018, Brexit. Rwyf a pharch mawr i Robat Arwyn a Mererid Hopwood – dwi isho bod yn glir am hynny.

Ond petae Robeson yn fyw heddiw – oes unrhwyun yn meddwl am eiliad byddai Robeson wedi canu mewn digwyddiad wedi ei noddi gan Horizon ac o ganlyniad felly yn (an-)uniongyrchol arfau niwclear?



Gyda chyfyng gyngor meddyliol, ideolegol, gwleidyddol fel hyn – rwyf yn gorfod troi at y Beibl a gofyn beth fydda Joe Strummer a’r Clash wedi neud? Mewn difri calon – a fydda Strummer wedi perfformio ar lwyfan wedi ei noddi gan Horizon? Mwy na fydda Woody Guthrie, Billy Bragg, Joan Baez, Sister Rosetta Tharpe, Mahalia Jackson neu Nina Simone?

Rhyfedd o fyd – mae Cian, Robat a Mereid ôll wedi bod yn westeion ar fy sioe radio ar nos Lun. Fel dywedais mae fy mharch i’r tri yn ddiffuant. Os yw rhywun yn rhestru ‘arwyr’ mae Robeson yn uchel ar y rhestr os nad ar frig unrhyw restr. Roedd recordiau Robeson yn ein cartref fel plant – tyfais i fyny yn gyfarwydd ac ‘Ol’ Man River’ a ‘Solitude’.

Ond yn fy arddegau – yn chwilio am rhyw ffordd o wneud synnwyr o’r byd roedd caneuon The Clash yn agosach na dim. Roedd yr ymgyrch Rock Against Racism yn gwneud synnwyr. Roedd naratif Punk Rock yn rhoi chwistrelliad o realaeth i freuddwydion y Hipis a’r 60au hwyr. Wrthgrws fel rhywun a aned yn 1962 doedd yr Hipis rioed yn berthnasol. Erbyn 1977 roedd angen naratif newydd.

Arhosodd y maniffestos a’r gwleidyddiaeth gyda rhywun – hyd yn oed heddiw, 40 mlynedd yn ddiweddarach a Strummer yn ei fedd – mae darllen y Beibl yn cadarnhau pethau. Y Beibl yw ‘White Man in Hammersmith Palais’ os mynnwch, neu ‘Ku Klux Klan’ gan Steel Pulse – dio’m ots go iawn cyn belled a fod rhywun yn gweld llinell glir, yr ochr iawn, ochr cyfiawnder.

Ers refferendwm Brexit, gyda hiliaeth yn cael ei normaleiddio, an-llythrennedd gwelidyddol yn cael ei groesawu a chelwyddau noeth gan wleidyddion yn cael eu derbyn yn ddi-gwestiwn ar y Cyfryngau – mae’r hen ‘norms’ yn cael eu chwalu yn rhacs.

Fy mhoen meddwl y dyddiau yma yw teimlo nad wyf yn ‘deall’ beth sydd yn digwydd mwyach. Mae’n fwy fwy amlwg nad yw Brexit yn syniad da iawn o ran economi’r wlad – ond doedd Brexit rioed yn syniad da wrth reswm. Bellach mae hyd yn oed etholaeth Leanne Wood yn dechrau ‘ail-feddwl’. Eironi arall – mewn sawl ffordd.

‘Paid Digaloni’ oedd cyngor Huw Jones ar ei record yn y 1970au ac yn sicr dyna neges yr holl werslyfrau sydd wedi eu cynnwys yng ngeiriau caneuon protest – boed yn ‘Glad To Be Gay’ Tom Robinson neu ‘Croeso Chwedg Nain’ Dafydd Iwan. Ond does neb wedi sgwennu cân am beidio cael ei ddrysu.

Dryswch yw’r teimlad bellach – dwi ddim yn gallu prosesu Robeson a Horizon. Dwi ddim yn gallu prosesu Llywodraeth Cymru yn caniatau symud mwd ymeblydrol o fewn tafliad carreg i Fae Caerdydd mwy na dwi’n gallu prosesu Brexit.



Yn sgil Brexit roedd yna deimlad cryf fod angen ymateb yn erbyn yr holl hiliaeth a ddaeth yn sgil y refferendwm. Fe es ati i drefnu cyngerdd hefo’r cerddor reggae-dub Dennis Bovell ym Mangor ddiwedd 2017 dan faner ‘Rock Against Racism’ a llwyddais i werthu 13 tocyn o flaen llaw. Rhaid oedd gohurio. Pwysodd y siom yn fawr arnaf. Heb anobeithio, tydi rhywun ddim yn anobeithio, rhaid oedd cymeryd cam yn ôl. 

Dwi dal yn y camu yn ôl – dwi ddim yn dallt hyn i gyd – ond dwi’n sicr o un peth – does dim o hyn yn gwneud synnwyr – ddim go iawn.

https://nation.cymru/opinion/wylfa-newydd-b-plaid-cymru/



Wednesday 8 August 2018

Marc Cyrff a'r Crumblowers, Herald Gymraeg 8 Awst 2018





Llyfr Peter Finch ‘The Roots of Rock from Cardiff to Mississippi and Back’ (2015, Seren) sydd wrth ochr y gwely. Awdur y gyfres Real Cardiff a seicoddaearyddwr o fri yw Finch, bardd yn ogystal ac awdur. Rhywun sydd wedi crwydro strydoedd Caerdydd, rhywun sydd yn crybwyll Geraint Jarman (bardd arall) yn ei lyfrau.

Trof at Finch yn aml pan yn chwilio am ysbrydoliaeth. Ysbrydoliaeth a mymryn o seicoddaearyddiaeth ar ben y gacan sydd yn caniatau rhywun i greu ac i gerdded /crwydro gyda’r llygaid ar agor. Arsylwi a gweld. Edrych a gweld. Mae modd edrych heb weld.



O droi at lyfrau Finch nawr ac yn y man mae rhywun yn paratoi at yr ymryson diwylliannol nesa sydd yn wynebu rhywun – rhyw fath o ioga i’r amenydd.
Trafodaeth ar gelf ac archaeoleg oedd hi yn Oriel Plas Glyn y Weddw wythnos dwetha. Neu trafodaeth ar archaeoleg a chelf? Mae’r ddau yn gweithio. Mae’r ddau yn gywir. Un o drysorau Llŷn, un o drysorau gogledd Cymru, Plas Glyn y Weddw yw’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Plasdy gothig, hanes Elizabeth Jones Parry a’r dyn busnes Solomon Andrews yn ddiweddarach yn arllwys o furiau’r plasdy.

Profiad braf pob amser yw ymweld a Phlas Glyn y Weddw. Anodd esbonio’r teimald ond mae yma groeso bob amser, awyrgylch hamddenol, caffi rhagorol ond dim modd osgoi’r celf. Efallai mai dyma’r peth ynde – does dim modd osgoi’r celf. Mae’r celf yn gwneud ei waith – yn ysgogi trafodaeth – a hynny ym meddwl rhywun (yr unigolyn) neu mewn trafodaeth (gyda chwmni).

Celf cysyniadol yw’r celf sydd wedi ei ysbrydoli gan y gwaith cloddio ym mryngaer Oes Haearn Moel y Gaer ger Bodfari. Dau artist, Simon Callery a Stefan Grant yn ymateb i waith cloddio Gary Lock, Prifysgol Rhydychen. Caer fechan yw Moel y Gaer, un o nifer ar fryniau Clwyd a beth bynnag fydd canlyniadau’r gwaith cloddio – rydym yn siwr o ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r caerau yma ar fryniau Clwyd.

Rwyf yn dweud ‘cysyniadol’ wrth ddisgrifio’r celf. Yn sicr mae Callery a Grant yn gallu damcaniaethu y cysyniadol. Bron bod y damcaniaethu yn rhagori ar y celf. Neu efallai ddim? Dwi angen mwy o amser hefo’r gweithiau – angen disytyru’r damcaniaethau a gweld os gallaf gysylltu a’r celf. Byddaf yn dychweld i Blas Glyn y Weddw yn fuan.


‘Roadtrip’ – dyna chi ddisgrifiad da. Swnio fel rhywbeth allan o ‘On the Road’, Kerouak. Dwi’n teithio hefo’r BBC i Gaerdydd i weld cyngerdd y Crumblowers. Da ni yn recordio’r gig ar gyfer y sioe radio ar Nos Lun. Dwi heb weld y Crumblowers yn canu yn fyw ers ddechrau’r 1990au. Prifysgol Llanbed oedd y tro dewtha efallai neu y Powerhaus yn Islington, Llundain?

Rhaid cyfaddef roedd y syniad o’r A470 ar bnawn Sadwrn yn apelio. Y BBC oedd yn dreifio felly roedd cyfle i mi fwynhau y daith, edrych o gwmpas, sylwi ar bethau heb boeni am y gornel neu’r gyffordd nesa. Diolch byth nad yw’r A470 yn union syth ac yn ffordd ddeuol. Gwell fel hyn – cylchfan Dinas Mawddwy, heibio colofn David Davies yn Llandinam, Castell Cyfarthfa wedi ei fframio gan arwydd McDonalds wrth gyrraedd Merthyr.

Does dim angen i mi son am y ‘Steddfod yn y Bae’, bydd digon wedi gwneud hyn yn barod. Hyd at syrffed o bosib. Ond ga’i jest ddweud un peth – roedd gweld pobl o dras Indiaidd, o dras Somali, y di-Gymraeg yn dawnsio i’r Crumblowers yn profi’r pwynt yndoedd – agorwch y blydi drysau. Os am gyraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg mae angen agor y drysau.

Cyn gorffen fy ‘rant’ bach – efallai ei bod yn amser i’r Steddfod agor y drysau i’r gigs gyda’r nos. Gadewch i bobl ‘y pethe’, y dosbarth canol breintiedig Cymraeg dalu crogbris i cael cwrydro’r Maes yn ystod y dydd. Mae pobl fel fi yn gallu fforddio hynny. Ond da chi Steddfod 2019 agorwch y drysau wedyn am 6pm – a gadael i’r werin bobl ddod mewn i weld bands Cymraeg.
Efallai na fydd hyn yn ddigon i gyrraedd y milwin ond mi fydd yn gwneud mwy o les na’r polisi arferol. RHAID fod pawb yn gweld faint o les mae Bae Caerdydd wedi ei wneud!

Ac i droi yn nôl at y gwaith. Yno ar ran y sioe Nos Lun ar Radio Cymru oeddwn’i – yno i recordio gig byw y Crumblowers. Gyda’r haul allan a miloedd o bobl yn lolian o amgylch y Bae doedd dim dwy waith fod awyrgylch neu ‘vibe’ fel da ni yn ei alw o yn y Byd Pop, da iawn wrth i bawb aros am 9pm.

Fel daeth Crumblowers i’r llwyfan roedd hi’n dechrau nosi, y sioe oleadau yn gweithio a’r band yn edrych yn dda, wedi gwisgo yn dda, heb golli gwalltia a heb folia cwrw – ‘lean machine’ yn Saesneg. Gan chwydu tiwns – un ar ôl y llall, fe gafwyd ‘Wyth’, ‘Archesgob’, ‘Achub Fi’ a’r hit mawr ‘Syth’. Bendigedig. Miloedd o bobl hapus iawn. A pobl di-Gymraeg yn dawnsio ar ‘faes’ yr Eisteddfod. Cool.



Ar ddiwedd set Crumblowers, daeth Marc Roberts (Cyrff / Catatonia) ymlaen i chwarae gitar ar ‘Wyth’ a mi a’th y lefel o 12 i fyny at 120. Pawb yn hapus,wrth eu boddau ond doedd gan neb y syniad cyntaf o beth oedd yn mynd i ddigwydd wedyn.

Dyma glywed cordiau cychwynnol ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ a dyna 5,000 o bobl yn rhuthro at y llwyfan, a’r sgrechfeydd yn faddarol. Dyma un o’r tri munudau gorau o fy mywyd hyd yma – Marc Cyrff yn nol ar y llwyfan – a mae’r cyfan wedi ei recordio gan y BBC – ewch draw i Recdordiau Rhys Mwyn ar BBC iPlayer.

https://www.bbc.co.uk/programmes/b0bdvhd6