Wednesday 26 July 2017

Pwer Genod, Herald Gymraeg 26 Gorffennaf 2017

Adwaith.


‘Anfodlonrwydd’. Dyna fan cychwyn da. Yn ystod Gŵyl Arall yn ddiweddar wrth i Lisa Gwilym, BBC Radio Cymru, gyfweld a’r gantores Ani Glass, fe awgrymodd Ani ei haniddygrwydd (er yn gwenu) am y ffaith na chafodd wahoddiad i berfformio ar lwyfan Maes B eleni yn Steddfod Genedlaethol Môn. Neu, i fod yn fanwl gywir, dwi’n credu mai ei hawydd i berfformio yn Maes B yn ninas ei chartref, Caerdydd, yn 2018 oedd pwynt Ani go iawn.

Wedyn ar safle trydar @thejauntyspiv ar 18 Gorffenaf ymddangosodd y cwestiwn  ‘Ife actually DIM OND dwy ferched sy'n chwarae Maes B blwyddyn ma?’.  Jaunty Spiv yw hunan arall y ffotograffydd ifanc Manon Williams. Oes rhaid galw Manon yn ifanc? Oes, achos mae hyn yn bwysig. Fe ddaw y chwyldro nesa o gyfeiriad y genehdlaeth ifanc, a fe ymddengys mai y genhedlaeth ifanc fenywaidd Gymraeg sydd ar flaen y gad.

Er mwyn cadw mymryn o gyd-bwysedd, dwi’n siwr mai blaenoriaeth Maes B, eleni, fel yn ystod pob Eisteddfod yw rhoi llwyfan i’r artistiaid mwyaf ‘poblogaidd’. Oes mae artistiad ifanc yn cael cyfle i gefnogi’r artistiaid ‘poblogaidd’ ond dim ond hyn a hyn o le sydd yna ar lwyfan dros yr wythnos.

Wrth edrych ar wefan Maes B, mae’n ymddangos fod cwestiwn Manon (Jaunty Spiv) ddigon teg, dwy ferch amlwg sydd yna – Heledd o’r grwp HMS Morris a Katie o’r grwp Chroma.Felly beth am anghofio am yr iawn a’r anghyfiawn, y poblogaidd a’r llai poblogaidd. Dyma yn union sydd yn digwydd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar Nos Fawrth yr Eisteddfod, 8fed Awst. Gig Pwer Genod.

Cyfieithiad gwael o slogan ‘Girl Power’ y Spice Girls efallai, ond mae ysbryd y peth yn 100% iawn. Fe soniais ar fy sioe radio, nid yn benodol am sylwadau Ani Glass, ond fy nheimlad i oedd, peidiwch cwyno am Maes B, trefnwch gig gyda merched yn canu. Nid fy mod yn awgrymu am eiliad fod unrhywun ifanc wedi gwrando ar sylwadau hen punk 55 oed ond dwi 100 y 100 tu cefn iddynt! Dwi’n cael fy atgoffa o Punk Rock.

Codi dau fys ond wedyn gweithredu. Rhaid wynebu’r ffaith fod y Byd Canol y Ffordd Cymraeg o hyd am fynd am y ‘poblogaidd’, y hwyangerddi yn smalio bod yn ganeuon pop. Ond os am gyfansoddi cân mor berffaith a ‘Lipstick Coch’ fel mae Adwaith newydd neud – dwi ddim yn credu fod ‘poblogiadd’ yma nac acw. Celf yw’r peth yma – mi fydd ‘Lipstick Coch’ yn aros fel darn o gelf pan fydd yr hwyangerddi ym min sbwriel ffefrynnau carioci.

Snobyddlyd heb os. Gyda ‘Pop’ a chefl does dim dewis ond bod yn snobyddlyd. Gwell cael 50 o bobl sydd yn uniaethu, yn credu, yn rhan o’r chwyldro na 500 neu fwy, sydd rhy feddw i gofio pwy oedd ar y llwyfan. Fy mwriad yw mynychu’r gig yn Ucheldre, jest i gael gweld. Bydd nifer yn gwneud yr un peth dybiwn i. Nid y ni yw’r chwyldroadwragedd – ni yw’r voyuers diwylliannol – rhy hen i fod yn y parti ond heb anghofio ein gwreiddiau chwyldroadol chwaith.

Awgrymaf fod yn werth i chi wrando ar Adwaith. Grwp sydd yn naturiol ‘cŵl’ heb ymdrechu. Bu Pat Datblygu yn ymgynghori ar eu sengl ddwethaf ‘Pwysau’, oedd yn sengl ardderchog ond mae ‘Lipstick Coch’ yn symud yr agenda yn ei flaen cam ymhellach. Awgrymaf hefyd eich bod yn gwrando ar sioe radio Jaunty Spiv ar safle Mixcloud Manon Williams.

Yn rhyfedd fe awgrymodd Manon /Jaunty Spiv yn ddiweddar ar trydar nad oes fawr o symud yn y Sîn Gymraeg. Efallai fod Manon rhy agos. Hi, Adwaith y gig Pwer Genod, Ani Glass – y nhw sydd yn symud. Y cwestiwn nawr - yw pawb arall am symud hefo nhw?

https://www.mixcloud.com/manon-williams/uploads/



Thursday 20 July 2017

Adolygiad Gŵyl Arall, Herald Gymraeg 19 Gorffennaf 2017




Diwylliant, mynegiant creadigol a syniadau pobl. I mi, mae diwylliant yn gyfystyr a goleudigrwydd, fod pobl yn gwella eu dealltwriaeth o’r Byd, yn ehangu eu gorwelion, yn ymestyn y drafodaeth ac yn gwthio’r ffiniau. Dros benwythnos Gŵyl Arall cafwyd digon o hynny.

Ar y nos Wener roedd DJ’s reggae yn ystafell lloft y Pendeitsh, Caernarfon. Treuliais y diwrnod yn gwylio adar ar Ynys Lawd gyda criw o’r Almaen, diwrnod hir, ac erbyn 9pm roeddwn yn barod am synnau dub a reggae, yn barod i ymlacio a chael gwared a phwysau gwaith y dydd. Nid fod gwylio’r fran goesgoch ar Ynys Lawd yn unrhywbeth ond pleser cofiwch ond roedd bod yn gyfrifol am 25 o Almaenwyr ers 7 y bore wedi dweud arnaf erbyn gyda’r nos.

Ar lawr isaf y Pendeitsh roedd hi’n fyd arall, dim byd i’w wneud a Gŵyl Arall. Carioci. ‘Africa’ gan Toto ar y jukebox. Dau ddiwylliant. Fyny grisiau, pobl oedd i mewn i’w reggae. Neb yma wedi pleidleisio dros Brexit. Lawr grisia, amheuaeth am y ‘weirdos’ fyny grisiau. Daeth ambell un i erdrych. Tynnu trwyn a throi ar eu sodlau. Dwi’n bod braidd yn llym efallai. Mymryn yn anheg.

Ond roedd Toto yn canu ‘Africa’ yn ormod i mi. Cerddoriaeth ar gyfer pobl sydd ddim yn hoffi cerddoriaeth. Fel Coldplay ac Ed Sheeran. Fel ambell i artist poblogaidd Cymraeg. Sgwni sut pleidleisiodd y werin bobl lawr grisia os o gwbl? Do, mae Brexit wedi newid pethau. Dwi’n dal i ofni fod yr an-llythrennog wleidyddol wedi pleidleisio i fod yn dlotach, fel yr an-llythrennog wleidyddol ddosbarth gweithiol rheini sydd yn credu bydd y Toriaid yn cofio amdanynt.

Peidiwch a’n galw yn wirion medd y Brexiteers. OK medda fi, beth am b**** gwirion ta? Diwylliant yw’r arwyddbost. Gwrandewch ar reggae, ar Jarman yn canu be ddudodd Marley a bydd hiliaeth yn wrthyn am byth. Byddai pleidleisio dros Brexit yn amlwg yn gam gwag.
Cefais wahoddiad i gyfweld a’r awdur Jon Gower fel rhan o Ŵyl Arall, ar y pnawn Sul yng ngerddi’r Emporiwm (gardd gefn Palas Print). Dyma wrando ar ‘Lazarus’ y gân honno roedd Bowie wedi ei chyfansoddi gan wybod y bydda ni, y gwrandawyr, yn ei chlywed ar ôl ei farwolaeth. Iasol. Cês ydi Gower, un da, wedi sgwennu cyfrol o storiau byrion ‘Rebel Rebel’, a sawl pennod yn cynnwys / crybwyll Bowie.



Does dim pall ar ei siarad, sydd yn amlwg yn gwneud fy joban i yn un hawdd, ond does dim chwaith gwastraff geiriau na rwdlan. Mae popeth ganddo werth ei ddweud, werth ei glywed. Felly hefyd gyda Ani Glass (Ani Saunders) oedd yn cael ei holi gan Lisa Gwilym BBC Radio Cymru.

Roedd gwrando ar Ani Glass yn hanfodol. Ta beth oedd y cwestiwn gan Lisa roedd Ani yn datblygu’r sgwrs, fel mynd a ni am dro ar lôn fach wledig ac yna ar y gyffordd y gallu i gymeryd y ddwy ffordd ar yr un pryd. Athrylith heb son am gyfansoddwr o ganeuon pop perffaith. Caneuon fel ‘Y Ddawns’ a ‘Dal i Droi’, caneuon sydd yn gwneud I’r dydd fod yn fwy gola, yr Haul yn fwy cynnes, y gwynt yn fwy mwyn, y caeau yn fwy gwyrdd a’r mynyddoedd mawr yn fwy ac yn aros yn hirach.

Gwledd o ddiwylliant a hynny ar strydoedd cul y dref gaerog, Gweriniaeth Cofiland fyddaf yn ddefnyddio yn rhy aml. Ond mae gweriniaeth yn awgrym o oleudigaeth a goleudigrwydd. Gall yr an-llythrennog ddechrau darllen. Yn oes Brexit mae angen ychydig o oleuni. Awgrymodd Gower fod y weithred o sgwennu yn gam fechan yn y frwydr o wrthsefyll yn erbyn twpdra Trump.


Siwr fod pawb arall wedi mwynhau hefyd – fi sydd yn tueddu i or-ddadansoddi pethau!

Thursday 13 July 2017

Glud Rhyfedd, Herald Gymraeg 12 Gorffennaf


Dosbarth Cymraeg i Oedolion Yr Wyddgrug yng Nghastell Ewlo


‘It was strange glue that held us together while we both came apart at the seams’

Efallai ddim cweit mor ddramatig a geiriau’r gân gan Catatonia, ond rhyw glud od iawn sydd yn ein huno fel Cymry. Yr Iaith, efallai hanes, efallai y lle, y tir, chwaraeon – ond heb os glud rhyfedd yw hwn. Nid oes glud gwleidyddol (ddim ar hyn o bryd yn sicr).

Wrth drafod archaeoleg byddaf yn datgan bob amser mai’r lle yma sydd yn bwysig i mi. Felly Cymru yw’r ddolen gyswllt, y peth pwysig, nid y cyfnod; does gennyf ddim ffafriaeth dros y gwahanol gyfnodau archaeolegol. Yr un mor ddiddorol yw olion Chwarel Dinorwig a chaer Rhufeinig Segontiwm. Cymru sydd yn bwysig.

Wythnos dwetha ym Machynlleth cynhaliwyd cyfarfod wedi ei drefnu gan Nia Llywelyn ar ran Cymdeithas yr Iaith er mwyn datblygu strategaethau ar gyfer cymhathu yn well y rhai sydd yn dysgu’r Iaith ac archwilio ffyrdd ehnagach o gadw’r diddordeb yn yr Iaith, i gadw at y dysgu a hynny o fewn fframwaith cymunedol.

Cefais wahoddiad i annerch y cyfarfod fel ‘gŵr gwadd’. Rhaid cyfaddef fy mod yn llawer mwy cyfforddus yn ystyried fy hyn fel un o’r tiwtoriaid. Ers blynyddoedd bellach rwyf wedi cynnal dosbarthiadau archaeoleg ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion (Prifysgol Bangor) mewn llefydd fel Llanfairpwll, Cyffordd Llandudno, Yr Wyddgrug, Y Bala a Chricieth.

Gan fod cymaint o dwitoriaid arall yn cymeryd rhan ym Machynlleth, digon hawdd oedd gwisgo’r het honno. Rydym yn cael hwyl yn y dosbarthiadau yn gwella’n Cymraeg. Cawn ddysgu mai ‘corffdelw’ yw effigy wrth drafod cerrig beddau canol oesol. Cawn ddysgu mai radiocarbon ydi radiocarbon a mai ‘t’ fach sydd i dysysogion Gwynedd. Cawn drafod os mai ab Iorwerth oedd Llywelyn Fawr (er fod rhai yn dal i ddefnyddio ap Iorwerth).

Yr hyn a gafwyd gan yr holl diwtoriaid oedd profiad o’r dosbarth, profiad llawr gwlad, dim damcaniaethu, dim disgwylaidau gor-uchel – dim ond y byd go iawn. Dyma’r bobl ddylid wrando arnynt wrthgwrs. Y tiwtoriad a’r dysgwyr. Dyma’r bobl sydd yn gwneud y peth go iawn, Y nhw sydd yn gwybod.

Wrth anerch y cyfarfod, llithrais o bryd i’w gilydd i’r cymeriad arall, y Rhys Mwyn heriol. Dyna rhan o fy ngwaith mae’n debyg – bod yn heriol. Am ddim rheswm o gwbl cyhoeddais wrth y mynywchwyr nad oeddwn yn Genedlaetholwr nac yn credu mewn Duw. Sut yn union mae hynny o gymorth wrth ddysgu’r Iaith dwi ddim yn siwr – ond y pwynt oedd gennyf oedd fod Cymreigtod a’r Gymraeg yn ddi-hawlfraint.

Rwyf yn sicr o fy Nghymreictod ac yn treulio pob diwrnod yn gweithredu mewn rhyw ffordd dros yr Iaith ond dwi ddim yn cael fy holl-ddiffinio gan y peth. Rwyf hefyd yn anarchydd gwael, yn cael fy ysbrydoli gan Punk, yn archaeolegydd, yn awdur. Eto mae’r glud od yna, sef y Gymraeg, heb os, ond fy mwhynt oedd fod mwy na jest yr Iaith. Efallai?

Mynegodd Heled Gwyndaf o’r Gymdeithas y pwysigrwydd o ddeddfu dros y Gymraeg. Cytunaf. Ond, rhaid hefyd sicrhau fod galw am y ffurflen binc Gymraeg rydym newydd ei hawlio. Soniais am fy nghyfnod proffesiynol yn y Byd Pop – pawb yn gweiddi dros weld CD’s Cymraeg ar werth yn yr archfarchnadoedd ond diawl o neb yn prynu CDs Cymraeg (heblaw rhai artistiaid Canol y Ffordd). Ffaith – dwi’n gwybod achos mae’r selar acw yn llond dop o CD’s grwpiau fel Chwarter i Un sydd erioed wedi gwerth. Nid am eu bod yn rhai gwael – ond am fod y Cymry yn ara deg pan mae hi’n dod i rock’n roll.

Efallai mae methodistiaeth o fath yw hyn. Peidiodd yr anghydffurfwyr anghydffurfio. Planced gynnes binc o gysur yw’r pethau Cymraeg, y Pethe Cymraeg hynny mae David R Edwards bob amser yn eu herio. O’r Gymdeithas i’r Steddfod a’r Volvos gyda Tafod y Ddraig.
Dim ond drwy anghyddffurfio mae symud pethau ymlaen. Y Sex Pistols gannod am y ‘stupid fools that stand in line’ yn Holidays in the Sun. Mae’r llinell; honno wedi aros hefo fi ers y 6ed Dosbarth. Y ffyliad gwirion bleidleisiodd ar sail slogan ar ochr bws.

Felly efaiiai fod cyfrifoldeb ar rhywun i anghydffurfio. ‘Rantio’ fyddai’n galw hyn – prygowtha. arthio, bwrw drwyddi, baldorddi, tantro - efallai petawn yn trafod hyn gyda Dosbarth Cymraeg. Peidier cyfieithu hyn fel ‘Sefyll ar dy focs Sebon’ da chi. Dyma lle mae’r hwyl – yn dysgu, cyd-ddysgu, geiriau newydd. Rydym oll yn ddysgwwyr parhaol

Diwrnod hynod positif a mae Nia Llywelyn i’w chanmol am drefnu. O ddarllen colofnau Bethan Gwanas rwyf yn ymwybodol fod Bethan wedi crybwyll yr angen am gefnogi’r rhai sydd yn dysgu’r Gymraeg. Rhoi amser iddynt. Mynd am glonc neu sgwrs. Cerdded a siarad. Siarad yn araf.

Byddai Gwanas wedi bod yn gyfranwr da i’r diwrnod. Yr hyn oedd yn anodd gennyf oedd osgoi’r gwleidyddol. Gan mai Cymdeithas yr Iaith oedd yn trefnu roedd rhywun yn teimlo fod angen tanio ychydig mwy. Fe feirniadwyd S4C am eu diffyg rhaglenni i bobl ifanc / arddegau cynnar. Cynulleidfa anodd i’w phlesio ond un sydd yn cael cam gan y Byd Cymraeg nid jest S4C.

Soniais dros ginio wrth Heledd Gwyndaf fod angen arnom ni gyd wrando ar y rhai sydd yn dweud yr hyn nad ydym am ei glywed. Beirniad mwyaf yr Iaith Gymraeg yw’r union rhai sydd angen eu deall, eu troi os bosib. Weithiau does dim troi ar bobl – a rhaid derbyn fod rhai dal am bleidleisio dros slogan ar ochr bws faint bynnag mae rhywun yn dadlau i’r gwrthwyneb.


Rhoddwyd chwip din i’r Guardian hefyd am fod mor nawddoglyd tuag at addysg dwy-ieithog.

Wednesday 5 July 2017

Bryngaerau, Herald Gymraeg 5 Gorffennaf 2017

Clawdd allannol Meillionydd


Un o bleserau bywyd yw cael cloddio gyda criw o archaeolegwyr ym Meillionydd, Llŷn. Dyma bleser sydd bellach yn digwydd yn flynyddol, a dwi wedi cael y fraint o ymuno a chriw Prifysgol Bangor dan oruwchwyliaeth yr Athro Raimund Karl ers saith mlynedd bellach. Edrych ar ôl yr ymweliadau ysgol yw fy joban i yn swyddogol, ond os oes dim ysgol caf y cyfle i gael y trwyal allan a gwneud ddipyn o ‘archaeoleg go iawn’.

Safle cylchfur dwbl yw Meillionydd, yn dyddio oddeutu 800 cyn Crist tan tua 300 cyn Crist. Yr un dyddiadau sydd i’r safle cyfagos, Castell Odo. Yr hyn a olygir gan safle cylchfur dwbl yw un sydd wedi ei amgylchu gan ddau glawdd a ffos ar yr ochr allan. Rhan o bwrpas y gwaith cloddio blynyddol yw i geisio dehongli datblygiad y safle.

Rydym yn weddol ffyddiog fod yma nifer o gytiau crynion heb eu hamgylchu lle roedd pobl yn byw ac yn amaethu tua ddiwedd yr Oes Efydd (800/700 cyn Crist) a fod y safle, sydd yn eistedd ar ben bryn isel, wedi ei amgylchu wedyn gan balisad pren a ffos. Datblygiad diweddarach oedd y cylchfur dwbl.

Yr her archaeolegol yw ceisio rhoi trefn a dyddiadau pendant (neu weddol bendant) ar ddatblygiad y safle. Gan fod hon yn safle sydd wedi gweld defnydd efallai dros gyfnod o 500 mlynedd fe fyddai rhywun yn disgwyl i’r stratigraffeg fod yn un cymhleth. Mae pobl wedi codi ac ail-godi adeiladau ar yr un safle, yn aml yn yr union ru’n lle, dros y cyfnod hynny.

Wrth gloddio yn systematig, gobaith yr Athro Karl yw cwblhau cloddio un hanner cyfan o’r safle o fewn y 3-4 mlynedd nesa – a felly bydd hanner cyfan Meillionydd wedi ei gloddio yn ofalus. Y gobaith wedyn yw fod y patrymau a’r cyfnodau yn fwy amlwg ar gyfer eu dehongli gan archaeolegwyr heddiw.

Fy nisgrifiad i o Meillionydd bob amser yw’r lle yna “sydd yn agosach i’r nefoedd”. Rhaid cyfaddef fod Llŷn yn le sydd yn agosach i’r nefoedd am sawl rheswm ond yn achos Meillionydd yn benodol rydym yn gweld Enlli o gopa’r bryn, rydym ar lethrau Mynydd Rhiw a’i gloddfeydd bwyeill Neolithig. Ydan wir, rydym yn agosach at y nefoedd.

Tybiaf mai safle amaethyddol yn ei hanfod oedd Meillionydd. Efallai fod y trigolion o statws uwch neu o gymuned arbenig a wedi diffinio’r gymuned drwy godi’r cylchfur dwbl o amgylch y ‘pentref’. Ond ffarmwrs Llŷn oedda nhw. Ffarmio oedd yr economi pryd hynny. Bron mi ddweud fel heddiw, sydd yn rhannol wir ond fod y diwydiant ymwelwyr / twristiaeth wedi cymeryd ei le bellach ochr yn ochr ac amaethyddiaeth.


Newydd ei gyhoeddi mae’r llyfr Hillforts of Cardigan Bay (2016) gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol. Rwan ta, mae Driver efallai yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn darganfod safloedd drwy awyrluniau, ond mae’r llyfr yma yn rhoi crynodeb a chydestun da iawn o ran beth a pham yn union oedd y bryngaerau.

Er mai Ceredigion sydd yn hawlio sylw Driver, yr un yw’r patrymau a’r un yw’r egwyddorion mewn rhannau eraill o Gymru. Does fawr o wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng Sir Benfro a Llŷn yn ystod yr Oes Haearn. Saif yr holl fryngaerau yn weddol agaos i’r mor – hynny yw does nunlle yn bell iawn o’r mor ar Ben Llŷn nac Sir Benfro. Yr arfordir gorllewinnol yma oedd y draffordd, y llwybr cyfnewid ar gyfer pobl, nwyddau, syniadau a’r ffasiwn diweddara.

Un agwedd ddiddorol o fryngaerau sydd yn cael sylw teilwng gan Driver yw’r pwyslais ar adeiladu mynedfeydd trawiadol. Ar gyfer creu argraff efallai yn fwy nac amddiffyn? Cwestiynau, cwestiynau. Mae mwy ohonnynt nac atebion yn sicr.