Thursday 29 December 2011

William Williams 'The Botanical Guide'.


I am familiar with Nant Peris Church (recently restored by CADW), I have visited several times over the years to visit the graves of Gutyn Arfon and his brother Dewi. Gutyn was of course the schoolmaster  in the now abandoned village of Rhiwddolion, above Betws y Coed. (I wrote about Gutyn in the Herald Gymraeg 9/6/2010).


My visit on this particular afternoon to Nant Peris was to look for another gravestone - a gravestone I had no idea of it's whereabouts - although I did have a photograph of the inscription as my only clue.
The inscription read "Underneath Lie The Remains Of"  so it was distinguishable from the dozens of "Er Cof" gravestones at least. But I had no real system, I followed my nose in a clockwise direction around the Church, following the outer wall and then working inwards towards the church itself, sometimes following the lines of various paths through the graveyard and sometimes just trying to make some sense of my to-ing and fro-ing so as not to miss any stones.
I completed my circular tour of the graveyard - to no avail. Then I thought about searching immediately along the Church itself and starting again in a clockwise direction from the left of the entrance. There it was - a square slab of slate resting on another slate, so presumably broken from it's original position - with the exact words. If only I had worked outwards from the Church I would have got it within 2 minutes.
However spending time reading gravestones is always a pleasurable experience.

The grave belongs to William Williams  (1805-1861), better known as the Botanical Guide one of the pioneers of mountain guiding in search of plants and specifically collectable or rare plants  in the early part of the C19th. William Williams has been written about extensively in Dewi Jones's excellent book "The Botanists and Mountain Guides of Snowdonia". (Gwasg Carreg Gwalch).
http://www.amazon.co.uk/Botanists-Mountain-Guides-Snowdonia/dp/1845240642

One of the things that really attracted me to Williams was that he dressed up, dressed the part, adopted an image, described thus "dressed himself in a suit of goat-skin, consisting of cap, coat and trousers which made him appear like a savage from the land of perpetual snow". How cool is that - a C19th century guide who understood the value of image and playing the part !

He was also one of the original partners in one of the huts selling refreshments on the summit of Snowdon before he became a full time guide operating from the Victoria Hotel in Llanberis. His main contribution as a botanist was his knowledge of rare ferns in particular the Woodsia Alpina.

Before his death he also came to realise that there was a contradiction in his activites - by locating such rare plants on behalf of collectors he was in fact contributing towards the extinction of those very plants - a plan was hatched to build a lake in Llanberis with off shore islands where these rare plants could be conserved - what would have been the first "nature conservation" park in Snowdonia if not the World ! The lake was refered to as Lake Wil Boots (his nickname).

His death was apparently at the hands of his own frayed rope - a rope he apparently kept permanently on Clogwyn y Garnedd - he died indulging in his passion - and apparently a small white rock once marked the spot of his fall - I doubt very much that the stone has survived ?

The gravestone is to the left of the entrance porch to Nant Peris Church

Saturday 24 December 2011

LIKE PUNK NEVER HAPPENED Top 5 SRG.

Rhestr arall SRG ddim mewn trefn o reidrwydd. Pob record wedi ei ryddhau ar ol 1977, sydd yn awgrymu fod Strummer wedi methu eu cyrraedd mewn pryd.

1. ROCYN  "Sosej, Beans a Chips"
Marcia "Like Punk Never Happened" 10 allan o 10.
yn bennaf am y "We He!"

2. ERYR WEN  "Siop Dillad Bala".
Marcia "Like Punk Never Happened" 8 allan o 10.
am sgwennu can am siop ddillad yn y Bala; Caffi'r Cyfnod a mi fydda rhywun yn madda iddynt !



3. OMEGA "Nansi"
Marcia "Like Punk Never Happened" 6 allan o 10.
Prog. Ond mae ychydig o faddeuant gan fod Gorwel Owen yn chwarae allweddellau ar hwn.



4. DAFYDD IWAN  "Yma o Hyd"
Marcia "Like Punk Never Happened" 7 allan o 10.
Ail anthem Cymru ddiwedd nos. Lle mae'r Billy Bragg Cymraeg ?

 
 
5. CARYL "Chwarae'n Troi'n Chwerw"
Marcia "Like Punk Never happened" 6 allan o 10.
Stadium Rock yn Gymraeg - Anthem ar gyfer Radio Cymru ond er mawr syndod dyma cover version gan Gruff Rhys  http://youtu.be/OWMOlOTgf4Y

Thursday 22 December 2011

St Asaph Archaeology Society Christmas Lecture Thank You.

It was one of those nights - three invitations all on the same night. The first invitation was to a book launch by Euron Griffith for his new book "Dyn Pob Un". I had actually contributed a quote for the book sleeve - I should have been there, I'm sure it would have been a good night. I like Euron, I knew him from way back in our music days - I think we once shared the stage at Clwb Ifor Bach in the late 80s - me with my band  Anhrefn and Euron with his band the Third Uncles.

The second choice was a Lecture by Nancy Edwards of Bangor University on recent excavations on the 9th Century stone Eliseg's Pillar. I had heard Nancy talk at the CBA Wales meeting at Plas y Brenin, Capel Curig earlier in the year but obviously more work had been done since then. This was also part of the Gwynedd Archaeological Trust series of Lectures at the Telford Centre in Porthaethwy. These are excellent evenings and it's always a pleasure to hook up with fellow diggers - the GAT volunteers.

It was decided however to accept the kind invitation to attend the Christmas bash by St Asaph Archaeology Society, I have written a full account for my column in the Herald Gymraeg which is also on this Blog. It's a bit of a job to do full translations but the gist of my piece was that we had such a welcome from the Llanelwy crowd. We were well looked after, well fed - the buffett was excellent - and we were treated to a lecture on recent excavations aat Tan y Llan, Ysceifiog. So my thanks to Maria Blagojevic for the kind invitation and for such excellent hosts at St Asaph.

The final link with pop music is that the lecture was at St Asaph Cricket Club - just behind the Plough pub which was one of our regular venues for Welsh Language Pop Music in the late 80's.

Diolch Maria !

Wednesday 21 December 2011

Cymdeithas Archaeoleg Llanelwy Herald Gymraeg 21 Rhagfyr 2011.


Cefais wahoddiad i fynychu “Parti Dolig” Cymdeithas Archaeoleg Llanelwy, cynnig a dderbyniais gyda brwdfrydedd, felly ar Nos Fercher aeafol, dyma deithio ar hyd yr A55 am Lanelwy. Roedd y parti yn y clwb cricied lleol, ond gan nad wyf yn ddyn cricied mawr, bu rhaid ebostio ysgrifenyddes y Gymdeithas, Maria Blagojevic, i ofyn am gyfarwyddiadau.
                Roedd y Clwb Cricied tu ol i dafarn y Plough medda Maria. Hawdd, rwyf yn gyfarwydd iawn a thafarn y Plough yn Llanelwy. Yn ystod yr 80au hwyr roedd y Plough yn ganolfan bwysig ar y gylch-daith pop Cymraeg. Dan ddylanwad Cell Clwyd o Gymdeithas yr Iaith a’r cylchgrawn-ffansyn ‘Llmych’ roedd Clwyd pryd hynny yn ardal fywiog a brwdfrydig a roedd criw o drefnwyr ifanc yn rhoi nosweithiau Cymraeg  rheolaidd yn y Plough.
                Un o nodweddion y ffansyn Llmych oedd ei fod yn ymddangos fel anagram gwahanol bob tro, felly er i mi gyfeirio ato fel Llmych  mae gennyf un copi yn fy nghasgliad gyda llun o’r Cyrff ar y dudalen flaen dan yr enw ‘Hymllc’. Rhyw elfen brancaidd – Situationist-aidd gan y golygyddion dybiwn i.
                Heb fynd yn ol at fy nyddiaduron, fedrai ddim bod yn fanwl gywir yn fan hyn, ond mae gennyf rhyw gof o fod yma hefo’r grwp U Thant, gyda Ffa Coffi Pawb yn eu cefnogi, ac yn sicr bu’m yna gyda grwp o Wlad y Basg oedd yn canu yn yr Iaith Basg , sef y grwp Delirium Tremens hefo’r Cyrff yn eu cefnogi.
                Dyma’r cyfnod “tanddaearol” yn y Byd Pop Cymraeg (SRG) cyfnod da, arloesol, gwrthryfelgar, gwleidyddol, hunan gynhaliol, radical. “Tanddaearol” achos ar y pryd roedd y Sefydliadau a’r Cyfryngau Cymraeg wedi mwy neu lai llwyr anwybyddu’r twf mewn grwpiau newydd oedd efallai ddim yn dangos ddigon o barch at hen stejars y Byd Pop Cymraeg – sef yn union sut ddylia roc a rol fod yn ei hanfod !
                Ond, wrth fynd heibio’r Plough, prin ges i gyfle i hel atgofion melys am y “dyddie da” (Hergest) hynny hefo U Thant a’r Cyrff gan fod y clwb cricied o’m blaen yn barod.  Mewn a ni a dyma gael croeso yn syth. Mae’r ddarlith ar waith cloddio diweddar yn Tan y Llan, Ysceifiog ar fin cychwyn felly dyma eistedd yn ddistaw a gwrando  ar yr hanes.
                Mae’n debyg mae ffermdy cyfoethog yn dyddio yn ol i’r 16ed Ganrif yw Tan y Llan. Fe ddymchwelwyd yr adeilad gwreiddiol ym 1909 ond mae ty arall yno heddiw, o’r un enw, a mae’r gwaith cloddio ar yr hen safle mwy neu lai yng ngardd y ty presennol. Rheswm arall dros y gwaith cloddio gan Gymdeithas Archaeoleg Llanelwy yw nad oes unrhyw luniau o Tan y Llan wedi goroesi neu cael eu darganfod. Felly mae’n rhaid cloddio os am ddarganfod mwy am yr hen dy.
                Ceir ambell i gyfeiriad hanesyddol at Tan y Llan. Roedd ceidwad eglwys o’r enw Edward Jones yn byw yma tan ei farwolaeth ym  1779. Daethpwyd hyd i’w ewyllys a mae ei garreg fedd yn yr Eglwys lleol yn cyfewirio ato fel un “late of Tan y Llan”.  Gwelir Tan y Llan hefyd ar fap yn dyddio o 1793, yr unig dy yn ardal Ysceifiog sydd yn cael ei enwi – awgrym efallai o bwysigrwydd y ty.
                Bu’r ty hefyd ym meddiant Stad Gosvenor, mwy na thebyg oherwydd hawliau mwyngloddio haearn, calch-faen a manganese yn yr ardal hon. Ymhlith y gwrthrychau a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio mae darn o ffram ffenstr gerrig sydd yn dyddio o’r Ail ganrif ar Bymtheg cynnar a hefyd tameidiau o’r to sydd wedi dod o chwarel gyfagos Gwespr – chwarel ddaeth i ben ym 1793 – unwaith eto yn galluogi’r cloddwyr dyddio’r adeilad – neu oleiaf rhoi dyddiadau perthnasol o fewn stori Tan y Llan.
                Criw o wirfoddolwyr brwdfrydig sydd yn y Gymdeithas, a sefydlwyd yn ol ym mis Hydref 2004 a sydd belllach gyda dros 40 o aelodau. Yn dilyn y ddarlith cefais sawl sgwrs hefo’r aelodau, pawb yn gytun fod hi’n bwysig fod archaeoleg yn berthnasol i bawb, fod pawb yn cael cyfle i ymwneud a’r maes, boed hynny drwy gloddio neu drwy fynychu darlithoedd neu ymweliadau maes.
                 A chan fod hi’n Barti Dolig mae gwledd o fwyd yma i’r mynychwyr, y bwffe wrthgwrs, felly dyma hel platiad (gormod o felysion) a mynd o sgwrs i sgwrs. Y gair mawr yn y byd dehongli archaeoleg y dyddiau yma yw “cyd-destyn” , sef beth yw perthnasedd unrhyw safle neu waith cloddio i’r darlun mawr. Pwy oedd yn byw yn Tan y Llan a beth oedd eu statws o fewn y Gymdeithas ?  Sut fath o gymdeithas oedd hi’n lleol ?  Sut fath o fywyd oedd gan y Cymry lleol ?
                Er mor ddiddorol yw manylder darganfyddiadau  a gwrthrychau unrhyw waith cloddio – does fawr o ddiddordeb wedyn i neb o du allan i’r criw sydd wedi cloddio onibai fod hyn yn gwneud rhyw fath o synnwyr yn y darlun mawr – sef yn cael ei roi mewn cyd-destyn – o fewn Hanes Cymru – a beth oedd yn mynd ymlaen yn y cyfnod. Dyna fydd ei angen nesa yn stori Tan y Llan – ei roi o fewn ei gyfnod yn Ngogledd Dwyrain Cymru.
                Rhaid dweud i mi gael croeso cynnes gan griw Cymdeithas Archaeoleg Llanelwy , cafwyd noson ddiddorol, cyfle i gyfarfod pobl newydd, sgyrsiau difir a gwledd gyda’r bwffe – rwyf yn hynod ddiolchgar am y gwahoddiad !

Tuesday 20 December 2011

Darlithoedd GAT Gwanwyn 2012



Cyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Rhaglen Darlithoedd y Gwanwyn
Ionawr – Chwefror 2012

11 Ionawr
William T. Jones
Cloddiad ym Mhenamnen, Dolwyddelan
18 Ionawr
David Longley
Celf a Phensaernïaeth yn niwedd Oes y Rhufeiniaid a'r Oesoedd Canol Cynnar
25 Ionawr
Bob Daimond
Adluniad o Bont Menai, 1938-40
1 Chwefror
Nia Powell
Cyfleoedd yr Ucheldir yn y Cyfnod Modern cynnar. TBC
8 Chwefror
Iwan Parry
Cloddiad yng Nghaer Bentir Porthdinllaen
15 Chwefror
Ashley Batten
Adeiladau haearn rhychiog yng ngogledd-orllewin Cymru


Amser: 7.30 o’r gloch.
Lleoliad: Canolfan Thomas Telford, Ffordd Mona, Porthaethwy, Ynys Môn
(Nesaf at Eglwys y Santes Fair a chyferbyn â maes parcio Waitrose)
Tal mynediad £1.00
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Tegid Rhys Williams ar 01248 352535 est 230 tegid.williams@heneb.co.uk


Monday 19 December 2011

Geiriau N.C.B Llygod Ffyrnig

Un o'r pethau diddorol am wrando ar recordiau punk amrwd o'r 70au hwyr yw nad oedd rhywun yn deall hanner y geiriau ond roedd rhywun yn cael y neges ! O'r llyfr 'Y Tren Olaf Adref' gan Steve Eaves dyma'r "lyrics" felly i N.C.B.
Fel soniodd Mark P yn ei ffansin Sniffin Glue yr oll sydd ei angen wedyn yw y chords (dim mwy na tri) a llun o wddw gitar a smotiau - wedyn ffurfiwch band a gwnewch "cover" o N.C. B !

Sunday 18 December 2011

Llythyr gan Cedwyn Aled (Y Sefydliad)



Cefais barsel drwy'r post ychydig ddyddiau yn ol, dyma un o'r hogia yn ei agor, a tu mewn roedd poster o'r grwp RICH KIDS o gylchgrawn  'Oh Boy' yn dyddio o 1978. Gyrrwr y llythyr oedd fy hen gyfaill Cedwyn Aled. Hefyd hefo'r poster roedd un o'r pethau prin iawn hynny yn yr oes ebost, electroneg, digidol yma - sef llythyr ysgrifenedig.

Ar un adeg dyma oedd y cyfrwng wrthgwrs. Ar bnawniau Sadwrn yn nechrau'r 80au byddwn yn treulio oriau yn ateb llythyron gan ffans yr Anhrefn - roedd rhywun yn gydwybodol am hyn achos roedd hyn yn rhan o gadw a meithrin ffans i bands pryd hynny. Treuliais fwy byth o oriau yn ateb cwestiynau ffansins - eto roedd ffansins yn ffordd mor effeithiol o ledaenu'r neges cyn oes y We.

Tra yn sgwennu fy hunangofiant 'Cam o'r Tywyllwch' yn ol ym 2006 fe ddarllenais gannoedd o lythyrau - i gyd wedi eu cadw mewn ffeiliau cardboard, mewn trefn - a bellach rwyf wedi trosglwyddo rhain i gyd i Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon. Petawn yn sgwennu am y cyfnod diweddar prin byddai'r llythyrau yn llenwi un ffeil cardboard - sgwn'i faint o ebyst fydd wedi eu cadw ar gyfer archifau'r dyfodol ?

Ond ar y llaw arall mae llwyth o stwff "archifol" ar y We wrthgwrs - fel y clip yma o ymddangosiad cyntaf Y Sefydliad ar y teledu - rhaglen Ser ar S4C. Yn ol ym 1982/83 roeddwn yn rhannu fflat hefo'r gitarydd Dewi Gwyn a'r basydd Robin Hughes. Roedd y fflat, 51 Heol yr Egwlys Gadeiriol, Caerdydd uwchben swyddfa'r Blaid  hefyd yn dyblu fyny fel ystafell ymarfer - rhywfath o fersiwn Cymraeg i "Rehersals Rehersals" y Clash neu Denmark Street y Pistols.

Phil Lewis yr ail gitarydd yn y Sefydliad oedd wedi cyflwyno pawb i Cedwyn Aled, roedd y ddau o ardal Abergwaun / Casblaidd yn Sir Benfro hefo acenion priodol. Roedd Cedwyn wedi gweithio ar y rheilffyrdd ac efallai wedi byw ychydig mwy na'r gweddill ohonom oedd i bob pwrpas yn fyfyrwyr ifanc yn cael rhedeg yn wyllt yn y Ddinas fawr - ac yn cael hwyl a chreu yn y broses.

Dyma gyfnod dechrau herio'r Sin Gymraeg, bu sawl "scuffle" mewn rhyw dafran yn y Ddinas - hefo Dewi Pws neu rhyw seren pop Cymraeg - go iawn doedda nhw ddim wedi gwneud dim byd o'i le ond dyma gyfnod lle roedd dylwanwad Punk Rock yn fawr - yn sicr mi roeddwn i yn grediniol mae'r ffordd ymlaen oedd dilyn mantra Malcolm McLaren a Francis Bacon - "You have to destroy in order to create". Dwi ddim yn amau fod hi'n gywir i'n disgrifio (neu rhai ohonnom yn sicr) fel gobshites bach drwg !

Da ni'n son yma am gyfnod yn Hanes Canu Pop Cymraeg cyn i ni fathu'r tern "tanddaearol" go iawn. Oedd, mi oedd y Gwyliau Tanddaearol wedi bod yn digwydd yn Llanerfyl ond  roedd angen i ddyfodiad grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu a Tynal Tywyll i'r peth ffrwydro go iawn. Beth gafwyd yn y cyfnod yma - cyn 1983 oedd twf mewn cenhedlaeth o grwpiau oedd i bob pwrpas yn ol-punk fel Y Brodyr, Sgidie Newydd a hyd yn oed yn eu ffordd eu hunnain y Treiglad Pherffaith a gyhoeddodd sengl yn anibynnol.

Ond Y Sefyliad oedd y grwp hefo'r maniffesto gorau - dwi'n gwybod achos fe fuo'n ni'n dadlau drwy'r nos am y pethau yma ym 51 Heol yr Eglwys Gadeiriol. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn aelod na'n cynrychioli'r band ond mi roedd dadla am egwyddorion a maniffesto punk yn rhywbeth roeddwn yn credu'n gryf ynddo - i'r pwynt fy mod wedi cyhuddo'r Sefydliad sawl gwaith dros y blynyddoedd o "werthu allan" neu rhyw bollocks o'r fath - dwi ddim yn credu iddynt wneud hynny o gwbl erbyn heddiw !

Dwi'n credu mae rhan o'r peth oedd cael dadlau drwy'r nos hefo Cedwyn Aled a trio hawlio perchnogaeth ar egwyddorion punk - roedd pawb yn ei ddehongli yn ei ffordd ei hyn - dyna beth oedd mor wych - a dyna efallai i mi fethu ei weld ar y pryd. Roeddwn o hyd yn symleiddio pethau i Pistols v Clash yn union fel y Beatles v Stones - wedi'r cwbl fy arwyr oedd McLaren a Jamie Reid fel rheolwyr a Morley, Parsons, Burchill a Savage fel colofnwyr .......

Beth gafwyd gan y Sefydliad oedd sleisys o pync-pop gwych yn y Gymraeg. Dwi'n cofio chware y sengl "Dawnsio Ar Ben Fy Hyn" ar raglen i C2 yn gymharol ddiweddar a synnu pam mor dda roedd y sengl yn swnio heddiw - i ddefnyddio'r disgrifiad punk cywir - digon o "bollocks".


Ond i droi yn ol at y poster Rich Kids, dyma'r grwp sefydlodd Glen Matlock ar ol iddo cael ei gicio allan o'r Pistols. Dwi di disgrifio'r grwp fel "grwp o hogia roedd hogia yn gallu eu ffansio" - roedd y Rich Kids yn ddipyn bach fwy glam na llawer o'r bands punk a'r sengl gyntaf mewn clawr coch plaen - gwych. Roedd Steve New o'r band o hyd yn un o fy arwyr fel hogyn yn y 6ed Dosbarth.

Ym 2008 cefais alwad ffon i gyfarfod New yn Llundain, roedd cansar ganddo, ac ond 3 mis i fyw. Drwy bobl roeddwn yn ei adanabod yn y diwydiant pop fe awgrymwyd y gallwn helpu New i gael trefn ar ei faterion. Bu'm yn reolwr arno a'i grwp Beastellabeast wedyn tan 2010 gan rhyddhau dwy albym ar Label Anhrefn.

Yr uchafbwynt yn un ystyr oedd rhoi y Rich Kids yn ol at eu gilydd ym mis Ionawr 2010 - dyma oedd gig olaf Steve New - ar y llwyfan hefo fo roedd Midge Ure, Glen Matlock, Rusty Egan o'r line up gwreiddiol a wedyn Mick Jones, Tony James, Viv Albertine, Gary Kemp, Ian Broudie i gyd yno yn ymuno am y gan olaf ......Fe aeth elw'r noson i gronfa i blant Steve, Frank a Diva New.

Felly fe ddaeth y postar a gwen fawr i'm gwyneb - diolch Cedwyn !

Saturday 17 December 2011

Dyddiadur Cloddio (Cyhoeddwyd yr erthygl wedi ei olygu yn Barn Rhifyn 585 Hydref 2011)

Fel hogyn un ar bymtheg oed y dechreuais gloddio am y tro cyntaf, a hynny ar safle Mwnt a Beili  Normaniadd ‘Hen Domen’ ar gyrion Trefaldwyn dan ofal Philip Barker awdur y llyfr “The Techniques of Archaeologiacal Ecxavation” (1977). Haf poeth 1978, y pridd yn ofnadwy o sych a llychlyd a Barker yn ein hyfforddi sut i ddefnyddio trywel i dynu un haenen o bridd ar y tro oddi ar wyneb y safle cloddio archaeolegol, sut i gadw’r safle yn daclus a hynny heb ddefnydd o frwsh hel llwch (sydd yn tueddu  i drochi’r pridd a chuddio’r dystiolaeth).
                Heddiw pan soniaf i mi gychwyn fy ngyrfa archaeolegol dan ofal Barker mae cloddwyr eraill yn cydnabod Barker fel arbenigwr o fri yn ei faes, dwi hefyd yn cydnabod pam mor ffodus y bu’m  yn y dyddiau cynnar hynny i gael hyfforddiant mor dda yn y technegau cloddio.
                Y bwriad ar gyfer y tymor cloddio 2011 oedd treulio cymaint o amser ac y byddai gwaith yn ei ganiatau yn cloddio. Y dyddiau yma mae’r rhan fwyaf sy’n cloddio yn wirfoddolwyr, yr arian yn amlach na pheidio yn dod gan CADW a wedyn un neu ddau o archaeolegwyr proffesiynol yn goruwchwylio’r gwaith. Dwi ddigon hapus hefo hynny, cyn belled a fod digon o waith arall i dalu’r biliau a dyna fu’r patrwm dros Haf 2011, treulio rhyw ddiwrnodd neu ddau bob wythnos yn cloddio ar dyddiau arall yn gwneud “gwaith go iawn” oedd yn talu.

Llanfairpwll Chwefror 2011.
Mae’r tynmor yn dechrau ychyding ynghynt na’r disgwyl gan fod George Smith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (GAT) wedi sicrhau arian gan CADW i gael cipolwg ar safle lloc lled hirsgwar ger y Fenai yn agos i Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll. Yn wir bob bore wrth groesi’r fynwent i’r cae rydym yn cerdded heibio carreg fedd Syr John Morris Jones.

                Criw bach ohonnom sydd yma, ‘Beaver’ o Lanfairfechan a Jeff Marples o Sir Fon y selogion, y ddau ym mynd gyda GAT  ar bob safle lle bydd galw am wirfoddolwyr, bron y gellid eu galw yn wirfoddolwyr llawn amser gan fod y ddau wedi ymddeol, ond fel archaeolegwyr profiadol does fawr all eu curo. Felly hefyd gyda Smith, heb ei ail fel archaeolegwr, un o’r cloddwyr mwyaf profiadol yn y wlad, a braf cael gweithio gyda e a gweld safon ei waith.
Er i ni ddod o hyd i gynllun y lloc, y ffos a’r fynedfa yn ddigon hawdd, prin iwan yw’r gwrthrychau yma yn Llanfairpwll gan fod y cyfnod yma o’r Oes Haearn yn un lle nad oedd defnydd o lestri pridd yng Ngogledd Cymru.
Bryn y Bedd, Dolwyddelan Mai 2011.
Tynnwr coes o fri yw W.T (Bill) Jones arweinydd Cymdeithas Hanes Dolwyddelan a’r dyn sydd yn gyfrifol am y gwaith cloddio ers naw mlynedd bellach ym Mhenamnen ar safle hen gartref Maredudd ap Ieuan. Oes mae yna hwyl yma, rhaid gwylio pob amser rhag y tynu coes a rhaid bod yn barod i chwerthin achos mae Bill siwr Dduw o’ch dal allan cyn diwedd diwrnod o waith.
                Ar safle Bryn y Bedd rydym yn cloddio i ddod o hyd i olion yr Eglwys wreiddiol yn Nolwyddelan, cyn i Maredudd adeiladu’r Eglwys bresennol yn niwedd y Bymthegfed ganrif yn y pentref. Er gwaethaf arolwg geo-ffisegol does dim olion o gwbl yma, dim seiliau adeilad a dim llechi na cherig man fel fydda rhywun yn ei ddisgwyl petae adeilad wedi ei ddymchwel yn fwriadol.  Cwestwin amlwg felly os yw’r cloddio yn y rhan anghywir o’r cae – ond oleiaf rydym yn gwybod hynny nawr.

Penamnen, Dolwyddelan, Gorffennaf 2011
Stori wahanol iawn yw hi yng Nghwm Penamnen ar safle hen gartref Maredudd ap Ieuan gan fod yma adeiladwaith o garreg a hefyd tystiolaeth hanesyddol yn disgrifio’r safle. Rydym yn gwybod pry’n yw ty  Maredydd a hyd yn oed wedi dadarchuddio  llechi llawr ei fuarth tu cefn i’w dy.
                Criw bach sydd yn cloddio yma hefyd, Mary gwraig Bill ac Avis un o’r criw Cymdeithas Hanes yma bob dydd, ac eraill yn dod fel mae prysurdeb bywyd ymddeoledig yn ei ganiatau. Awyrgylch braf ac hamddenol sydd yma ond fod y pridd yn wlyb iawn a gormod o lawer o hen bryfid bychain sy’n brathu ond fel “iawndal” am hyn  mae’r pridd gwlyb yn sicrhau fod yna ddigonedd o wrthrychau wedi goroesi felly mae hyd yn oed lledr o gyfnod Maredudd wedi goroesi.
                Trafodaeth ddiddorol iawn yn y cwt amser cinio oedd pwrpas yr addurn lliw aur, er rhyw gyfuniad o gopr neu efydd oedd o go iawn, a esbonwyd yn ddiweddarach i fod yn offer dal goriadau ar wisg merch, yr hyn a elwir yn “chateaulin” o bosib ?


Pentrwyn, Pen y Gogarth Mehefin 2011
                Unwaith eto gwaith cloddio dan ofal George Smith (GAT) a chriw bach iawn o wirfoddolwyr, Beaver a Jeff yno fel arfer, a’r tro yma Dave Chapman o gwmni Ancient Arts, a oedd yn gyfrifol am ddarganfod y ddwy safle hynod yma. Lloches o dan y graig yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig (Oes Cerrig Ganol) yn uchel i fyny oedd y cyntaf a wedyn safle gweithio copr o’r Oes Efydd yn agos iawn i’r ffordd o amgylch y Gogarth oedd yr ail. Y ddwy safle dan fygythiad o erydu neu o gael eu dinistrio yn anfwriadol gan ddringwyr felly roedd angen cloddio i weld beth yn union oedd yma a wedyn ceisio sicrhau fod y safleoedd yn cael eu rhestru fel henebion gan CADW.

Yn sicr mae Chapman yn un o’r bobl hynny hefo gweledigaeth ynglyn a pherthnasedd arcahaeoleg i’r gymuned a phleser o’r mwyaf oedd cael treulio deuddydd gyda e yn archwylio’r samplau pridd am olion o weithio copr. Yn wir bu i ni ddod ar draws olion haearn yn y gwaddod a oedd yn rhan o’r ol-gynnyrch o weithio copr. Dyma dystiolaeth cynnar iawn o weithio copr yng Nghymru os nad y cynhara hyd yma !
Meillionydd Gorffennaf 2011.
Anodd curo safle Meillionydd ar ochr Mynydd Rhiw ger Aberdaron o ran ei olygfeydd dros Mynydd Anelog a chipolwg o Enlli. Myfyrwyr o Brifysgolion Bangor, Caerdydd a Vienna oedd yn cloddio yma dan ofan Dr Kate Waddington a’r Athro Raimund Karl o Brifysgol Bangor. Cefais wahoddiad ganddynt i dywys disgyblion ysgolion lleol o amgylch y safle. Roedd angen rhywun a siaradai Gymraeg ac oedd yn adnabod yr ardal, roeddwn wrth fy modd,a disgyblion Ysgolion Llidiardau a Crud y Werin yn awchu am gael eu dwylo yn y pridd, braf gweld y fath frwdfrydedd ymhlith ieuenctyd Pen Llyn.
Cynnig arall yn ystod gwaith cloddio Meillionydd i’r Brifysgol oedd cyflwyno darlith i’r gymuned lleol, a fod angen i hynny fod yn y Gymraeg neu yn sicr yn ddwy ieithog dan orchymyn teulu fferm Meillionydd, perchnogion y tir, felly dyma’r alwad yn dod gan Kate, “a fyddwn yn cyd-gyflwyno’r ddarlith gyda hi ?”
Hyd y gwyddwn i, dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, a phriodol fod hyn wedi digwydd yng Nghanolfan Bryncroes, canolfan a hanes wrthgwrs, ac un o’r llefydd yna yng nghesail Mynydd Rhiw, Pen Llyn lle mae’r Gymraeg yn fyw a mor naturiol o fewn y gymuned.  Felly yng Nghanolfan Bryncroes cyflwynwyd y ddarlith Archaeolegol Ddwy-Ieithog cyntaf erioed gyda dau gyflwynydd yn rhoi yr un ddarlith am yn ail yn y Gymraeg a’r Saesneg fesul llun ar y taflunydd.
Un o nifer o’r llociau cylchfyr dwbl sydd mor nodweddiadol o Ben Llyn sydd yma ym Meillionydd ac yn dilyn gwaith cloddio gan Leslie Alckock ar Gastell Odo yn ol yn y 60au pwrpas y cloddio yw ceisio gweld pa debygrwydd sydd yma ym Meillionydd ac os oes olion yn mynd yn ol i’r Oes Efydd hwyr fel yng  Nghastell Odo (Mynydd Ystum).

Tai Cochion, Brynsiencyn.
Heb os gwaith mawr yr Haf oedd yr ail dymor o gloddio ar safle Rhufeinig Tai Cochion ger Brynsiencyn. Yr hyn sy’n hynod yma yw fod yma safle Rhufeinig yn dyddio’n gynnar  o’r ail Ganrif a honno yn safle heb ei hamddiffyn. Y ddamcaniaeth yw fod yma safle masnachu rhwng y Rhufeiniaid a’r trigolion lleol – sef y Celtiaid wrthgwrs, a hynny mwy neu lai gyferbyn a’r Gaer Rhufeinig dros y Fenai yn Segontiwm, Caernarfon.
                Prin hanner can mlynedd yn gynharach roedd Suetonius Paulinus wedi ymosod ar gadarnle’r Derwyddon yma ar Fon, ac efallai wir i hynny ddigwydd yn agos iawn i’r man croesi diweddarach yma. Dyma dystiolaeth felly fod y Celtiaid a’r Rhufeiniaid yn cyd-fyw, sef cyfnod o sefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd; mae’r rhyfela drosodd ! Yn aml byddaf yn son mewn gwirionedd mae ffolineb fyddai hero’r Fyddin a’r Drefn Rhufeinig a mae’n debyg fod y llwythi Celtaidd lleol wedi dallt hi yn o fuan ar ol i Agricola sefydlu’r Gaer yn Segontiwm yn 78 O. C.
                Dyma  gyfarfod a Beaver a Jeff eto, ond y tro yma mae dros ddwsin o wirfoddolwyr yn cloddio yma pob dydd. Mae hwn yn dim mawr, ond eto ar ol ychydig ddyddiau mae pawb yn ymwybodol iawn eu bod yn rhan o’r tim ac yn cyfeillio yn hawdd. Gan fod hon yn safle mor fawr mae George Smith a Dave Hopewell  o GAT yn cyfarwyddo’r gwaith. Fel yr arfer mae  mwy o olion yn dod i’r olwg ar yr wythnos olaf o gloddio felly does dim modd cwblhau’r cloddio yn llwyr a does dim sicrwydd bydd modd dychwelyd yma i Dai Cochion ym 2012.
                Yr hyn sydd yn amlwg o dai Cochion yw fod rhaid i ni ail feddwl, ac ail sgwennu’r hanes am y berthynas rhwng y Rhufeiniaid a’r trigolion Celtaidd lleol, y ffermwyr lleol os mynnwch achos yn sicr amaethyddiaeth  fyddai wedi cynnal yr economi bryd hynny.


                Nid gor-ddweud yw fod cael cloddio ar y safleoedd yma yn fraint, mae hynny yn sicr, gan fod rhywun yn cael cyfle i ail gysylltu a’r hen bobl, yn yr union llefydd lle roedd yr hen bobl yn byw ac yn gweithio. Fe soniodd Kate Waddington hefo mi ar ol i mi gael gweithio ar Ben y Gogarth y byddai pobl wedi bod yn fodlon talu i gael y cyfle cloddio  ar y fath safle.
                Pleser arall wrthgwrs yw’r brawdgarwch ymhlith y cloddwyr, pawb yn hapus ar eu penygliniau gyda eu trywel. Y cwestiwn bob amser i mi yw’r darlun ehangach, beth mae hyn yn ei olygu o ran ein dealltwriaeth o hanes Cymru, a weithiau ar ol y tymor cloddio rydym yn agosach at gyfrannu i’r drafodaeth honno.
Uchafbwynt yr Haf heb os oedd wynebu neuadd orlawn yn nghanolfan Bryncroes i gyflwyno’r ddarlith gyda Kate, hyn yn dystiolaeth o faint oddiddordeb sydd ganddym fel Cymry yn ein hanes a’n archaeoleg !

Friday 16 December 2011

Bwlch y Gorddinan Herald 14 Rhagfyr 2011.



Rwyf wrth fy modd gyda’r enw “Bwlch y Gorddinan”, tybiaf byddai llawer yn cytuno fod yr enw Cymraeg yn llawer gwell na’r enw Saesneg “Crimea” am y bwlch sydd yn croesi o ochrau Dolwyddelan i lawr am Flaenau Ffestiniog. Er hyn, mae nifer yn defnyddio’r ffurf “Eingl-Gymraeg”, Pas y Crimea neu Bwlch Crimea ar gyfer y bwlch.
                Y son yw fod carcharorion-rhyfel cyfnod Rhyfel y Crimea 1854 (yn dilyn Brwydrau Inkerman a Blaclava yn Rwsia) wedi gweithio yma a dyma sut cafodd y bwlch ei enw newydd. Cwestiwn da wrthgwrs, beth ddigwyddodd i’r carcharorion wedyn ? Mae yna hefyd Afon Gorddinan yn yr un ardal  yn rhedeg i lawr i Ddyffryn Lledr.
                Ond un nodwedd penodol o Fwlch y Gorddinan sydd o dan sylw yr wythnos hon, ac eto i ddefnyddio’r  disgrifiad “Eingl-Gymraeg” y “Dymp Sgidia”. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn teithio dros Fwlch y Gorddinan yn gyfarwydd a’r domen sgidia. Os yn teithio i lawr y Bwlch i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog mae’r domen ar ochr chwith y ffordd rhyw gan llath i lawr allt o gopa’r bwlch. Mae i’w weld fel darn o dir tywyll diffaith, yn staen ar ochr y bryn, ac ynddo mae miloedd o waelodion sgidia hoelion neu bedolau sgidia.
                Drwy holi ychydig daw sawl stori wahanol am y domen sgidia. Yr un mwyaf doniol, a lleiaf tebygol, a mae’r stori yma yn mynd a ni yn ol i gyfnod Rhyfel y Crimea, yw fod milwyr Cymreig wedi gwrthod ymladd yn y rhyfel hon a wedi llosgi eu gwisg a’u sgidia yma ar y Bwlch. Go brin, ond mae’r cysylltiad a Rhyfel Crimea yn ddiddorol fel esboniad.
                Yr ail stori yw fod rhain yn sgidia milwyr Americanaidd ar ol yr Ail Rhyfel Byd – ac eto fod y sgidia wedi eu llosgi yma ar Fwlch y Gorddinan. Mae cryn ddryswch ynglyn a sgidia o pa gyfnod yw rhain, neu i fod yn fwy penodol, o pa Ryfel ? ond mae hyn wedyn yn arwain at y drydedd stori ac efallai un a chydig fwy o hygrydedd.
                Y drydedd stori felly yw fod sgidia wedi eu danfon i Flaenau Ffestioniog ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer eu didoli a fod y rhai nad oedd modd eu trwsio neu ail ddefnyddio wedi cael eu llosgi ar ben y Bwlch. Mae son fod y tan wedi para am wythnosa.
                Stori arall sydd yn sicr yn un wedi ei greu yw’r un rwyf yn ei ddefndyddio pan yn tywys ymwelwyr Americanaidd mewn bws dros Fwlch y Gorddinan.  Rwyf yn son sut yn ystod yr Ail Ryfel Byd fod gormod o sgidia troed chwith wedi eu cynyrchu a dyma pam iddynt gael eu llosgi yma. Oleiaf mae’r stori yma yn rhoi gwen ar eu gwyneba ond rhyw ddydd rwyf yn mynd i gael fy nal allan ma’n siwr ! Unwaith eto croesawaf lythyrau gan unrhywun a gwybodaeth pellach.
                Yn ddiweddar wrth yrru fyny’r Bwlch sylwais fod ffordd fynydd newydd wedi ei agor ar ochr Ffridd y Bwlch / Tal y Waenydd sef y mynediad ar gyfer y cwrs beicio mynydd fydd yn cael ei agos cyn bo hir ac yn arwain wedyn i lawr i gyfeiriad Llechwedd. Prosiect i’w ganmol, prosiect adfywio bro, bydd hyn yn dod ac ymwelwyr i mewn i Blaenau, gwych.
                Ond yn gwisgo fy het archaeolegydd roedd mymryn o bryder fod y ffordd mynediad yma mor agos i’r domen sgidia felly dyma ddechrau ebostio CADW, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Antur Stiniog. Dwi’n teimlo fel un o’r bobl yma sydd yn sgwennyu llythyrau i’r wasg i “fynegi pryder” felly dwi’n ymddiheuro iddynt am sgwennu, nid “dyn blin o 4 Heol y Dwr ……….” yw hyn ond nodyn i wneud yn siwr fod pawb yn gwerthfawrogi pwysigrwydd archaeolegol  y safle.
                Doedd dim rhai i mi boeni, daeth ebyst yn ol gyda troad yr (e)bost, pawb yn ymwybodol, pawb yn sylweddoli arwyddocad y safle a phawb yn gwerthfawrogi fy niddordeb. A dweud y gwir fe arweiniodd hyn at sawl sgwrs ddiddorol am y safle. Fe fydd ddarllenwyr cyson y golofn hon yn ymwybodol bellach fod diffiniad archaeoleg bellach yn cael ei ymestyn, hynny yw, mae olion materol a diwylliannol dyn yn cyfri fel archaeoleg, a mae’r cyfnod diweddar hefyd yn gallu bod yn y maes archaeoleg.
                Werth wneud dipyn bach mwy o waith ymchwil ar gyfer yr erthygl yma, sylweddolais fod hyd yn oed tudalen ar Facebook yn bodoli, “Save Blaenau Ffestiniog Heritage and History”. Wrthgrws mae yna ochr eironig fod tudalennau Facebook yn y Saesneg, does dim modd dad-gysylltu’r Iaith Gymraeg a Hanes a Treftadaeth Blaenau Ffestiniog ond oleiaf mae’r dudalen yn dangos fod yna ddiddordeb allan yna.
                Mae yna drafodaeth ddilys i’w chael ynglyn a faint o’r tomeni llechi sydd angen eu cadw, faint o’r olion ac adeiladau ddylid eu cadw. Eto fel yr archaeolegydd, byddwn yn dadlau fod hyn yn rhan o’n hanes, yn rhan o Hanes Cymru. Yn y cyd-destyn yma byddai chwalu’r domen sgidia ar gyfer creu ffordd newydd yn anfaddeuol ac yn drychineb. Y tebygrwydd nawr yw na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.
                Yr her efallai i ni gyd nawr, yw sut mae cadw gofal o safle o’r fath, sut mae dehongli safle o’r fath ar gyfer ymwelwyr, ond fel safle hynod ddiddorol gyda storiau mor dda ac amrywiol mae’n safle o bwys archaeolegol ac hefyd  o safbwynt Hanes Bro Ffestiniog ac yn wir Hanes Cymru.



Cefn Cave, Cefn Meiriadog. 15.12.11.

It was one of those experiences that will stay with me for ever, an opportunity to visit the cave at Cefn, the cave visited by Charles Darwin and possibly also Adam Sedgwick during their journey through North Wales during the month of August 1831.

We were here with Cwmni Da (S4C) filming an eitem on Darwin's tour for a programme called "Darn Bach o Hanes" to be broadcast in the New Year (2012). I had been invited to present the item, for which, to paraphrase Darwin's words "I will never cease to be thankful".  This is not a site that is open to the public  and therefore the presenting job provided me with a rare opportunity to visit the cave and to do so in the company of local historian Meuric Lloyd Davies.

Meuric in fact, I had met a week earlier when I attended the St Asaph Archaeology Society Christmas Party, and it was so interesting to hear Meuric's stories of visiting and exploring the cave during their childhood years - what a playground and what a brilliant place to explore, if a little dangerous of course with high cliffs etc.



The Cave itself is a SSSI, we saw bats inside the cave and also sadly many recent "archaeological remains", ranging from beer bottles to candles and some very modern cave paintings - some time in the future there will be archaeologists talking about "ritual activity" in the C21st at the Cave - a multi period site indeed !

The one thing that struck me was the length of this limestone cave and the Victorian period steps - either rock cut or stone built steps leading to two other entrancaes to the caves. As the old photographs show this must have been a popular destination for Victorian Visitors / tourists and an ideal picnic spot looking down on the River Elwy.

During the filming we talked about Darwin's discoveries here - at a time when finds were still scattered on the floor of the cave and also the implications of all this - the very fact that "the facts" as presented by  Book of Genesis would now come under the microscope - made these pioneers of geology, archaeology and eventually via Darwins publication "On The Origin of Species" in 1859 - brave men indeed - heretics almost and it was so sad in a way to read out Sedgwick's letter to his former student as the closing piece of the eitem 
"I have read your book with more pain than pleasure. Parts of it I admired greatly; parts I laughed at till my sides were almost sore; other parts I read with absolute sorrow; because I think them utterly false & grievously mischievous.”

S4C filming

Rhys Mwyn inside near Vicorian steps




Thursday 8 December 2011

Llyfr Sian James Herald Gymraeg 28 Medi 2011

“Rhys, himself  was - and is – a paradox.  A punk and a schoolteacher. A realist and a Nationalist.  A benign rebel.”
Nid fy mod am gytuno a hanner hunna wrthgwrs ond felly y disgrifiwyd mi gan y newyddiadurwr Mick Middles o’r Guardian yn ei lyfr ‘Manic Street Preachers’ (Omnibus Press  1999). Dyma’r tro cyntaf i fy enw ymddangos mewn llyfr, ac er nad wyf erioed wedi arddel  na chytuno a’r  cysyniad o Genedlaetholdeb na wedi gwneud fawr mwy na dysgu llanw flynyddoedd maith yn ol, rhaid cyfaddef fod “benign rebel” yn swnio’n wych, mor wych i mi ei ddefnyddio fel penawd ar fy safle we.
                Yn ddiweddar mae sawl llyfr wedi cyfeirio atof, cefais i a Sion Sebon un dudalen gan David R Edwards yn ‘Atgofion Hen Wanc’, er i ni weithio gyda Datblygu am rai blynyddoedd, a deallaf i Geraint Jarman benderfynu dileu ei atgofion ohonnaf fel rhywun a heriodd ei genhedlaeth ef yn y Byd Pop Cymraeg cyn i’w lyfr gael ei gyhoeddi.  Duw a wyr beth oedd gan Hefin Wyn i’w ddweud – peidiwch a son. Dadleuol i’r eithaf yn y Byd Pop Cymraeg !
Daeth llyfr arall drwy’r post yn ddiweddar gan yr awdur o Thionville yn Nwyrain Ffrainc, ‘Plattagonie’ gan  Jo Nousse, mae ganddo gerdd o’r enw ‘Den Draach’ wedi ei gyflwyno i mi a hynny yn yr iaith Ffrancaidd - iaith ardal Frankish Lorraine. Wedyn daeth gwahoddiad gan Y Lolfa  i sgwennu rhywbeth bachog  ar gyfer clawr ol llyfr Euron Griffith ‘Dyn Pob Un’ sydd yn rhoi’r Byd Cyfryngol  drwy chwyddwydr ddoniol dros ben.
Ond y llyfr oedd a mwya ddiddordeb i mi oedd hunagofiant Sian James (Cyfres y Cewri 34). Roedd Bethan Gwanas wedi son wrth olygu’r gyfrol fod Sian yn son amdanaf, felly gyda lled nerfysrwydd yr agorais y llyfr ar dudalen 87 a darllen “Syrthies mewn cariad am y tro cynta pan o’n i’n bedair ar ddeg oed” ond roedd rhaid cyrraedd tudalen 88 cyn sylweddoli mae nid amdanaf i roedd Sian yn cyfeirio.
Wwps, achos yn fy llyfr i (Cam o’r Tywyllwch) roeddwn wedi dweud ( a hynny ar dudalen 22 ynde Sian !!) mae Sian “oedd y cariad na fu”, roeddwn llawer rhy ddiniwed beth bynnag tan y 6ed Dosbarth i hyd yn oed gychwyn deall dim byd am ferched, ond dyna chi ‘banics’, sgwni oeddwn wedi camddeall yr holl beth hefo Sian, doedd hi rioed di cymeryd diddordeb ynddof a finnau wedi mynd a sgwennu am hyn mewn llyfr. Ie wir Wwps go iawn !!
A dyma fi (heddiw ac am yr ail waith) gyda chalon drom a siomedig yn dyfalbarhau gyda llyfr Sian. Yr eironi mawr i mi oedd i mi syrthio am un o ffrindiau gorau Sian yn fuan iawn ar ol iddi gael ei “charaiad cyntaf” (tud 23 yn fy llyfr)  a bu mi fod rhy ddiniwed i wneud dim byd am hynny chwaith. Fe gollwyd cyfle yn sicr achos dwi’n siwr y bydda ni gyd wedi cael hwyl er hwyl ddigon diniwed ma’n siwr.
Ond wedyn dyma’r ail sioc. Dwi bellach wedi cyrraed pennod “Tich, Angharad a Rhys Mwyn” (tud 149), ‘Asu Mawr’  dwi rioed di cael fy enwi mewn penawd pennod o’r blaen, a dyna ni o’r diwedd, ateb i’r dirgelwch mawr. Dyma Sian eto “Roedd Rhys yn un o fy nghyfoedion yn yr Ysgol Uwchradd. Yn wir mi ges damaid  o ‘crush’ arno yn Fform Thri”. Wel, meddyliais mae tamaid o crush yn well na ddim byd, ac oleiaf fydd ddim rhaid mi golli cwsg nawr am yr hyn sgwennais yn fy hunangofiant !
Ond mae gwell i ddod gan Sian (tud 152), “aeth Rhys wedyn drwy ei gyfnod ‘blin’ fel petae, yn herian pawb a phopeth, a fedrwn i yn fy myw a chysoni’r person annwyl, afieithus y bum yn ffrindie efo fo dros y blynyddoedd a’r pync ifanc cecrus oedd mor uchel ei gloch ar y teledu a’r radio”. Dyna rhai o’r geiriau mwyaf caredig mae rhywun erioed wedi sgwennu amdanaf, rhaid cael hyn ar y safle we hefyd ar frys meddyliais !
Sut mae esbonio hyn i gyd dudwch ? Wel, byddai modd rhestru rhesymau : sbots / plorod (acne), bwlis ysgol, tyfu fyny yng nghefn gwlad, awdurdod, athrawon,  Punk Rock, Sex Pistols, geiriau God Save The Queen, Popeth yn Gymraeg, darllen yr NME, rhaglen John Peel, gweld y Clash yn fyw yng Nglannau Dyfrdwy, Malcolm McLaren, Vivienne Westwood, Jamie Reid, Billy Idol, Viv Albertine, Patti Smith, Blondie, Llygod Ffyrnig, Geraint Jarman (credwch neu beidio), LP Gwesty Cymru, Trwynau Coch, Recordiau Coch, Ail Symudiad, Clustiau Cwn, Bismyth, Y Sefydliad, Radio Cymru, S4C, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru, gigs Cymraeg, diffyg gigs Cymraeg, Sir Drefaldwyn,  Tony Wilson, Factory Records, Rough Trade, Essential Logig yn canu yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, Llanfair Caereinion, fy nghariad cyntaf, fy ail gariad, fy nhrydedd cariad.
Datblygu, Y Cyrff, Tynal Tywyll, Gorwel Owen, Ofn, Elfyn Presli, Bern, Traddodiad Ofnus, Ian Devine, Heb Gariad, Celf, Oriel Mostyn, Huw Prestatyn, The Face,  Sgrech, Sosban,  Mudiad gwrth Apartheid, Streic y Chwarelwyr, Galwad ar Holl Filwyr Byffalo Cymru, ac ymlaen ac ymlaen. Duw a helpo unrhyw seiciatrydd.
Bu ychydig o feirniadaeth ar y Cyfryngau am i Sian fod yn rhy ddihymongar yn ei llyfr. Ateb syml i hyn – mae gan Sian James fwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau 4 aelod yn eu cyfanrwydd – does dim angen i Sian ddweud dim, mae ei cherddoriaeth a’i chyfraniad i’r Byd Gwerin Cymraeg yn dweud y cyfan.

Wednesday 7 December 2011

30 llyfr am yr SRG (ddim mewn trefn a mwy i ddod yn amlwg !)


Ers dechrau gweithio ar y rhestr yma, a son am greu 10 Uchaf o lyfrau am yr SRG dyma sylweddoli fod cymaint o lyfrau. Mae'r rhestr yn dal i dyfu, diolch i bawb am gyfrannu yn enwedig Lefi @ y Lolfa, mi fyddaf yn dibynnu arno yn y diwedd i wneud yn siwr fod pob llyfr ar y rhestr !
Erbyn hyn dwi'n teimlo fod hwn yn rhywbeth i'r Cyfryngau fynd ar ei ol o ran rhoi trefn ar y "Deg Uchaf" a chael barn y bobl ...........

1. Cam o'r Tywyllwch  Hunangofiant Rhys Mwyn. (Y Lolfa 2006)


"Fi di meddwl erioed bod Rhys yn wallgo. Yn Svengali yn hytrach na Mickey Mouse.Ond gyda angerdd aruthrol yn ei yrru, a dydi angerdd dros achos da rioed di bod yn beth gwael" Cerys Matthews ar y clawr cefn.


2. Atgofion Hen Wanc  David R Edwards



3. Mae Gen i Gariad (Stori Tony)  sef  Toni ac Aloma wrthgwrs - diolch i Geraint Lovgreen am fy atgoffa am hwn !

Gyda llaw roedd ail-argraffiad o'r llyfr yma gyda Tony ac Aloma mewn gwyrdd



A dyma'r nodiadau ar gefn y llyfr







 4. Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor   Dafydd Evans - diolch i Lefi @ Lolfa - dyma lle mae'r stori yn cychwyn yn sicr ! Maes B gan y Blew ydi'r record roc cyntaf yn y Gymraeg. Dwi am drio cael copi o gyfweliad estynedig Huw Prestatyn / LLmych hefo Dafydd Evans a'i roi ar y Blog.


Hwn oedd clawr y ffansin Llmych hefo'r cyfweliad estynedig hefo Dafydd Evans o'r Blew , Hydref 1986 - bydd hwn yn mynd fyny yn raddol dros yr wythnosa nesa



5. Gadael yr Ugeinfed Ganrif  Gareth Potter  - OK efallai mae sgript sioe lwyfan Potter oedd hwn ond mae'n dal yn lyfr cwl as f*** am yr SRG a mi fyddwn yn dychmygu yn gasgliadwy iawn - ond ar gael os fuo' chi i'r sioe ........


6. Sian James Cyfres y Cewri 34


"Bu ychydig o feirniadaeth ar y Cyfryngau am i Sian fod yn rhy ddihymongar yn ei llyfr. Ateb syml i hyn – mae gan Sian James fwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau 4 aelod yn eu cyfanrwydd – does dim angen i Sian ddweud dim, mae ei cherddoriaeth a’i chyfraniad i’r Byd Gwerin Cymraeg yn dweud y cyfan".  Rhys Mwyn Herald Gymraeg 28 Medi 2011

7. Y Tepot Piws  (Llyfr Pocad Tin)   Dafydd Mei.

8. Be Bop a Lula'r Delyn Aur (Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg),  Hefin Wyn (Y Lolfa 2002)
Hon oedd y Gyfrol "ddadleuol" yn dyfynu mwy o bapurau newydd nac o geg y cerddorion, dwi'n cofio ambell gerddor o'r cyfnod yn mynegi anfodlonrwydd am gywirdeb rhai ffeithiau ond rhaid cofio mae newyddiadurwr oedd Hefin Wyn. Fo fathodd y term "rocecer" i ddisgrifio swn y Trwynau Coch - ar y pryd roedd hyn yn ffurff fwy Cymreig o ddisgrifio'r gerddoriaeth  na defnyddio cyfieithiad gwael fel "y Don Newydd" am New Wave.

Yn ystod y lansiad yn Galeri Caernarfon cefais y cyfle i gyfweld a Hefin Wyn o flaen cynulleidfa fyw a fo oedd un o'r bobl anodda dwi rioed di gyfweld - dim yn un hawdd i'w gael i ymateb nac i drafod. Profiad od a dweud y lleiaf.

9. Ble Wyt Ti Rhwng ?     Hefin Wyn (y Lolfa 2006)

A dyma fi felly yn cael ymuno a'r cerddorion sydd am feirniadu Hefin Wyn. Doedd o yn sicr ddim o gwmpas yng nghyfnod y Sin Danddaearol, fuodd o rioed i gig Anhrefn ...... bla bla bla .... ond i gadw rhan Hefin o leiaf mae yna gyfnod, cytuno neu anghytuno oleiaf mae yna ddwy gyfrol yn cofnodi Hanes Canu Pop Cymraeg ac am hynny mae Hefin Wyn i'w ganmol.


10. Gwrando Ar Fy Nghan  Heather Jones


11. Sgrech 2005 Glyn Tomos

Diolch i Non Tudur am awgymu hwn - dwi am roi y Blwyddlyfrau Sgrech 1979-83 i fyny hefyd.

12. Cerddi Alfred St.   Geraint Jarman

un o'r cloriau mwyaf eiconaidd yn y Gymraeg, jarman + shades + wal a graffiti.

13. Al, Mae'n Urdd Camp (Cyfres y Beirdd Answyddogol) David R Edwards


14. Eira Cariad.  Geraint Jarman (Llyfrau Dryw 1970)




15. Y Tren Olaf Adref (Casgliad o Ganeuon Cyfoes)  golygydd Steve Eaves (Y Lolfa 1984)


16. Blwyddlyfr Sgrech 79  Glyn Tomos.


Grwpiau newydd 1979 oedd : Ail Symudiad, Baraciwda, Crach, Crator, Chwarter i Un, Rhiannon Tomos a'r Band,  Mr T Dunlop Williams a'r Anfodolion, Syr Goronwy a Trydan (Mods a Rocyrs) a Pal a Canwyll Corff.


17. Blwyddlyfr Sgrech 1980  Glyn Tomos.


Grwpiau newydd 1980 oedd : Angylion Stanli, Astronot, Clustiau Cwn, Crys, Doctor, Enwogion Colledig, Mwg, Weiran Bigog (aelodau Maffia sef Gwyn, Sion a Deins).



18. Blwyddlyfr Sgrech 1981


Erbyn 1981 mae grwpiau newydd yn cael eu galw yn "grwpiau bach" h.y nid yn "fawr" fel Bando, Jarman etc ac yn eu plith ,mae Maffia Mr Huws, Y Ficar, Clustiau Cwn ac Eryr Wen
.

19. Blwyddlyfr Sgrech 1982




Crys ar y clawr blaen.


20. Blwyddlyfr Sgrech 1983.



Ceffyl Pren ar y clawr blaen - ond tu mewn mae yna erthygl gan Robin Gwyn am gyhoeddi casetiau - y Sin Danddaearol - grwpiau fel Y Sefydliad, Treiglad Pherffaith, Sgidie Newydd a Datblygu. Mae yna hefyd erthygl / maniffesto gan Rhys Mwyn - the usual bollocks !!!

21. Y Sin Roc   Kate Crockett (y Lolfa 1996)


Super Furry Animals a Catatonia ar y clawr - dechrau Cwl Cymru. Llyfr i ddysgwyr.

22. Tony ac Aloma Cofion Gorau. (y Lolfa 2011)



23. Cofiant Ryan  Rhydderch Jones (y Lolfa)




24. Caneuon Ems (Caneuon Emyr Huws Jones)  Y Lolfa




25.  Mas o Ma    Meic Stevens (y Lolfa)




26. Meic Stevens Hunangofiant y Brawd Houdini  (y Lolfa)


a dyma'r Ail Argraffiad



27. Y Crwydryn a Mi  Meic Stevens




28. Sain Camau'r Chwarter Canrif   Hanes Cwmnsi Sain Recordiau Cyf 1969-1994