Thursday 16 November 2017

Vintage / Retro yn y Shed, Felinheli, Herald Gymraeg 15 Tachwedd 2017




Pnawn Dydd Sadwrn tywyll, di hi ddim yn glawio, ddim rhy oer chwaith, ond un o’r pnawnia yna fel da chi’n brofi ym mis Tachwedd oedd hi. Agosau at ddiwedd blwyddyn, distaw, llonydd, diflas efallai, rhyw deimlad o fod isho aros adre yn swatio o flaen y tân. Ond dyma fentro allan am y Shed, y gofod creadigol yn y Felinheli, gan fod criw Shed yn cynnal Ffair Retro / Vintage.

Does na ddim gair Cymraeg am retro yn ôl Geiriadur yr Academi. Tydi’r awgrymiadau am vintage fawr gwell. Tydi deud ‘hen bethau’ ddim yn gwneud cyfiawnder a’r hyn sydd o dan sylw. Os da ni’n dweud ‘retro’ da ni’n dallt be sydd dan sylw. Mae ‘retro’ da chi’n gweld bellach yn ofnadwy o ‘cool’ (cŵl neu llugoer i’r hipsters barfog).

Gwenais wrth gerdded i mewn i brofi gwledd o liw: sgidia a chotiau, clustogau a recordiau feinyl. Roedd y Shed dan ei sang yn ‘retro’ o un wal i’r llall. Ac oedd, roedd yna hipsters barfog hefo sbectols ddu ‘Joe 90’ yn buseddu’r feinyl ac yn symud dillad ar y rheiliau dal dillad. Rwan ta, yr ail beth a’th drwy fy meddwl oedd fod hyn mor  ‘Efrog Newydd’, St Mark’s Square, neu rhywle felly, neu rhw siop ar City Road, Y Rhath, Caerdydd.

Dyma ni yn y Felinheli ar bnawn Sadwrn Tachwedd-aidd, hydrefol hwyr, yn cael hongian yn llac hefo Jack Kerouac. Beth bynnag ddwedith Geiriadur yr Academi mae hyn yn cŵl / llugoer (er dwi ddim yn hipster) a llwyddodd y teulu Mwyn ddewis dau glustog o wneuthuriad Elan Mererid Rhys. Defnyddio gwlan a brethyn hen - vintage/retro wna Elan i greu y newydd. Mae’n debyg fod hi’n grefftwr felly er fod artisan yn cyfleu y peth yn well.



Bydd y ddau glustog yn cymeryd eu lle ar y soffa yn yr ystafell fyw yn Mwyn HQ. Does dim byd yn y tŷ acw, na sydd wedi ei guradu. Fel dywedodd William Morris, rhaid i bopeth fod yn brydferth ac yn ddefnyddiol – ond does dim angen cleriach sydd ddim yn gweddu!

Canu hefo Plu a Bendith mae Elan. Amryddawn. Talentog. Rhan o’r adfwywiad pendant sydd yn digwydd yn y byd diwylliannol Cymraeg ar hyn o bryd. Does dim dwy waith fod adfywiad yn digwydd, un hyderus ond un hefyd sydd yn cynnwys talent aruthrol. O bosib rydym yn cyrraedd yn uwch nac o’r blaen. O ystyried athrylith fel Carwyn Ellis (Colorama) sydd yn rhan o Bendith. O ystyried y chwiorydd Lleuwen a Manon Steffan Ross. Heb unrhyw os nac onibai. Talentau aruthrol.

Cefais hyd i EP feinyl Eirlys Parry ar label Tŷ ar y Graig (1970) ac arni y gân brydferth ‘Pedwar Gwynt’ wrth bori yn y Shed. Dwi’n hel hen recordiau yn amlwg achos weithiau mi ddof ar draws cân sydd yn addas ar gyfer ei chwarae ar fy sioe radio nos Lun ar Radio Cymru. £4 am EP Eirlys Parry. Bargen. A dweud y gwir, dwi ddim yn poeni am gael bargen – dwi jest yn falch yn yr achos yma o ddarganfod Pedwar Gwynt.

Wrth sgwrsio hefo’r ffotograffydd Kristina Banholzer, sydd yn rhan o griw Shed, ceisiais ddyfalu pa steil gwallt oedd gan Eirlys ar glawr y record? 1970 oedd y flwyddyn. ‘Feathercut’ awgrymnais. Roedd Kristina rhy ifanc i gofio’r 1970au yn amlwg ond dwi’n meddwl fod y feathercut yn agos iddi?

Rhoddias lun o’r clawr i fyny ar Twitter y noson honno ac o fewn eiliadau roedd Owen Powell o’r grwp Catatonia wedi gyrru neges yn cymharu dewlwedd Eirlys ar un sydd gan Cate LeBon heddiw. Rhyfeddol o debyg. Mam a merch bron – ddim go iawn yn amlwg.

Pam fod hyn yn bwysig felly – ‘Ffair Retro’ yn y Felinheli? Wel, achos fod y Gymraeg yn symud ymlaen ac yn cynnig llawer llawer mwy nac oedd ar gael yn fy ieuenctyd i. Rhaid oedd gwrthryfela er mwyn cael mynegiant yn fy nghyfnod i. Bellach mae nhw’n cael mynd allan a mwynhau – dwi’n falch drostynt – mae’n gyfnod da!

Ychydig ddyddiau cyn y Ffair yn y Shed roeddwn wedi bod yn rhoi sgwrs yng Nghaffi / Siop Mellech yn Llanfechell, gogledd Ynys Môn. Noson hyfryd yn trafod archaeoleg Môn gyda criw lleol a gadewias Llanfechell hefo’r un teimlad – fymod wrth fy modd yn crwydro Cymru yn cael rhoi sgyrsiau ac yn cael sgwrsio. Cymuned ydi’r gair mae’n debyg. Cymunedau byw – ond lle mae unigolion yn sicrhau fod pethau yn digwydd.

Ar fy nhaith adre ar hyd yr A5025 a wedyn yr A55, a mi oedd hi’n Nos Iau chydig cyn 9pm, doedd ond un dewis i mi ar y radio nagoedd - sef Byd Huw Stephens. Roeddwn yn gwybod fod gohebydd peldroed Sky Sports Bryn Law yn dewis caneuon fel rhan o slot Gwaith Cartre felly edrychais ymlaen i glywed dewis Bryn.

Dechreuodd ei ddewis hefo alaw a swn offeryn cyfarwydd – llinell bâs amlwg. ‘Rocers’ gan Geraint Jarman oedd dewis cynta Bryn Law. Roeddwn yn y nefoedd (a nid achos fy mod ar Ynys Môn er mor nefolaidd yw’r ynys). Dyma chi gân glywias am y tro cyntaf ar LP ‘Gwesty Cymru’ pan oedwn yn ddisgybl 6ed Dosbarth yn Llanfair Caereinion.

Wedi cael benthyg yr albym gan gyfaill o’r enw Wyn ‘Rhywfelen’ o’r Foel. Roedd o wedi tiwnio mewn i bethau Cymraeg yn well na fi. Erbyn hynny roeddwn i dan ddylanwad y Clash a’r Sex Pistols. Ond dyma record ac yn enwedig y gan ‘Rocers’ ddaru newid fy mywyd – achos dyma’r tro cyntaf i mi feddwl fod pethau Cymraeg yn cwl. Dwi ddim yn amau fod Bryn Law yn teimlo’n debyg am Y Cyrff!

Mae diwylliant yn bwysig. Yn bwysicach na fedr neb ddychmygu!




Saturday 4 November 2017

Ffilm Dave Datblygu, Patti Smith a'r ddau fedd ym Meddgelert, Herald Gymraeg 1 Tachwedd 2017




“Who wants to be Welsh?, who wants to be English? Who wants to be British? You and your Brexit”. Talfyriad, crynodeb, crynhoad, cywasgiad yw hwn, heb y rhegi, heb yr hiwmor allan o’r ffilm fer Dave Datblygu: Death to Welsh Culture, its Meat and Tradition sydd newydd ei ryddhau.

Petae Dylan Thomas, R.S Thomas a Kevin Allen (brawd yr actor Keith) wedi cyd-weithio ar y sgript dyma yn union fydda rhywun yn ei ddisgwyl. Ar adegau dwi’n llithro mewn i ffantasi fy mod yn gwylio ffilm ddychmygol fel rhai Allen (Twin Town / Under Milk Wood). Ond mae hwn go iawn. Dwi’n credu.

Rhoddais y clip i fyny ar Facebook gan ein bod yn adolygu’r ffilm ar y sioe Nos Lun ar Radio Cymru ac eisteddais yn ôl i wedl beth fyddai’r ymateb. Mewn un darn yn y ffilm, mae Dave yn cerdded strydoedd Caerfyrddin a mae’n sôn fod y gwerthfawrogiad mwyaf i gerddoriaeth Datblygu wedi dod o dy’r di-Gymraeg a’r Saeson. Dyna’r myth. Rhannol wir ond ddim yn holl-wir chwaith.

Er (a bron fel peate i ategu Dave), yn Saesneg yn unig oedd yr ymateb ar Facebook. Ymateb cymysg fel bydda rhywun yn ddisgwyl. Rhai wrth reswm yn bryderus am gyflwr Dave (roedd sawl potel win yn ymddangos yn y ffilm) a rhai yn ansicr o’r safbwyntiau ‘negyddol’ am ddiwylliant Cymraeg a Chymreig.Ond, roedd eraill yn gwerthfawrogi’r gonestrwydd cig-noeth – ac yn gweld fod angen mynegi barn yng Nghymru am y pethau hynny sydd dal angen eu herio.

Tydi barddoniaeth ddim i fod yn gystadleuaeth meddai Dave. Dyna chi naratif sydd heb newid o gwbl. Coroni a chadeirio yw un o uchafbwyntiau diwylliant Cymraeg. Rhoi gwobr. Cael ennillydd. Efallai mai dyma pam mae Dave yn ymddangos mor flin – yr un yw’r naratif rwan ac yr un pan roedd Datblygu yn dechrau herio yn yr 1980au cynnar. Yr eironi arall hyfryd yw fod y gystadleuaeth (Arglwydd Rhys/ Castell Aberieifi /1176) a Dave ynghlwm am byth a’r dref ar yr Afon Teifi.

Dal i chwifio baneri. Mae baner Cymru a Phrydain yn ei chael hi hefyd gan Dave a’r unig beth ddwedais ar Facebook oedd fy mod hefo Dave yn hyn o beth – dwi’n cytuno a fo. Fy unig ‘ond’ i yw fy mod yn methu gweiddi mwyach. Fedrai’ ddim gwneud y peth Dylan yna o ‘rage, rage against the dying of the light’.

Ger fy ngwely mae llyfr Patti Smith ‘M Train’, ar adegau eraill mae’r llyfr hefo fi ar y ffordd yn y car neu mewn caffi. Dwi’n llawer agosach at Patti Smith heddiw nac ydwyf at unrhyw ‘Dylan Thomas a’i rage, rage’ mae hunna yn sicr. Yn ei ffordd mae Patti Smith yn agosach iddi –  yn defnyddio geiriau a lluniau (polaroid) i gyfleu pethau a theimladau yn hytrach na gorfod bloeddio.

Mi fyddwn yn croesawu sylwadau Dave Datblygu 24 awr pob dydd unrhyw ddydd. Dwi’n cytuno a fo. Edrychwch ar y ffilm – fe ddylia pawb wneud hynny. Maddeuwch y rhegi achos mae’r pwyntiau ddigon dilys – un ffordd neu’r llall.

Treulias ddeuddydd ym Meddgelert wythnos dwetha yn ffilmio gyda ITV a S4C am hanes Gelert, hen gi ffyddlon Llywelyn ab Iorwerth. Mae hi yn Flwyddyn y Chwedlau yn ôl Llywodraeth Cymru er mai prin iawn byddai’r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn sylweddoli hynny.

Trafod David Pritchard, rheolwr Gwesty’r Afr yn creu bedd (go iawn / hollol ffug) ar gyfer y chwedl ar ddiwedd y ddeunawddfed ganrif. Fel y gwr ddychmygodd trawsnewid y pentref ym Môn i Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll a denu’r miliynau hyd at heddiw. Hyd yn oed ar foreau glawog yn Hyfdref roedd yna bobl yn ymweld a bedd yr hen Gelert.

Chawsom ddim eiliad o lonydd i ffilmio heb fod rhywun yn cyrraedd ar bererindod dwristaidd. Tic, da ni wedi gweld y bedd. Dim pererindod o ran tywysogion Gwynedd hyd y gwelwn i. jest tic. Un o’r pethau yna i’w wneud. Castell Caernarfon. Dringo’r Wyddfa. Pringles. Ond dim syniad o gwbl am le na diwylliant? Teledu du a gwyn. Un-llygeidiog. Un-ieithog. Chydig bach yn drist teimlais, fel y tywydd Hydrefol a’r dail yn disgyn.

A’i ‘Bryn y Bedd’ oedd yma cyn hynny? Yn ôl Archwilio, y cofnod hanesyddol ac archaeolegol, mae Beddgelert ‘barrow’ yn nodwedd naturiol isel 250 medr o gylchedd a’r tebygrwydd yw fod Pritchard wedi adeiladu ei ffug-fedd ar ben y tir naturiol yma. Anodd oedd peidio dychmygu carnedd gladdu Oes Efydd yma i roi gwell sylwedd i Fryn y Bedd ond does dim sail, dim tystiolaeth.

Lawr yr afon Glaslyn mae Aberglaslyn. Y porthladd roddodd yr enw i Llan y Porth cyn i Llan y Porth fod yn Feddgelert? Y ‘llan’ yw eglwys Santes Fair ar safle’r Awgwstiniaid rhywdro yn y 13eg ganrif, y tir yn rodd gan ab Iorwerth mae’n siwr?



Hanes yn gorlifo, yn cyd-rhedeg a’r Glaslyn ar ôl i’r Colwyn ymuno. Digonedd o ddŵr a digonedd o hanes. Yn y fynwent mae bedd T H (mae darnau ohonaf ar wasgar hyd y fro) Parry-Williams. Ond mae ‘o’ yn y fynwent go iawn. A dyma droi yn ôl yn daclus at Patti Smith. Dwi angen llun o garreg fedd T H ond mae’r iPhone wedi gor-lewni hefo lluniau o’r ffilmio.

Dim dewis felly ond dychwelyd rhywbryd eto yn y dyfodol agos i fro T.H gyda’r bwriad penodol o gael llun o’i fedd. Efallai polaroid fel rhai Patti? Ond mwy na thebyg iPhone fydd hi.

Mae yna ddau fedd ym Meddgelert felly yndoes. Un gweledol a ffug ac un llai amlwg real iawn.