Tuesday 28 June 2016

Anhrefn yn Ewrop, Herald Gymraeg 29 Mehefin 2016





Gyda chryn ansicrwydd yr wyf yn ysgrifennu’r golofn hon. Rwyf yn hollol hapus i drafod diwylliant Cymraeg, Hanes ac Archaeoleg Cymru, ond a yw’r gallu gennyf i ddweud unrhywbeth call, unrhywbeth werth ei ddweud am beth ddigwyddodd nos Iau dwetha? Dyma’r cwestiwn - oes gennyf unrhywbeth o gwbl werth ei ddweud?

Fel miliynau eraill ym Mhrydain (16,141,241) ac yn sicr miloedd ar filoedd yng Nghymru (772,347) mae’r siom yn ymylu ar y brawychus. Anodd disgrifio’r peth, ond mewn ffordd mae’n cyfateb a’r Na i Refferendwm 1979. Mae’r siom yn taro rhywun fel ergyd. Anghredadwy ond eto …….

Ar yr olwg gyntaf cawn ddarlun ‘llwm’ iawn o Gymru a ni fel Cenedl o Gymry. 17 allan o’r 22 awdurdod lleol yn pleidleisio dros ‘Gadael’, ond wrth edrych yn fwy manwl, trwch blewyn oedd hi go iawn. Dim ond 5% oedd rhwng y belidlais ‘Gadael’ ac ‘Aros’. Os felly rhaid pwyllo a pheidio bod rhy llawdrwm ar yr 17 awdurdod bleidleisiodd i ‘Adael’. Rhaid ymwrthod yn ein siom enfawr rhag ymuno a chefnogwyr peldroed Gogledd Iwerddon a fu’n canu “da chi’n rhan bach o Loegr” ar ddiwedd buddugoliaeth lwcus iawn Cymru bnawn Sadwrn.

Cefais fy addysg gwleidyddol cynnar drwy gyfrwng anghonfensiynol, a hynny drwy maniffestos a geiriau Strummer, Weller a Lydon. Doedd Cenedletholdeb Cymraeg y 1960au ’rioed di apelio rhywsut. Gormod o freuddwydio am y dyddiau da a’r Fro Gymraeg, Steddfota a gwisgo denim. Dim ond wrth weld a gwrando ar y Jarman dinesig y dechreuais weld unrhyw oleuni Cymraeg.

Roedd Weller, Strummer a Lydon yn finiog, yn bigog, yn llym a phenderfynais yn unionsyth wedyn mai dyma yr oeddwn eisiau ei weld yn y Gymraeg. Fel rwyf wedi dweud miloedd o weithiau ers hynny, fy mhwrpas mewn bywyd wedyn oedd trawsblannu hyn i’r ardd Gymraeg. Does dim hawlfraint ar Gymreigtod ac os oedd Jarman wedi gallu awgrymu llwybr arall, roedd ysbryd Punk yn caniatau i fy nghenhedlaeth i gael mymryn o berchnogaeth ar y gacan Gymraeg.

Yr ail wers wleidyddol a gefais oedd teithio Ewrop gyda’r Anhrefn yn ddi-baid rhwng 1988 a 1994. Yma y ffurfiwyd y maniffesto newydd ein bod yn Gymry hyderus yn y cyd-destyn Ewropeaidd. Yn rhyng-genedlaetholwyr yn hytrach na chenedlaetholwyr. Ein cri o’r llwyfan oedd llosgwch eich passports, chwalwch y ffiniau, ymwrthodwch a’r Anthemau Cenedlaethol – a hynny heb gyfaddawdu o gwbl ar ein Cymreictod.

Teithio Ewrop yn fwy na dim, gwneud ffrindiau yno, cefnogi achosion boed yn Derry neu Berlin,  bod yn rhan o rhywbeth llawr mwy na ‘gwlad’ a ‘chenedlaetholdeb’ sydd wedi creu pwy ydwyf heddiw. Yn Gymro yn Erwop a’r Byd, ac yn sicr DDIM yn unrhyw fath o genedlaetholwr o ran ideoleg.

O ystyried hyn ôll, wrthgwrs, wrthgwrs, mae canlyniadau Nos Iau yn dorcalonus, dyma stori arswyd hunllefus lle mae’r anllythrenog wleidyddol wedi dawnsio i gyfeiliant y clowns. Does ond rhaid edrych ar gyfweliad Farrage gyda Susanna Reid ar Good Morning Britain y bore canlynol lle mae Farrage yn baglu a thagu wrth gyfaddef wedi’r cwbl nad oes sicrwydd fod y £350 miliwn am fynd yn syth at y Gwasanaeth Iechyd. Gwers Un i’r anllythrenog wleidyddol. Gwers Dau gan Nick Cohen yn y Guardian “Mae yna gelwyddgwn, a mae yna Boris Johnson a Michael Gove’.

Efallai fod y canwr pop Noel Gallagher yn agosach ati na llawer wrth ddisgrifio’r anllythrenog wleidyddol yn yr NME drwy awgrymu “Pam gofyn i’r bobl? Mae 99% o bobl mor dwp a baw mochyn”. O leiaf mae Noel yn rhoi mymryn o wen ar wyneb rhywun fel y gwnaeth y digrifwr Tudur Owen wrth drydar @tudur “Mae’r Reffrenedwm wedi gweithio. Heb weld un mewnfudwr o Ddwyrain Ewrop bore heddiw, Diolch Nigel”. Canwr pop arall, Bono, awgrymodd yn ddiweddar mai’r arf gorau eyn erbyn atgasedd yw chwerthin am eu pennau.

Ac wrth ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon dyma’r cefnogwyr brwd y Barry Horns @thebarryhorns yn datgan “Ar ol treulio blynyddoedd yn ceisio cyrraedd yr Ewros dyma rhoi ein hunnain allan o Ewrop am byth”. Rhaid fod pethau yn anodd iawn ar y teresau ac i gefnogwyr Cymru wrth ystyried hyn – fod hanner y twrcwn wedi pleidleisio dros y Dolig.



Pleidlais yn erbyn mewnfudo oedd hyn yn y bon. Galwch hyn yn bleidlais brotest gan yr anllythrenog wleidyddol os mynnwch, ond pleidlais dros Farrage a’i gelwydd noeth oedd hyn yn fwy na dim. Cofiwch doedd Boris ddim yno ar y dechrau a choeliaf i ddim fod Gove wedi denu fawr o neb heblaw Toriaid o’r un brethyn ac ef. Yn sicr dydi’r anllythrenog wleidyddol ddim wedi uniaethu a Gove, does bosib.

Ond y cwestiwn mawr / amlwg i’r gwrthbleidiau yw pam fod yr anllythrenog wleidyddol wedi pleidleisio yn groes i’r union bleidiau mae nhw newydd eu hethol yn yr Etholiad Cyffredinol ac Etholiadau’r Cynulliad? Dyna’r cwestiwn yn amlwg i Rhun, Albert, Leanne, Carwyn ayyb yng Nghymru yn sicr.

Os yw Plaid Cymru wirioneddol o ddifri am awgrymu mai nawr yw’r amser i ail godi’r cwestiwn o Annibyniaeth i Gymru efallai mai gwell fyddai cynnig i Wynedd ymuno a’r Alban a fel galwodd rhywun o’r Barri, fod Y Barri yn gwneud rhywbeth tebyg i’r hyn a ddigwyddodd yn y ffilm  ‘Passport to Pimlico’ a datgan eu hunnan yn wlad annibynnol yn Ewrop.


Rhyw dynnu coes felly, rhaid chwerthin nid crio. Nid ydwyf wedi argyhoeddi fy hyn fod gennyf fawr o werth i’w gyfrannu rhywsut ond yn weddol amlwg mae angen mwy gan ein gwleidyddion na’r addewidion i ‘wrando’ ar yr anllythrennog – mi fydd angen eu haddysgu a’u cynnwys rhywsut a mi fydd hynny yn ddipyn o her.

Wednesday 22 June 2016

St Gwenfaen a Rhoscolyn, Herald Gymraeg 22 Mehefin 2016




Dros y flwyddyn neu ddwy ddwethaf rwyf wedi rhannu sawl sgwrs gyda Kevin Ellis, ficar Bro Caegybi, ac i ddweud y gwir, yr hyn am denodd ato i ddechrau oedd ei ddisgrifiad gwych am ei hun ar ei gyfrif trydar @holyislandvicar. Dyma sut mae Kevin yn disgrifio ei hyn “Tweets of an eccentric English vicar living on the edge (of Wales)”.Dychmygwch R.S Thomas wedi meistrioli’r cyfryngau cymdeithasol.

Ers iddo gyrraedd Ynys Mon mae Kevin wedi ymdrechu i ddysgu Cymraeg a sawl gwaith yn ystod ein sgyrsiau rydym wedi bod yn ymarfer dipyn o Gymraeg. Ond sgwrs wahanol gefais gydag e wythnos yn ôl, gan fod gennyf griw o Almaenwyr yn mynd ar daith gerdded o Rhoscolyn i Drearddur ar hyd y Llwybr Arfordir. Ein man cychwyn oedd Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn, felly dyma roi floedd ar Kevin er mwyn sicrhau fod yr eglwys ar agor ar ein cyfer.

Rhag fy nghywilydd, dyma’r tro cyntaf i mi fod i mewn i’r eglwys. Rwyf yn gyfarwydd wrth reswm a safle’r eglwys yn y dirlun, yn llywodraethu fel petae ar ben y bryn wrth i rhywun edrych i ‘r de dros ddarnau anghysbella Ynys Cybi, ond rhaid cyfaddef roedd yn wefr mawr cael mynd i mewn. A hynny am sawl rheswm.

Rhaid oedd cyfaddef yn ddistaw bach i Kevin, a hynny heb i’r Almaenwyr sylwi, mae dyma oedd y cyfle cyntaf i mi gael gwerthfawrogi ffenestri hyfryd Henry Dearle, cynllunydd William Morris & Co ac olynydd Burne-Jones yn y swydd honno.  Ar y wal ddeheuol cawn ffenstri o’r Seintiau Sior a Mihangel, yn y dull arferol cyn-Raffaelaidd, sydd mor amlwg bellach i rhywun gyda’r fath obsesiwn a finnau yng nghynlluniau Morris & Co.




Y ffenstr orllewinol, yn uchel tu cefn i’r allor, ac o ganlyniad yn anodd i gael lluniau da ohonni, yw’r un enwog fel petae, sydd yn dangos Sant Mihangel yn trechu Satan gan ddefnyddio llun yr arlunydd Guido Reni o 1636 fel ysbrydoliaeth ar gyfer y cartwn (cynllun). Gan fod fy Almaenwyr yn disgwyl i mi ymddwyn yn hollol broffesiynnol fel eu tywysydd rhaid oedd derbyn bydd rhaid dychwelyd yma eto os am gael dringo ar ben cadeiriau i drio cael gwell llun.

Cyn gadael yr eglwys ar ein taith gerdded, rhaid oedd hefyd dangos yr allor wyth ochrog anarferol o’r 15fed ganrif iddynt a’r ffenestr ddywreiniol sydd yn dangos rhai o dirluniau Rhoscolyn tu cefn i’r seintiau (o wneuthuriad James Powell & Sons). Rhyfedd o beth yw gorfod gadael cyn dangos popeth, ond gyda taith gerdded o dair awr o’n blaen rhaid oedd gadael y fynwent heb gyfeirio at gofeb pump o griw y bad achub a gollwyd wrth geisio achub criw y llong ‘Timbo’ mewn storm yn Rhagfyr 1920.

Wrth gerdded heibio gwesty’r White Eagle am Borthwen a dilyn y llwybr arfordir, mae tua tri chwarter awr o waith cerdded cyn cyrraedd ffynnon hynafol Santes Gwenfaen. Dyma gymeryd seibiant yma gan egluro fod Gwenfaen, yn ôl y son, yn un oedd yn gwella iechyd meddwl. Fe sylwir fod cerrig gwynion (cwarts) i’w gweld ger ochr wal y ffynnon ac yn draddodiadol rhaid oedd cynnig dau ddarn o garreg cwarts er mwyn iachad.





Gallwn sgwennu erthygl arall am y dirwedd hynod yn y rhan yma o’r byd. Wrth ddilyn y clogwyni dros y creigiau Cambrian hynafol yma cawn olygfeydd godidog dros y ‘Bwa Gwyn’ ac yn ôl wedyn tuag at y ‘Bwa Du’. Rhyfeddodau daearegol heb os, ac a dweud y gwir, a chan ail adrodd ‘heb os’, heb os dyma un o’r teithiau cerdded mwyaf pleserus sydd gennym yng ngogledd Cymru. Trawiadol heb fod rhy galed. Cyffrous, pleserus a wirioneddol fendigedig.

Wednesday 15 June 2016

Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 15 Mehefin 2016




A dyna flwyddyn arall wedi gwibio heibio, neu oleiaf dyna sut mae pethau yn teimlo, wrth i griw o archaeolegwyr ddechrau cloddio unwaith eto yn y dirwedd o amgylch beddrod enwog Bryn Celli Ddu, Ynys Môn, dan oruwchwyliaeth Cadw. Bu criw ohonnom yno llynedd er mwyn archwilio’r cerfiadau / celf Neolithig (sef y cafn-nodau Oes y Cerrig) sydd i’w gweld ar greigiau naturiol o amgylch cofadail Bryn Celli Ddu.

Eleni rydym yn y cae drws nesa yn archwilio carnedd gladdu o’r Oes Efydd a gafodd ei gloddio yn wreiddiol ddiwedd y 1920au gan un o gyd-weithwyr W. J.Hemp, yr archaeolegydd enwog fu’n cloddio ar gofadail Bryn Celli Ddu. Felly, mae dau amcan mewn gwirionedd wrth gloddio yma, un yn amlwg i ddysgu mwy am y safle ac yn ail i weld beth yn union fu’n digwydd yma ddiwedd y 1920au.

Mesurai’r garnedd oddeutu 120 llathen ar draws yn ôl yr adroddiadau ond gan fod y tir wedi ei drin, yr oll sydd i’w weld erbyn heddiw yw mymryn lleiaf o godiad crwm neu lwmpyn isel yn y cae. Yn wir, mae’n bosib fod carnedd arall cyfagos, cwta 50 medr i’r dwyrain,  sydd wedi ei adnabod o awyrluniau, a’r bwriad yw cynnal arolwg geo-ffisegol dros y safle er mwyn ceisio cadarnhau fod rhywbeth yn gorwedd yma o dan y tir.

Yn ôl adroddiadau o’r 1930 roedd ymyl o gerrig (cwrb) o amgylch y garnedd – byddai rhywun yn disgwyl i ymyl o’r fath fod wedi ei adeiladu o gerrig ar eu hymyl wedi eu gosod yn y pridd. Mae ymyl tebyg o amgylch Bryn Celli Ddu, er fod Bryn Celli Ddu yn dyddio o rhai canrifoedd, os nad mil o flynyddoedd, cyn y safle rydym yn ei archwilio ac yn perthyn i ‘ddiwylliant’ claddu cymunedol yn hytrach na’r unigolion a gawn mewn carneddau o’r Oes Efydd.

Canfuwyd cist ganolig gan yr archaeolegwyr ym 193, felly yn amlwg byddai’n braf iawn gallu dod o hyd i weddillion cist o’r fath neu olion o’r gwaith cloddio fyddai efallai yn cadarnhau fod cist wedi bodoli yma. Does byth sicrwydd 100% gyda’r broses archaeolegol ac wrth i mi sgwennu’r golofn hon rydym, efallai, (efallai) wedi dechrau canfod olion y cerrig oedd yn ffurfio’r garnedd dros y gist ganolig, ond ar ol wythnos o waith cloddio, doedd y gist ganolig ddim yn amlwg.




Gyda mymryn o ddrwgdybiaeth y byddaf yn darllen adroddiadau hanesyddol am waith cloddio. Pur anaml mae archaeolegywr a hynafiaethwyr y gorffennol yn cyfaddef iddynt fethu cael hyd i unrhywbeth ond mae modd cadarnhau fod darnau bach o offer callestr wedi eu darganfod gennym ar y safle fel y gwanaethwyd ddiwedd y 1920au / dechrau’r 30au gan Newall a’r criw cloddio.

Fel awgrymais llynedd yn fy ngholofn, wrth gloddio o amgylch Bryn Celli am y tro cyntaf, dyma’r ‘Albert Hall’ o’r byd archaeolegol. Dyma beth yw braint cael cyfle i weithio yn, ac archwilio tirwedd, fu ar un adeg mor amlwg sanctaidd i amaethwyr cyntaf Ynys Môn.
Beth bynnag fydd y canlyniadau ar ddiwedd y bythefnos o gloddio, yn sicr bydd ein gwybodaeth am y dirwedd hynafol yma wedi cynyddyu. Gan mai Cadw sydd yn gyfrifol am y gwaith cloddio mae pwyslais mawr ar gysylltu a’r gymuned, ac erbyn i chi ddarllen y golofn hon byddaf wedi tywys hanner dwsin o ysgolion cynradd lleol o amgylch y safle a’r gwaith cloddio archaeolegol.


Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd gael ymweld a’r safle ar Sadwrn, 18 Mehefin yn ystod ein Diwrnod Agored o 11 y bore hyd 4 y pnawn. Bydd bob math o weithgareddau yn cael eu cynnal a byddaf yno drwy’r dydd yn arwain teithiau tywys o’r safle.



Sunday 12 June 2016

Llafar Gwlad 132



Carreg Moel y Tryfel


Llafar Gwlad 132
Rwyf yng nghanol ysgrifennu fy nghyfrol nesa ar archaeoleg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch a byddaf yn canolbwyntio ar safleoedd yn nwyrain a chanolbarth Cymru yn y gyfrol honno. Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn teithio yn ôl ac ymlaen i wahanol safleoedd er mwyn dod i adnabod y safleoedd hynny yn well, a rhan o’r broses wedyn yw dod o hyd i gwestiynau sydd angen eu gofyn am y safleoedd hynny. Fel arfer gyda archaeoleg mae mwy o gwestiynau nac o atebion.
Felly mae elfen o apel yn fy ngholofn y tro hwn, apel am unrhyw wybodaeth pellach yn sicr, ond rwyf angen gofyn cwestiwn ynglyn a dau safle penodol gyda’r bwriad o weld os yw’r safleoedd yma yn unigryw neu os oes engreifftiau eraill tebyg yn rhywle arall yng Nghymru?

Carreg Moel y Tryfel, Llangadfan  (SH 979151)
Yn ystod fy ymweliadau a rhes gerrig Oes Efydd, ‘Cerrig yr Helfa’ ar Fynydd Dyfnant ger Llangadfan, (SH 985157) cyfeiriodd Annie Ellis, o ffermdy  cyfagos Pen y Coed, at y ‘maen bedydd’ (Carreg Moel y Tryfel), oedd ger y llwybr o’r ffermdy tuag at y mynydd. Roedd y garreg yma yn ddiethr i mi ond dyma wneud yn siwr fy mod yn cael golwg ar y garreg wrth gerdded am y mynydd.Mae’n debyg fod defnydd o’r enw maen bedydd ar lafar gan bobl leol wrth gyfeirio at Garreg Moel y Tryfel. 
Rwyf angen pwysleisio yma nad oes cysylltiad amlwg rhwng y faen bedydd a’r rhes gerrig Oes Efydd yn uwch ar y mynydd, rydym yn son am ddau safle gwahanol, tua hanner milltir oddiwrth eu gilydd. Rydym hefyd yn son am ddau safle o gyfnodau hollol wahanol o bosib – felly wrth ddechrau gofyn cwestiynau rhaid bod yn ofnadwy o ofalus a mor wrthrychol a phosib.

Mae Carreg Moel y Tryfel i’w gweld rhyw 10 medr i’r de-orllewin o’r giat i’r goedwig (Coedwig Dyfnant), ac ar y chwith i’r llwybr troed sydd yn arwain o fferm Pen y Coed ac o amgylch Bryn Perfedd tuag at y goedwig. Mesurai’r garreg oddeutu 150cm x 125cm gyda twll crwn canolig yn mesur 18x13cm ac o ddyfnder oddeutu 10cm. Bydd rhywun yn cerdded heibio Carreg Moel y Tryfel wrth gerdded am rhes gerrig Cerrig yr Helfa.
Yr hyn sydd yn weddol amlwg ar y ddaear yw fod y garreg gyda’r twll canolig yn gorwedd ar ben cerrig sylfaen, felly yr awgrym yw, fod rhywun wedi gosod y cerrig sylfaen yma er mwyn cael y garreg ‘maen bedydd’ yn wastad. Does dim posib fod ogwydd y garreg a’r twll yn y canol yn gyd-ddigwyddiad naturiol felly? Anodd bod yn 100% sicr ond mae popeth yn awgrymu fod dyn wedi bod yn rhannol gyfrifol yma – ond i ba bwrpas?
Hon yw’r garreg a elwir yn Moel y Tryfel Stone gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys (CPAT) ar gofrestr henebion Archwilio. Er fod awgrym fod cerfiad cafn nodyn (cupmark) ar y garreg awgrymir hefyd mai nodwedd naturiol yw hon mewn gwirionedd gan CPAT yn1988.
Cafn-nodau yw’r nodweddion bach crwn wedi eu naddu drwy gnocio hefo cerrig ar feinihirion Oes Efydd, beddrodau Neolithig neu greigiau naturiol. Y term Saesneg am naddu o’r fath yw ‘pecking’ sef y broses o ddefnyddio cerrig i gnocio twll bach crwn ar feini neu graig. Ceir cafn-nodau er engraifft ar nifer o greigiau naturiol o amgylch siambr gladdu Bryn Celli Ddu, ceir 110 ohonnynt ar gapfaen siambr gladdu Bachwen ger Clynnog Fawr a cheir hyd i rai ar un o feinihirion Trelech yn Sir Fynwy.
Does dim esboniad pendant am bwrpas y cafn-nodau yma ac i wneud pethau yn fwy cymhleth ceir hyd iddynt ar henebion Neolithig ac o’r Oes Efydd. Fe all hyn awgrymu fod yr arferiad o greu cafn-nodau yn pontio’r ddau gyfnod, ond gan eu bod yn ymddangos ar feinihirion, siambrau gladdu a chreigiau naturiol, anodd iawn yw ffurfio unrhyw ddamcanaieth gyson o ran beth oedd pwrpas neu arwyddocad yr arferiad penodol yma.

Rwyf wedi dangos lluniau i Dave Chapman (Ancient Arts) a’r archaeolegydd Frances Lynch ond yn amlwg heb weld y garreg go iawn, anodd oedd iddynt ffurfio barn. Er fod cafn-nodyn yn un posibiliad, mae ymyl y twll braidd yn fras ac yn arw i’w gyffwrdd a dydi’r cafn nodyn neu’r ‘fowlen’ ddim yn llyfn iawn chwaith.  Fel arfer mae cafn-nodau yn weddol llyfn gan eu bod wedi cael eu cnocio gan gerrig i greu y siap crwn a tydi’r twll yma ddim yn teimlo na edrych fel cafn-nodyn arferol i mi.
Mae’r twll, fel awgrymodd Frances, yn anarferol o fawr os yw’n gafn-nodyn cyn-hanesyddol a rhaid cytuno a hyn – fel arfer rhyw 4-5 cm ar draws yw’r cafn-nodau cyn-hanesyddol,

Yr hyn sydd yn od yw fod y twll yma yng nghanol y faen – dyma sydd yn gwneud i rhywun amau fod oel dyn yma yn hytrach na nodwedd naturiol? Cynnig arall gan Frances oedd fod y twll yn rhywbeth mwy diweddar gan ei fod mor amrwd a dyma lle mae rhywun yn gofyn cwestiwn arall. Os yw hwn yn faen bedydd fel mae’r traddodiad lleol yn awgrymu sgwn’i os mai twll amrwd iawn yw hwn yn perthyn i’r anghydffurfwyr cynnar?
Yn anffodus does gennym ddim tystiolaeth hanesyddol i gadarnhau hyn ac heblaw am y traddodiad llafar,  fawr ddim i gynnig esboniad pellach am y twll yng nghyd destyn unrhyw arferion bedyddio.

Ond, os yw’r twll yn nodwedd naturiol, rhaid cael barn daearegydd felly dyma gysylltu a Dyfed Elis-Gruffydd i holi am gyngor pellach. Fel Chapman a Lynch dydi Dyfed  heb weld y garreg ond mewn lluniau a mae gwir angen ymweld a’r garreg yng nghwmni daearegydd. Dydi’r archaeolegydd ddim o reidrwydd yn arbenigwr ar ddaeareg!
Ymhlith y posibiliadau mae pant hydoddiant neu blicnod rhewlifol, fe all hyn gynnig esboniad naturiol am y twll ond mae angen cael daearegydd hefo mi y tro nesa rwyf yn mynd yno!

Felly dyma’r cwestiwn, oes unrhywun arall wedi clywed am gerrig tebyg neu unrhyw draddodiad o feini bedydd yma yng Nghymru?



Carreg Moel y Tryfel


Carreg Llanfaglan (ar dir preifat)


Carreg Llanfaglan


Yn ddiweddar daeth carreg arall i’m sylw drwy garedigrwydd Ifor Williams, Llanfaglan. Eto, carreg a thwll crwn yn ei chanol ac eto gyda’r  ‘traddodiad’ yma o faen-bedydd ym gysylltiedig. Ceir hyd i’r garreg hon yn agos i hen safle Ffynnon Baglan (SH 460 608)  sydd bellach wedi ei glirio yn llwyr.
Yn sicr mae carreg Llanfaglan yn wahanol iawn i Garreg Moel y Tryfel; yma cawn fowlder naturiol yn mesur oddeutu 120 x 150cm yn gorwedd ar ben craig naturiol gyda twll neu folwen gron - gyda’r awgrym lleiaf o fod yn hirgron. Mesurai’r folwlen oddeutu 30cm ar ei thraws a rhyw 3-4cm o ddyfnedr. Mae’r fowlen yn llyfn iawn sydd yn awgrymu ei bod wedi cael ei gwisgo.
Dydi carreg Llanfaglan ddim yn edrych fel cafn-nodyn, yn wir mae’n debycach i fowlen mortar sydd yn rhywbeth gymharol gyffredin yn Oes yr Haearn ar gyfer paratoi bwydydd. Ond does dim aneddiad amlwg Oes yr Haearn yma sydd yn peri rhywun i chwilio am gysylltiad ac esboniad arall?
Ceir cerrig tebyg yn yr Iwerddon o’r enw ‘bullauns’, o’r Wyddeleg bullán am fowlen, sydd yn dyddio o’r canoloesoedd ac yn gysylltiedig a safleoedd crefyddol fel eglwysi, mynachdai, ffynhonnau a llwybrau pererinion. Ymhlith y dehongliadau mae awgrymiadau fod powleni o’r fath wedi cael eu defnyddio i falu mwyn haearn neu ar gyfer defnydd amaethyddol ayyb.
Cawn 44 garreg bullaun yng Nglendalough yn yr Iwerddon a’r awgrym yma yw fod y cerrig  yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd a phererindod yn gysylltiedig a Sant Kevin.
Roedd bowleni o’r fath  yn amlwg yn gallu casglu dŵr glaw, mae hyn i’w weld heddiw yn Llanfaglan, felly awgrym arall yw fod defnydd ymolchiad crefyddol neu buredigaeth  i’r dwr o’r fowlen?
Yng nghyd destyn carreg Llanfaglan rydym yn gwybod fod Ffynnon Baglan a hen eglwys Llanfaglan yn agos. Felly cwestiwn sydd rhaid ei ofyn yw a’i rhyw fath o fedyddfaen neu bowlen buredigaeth yw hon yn gysylltiedig a Sant Baglan a rhaid cofio hefyd fod y safle yma ar lwybr y pererinion am Enlli?
Oddi fewn i eglwys Llanfaglan mae carreg fedd o’r 5/6ed ganrif yn perthyn i Anatemorus mab Lovernius sydd yn cadarnhau fod Eglwys Sant Baglan yn un a hanes yn mynd yn ol i Oes y Seintiau.
Byddai awgrymu fod carreg Llanfaglan yn engraifft Gymreig o bullaun yn awgrymu cysylltiad crefyddol a diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon yn y canoloesodd cynnar – rhywbeth na fedrwn ei brofi. Beth petae Gwyddel wedi bod yma yn Llanfaglan a wedi cyflwyno yr arfer o ddefnyddio bullaun i’r ardal?
Felly’r ail gwestiwn yw os oes unrhyw engreifftiau eraill o gerrig bullaun yma yng Nghymru?





Wednesday 8 June 2016

Kicking Off in North Korea, Herald Gymraeg 8 Mehefin 2016





Pan welais enw’r llyfr ‘Kicking Off in North Korea, Football and Friendship in Foreign Lands’ gan Tim Hartley (Y Lolfa) dychmygais mai llyfr ar gyfer dilynwyr (brwd) peldroed oedd hwn gyda apel cyfyng. Anghywir. Anghywir ar bob cyfrif. Doedd ond angen darllen broliant Huw Edwards ( y Huw Edwards, Newyddion BBC ayyb) a sylwi ar y geiriau ‘dyddiaduron teithio’ i sylweddoli fod mwy iddi na’r hyn roeddwn wedi ei ddychmygu.

Nid fod peldroed yn apel ‘cyfyng’ cofiwch, ond o ran llyfr Cymreig, anodd credu fod apel anfferth mewn llyfr wedi ei gyfyngu i drafod peldroed yng Ngogledd Korea. Pwy ddywedodd ‘never judge a book by its cover’? Eisteddais i lawr ar lan Llyn Padarn yn yr Haul poeth, a chyn i mi sylweddoli faint roeddwn wedi llosgi fy mhen, dyma wibio drwy’r chwe pennod cyntaf.

Llyfr sy’n cydio/gafael o’r frawddeg gyntaf fel dylai unrhyw lyfr da ei wneud. Syth i’r pwynt. Maniffesto ar gyfer y pethau da yn gymdeithasol  ac yn wleidyddol sydd yn deillio o beldroed a theithio. Cyfuniad perffaith. Atgoffwyd mi yn syth o anturiaethau’r Anhrefn yn teithio dramor – roedd y teithiau hynny bob amser yn gyfuniad o gerddoriaeth a diwylliant. Cyfarfod pobl leol, aros yn eu tai, rhannu sgyrsiau – dysgu – dyna oedd y peth gorau am deithio.

Oes, mae pennod yn son am gem beldroed yng Ngogledd Korea, lle mae 50,000 o ddilynwyr yn gwylio gem mewn distawrwydd llethol, neb yn gweiddi, neb yn ymateb a mewn ffordd dyma un o’r penodau mwyaf diddorol yn y llyfr. Hynny yw, mae’r ffaith fod Hartley wedi (gallu) teithio i Ogledd Korea yn ei hyn yn antur ac yn rhywbeth sydd yn werth darllen amdano.

Pennod arall sydd yn amlygu ei hyn, ac efallai yn hynod berthnasol, os nad y bennod fwyaf berthnasol, i ni fel Cymry Cymraeg yw’r un yn trafod hyfforddi peldroed yng Ngwlad y Basg drwy gyfrwng yr Iaith Basgeg neu Ewsgareg i Gymreigio’r Iaith frodorol. Un o’r hyfforddwyr yn yr Ewsgareg yw Koikili Lertxundi,amddiffynwr gyda Athletico Bilbao.
Does dim angen egluro pam fod hyn yn bwysig, ond dyma gadarnhau (i mi yn sicr) fod angen cefnogaeth y byd chwaraeon os rydym am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond drwy gael Bale a’i fath yn dweud fod y Gymraeg yn ‘cool’ mae hogia ifanc deuddeg oed Port Talbot yn mynd i droi at y Gymraeg. Does dim Eisteddfod na Super Furry Animals mae’n debyg all apelio at y garfan yma?


Ac eto, noson o’r blaen gwelais un o fy meibion yn bownsain o amgylch y tŷ wrth wrando ar ‘Bing Bong’ gan y Super Furry Animals yn cael ei chwarae (yn uchel iawn) wrth i ni fwynhau rhaglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru. Felly efallai fod yna obaith i gyrraedd hogia 12 oed yn rhywle fel Ysgol Syr Hugh. Mwy o ‘Bing Bong’ gan y Super Furry’s! Dyna’r tro cyntaf i mi weld un o fy hogia yn mwynhau band Cymraeg / Cymreig ers dyddiau eu hysgol gynradd lle roedd ‘Trons dy Dad’ wedi apelio at yr hogia 6 oed !!!!

Elfen arall bwysig yn llyfr Hartley yw’r gwaith elusenol mae criw ‘Gôl’ yn ei gyflawni drwy fynd a pecynnau o ddillad a phethau o angen i lefydd fel y cartref plant yn Azeri. ‘The Horror’ yw penawd y bennod a disgrifir mewn iaith gignoeth pa mor erchyll yw’r budreddi a’r gofal yn y ‘cartref’ yma i blant bach a phobl ifanc gyda anableddau . Ymhlith y ‘pethau angenrheidiol’ mae Hartley a’r criw yn ei ddarparu mae clytiau (nappies).

Yma gwelwn peldreoed yn dod yn rhywbeth llawer mwy ‘gwleidyddol’, a thu allan i’r gemau cyfeillgar mae cefnogwyr yn chwarae a’u gilydd tra’n teithio ar gyfer gemau dramor, ac yn cyfranu felly at ‘heddwch y byd’ a mwy o ddealltwriaeth rhwng pobloedd, mae’r gwaith elusenol uniongyrchol yma yn fwy o achos o Geldof a Midge Ure – Band Aid uniongyrchol.



Bu i mi ddod ar draws Tim Hartley yn wreiddiol yn nechrau’r 1980au pan roedd Tim yn canu i’r grwp pop Cymraeg, Chwarter i Un (12:45). Roedd Gronw y gitarydd-gyfansoddwr o Lanfair Caereinion, fel fi, felly roedd rhyw gysylltiad gyda’r band yn barod. Rhywsut, er fod 12:45 ychydig yn hyn na’n cenhedlaeth ni, roedd Hartley, Gronw a’r gitarydd arall, Dafydd Rhys (Bethesda) o hyd yn ymddangos yn gefnogol i’r hyn oedd yn digwydd yn y sîn danddaearol.

Yn wir bu i Chwarter i Un ymddangos yn un o’r Gwyliau Tanddaearol i mi eu ‘dad-drefnu’ yn Neuadd Llanerfyl ar ddechrau’r 80au. Doedd dim rhaid iddynt ymddangos. Doedd dim mantais gyrfaol iddynt mwy nac oedd costau petrol – ond teithio yno o Aberystwyth wnaeth 12:45 a chanu heb gwyno. Hyd heddiw rwyf yn parchu’r hogia am hyn. Gweithred o ‘solidarity’  os bu un erioed a dyna sydd wrth wraidd cymaint o’r hyn mae Hartley yn drafod yn ei lyfr.



Dyma awdur, teithiwr, anturiaethwr, dilynwr peldroed a chyn-ganwr pop sydd a chydwybod. Does dim yn ymddangos yn hunanol yn yr hyn mae Hartley yn ei drafod. Mae popeth er lles rhywun arall.
Rwyf wrth fy modd yn ‘darganfod’ pethau fel hyn. petae rhywun wedi gofyn i mi beth mae Tim Hartley yn ei wneud nawr, rhaid cyfaddef byddwn wedi methu ateb y cwestiwn. Mae’r ateb yn y llyfr wrthgwrs, sef ei fod yn gweithio yn ddi-flino, o dan y radar cyfryngol, yn ddi-sylw er mwyn gwneud gwahaniaeth – er mwyn gwneud pethau yn well drwy gyfrwng peldroed.

Mae’n stori sydd werth ei darllen – mae’n daith lle mae angen i fwy ohonnom ymuno.


Cyfweliad hefo Tim ar BBC Radio Cymru http://www.bbc.co.uk/programmes/p03xlcdq

Friday 3 June 2016

Chwarel Cwm Orthin. Herald Gymraeg 1 Mehefin 2016






Yn ei anterth rhwng y 1860au a 1884 datblygodd Chwarel Cwm Orthin o fod yn chwarel agored ym 1810 i fod yn waith sylweddol tanddaearol yn ystod ail hanner y 19ganrif cyn i gwymp carreg ym 1884 ymharu’n fawr  ar y gwaith. Er i chwarel Oakley ddod yn gyfrifol am Gwm Orthin ym 1900 ni wireddwyd y cynlluniau mawr i ehangu ym 1925, bu cyfnodau o weithio pellach  yno  yn y 1930au a’r 50au ond roedd y gwaith mwy neu lai wedi dod i ben erbyn y 60au.

Rwyf unwaith eto am atgoffa’r darllenydd mae’r tywyslyfr hanfodol ar gyfer archaeoleg chwareli llechi Cymru yw  A Gazeteer of the Welsh Slate Industry, Alun John Richards (1991) ac yma cawn wybod fod 500 o ddynion yn cael eu cyflogi yma ym 1882 sydd yn rhoi syniad o faint y gwaith.  2757 o ddynion oedd yn gweithio yn chwarel Dinorwig ym 1882 o ran cymhariaeth, felly roedd gwaith sylweddol yng Nghwm Orthin.

Heddiw (2015 a 2016)  mae criw o archaeolegwyr o Flaenau Ffestiniog dan ofal Bill Jones wedi bod yn cloddio ac yn gwneud gwaith cadwraeth yng Nghwm Orthin.Llynedd bu gwaith cloddio yn rhai o’r tai ‘barics’ ar ochr ddeheuol y llyn gan ganolbwyntio ar un o’r tai a oedd wedi ei adeiladu o garreg y mynydd ac un o’r tai wedi ei adeiladu o lechi er mwyn pwysleisio y ddau gyfnod gwahanol o adeiladu ar y barics.
Eleni, mae’r archaeolegwyr yn gwneud gwaith tebyg ar Cwm Orthin House neu Plas Llyn, sef ty rheolwr y chwarel. Wedi ei godi yn y 1840au gan y rheolwr Allen Searell, bu’r plasdy mewn defnydd tan y 1950au ond buan iawn mae tai yn troi yn adfeilion a ddigon truenus yr olwg oedd ar y plas nes i’r archaeolegwyr ddecharu clirio a chofnodi.





Fel rhan o’r broses cadwraeth mae mortar calch (traddodiadol) yn cael ei osod ar ben rhai o’r waliau er mwyn rhywstro dirywiad pellach ond mae darnau o’r adeiladau sydd bron yn amhosi i’w hachub. Mae to y barics a to Cwm Orthin House wedi hen ddisgyn ac yn sicr mae darnau peryglus i’r adeiladau felly os am ymweld bydd angen gofal mawr a pheidio dringo na sefyll o dan waliau bregys.
Ond, fe gaiff yr ymwelydd well argraff o sut oedd bywyd yn y barics ac yn y plas nawr diolch i waith diflino Bill Jones a’r criw. Mae’r gwaith brics y llefydd tan yn y plas wedi goroesi fel mae rhannau sywleddol o’r llawr (crawia) llechi ac ar ol clirio’r cerrig mae cynllun yr ystafelloedd yn ddigon amlwg.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael profiad o gloddio safleoedd o bob math o gyfnodau, o’r Neolithig (Oes y Cerrig) i’r Rhufeinig, o’r cyfnod Llychlynaidd i’r Canol Oesoedd hwyr ond dyma’r tro cyntaf i mi gloddio borden wal o’r 1950 neu oleiaf yr hyn oedd yn weddill ohonno. Fel rhan o’r gwaith cloddio / clirio yn un o ystafelloedd y plas roedd angen clirio’r pridd o’r hen blastr wal gan gadw golwg os oedd borden wal wedi goroesi ar waelod y wal.
Roedd diffinio’r llawr ddigon hawdd gan mai crawiau llechan oedd ar y llawr ond roedd y plastr wal yn fregus a byddai crafu rhy galed gyda’r trywal yn ei chwalu yn rhacs a felly hefyd hefo gweddillion y borden wal. Gan fod y pren wedi bod o dan bridd am dros hanner canrif roedd y pren mwy neu lai wedi pydru ac yn feddl.   





Ein gwaith ni yw ceisio dangos beth oedd yno, cofnodi hynny, tynnu lluniau ac oleiaf wedyn rydym wedi dysgu rhywbeth.
Felly tydi archaeoleg ddim yn gorfod bod yn ymwneud a pethau o’r gorffennol pell, gall fod yn ddarganfod bordyn wal o’r 1950au!