Monday 27 April 2015

DJ Setlist (Rhys Mwyn) Gwyl CAM 25.04.15

Rhys Mwyn & John Llwybr LLaethog
we are not that pink in real life but CAM had stage lights on the DJ stage

1. LAND OF MY MOTHERS  'Dis-UK (Future Loop Foundation mix)
2. LLWYBR LLAETHOG  'Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb'
3. ANHREFN  'Rhywle yn Moscow (Dub) Mad Proffessor mix
4. YOUNG MARBLE GIANTS  'Final Day'
5. MALCOLM NEON  'Paid Gadel Fynd'
6. BRODYR  'Lleisiau Mewn Anialwch'
7. ELFYN PRESLI  'Jackboots Maggie Thatcher'
8. ESSENTIAL LOGIG  'Fanfare in the Garden' (Recorded at Foel Studios Summer1980)
9. THOMAS THE VOICE  'I Was a Young Man'
10. GRAFFIA (Glillian Elisa)  'Cymer Fi'
11. EDWARD  'Swansea 254'
12. THE FALL 'Fiery Jack' (Recorded at Foel Studios Oct 1979)
13. DATBLYGU  'Casserole Efeilliaid'
14. EIRIN PERYGLUS  'Merthyr'
15. TRADDODIAD OFNUS  'Welsh Tourist Bored'
14. LLWYBR LLAETHOG 'Awr Arall Dub'




Wednesday 22 April 2015

Fort Belan a'r Criccieth Castle, Herald Gymraeg 22 Ebrill 2015


http://www.delfrynpublications.co.uk/

Adeiladwyd ‘Fort Belan’ yn y blynyddoedd yn arwain at 1776 gan Thomas Wynn, Glynllifon, ychydig cyn iddo gael ei urddo yn Arglwydd Niwbwrch. Fel y chwaer gaer, Fort Wiiliamsburg, roedd y dynion a amddiffynai’r gaer yn rhan o Wirfoddolwyr Niwbwrch, y ‘Loyal Newborough Volunteer Infantry’ ac yn cael eu talu a’u cynnal gan Arglwydd Niwbwrch ar gost ei hyn.


Er mwyn cyrraedd y gaer heddiw rhaid dilyn lon breifat ar hyd cyrion maes awyr Caernarfon am tua dwy filltir. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol am y gaer yw’r holl ganonau / gynnau mawr o amgylch y lle. Dyma chi engraifft o gaer o’r cyfnod Napoleonaidd, sydd yn unigryw fel yr unig gaer i’w hadeiladu rhag ymosodiad gan yr Americanwyr yn ystod y Chwyldro Americanaidd. Yn ddiweddarch yn amlwg, roedd y gaer hefyd ar ddefnydd er mwyn atal unrhyw ymosodiad gan y Ffrancwyr.



Ond rheswm arall oedd yn fy nenu yno ar bnawn Sul diweddar, gan fod Cathy Woodhead yn rhoi sgwrs ar llongddrylliad y ‘Criccieth Castle’ ym 1912. Dyma chi stori a hanner a mae Woodhead wedi gwneud gwaith ymchwil tylwyr ar hanes y ‘Criccieth Castle’. Roedd ei mam, Jocelyn Greenway, wedi sgwennu erthygl am hyn yn ol yn y 1950au. Y ffaith i Woodhead ail-ddarganfod erthygl ei mam daniodd dychymyg Woodhead yn ddiweddar i ail-afael yn y stori ac i wneud gwaith ymchwil pellach.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yma yng ngogledd Cymru yw’r cysylltiad lleol, gan fod capten y llong, Robert Thomas, o Gricieth a’i wraig Catherine, o Langybi yn Eifionydd. Anodd credu heddiw wrth ymweld a thref Cricieth, y bwrlwm morwrol oedd yno hyd at ddechrau’r Ugeinfed Ganrif, a mae stori’r ‘Criccieth Castle’ yn perthyn i’r cyfnod yma cyn y Rhyfel Mawr pan oedd pobl LLyn ac Eifionydd yn ‘mynd i’r mor’.

Oherwydd gwaith ymchwil Woodhead, mae’r holl stori, neu rhan go dda o’r stori yn sicr, bellach ar gof a chadw fel llyfr wedi ei gyhoeddi  gan gyhoeddiadau Delfryn. Dwi ddim am darfu ar y stori, a dweud y gwir, y peth gorau i’w wneud os oes gennych unrhyw ddiddordeb yn hyn oll yw cael gafael ar lyfr Woodhead ‘The Loss of the Criccieth Castle, A True Account of Heroism and Survival’.

Dyma chi stori antur teuluol, stori o ddewder ac arwriaeth Capten Robert Thomas, a stori am fam a’i phlentyn yn yn llwyddo i fyw er gwaetha ymdrechion natur a’r mor a hynny yng nghanol Gaeaf yn un o’r llefydd peryclaf yn y Byd. Ym 1912 roedd y teulu cyfan, Catherine a’u plentyn ifanc Bobby ar ffwrdd y llong ‘Criccieth Castle’ gyda Robert yn mynd heibio Cape Horn pan aeth y llong i drafferthion.

Bu rhaid i bawb adael y llong a threulio dros wythnos ar un o’r cychod achub (heb fwyd) gyda mymryn o ddwr nes iddynt gyrraedd dir sych Ynysoedd y Falklands / Malvinas. Gwyrthiol iddynt fyw ac i gadw fynd. Roedd dros 200 milltir rhwng y llongddrylliad a’r ynysoedd.

Rhywbeth diddorol amlinellodd Woodhead yn ystod ei sgwrs yw fod y diffiniad ‘llongddrylliad’ o bosib yn anghywir gan fod hyn yn golygu llong yn taro creigiau neu dir mawr – felly “colli” y Criccieth Castle sydd yn cael ei drafod yma, ac efallai sydd yn ddisgrifiad fwy manwl gywir.

Felly fe achbwyd Thomas a’i deulu yn y diwedd yn Cape Pembroke ond nid dyna ddiwedd y stori o bell ffordd gan i Robert a’r mab Bobby ddychwelyd i’r mor ar gyfer mwy o anturiaethau yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gadewaf ddiwedd y stori ar gyfer llyfr Woodhead ond wrth wrando arni yn rhoi ei sgwrs dyma feddwl ‘Argian dan mi fydda’r stori yma yn gwneud ffilm dda’.







Wednesday 15 April 2015

Ffenestri Burne-Jones, All Hallows, Allerton, Lerpwl. Herald Gymraeg 15 Ebrill 2015.



Wrth reswm mae yna ddadl fod cymaint angen ei wneud yma yng Nghymru mai anghyfrifol yw gwastraffu geiriau yn trin a thrafod rhywbeth dros Glawdd Offa. Ar y llaw arall, mae dadl, yr un mor ddilys, fod angen ehangu gorwelion, edrych allan a chael golwg Byd eang ar bethe (y Pethe) Cymraeg a Chymreig. Beth bynnag yw’r dadleuon, dros Glawdd Offa amdani yr wythnos hon.

Fe sgwennais yn yr Herald Gymraeg (18 Mawrth 2015)  am luniau Frank Green o strydoedd Lerpwl, y strydoedd a adeiladwyd gan Gymry Llyn a Mon. Rhywbeth chafodd ddim ei drafod yn y golofn am Frank Green oedd y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl. Rwan, da ni gyd yn gwybod nad yw hyn am ddigwydd. Ond, os oes unrhyw werth o gwbl crybwyll y “syniad”, a’r syniad yn unig fydd o, y gwerth hyd y gwelaf i fyddai i herio ychydig ar y Cenedlaetholdeb cul fyddai yn gresynu at y fath syniad. Mae angen herio.

Beth bynnag yw Lerpwl, nid yw yn dref Seisnig yn yr ystyr traddodiadol, myn rhai ei bod y dref Geltaidd ei naws, ond yn sicr dyma chi ddinas sydd wedi arloesi ac arwain yn ddiwylliannol. O’r Beatles i’r Mighty Wah. O Frankie Goes To Holywood i Echo and the Bunnymen. Dinas sydd yn falch o’i cherddorion.

Nid cerddoriaeth sydd wedi fy nenu yma y tro yma, er mor hoff wyf o’r Mighty Wah a Pete Wylie. Rwyf yma ar drywydd Edward Burne-Jones a William Morris, a mae’r trywydd yn arwain at Allerton ac Eglwys All Hallows. Eglwys yn null y Gothic Fictoraidd Hwyr, tywodfaen coch tywyll, coed o’u amgylch. Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1872. Agorwyd yr eglwys peidair mlynedd yn ddiweddarach.

Wrth i mi gyrraedd yr eglwys yn gymharol blygeiniol (tua 10 y bore) mae’r drysau wedi cau. Ond gallaf weld goleadau tu mewn. Cerddais o amgylch yr eglwys gan drio pob drws cloedig. Dim lwc. Dyma weld gwr yn cerdded tuag at yr eglwys a hwnnw yn carrio bag plastig Tescos hefo ‘neges’. Ella fod y gwr yma yn gwybod rhywbeth felly dyma ofyn os yw’r eglwys ar agor o gwbl ar y Sadwrn?

“Dewch gyda mi”, meddai’r gwr cyfeillgar a dyma guro ar un o’r drysau ochrog ac o fewn eiliad mewn a ni wrth i wraig oedranus agos y drws o’r tu mewn.  A dyma lwyth o wragedd yn trefnu blodau ar gyfer y Pasg, y drws ar glo rhag i ieuenctyd Lerpwl darfu ar eu heddwch.  Ymddieheurais o flaen llaw nad oeddwn yno i gynorthwyo gyda’r trefnu blodau.

“You seem like a man who knows” medda fi wrth fy nghyfaill newydd cymwynasgar. “I’m the vicar” oedd ei ateb. Ha, heb ei goler wen, pwy oedd i wybod, a dyma fo yn ei ‘casuals’ fore Sadwrn ac yn fwy na hapus i mi dreulio yr awr nesa yn rhyfeddu ar y 14 ffenestr lliw wedi eu cynllunio gan Burne-Jones a wedi eu gwneud gan gwmni Morris & Co.

Dim ond un ffenestr arall sydd yn yr eglwys sydd ddim yn gynllun Burne-Jones a hynny oherwydd i Burne Jones wrthod ei chynllunio. Roedd John Bibby noddwr yr eglwys am gael ffenestr goffa i’w feibion Saul a Jonathan a fu farw yn ifanc a’r rheswm a roddwyd gan Burne-Jones dros wrthod cais Bibby oedd fod yr holl beth rhy llwm a thrist ac oherwydd hynny yn ‘gelf drwg’. Gwraig Bibby oedd merch i Jesse Hartley, y periannydd adeiladodd Doc Albert a agorwyd ym 1840 ac er cof iddi hi yr adeiladodd Bibby yr eglwys yma.

Rwyf wedi cyfeirio dro yn ol yn yr Herald at Eglwys Sant Deiniol, Penarlag lle mae rhai o ffenestri gorau Burne-Jones yng ngogledd Cymru, a’r peth pwysicaf efallai am eglwys Sant Deiniol yw mai yno mae comisiwn olaf Burne-Jones, ffenestr a gomisiynwyd gan ei ffrind Gladstone. Efallai mai’r peth pwysicaf am eglwys All Hallows yw mai yma mae’r ffnenestr sydd, ym marn Burne-Jones ei hyn, y ffenestr orau iddo erioed ei chynllunio.

Hon yw’r ffenestr ddywreiniol yn y gangell. Ffenestr yn llythrennol heb ei hail, achos am unwaith mae’r cynllun yn unigryw. Fel arfer gyda cynlluniau (cartwns) Burne-Jones a chynlluniau Morris & Co roedd hi’n arferol iawn i ail-adrodd ac ail-ddefnyddio’r un cynlluniau mewn gwahanol eglwysi. Wrth edrych ar y ffenestr orllewinnol yn All Hallows gwelwn ffrwythau William Morris sydd bron yn union yr un fath a’r ffenestr ffrwythau yn Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi – engraifft gwych o’r ail-adrodd / ail-ddefnydd yma.

Anodd anghytuno a Burne-Jones, mae’r ffenestr ddywrieniol yn drawidaol, gyda’r pedair afon yn llifo drwy’r gwydr yn ganolig a’r anifeiliaid diethr, bygythiol, adeiniog, bron yn fytholegol,  yn teyrnasu dros y delweddau. Cawn ffenestri hyfryd wedyn ar yr adain ogleddol a ddeheuol, yn uchel ac wyth ffenestr llai, wedi eu rhannu yn bedair nail ochr i gorff yr eglwys.



Dewlweddau cyn-Raffaelaidd heb os, yn lliwgar a hyfryd. Cawn Crist yn cael ei fedyddio, yn swpera gyda’r gwr cyfoethog, y croeshoeli a’r atgyfodiad. Un o fy hoff ffenestri yma yw’r angylion yn amlygu eu hunnain i’r bugeiliaid. Eto mae’r naws cyn-Raffaelaidd yna yn hyfryd. Dyma chi waith celf, yn ysbrydoli ac yn rhoi mwynhad.


Os yw eglwys Sant Deiniol ym Mhenarlag yn fendigedig ac werth ei hymweld, mae All Hallows yn siop fferins o gymhariaeth i unrhyw ddilynwyr o gelf Burne-Jones. Undegpedwar ffenestr hynod, bendigedig, hyfryd, hyfryd, hyfryd. Dyma Burne-Jones yn agosach at y Nefoedd nac erioed.


Wednesday 8 April 2015

Ramblings of a Patagonian, Herald Gymraeg 8 Ebrill 2015



Cwestiwn gwirion efallai, ond beth yw pwrpas darllen llyfrau? Os am ddarllen nofelau y tebygrwydd yw fod y darllenydd yn awchu am saib bach o’r Byd go iawn, felly mae darllen nofel yn ddihangfa dros dro i rhyw arall fyd. Bydd darllenydd llyfrau ffeithiol yn disgwyl dysgu rhywbeth yn ogystal a mwynhau y profiad o ddarllen llyfr. Ond y trydydd peth gwerthfawr sydd i’w gael o ddarllen llyfrau yw cael eich hysbrydoli.

Edrychaf ar y bwrdd yn y parlwr acw ac yn aros amdanaf mae ‘The Old Straight Track’ gan Alfred Watkins (gyda rhagymadrodd gan y seren newydd o sgwennu am yr awyr agored Robert Macfarlane). Son am ‘ley-lines’ oedd Watkins, sef y llinellau lled ysbrydol hynny sydd yn cysylltu llefydd ar y map. Edrychaf ymlaen i ddarllen hwn yn ei dro – fe ddylia fy ysbrydoli i fynd i grwydro.

Ar ei hanner mae llyfr gwych Fiona MacCarthy ‘William Morris A Life for Our Time’. Heb os mae’r llyfr yma yn fy ysbrydoli i ymweld ag eglwysi, i fwynhau ffenestri Morris & Co a Burne-Jones, ond mae hefyd yn fy ysbrydoli i boeni am gadwraeth hen adeiladau. Dwi’n dweud ar ei hanner, achos mae hwn yn lyfr mor swmpus – does dim brys.

Anhreg Dolig oedd cofiant John Lydon ‘Anger is an Energy, My Life Uncensored’ ond ar y funud tydi Mr Lydon ddim yn ysbrydoli. Does gennyf ddim gronyn o ddiddordeb ymwneud a Lydon y dyddiau yma.

Y llyfr arall sydd yn disgwyl cael ei ddarllen yw ‘Sir William Preece F.R.S Victorian Engineer Extraordinary’  gan E.C Baker. Preece wrthgwrs oedd un o gefnogwyr Marconi a mae cysylltiadau cryf rhwng Preece a Chaernarfon a Chaeathro. Edrychaf ymlaen at hwn.

Y llyfr rwyf newydd ei gwblhau yw ‘Ramblings of a Patagonian’ gan Rene Griffiths drwy wasg Artisan Media Publishing. Cefais alwad ffon gan Rene yn ddiweddar. Doeddwn rioed wedi ei gyfarfod. Roedd Rene wedi deall fy mod yn rhoi sgwrs ar Hanes Canu Pop Amgen Cymraeg yng ngwyl Merthyr Rising ddiwedd mis Mai ac am i mi ddarllen ei lyfr gyda’r bwriad y byddwn wedyn yn ei gyfweld ar y llwyfan yn yr un wyl.

Rwyf wrth fy modd hefo pobl yn codi’r ffon ac yn gwneud pethau ddigwydd. Felly dyma gytuno yn y fan a’r lle a dechrau pori drwy’r llyfr er mwyn paratoi cwestiynau diddorol a threiddgar ar gyfer Rene a Merthyr Rising. Wrthgwrs mae cant a hanner o flynyddoedd wedi mynd heibio ers Michael D Jones a sefydlu’r ‘Wladfa’ ym Mhatagonia felly bydd y sgwrs hefo Rene yn ‘amserol’ fel mae nhw’n dweud.

A sut i ddisgrifio ‘Ramblings of a Patagonian’? Wel, petae Jack Kerouac wedi ei eni yn Llanuwchllyn a wedyn wedi neidio ar dren a mudo i Batagonia hefo gitar ar ei gefn yn gwrando ar CD ‘Fuzzy Logic’ gan y Super Furry Animals ….. rhywbeth felly. A bod yn onest doeddwn ddim yn disgwyl llyfr mor ddoniol, mor onest ac unwaith eto, llyfr sydd yn gallu ysbrydoli cymaint.

Heb os, mae Rene yn rhannu’r un math o ysbryd anturiaethus a’r trwbadwrs neu’r crwydrwyr, dyma pam mae Meic Stevens a Gruff Rhys yn enwau fydda yn cael eu defnyddio yn yr un gwynt. Llawlyfr i fyw bywyd yn llawn ac i’r eithaf ac i fentro yw hwn. Llawlyfr i godi pac a chymeryd diddordeb mewn diwylliant a diwylliannau eraill.


Dyma’r gwrthwenwyn ir “Prydeinwyr Bach” sydd yn ystyried pleidleisio i UKIP, dyma’r meddygyniaeth i bobl sydd yn gwisgo slipars – prynwch sgidia cerdded. Doeddwn rioed wedi disgwyl i Patagonia fod mor ddiddorol – a hynny heb yr ystradebau arferol – mae Rene yn awdur disglair, doniol, diddorol ac ydi wir yn ysbrydoli!

Wednesday 1 April 2015

Trefeurych a Chastell Carndochan. Herald Gymraeg 1 Ebrill 2015


 

‘Siop Dillad Bala’ oedd y gân boblogaidd gan y grwp pop Cymraeg Eryr Wen, ond a dweud y gwir, siop lyfrau Awen Meirion dwi yn dueddu i gysylltu gyda’r Bala bob amser. A dyma chi ddiddorol, dyma siop Awen Meirion yn trefnu ‘taith gerdded’ ar gyfer trigolion Penllyn a Llanuwchllyn yn ddiweddar. Fe ddatblygodd y syniad wrth i mi dreulio bore hynod ddifyr yn arwyddo copiau o fy llyfr archaeoleg yn siop Awen Meirion cyn y Dolig.

Dwi’n dweud hynod ddifyr, achos yn ogystal a gwerthu llyfrau, fe gefais gymaint o sgyrsiau diddorol yn ystod fy nwy awr yn y siop. Ac wrthgwrs, roedd y rhan fway o’r sgyrsiau yn troi at y ffaith fod rhywbeth diddorol ar fferm hwn a llall a fod rhaid i mi ddod draw i gael golwg. Braf oedd cael gwahoddiad felly i rannu gwybodaeth am dirlun hynafol Trefeurych a Chastell Carndochan yn ystod y daith gerdded. Brafiach byth oedd gweld cymaint oedd wedi troi fyny.

Yr enw lleol/hynafol am y tai sydd ar y dirwedd ganol oesol ar lethrau Moel Caws (cyfeirnod map SH 845275) yw Trefeurych. Gorweddai’r olion yma ger Afon Dyfrdwy ar hyn sydd i’w weld heddiw yw olion cytiau-hir ac olion waliau caeau. Arolygwyd yr olion gan Kate Geary ym 1997 fel rhan o asesiad ffermydd oedd yn rhan o gynllun Tir Cymen a mae Geary wedi adnabod hyd at dri cwt hir ar ochr y dyffryn / ochr y bryn.

Y tebygrwydd yw fod rhai o’r tai yma wedi eu haddasu yn ddiweddarach (ar ol i bobl adael Terfeurych) ac eu newid i fod yn gorlannau defaid. Canlyniad hyn yw fod dehongli’r olion ar y tir yn weddol anodd a chymleth. Does dim cytiau crynion i’w gweld yma felly mae rhywun yn awgrymu tirwedd ganol-oesol yn hytrach nac un cyn-hanesyddol.
 

Does dim cwestiwn o gwbl fod Carndochan yn un o gestyll tywysogion Gwynedd, a’r tebygrwydd yw fod y gwaith adeiladau yn perthyn i Llywelyn ab Iorwerth, sydd wrthi yn adeiladu ei gestyll cerrig o’r 1220au ymlaen. Cawn ddyddiad o 1221 ar gyfer Castell y Bere o ysgrifau Brut y Tywysogion ond fel arall mae rhywun yn son am gestyll Llywelyn Fawr ee Dolbadarn a Dolwyddelan fel rhai sydd yn dyddio o’r 1220au a Chricieth efallai o’r 1230au, (mae’r cyfeiriad cyntaf at Gastell Cricieth mewn ysgrif 1239).

Un o’r pethau pwysig am y daith gerdded ac yn y cyd-destyn ehangach hefyd yw fod Carndochan yn un o gestyll llai amlwg Llywelyn Fawr. Felly yn sicr un nod oedd gwneud yn siwr fod trigolion ardal Penllyn yn cael cyfle i ymweld a’r safle a gobeithio cael ychyidig o hanes y gwaith cadwraeth diweddar sydd wedi ei gynnal yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
 LLuniau uchod drwy garedigrwydd: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Ond yn ehangach na ardal Penllyn mae’r cwestiwn holl bwysig, pam fod yr olion Cymreig yn llai ‘amlwg’ o ran ymwybyddiaeth hanesyddol. Un rheswm yn sicr yw cyflwr Carndochan, mewn gwirionedd dim ond pentwr o gerrig ar ben craig sydd i’w gweld yma. Rhaid edrych yn ofalus iawn i gael hyd i’r waliau sydd yn weddill gan fod rhan helaeth o rhain yn gorwedd o dan yr holl gerrig sydd wedi disgyn.

Yr ail reswm efallai yw fod y safle yn weddol anghysbell. Cymerir dri chwarter awr go dda o chwysu i gyrraedd y castell o gyfeiriad Tan y Castell. Ond mae’r dirwedd a’r olygfa draw am Llyn Tegid yn drawiadol oddiyma. Does dim esgusion go iawn. Ni sydd heb hawlio perchnogaeth ar ein hanes. Dyma gam fechan i’r cyfeiriad iawn gan Siop Awen Meirion. Yn syml beth am ddarganfod ein hanes a’n cestyll Cymreig, mynd am dro a chael hwyl yn y broses.