Thursday 27 October 2011

Herald Gymraeg 26 Hydref 2011 Mabwysiadu

Digwydd taro mewn i stondin ‘Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru’ ar Faes y Steddfod wnes i, a dweud y gwir roeddwn ar fy ffordd am stondin yr Amgueddaf Genedlaethol i gael sgwrs am archaeoleg hefo fy hen gyfaill Ken Brassil. Ond, roedd digon o amser, mi rof fy mhen drwy’r drws meddylias. Roedd cyfaill i mi wedi mynd a’r hogia am dro hefo ei blant ef gan gynnig awr o lonydd lle roedd modd i mi gael ymweld a stondinau oedd o ddiddordeb i mi – yn hytrach na rhai yn gwerthu bwyd, diod, sglodion neu yn cynnig gweithgareddau plant !
“Oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu ?” holodd y wraig ifanc. “Wedi gwneud yn barod !” atebais a dyma ddechrau ar sgwrs a arweiniodd at gymeryd rhan mewn gweithdy wythnos yn ol ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Rwyf wedi bod yn teimlo ers amser fod yr holl broses o fabwysiadu’r hogiau wedi bod yn brofiad mor bositif fel y dyliwn fod yn trio gwneud mwy i gefnogi’r achos a dyma’r cyfle yn dod.
Buan iawn trodd y sgwrs yn y babell ar Faes yr Eisteddfod am ofnau a phryderon pobl sydd yn meddwl am fabwysiadu. Yr ofn mwyaf yw os bydd rhaid cael cyswllt a theulu geni  y plant. Y tebygrwydd yw y bydd cysylltiad hefo rhwyun o’r teulu geni, dyma’r drefn y dyddiau yma, mae yna resymau da iawn dros hyn ac yn wir bydd hyn yn orchymyn Llys.
Wrth i ni drafod, buan iawn daeth yn amlwg nad oedd ond ochr positif gennyf i’w adrodd am y cysylltiad rydym yn ei gael hefo aelod o deulu’r hogia a fe ofynodd y swyddog os byddwn yn fodlon siarad am fy mhrofiad gyda criw oedd a diddordeb mabwysiadu. Yr ateb yn syml “Byddwn wrth fy modd !” os oes rhywbeth gennyf o werth i’w ddweud a fod hynny yn tawelu meddwl pobl, a fod hynny yn arwain wedyn at blant yn cael cartref hapus o’r newydd – yn sicr mi fyddwn wrth fy modd a mi fyddai’n fraint cael cymeryd rhan.
Y dyddiau yma rwyf yn siarad yn gyhoeddus mor aml does dim problem o gwbl sefyll o flaen ystafell o bobl dwi ddim yn eu hadnabod. Y broblem fawr hefo trafod mabwysiadu, hyd yn oed ar ol rhai blynyddoedd fynd heibio, yw fod y peth dal yn gallu bod yn emosiynol tu hwnt. Yn waeth na hynny roedd anwyd gennyf ar y diwrnod felly fydd y stafell o bobl ddiethr ddim yn siwr pryd dwi’n crio a pryd dwi’n sychu’n nhrwyn oherwydd yr anwyd !
Ta waeth dyma droi fyny, cael fy nghyflwyno a mynd amdani. Dyma son sut rydym yn gweld aelod o deulu’r plant ddwy waith y flwyddyn. Fel arfer rydym yn mynd am dro i rhywle lle bydd neb yn ein hadnabod a lle mae rhywbeth i ddiddanu’r plant. Y tro cyntaf fe ddaeth gweithwraig cymdeithasol hefo ni a roedd yr holl beth yn teimlo braidd yn anghyfforddus a phawb ddigon ansicr. Ond buan iawn daeth yr hogia i dderbyn y person newydd yma a buan iawn sylweddolom ni ei bod hi yn ddynes garedig oedd yn caru’r plant ac yn amlwg nid hi oedd wedi arwain at y ffaith fod yr hogia wedi cael eu mabwysiadu yn y lle cyntaf.
Felly yn hynny o beth doedd yr ymweliadau yma ddim yn achosi unrhyw boen meddwl i ni esboniais. Yn ail mae’n beth da cael cysylltiad a’r teulu. Mae’n gyfle i gael dipyn o hanes y teulu a hefyd wrthgwrs mae’n berffaith bosib rhyw ddydd bydd yr hogia isho cyfarfod gweddill eu teulu. Ar y llaw arall ddigon hawdd hefyd fyddai bod dim diddordeb ganddynt. Pwy a wyr ?
Y pwynt pwysig yw mae nid ein penderfyniad ni fel rhieni fydd hyn ond penderfyniad y plant. Rwyf yn ceisio gwneud hyn yn glir wrth siarad. Gofalu am y plant yw’n cyfrifoldeb ni. Mae mabwysiadu yn golygu rhoi’r gorau i gael synaidau am fyd bach perffaith a derbyn pethau fel y mae’nt yn y Byd Go Iawn. Yn ol y gyfraith mae hawl gan y plant gyfarfod eu teulu geni wrth iddynt gyrraedd 18 oed. Cwestiwn da yw beth sydd yn digwydd os ydynt yn gofyn am hyn yn 15 oed. Unwaith eto bydd rhaid edrych ar y sefyllfa yn ofalus a rhoi’r plant gyntaf.
Wedyn wrthgwrs mae’r elfen o orchymyn Llys – felly does dim dewis gennym – ond rwyf yn rho sbin positif ar hyn. Eto’r dyddiau yma mae plant yn cael gwybod eu bod wedi eu mabwysiadu o oed cynnar iawn – does dim sgwrs ddifrifol pan mae’nt yn cyrraedd 18oed. “Gyda llaw nid fi di dy Dad go iawn ti ……..” Dychmygwych ! Creulon, anfoesol. Ni sydd wedi mabwysiadu yw’r “rhieni go iawn” wrth reswm, ni sydd yn gwneud y gwaith o fagu, a rhaid bod yn onest o’r diwrnod cyntaf, dim celwyddau, dim cuddio gormod achos un diwrnod bydd y plant isho cael gwybod a bydd yr hawl ganddynt i gael gwybod.
Do siwr fe ddaeth dagrau, sawl gwaith wrth son am eu gweld am y tro cyntaf, y noson gyntaf iddynt ddod atom ond cafwyd llawer o hwyl hefyd wrth son am ein anturiaethau yn ystod yr holl broses. Fel dywedais wrthynt a fel y byddaf yn dweud wrth bawb wrth son am fabwysiadu – “Dyna’r peth gorau neuthom ni erioed !”

Wednesday 26 October 2011

Gwilym Cowlyd



Llyfrau Gwilym Cowlyd Casglwr Rhif 101 Gwanwyn 2011

Wrth ail ddarllen erthygl Wil Aaron ‘Hanes Hen Lyfr’yn ddiweddar (Y Casglwr 99 Rhifyn Haf 2010) yn son am Gwilym Cowlyd (Y Prifardd Pendant) a’i nodiadau ar gyfer prisio’r llyfrau oedd ganddo ar werth dyma benderfynu mynd ati i son ychydig am y llyfrau a gyhoeddwyd gan Gwilym Cowlyd (W.J Roberts, Llanrwst).  
Rwyf wedi bod yn casglu popeth sydd yn ymwneud a Gwilym Cowlyd, Arwest Glan Geirionydd a’r llyfrau gyhoeddwyd ganddo ers dros ddeng mlynedd a dyma sylweddoli fod cymaint o lwybrau gall rhwyun ei ddilyn, yn enwedig o drafod llyfrau sydd yn son am Colwyd mai gwell fyddai canolbwyntio yma  ar y llyfrau a gyhoeddwyd ganddo. Rhaid cydnabod un llyfr, sef llyfr G.Gerallt Davies, “Gwilym Cowlyd 1828-1904” (Llyfrau’r MC, Caernarfon 1976) fel y brif ffynhonnell o wybodaeth – dyma lyfr hanfodol i unrhywun a diddordeb yn Cowlyd.
Ffrwyth llafur gwaith ymchwil ar gyfer gradd MA ym Mhrifysgol Lerpwl rhwng 1952 a 1955 yw cynnwys y llyfr er i lyfr Gerallt gael ei ddisgrifio fel “talfyriad” o’r gwaith ymchwil hynny. Mae sawl copi o lyfr Gerallt gennyf, prynais fwy nac un er mwyn eu rhannu a rhywun a  ddangosai ddiddordeb yn Cowlyd er fod rhywun yn gweld copiau yn ymddangos yn rhestrau’r Casglwr o dro i dro, felly nid yw’n lyfr rhy brin.
Fe wyddoch mae’n siwr am hanes Ty Cowlyd yn Heol Watling, Llanrwst lle roedd gan Cowlyd siop lyfrau a mae’n debyg iddo brynu ei argraffwasg gyntaf ym 1863 o Lerpwl am y swm o £14. Ond cyn dechrau ar y llyfrau a argraffwyd yno priodol yw cyfeirio at y llyfr ‘Geirionydd’ sef casgliad o waith ei ewythr Ieuan Glan Geirionydd a olygwyd gan W.J Roberts, Trefriw, sef Cowlyd tra yn dal i fyw yn Nhyddyn Wilym, Ardda.  Argraffwyd gan I.Clarke Ruthin dan olygyddiaeth Gwalchmai mwy na thebyg yn ystod 1862. Dyma ddechrau gyrfa Cowlyd felly fel  cyhoeddwr llyfrau, ef oedd yn gyfrifol am drefnu’r holl waith a mae’n rhaid fod Cowlyd wedi gweld y fantais o allu argraffu llyfrau ei hyn yn Llanrwst yn hytrach na mynd at argraffwyr eraill.
Y llyfryn cyntaf i’w gyhoeddi gan Cowlyd oedd “Y Fwyalchen” gan Morris Jones, Trefriw ym 1866 tt, 64. Cyfeiria Gerallt Davies at y llyfr hefyd fel “Y Fwyalch”  a gan nad oes copi gennyf does dim modd i mi fod yn sicr p’run yw’r teitl cywir. Casgliad o waith Gwyalchen o’r Cwm yn ol ei enw barddol yn cynnwys galarnadau, caneuon ac emynau yw’r llyfryn ac ar y wyneb-ddalen brolai Cowlyd
“Rwy’n falch o’r Fwyalch fywiog – ei nodwedd
A’i chaniadau serchog”
“Flores Poetarum Britannicorum” yw’r ail lyfryn o wasg Cowlyd, yn dyddio o Mis Rhagfyr 1866 tt, 91 sef ad-argraffiad o’r llyfr o gasgliad Dr J Davies, Mallwyd a hefyd ‘Llyfr Barddoniaeth’ o waith Capten William Middleton (Gwilym Canoldref). Yn ol Cowlyd, ad-argraffodd Flores “gan nad yw’n bosib braidd ddyfod o hyd i gymaint ac un copi cyflawn o honynt ar gael a chadw yng Nghymru y dydd hwn”.  Argraffwyd o fewn clawr melyn llachar gyda hysbyseb ar y dudalen cefn ar gyfer y gyfrol ‘Geirionydd’ a hefyd y gyfrol nesa oedd ar fin cael ei chyoeddi gan Cowlyd sef casgliad o’i waith ei hyn.
Y gyfrol honno wrthgrws oedd “Y Murmuron” a gyhoeddwyd ym 1868. Mae gennyf ddau fath gwahanol o’r Murmuron, un wedi ei rwymo mewn clawr caled a’r llall mewn clawr meddal a cofiaf yn iawn y wefr o gael fy ngopi cyntaf ym 1997 gan y diweddar Dafydd Hughes, Llandudno. Cadwai Dafydd restr ar wal ei siop ar fy rhan gyda phopeth gallwn feddwl amdano a pherthnasedd i’r hen Gowlyd, doedd ddim ots gennyf ddatblygu eitemau yn y casgliad fel soniais uchod – byddwn siwr o ddod o hyd i gartref da iddynt.
Oddifewn i’r Murmuron cawn yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy , 1861 sef ‘Mynyddoedd Eryri’ a cyfeiriodd Gwalchmai “Daw drachefn at y tyner cyn terfynu, a darluniau -” wrth feirniadu
“Y llynau gwyrddion llonydd- a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd
A thuynheulwen ysblenydd
Ar len y dwr lun y dydd”.
Dyma’r unig gasgliad o waith ei hyn a gyhoeddwyd gan Cowlyd, a’r flwyddyn ganlynol, sef 1869 cyhoeddodd cyfrol o farddoniaeth gan ei gyfaill mynwesol Trebor Mai, “Y Geninen” tt 176. Dyma gyfrol arall rwyf wedi methu a dod o hyd iddi er fod sawl copi gennyf o “Fy Noswyl” gan Trebor Mai (I am Robert) a argraffwyd gan John Jones, Llanrwst 1861, argraffwr arall a symudodd o Drefriw i Lanrwst. Mae gennyf hefyd gopi o awdl i gofio Ymweliad Sior IV a Sir Fon gan Ieuan Glan Geirionydd wedi ei argraffu gan John Jones, Trefriw ym 1822.
Cyfrol ddadleuol iawn a gyhoeddwyd wedyn gan Cowlyd ym 1869, dadleuol am yr holl oedi yn hytrach nac unrhyw gynnwys a bu i Dalhaiarn ysgrifennu at yr argraffwr a’i felltithio am yr amser a gymerwyd cyn cyhoeddi  “Gwaith Talhaiarn Cyf III” tt 132. Dyma ran o lythyr Talhaiarn at Cowlyd, “Diawl a dy sgubo ti, a melltith dy nain iti.  Paham yr wyt yn tynu fy mherfedd yn grybinion yn fy mol efo’r cythreuleiddiwch ysgymun yma?”  A wedyn mae yna linell gwell byth gan Talhaiarn a ddisgrifiwyd gan y diweddar Hywel Teifi fel fdyn a thafod ddigon miniog, “ Pe buasit yn Brinter i Job, buasai hwnnw er maint ei amynedd, yn dy regu a’th felltithio”.
Doedd Cowlyd ddim i gyhoeddi llyfr arall am chwe mlynedd wedyn, sgwni os oedd y ffrae gyda Talhaiarn wedi bod yn ormod i’r hen Cowlyd ? Cyhoeddwyd Gwaith Talhaiarn mewn clawr caled gwyrdd hyfryd a rhoddir arno gyfeiriad W.J. Roberts, Printer, Watling Street.
Awdl  “Prydferthwch”  tt 38,oedd y cyhoeddiad nesaf ym 1875, awdl anfuddugol gan Cowlyd ei hyn ar destyn ac ar fesurau Cadair Gwynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli. Unwaith eto llyfryn yw’r cyhoeddiad mewn gwirionedd a mae gennyf dri copi gwahanol o ‘Prydferthwch’ mewn cloriau meddal gwyrdd, porffor a phapur.
Llyfryn tebyg i Prydferthwch o ran ei faint oedd “Hanes Trefriw” tt 48, 1879, cyhoeddiad arall gan Morris Jones (Gwyalchen o’r Cwm) ac yn ol y wyneb-ddalen roedd yma “Hanes Trefriw, fel y bu ac fel y mae” ac yn ddiddorol iawn roedd cyfeiriad hefyd at Argraffwasg Gyntaf Cymru, dwi’n cymeryd mae un Dafydd Jones Trefriw (taid John Jones) a brynodd argrwffwasg ym1766 yw’r un dan sylw. Rwyf wedi gweld copi o’r llyfryn yma ond hyd yma heb gael hyd i un i’r casgliad.
Ym mlynyddoedd cyntaf yr 80au mae Cowlyd yn cyhoeddi llyfrynnau megis Yr Helydd” sef  ei awdl fuddugol yn Arwest Geirionydd, “Marwnad y Diweddar Barch John Williams Cae Coch” tt 15,1883 a nifer o gyhoeddiadau neu lyfrynnau bach ynglyn a’i syniadau am gyfrinion Barddas a syniadaeth yr Arwest. Mae rhai blynyddoedd yn mynd heibio rhwng cyhoeddi llyfr Talhaiarn ar llyfr nesa, sef cyfrol swmpus “Gweithiau Gethin” ym 1884, sef casgliad o holl weithiau barddol a llenyddol Owen Gethin Jones, Tyddyn Cethin, Penmachno.
Casglwyd a threfnwyd y barddoniaeth gan Cowlyd ac ar ddiwedd y llyfr ceir penodau ar Hanes Plwyf Penmachno,, Ysbyty Ifan a’i Hynafiaethau a Hanes Plwyf Dolwyddelen sydd yn gwneud y gyfrol hon yn hynod gasgliadwy ac o ddiddordeb mawr i drigolion y plwyfi yma heddiw.  Fel gyda ei gyfaill Trebor Mai, mae Cowlyd drwy gyhoeddi gwaith Owen Gethin Jones yn cyhoeddi llyfr gan un o arweinwyr Arwest Glan Geirionydd a diddorol yw nodi fod y rhyddiaeth wedi ei drefnu a’i olygu gan Scorpion (Y Parch T Roberts) un arall o griw’r Arwest ac un o feirdd Llanrwst.
Gyda llaw, mae llyfr Vivian Parry Williams “Owen Gethin Jones, Ei Fywyd a’i Feiau” (Carreg Gwalch 2000) yn rhoi hanes O Gethin Jones ar gof a chadw fel y gwnaeth G Gerallt Davies gyda Cowlyd. Diolchwn am hynny, fod y cymeriadau hynod yma yn cael eu cydnabod a fod yr hanes cyflawn ar gael diolch i waith ymchwil yr awduron.
1887 oedd blwyddyn cyhoeddi “Cerddi’r Eryri” tt 72 sef casgliad o oreuon Cerddi Poblogaidd Cymru yn cynnwys Caneuon Gwladgarol, Teimladol, Moesol, Addysgiadol a Difyrol, wedi eu crynhoi i gyfrol fechan er hwylusdod i’r datganydd, y cystadleuydd a’r adroddydd. Y pris oedd chwe’cheiniog mewn clawr meddal. Bu fy nghopi i unwaith ym meddiant gwr o’r enw Llew Owain, mae ei lofnod ar y clawr blaen. Y tu fewn mae cerddi fel Molawd Arthur
Gwrol a da ydyw Arthur y Cymry
Teilwng yw byth o anhrydedd a chlod
Arthur sydd fawr megys tad yn ei deulu –
Arthur ein teyrn yw y doethaf yn bod.
Argraffwyd fy nghopi gan J.L Roberts, Llanrwst gyda Rhagymadrodd gan Cowlyd, felly mae’n debyg mae ad-argraffiad yw hwn ? - does dim dyddiad ar y clawr na’r wyneb-ddalen fel sydd yn arferol gyda gwaith W.J Roberts.
Cyhoeddwyd y llyfryn nesa yn y Gymraeg a’r Saesneg, sef “Chwedleuon Machno” tt 26, 1888 gan Owen Roberts (Brysiog Machno) a oedd yn adrodd “hen hanesion bron ar golli” am Benmachno. Yn y Saesneg y teitl oedd “Machno Anecdotes”.  Dau lyfryn arall sydd yn cael eu disgrifio gan Gerallt Davies fel rhai “del a hynod eu diwyg” yw “Lili’r Dyffryn”  tt 32, 1890 ? ac “Y Morgrugyn” 1891 gan yr un awdur, John Williams (Ioan Mawrth) Eglwysbach ac eto yn ol Gerallt mae’r ddau lyfryn yn gymar i’w gilydd o ran diwyg a chynnwys.
Yn ol dyddiad cyhoeddi “Egluryn Rhyfedd” oedd y llyfryn olaf i’w gyhoeddi gan Cowlyd ym 1897, sef y flwyddyn cafodd ei daflu allan o Dy Cowlyd yn fethdalwr. Ad-argraffiad ydyw o lyfr gan David Jones o Drefriw a argraffwyd yn wreiddiol yn yr Amwythig, 1750.
Llyfryn arall sydd wedi cael ei argraffu ddwy waith yw “Diliau’r Delyn”, gan Gwilym Cowlyd, sef casglaid o benillion Cymraeg i’w canu gyda’r tannau. Er fod y llyfr yn ddi-ddyddiad mae gennyf gopi wedi ei argraffu gan W.J Roberts, Watling Street, a’r clawr gwreiddiol wedi hen fynd sydd yn ei ddyddio ym 1897 neu gynt  a copiau arall unwaith eto wedi eu hargraffu  gan John L Roberts, Station Rd, Llanrwst pris chwe’cheiniog.
Yn amlwg mae’r llyfrynau yn tueddu i fod yn fwy prin ac yn llawer mwy bregus, dyma’r rhai anoddaf i ddod o hyd iddynt fel casglwr. Tybiaf mae ‘Gweithiau Gethin’ yw’r mwyaf poblogaidd erbyn heddiw yn sicr o ran yr hanes lleol ac o ran Awdl ‘Mynyddoedd Eryri’ mae’n rhaid fod ‘Y Murmuron’ hefyd yn lyfr  hanfodol i lyfrgell unrhyw gasglwr. Fel cyfeiriodd G Gerallt Davies, o ran diwyg  a chynnwys mae’r llyfrau yn hynod fel hen lyfrau casgladwy ond awgrymaf hefyd eu bod yn hynod bwysig fel cofnod o’r beirdd a llenorion radical yma fu’n byw yn Nyffryn Conwy yn ystod y  bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Monday 24 October 2011

Herald Gymraeg ol-erthyglau

Mae'r erthyglau ar gael ar y safle http://www.dailypostcymraeg.co.uk/blogiau/rhys-mwyn/ felly does dim pwrpas rhoi'r holl golofnau i fyny yn fan hyn. Efallai o hyn ymlaen fe rof y rhai newydd i fyny yn wythnosol.

Never Mind The Dovecotes.

Just recieved the National Trust punk compilation "Never Mind The Dovecotes" which I will be reviewing for Herald Gymraeg probably 16th November. I will probably do a translated version for this blog.The National Trust describe punk as "A British music culture that started a revolution". Who could argue with that ?

Herald Gymraeg 5 Hydref 2011 Amgueddfeydd.

Stori am groeso  a charedigrwydd yw hi yr wythnos hon, croeso a charedigrwydd yn deillio o wahoddiadau i ymweld a gwahanol amgueddfeydd ac orielau ac yn ystod y tri ymweliad dan sylw fe gefais fy nhrin fel gwr bonheddig ac er mor ddiddorol oedd y gwrthrychau a’r celf, roedd y croeso a gefais yn sicr am aros yn y cof am amser maith.
                Ar fore Llun rwyf yn ymlwybro  tuag at Nefyn, i ymweld a’r Amgueddfa Forwrol, sydd ar hyn o bryd yn gaedig, ond rwyf yn adnabod dyn gyda goriad, gwr ifanc o’r enw Jamie. Myfyriwr Archaeoleg ym Mhrifysgol Durham yw Jamie,  gwr ifanc llawn brwdfrydedd sydd yn ymwneud a’r ymdrechion i atgyweirio to’r hen Eglwys a wedyn i atgyweirio’r gofod mewnol gyda’r bwriad o ail agor yr Amgueddfa efallai mor gynnar a 2013.
                Ychydig o wrthrychau sydd ar ol yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd gan fod y gwaith adeiladu ar y gweill, ac  er nad oes fawr i’w weld rydym yn cael sgwrs frwdfrydig a hynod ddiddorol am gynlluniau’r criw gwirfoddol sydd yn gofalu am yr Amgueddfa. Peth braf iawn yw gweld y fath frwdfrydedd ac angerdd gan Jamie, siaradwr Cymraeg, archaeolegydd, yn sicr bydd y gwr ifanc yma yn gwneud cyfraniad yn y dyfofol a gobeithio wir y gallwn sicrhau fod yna waith iddo yma yng Nghymru.
                Wrth gerdded yn ol am ganol y dref, mae Jamie yn son am hanes hen dai, yn dangos hyn a llall i mi, eto mor braf cael rhywun yn ymddiddori yn yr Hanes lleol yn ogystal a’r hanes penodol sydd yn gysylltiedig a’r mor yn y rhan yma o’r byd. Wrth ffarwelio a Jamie a throi mewn i Caffi Penwaig am ginio buan dyma daro mewn i un arall o drigolion Nefyn a chael hanes y ddwy Eglwys, yr hen Eglwys lle mae’r Amgueddfa a’r Eglwys newydd a adeiladwyd gan y “crach” mae’n debyg gan fod yr hen Eglwys ddim yn plesio a sut bu iddynt fynd yn brin o arian felly does dim twr ar yr Eglwys newydd.
                Ar y bore Mawrth canlynol rwyf yn cyfarfod  a Shirley Williams, swyddog addysg yn Amgueddfa Llandudno. Rhag fy nghywilydd, dyma’r tro cyntaf i mi fynychu’r amgueddfa hynod hon ac yn wir, dyma berlan o amgueddfa a agorwyd yn wreiddiol ym 1927.. Gan ein bod yn Llandudno byddai rhywun yn disgwyl gweld gwrthrychau o Ogof Kendrick ond mae’r gwrthrych “pwysicaf” yn yr Amgueddfa Brydeinig,sef  yr awgwrn gen ceffyl addurniedig. O bosib dyma’r esiampl o waith celf cynharaf yn y walad.
                Heddiw mae modd gweld hologram o’r asgwrn, ac o feddwl fod unrhyw wrthrych o’r fath ym mynd i fod tu cefn i wydr, prin byddai rhywun yn sylweddoli. Rhyw dro yn ystod 1880au bu ychydig o waith clirio yn hytrach na cloddio yn yr Ogof gan Thomas Kendrick a daethpwyd o hyd i esgyrn dynol yn perthyn i oleiaf pedwar person yn osgystal ac esgyrn mochyn daear, ceffyl, gafr ac arth. Y gwrthrych arall diddorol or ogof oedd y danedd gyda tyllau, mwy na thebyg yn ffurfio mwclis un o’r trigolion cynhanesyddol yma.
                Hefyd o ddiddordeb mawr yn Amgueddfa Llandudno mae gwrthrychau o waith cloddio P.K Baillie Reynolds o Brifysgol Aberystwyth rhwng 1926 a 1929 yng Nghaerhun (Canovium), Dyffryn Conwy, sef y Gaer Rhufeinig sydd gyda Eglwys ddiweddarach yn un cornel. Mae hyd yn oed yr enw P.K Baillie Reynolds yn ddigon i godi chwilfrydedd, braidd fel Mortimer Wheeler – enwau da ar gyfer archaeolegwyr – ond eto mae’n siwr fod y bobl yma yn perthyn i’r dosbarth breintiedig yn hytrach nac yn feibion fferm neu yn feibion i chwarelwyr – nid Cymry Cymraeg oedd gyda’r adnoddau pryd hynny i ymwneud a gwaith cloddio.
                Felly dyna’r ail ymweliad bendigedig, a’r ail groeso cynnes. Daeth y trydedd ar y Dydd Iau canlynol yn dilyn gwahoddiad i fynychu agoriad arddangosfa’r cerflunydd o Flaenau Ffestiniog , David Nash yn Oriel Mostyn neu’r Mostyn fel y gelwir yr oriel erbyn heddiw. Roedd mynychu’r agoriad swyddogol ar y Nos Wener yn amhosib oherywdd galwadau eraill, piti achos dyma hefyd noson i gydnabod cyfraniad arbenig ac arloesol y curadur Martin Barlow sydd yn ymddeol. Ond daeth Nia Roberts, swyddog marchnata Mostyn ar ei cheffyl gwyn a rhoi gwahoddiad i mi ddod draw y pnawn Iau gyda  swyddogion y Wasg i gyfarfod Nash.
                Cyflwynwyd mi i Nash ond roedd yn rhy brysur yn llofnodi llyfrau i ddangos diddordeb ynddof. Diolch byth nad oeddwn yma i wneud cyfweliad ac e meddyliais. Ond rwyf wedi hen arfer ac “artistiaid anodd” drwy fy ngwaith yn y Byd Pop. Cynigiais ei helpu i lofnodi, gan ffugio ddipyn o lofnodion, ond welodd o ddim y joc. Gadewais Nash a dychwelais yn ol i’r cyntedd hefo Nia. Unwaith etpo dyma Nia yn neidio ar y ceffyl gwyn gan gynnig i mi aros am hanner awr arall a chael mynd ar daith o’r arddangosfa gyda Nash  gan ei fod wedi cytuno i dyws athrawon ysgol o amgylch yr oriel.
                Rhaid dweud fod Nash yn siaradwr brwd a hynod diddorol, gallai fentro wneud mwy o gyfweliadau awgrymaf yn garedig. Siradaodd am ei gerfluniau o bren a fe fu rhaid i’r sinig ynddof gyfaddef fod yma ddawn a gweledigaeth ond fel roeddwn yn dod i fwynhau’r sgwrs dyma Nash yn son fel i un cerflun (pelen grwn anferth o bren) ddisgyn i afon yn ddamweiniol ac iddo ddilyn hynt a helynt y darn pren yn yr afon dros 25 mlynedd a ffilmio’r cyfan. Mynegodd fod y pren yn amlwg i fod yn yr afon a dyma fi yn troi yn sinig unwaith eto !!!
               

Herald Gymraeg 12 Hydref 2011 Eglwys Pistyll.

Yn ol y son fe sefydlwyd Eglwys Sant Beuno, Pistyll gan y Sant ei hyn er mwyn iddo gael osgoi holl fwrlwm a phrysurdeb yr Eglwys yng Nghlynnog Fawr a hyn rhywdro yn ystod y 6ed Ganrif. Bellach wrthgwrs mae rhywun yn tueddi i feddwl am Eglwys Pistyll fel rhan o’r eglwysi penodol ar afordir Gogleddol Penrhyn Llyn sydd ar Lwybr y Pererinion. Ond mae’n ddiddorolol iawn meddwl am Sant yn gorfod ffoi rhag llwyddiant ei eglwys ei hyn er mwyn iddo gael y llonyddwch angenrheidiol i gael agosatrwydd at Dduw.
                Gyda’r holl eglwysi hynafol yma, cwestiwn da yw faint o’r adeiladwaith presennol, os o gwbl, sydd yn dyddio yn ol i gyfnod y Seintiau. Y tebygrwydd yw mae adeilad syml o bren fyddai’r lloches gyntaf gan y rhan fwyaf o’r seintiau a mae yn ddiweddarach wedyn daeth yr adeiladwaith o gerrig. Yn wir yn y rhan fwyaf o’r Eglwysi hynafol yma mae rhwyun yn gweld cyfnod ar ol cyfnod o adeiladu, ychwanegu, ail godi nes fod rhwyun yn aml iawn yn edrych ar glytwaith cymhleth, ac ar adegau anealladwy, o wahanol gyfnodau ac arddulliau  pensaerniol.
                Yn ol y son mae ochr orllewinol yr Eglwys yn dyddio o’r 12fed Ganrif, a’r ochr ddwyreiniol wedyn yn dyddio i’r 15fed Ganrif. Ar un adeg doedd dim ffenestri yng nghorff yr Eglwys gan fod y werin bobl yn anllethrennog a felly ddim angen gallu gweld er mwyn darllen. Doedd yna ddim seddau iddynt chwaith, felly y disgwyl oedd iddynt sefyll neu i benlinio. Yn y gangell oedd yr unig ffenestri. Er hyn roedd lle i rhai oedranus neu sal i gael eistedd ar silffoedd carreg ar ochr y wal a mae olion y silffoedd yma i’w gweld yn y gangell.
                Bydd yr ymwelydd heddiw yn gweld to pren, lle bu unwaith to gwellt a hefyd un o’r nodweddion mwyaf diddorol am Eglwys Pistyll yw’r arfer o roi gwellt ar y llawr. Ers 1969 bu’n arferiad i addurno’r Eglwys gyda pherlysiau meddyginiaethol gwyllt a hynny tair gwaith y flwyddyn, adeg y Nadolig, Pasg a Chalan Awst. Yn sicr mae hyn yn rhoi naws ac awyrgylch arbenig i’r Eglwys.
                Nodwedd arall arbenig yw’r bedyddfaen hynafol gyda ei cherfluniau cylchog arbenig sydd yn plethu i’w gilydd. Awgrymir gan Gymdeithas Geltaidd Glasgow fod y ddwy res o leision addurnedig  yn cyfleu y syniad o fywyd heb ddechrau na ddiwedd.
Mae’r Eglwysi hynafol  ’ma yn gafael wyddoch chi a storiau arall sydd yn gysylltiedig a Phistyll yw’r ochr meddyginiaethol, yr hen ysbyty ar Fryn Cefnedd a’r caeau lle arhosia’r claf gyda enwau fel Cae Hosbis a Chae Eisteddfa. Yn wir mae’r ffenestr yn yr ochr Ogleddolyr Eglwys  hyd heddiw yn cael ei chyfeirio ati fel Ffenestr y Gwahangyflwyr. Dyma lle roedd y trueniaid yn cael sefyll ar y tu allan ac edrych i mewn ar y gwasanaeth !
Ger llaw mae ffynnon sanctaidd ond mae llechi trwm yn cuddio’r ffynnon. Mae yma arwydd taclus ond dim modd rhoi eich llaw yn y dwr. Ymdrechais i symud ychydig ar y llechi ond mewn ofer. Pam gorchuddio’r ffynnon ? Onid dyma stori Ffynnon Aelhaearn yn Llanaelhaearn, dan do a than glo, ffynnon Santes Fair yn Nefyn, eto  dan glo. Yw fandaliaeth mor ddrwg a hynny ym Mhen Llyn ? Os felly mae angen ymdrechu i greu fwy o falchder ac ymwybyddiaeth o fro a hanes ymhlith y bobl ifanc golledig yma ? Ar agor i’r cyhoedd mae Ffynnon Santes Fair ym Mryncroes – pam y gwahaniaeth ?
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen a’r tir cyfagos a mae modd cerdded drosodd am Benrhyn Glas a thrwy’r chwarel wedyn i gyfeiriad Canolfan Nant Gwrtheyrn felly hawdd iawn fyddai gwenud diwrnod neu prynhawn da iawn o ymweld a’r hen Eglwys a wedyn cerdded drosodd am Nant Gwrtheyrn. Awr union gymerodd i mi gyrraedd y caffi yn Nant Gwrtheyrn (a hwnnw er mawr siom yn gaeedig) felly ewch ar y penwythnos yr adeg yma o’r flwyddyn !
Rheswm arall dros ymweld a Mynwent Pistyll oedd i gael hyd i garreg fedd yr actor Rupert Davies. Rwan does dim pwrpas gofyn i bobl leol am garreg fedd Rupert Davies achos mae pawb yn ei adnabod fel “Maigret”. Maigret oedd y gyfres deledu rhwng 1960 -63 a oedd yn seiliedig ar storiau Geoges Simenon a’r cymeriad Commissaire Jules Maigret, y ditectif hynod hwnnw. Gall rhywun ddychmygu’r cynnwrf ym Mhistyll wrth gael actor enwog yn byw yn eu plith.
Yn ol y son, ar ol i Rupert Davies gael cynnig y rhan gan y cynhyrchydd Andrew Osborn bu i Simenon gyhoeddi  “C’est Maigret, c’est Maigret, chi yw cnawd ac esgyrn Maigret” a bu Simenon yn gyfrifol wedyn am hyfforddi Davies yn ffyrdd ac arferion anarferol ac od cymeriad y ditectif.
Ganed Davies yn Lerpwl ym 1916, felly dydi’r syniad o ymddeol i Ogledd Cymru efallai ddim mor anarferol a hynny. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn y Llynges ac yn dilyn damwain awyren cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a bu’n garcharor yn y carchar enwog Stalag Luf III ac yma cychwynodd ei yrfa fel actor, yn diddanu’r carcharorion eraill.
Rydym yn cofio Davies yn action mewn cyfresi fel Quatermass II, The Champions ac Arthur of the Britons ar y teledu ac yn ddiddorol iawn o ystyried fod dehongliad newydd o “The Spy Who Came in from the Cold” ar fin cael ei rhyddhau fe chwaraeodd ran Geroge Smiley yn y ffilm wreiddiol ym 1965.
Wrth gyrraedd mynwent Pistyll fe welwch hen bwll pysgod y mynaich ar eich ochr chwith a wedyn wrth fynd drwy fynedfa’r fynwent mae “bedd Maigret” i fyny ar yr ochr dde ger wal y fynwent, yn garreg las o lechan gyda ysgrifen aur. Bu farw Rupert Davies ym 1976.
Pwy fysa’n dychmygu fod cymaint o bethau gwahanol o ddiddordeb yn rhywle fel Pistyll, a mae hyn heb ddechrau son am Tom Nefyn ! Dyma Eglwys hynafol gyda naws arbennig. Dyma safle holl bwysig ar Lwybr y Pererinion ac os di hynny ddim at ddaint pawb dyma gysylltiad hefo’r ffilm “The Spy Who Came In From The Cold”  - rhywbeth i bawb !

Herald Gymraeg 19 Hydref 2011 Mynediad i Henebion

Rhwystredigaeth yw’r ddolen gyswllt yr wythnos hon a’r hyn sydd dan sylw yw’r anhawster ar adegau i sicrhau mynediad i rai o’n henebion ni yma yng Ngogledd Cymru. Fe soniais yn y golofn yr wythnos dwetha am rai o ffynhonnau Llyn sydd dan do a dan glo. Efallai fod hynny yn angenrheidiol nes fod “ymddygiad gwrth-gymdeithasol” yn cael ei ddatrys a dyma mae’n debyg yw’r rheswm fod Tomen y Bala bellach dan glo.
                Yn gwisgo fy het “dysgu” roeddwn wedi treulio bore bendigedig yn Ysgol y Berwyn, a rhaid dweud mae dyma’r disgyblion ysgol / pobl ifanc mwyaf cwrtais i mi eu cyfarfod ers amser. Yno i son am gychwyn busnes fel rhan o gynllun Dynamo (Menter a Busnes)  oeddwn i a phleser oedd cael dosbarth o bobl ifanc 14 oed yn gwrando ac yn trafod. Anodd gennyf gredu fod unrhyw broblemau gwrth-gymdeithasol yn y Bala o ystyried y fath gwrteisi a welais yn Ysgol y Berwyn.
                Ar ol gorffen yn yr Ysgol fe es draw i Gapel Tegid i dynnu llun o gofeb Thomas Charles, galwais heibio am sgwrs yn Awen Meirion, cefais ginio ardderchog yn Caffi’r Cyfnod a wedyn ymlwybrais draw am yr hen domen (caeedig). Unwaith eto dim ond croeso a chwrteisi a welais ar strydoedd Bala, yr Iaith Gymraeg oedd iaith y stryd a phawb yn trio eu gorau i gael hyd i’r goriad i mi gael cerdded i ben y domen.
                O gopa’r domen mae cynllun strydoedd Balw i’w gweld ac yn benodol y drefn grid sydd yn nodweddiadol o hen drefi canol oesol lle roedd y tir yn cael ei rannu mewn plotiau “burgage” ymhlith y trigolion. Ond chefais i ddim y profiad yma, ofer oedd chwilio am y goriad, ac yn y diwedd penderfynais ar dacteg wahanol. Dyma dynnu lluniau drwy’r ffens fawr oedd yn gwarchod y castell. Mae gennyf luniau tebyg o ran cyfleu y rhwystr rhag mynediad o Gor y Cewri drwy’r  ffens weiran o amgylch y safle.
                Y peth arall od am Domen y Bala yw fod yr holl beth wedi ei dirweddu, mae yna lwybr i’r copa, a choed wedi eu planu – a hyn ar safle hen gastell Normanaidd o’r 11eg neu 12fed Ganrif. Ni chefais fy argyhoeddi o gwbl gyda’r “tirweddu” er fel y deallais fod hyn wedi creu gwaith i bobl ifanc oedd angen gwaith sydd bob amser yn rhywbeth i’w ganmol mewn egwyddor.
                I’r gogledd o Lyn Tegid, mae cymaint a phedair safle lle codwyd cestyll o bridd a phren - sef ar hyd lannau’r Dyfrdwy, rhai yn Normanaidd ac eraill o bosib yn rhai Cymreig, yr holl gestyll yn awgrymu fod rheoli a chadw threfn ar yr adral yma wedi bod yn bwysig yn ystod y Canol Oesoedd. Tomen y Bala yw un o’r mwyaf o ran maint a’r awgrym felly yw mae yma oedd canolfan maerdref ardal Tryweryn.
                Ar daith arall bu i mi daro mewn i Nefyn, eto cael cinio rhagorol y tro yma yn Nghaffi Penwaig,  ac i ddefnyddio iaith disgyblion ysgol dyddiau yma, mae wy, pys a sglodion Caffi Penwaig yn haeddu “A- Serenog”. Dros y ffordd a’r caffi mae’r hen dwr gwylio, yn amlwg newydd ei atgyweirio. Ond unwaith eto dan glo. Unwaith eto rhaid dringo ar ben wal a thynu llun dros y ffens. Dim byrddau dehongli, dim mynediad. Piti.
                A’r engraifft olaf yr wythnos hon, a hyn ychydig yn wahanol ac i ddweud y gwir yn hollol eithriadol. Yn gwisgo fy het “darlithydd” mae gennyf ddosbarth Dysgu Cymraeg / Archaeoleg (Dysgu Gydol Oes) drwy Brifysgol Bangor bob bore Mercher yn festri Capel Ebenezer, Llanfairpwll, rwan fel yr arfer rydym yn cael egwyl am baned tua’r hanner amser a dyma un o’r dosbarth yn sylwi fod rhywun wedi dringo i ben Twr Ardalydd Mon. Yr argraff gyntaf oedd fod rhywun ar fin neidio o ben y twr mewn gweithred o huanladdiad dramatig dros ben nes i ni sylweddoli fod mwy nac un ar y twr ac yn wir fod rhaffau yn eu clymu rhag disgyn.
                Dipyn o ddirgelwch felly, efallai fod yna waith cynnal a chadw ar y golofn, felly dyma ddychwelyd at y dosbarth. Ond roedd gormod o chwilfrydedd gennyf i deithio yn syth adre felly dyma benderfynu cael dro bach i weld beth oedd yn digwydd ar ol cloi’r festri. Wrth gyrraedd y bwthyn bach lle mae rhywun yn talu mynediad i gael cerdded y 115 stepan i ben y twr dyma gael gwybod nad oedd posib mynd i fyny’r twr ar y diwrnod hwn.
                Dyna siom meddyliais. “Oes gwaith cynnal a chadw felly ?” Yr ateb oedd fod myfyrwyr Coleg Llandrillo yma yn dringo ar y twr – un o’r cyrsiau “magu hyder” - drwy ddringo lawr o uchder – felly roedd y golofn wedi ei chau i’r cyhoedd ond roedd croeso i mi aros a gwylio am ychydig. Unwaith eto dyma glywed lleisiau Cymraeg yn uchel uwch fy mhen, 112 troedfedd i fod yn fanwl gywir, a dyma wylio disgyblion o Bwllheli yn trechu unrhyw ofnau ac yn disgyn yn esmwyth ger eu traed wrth ddal y rhaff gan daro’r ochr nawr ac yn y man gan ddisgyn i lawr troedfeddi ar y tro.
                Diddorol iawn, dim gormod o rwystredigaeth gan fy mod yn Llanfairpwll bob bore Mercher am y deg wythnos nesa felly bydd digon o gyfle i mi gael troedio’r 115 stepan yn yr wythnosau i ddod. Efallai mae’r awgrym caredig yw fod angen cyfeiriad neu rhif ffon os yw’r henebion yma yn mynd i fod dan glo, a fod y broses o gael hyd i a benthyg y goriad yn un gymharol hawdd achos mae yna bobl allan yna hefo diddordeb ac sydd yn sicr o barchu’r henebion.