Wednesday 29 May 2019

Cadw Dy Blydi Chips, Herald Gymraeg 29 Mai 2019





‘Cadw dy blydi chips’

Tydi rhywun byth yn blino ar ymweld a Chastell Dolbadarn, Llanberis. Wythnos yn ôl cefais wahoddiad gan Gymdeithas Hanes Llansannan i arwain taith dywys iddynt o amgylch y castell. Roedd y criw wedi cael eu cinio yn barod wrth i ni gyfarfod ger y bont droed lechan dros Afon Hwch / Afon Arddu ger y llwybr am y castell. Ar drip ar fws am y dydd oedd criw Llansannan.

Dwi di rhoi ambell sgwrs iddynt yn y Ganolfan yn Llansannan felly tybiaf fod y gwahoddiad wedi dod yn sgil hynny. Cyfeiriais eu sylw at y bont droed sydd wedi ei wneud o un slaban hir o lechan cyn i ni ddechrau dringo at y castell. Rhyfeddaf bob tro dwi’n croesi’r bont – sut goblyn llwyddodd pwy bynnag a gododd y bont i gael y llechan yn ei lle?

Ta waeth am alluoedd rhyfeddol y chwarelwrs ers lawer dydd, cyfeiriais hefyd at yr afon fel yr Afon Hwch. Tarddiad yr Hwch yw Llyn Dwythwch. Ond tydi pethau ddim mor syml yma oherwydd ger Ceunant Bach ar lethrau’r Wyddfa mae’r Hwch a’r Afon Arddu sy’n tarddu yng Nghwm Brwynog yn cydlifo. Felly pa afon yw’r cyfuniad o ddwy afon sydd yn llifo draw am Lanberis mewn gwirionedd?

Cwestiwn da medda fi pan dwi ddim yn siwr o’r ateb.




Mae dipyn o ddringfa cyn cyrraedd y castell a ger y giat mochyn i’r safle ei hyn mae bwrdd gwybodaeth yn cynnwys llun dyddiedig 1800, J.M.W Turner o Gastell Dolbadarn. Dyma’r llun o gasgliad yr Academi Frenhinol yn Llundain (Cyfeirnod 03/1383). Yn aml byddaf yn cyfeirio at hwn fel fy ‘hoff lun’. Tro arall bydd ‘Y Bardd Olaf’ gan Thomas Jones (casgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru) yn ennill fy mhelidlais a throeon arall mae portread Catrin o Ferain eto yn yr Amgueddfa Gen yn achub y blaen.

Heb os mae Turner wedi gor-amlygu’r graig lle saif y castell, popeth yn fwy serth a miniog na’r gwirionedd. Wedi’r cyfan dyma’r cyfnod ‘Rhamantaidd’, gyda tirluniau dramatig mewn ffasiwn. Yng ngwaelod ffram Turner gwelir Owain Goch y carcharor, yr hwn a fu yn garcharor yn y castell am ugain mlynedd. Ei frawd, Llywelyn ap Gruffudd oedd yn gyfrifol am ei garcharu - rhag i Owain geisio cipio Gwynedd oddi ar ei frawd. Dyna sut oedd y pethau yn y 13eg ganrif.

Tŵr crwn sydd i Dolbadarn ac yn ôl yr archaeolegydd Spencer Smith y ‘blueprint’ os mynnwch ar gyfer y gorthwr yma yn Nolbadarn yw Tŵr Wakefield yn Nhŵr Llundain. O bosib – ond os yw Spencer yn gywir bydda gorthwr Dolbadarn yn hwyrach na adeiladwaith Llywelyn ab Iorwerth yn y 1220au. Os felly a oes dau gyfnod o adeiladu penodol yn Nolbadarn? Y cysylltfur allannol o’r 1220au a wedyn y tŵr crwn o’r 1230au hwyrach?

Rhywbeth arall mae Spencer wedi drafod yw pwysigrwydd Dolbadarn fel llys neu balas brenhinol. Roedd gan Llywelyn Fawr a Siwan eu siambrau a’u neuaddau eu hunnan. Ond yn fwy diddorol byth, awgrym Spencer yw fod Siwan hefo gardd ei hyn ar ochr orllewinnol y castell. Gardd symudol fydda rhywbeth fel hyn. Planhigion mewn potiau sydd yn symud gyda’r dywysoges neu’r teulu Brenhinol wrth iddynt symud o gastell i gastell. Wrth feddwl am yr ardd frenhinol a siambr Siwan mae’r holl drefn a’r pomp canol oesol yn dod yn fyw ac yn tanio’r dychymyg.



Awr yn ddiweddarach mae criw Llansannan yn nol ar y bws ac yn barod am eu hymweliad nesa. Dwi’n ffarwelio a throi am ganol y pentre. Mwg o de yn ddiweddarach yng nghaffi Pete’s Eat a rwyf yn cael ail wynt.

Gan fod Stryd Goodman gyferbyn a chaffi Pete’s Eat, croesais y ffordd er mwyn talu teyrnged i T. Rowland Hughes, y bardd a’r awdur sydd yn cael ei gydnabod fel yr awdur cyntaf i gynnwys rheg mewn llenyddiaeth fodern Gymraeg. Anghofiwn am gerddi glas Dafydd ap Gwilym am y tro – roedd hynny yn bell yn ôl.



Yn 20 Stryd Goodman y ganwyd ef a chawn gofeb lechan ar y wal yn datgan: “YMA Y GANED T. ROWLAND HUGHES, LLENOR A BARDD 1903-1949, Tydi a roddaist”. Prin bydda rhywun yn sylwi – ond mae’r lechan yna.
Wedi fy ysbrydoli gyda’r dyfyniad  o William Jones (1944) ‘cadw dy blydi chips’, dyma grwydro naill ochr i’r Stryd Fawr, ac o un pen i’r llall – ddwywaith felly yn cyfri faint o siopau ‘chips’ sydd yn Llanber. Dim ond un go iawn ‘traddodiadol’ a wedyn un ‘takeaway’ Tseiniaidd ac un Indian.

Defnyddiais y dull seico-ddaearyddol o grwydro naill ochr i’r Stryd Fawr yn nodi gwahanol siopau a defnydd o adeiladau. Sylwais ar y lliwiau, yr enwau, cymnaint o B&Bs a siopau awyr agored. Efallai dyliwn fod wedi cyfri faint o campervans £30-40,000 aeth heibio yn ystod fy arolwg. Pobl golygus gyda dreadlocks a lliw haul. Dringwrs o Loegr wedi ymgartrefu yma ar gyfer y bywyd braf.

Mudo i’r Pyllau Glo i chwilio am waith oedd hanes William Jones druan. Stori tebyg oedd un fy hen ewythr, Dafydd Thomas, yn gorfod gadael Cilgwyn yn y 1930au am Gymoedd y De am waith pan roedd y diwydiant llechi ar i lawr.

Rhyfedd sut mae rhywun yn mynd o Lywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd i T Rowland Hughes a William Jones mewn llai nac awr – ond dyna sydd yn digwydd wrth gerdded – cerdded drwy amser.



Friday 17 May 2019

Diolch Byth am y Gwrachod, Herald Gymraeg 15 Mai 2019







When the gallow-wood cracked
And knocked beneath my feet
I embraced the softness of clean
Fabric, imagined dancing
Myself into darkness. I fell. 
                                                            Mari Ellis Dunning


Gwen Elllis neu Gwen ferch Ellis o Ddyffryn Clwyd oedd y ferch gyntaf i gael ei chrogi am fod yn wrach yng Nghymru. A hynny ar ôl colli dau os nad tri gŵr yn y blynyddoedd yn ystod chwarter olaf y 16eg ganrif. Pechod Gwen oedd bod yn iachäwr. Roedd ganddi’r ddawn a’r gymwynas o roi cymorth i bobl oedd yn sâl. Efallai fod gwasanaethu fel hyn yn dod a mymryn o fwyd neu gynnyrch i mewn i’r tŷ iddi ar ôl colli ei gwŷr.

Daw’r bennill uchod o gyfrol ddiweddara’r bardd a’r awdures Mari Ellis Dunning. Cyfrol bwerus (Parthian). Cyfrol o gerddi sydd yn tywys y darllenydd drwy a thros foroedd o emosiynau – yn ddi-ofn, yn agos iawn at y pridd. Ar adegau mae grym geiriol y cerddi yn fy atgoffa o nofel Marion Eames Y Stafell Ddirgel. Yn agos at y pridd yn yr ystyr fod y ‘punches’ yn hitio canol y targed fel bwa saeth syth. Yn rhwygo emosiynau rhywun yn y modd mwyaf brwnt.

Onid y dorf feddw wallgof, y ‘baying mob’, sydd yn mynnu fod Betsan Prys yn cael ei boddi am fod yn wrach ym mhennod gyntaf Y Stafell Ddigel. Rhywbeth tebyg sydd yn cael ei gyfleu mewn gwirionedd. Creulondeb y dorf anllythrennog. Di-addysg. Hurt. Hawdd eu dylanwadu. Ymfalchio mewn rhagfarnau. Bron yr atgoffir rhywun o’r Brexiters ymhlith cynulleidfa rhaglen Question Time yn wythnosol. Blin a boch-goch.

Boddi yn y Wnion fu tranc Betsan Prys heb unrhyw lys barn, dim ond llys y werin bochgoch. Y gadair goch ger y Bont Fawr. Diwedd. Cael ei chrogi wnaeth Gwen Ellis. Erchyll. Ond, o roi cyd-destyn i hanes Gwen Ellis - pwy oedd yn gwneud yr erlid? Esgob Llanelwy, William Hughes. Gŵr a gynorthwyodd William Morgan i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Arwr o ran achub yr Iaith.

Jest fod o yn hoff o grogi merched. Ar y Beibl. Yn enw Duw. Hmmm, dyma chwalu chydig ar fytholeg Beibl William Morgan felly. Run Christian Run. Yn enw crefydd, yn enw Duw – rhyfedd sut fod Duw mor wrth-ferch. Medda’r dynion. Mewn grym.

Nid mwynhau darllen cerddi Mari Ellis Dunning mae rhywun o reidrwydd ond neidio ar ‘rollercoaster’ yn y ffair a gwibio heibio merched ar grogbrennau. Amrwd fel cerddoriaeth y blues. Devil Music.

Wrth feddwl mwy am y syniad yma o wrachod yn cael eu herlid gan ddynion. Mae’n debyg byddai Mari Ellis Dunning petae hi yn byw yn Nyffryn Clwyd yn y 16eg ganrif, chydig bach rhy agos i William Hughes, wedi dilyn Gwen i’r grogbren munud bydda’r gyfrol Salacia wedi ei gyhoeddi.



Gwrach arall fydda ddim wedi goroesi fydda’r gantores Lleuwen. Canu’r blues a chanu soul mae Lleuwen, hyd yn oed ar ei mwyaf gwerinol neu mwyaf jazz. Fel soniais mewn colofn ddiweddar mae CD diweddaraf Lleuwen, ‘Gwn Glan, Beibl Budr’ wedi derbyn canmoliaeth uchel ac yn haeddianol felly. Wrth wylio Lleuwen yn rhedeg yn droednoeth ar lwyfan Pontio nos Wener dwetha gan ddechrau ei pherfformiad gyda cordiau pwerus Myn Mair ar y gitar – doedd dim dwy waith fod yma wrach yn canu.

Diolch byth ein bod yn y 21ain ganrif neu bydda dynion y Beibl wedi ei llusgo oddiar y llwyfan tuag at yr Afon Adda heb betruso am eiliad. O linach Mahalia Jackson, Nina Simone, Edith Piaf, Sister Rosetta Tharpe, Patti Smith, Etta James a Janis Joplin – os nid Nansi Richards a Llio Rhydderch. Artist hollol ddi-gyfaddawd. Artist go iawn.

Gwelais Patti Smith yn perfformio llynedd ym Manceion. Yn poeri ar y llwyfan, yn rhegi, yn wallt-lwyd ac yn 71 oed. Gwrach yn bendant. I’r Wnion a hi! O’r holl grwpiau pop dwi wedi weld dros y blynyddoedd roedd perfformiad Patti Smith yn y 5 uchaf. Wrth wylio Lleuwen nos Wener, nid fod rhywun yn cymharu, achos Lleuwen ydi Lleuwen, ond doedd dim gostyngiad yn y safon rhwng Patti Smith a Lleuwen mewn gwirionedd. Efallai fod Patti wedi bod wrthi am fwy o flynyddoedd a gyda mwy o LPs, mwy o ganeuon cyfarwydd.

Alffa

Ac eto roedd perfformiad Lleuwen nos Wener yn teimlo fel cyngerdd o ‘greatest hits’ – a roedd y mwyafrif o’r caneuon o’r CD diweddara ‘Gwn Glan, Beibl Budr’. Pontydd rhyfeddol.
Dros y penwythnos cefais y cyfle, a hynny am y tro cyntaf, i weld y grwp blues ifanc Alffa o Lanrug yn canu yng Ngwyl Fwyd Caernarfon. Pam datgan eu bod yn ifanc medda chi? Ffaith yndi. 18 oed ac yn chwarae a theimlo y blues. Rhyfeddol eto. Angerddol. Pwy a ŵyr faint o grwpiau pop dwi wedi weld yn canu dros y blynyddoedd a peth prin yw cael fy nghyffroi go iawn. Patti efallai, Lleuwen yn sicr – a dyma un arall, Alffa.

A bod yn onest nes i fwynhau pob eiliad. Dwi isho mynd i weld nhw yn canu eto. Mae nhw yn Llanberis mis Mehefin. Archebu tocyn rwan Mr Mwyn!

A byddech i’r gwrachod barhau i greu. Diolch byth amdanynt. Dwi’n sgwennu am hyn achos fod hyn yn bwysig nid diddorol. Hanfodol nid da. Rhy bwysig i’w anwybyddu. Rydym yn gweld creadigrwydd Cymreig yn camu yn agosach at y Nefoedd yma, yn ddi-gyfaddawd a bydd unrhyw gadair goch neu grogbren yn cael eu chwalu’n rhacs cyn unrhywun orffen dweud ‘gwrach’.

Thursday 2 May 2019

CD Box Set Steve Eaves, Herald Gymraeg 1 Mai 2019





Mae cân gan Steve Eaves o’r enw ‘Nigger Boi John Boi Cymro’. Ymddangosodd y gân yn wreiddiol ar yr albym Sbectol Dywyll. Efallai mai’r disgrifiad gora o’r gân yw ‘beltar’, tempo cyflym, cân brotest, cân angerddol. Atgoffir rhywun o Springsteen ‘Born to Run’.

Bellach mae’r gair ‘nigger’ yn annerbyniol – hyd yn oed mewn cân brotest. Dwi’n gwybod hyn achos cha’i ddim chwarae’r gân ar fy sioe radio nos Lun ar BBC Radio Cymru. Nid fy mod yn cwyno o gwbl am hyn – mae’r oes wedi newid a’r ffin wleidyddol gywir wedi symud gyda’r amser. Ydi – mae hi’n gân dda ond dwi ddim yn siwr ynglyn a’r gair ‘N’ – hyd yn oed mewn cân brotest a chyd-destyn gwleidyddol.

Deallaf y cyd-destyn gwleidyddol i raddau, fe wnaeth y Trwynau Coch rhywbeth tebyg gyda’r gan ‘Niggers Cymraeg’. Engraifft arall o gân angerddol ac alaw fachog ond mae’r un gair yna yn golygu na fydd modd ei chwarae.

Mae’n debyg y bywddwn i yn chwarae’r caneuon petae polisi’r BBC yn caniatau a jest gweld os bydd yna ymateb. Doedd neb yn poeni yn ormodol am y geiriau pan rhyddhawyd y caneuon yn wreiddiol. Byddwn yn cyfiawnhau eu chwarae drwy ddadlau fod y caneuon yn perthyn i gyfnod. Ac yn amlwg nid oes unrhyw sentiment na agweddau hiliol yn perthyn i’r caneuon – i’r gwrthwyneb.

Felly – dyma drio rhoi fy sylwadau o fewn erthygl ar gyfer yr Herald Gymraeg. Os am dderbyn y ddadl fod y caneuon yn perthyn i’w cyfnod does dim modd eu golygu – dyma fel y cyfansoddwyd nhw. Gallwn restru caneuon protest Cymraeg lle mae’r cyd-destyn gwleidyddol wedi newid ond tydi hynny ddim yn reswm dros beidio eu chwarae.

Gall rhywun ddychmygu cân fel ‘Croeso Chwedeg Nain’ yn dod yn berthnasol unwaith eto petae William yn cael ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon. Mae pethau mwy gwallgof wedi digwydd. Neu beth am gân fel ‘Dŵr’ Huw Jones neu ‘Dryweryn’ Meic Stevens – pwy fydda wedi disgwyl i’r murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystyd ddod yn rhywbeth mor ddadleuol ac amserol yn 2019?

Fel rhywun dyfodd fyny yn y cyfnod Punk – dwi ddim yn rhywun sydd ynj cael ei ddychryn yn hawdd. I raddau felly tydi geiriau caneuon ddim yn debygol o fod yn achosi sioc na phoen meddwl. Ond hefyd fel rhywun dyfodd fyny yn y cyfnod Punk roedd neges grwpiau hiliol asgell dde fel Skrewdriver yn wrthyn – roedd pawb yn deall y gwahaniaeth rhwng corddi’r dyfroedd a hiliaeth.

Byddai neges Tom Robinson am fod yn falch o fod yn hoyw neu neges Steel Pulse yn gwrthwynebu’r Ku Klux Klan bob amser yn trechu casineb rhai fel Skrewdriver. Byddai Tom Robinson neu Steel Pulse yn eu trechu yn gerddorol hefyd.Bach iawn oedd dylanwad rhai fel Skrewdriver mewn gwirionedd – a diolch byth am hynny.

Un peth fydda yng nghefn fy meddwl gyda hunan sensoriaeth yw fod angen parchu deallusrwydd y gynulleidfa. Weithiau mae angen gwneud y gynulleidfa feddwl. Ond tydi trio dychryn y gynulleidfa jest er mwyn eu dychryn ddim yn dacteg ddigon da  bellach. Dyma rhywbeth mae colofnwyr yn ymrafael ac e yn gyson ynde – pa bwrpas sgwennu colofn?

Efallai mai’r peth sydd yn fy ‘mhoeni’ fwyaf am ddefnydd o’r gair ‘N’ gan grwpiau Cymraeg yw ein bod ar y cyfan yn groenwyn. Gadewch y gair ‘N’ i Chuck D neu grwpiau rap fel NWA. Gadewch i bobl groenddu benderfynu ar pryd a lle mae modd defnyddio’r gair. Ru’n fath gyda ‘queer’ – gadewch hynny i bobl hoyw benderfynu pryd mae’r defnydd yn briodol.

Cyfeiria Steve Eaves yn y gân fod angen rhywun i roi sglein ar y sgidia a fod angen rhywun i lanhau y toiledau. Yn sicr roedd hyn yn brofiadau cyffredin i’r dyn du dros y blynyddoedd a parhau mae’r arfer o gyflog isel a halwiau israddol am lanhau’r toiledau i’r mewnfwudwyr tlotaf boed rheini o ddwyrain Ewrop, y Phillipines neu ganoldir America.

Ond nid dyna profiad y Cymry ar y cyfan. Dyna lle efallai byddwn yn anghytuno hefo Steve neu’r Trwynau – beth bynnag sydd wedi digwydd i ni Gymry, Welsh Not, Tryweryn, Streic Fawr Penrhyn, Aberfan – tydi hynny ddim yr un profiad a chaeswasiaeth. Tydi’n ‘shit’ ni ddim cweit mor ddrwg a beth ddigwyddodd i’r dyn du dros y canrifoedd diweddar.

Gan droi yn ôl at y caneuon. Penderfyniad yr artist a’r cyfansoddwr fyddai unrhyw olygu neu newidiadau. Er mwyn eu chwarae ar y radio byddwn yn dweud wrth Steve a’r Trwynau unai i ail recordio’r gair hefo rhywbeth arall neu i wneud be mae nhw’n alw yn ‘radio edit’. Fy nadl i yw fod y caneuon mor dda – mae’n biti na chawn eu chwarae.

Anghyfforddus fydda rhywun hefo sensoriaeth ac ymyraeth – ers pryd mae unrhyw gelf a chreadigrwydd i fod i gydymffurfio? Does dim ateb gennyf go iawn. Dwi ddim yn trio cynnig ateb chwaith – jest rhoi sylwadau ar bapur er mwyn colofn papur newydd.

Fy ffrind Owen Cob, dyn a brwdfrydedd am y ‘Blues’ sydd wedi fy ail-gyflwyno i Steve Eaves. Dwi newydd brynu’r Box Set ‘Ffoaduriad’ ac rwyf wrth fy modd yn pori drwy ganeuon Steve – o’r blues i’r gwerinol. Heb os dyma artist Cymraeg sydd wedi cadw ei hyn allan o’r hwrli bwrli, cadw hyd braich o unrhyw sîn neu ffasiwn ac o ganlyniad wedi creu corff o waith, corff o ganeuon sydd yn gweiddi am gael eu ail darganfod.

Edrychaf ymlaen i chwarae mwy o Steve Eaves ar nosweithiau Llun ar y radio.