Wednesday 7 December 2011

30 llyfr am yr SRG (ddim mewn trefn a mwy i ddod yn amlwg !)


Ers dechrau gweithio ar y rhestr yma, a son am greu 10 Uchaf o lyfrau am yr SRG dyma sylweddoli fod cymaint o lyfrau. Mae'r rhestr yn dal i dyfu, diolch i bawb am gyfrannu yn enwedig Lefi @ y Lolfa, mi fyddaf yn dibynnu arno yn y diwedd i wneud yn siwr fod pob llyfr ar y rhestr !
Erbyn hyn dwi'n teimlo fod hwn yn rhywbeth i'r Cyfryngau fynd ar ei ol o ran rhoi trefn ar y "Deg Uchaf" a chael barn y bobl ...........

1. Cam o'r Tywyllwch  Hunangofiant Rhys Mwyn. (Y Lolfa 2006)


"Fi di meddwl erioed bod Rhys yn wallgo. Yn Svengali yn hytrach na Mickey Mouse.Ond gyda angerdd aruthrol yn ei yrru, a dydi angerdd dros achos da rioed di bod yn beth gwael" Cerys Matthews ar y clawr cefn.


2. Atgofion Hen Wanc  David R Edwards



3. Mae Gen i Gariad (Stori Tony)  sef  Toni ac Aloma wrthgwrs - diolch i Geraint Lovgreen am fy atgoffa am hwn !

Gyda llaw roedd ail-argraffiad o'r llyfr yma gyda Tony ac Aloma mewn gwyrdd



A dyma'r nodiadau ar gefn y llyfr







 4. Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor   Dafydd Evans - diolch i Lefi @ Lolfa - dyma lle mae'r stori yn cychwyn yn sicr ! Maes B gan y Blew ydi'r record roc cyntaf yn y Gymraeg. Dwi am drio cael copi o gyfweliad estynedig Huw Prestatyn / LLmych hefo Dafydd Evans a'i roi ar y Blog.


Hwn oedd clawr y ffansin Llmych hefo'r cyfweliad estynedig hefo Dafydd Evans o'r Blew , Hydref 1986 - bydd hwn yn mynd fyny yn raddol dros yr wythnosa nesa



5. Gadael yr Ugeinfed Ganrif  Gareth Potter  - OK efallai mae sgript sioe lwyfan Potter oedd hwn ond mae'n dal yn lyfr cwl as f*** am yr SRG a mi fyddwn yn dychmygu yn gasgliadwy iawn - ond ar gael os fuo' chi i'r sioe ........


6. Sian James Cyfres y Cewri 34


"Bu ychydig o feirniadaeth ar y Cyfryngau am i Sian fod yn rhy ddihymongar yn ei llyfr. Ateb syml i hyn – mae gan Sian James fwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau 4 aelod yn eu cyfanrwydd – does dim angen i Sian ddweud dim, mae ei cherddoriaeth a’i chyfraniad i’r Byd Gwerin Cymraeg yn dweud y cyfan".  Rhys Mwyn Herald Gymraeg 28 Medi 2011

7. Y Tepot Piws  (Llyfr Pocad Tin)   Dafydd Mei.

8. Be Bop a Lula'r Delyn Aur (Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg),  Hefin Wyn (Y Lolfa 2002)
Hon oedd y Gyfrol "ddadleuol" yn dyfynu mwy o bapurau newydd nac o geg y cerddorion, dwi'n cofio ambell gerddor o'r cyfnod yn mynegi anfodlonrwydd am gywirdeb rhai ffeithiau ond rhaid cofio mae newyddiadurwr oedd Hefin Wyn. Fo fathodd y term "rocecer" i ddisgrifio swn y Trwynau Coch - ar y pryd roedd hyn yn ffurff fwy Cymreig o ddisgrifio'r gerddoriaeth  na defnyddio cyfieithiad gwael fel "y Don Newydd" am New Wave.

Yn ystod y lansiad yn Galeri Caernarfon cefais y cyfle i gyfweld a Hefin Wyn o flaen cynulleidfa fyw a fo oedd un o'r bobl anodda dwi rioed di gyfweld - dim yn un hawdd i'w gael i ymateb nac i drafod. Profiad od a dweud y lleiaf.

9. Ble Wyt Ti Rhwng ?     Hefin Wyn (y Lolfa 2006)

A dyma fi felly yn cael ymuno a'r cerddorion sydd am feirniadu Hefin Wyn. Doedd o yn sicr ddim o gwmpas yng nghyfnod y Sin Danddaearol, fuodd o rioed i gig Anhrefn ...... bla bla bla .... ond i gadw rhan Hefin o leiaf mae yna gyfnod, cytuno neu anghytuno oleiaf mae yna ddwy gyfrol yn cofnodi Hanes Canu Pop Cymraeg ac am hynny mae Hefin Wyn i'w ganmol.


10. Gwrando Ar Fy Nghan  Heather Jones


11. Sgrech 2005 Glyn Tomos

Diolch i Non Tudur am awgymu hwn - dwi am roi y Blwyddlyfrau Sgrech 1979-83 i fyny hefyd.

12. Cerddi Alfred St.   Geraint Jarman

un o'r cloriau mwyaf eiconaidd yn y Gymraeg, jarman + shades + wal a graffiti.

13. Al, Mae'n Urdd Camp (Cyfres y Beirdd Answyddogol) David R Edwards


14. Eira Cariad.  Geraint Jarman (Llyfrau Dryw 1970)




15. Y Tren Olaf Adref (Casgliad o Ganeuon Cyfoes)  golygydd Steve Eaves (Y Lolfa 1984)


16. Blwyddlyfr Sgrech 79  Glyn Tomos.


Grwpiau newydd 1979 oedd : Ail Symudiad, Baraciwda, Crach, Crator, Chwarter i Un, Rhiannon Tomos a'r Band,  Mr T Dunlop Williams a'r Anfodolion, Syr Goronwy a Trydan (Mods a Rocyrs) a Pal a Canwyll Corff.


17. Blwyddlyfr Sgrech 1980  Glyn Tomos.


Grwpiau newydd 1980 oedd : Angylion Stanli, Astronot, Clustiau Cwn, Crys, Doctor, Enwogion Colledig, Mwg, Weiran Bigog (aelodau Maffia sef Gwyn, Sion a Deins).



18. Blwyddlyfr Sgrech 1981


Erbyn 1981 mae grwpiau newydd yn cael eu galw yn "grwpiau bach" h.y nid yn "fawr" fel Bando, Jarman etc ac yn eu plith ,mae Maffia Mr Huws, Y Ficar, Clustiau Cwn ac Eryr Wen
.

19. Blwyddlyfr Sgrech 1982




Crys ar y clawr blaen.


20. Blwyddlyfr Sgrech 1983.



Ceffyl Pren ar y clawr blaen - ond tu mewn mae yna erthygl gan Robin Gwyn am gyhoeddi casetiau - y Sin Danddaearol - grwpiau fel Y Sefydliad, Treiglad Pherffaith, Sgidie Newydd a Datblygu. Mae yna hefyd erthygl / maniffesto gan Rhys Mwyn - the usual bollocks !!!

21. Y Sin Roc   Kate Crockett (y Lolfa 1996)


Super Furry Animals a Catatonia ar y clawr - dechrau Cwl Cymru. Llyfr i ddysgwyr.

22. Tony ac Aloma Cofion Gorau. (y Lolfa 2011)



23. Cofiant Ryan  Rhydderch Jones (y Lolfa)




24. Caneuon Ems (Caneuon Emyr Huws Jones)  Y Lolfa




25.  Mas o Ma    Meic Stevens (y Lolfa)




26. Meic Stevens Hunangofiant y Brawd Houdini  (y Lolfa)


a dyma'r Ail Argraffiad



27. Y Crwydryn a Mi  Meic Stevens




28. Sain Camau'r Chwarter Canrif   Hanes Cwmnsi Sain Recordiau Cyf 1969-1994



No comments:

Post a Comment