Wednesday 30 October 2013

Materion Materol Herald Gymraeg 30 Hydref 2013.


 
 

Cefais wahoddiad i agor arddangosfa ‘Materion Materol’, ac i anerch y gynulleidfa yn Amgueddfa Gwynedd yn ddiweddar a fedrwn i ddim peidio taflu dyfyniad Dr Eurwyn William i mewn i’r sgwrs. Eurwyn William gyhoeddodd yn y rhagair i’r llyfr  ‘Discovered in Time’ (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) “fod dim brodorion yng Nghymru ….. rydym oll yn fewnfudwyr”.

            Rwan neges Eurwyn oedd fod gwrthrychau sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn ein galluogi i ddeall y darn bach yma o dir yn well, i ddeall Cymru yn well, i ddeall pwy yda’ni yn well ac i greu gwell dinasyddion. Felly mae modd i’r Somali ym Mae Caerdydd (Tiger Bay) gael cysylltiad a’r lle drwy astudio’r gwrthrych – dyna’r syniad. Rwyf wedi son am hyn o’r blaen ond mae’n werth ei ail adrodd (a hynny yn aml).

            Gan fod ‘Materion Materol’ yn wahoddiad i artistiaid Cymreig ddehongli gwrthrychau sydd yn Amgueddfa Gwynedd teimlais fod gosodiad Eurwyn yn rhywbeth ddigon teg i daflu at y gynulleidfa a’r artistiaid – wedi’r cwbl, beth yw’r pwynt os nad yw hyn i gyd yn ysgogi trafodaeth a felly teimlais mae fy swydd i ar y noson oedd gwneud nhw feddwl chydig. Yr artistiad yw Carwyn Evans, Sian Green, Iestyn Gruffudd, David Hastie, Helen Jones a Wanda Zyboroska. Helen sydd wedi curadu’r arddangosfa.

            Dechreuais drwy herio’r iaith mae artistiaid yn ei ddefnyddio i ddisgrifio eu gwaith. Disgrifiadau (ansoddeiriau) anealladwy i unrhywun sydd ddim yn y Byd Celf, a synnwn i ddim, anelalladwy i’r artistiad hefyd. Ychydig ddydiau wedyn roeddwn yn gwrando ar Ddarlith Reith, ‘Playing to the Gallery’ ar BBC Radio 4 a dyma Grayson Perry (trawswisgwr / gwneuthurwyr crochenwaith) mwy neu lai yn dweud yr un peth. Darllenodd Perry lith rhyw artist cysyniadol ac ar ddiwedd y darn dyma fo yn cymeryd seibiant cyn ategu “…..nor me !”

            Rhaid dweud roedd Grayson yn wych yn y ddarlith, gyda hiwmor a gonestrwydd roedd yn herio’r gyfundrefn Celf am eu ‘helitiaeth-drwy-ddewis’ ac yn wir rhan o’r pwynt oedd gennyf yn Amgueddfa Gwynedd oedd herio dipyn ar yr artistiaid. Beth yw eich gwaith go iawn ? I bwy mae’r celf ? Be di pwrpas hyn i gyd ? Sut gallwn ehangu’r gynulleidfa ?

            Awgrymais yn garedig mae ein gwaith ni (colofnwyr, artistiaid, cerddorion) go iawn, yw cyfathrebu, heb gynulleidfa mae’r gwaith yn ddi-werth neu yn sicr yn cael ei ddi-brisio. Hynny yw, rhaid wrth gynulleidfa, rhaid wrth y gallu i gyfathrebu ac i gysylltu ac i effeithio ac i roi pleser ac i ofyn cwestiynnau. Wedyn awgymais fod rhaid i artistiaid heddiw fod yn trydar ac yn blogio – rhaid bod allan yna yn cyfathrebu neu mae’r celf yn aros fel rhywbeth hunanol a di-arffordd ?

            Roedd cerddorion o hyd yn dweud yn doeddan “dwi’n sgwennu i mi fy hyn ac os di rhywun arall yn hoffi’r gan mae o yn bonws”, wel fy ymateb i hyn oedd, da chi peidiwch a prynu CD gan unrhyw artist sydd yn dweud rwtsh o’r fath. Eto beth yw’r joban o waith ? Cyfeirias yn sydun at ‘Bloody Old Britain’ sef damcaniaethau O.G.S Crawford am archaeoleg a thirwedd gan awgrymu mae gweledigaeth Crawford sydd ei angen arnom os am fynychu amgueddfa, os am ail ddehongli gwrthrychau – rhaid dysgu i ddarllen y tirwedd ac i ddarllen gwrthrychau a wedyn mae’n bywydau yn gyfoethocach.

            Er mwyn esbonio fod hyn i gyd yn plethu, ac yn gwneud synnwyr, sef y darlun llawn , pregeth Cynefin a Chymuned os mynnwch, sef y cyd-destun, darllenais ddarn o waith T.H Parry Williams gan drafod sut mae deal a dehongli aradl Rhyd Ddu. Gwrandawodd pawb yn astud a wedyn gwrthodais gyfieithu’r geiriau i’r Saesneg ! Edrychiadau nerfys, ambell un yn chwerthin, distawrwydd…….a wedyn awgrymais fod yma her yndoes, i ddysgu’r Gymraeg, wedi’r cwbl, hanner darlun gwech chi o Gymru heb yr Iaith. (And our non-Welsh speaking friends took it in good humour).

            Dwi dal yn fyw, nath neb wylltio na gweiddi arnaf i gau fy ngheg ond dwi ddim yn siwr beth oedd pobl yn feddwl ? Mae’n od dyddiau yma achos dydi’r gwleidyddol ddim yn yr eirfa boblogaidd, dydi caneuon protest ddim yn naturiol Iaith gyntaf, dydi mynegi barn ddim yn rhan o’r celf – mae gormod o artistiaid heddiw ddigon hapus hefo bod yn greadigol ond yn osgoi’r gwleidyddol – a bellach dwi’n tueddu i ddisgrifio fy hyn fel ffosil o Oes arall pan roedd y gwleidyddol yn hanfodol ac yn hwyl, heb unrhyw wrthdaro.

            Rhaid cyfaddef fy mod mor falch o wrando ar Grayson Perry yn cyflwyno’r darlithoedd ‘Playing to the Gallery” eleni, achos mae’n cadarnhau  fod y gwleidyddol yn Iaith gyfoes, ac efallai mae’r sefyllfa yng Nghymru ar y funud sydd wedi ymwrthod a’r peth fel rhyw adwaith i’r Ymgyrch Iaith, Peintio’r Byd yn Wyrdd a Thryweryn – mi newidith pethau eto yn fuan siawns ………

            Mae arddangosfa ‘Materion Materol’ yn Amgueddfa Gwynedd Bangor hyd at 16 Tachwedd. Mae fy araith i’w weld ar safle we culturecolony.com/videos
 
http://www.culturecolony.com/videos?id=14043
           

 

Wednesday 23 October 2013

Murlun Siartwyr Casnewydd Herald Gymraeg 23 Hydref 2013



Erbyn i chi ddarllen yr erthygl yma bydd Murlun y Siartwyr, Kenneth Budd, 1978, wedi hen fynd, wedi ei chwalu yn rhacs yn llythrennol a hynny gan beiriant ‘jac codi baw’. Dyma chi engraifft o fandaliaeth yn erbyn treftadaeth sydd wedi polareiddio barn pobl yng Nghasnewydd, y werin bobl yn erbyn y gwleidyddion, bron yn ategu’r olygfa o John Frost a chwalwyd ar y murlun ei hyn.

            Son wyf wrthgwrs, am ddymchwel Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd yn ddiweddar er mwyn codi canolfan siopa newydd. Yr hyn sydd yn ofnadwy o ddiddorol am yr achos yma, yw fod yr holl beth wedi amlygu pam mor allan o gysylltiad yw’r gwleidyddion a chynghorywr a barn y bobl mae’r union bobl yma i fod i gynrhychioli. Dim ots fod 4,000 o enwau ar y ddeiseb ‘Save our Mural’, dydi 4,000 o bobl (etholwyr) felly ddim yn agos at unrhyw fesur o ddemocratiaeth, ddim yn cyfri  – anwybyddwch nhw !

            Erbyn i chi ddarllen yr erthygl yma bydd adeilad A.T.S yng Nghaernarfon wedi hen fynd, wedi ei chwalu yn rhacs gan beiriant ‘jac codi baw’. Y tro yma rydym wedi colli darn o bensarniaeth ‘modernaidd’o’r 20fed ganrif, talp mawr concrit, bron yn Gomiwnyddol ei olwg, ond dyna fo, mae wedi mynd. Rhy hwyr, rhy hwyr i awgrymu cadw’r wyneb yn unig a’i gynnwys yn y datblygiad newydd.

            Cyn bo hir bydd Pont Briwet wedi mynd, a fydd dim deiseb, dim 4,000 o enwau, a’r tebygrwydd yw na fydd neb yng Nghasnewydd hyd yn oed yn sylweddoli, nid eu bod yn ddifater ond dydi’r cysylltiadau ddim yno nac ydynt ? Felly er fod y bont bren a agorwyd ym 1867 gan yr ‘Aberystwyth & Welsh Coast Railway’ yn adeilad sydd wedi ei restru (Gradd II) mae’n debyg fod y gost o gynnal a chadw yn ormod. Mae angen y ffordd lydan newydd er mwyn cyrraedd rhywle yng nghynt. Pawb ar frys i siopa efallai ?

            Efallai mae dyma pris datblygiad, ond pob tro mae hyn yn digwydd rydym yn colli darn bach o hanes, rydym yn colli’r nodweddion bach hynny sydd yn gwneud Cyrmru yn wahanol, y nodweddion diddorol ar y tirwedd sydd yn rhoi naws i’r lle. Yn sicr mae’n golled.

            Wrth chwilio am rhywbeth calonogol ymhlith yr holl fandalaieth treftadol yma, mae’n amlwg fod y gwrthdystiadau yng Nghasnewydd yn dangos fod pobl yn malio am eu treftadaeth, yn ymddiddori yn eu hanes a rhaid cyfaddef, er mor drist yw colli’r murlun, fod hyn wedi dod a’r holl gwestiwn o berthynas pobl Cymru a’u hanes yn ol yn flaenllaw ar yr agenda. Does ond rhaid edrych ar y sylw diweddar i gofio canmlwyddiant ers trychineb Synghennydd i weld engraifft arall amlwg o bwysigrwydd hanes i bobl yr ardal yn benodol ac ar raddfa Genedlaethol.

            Efallai mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd oedd un o’r rhai a fethodd fwyaf i bwyso a mesur cryfder teimladau ei etholwyr wrth ddatgan fod digon o gofebion eraill yng Nghasnewydd i gofio am y Siartwyr er ei fod yn cydnabod fod chwalu murlun Kenneth Budd yn ‘golled’.

Wrth sgwrsio a Good Evening Wales ar BBC Radio Wales dyma oedd gan Flynn i’w ddweud "It's a whole series of ideas and aspirations, principles that will continue to be commemorated in Newport." Wrth geisio awgrymu fod hanes y Siartwyr yn fwy nac un murlun. Gwir wrth reswm, ond hollol ansensitif o deimladau amlwg ei etholwyr (neu 4,000 ohonynt).

Ar safle we Newyddion BBC De Ddwyrain Cymru, 3dd Hydref mae clip fideo yn dangos y jac codi baw yn chwalu’r murlun teils, a rhaid cyfaddef nad oes modd dod o hyd i unrhyw ansoddair ond fandaliaeth onibai fod rhywun yn cyfeirio at y weithred fel un gwarthus.

Ffactor arall yn hyn i gyd yw fod Cyngor Casnewydd wdi cael dyfynbris (un yn unig yn ol y son) o £600,000 i symud y murlun a felly fod y penderfyniad wedi cael ei wneud i’w chwalu yn hytrach na ei gadw. Dyma rhywbeth sydd wirioneddol wedi gwylltio’r gwrthdystwyr – pam un dyfynbris yn unig ? A rhaid gofyn am £600,000 beth oedd y cynllun – ei symud yr holl ffordd i Oman ?

            Yn olaf, roedd penderfyniad y Cyngor i chwalu’r murlun heb fawr o rybydd yn gangymeriad pellach oedd yn peri i’r gwrthdystwyr amau fod hyn yn fwriadol rhag galluogi mwy o wrthdystio i atal y weithred. Erbyn y 9fed o Hydref roedd Wil Godfrey Prif Weithredwr Cyngor Casnewydd yn ymddiheuro am y penderfyniad (wrth gwrs ei fod achos mae 4,000 o’i etholwyr a Chymru gyfan bellach wedi digaloni hefo’r modd chwalwyd y murlun)

             Dyma oedd gan Godfrey i’w ddweud wrth y BBC "I apologise for this shortcoming but our focus was upon ensuring that the demolition could proceed with as little danger as possible to the public. "The decision was not informed by any planned demonstration on 5 October, notification of which was in the public domain but of which the council was not formally notified."

            Y piti mawr yma yw fod pawb wedi colli’r cyfle i wneud rhywbeth gwell neu rhywbeth amgen gyda’r murlun. Y ddelwedd mwyaf trist, os nad eironig, oedd yr un o’r heddwas yn rhoi darnau o’r teils i’r gwrthdystwyr drwy’r ffens wrth i’r jac codi baw ei chwalu am byth. Colled enfawr a rhag ein cywilydd am adael i hyn ddigwydd –a dwi’n awgrymu ein cywilydd – mae hwn yn adlewyrchu yn ddrwg ar bawb !

 

 

Wednesday 16 October 2013

'Hen ffon John Richard Thomas' Herald Gymraeg 16 Hydref 2013


 
Herald Gymraeg 16 Hydref 2013.

Roedd hi’n mynd i fod yn un o’r “dyddiau hynny”, roedd rhywbeth yn yr awyr ac eto doedd dim modd rhaglweld sut byddai’r diwrnod yn datblygu nac yn wir yn gorffen. Felly dyma ddechrau gyda agenda ddigon syml, roeddwn am ymweld a rhai o’r cytiau crynion (cytiau’r Gwyddelod) ar y llethrau rhwng Carmel a’r lon i Benygroes yn Arfon.

            Rwan fel archaeolegydd, y peth cyntaf i’w wneud yw sicrhau caniatad cyn troedio ar unrhyw dir preifat. Dwi rioed di cael fy ngwrthod, mae’r mwyafrif o bobl a diddordeb mawr yn yr henebion ar eu tir neu yn wir am gael gwybod mwy ond wrth ddod ar draws y perchennog lle roeddwn am ymweld roedd yn amlwg fod yna ddrwgdybiaeth. I bwy roeddwn yn gweithio ac yn y blaen a finnau yn trio esbonio fy mod yn gwneud gwaith i bob math o gyrff ond fod yr ymweliad yma yn un o ran ddiddordeb a dim mewn unrhyw gyd destyn gwaith (heblaw am sgwennu pennod am Gytiau’r Gwyddelod i lyfr ar gyfer gwasg Carreg Gwalch).

            Bu rhiad gweithio yn galed, bod yn hynod bwyllog a chwrtais, oedd wir roedd diddordeb gennyf mewn pentwr o gerrig er bod “dim byd yno i’w weld”, ac yn y diwedd dyma gytuno a rhoi caniatad i mi groesi’r cae (ar ol galwad ffon a chryn betruso) a dyma gyrraedd y lloc gyda’r cytiau crynion mewnol. Un pwynt yma yw fod y tir feddianwyr yn fewn-fudwyr, a oedd hyn yn ffactor gofynais, y drwgdybiaeth (di-angen)? Fysa hyn ddim wedi digwydd hefo Cymry Cymraeg (er fod rhywun yn aml yn treulio hanner awr yn sgwrsio am bopeth heblaw y rheswm am yr ymweliad hefo ffarmwrs medda fi hefo gwen fawr).

            Ond beth fydda ymateb rhywun petae rhywun wirioneddol wedi gwrthod caniatad – wedi’r cwbl dyma ddarn bach o hanes Cymru, bach a di-arffordd efallai, gweddol ddibwys o bosib, ond nid felly i mi. Fydd ddim rhaid ateb y cwestiwn yna am y tro.

            Roedd fy nhad hefo mi, yr ail beth ar yr agenda oedd hel mwyar duon cyn gwynt y diafol ym Mis Hydref (chwedl ofergoelion Pen Llyn). Diolchais fod fy nhad yn hel mwyar duon ar y pryd achos byddai gwrthod caniatad iddo groesi cae lle arferai chwarae fel plentyn wedi bod yn ddipyn o beth yn bydda. Eto doedd dim rhai croesi’r bont honno, ond dim ond drwy drwch blewyn a llond troll o fynadd a gwen. Efallai fod angen gwers ar gymuned i’r mewnfudwyr drwgdybus ?

            Yn raddol dyma lenwi’r bocsus plastig a mwyarduon a theimlo fod angen un helfa fach arall cyn ddiwedd y pnawn a dyma awgrymu mynd lawr at hen Eglwys Sant Thomas ger Groeslon – a oedd i’w weld o lle roedd y cytiau crynion – ond pam penderfynu mynd am St Thomas – dyma oedd y cam cyntaf i’r anarferol a’r arall fydol y pnawn hwn.

            Os oedd fy nhad wedi son am Eglwys St Thomas hefo mi, doeddwn ddim yn cofio yn iawn, a dweud y gwir roedd y syniad o weld yr adfeilion tra’n hel mwy o fwyar yn apelio, felly heb feddwl fawr mwy am y peth dyma droedio hi lawr am fynedfa mynwent yr hen Eglwys. Wrth gyrraedd y giat mae fy nhad yn aros tu allan i’r fynwent ac yn rhoi yn fy llaw hen ffon gerdded mae o yn ei ddefnyddio, ffon gerdded fy hen ewythr John Richard Thomas.

            Esboniodd fy nhad fod fy hen, hen daid, Edwin Bullock wedi ei gladdu yma a dyma’r rheswm am y ffon yn dod yn amlwg yn syth. Ychydig fisoedd yn ol roedd fy nhad wedi bod yma gyda aelod arall o’r teulu, un Alan Bullock, a wedi rhoi y ffon iddo gan ofyn iddo ddod o hyd i garreg fedd yr hen Edwin gan ddefnyddio’r ffon heb unrhyw gyfarwyddyd gan fy nhad. Fe lwyddodd Alan o fewn munudau.

            Rwan creadur sinigaidd sydd ddim yn ‘credu’ ydi Mistar Mwyn, ond dwi hefyd yn fodlon mentro a chael hwyl felly wrth i fy nhad aros tu allan i’r fynwent dyma ddechrau crwydro, ffon yn fy llaw a dyma drio gweld os gallwn ‘deimlo rhywbeth’ cael hyd i’r ‘vibes’. Cerddais gan ddilyn y ffon, nes i ddim petruso na mwydro, roeddwn yn hapus fy mod yn cerdded yn weddol bwrpasol ond yn raddol dyma ddechrau anobeithio yn yr ystyr, doeddwn ddim yn teilmlo unrhywbeth.

            Dyma weiddi ar fy nhad, “Dwi ddim yn teimlo dim byd, dwi ddim yn gweld y ffon yn cyflawni unrhywbeth” ond dyma ddal i gerdded yn fy mlaen. Yn y diwedd, digon yw digon, mae’n fynwent sylweddol, does fawr o obaith fod hyn yn mynd i weithio, rwyf wedi rhoi cais arni, ymuno yn hwyl y peth ond does dim pwynt parhau a’r ffolineb yma !

            Cerddodd fy nhad atof a finnau yn gwneud stumiau o fethiant, bron yn ymddiheuro am fod yn “fethiant llwyr ac yn aelod anghyflawn o’r teulu”. Roedd gwen enfawr ar ei wyneb.  Cerddodd fy nhad tu cefn i mi a rhoi ei law ar y garreg fedd lle roeddwn wedi rhoi gorau i’r chwilio. Camodd tu cefn i’r garreg gan fy nhywys i edrych ar yr ysgrifen “yr hwn a fu farw 22 Rhagfyr 1894, Edwin Bullock”.

            Ie wir, roeddwn wedi anobeithio a rhoi’r gorau iddi reit wrth y garreg ond heb drafferthu i ddarllen yr ysgrif, roedd ffon John Richard Thomas wedi gweithio unwaith eto. Sut mae egluro hunna felly ? Does dim dadl fod y peth wedi gweithio, ella na theimlais ddim gan y ffon ond fe aeth a’r ffon a fi yn syth yno. Er yr holl fwydro cwta tri munud fuais mewn mynwent anferth gan gerdded heb droi nac ail adrodd cyn sefyll ger yr hen Edwin.

            Rhaid credu mewn rhywbeth, mi gredaf yn ffon John Richard Thomas felly !
 

Tuesday 15 October 2013

De-punk some myths about Welsh Royalties dispute


 


I stand by most of what I said in this interview for Culture Colony, during the period of the Welsh language Royalties “dispute”, and “you know what they say, some of it is true” but I had to laugh when my first EOS,  royalties cheque landed earlier this month for the first payment period for 2013. In fact the interview sum's it up far better than anything I can write


The cheque was for £9.99, which is for all airplay of Anhrefn songs for the first 3 months of 2013.
Now let’s be clear here, highlighting this point  will inevitably be seen as a moan and groan about not being paid etc My point is really not about the money but that what I said in the interview has already been proven. If there’s no airplay then it makes little difference who collects the royalties, and as I said in the interview, yes I do support EOS politically but my fears of the status quo (riffs) being maintained were well founded.

Maybe the Welsh MOR bands are better off and good luck to them. I hope the young emerging Welsh bands are better off. Us lot, as ‘heritage’ acts and Labels hardly register, so no real change there. The interesting question perhaps is where do we go, from here ?

The other difficulty here as I found with the interview with Clancy Pegg for her forthcoming book see http://link2wales.co.uk/2013/crudblog/blog-rhys-mwyn-we-never-got-paid-for-what-we-made/ is that things get miss-interpreted. I know Crud wants to stir up the shit but this piece was an attempt to look at how people deal with bands such as Traddodiad Ofnus or Llwybr Llaethog today, are they recognised, appreciated, discussed or even once in a while invited ? I thought these were valid enough points. Not the money, but the almost total lack of any awareness of Welsh language pop music and cultural history – Traddodiad Ofnus being a case in point. (The Datblygu retrospectives no longer count – too easy !)

 Really it’s just to say check out that wonderful 7” by Traddodiad Ofnus, simple as that ……

But on the £9.99 point :
We did produce 3 studio albums amounting to a total of at least (at least) 35 songs, more if you count compilation tracks etc and only one song in all that repertoire ever get’s any airplay – ‘Rhedeg i Paris’


 
My point is more about the selective hearing of the Welsh language music scene, just in the same way as the Welsh Arts scene has selective vision and the Media have both selective hearing and vision - again this is quite interesting - why we have this narrow vision in Wales, from all sides, in both languages - I still blame the Methodists - in fact we wrote a song about this once called 'Methodism Got To Them Big Time' with Land of my Mothers, unreleased, unheard, a good demo ...... it's on a compilation called 'Post Punk, Post House, Post Welsh' - a bit underground that record .....




 

 

 

Wednesday 9 October 2013

Eglwys Gadeiriol Llanelwy Herald Gymraeg 9 Hydref 2013


 

O bryd i’w gilydd byddaf yn galw mewn i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fel mae rhwyun, yn teithio o gwmpas y wlad, a mae’r eglwys yn le gwych i dreulio rhyw hanner awr yn ‘sbrotian’. Fel arfer y Beiblau sydd yn dwyn fy sylw, Salesbury, Morgan, Parry,  ond wythnos yn ol dyma benderfynu astudio’r gwrthrychau a nodweddion o fewn yr Eglwys gyda chydig fwy o fanylder.

            Ar ochr ddeuhol corff yr eglwys dyma gist neu feddrod gyda milgi “tew” yn hela ysgyfarnog wedi ei gerfio ar wyneb y gist. Does neb i weld yn sirwr beth yw hanes y feddrod ond yn ol y son mae un tebyg yn Abaty Glyn y Groes. Wrth ei ymyl mae beddrod i Archesgob Anian (o bosib) sydd yn marw yn 1293 a mae hanes diddorol iawn i Anian.
 

            Yn ol y son, yn dilyn Cytundeb Trefaldwyn 1267, roedd Anian a Llywelyn ap Gruffydd wedi dod i gytundeb a sedd Anian felly yn sicr, ac yn 1269 roedd Anian yn rhan o’r broses o gyfamodi rhwng Llywelyn a’i frawd, Dafydd ap Gruffydd,ond erbyn 1276-77 roedd Anian yn ochri gyda’r Brenin wrth i Llywelyn gael ei ddatgan yn ‘Rebal’. Doedd perthynas Anian a’r frenhiniaeth ddim i bara yn hir achos wrth i Edward 1af ymateb i wrthryfel 1282 mae’r Gadeirlan yn cael ei llosgi gan filwyr y brenin.

            Dwy flynedd yn ddiweddarach mae Anian ac Edward 1af yn cyfamodi diolch i Archesgob Peckham ac wrth i Anian newid ei wrthwynebiad i ail leoli Abaty Aberconwy i Maenan. Felly os mae cist Anian yw hon, mae’n garreg fedd i gymeriad a chwaraeodd ran flaenllaw yn y cyfnod cythryblus hwnnw yn ystod rhyfeloedd Llywelyn ap Gruffydd ac Edward 1af.

            Cofeb ychydig fwy ‘dadleuol’ sydd ger llaw, i Henry Moreton Stanley (1841-1904) sydd yn cael ei ddisgrifio fel ‘Explorer of Africa’ ar y gofeb. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglyn a chofeb Stanley ger y llyfrgell yn Nimbych ac yn ddiweddar iawn bu sawl achos o “weithred-gelfeddydol” fel gwrthdystiad yn erbyn Stanley, neu oleiaf yn awgrymu fod angen bod yn ymwybodol o ochr fwy anymunol, llai dyngarol y dyn. Fel byddaf yn ei ddweud o hyd, rhaid delio hefo’r hanes ond dydi hynny ddim yn golygu fod rhaid cytuno a’r gweithredoedd neu’r cymeriadau.

 
            Dreuliais i fawr o amser hefo Stanley cyn symud ymlaen at gerflun rhyfeddol o’r ‘Crist Noeth’ gan Michelle Coxon. Mae hwn yn fy atgoffa o ‘Ecce Homo’ Jacob Epstein yn yr ystyr ei fod yn gerflun trawiadol, heriol, amgen,arswydys bron. Mae ‘Ecce Homo’ Epstein yn hen gadeirlan Coventry wrth gwrs, sef yr adfail, yr un a chwalwyd gan fomiau’r Almaenwyr ac er fod mwy o gig ar gerflun Epstein mae’r ddau yn creu delwedd eith anghysurus o Grist.

            Rhyfeddais fod cerflun Coxon wedi cael caniatad i fod yma bron. Mae’n fwy addas ar gyfer ‘Tate Modern’. Does fawr o gysur ynddo os di rhywun yn “credu”. Does gennyf fawr o grefydd yn fy esgyrn, felly dydi’r cerflyn yn poeni dim arnaf ond rhaid cyfaddef os di rhywun yn chwilio am gysur, mae’n debyg fod rhywbeth fel y reredos hyfryd tu cefn i’r allor yn cynnig rhywbeth tawelach ei naws, rhywbeth llai ymosodol i’r llygaid.

 

Treulias amser yn y gangell, yn astudio’r seddau ac yn enwedig sedd yr Archesgob a wedyn yn nodi’r gwrthgyferbyniad llwyr a’r ‘sedilia’ sef y seddau cerrig sydd ar ochr ddeheuol y gangell wedi eu gosod o fewn bwa miniog – ydi hwn yn yr arddull ‘gothig’ holais, sef y bwa miniog  ?

A dyma gyrraedd wedyn ochr ogleddol yr Eglwys, y capel i’r chwith o’r gangell ac yma mewn blwch gwydr cawn engreifftiau o gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd 1567, Beibl William Morgan wrth reswm a Beibl Richard Parry 1626. Does dim modd osgoi pwysigrwydd cyfieithu’r Beibl, 1588 yw 1066 y Cymry Cymraeg (os nad 1282) pwynt mewn hanes sydd yn golygu fod yr Iaith am oroesi. Diolch i William Morgan fod gennym yr hawl i wylio operau sebon yn y Gymraeg heddiw yn 2013.

Ar y lawnt tu allan i’r Eglwys Gadeiriol mae’r gofeb hynod drawiadol, tywodfaen coch, i’r gwyr hynod yma a chwaraeodd ran yn y broses o gyfieithu’r Beibl. Cawn gerflun o Dr John Davies Mallwyd, dyn y bu’m yn edrych ar ei garreg fedd yn ddiweddar yn Eglwys St Tydecho, Mallwyd wrth wneud y daith A470.

Dechreuais astudio’r cerfluniau unigol, Morgan yn ei wisg “Archesgobaidd” ond yr hyn am trawodd rhywsut oedd fod Salesbury yn edrych fel un o gyfoedion y Stiwardiaid, bron fel rhyw dandi yn llys Siarl 1af. Am ychydig o hwyl rhoddias ei lun i fyny ar y We gan awgrymu mae o’r holl bobl fu’n cyfieithu’r Beibl, mae Salesbury oedd wedi gwisgo orau !

Cefais un ymateb doniol ar trydar, sef “wrthgwrs, hogyn o Lansanan oedd o” ond byddaf yn rhoi y lluniau yma ar weplyfr  a trydar er mwyn creu diddordeb a thrafodaeth, er mwyn annog pobl i fynd i weld safleoedd, i gymeryd fwy o ddiddordeb ac i ddarllen tirwedd Cymru yn ei holl amrywiaeth a gogoniant.

 

Saturday 5 October 2013

'Dear Portrait' Mostyn.

 
 
 

This really could be a scene from Soho or Greenwich Village, it's very downtown N.Y or Hoxton even, not the scene that we expect in Llandudno, Victorian seaside resort, the Mostyn creation of straight streets in sympathy with the West Shore / North Shore. But Llandudno it truly is, back of the Mostyn - a great place for a band photograph, Pennie Smith style, cool but no graffiti and dereliction - classier than that.
This photo is The Clash post London Calling.
Black against the gold. The Mostyn sign above is only seen in glancing by passing cars, only seen from the department stores car park across the road - by Saturday shoppers -  they are looking for a bargain not art.
Around the front the red brick façade and this glorious commemorative plaque to an early archaeologist.


George Alfred Humphreys. Born in Cefn Bychan, Denbighshire in 1865 and the Census tells us he lived at Eglwys Rhos, Llandudno in April 1911 but nothing about the archaeologist - will have to try and find out more. They may well know something at Llandudno Museum - that will be a follow up mission.
This plaque is on the Post Office wall - low down - almost invisible - street level - you need to read 'Bloody Old Britain' and O.G.S Crawford - then you won't miss these wonderful things.


And there's another one, to Lady Henrietta Augusta Mostyn


So in we go, it's 'Dear Portrait', 'Annwyl Bortread' - they tell us its " a major group exhibition investigating the genre of portraiture in the sphere of the visual arts today". Heard worse. Art speak is my pet hate at the moment. Some of it is true (I'm sure) some of it is absolute (bollocks) I'm sure.
They have to do this. Or should Art just speak for itself ? Sometimes shutting up would do the Art more justice.

So we go into the art world, via Brutalist / Modernist / Stalinist / Concrete - from street to art world - via a tunnel, a perception warping grey thing that takes you the visitor into the light. Acually it's quite brilliant.


But first check out the amazing salads at the café upstairs. healthy, refreshing, non fattening and a 1st storey view over towards Mostyn Street, Alice not quite visible. Loved the café with a view. The staff very, very nice and spoke Welsh, it does help. Recognised a few faces - always good. This is a great place for arty chat over arty coffee. Must come here more often to arrange and discuss.


More Stalinist staircases before we get back to artland proper. Bloody technology (kind words) meant that 'Esgyn' or 'Uprisings' by Pant Glas artist Becca Voelcker is not visible (how cool is that, not the technology bit but an artist - from Pant Glas - wear it like a proper flag a big Red Dragon with a Fuck Off T Shirt - that's Pant Glas. The only other artist from Pant Glas is the big fella Bryn Terfel, Bryn T Jones on twitter).
http://www.beccavoelcker.co.uk/
http://beccavoelcker.blogspot.co.uk/
http://vimeo.com/44478995

We descend

We are drawn to the DJ, of course we are. Princess Julia by Wolfgang Tillmans, she looks good, loads of warpaint and fur (not real I hope) and pretty casual about the next disc. The idea here is that the subjects have all responded to their portraits. Nice twist. From 'famous' to Dads, that's quite cool. But like in museums, too much text at low level (eye level not literary) and it's just better to stand back. Yes it's good to hear from the subject matter - it does matter.


Shame we don't have Princess Julia sounds ricocheting around the Mostyn. That would be good.
Another popstar present and correct, if a bit quiet, quieter than usual, no feedback, is Lee Renaldo (Sonic Youth guitarist). But we can't have the DJ and the distorted guitar unless we have headphones, silent disco style.
Should have had a launch and a DJ or were we just not invited to the party. This is pretty damned cool for downtown North Wales. I hope people appreciate it does happen here, it's not all Manchester central - it really can be here - shouting distance from Snowdonia proper.



Saturday afternoon. Great time for art and chilled lunches. Antonia Dewhurst (artist) is present to greet us and it's lovely to chat, to chat to a fellow traveller from these parts. http://www.culturecolony.com/profile/491

Reminds me of a long time ago at the Mostyn, when they had portraits from The Face - way back in the 80's, a milestone in cultural events @ North Wales - still appreciated that it happened, that they came, that we saw and were inspired.







Thursday 3 October 2013

Patrick Jones v Nicky Wire Herald Gymraeg 2 Hydref 2013


 

Dyma’r cwestiwn yr wythnos hon. Ydi artistiaid o Gymru yn fwy diddorol os ydynt yn fwy ‘Cymreig’ ? Hefo ‘Cymreig’ rwyf yn golygu eu bod mewn rhyw ffordd yn cynnwys elfenau Cymreig yn eu gwaith, fe all hyn fod o fewn cerddoriaeth, celf gweledol, llenyddiaeth, barddoniaeth, dramau neu beth bynnag ffurf greadigol mae’r artist yn ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant.

                Rydym fel Cymry Cymraeg yn gyfarwydd iawn a’r syniad o “berthyn i le” yr hyn byddaf yn ei alw yn “blwyfoldeb” ond yn yr ystyr positif. Dyma’r cysylltiad sydd yn rhoi i ni wreiddiau a dealltwriaeth o pwy ydym, yr union beth sydd yn creu gwell dinasyddion – rydym yn perthyn a felly yn parchu. Cwestiwn sylfaenol yma wrthgwrs yw pam mor perthyn i’r darn bach yma o dir gallwn fod heb yr Iaith Gymraeg – credaf fod bellach ddadl gref dros pawb yng Nghymru ddysgu’r Iaith er mwyn gallu gwerthfawrogi’r lle yn ei gyfanrwydd.

                Dwi ddim yn son am orfodaeth na hawliau (ac efallai dyma un rheswm pam fod y frwydr wedi methu gyda cymaint), rwyf yn awgrymu mae hanner darlun gaiff rhywun heb yr Iaith Gymraeg ac os felly mae angen dysgu’r Iaith fel mae angen dysgu dreifio neu ddarllen – mae’n sgil hanfodol ar gyfer bywyd llawn yng Nghymru yn 2013. Mae gan y Byd Celf a’r Byd Hanes / Archaeoleg eu rhan yn y frwydr yma – mae angen deall geiriau Gwilym Cowlyd os am werthfawrogi lun y dydd ar wyneb llonydd llyn a fel byddaf yn dweud o hyd – mae’n amhosib ymdrin a Rhyd Ddu heb werthfawrogiad o eiriau T.H Parry Williams. Hebddynt, gwydr hanner gwag sydd yn eu dwylo.

                Rwan, i rhywun o Coed Duon neu Bontllanffraith, mae hyn yn mynd i fod ychydig bach yn wrthyn. Dyma ni yng nghymoedd ol-ddiwydiannol De Cymru. Chafwyd ddim y cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn yr ysgol (efallai). Nid Cymraeg yw Iaith yr aelwyd (o reidrwydd). Wrthgwrs rydym oll yn deall hyn hefyd. Ond, mae artistiaid Coed Duon yn ymdrin a Chymreictod, mae dau frawd amlwg yn gwneud hynny a’r mwyaf Cymreig yw eu celf y mwyaf diddorol yw eu gwaith.

                Wythnos yn ol roedd drama ddiweddaraf y bardd Patrick Jones (y “Manic Street Poet” fel dwi’n ei alw a brawd Nicky Wire) yn cael ei llwyfanu yn Galeri, Caernarfon. Drama o’r enw ‘Dandelion’ yn ymwneud a brwydr trigolion ‘hosbis’ i gadw silff lyfrau ac ychydig bach o urddas wrth dreulio eu dyddiau olaf ar y Blaned hon. Does dim angen canmol y cast, roedd Olwen Rees, Sharon Morgan. Anthnony Leader a Lynn Hunter yn hollol, hollol gredadwy. Yn syml roedd yn ddrama rhagorol ond drwyddi draw roedd rhywun yn clywed “geiriau” Patrick, y math o rythmau sydd yn ei farddoniaeth gyda’r halen a pupur ar ffurff geiriau miniog fel “Taliban” neu “dignity” yn ein procio nawr ac yn y man.

                Ond, petae’r ddrama wedi ei lleoli mewn hosbis yn Sheffield, a fydda ni wedi gallu uniaethu yn yr un ffordd a’r cymeriadau ? Go brin, y Cymreictod a diwylliant y Cymoedd oedd yn taro deuddeg ac yn gwneud hwn yn berthnasol i ni. Y mwyaf Cymreig y cymeriadau, y mwyaf oedd ein cydymdeimlad fel cynulleidfa tuag at eu sefyllfa yn yr hosbis.

                Ei frawd bach yw’r enwog Nicky Wire, basydd y grwp Manic Street Preachers, ac yn ogystal ac ymddangos fel prif grwp ar Nos Sul, Gwyl Rif 6 ym Mhortmeirion gan ddatgan “we are the Manic Street Preachers from ALL Wales” mae’r grwp neywdd ryddhau sengl newydd o’r enw ‘Show me the wonder’. Rwan, fel mae cymaint o ganeuon y Manics, mae hon yn gan bop ardderchog, alaw hyfryd afaelgar, digon o egni a llais cryf James Dean Bradfield – felly dim byd chwyldroadol ond yr union beth fydda rhywun yn ei ddisgwyl ganddynt.

                Ond wrth droi at y fideo sydd yn cyd-fynd ar gan mae’r holl beth yn hollol, hollol Gymreig a wedi ei ffilmio mewn ‘Clwb Cymdeithasol’ rhywle yn y Cymoedd. Dyma olygfa ar unrhyw nos Sadwrn yn Treorci, Porth neu Maerdy. Mae’n siwr i chi fod y Manics wedi dechrau eu gyrfa yn canu mewn llefydd ddigon tebyg a wedi ysu am gael gwell llwyfan. A’r Manics bellach yn hyderus yn eu Cymreictod (a hefyd yn gwybod na fydd rhaid iddynt ganu mewn llefydd o’r fath  byth eto) dyma roi gwen ar ein gwynebau i gyd wrth gyfleu yr olygfa, fel petae’r 70au rioed di gorffen.

                Efallai mae ail-greu y 70au yw’r bwriad ond wedyn dwi’n siwr byddai modd dod o hyd i’r olygfa yma rhywle yng Nghwm Rhymni hyd yn oed heddiw. Yn y Byd Celf byddai rhywun yn disgrifio golygfeydd y Manics yn y fideo fel rhai ol-eironig / ol-ddiwydiannol Gymreig. Yn sicr mae’r ffilm yn hollol, hollol Gymreig ac yn cysylltu’r grwp a’u gwreiddiau a dyna gryfder y peth. Y mwyaf Cymreig mae’r Manic Street Preachers y mwyaf diddorol a pherthnasol ydynt fel grwp.

Dau frawd, dau Gymro, dau Gymro di-Gymraeg, dau wydr hanner llawn – dychmygwch Mr Wire yn yr Orsedd a dramau Patrick ar S4C – mi fydda hunna yn hyd yn oed mwy diddorol – a’n colled ni yw’r methiant i gyflwyno’r Gymraeg i ddinasyddion Coed Duon.