Wednesday 30 October 2019

Y Beatles, The Vikings a Phortmeirion, Herald Gymraeg 30 Hydref 2019


The Vikings


Y dewis oedd, ‘Y Beatles neu’r Stones?’. Cefais fy ngeni yn 1962, felly doedd y dewis yma ddim yn golygu rhyw lawer i mi fel plentyn. Er hyn roedd copi o ‘She Loves You’ yn y cartref. Adroddwyd storiau gan fy rhieni fy mod yn dawnsio yn yr ystafell ffrynt i’r record yn ddwy oed – hynny yn 1964. Doedd dim recordiau Rolling Stones yn y cartref.

Efallai, fod fy rhieni wedi gwneud eu dewis, Y Beatles oedd hi yn ein tŷ ni. Wedyn wrth dyfu fyny mae’n debyg i George Best fod yn fwy o ddylanwad na unrhyw grwp neu ganwr pop. Hynny tan 1977, a wedyn ar b-side ‘White Riot’ gan The Clash dyma Strummer yn canu ‘no Beatles o’r Stones in 1977’. Felly ar ôl 1977 cafwyd sêl bendith Punk Rock i gasau y Beatles a’r Stones a chas berffaith am fod ‘rhy hen’ ac yn ‘amherthnasol’.

Er dweud hyn, mae’r copi o ‘She Loves You’ dal gennyf. Pallodd dylanwad Stalinaidd Punk rhyw fymryn dros y blynyddoedd a dechreuais werthfawrogi ambell i gân gan y Rolling Stones. Efallai oherwydd agweddau heriol a  gwrthryfelgar Andrew Loog Oldham fel rheolwr tueddais i fynd ochri hefo’r Stones yn hytrach nac Epstein a’r Beatles.

Ond dyma dro arall ar bethau. Yn sgil fy ngwaith yn cyflwyno’r sioe nos Lun ar BBC Radio Cymru a fel awdur llyfr i’w gyhoeddi yn 2020 yn dwyn y teitl ‘Real Gwynedd’ dyma ddechrau ymchwilio i gysylltiadau’r Beatles a gogledd Cymru. Fe fydd nifer yn gyfarwydd a’r ffaith fod y Beatles wedi aros yn y Coleg Normal ym Mangor ar gyfnod marwolaeth eu rheolwr Brian Epstein yn 1967.

Bu farw Epstein yn ddamweiniol oherwydd cymysgedd o gyffuriau. Roedd y Beatles ym Mangor i gyfarfod a Maharishi Mahesh Yogi. Roedd George Harrison yn sicr wedi dechrau dilyn trywydd llawer mwy ‘ysbrydol’. Mae pawb yn weddol gyfarwydd a’r hanes yma. Y llai cvyfarwydd sydd fwyaf o ddiddordeb i mi fel darlledydd ac awdur.



Yn ddiweddarach bu Paul McCartney draw i weld cartref Alfred Bestall ym Meddgelert. Bestall oedd yn cynllunio’r cartŵns Rupert the Bear ar gyfer y Daily Express. Gwelir cofeb i Bestall ar ochr ei fwthyn, Penlan, nepell o ganol pentref Beddgelert. Un o luniau enwocaf Bestall ‘”The Frog Chorus” ysbrydolodd McCartney i gyfansoddi ‘The Frog Song’. Digon o waith byddaf yn chwarae’r ‘Frog Song’ ar Radio Cymru.

Stori sydd llawer mwy at fy nant yw’r un am George a Paul yn gwersylla yn Harlech yn y cyfnod 1956-1958. Byddai hyn yn nyddia cynnar The Quarrymen a rhai blynyddoedd cyn llwyddiant Byd-eang y Beatles. George fu lawr i Harlech gyntaf ar wyliau hefo ei fam. Ar yr un pryd roedd criw o gerddorion ifanc yn dechrau dysgu chwarae gitars yn Harlech. Naturiol felly fod si ar led fod hogyn yn ei arddegau o Lerpwl sydd yn chwarae gitar yn aros yn y pentref a fod y gitaryddion ifanc wedi dod at eu gilydd.

Bernard Lee a John Brierley oedd dau o aelodau The Vikings Skiffle band, ynghyd a Gwyn ‘Gwndwn’ ac Aneurin Thomas. Fel mae cerddorion yn hoff o wneud, y peth nesa fydda eistedd o gwmpas yn cael ‘jam’. Cyd-chwarae gitars, cyfle i ddangos eu gallu, eu meistrolrwydd gyda chwech tant, cyfle i ddangos ffwrdd hyd yn oed.

Yn ôl Bernie, roedd George yn awyddus i wahaodd ei ffrind Paul draw i ymuno yn yr hwyl a mae’n debyg fod y ddau wedi canu hefo’r Viking Skiffle Band sawl gwaith ar lwyfan y Queen’s Hotel, Harlech yn ystod Awst 1958. Fell mae yna wirionedd i’r storiau. Fel dywedodd Bernie wrthyf ar y ffôn, ’roedd George a Paul yn aelodau o’r grwp’.

Yn ddiweddarach bu newidiadau yn aelodaeth y band a dyma’r canwr ‘Dino’ yn ymuno a’r grwp. Mewn amsewr newidiodd enw’r band i Dino & the Wildfires ac yn eu tro bu i’r Wildfires gefnogi Gerry & the Pacemakers yn Neuadd Goffa Cricieth a’r Beatles yn y Tower Ballroom, New Brighton.

Gwilym Phillips / Vikings / Dino & the Wildfires

Erbyn hyn roedd y gitarydd Gwilym Phillips o Benrhyndeudraeth wedi ymuno a’r Vikings / Dino & the Wildfires ac erbyn heddiw dim ond Gwilym a Bernie o’r grwp sydd dal hefo ni. Drwy ymholi yma ac acw rwyf wedi llwyddo i sgwrsio hefo’r ddau a wedi cael modd i fyw yn clywed am eu hanesion a helyntion hefo George, Paul a’r Beatles.

Yr hyn sydd yn ddiddorol yma yw faint o wirionedd sydd i’r storiau am y Beatles a Harlech. Gyda cerddorion mor enwog a’r Beatles mae yna dueddiad i’r storiau gael eu dyrchafu i rengoedd fytholeg a fod George a Paul wedi gwersylla ar bob lawnt yn Harlech a wedi canu ar bob llwyfan bosib.



Wrth sgwrsio hefo Gwilym, diddorol oedd cael argraff o faint o fwrlwm oedd yng ngogledd Cymru yn y cyfnod yna rhwg y 50au hwyr a’r 1960au. Roedd Neuaddau Goffa fel Penrhyn’ a Chricieth yn rhoi llwyfan i artistiaid mawr y dydd, fel Them (Van Morrison) a Billy J Kramer & the Dakotas. Amseroedd da.

Cysylltiad arall rhwng y Beatles a gogledd Cymru yw’r ffaith fod gan Brian Epstein fflat ar brydles tymor byr ym Mhortmeirion drwy ei gyfeillgarwch a Clough Williams- Ellis. Bu rheolwr Portmeirion, Meurig Jones, yn ymchwilio i’r holl hanesion am gysylltiad Clough a’r Beatles.

Gallwch glywed sgwrs hefo Meurig Jones (Portmeirion) a Gwilym Phillips (The Vikings) ar BBC Radio Cymru nos Lun 11eg Tachwedd.

https://www.bbc.co.uk/programmes/b075t6wd



Sunday 20 October 2019

Mantell Groucho Marx, Herald Gymraeg 16 Hydref 2019





Hon mae’n debyg fydd y golofn olaf cyn i beth bynnag sydd am ddigwydd hefo Brexit nesa – ddigwydd. Neu efallai ddim. Amser a ddengys. Mae gwallgofrwydd gwleidyddion wedi cyrraedd uchelfannau newydd. Hyd yn oed o fewn un diwrnod, o fewn oriau, mae newyddion y dydd yn gallu newid fel y tywydd ar gopa’r Wyddfa.

Yn ystod fy ieuenctyd (ffôl a diniwed) credais fod yna ffordd arall o edrych ar wleidyddiaeth. Chefais fy hyn rioed yn uniaethu a chenedlaetholdeb syml. Rhywsut wrth geisio darganfod a diffinio fy Nghymreictod teimlais fod elfennau o ddamcaniaethau Bakunin, Kropotkin neu Emma Goldman yn rhai fyddai’n gallu cael eu trawsblannu i’r ardd Gymreig.

A nawr, yn ystod fy henaint (profiad bywyd) rwyf yn dychwelyd fwy fwy at y ffyrdd yma o feddwl. Dyfyniad Graucho Marx yw’r llinell fesur bob amser. “Ni fyddwn yn ymuno ac unrhyw glwb fydda yn fy nerbyn fel aelod”. Felly gyda’r anarchwyr – dwi ddim am ymaelodi na dilyn eu ‘rheolau’. Er mor wirion y datganiad yna, mae yna hefyd wir ynddi.

Y dyfyniad cywir oedd, “I sent the club a wire stating, PLEASE ACCEPT MY RESIGNATION. I DON'T WANT TO BELONG TO ANY CLUB THAT WILL ACCEPT ME AS A MEMBER”. Anodd anghytuno a Groucho. Hiwmor yn aml yw’r arf gorau. Neu gwell chwerthin neu bydd rhywun yn crio.

Cefais wahoddiad gan Ian Bone o Class War i sefyll ar eu rhan fel ymgeisydd yn erbyn Stephen Kinnock yn sedd Castell Nedd Port Talbot, Etholiad Cyffredinol 2015. Am eiliad roedd temtasiwn. A’i dyma ddechrau ar yrfa newydd fel gwrth-wleidydd? Ond wedyn wrth bwyllo, pwyso a mesur – dyma lais Groucho yn fy narbwyllo. Am faint fyddwn yn para yn dilyn rheolau Class War? Nid yn hir.

Rhywbeth arall a fy anesmwythodd am gynnig Class War oedd iddynt son ar y ffon “it’s somewhere near Carmarthen”. Caernarfon. Carmarthen. Hmmm, ddim mor agos a hynny efallai. Tua’r un pryd roedd egin sgwrs wedi dechrau hefo uwch gynhyrchydd cerddoriaeth y BBC, Gareth Iwan, am i mi gyflwyno rhaglen gerddoriaeth ar Radio Cymru gyda cynulleidfa darged rhwng 30 a 60 oed.

Hawdd oedd gwneud y penderfyniad am gyfeiriad fy mywyd. Dyma bori drwy hen recordiau feinyl a dechrau swydd newydd yn cyflwyno’r sioe nos Lun ar Radio Cymru. Dwi dal yno. Petawn wedi dilyn y trywydd (gwrth) wleidyddol byddwn yn dlotach yn ysbrydol erbyn heddiw. Byddai pob pont dan haul wedi ei llosgi. Ac i beth? Byddai Brexit dal hefo ni.

Byddai dadlau hefo Kinnock wedi bod yn hwyl. Byddai Ian Bone a Class War siwr o fod wedi creu dramau cyfryngol ond dwi ddim yn siwr beth fydda’i wedi ei gyflawni. Rwyf yn anarchydd sydd wedi methu rhywsut. Fel cymaint arall, tydi ffurfioldeb y drefn wleidyddol ddim yn fforwm i’r eneidiau rhydd. Neu fel fydda fy hen fodryb yn dweud “mae nhw gyd yn ddiawled drwg”.

Os nad anarchydd na chenedlaetholwr -  be wyt ti? Atgoffir rhywun o eiriau Adam Ant “don’t smoke, don’t drink – what do you do?” Defnyddiaf fantell ‘anarchiaeth’ yn aml iawn wrth drafod hefo cenedlaetholwyr. Nid hawdd. Un cam i ffwrdd o fod yn ‘fradwr’ yw awgrymu nad yw rhywun yn ‘genedlaetholwr’. Fedri di ddim bod yn Gymro go iawn heb gredu mewn annibyniaeth. Ond mae modd cymeryd camau tuag at annibyniaeth neu barhau a’r broses o ddatganoli heb fod yn genedlaetholwr. Onid oes lle ar y sbectrwm Gymreig i anarchwyr ffaeledig?

Nid ceisio am ateb nac ymdrech i gyfiawnhau sydd yma. Os amlygwyd un peth gan ‘Brexit means Brexit’, does neb yn cytuno beth yw Brexit a does neb yn gwybod beth yw Brexit. Dyna ganlyniad sloganau di-sylwedd. ‘Rhyfelgri’ yw un ffurf o ‘slogan’. Dyna oedd Brexit ynde – ‘rhyfelgri’, WWII, hiliaeth, diwedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Dyma pam fod yr holl beth mor wenwynig. Nid ffordd arall o feddwl oedd hyn ond ‘rhyfelgri’. Casineb a rhagfarn yn gyrru’r agenda.

Beth petae’r galw am annibyniaeth i Gymru yn troi yn ‘ryfelgri’? Ar y cyfan mae Plaid Cymru yn weddol glir eu bod yn arddel cenedlaetholdeb flaengar, groesawgar ac un sydd yn edrych am allan. Fel gyda’r SNP, does dim gwadu hyn. Ond mae rhai o fewn neu ar gyrion y Mudiad Cendlaethol yn trafod syniadaeth sydd i’r dde a chredaf fod angen eu herio ar frys. Heb eu hewni, mae nhw ddigon amlwg ar Twitter.

Clywais awgrym yn ddiweddar mai gwell fyddai uno gyda’r gri dros annibyniaeth a wedyn trafod y manylion ar ôl cyrraedd y nod. Dyma oedd gwendid mawr Brexit. Hmmmm. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y syniad AUOB. All Under One Banner. Ddim diolch – dwi dim am gerdded dan yr un faner a’r dde. Cwsg-gerdded yw hyn. Cwsg-gerdded mewn i lanast.

Pryderaf am awgrymiadau diweddar Adam Price yn y Times y dylid derbyn iawndal gan San Steffan / Lloegr / Prydain am eu troseddau hanesyddol tuag at Gymru. Nid Malcolm X neu Martin Luther King sydd wrthi yma. Ar adegau fel hyn dwi’n troi yn anarchydd pur. Wrth drio dadansoddi damcaniaethau’r Dde Gymreig, y poblyddon, a’r academyddion yn aml, mae rhywun yn anesmwytho. Gwell gennyf fantell neu faner Groucho Mark.






Wednesday 2 October 2019

BLODAU PAPUR, Herald Gymraeg 2 Hydref 2019



Os di rhywun yn perfformio ar lwyfan, mae’n bwysig fod y perfformiwr yn gwneud ymdrech i wisgo yn dda. Clywais gyngor John Robb (canwr y Membranes a Gold Blade) yn ddiweddar wrth iddo berfformio yng ngŵyl The Good Life Experience ym Mhenarlag. Doethineb Robb oedd “gwisgwch yn dda, a gwisgwch gyda agwedd! Geiriau na ddylid orfod eu mynegi.

O fewn y Byd Pop Cymraeg tydi’r neges yma ddim bob amser yn cael ei glywed. Rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o grwpiau yn ymddangos ar lwyfan mewn ‘cut off jeans’. Byddwn bron yn mynd mor bell ac awgrymu fod hyn yn dangos amharch i’r gynulleidfa. Dychmygwch am eiliad, gwario arian da i weld Bob Dylan neu’r Rolling Stones a mae Keef neu Bob ei hyn yn cerdded i’r llwyfan mewn ‘cut off jeans’. Fydda’r Beatles neu Elvis rioed di gwneud hyn!

I’n cenhedlaeth ni (Punk Rock) mae hyn fel dychmygu’r Clash heb ddelwedd. O ran delwedd llwyfan mae’r Clash yn sefyll allan fel grwp oedd wedi deall pwysigrwydd sut roedd pob aelod yn edrych ar y llwyfan. Os darllenwch ‘Llawenydd Heb Ddiwedd’, cyfrol ddiweddar yn olrhain hanes y grwp Cyrff o Lanrwst mae’r un peth yn amlwg hefo nhw. Roedd y Cyrff yn deall pwysigrwydd yr holl elfennau. Ymarfer cyson, dysgu a gwella, bod yn ymwybodol o sut oedd pethau yn gweithio ar lwyfan.

Yn amlwg roedd caneuon y Cyrff yn dda (eithriadol o dda), fel caneuon The Clash. Does dim gwadau dawn Mark Roberts fel cyfansoddwr, ond tydi Mark rioed di siomi pobl drwy ymddangos ar lwyfan fel petae newydd fod am dro hefo’r ci, neu’n clirio’r tŷ neu yn garddio.
Efallai i fy nghenedlaeth i gael eu dylanwadu ymhellach gan gylchgrawn The Face. Cofiwch ein bod wedi tyfu fyny yng nghysgod gwerslyfr Vivienne Westwood. Pob degawd roedd yna ‘youth cult’ newydd. Pob cult hefo pwyslais ar ffasiwn. Teds, Mods, Punks, Soul Boys a dilynwyr Bowie, Two-Tone, New Romantics. Roedd gwisgo fyny yn rhan hanfodol o’r holl beth – fel oedd y gerddoriaeth. Partneriaeth.

Yng Nghymru, gwlad llai trefol, gwlad fwy amaethyddol, mae rhywun yn deall nad oedd cymaint o bwyslais ar ffasiwn tu allan i’r trefi mawr. Ac eto mae hyn yn gor-symleiddio pethau. Wrth baratoi cyfres am ‘Youth Cults’ ar gyfer BBC Radio Cymru dyma ddod ar draws Mods a Scooter Boys yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Ardaloedd gwledig – ond roedd y bobl ifanc yma yn teithio i Wigan Casino. Sydd yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth fod ni yn wledig ac yn ddi-ffasiwn yn syth.

Yn ddiddorol iawn fe ddefnyddiodd y grwp Edward H y ffasiwn werinol a denims yn y 1970au yn fwriadol er mwyn cyfleu’r cyfuniad o roc a’r gwerin oedd yn rhan o’u repertoire. Er i mi feirniadu hyn yn ystod cyfnod Punk, gallaf gydnabod heddiw fod Edward H yr un mor ymwybodol o’u delwedd ac oedd Y Cyrff. Cyfnod gwahanol dyna’r oll.

Hyd yma, y dynion sydd wedi bod dan sylw. Does dim angen ymddiheuro achos y nhw sydd dan feirniadaeth. Tydi rhywun ddim yn gorfod trafod diffyg delwedd Etta James, Sister Rosetta Tharpe, Aretha Franklin, Nina Simone, Polystyrene, Neneh Cherry neu Chrissie Hynde.


A dyma droi at Alys Williams. Hi di prifleisydd y grwp Blodau Papur. Mae nhw ar daith o Gymru mis yma a mae’r tocynnau bron a gwerthu allan. Rwyf yn curadu’r llwyfan Cymreig yng ngŵyl The Good Life Experience ar ran Cerys Matthews ac Osian (Osh Candelas) ac Alys oedd ein prif grwp ar y nos Iau eleni.

Perfformiodd y ddau fel deuawd – heb y band llawn. Doedd hyn ddim yn gyfaddawd nac yn eilradd mewn unrhyw ffordd. I’r gwrthwyneb roedd cynildeb Osh ar y gitar a llais hyfryd Alys yn gweithio yn berffaith. Roedd gofod cerddorol ar gyfer llais Alys. Roedd hyn yn beth da. Yn fantais o ran cyflwyno ei dawn anhygoel.

Rhyfeddais ar eu gallu i fynd o Nina Simone i Etta James a hynny o fewn yr un gân. Roedd Cerys yn eistedd drws nesa i mi a fel minnau wedi gwirioni. Sylwais wedyn wrth glirio’r llwyfan fod Cerys, Alys ac Osh wedi ymgolli mewn sgwrs. O hynny glywais, bwrdwn Cerys oedd fod hyn yn gweithio mor dda fel deuawd y byddai’n gangymeriad mawr meddwl am hyn fel rhywbeth eilradd i’r band llawn.

Wrth reswm bydd y band llawn, Blodau Papur, yn or-wych ar eu taith theatrau mis Hydref yma. Does dim dadl am hynny. Ond mewn gofod bach, hwyr y nos, mewn awyrgylch jazz roedd Alys ac Osh yn agos iawn at berffeithrwydd pur.

Blodau Papur yw teitl y CD ar label I Ka Ching. Casgliad o unarddeg o ganeuon soul / funk / jazz. Dychmygwch Sade ac Acid-Jazz wedi ei gyfuno a Nina ac Etta. Mae yna ‘soul’ yn llifo drwy pob gwythïen ar y CD yma. Yn gerddorol ac yn offerynnol mae’n CD rhyfeddol.
Cangymeriad efallai, fyddau cyfeirio at y CD fel perffeithrwydd cerddorol – ond argian dân mae o yn agos iawn at hynny. Ella fod o! Mae o mor, mor, agos. Agos iawn.

Petae’r cylchgrawn Face yn dal i fodoli byddai Alys ar y clawr blaen. Bydda’r CD yn cael Adolygiad 5*****. Steil oedd slogan mawr The Face – a dyna sydd gan Alys, Osh a gweddill Blodau Papur.

Yn dilyn llwybr bands fel 9 Bach a Gwenno yn mynd ar holl beth yn Rhyngwladol – dyma’r cam nesa. Dyma be di ‘Soul’. Bydda Nina Simone wrth ei bodd hefo’r CD yma.