Saturday 22 December 2018

Dyddiau Roc a Rôl. Adolygiad Rhys Mwyn.




Emyr Huws Jones cyfansoddwr, dyna’r peth cyntaf sydd yn mynd drwy feddwl rhywun. OK, dwi yn ei gofio fel aelod (achlysurol) o’r Tebot Piws ac ar y record ‘Nwy yn y Nen’ (Sain 19) mae ei lun yn ymddangos ar y clawr cefn yn fach bron fel cartŵn o dan gesail Sbardun. ’Di lun o ddim ar y recordiau erail.

Ffurf y llyfr yw fod geiriau rhai o’i ganeuon amlycaf yn ymddangos ar dudalen a wedyn mae Ems yn trafod yr hanes tu cefn y gân. Ddigon diddorol Mae’n braf weithiau clywed gan y cyfansoddwr – fel clywed gan artist – cyfle i ddallt pethau yn well. Fel arall mae rhywun yn gwrando ac yn dehongli yn ei ffordd bach ei hyn. Mae hynny yn iawn hefyd.

Caneuon hiraethus / serch yn gorlifo ac atgofion yw’r caneuon ran amla. Dwi’n trio cael hyd i’r Roc a Rôl. Cawn hanes Lonnie Donegan ar dudalen 31 (Pennod Cofio Dy Wyneb). Sgiffl oedd Roc a Rôl cyn Roc a Rôl gyrraedd Prydain rhywsut. Wrth drafod Donegan mae Ems yn cyfeirio ato fel ‘arwr’ a does ond rhaid meddwl am y grwp Quarrymen hefo John a Paul cyn llwyddiant byd eang y Beatles er mwyn gwerthfawrogi dylanwad rhai fel Donegan ar gerddoriaeth poblogaith a’r ffrwydriad o fewn ychydig flynyddoedd o Roc a Rôl go iawn.

Rydym yn cyrraedd Elvis a Tupelo ar dudalen 100 (Pennod Mi Ganaf Gân), mae Johnny Cash y rebel a’r herwr canu gwlad Roc a Rôl yna hefyd. Agosach iddi rhywsut. Er rhaid cyfaddef fod ffiniau canu gwlad a Roc a Rôl yn cyd-gyffwrdd ac yn anelwig go iawn gyda artistiaid fel Cash ac Elvis. Tydi’r Efengyl (canu Gospel) ddim mor bell a hynny chwaith.

Cawn lun o Ronnie Drew (Dubliners) ar dudalen 97 hefo Ems a Lyn Ebeneser – arwr arall. Does neb yn anghytuno ac Ems yma – ddim o gwbl. Ronnie Drew, Johnny Cash, Lonnie Donegan ôll yn ddylanwadau mawr, yn artistiaid pwysig a dylanwadol. Ond dwi dal ddim cweit yn gweld y Roc a Rôl. Pwy ddewisiodd y teitl ar gyfer y llyfr?

I ffans o ganeuon Emyr Huws Jones mae hwn yn lyfr perfaith. I ffans Roc a Rôl efallai nad oes cweit ddigon o gitars uchel, ddim cweit digon o Cochran a Vincent, trowsusau a jacedi lledr a’r hyn ddaeth wedyn, y Stones, Faces, Kinks.


Wednesday 12 December 2018

Beca @ STORIEL, Herald Gymraeg 12 Rhagfyr 2018




Beca, y mudiad neu symudiad celf Cymreig. Efallai ddim mudiad chwaith achos mae hynny yn awgrymu gormod o ffurfioldeb. Ond, mae gan Beca ‘aelodau’ neu ‘aelodau’ o fath. Dwi ddim yn siwr os oes maniffesto? Symud – yn sicr roedd Beca yn gwthio ac yn symud. Ymlaen – does dim ond un ffordd. Ymlaen.

Y brodyr Peter a’r diweddar Paul Davies dwi’n gofio yn y 1980au fel yr aelodau amlycaf o Beca. Fe gofiwn wrthgwrs am Paul yn creu map o Gymru allan o’r mwd yn Steddfod Abergwaun. Abergwaun oedd o, os dwi’n cofio yn iawn? Lle bynnag oedd y mwd, dyma Paul yn creu map o Gymru – dyna’r peth pwysig. Defnyddio’r adnoddau lleol.

1986 dwi’n credu oedd y flwyddyn i’r Anhrefn dderbyn gwahoddiad gan Beca i gymeryd rhan yn un o’u gweithgaredau. Unwaith eto di’r union flwyddyn ddim yn bwysig. Dwi ddim am dreulio amser yn gwneud gwaith ymchwil yn gwiro dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y golofn hon. Codi pwyntiau fydd pwrpas y golofn nid cadarnhau ffeithiau.



Llyfrgell Wrecsam oedd hi, cawn ddadlau mai 1986 oedd y flwyddyn, ond roedd Beca yn arddangos eu gwaith yn y Llyfrgell a’r Anhrefn wedi cael gwahoddiad i ganu fel rhan o’r gweithgareddau. Canu yn yr agoriad neu ganu ar ddiwedd yr arddangosfa? Efallai yn ystod cyfnod yr arddangosfa?

Pete Telfer y ffotograffydd a’r cyfarwyddwr ffilmio oedd ein cysyltiad ni a Beca. Roedd Telfer wedi bod yn creu ambell ‘scratch fideo’ o ganeuon Anhrefn. Hynny ar fformat VHS, canol yr wythdegau, drwy ddwyn darnau a clips newyddion o’r teledu am rhyfel niwclear neu Thatcher a Reagan a wedyn gosod cerddoriaeth y band yn y cefndir.

Teithiodd y band lawr i Lanbedr ger Harlech rhyw bnawn Sul i gael golwg ar arbrofion fideo Telfer a dyma ddechrau ar berthynas waith a pherthynas greadigol a welodd Telfer yn ffilmio a thynnu lluniau hefo’r Anhrefn ledled Ewrop wrth i ni deithio’r cyfandir drwy weddill y 1980au a ddechrau’r 90au.

Telfer oedd un o’r chydig rai tu allan i’r band oedd yn cael dod hefo ni ar daith – er mwyn dogfennu a chadw pethau ar gof a chadw.



A hithau yn tynnu at ddiwedd 2018 dyma Beca yn ail ymddangos gyda arddangosfa hyfryd a heriol yn Storiel, Bangor. Heriol? Wel, efallai ddim mor heriol chwaith. Onid yw’r ‘Welsh Not’ yn rhywbeth sydd yn ddwfn yn ein his-ymwybod fel Cenedl bellach. Un o’r cerrig milltir hynny sydd yn ein diffinio fel Cymry Cymraeg.

Cawn ‘Welsh Not’ Paul a Beca yn yr oriel yn ogystal a dwsinau o luniau a phaentiadau gan Peter a Paul. Dyma arddangosfa bwysig sydd nid yn unig yn werth ei weld ond sydd hefyd yn gofnod o gyfnod pwysig o ran datblygiad celf yng Nghymru.

Beca oedd y ‘rebels celf’. Beca oedd y peth tebycaf i’r Clash weldodd y Byd Celfyddydol Cymreig ac efallai hynny sydd yn esbonio pam fod band Punk Cymraeg wedi gallu neidio i’r gwely mor hawdd hefo criw Beca.



Yn annisgwyl, dyma Sara Rhoslyn, aelod newydd / diweddar o Beca yn dod i gysylltiad gyda cwestiwn ddigon syml. A fydda modd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ail greu yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam yn 1986 ar gyfer dathlu’r arddangosfa yn Storiel?
Rwan yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam yw fod ni wedi canu mewn arddangosfa Beca, ond fod Paul wedi troi yr holl beth mewn i ddigwyddiad celfyddydol yn ystod ein ‘perfformiad’. Roedd y band a’r gynulleidfa yn rhan o’r ‘celf’.

Dydd Sadwrn yma am 3pm yn Storiel rydym am ymdrechu oleiaf i ail greu naws yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam. Mae criw o gerddorion am wneud perfformiad reggae dub gan arbrofi yn gerddorol wrth i’r caneuon fynd yn eu blaen. Dim ond dau ymarfer fydd o flaen llaw. Fydd neb yn sicr beth fydd yn digwydd. Dyna’r hwyl.

Tra bydd y cerddorion yn ‘perfformio / canu ac arbrofi’ bydd Beca yn creu ‘celf’ byw – eto does neb yn siwr iawn beth fydd yn digwydd. Credaf fod hynny yn weddol agos i ysbryd Beca. Cyffro. Tensiwn. Hwyl. Dwi’n sicr byddai Paul wedi bod wrth ei fodd yn gweld rhywbeth fel hyn yn cael ei ail greu neu yn ail ddigwydd er yn hollol wahanol.

Fydd na ddim ‘Rhedeg i Paris’ na ‘Anhrefn Greatest Hits’ – fydda hunna ddim yn gweddu. Beth fydd yn digwydd yw creu rhywbeth unigryw fydd byth yn digwydd eto. Os bydd yna eto, mi fydd rhaid iddo fod yn wahanol. Does ond un cyfeiriad – a rhaid symud popeth ymlaen heb edrych yn ôl.



Tuesday 11 December 2018

"This is better than you realise", Herald Gymraeg 28 Tachwedd 2018





Faint ohonnoch sydd yn cofio rhaglen ‘The Tube’ ar Channel 4, nosweithiau Gwener 5-30pm rhwng 1982 ac 1987? Rhaglen hanfodol, arloesol, dylanwadol a byw. Un o’r cynhyrchwyr oedd yn gweithio i gwmni cynhyrchu Tyne Tees oedd y Cymro o Fethesda, John Gwyn – cyn aelod o’r grwp Brân.

Jools Holland a’r diweddar Paula Yates oedd yn cyflwyno yr artistiaid / grwpiau pop byw. Yn ystod y cyfresi teithiodd Paula a Jools i fyny i Bortmeirion i ffilmio Siouxsie and the Banshees. Ar yr un rhaglen teithiodd yr Anhrefn, Datblygu a’r Cyrff i ffilmio eitem hefo John Peel yn King’s Cross, Llundain – am y rheswm syml fy mod i wedi penderfynu (yn gywir neu yn anghywir) na fydda gan Paula fawr o ddiddordeb cyfweld a fi a Sion Sebon ar y gwely fel oedd yn arferol ganddi.

Felly dyma Anhrefn, Datblygu a Cyrff yn ymddangos ar yr un rhaglen a Siouxsie (a XTC os dwi’n cofio yn iawn) ond heb eu cyfarfod – nhw yng Nghymru - ni yn Lloegr. Ta waeth am hynny, un o’r pethau sydd wedi aros yn y cof am The Tube oedd un o ymddangosiadau Iggy Pop. Rwan, mae Iggy yn ddipyn o gymeriad, yn gyn-aelod o’r Stooges, yn un o ffrindia David Bowie ac yn sicr ddim ofn ychydig o noethni ar deledu byw.

Ond yr ymddangosiad gan Iggy sydd wedi aros hefo fi yw’r un pan wynebodd cynulleidfa oedd yn ymddangos yn ofnadwy o normal. Mae’n debyg fod pobl ifanc Newcastle yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r gynulleidfa byw ar gyfer y sioe - cyfle i fod ar y teli ynde – pwy fydda yn gwrthod? O edrych ar y dillad, y ffasiwn a’r gwalltia permiedig roedd yn amlwg nad cynulleidfa Iggy oedd rhain ond pobl ifanc Newcastle yn chwilio am ddihangfa ar nos Wener cyn troi am dafarnau lu y dre.

Cyfarchodd Iggy ei ‘gynulleidfa’ drwy ddatgan “This is better than you realise”. Doedd y gynulleidfa ddim hyd yn oed yn gwrando arno heb son am brosesu arwyddocad ei ddatganiad. Nid mewn ffordd elitaidd neu faleisus y dwedodd Iggy hyn chwaith, mwy fel datganiad o ffaith.

Pam fod brawddeg fel hyn wedi aros gyda mi dros yr holl flynyddoedd felly medda chi? Yr ateb mae’n debyg yw fy mod byth a beunydd yn dod ar draws artistiaid yng Nghymru lle mae’n amlwg fod talent aruthrol ganddynt ond bydd y broses o gael ‘llwyddiant’ ac o gael eu ‘derbyn’ yn cymeryd amser. Y patrwm tra anffodus yng Nghymru ac yn y Gymru Gymraeg yn enwedig yw fod dau lwybr amlwg.

Unai mae’r artistiaid yn ganol y ffordd a fe ddaw’r ‘llwyddiant’ maes o law wrth i’r llai ddiwyllianol mentrus gael hyd i rhywbeth ar gyfer eu stereo. Neu, mi fydd yr ‘hipstars’ yn dechrau cefnogi munud mae’r cyfryngau Saesneg yn dweud wrthynt fod hyn yn ‘cwl’. Er fod Catatonia a Gwenno er engraifft wedi rhyddhau recordiau yn Gymraeg yn gynnar yn eu cyrfaoedd dim ond ar ôl sel bendith Radio 1, NME, 6Music, Jools Holland, Guardian mae’r hipstars Cymraeg yn troi fyny i’r parti.

Yr unig eithriad dwi’n credu oedd y Super Furry Animals – neu Ffa Coffi Pawb gynt i bob pwrpas. Dyma’r unig band Cymraeg fedra’i feddwl amdanynt aeth mwy neu lai yn syth i’r brig heb i’r Cymry a’r hipstars fethu eu deallt. Dwi bron a dweud, unwaith eto, ta waeth am hynny – ond di hyn ddim yn fater o ‘ta waeth’ – mae hyn yn fater o hanes yn ail-adrodd ac yn syrffedus felly.

Nos Wener dwetha roedd Gŵyl Psylence yn cael ei gynnal yn Pontio Bangor (ym Mhontio). Gŵyl sydd yn cyfuno ffilm a cherddoriaeth a wedi ei guradu gan Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst). Gŵyl rhagorol fydda’n eistedd yn gyfforddus mewn unrhyw gwmni neu unrhyw ŵyl ffilm boed yn Berlin neu Tokyo.

Eleni dangoswyd ffilm fendigedig y cyfarwyddwr Gruff Davies, ‘Anorac’ gyda’r cyflwynydd Huw Stephens yn mynd ar ‘roadtrip’ o amgylch Cymru yn darganfod beth oedd yn ysgogi’r fath greadigrwydd cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan deithio i’r de-orllewin a’r gogledd-ddwyrain ac o Gaerdydd i’r gogledd-orllewin sgwrsiodd Huw gyda artistiaid mor amrywiol a Iolo o’r Ffug, Joy Formidable, Twm Morus a Gwyneth Glyn, Iwan Cowbois Rhos Botwnnog a Lisa Jen 9Bach.

Yn syml iawn mae’r ffilm ‘Anorac’ yn gyflwyniad gwych a threiddgar i’r hyn sydd yn digwydd yn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Efallai fod Stiniog ar goll yn y ffilm ond efallai mai amhosib oedd cyrraedd pob twll a chornel ar y ‘roadtrip’ mewn cwta pedwar diwrnod.
Ta waeth (dyma ni eto) roedd sinema Pontio dan ei sang ar gyfer y ffilm, orlawn a phawb yn gwrando a mwynhau yr un mor astud. Heb os mae gwaith ffilmio Gruff Davies yn benigamp a’r dirwedd Gymreig yn hudolus yn y ffilm yma. Yn sicr da ni gyd yn falch iawn o’r lle yma. Neb am symud i Lundain yn sicr!

Yn dilyn dangosiad y ffilm roedd y band ifanc / newydd / cwl /cyffrous o Gaerfyrddin, Adwaith yn perfformio ar y llwyfan gan gyfeilio i ffilmiau o’r 1940au gan Maya Deren. Celf a cherddoriaeth ar ei ora.

Yr eironi chwedl Iggy Pop yw fod y sinema yn orlawn ar gyfer ffilm oedd yn datgan pa mor iach yw’r sin gerddorol yng Nghymru a fod hanner y gynulleidfa wedi mynd adre cyn gweld y band fwyaf cwl yng Nghymru ar hyn o bryd. Dwi di bod yma o’r blaen.