Rwyf wrth fy modd gyda’r enw “Bwlch y Gorddinan”, tybiaf byddai llawer yn cytuno fod yr enw Cymraeg yn llawer gwell na’r enw Saesneg “Crimea” am y bwlch sydd yn croesi o ochrau Dolwyddelan i lawr am Flaenau Ffestiniog. Er hyn, mae nifer yn defnyddio’r ffurf “Eingl-Gymraeg”, Pas y Crimea neu Bwlch Crimea ar gyfer y bwlch.
Y son yw fod carcharorion-rhyfel cyfnod Rhyfel y Crimea 1854 (yn dilyn Brwydrau Inkerman a Blaclava yn Rwsia) wedi gweithio yma a dyma sut cafodd y bwlch ei enw newydd. Cwestiwn da wrthgwrs, beth ddigwyddodd i’r carcharorion wedyn ? Mae yna hefyd Afon Gorddinan yn yr un ardal yn rhedeg i lawr i Ddyffryn Lledr.
Ond un nodwedd penodol o Fwlch y Gorddinan sydd o dan sylw yr wythnos hon, ac eto i ddefnyddio’r disgrifiad “Eingl-Gymraeg” y “Dymp Sgidia”. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn teithio dros Fwlch y Gorddinan yn gyfarwydd a’r domen sgidia. Os yn teithio i lawr y Bwlch i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog mae’r domen ar ochr chwith y ffordd rhyw gan llath i lawr allt o gopa’r bwlch. Mae i’w weld fel darn o dir tywyll diffaith, yn staen ar ochr y bryn, ac ynddo mae miloedd o waelodion sgidia hoelion neu bedolau sgidia.
Drwy holi ychydig daw sawl stori wahanol am y domen sgidia. Yr un mwyaf doniol, a lleiaf tebygol, a mae’r stori yma yn mynd a ni yn ol i gyfnod Rhyfel y Crimea, yw fod milwyr Cymreig wedi gwrthod ymladd yn y rhyfel hon a wedi llosgi eu gwisg a’u sgidia yma ar y Bwlch. Go brin, ond mae’r cysylltiad a Rhyfel Crimea yn ddiddorol fel esboniad.
Yr ail stori yw fod rhain yn sgidia milwyr Americanaidd ar ol yr Ail Rhyfel Byd – ac eto fod y sgidia wedi eu llosgi yma ar Fwlch y Gorddinan. Mae cryn ddryswch ynglyn a sgidia o pa gyfnod yw rhain, neu i fod yn fwy penodol, o pa Ryfel ? ond mae hyn wedyn yn arwain at y drydedd stori ac efallai un a chydig fwy o hygrydedd.
Y drydedd stori felly yw fod sgidia wedi eu danfon i Flaenau Ffestioniog ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer eu didoli a fod y rhai nad oedd modd eu trwsio neu ail ddefnyddio wedi cael eu llosgi ar ben y Bwlch. Mae son fod y tan wedi para am wythnosa.
Stori arall sydd yn sicr yn un wedi ei greu yw’r un rwyf yn ei ddefndyddio pan yn tywys ymwelwyr Americanaidd mewn bws dros Fwlch y Gorddinan. Rwyf yn son sut yn ystod yr Ail Ryfel Byd fod gormod o sgidia troed chwith wedi eu cynyrchu a dyma pam iddynt gael eu llosgi yma. Oleiaf mae’r stori yma yn rhoi gwen ar eu gwyneba ond rhyw ddydd rwyf yn mynd i gael fy nal allan ma’n siwr ! Unwaith eto croesawaf lythyrau gan unrhywun a gwybodaeth pellach.
Yn ddiweddar wrth yrru fyny’r Bwlch sylwais fod ffordd fynydd newydd wedi ei agor ar ochr Ffridd y Bwlch / Tal y Waenydd sef y mynediad ar gyfer y cwrs beicio mynydd fydd yn cael ei agos cyn bo hir ac yn arwain wedyn i lawr i gyfeiriad Llechwedd. Prosiect i’w ganmol, prosiect adfywio bro, bydd hyn yn dod ac ymwelwyr i mewn i Blaenau, gwych.
Ond yn gwisgo fy het archaeolegydd roedd mymryn o bryder fod y ffordd mynediad yma mor agos i’r domen sgidia felly dyma ddechrau ebostio CADW, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Antur Stiniog. Dwi’n teimlo fel un o’r bobl yma sydd yn sgwennyu llythyrau i’r wasg i “fynegi pryder” felly dwi’n ymddiheuro iddynt am sgwennu, nid “dyn blin o 4 Heol y Dwr ……….” yw hyn ond nodyn i wneud yn siwr fod pawb yn gwerthfawrogi pwysigrwydd archaeolegol y safle.
Doedd dim rhai i mi boeni, daeth ebyst yn ol gyda troad yr (e)bost, pawb yn ymwybodol, pawb yn sylweddoli arwyddocad y safle a phawb yn gwerthfawrogi fy niddordeb. A dweud y gwir fe arweiniodd hyn at sawl sgwrs ddiddorol am y safle. Fe fydd ddarllenwyr cyson y golofn hon yn ymwybodol bellach fod diffiniad archaeoleg bellach yn cael ei ymestyn, hynny yw, mae olion materol a diwylliannol dyn yn cyfri fel archaeoleg, a mae’r cyfnod diweddar hefyd yn gallu bod yn y maes archaeoleg.
Werth wneud dipyn bach mwy o waith ymchwil ar gyfer yr erthygl yma, sylweddolais fod hyd yn oed tudalen ar Facebook yn bodoli, “Save Blaenau Ffestiniog Heritage and History”. Wrthgrws mae yna ochr eironig fod tudalennau Facebook yn y Saesneg, does dim modd dad-gysylltu’r Iaith Gymraeg a Hanes a Treftadaeth Blaenau Ffestiniog ond oleiaf mae’r dudalen yn dangos fod yna ddiddordeb allan yna.
Mae yna drafodaeth ddilys i’w chael ynglyn a faint o’r tomeni llechi sydd angen eu cadw, faint o’r olion ac adeiladau ddylid eu cadw. Eto fel yr archaeolegydd, byddwn yn dadlau fod hyn yn rhan o’n hanes, yn rhan o Hanes Cymru. Yn y cyd-destyn yma byddai chwalu’r domen sgidia ar gyfer creu ffordd newydd yn anfaddeuol ac yn drychineb. Y tebygrwydd nawr yw na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.
Yr her efallai i ni gyd nawr, yw sut mae cadw gofal o safle o’r fath, sut mae dehongli safle o’r fath ar gyfer ymwelwyr, ond fel safle hynod ddiddorol gyda storiau mor dda ac amrywiol mae’n safle o bwys archaeolegol ac hefyd o safbwynt Hanes Bro Ffestiniog ac yn wir Hanes Cymru.
No comments:
Post a Comment