Sunday, 24 June 2018

Cofeb Friction Dynamics, Herald Gymraeg 13 Mehefin 2018





Wrth wylio rhaglen ddogfen y newyddiadurwraig Afua Hirsch, ‘Battle for Britain’s Heroes’ ar Channel 4 yn ddiweddar roedd yn hollol amlwg fod Hanes yn rhywbeth sydd yno i’w drafod, i greu trafodaeth ac yn bwysicach byth yn rhywbeth i ni ddysgu ohonno.

Mae gwahanaieth sylfaenol rhwng dysgu ffeithiau a dysgu’r wers. Does dim anghytuno a Hirsch fod y Llyngesydd Nelson wedi elwa o, a chefnogi y fasnach mewn caethweision. Does dim anghytuno fod Churchill wedi arfer agweddau hiliol tu hwnt tuag at rai pobleoedd / gweldydd. Does dim gwadu fod Cecil Rhodes yn gymeriad atgas o hiliol.

Efallai gyda mymryn o gellwair, holodd Hirsch oes oedd yr amser yn iawn bellach i ni chwalu Colofn Nelson, dymchwel cofgolofn Churchill a chael gwared a’r cerfiad o Rhodes ar Goleg Oriel, Rhydychen? Chwaraeai’r Ymerodraeth Brydeinig rhan amlwg yn hyn ôll a mynegodd Rhodes y farn yma am y Sais yn ei ewyllus: "I contend that we are the first race in the world, and that the more of the world we inhabit the better it is for the human race”.

Doedd dim prinder o haneswyr ac arbenigwyr tra Seisnig ar rhaglen Hirsch yn amddiffyn yr ‘arwyr’ uchod a roedd eu amharodrwydd i gydnabod gwendidau’r cymeriadau yn boenus i’w wylio. Rydym yn gyfarwydd yma yng Nghymru a chymeriad fel Lloyd George – cymeriad hanesyddol pwysig – ond dwi ddim yn credu fod unrhwun yn trafod Lloyd George heb gydnabod a chrybwyll ei ochr dda a drwg. Does dim disgwyl i ni gytuno a phopeth wnaeth Lloyd Goorge, does neb yn gofyn hynny ganddym.

Ond, does neb chwaith yn galw am ddymchwel cofgolofn Lloyd George ar y Maes yng Nghaernarfon. Cerflun gyda llaw gan William Goscombe John. Mae modd dadlau, beth bynnag eich barn am LL. G. fod cerflun Goscombe John yn ei hyn yn wrthrych hanesyddol o bwys.

Er hyn, os yw rhywun yn edrych yn ofalus o amgylch y palmant ger cerflun Lloyd George yng Nghaernarfon mae diferiadau o baent gwyrdd dal i’w gweld ar y llawr – tystiolaeth o wrthdystiad yn erbyn yr hyn wanaeth (neu fethodd) LL. G yn Iwerddon.

Iawn – i ni drafod hyn a dysgu o hyn. Tydi cael gwared o gerflun LL.G ddim yn cyflawni unrhywbeth. Derbyniais ebost yn gymharol ddiweddar yn holi os dylid dechrau ymgyrch i gael gwared a cherflun Nelson ar lan y Fenai. Gwelir y cerflun o Nelson o dan Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll. Cerfiad gan Clarence Paget, un o feibion Ardalydd Môn yw hwn a hyd y gwn i doedd a does dim cysylltiad o gwbl a Nelson.

‘Ffug-gofeb’ neu ‘ffolineb’ mewn ffordd yw’r cerfiad yma o Nelson yn yr un traddodiad ac arfer yr uchelwyr o godi ffug-gestyll neu ffug-dyrrau yn ystod y 18fed ganrif. Petae Clarence Paget ddim wedi ymddiddori mewn cerfio, fydda ‘na ddim cerfiad o Nelson yma ar lan y Fenai. Felly pa bwrpas ei ddymchwel?

Gallwn ddadlau drwy’r nos am hyn – beth am chwalu Gastell Penrhyn, beth am chwalu Castell Caernarfon – yn amlwg mae rhan o’r stori yma yn ymwneud a gormes a thrais. A dyma lle mae rhywun yn dechrau gweld gwendid y ddadl dros chwalu cofebion neu adeiladau hanesyddol. Dyma sydd yn caniatau i ni ddweud y stori ac i ddehongi’r stori – ac yn bwysicach byth i ddadlau ynglyn a’r da a’r drwg a phob agwedd o’r stori. Ar ei fwyaf eithafol mae angen cadw adeiladau a hanes Dachau a Belsen yn fyw – rhag i ni anghofio.

Awgrymaf yn garedig na ddylid gwyn-galchu Hanes ond, a dyma lle dwi’n tueddu i gytuno a Hirsch – mae’n hanfodol fod hanes yn cael ei ddadansoddi a’i drafod a fod y da a’r drwg yn cael ei amlygu. Ni ddylid cuddio’r drwg. Wrthreswm cawn gofebion a cherfiadau eraill sydd yn llai ‘dadleuol’ o ran y cymeriadau dan sylw ond yr un yw’r pwrpas – sef i gofio.

Newydd ei ddadadrchuddio ar y Maes yng Nghaernarfon mae cofeb i gofio am streic gweithwyr Friction Dynamics rhwng 2001 – 2003. ‘Ferodo’ oedd enw’r ffatri yn wreiddiol a fe agorwyd yr un flwyddyn a chefais fy ngeni, 1962 gan gyflogi 2000 o weithwyr.

Gyda dyfodiad perchennog newydd, yr Americanwr Craig Smith yn 1997, fe ail enwyd y ffatri yn Friction Dynamics a datblygodd anghydfod rhwng y gweithwyr a’r perchennog newydd wrth i Smith newid amgylchiadau cyflogau a hawliau gwaith. Bu gweithwyr ac Undebwyr allan ar steric am bron i 1000 diwrnod.

Yr hyn sydd yn drist yn yr achos yma yw fod tribwynlys wedi ochri gyda’r gweithwyr ond fod Smith wedi mynd yn fethdalwr, gwaraed a’r gweithwyr cyn ail agor y busnes fel Dynamex Frictiion. Er i’r tribwynlys farnu fod Smith wedi cael gwared a gweithwyr yn anheg erbyn 2010 bu rhaid i’r gweithwyr dderbyn na wela nhw byth yr iawndal. Bu i’r ffatri cau yn 2008.

Eironi’r stori yma yw fod cymhariaeth amlwg a Streic Fawr Penrhyn. Onid oedd Smith yn ceisio trin ei weithwyr yn yr un ffordd ffwrdd a hi di-hawlia a oedd rhai fel George Sholto Gordon Douglas-Pennant canrif ynghynt. Neb yn dysgu o hanes, hawliau gweithwyr yn fregus – a dyma ni heddiw 2018 – Brexit am gael gwared a’r holl “red tape” – heb esbonio yn aml mai’r “red tape” yw hawlia mamolaeth neu hawliau gwyliau’r gweithwyr.

Da o beth fod y gofeb yma wedi ei hychwanegu at gofebau Lloyd George, Hugh Owen, Llywelyn Turner a Willam Henry Preece ar Faes Caernarfon. Cymeriadau sydd angen eu trafod, herio, gwerthfawrogi, dadansoddi ond yn sicr ddim eu anghofio!

Saturday, 9 June 2018

Anarchwyr ac Artistiaid yn Harlech ar ddechrau'r 20fed Ganrif, Llafar Gwlad 140




Darlith ddiweddar gan Andrew Davidson, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, o’r enw ‘Anarchwyr ac Artistiaid: Eu dylanwad ar bensaernÏaeth Harlech ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif’, ddaru ddechrau’r broses o ail-feddwl am Harlech fel lle i mi. I’r rhan fwyaf ohonnom, y castell da ni yn weld, castell Edward I, rhan o goncwest 1283 - gyda chestyll Caernarfon a Chonwy. Tref Seisnig ganol-oesol. Ymwelwyr. Glwb Golff, Traeth.



Ond, mae llawer llawer mwy i Harlech. Yn amlwg felly, ond darlith Andrew ddaeth a hyn i’r amlwg. Cyn dechrau trafod rhai o’r adeiladau a chymeriadau o ddiddordeb mae’n werth cymeryd un cam yn ôl ac ystyried am eiliad sut rydym yn tueddu i ‘olygu’ hanes.

Dyma rhywbeth sydd yn fy mhoeni fwy-fwy y dyddiau yma. Soniais yn fy ngholofn ddwethaf (Llafar Gwlad 139) sut mae’r diffyg Cymry Cymraeg yn y maes archaeolegol yn siomedig ond cyfeiriais hefyd sut mae’r di-Gymraeg, ac yn enwedig y rhai sydd ddim yn ymdrechu i ddysgu’r iaith, yn cyfrannu at ddehongliad cul o’r dirwedd hanesyddol / ddiwylliannol Gymreig.

Credaf fod bod yn gaeth i ‘genedlaetholdeb’ cyfyng a beth bynnag yw ‘Cymreigtod’ yn y cyd-destun yna hefyd yn gallu cyfrannu at olygu’r hanes. A yw hyn yn arwain at greu naratif dderbyniol i’r agenda wleidyddol / ddiwylliannol sydd ohonni yn hytrach na dadansoddi’r hanes? Y peryg yma er engraifft, yw fod unrhyw gymeriadau (hanesyddol neu ddiwylliannol) gwrth-Gymraeg neu gwrth-Gymreig honedig yn cael eu di-ystyru neu eu crybwyll ar frys a meddyliaf yn syth am y ‘broblem’ sydd gennym fel Cymry Cymraeg hefo Dylan Thomas dyweder.

Engraifft arall fydda John Cale, y cerddor o Garnant, cyn aelod o’r Velvet Underground. Rhywun sydd heb arddel ei Gymreictod ddigon amlwg yn ôl rhai. Meddyliwch wedyn am yr holl ddadleuon ynglyn ac Edward I a’i gestyll. Y peryg yw fod hyn ôll yn cael ei weld fel rhywbeth sydd ddim yn ‘haeddu’ ein sylw, neu yn sicr gormod o’n sylw. Fy nadl bob amser yw nid ein lle ni yw golygu hanes, ein lle ni yw ei ddehongli a’i drafod, y da, y drwg ar hyll!

A dyma gyrraedd felly at yr hanes draddodwyd gan Andrew. Cymeriadau di-Gymraeg yn symud i mewn i Harlech yn y cyfnod Fictoraidd / Edwardaidd. Fawr o nodweddion Cymreig, felly o ddim diddordeb i ni fel Cymry Cymraeg. O ganlyniad, da ni ddim yn gyfarwydd a’r hanes. Ond fe gafodd yr anarchwyr a’r artistiaid effaith sylweddol ar ddatblygiad Harlech ac os am ddehongli Harlech heddiw rhaid deall beth ddigwyddodd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ategaf – peth peryglus yw ‘golygu’ hanes – nid yn unig yn wleidyddol – ond yn syml iawn o ran dehongli’r hanes.

Adeiladwyd Plas Wernfawr rhwng 1907-1908 ar gyfer George Davidson gan y pensaer o Glasgow, George Walton, yn yr arddull Celfyddyd a Chreft gyda wyneb ‘clasurol’ o garreg leol lwyd ar flaen y plasdy. Ganed Davidson yn Lowestoft yn 1854 a drwy ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth daeth mewn amser yn Gyfarwyddwr-Reolwr ar Kodak UK a drwy fuddsoddi yn Eastman Kodak daeth hefyd yn filiwnydd.

Roedd cefnogaeth George Davidson i welliannau cymdeithasol ac ymgyrchoedd y cyfnod yn arwain at gysylltiadau gyda anarchwyr ac oherwydd pwysau gan Eastman (a oedd yn wrthwynebus i’r fath gysylltiadau) bu rhaid iddo ildio ei swydd gyda Kodak yn 1908, er iddo barhau fel aelod o’r Bwrdd tan 1912. Dyma’r cyfnod symudodd i Harlech.

O ran ffotograffiaeth, mae George Davidson yn cael ei gydnabod fel arloeswr ym maes ffotograffiaeth argraffiadol. Ei lun The Onion Field (1890) sydd yn debyg iawn i lun wedi ei beintio yw’r llun argraffiadol ffotograffaidd cyntaf mae’n debyg.

Felly dyma ni yn Harlech, ‘anarchydd’ a milwnydd sydd wedi arloesi ym maes ffotograffiaeth. Pwy fydda yn gwybod hynny? Tydi hyn ddim yn rhan o’r naratif Cymreig? Ond mae’r adeilad yn chwarae rhan amlwg yn y naratif wedyn.
Trawsffurfwyd Plas Wernfawr yn 1927 i Goleg Harlech gan Thomas Jones (T.J), gwr oedd wedi gweithio fel ysgrifenydd i Lloyd George a Thomas Baldwin yn ei dro. Dyma gartref Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Coleg ail-gyfle. Coleg preswyl i’r rhai na chafodd addysg ffurfiol yn eu blynyddoedd cynnar. Silyn Roberts, Llanllyfni, sefydlodd y gangen gyntaf o CAG yng ngogledd Cymru yn 1925.

Cysylltir y gair ‘sosialaeth’ yn agos a CAG. Er nad oedd cysylltiad rhwng George Davidson a Thomas Jones mae’n addas rhywsut fod Plas Wernfawr wedi datblygu i fod yn adeilad ‘Coleg Harlech’. Rwyf wedi cael y fraint ers ganol yr 1980au o gynnal Dosbarthiadau Archaeoleg WEA fel roedd pawb yn cyfeirio atynt. Roedd ymweld a Choleg Harlech bob amser yn bleser erf od y rhan health o’r dosbarthiadau allyn yn y gymuned ym Mryncroes, Abersoch, Brynsiencyn ayyb. Bellach mae Coleg Harlech ar gau.



Oddifewn i Goleg Harlech / Plas Wernfawr mae murluniau gan yr arlunydd Robert Baker sydd yn dyddio o’r 1930au. Lluniau o dirweddau a chymeriadau Cymru sydd yma gan Baker, chwarelwyr a glowyr, Gorsedd y Beirdd a thirweddau amaethyddol. Cymeriad Cymru wledig a ddiwydiannol ar wal un ystafell. Rhyfeddol, ond gan fod yr adeilad yn wag, y gwresogydd i ffwrdd mae tamprwydd yn cael y blaen a’r lluniau.
Sylwais yn ddiweddar fod y plastr yn codi ohewydd y tamprwydd a fod paent y murluniau yn codi ac yn breuo. Dyna chi drist, er fod hwn yn adeilad Rhestredig Gradd II, does dim arian i gadw’r gwres ymlaen a thu cefn drysau caeedig rydym yn colli darnau o waith celf Cymreig. Ni does ateb gennyf ond tydi hyn ddim ddigon da nacdi?


Ychwanegwyd adeilad y llyfrgell yn ddiweddarach mewn arddull Art Deco gan y pensaer lleol Griffith Morris o Borthmadog. Ychydig i’r gorllewin fe welwn y neuadd breswyl, sef y tŵr uchel a fel Theatr Ardudwy (1974 gan S Colwyn Foulkes) mae’r adeiladau yma yn yr arddull Brutalist neu bensaernÏaeth garw. Diddorol yw’r cyfuniad agos yma o Gelfyddyd a Chrefft, Art Deco a phensaernÏaeth garw o fewn tafliad carreg i’w gilydd.



Tybiaf fod nifer o blaid dymchwel y ‘garw’ ond mae concrit yr 20fed ganrif bellach yn rhan o’r dirwedd hanesyddol / archaeolegol / bensaernÏol. Dyma’r un ddadl yn codi ynglyn a chynllun Sir Basil Spence ar gyfer Atomfa Trawsfynydd. Hyll. Ond dyma bensaernÏaeth garw ar ei ora. Eto – dim ein lle ni yw golygu’r dirwedd bensaernÏol. Cawn hoffi adeiladau a ‘chasau’ eraill ond gwae ni eu dymchwel yn ddifater.

Cysylltiad ffotograffaidd arall a Harlech yw cartrefi’r Americanwr Alvin Langdon Coburn. Cynllunwyd Cae Besi ar ei gyfer (yn ôl y son) gan Griffith Morris yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft. Dyma adeilad Rhestredig Gradd II arall yn Harlech. Coburn oedd un o’r ffotograffwyr cyntaf i dynnu lluniau hollol abstract ac i roi pwyslais ar dynnu lluniau o safleoedd gyda golwg dros y gwrthrych neu’r olygfa. Pwysleisiodd bwysigrwydd yr elevated viewpoint i ddefnyddio iaith y ffotograffydd.



George Davidson a Plas Wernfawr oedd y ddolen gyswllt o ran denu’r mewnfudwyr creadigol i Harlech. Trawsffurfwyd ‘diwylliant' y dref i raddau gan gymeriadau fel y cyfansoddwr Sir Greville Bartock, W H Moore ac A P Graves (tad y bardd Robert Graves awdur The White Goddess). Gwleir carreg fedd A P Graves ym mynwent Eglwys Sant Tanwg, Harlech.

Datblygwyd gwyl gelfyddydol yn Harlech ganddynt a magwyd gysylltiadau a chymeriadau fel George Bernad Shaw ac aelodau o’r Gymdeithas Fabian. Ond erys y ffaith fod y diwylliant yma yn hollol ang-Nghymreig ac allan o gymeriad. Chlywais i rioed son am hyn o fewn y byd Cymraeg. Dyma sydd yn gwneud yr hanes mor ddiddorol. Rhywsut mae angen ei berchnogi nid ei anwybyddu.

Llyfryddiaeth: Davidson, A., 2008, Coleg Harlech, Harlech GAT Report No 761



Llys Dorfil, Herald Gymraeg 30 Mai 2018



Rhys Mwyn a Bill Jones

Wrth deithio hyd a lled y wlad gyda’r nos yn rhoi sgyrsiau am archaeoleg i wahanol gymdeithasau byddaf yn aml yn dechrau fy narlith drwy ‘ddatgan yr amlwg’. A byddaf yn gwneud pwynt fy mod yn ‘datgan yr amlwg’ gan bwysleisio fod yr hyn rwyf am ei ddweud yn hollol amlwg i ni Gymry Cymraeg. A’r pwynt, yn weddol amlwg, yw ein bod ni Gymry Cymraeg yn ymwybodol iawn o berthyn i le.

Weithiau byddaf yn tynnu coes ein bod yn Genedl blwyfol iawn, gan bwysleisio fod plwyfoldeb yn gallu bod yn beth positif iawn. Rwyf i dal i ddweud fy mod o Sir Drefaldwyn pan mae rhywun yn gofyn ‘O ble rwyt ti’n dod?’ Efallai fy mod wedi byw yng Nghaernarfon bellach am gymaint a bu’m yn byw ym Maldwyn yn ystod fy ieuenctyd – ond byw yng Nghaernarfon ydw’i nid dod o Gaernarfon!

Wedyn ar ôl cael hwyl yn trafod ‘plwyfoldeb’ byddaf yn crybwyll y cysyniad o ‘genedlaetholdeb’. Tueddu at ‘genedlaetholdeb’ mae’r rhan fwyaf o Gymdeithasau Cymraeg eu hiaith. Nid wyf yn manylu gormod ar y diffiniad o genedlaetholdeb mwy na dwi’n poeni gormod am y diffiniad fod Cymru yn wlad Gristnogol. Weithiau, os yw’r hwyl yn dda byddaf yn mentro i herio rhyw fymryn – yn fy achos i, rwyf wedi hen ymwrthod a diffinio fy hyn fel cenedlaetholwr neu Gristion.

Nid fod modd fy niffinio chwaith fel anarchydd na phagan – dwi ru’n o’r uchod – jest yn fi. Nid hawdd yng NGhymru yw mynd yn groes i’r diffiniad o fod yn ‘genedlaetholwr’ gan fod hwn yn ddiffiniad mor eang a chynhwysfawr gennym fel Cymry Cymraeg. Ond weithiau, mae’n rhaid meddwl yn wahanol, cael rhyddid i feddwl yn wahanol. Y mantra gennyf pob amser yw y llinell gan y grwp pop anarchaidd Crass: “freedom isn’t freedom when your back’s against the wall”.

Efallai fod llinell Crass ychydig yn or-ddramatig. Go iawn does neb i weld yn poeni rhyw lawer am fy ‘ymwrthodiadau’. Ond mae cael ymwrthod yn elfen bwysig o ryddid. Dyna fy mhwynt pob tro.

Wedyn byddaf yn symud ymlaen at gyfnodau fel y Neolithig a’r Oes Efydd, y cyfnodau hynny sydd yn dechrau oddeutu 4000 cyn Crist a 2000 cyn Crist. O gyfandir Ewrop daeth amaethyddiaeth 6000 o flynyddoedd yn ôl ac o gyfandir Wrop daeth technoleg metal 4000 o flynyddoedd yn ôl. A dyna daro ergyd yn erbyn ffolineb a gwallgofrwydd Brexit.

Ar y pwynt yma rwyf yn ddi-ofn. Yn wyneb y fath ffolineb, teimlaf gyfrifoldeb i wneud y pwynt. Ers y cyfnodau cynhanesyddol rydym wedi cael perthynas agos a chyfandir Ewrop – heb Ewrop fydda na ddim ffermio na metal. Syml. Dyma gyfle felly i grybwyll fod archaeoleg yn fwy na rhywbeth ‘diddorol. Mae archaeoleg yn berthnasol. Hollol berthnasol.

Anodd osgoi y gwleidyddol a dwi ddim yn siwr os dylia ni fod yn ceisio osgoi’r gwleidyddol. Ers degawd bellach rwyf wedi treulio rhan sylweddol o fy amser yn ymwneud ac archaeoleg yng Nghymru. Mewn erthygl diweddar yn Llafar Gwlad (Llafar Gwlad 139 Chwefror 2018) mentrais ymosod ar y diffyg dwy-ieithrwydd, y diffyg o ran y Gymraeg, y diffyg o ran agweddau Cymreig a’r ymdeimlad Cymreig o fewn y maes yng Nghymru.

Mewn ffordd roeddwn yn ymosod ar nifer o fy ngyd-weithwyr, rhai yn ffrindiau – ond awgrymais mai teledu du a gwyn oedd yr archaeolegwyr di-Gymraeg yn ei weld – rhaid wrth yr Iaith Gymraeg os am gael y darlun llawn, y darlun HD lliw. Awgrymais – os ydynt mor frwd am Gymru a’r archaeoleg – pam and oeddynt yn dysgu’r iaith?

Dyma bregeth sydd ddim angen ei thrafod gyda criw Cymdeithas Archaeoleg Blaenau Ffestiniog. Rwyf wedi cyfeirio at y criw yma sawl gwaith dros y blynyddoedd yn y golofn hon wrth grybwyll gwaith ardderchog Bill Jones a’r criw yn cloddio ym Mhenamnen, Ffynnon Elen / Elan (Dolwyddelan), chwarel cerrig hogi Moel Siabod neu yng Nghwmorthin.


Pendroni

Newydd ddechrau cloddio yn Llys Dorfil ar gyrion Tan y Grisiau / Blaenau Ffestiniog mae Bill a’r criw. Y Gymraeg yw iaith naturiol y gwaith hyd yn oed os yw’r di-Gymraeg yn ymuno. Perthyn i le mae’r criw – pobl Blaenau, pobl Tan y Grisiau, pobl y fro – gyda gwybodaeth eang, dealltwriaeth eang, Does dim diwrnod gwell i’w gael nac ymuno gyda criw fel hyn yn yr awyr agored, i gloddio gyda golygfeydd hyfryd draw dros Gwm Bowydd tuag at Blaenau ar y gorwel.

Lloc ac adfeilion adeiladau sydd yma. Lloc cylchog anferth gyda sawl tŷ llwyfan tu fewn i’r lloc ond y cwestiwn amlwg yw pa gyfnod? Mae’r tai llwyfan sydd wedi eu hadaeiladu ar lwyfan artiffisial ar y llethr bron yn sicr yn rhai Canol Oesol. Ond y lloc – fe all rhywbeth fel hyn ddyddio o’r cyfnod cynhanesyddol?

Fy argraff cyntaf oedd tirwedd aml-gyfnod. Os bu defnydd o’r darn yma o dir dros y blynyddoedd ar gyfer amaethyddiaeth – mae’n berffaith bosib fod y defnydd dros ganrifoedd neu yn perthyn i wahanol gyfnodau. Cawn adroddiad hanesyddol fod yma feddau neu fynwent o rhyw fath.

Fe all fod yr archaeoleg yn gymhleth felly? Rydym wedi bod yn edrych ar nodwedd sydd yn ymdebygu i gist fedd gyda meini cyfochrog wedi eu gosod ar eu hochr  greu nodwedd lled sgwar rhyw 2.5 medr ar draws. Yr wythnos hon rydym yn gobeithio datrus y cwestiwn os yw’r nodwedd yma yn rhywbeth gafodd ei adeiladu gan ddyn neu os mai ‘ffliwc’ hollol naturiol yw gosodiad y cerrig. Dim ond drwy gloddio gallwn ddatrus y cwestiwn.


Cist-fedd?