Wednesday 28 March 2012

Herald Gymraeg 28 Mawrth 2012




Daeth y Gwanwyn yn do, a dyma benderfynu mynd allan i ddarganfod llwybrau newydd, hynny yw, newydd i mi, yn aradl Mynydd Cilan ym Mhen Llyn. Yr ail ran o’r penderfyniad oedd mae hwn fydd y picnic cyntaf eleni i ni fel teulu, mae’n bnawn Sul braf, felly dyma baratoi brechdanau, diod ac ambell i felysyn a thrio cael pob dim i mewn i un sach cefn-cerdded sydd yn anodd hefo dau o blant, 4 potel o ddiod, ffrwythau, un bocs i’r brechdanau, mwy byth o fagiau o greision …… yn y diwedd dwi’n gorfod cario bach ychwanegol.

                Rhai blynyddoedd yn ol bu’m draw i fferm Cilan Uchaf i chwilio am y gromlech a ddangosir ar y map O.S. Rhaid cyfaddef mae ychydig iawn yr oeddwn yn ei wybod am y gromlech ond roedd y lleoliad yn apelio. Rwan mae’n rhaid fod hyn tua ddeng mlynedd yn ol achos roedd cyn i ni gael y plant a’r hyn dwi’n gofio oedd i mi guro ar ddrws Cilan Uchaf ond chefais ddim ateb a dwi’n credu i mi grwydro ychydig o amgylch y caeau ond chefais i fawr o hwyl dod o hyd i’r gromlech. Sgwni os oedd y gromlech wedi hen ddiflannu ?

                Felly mae’n rhaid cyfaddef fod gennyf agenda bach fy hyn ar ddiwrnod y picnic. Go iawn roeddwn ar dan isho dod o hyd i’r gromlech ond roedd “picnic” yn ffordd dda iawn o gael pawb o’r ty ac allan i gerdded. Ar ol mynd heibio Sarn Bach a Bwlch Tocyn  dyma benderfynu dilyn y llwybr troed sydd yn dod a ni at y clogwyni ychydig i’r de orllewin o Borth Ceiriad ac o fewn rhyw ddeng munud rydym mwy neu lai ar lan y mor.

                Dwi’n dweud mwy neu lai gan fod y llanw i fewn a mae dipyn o glogwyni yma, felly does dim traeth fel y cyfryw dim ond creigiau yn cael eu chwipio gan y mor. Mae Porth Ceiriad i’r chwith, i’r Gogledd-Ddwyrain rhyw hanner milltir i ffwrdd (ac i’r cyfeiriad anghywir os am fynd am y gromlech) felly rydym yn dod o hyd i graig addas i ni gael eistedd a wyddoch i beth – dyma olygfa fendigedig. Rydym yn gweld dros  pared Mawr ac yn edrych wedyn draw am  Drwyn yr Wylfa.

                Dros y mor, mae tirlun y Rhiniogau ac ardal Harlech, yn ymddangos yn bell i ffrwdd, bron yn ddim ond cysgodion fel fyddai Meic Stevens yn ei ganu. Dyma’r math o le fydda rhywun yn gallu eistedd am ddiwrnod cyfan, onibai fod y graig braidd yn galed ar benol rhywun, ond mae modd syllu allan dros y mor am oriau yndoes. Ambell i wylan yn unig sydd yma heddiw, dim son am forlo na dolffin na chwch pysgota yn nunlle.  Heddwch pur.

                Daeth criw o gerddwyr i darddu ar ein heddwch pur. “Damia” medda ni dan ein gwynt ond mae nhw’n griw ddigon dymunol, di-Gymraeg, ifanc, myfyrwyr o bosib, yn dilyn Llwybr Afordir, yn dilyn un o lyfrau Gwasg Carreg Gwalch, Llwybrau Llyn. Dwi’n taro sgwrs, neu’n ymdrechu oleiaf. Di-serch yw pobl ifanc di-Gymraeg ar adegau, dydi’r grefft o gael sgwrs ddim wedi ei feistrioli ganddynt eto, ond dwi’n benderfynol …… oedda nhw wedi sylwi ar gromlech wrth iddynt ddilyn y llwybr o Fynydd Cilan ?

                Rhaid bod eu trwynau mor ddwfn yn “Llwybrau Llyn” fel bod neb yn edrych o’u cwmpas. Na neb wedi gweld unrhywbeth. Diolchais yn gwrtais a dymunais yn dda iddynt a dyma ffarwelio. Cefais rhyw fath o wen gan ambell un o’r criw. Erbyn hyn mae pawb wedi stwffio gormod o greision, pop a bara brown. Dwi yn sicr angen cerdded rwan i gael gwared a hyn i gyd felly dyma godi’r pac a dechrau dringo’r llwybr arfordirol i fyny am Fynydd Cilan.

                Argian dan mae yna glogwyni serth yn fan hyn. Lle mae’r hogia ???? Gafael yn dyn a chadw nhw yn bell o’r ochr. Mae’r hogia yn cael dad a mam yn eu rhybuddio, dim rhedeg, dim chwarae yn wirion a chadw at ochr bella’r llwybr i ffwrdd o’r clogwyni. Yn fy henaint, neu efallai fel rhiant, fyddwn i ddim bellach yn mentro at ochr y clogwyni i gael golwg gwell. Yn yr hen ddyddiau doedd croesi Crib Goch yn golygu dim. Yn sydun iawn dwi’n ddipyn fwy pryderus. Ella byddwn yn iawn ar ben fy hyn ond gyda’r plant mae rhywun yn ymwybodol iawn faint o gyfrifoldeb sydd ganddom.

                Erbyn hyn ma’r map O.S allan o fy mhoced, yn fy llaw, wedi ei agor, a dwi’n ymdrechu i gael sicrwydd o’n lleoliad, “mae’n rhaid fod y gromlech yma yn rhywle”. Daeth y llwybr arfordirol i ben a dyma droi dros gamfa a thrwy gae gwyrdd i ffwrdd o’r clogwyni. Wrth gyraeth y giat i’r cae nesa dyma sylwi ar garreg anferth yn gorwedd ar waelod y cae. Sgwni os mae hon yw hi ?

                Roedd y slaban anferth yma yn gorwedd ar y cae. Doedd dim tystiolaeth o feni eraill yn ei dal o ben pella’r cae. Ella mae naturiol oedd hyn yn hytrach na chromlech ond doedd dim dewis ond brasgamu tuag at y fael i gael golwg agosach. Roedd yr hogia wedi hen gyrraed, ac yn wir ar ben y garreg, erbyn i mi gyrraedd ond yn syth dyma ddechrau asesu yr hyn oedd o fy mlaen.

                Yn sicr roedd olion o gerrig o dan y “gap-faen” anferthol yma ac wrth i mi gerdded yn ofalus o amgylch y garreg dyma nodi oleiaf dwy faen arall oedd wedi disgyn o dan y gapfaen – ar yr ochr ddwyreiniol. Rhain mae’n siwr oedd y meini oedd wedi dal y gapfaen yn ei lle yn ystod y cyfnod Neolithig, rhyw pum mil o flynyddoedd yn ol. Ebnw’r aradl yma yw Trwyn Llech y doll, dyna chi enw hyfryd.

                Ddeng mlynedd yn ddiweddarach dyma ddyn balch yn sefyll ger y gromlech. Nid hawdd cael ei hyd achos dydi hi ddim mor amlwg a hynny gan ei bod yn gorwewdd ar y llawr. Un peth sy’n sicr, roedd yr hean greadur Neolithig, un o ffermwyr cyntaf Pen LLyn wedi cael lle godidog iawn i’w gladdu !

Friday 23 March 2012

Herald Gymraeg 21 Mawrth 2012



Dyma ddychwelyd eto i Sir Drefaldwyn, y tro yma i gynnal gweithdy penwythnos ar Archaeoleg ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, neu’r WEA fel da ni’n tueddi i ddweud, yn yr Institiwt Llanfyllin. Mae’r penwythnosau yma yn rhai bach da, y syniad yw fod oedolion yn cael blas ar y cyfnodau Archaeolegol, gan gynnwys rhoi sylw i safleoedd lleol ac yn well byth, ein bod yn cael mynd allan ac yn gwneud ychydig o waith maes.

                Felly mae criw yn ymgynyll, ran amla criw sydd a diddordeb yn hytrach na unrhyw arbenigedd yn y maes, a’r peth cyntaf i’w wneud bob tro ydi meddiannu’r gegin a chynnig panad i bawb. Rhaid i’r amsar panad gynnwys bisgedi wrth reswm ond o ganlyniad, naw gwaith allan o ddeg, rydym oll yn hen ffrindiau erbyn gorffen ein panad. Mae hi bellach yn 9-20 y bore !

                Diddorol yw nodi fod y dosbarth bach brwdfrydig yma ym Maldwyn yn hanner- hanner, sef hanner yn Gymry Cymraeg naturiol, rhugl a’r hanner arall yn ddysgwyr medrus. Dyma sut i godi calon rhywun ar fore braf o Wanwyn. Prin chwe milltir o’r ffin a mae tystiolaeth pendant fod pobl Gogledd Ddwyrain Maldwyn yn gweld gwerth dysgu’r Iaith -  fel dywedais, codi calon rhywun, ac efallai, ond efallai, ein bod yn euog weithiau o ddi-ystyru ymdrechion dysgwyr.

                Rwyf yn gweld mwy a mwy o ddysgwyr dyddiau yma drwy fy ngwaith darlithio, mae sawl dosbarth gennyf sydd a chanran sylweddol o ddysgwyr yn mynychu, ac o ganlyniad mae rhywun yn sicr yn siarad yn fwy pwyllog, yn cadarnhau fod pawb yn dilyn y termau “newydd” archaeolegol fel celc am “hoard” ond mae’n ffordd ddigon diddorol o ymarfer y Gymraeg dybiwn i.

                Rhaid canmol Institiwt Llanfyllin, mae’n glud a chyfforddus, dyma fydd ein camp am y penwythnos a mae’r gofalwyr yn gofalu amdanon, yn galw heibio i weld fod popeth yn iawn a hefyd yn dod a gwaewffon Oes Efydd i mewn i ddangos i’r dosbarth – dipyn o gynnwrf yn Llanfyllin felly. Ar ol dipyn o ddarlithio a dangos lluniau mae’n amser am “waith maes” a phleser o’r radd flaenaf oedd cael ymweld a Sycharth ar y pnawn Sadwrn.

                Dyma safle sydd yn enwog fel un o gartrefi Owain Glyndwr (un o gartrefi wir ! yr Uchelwr uffar !! Sgwni beth yw’r safbwynt Marcsaidd ar Glyndwr ? sori tynu coes ychydig ynde). Does dim dwy waith fod Sycharth wedi ei osod yn un o’r safleoedd harddaf yng Nghymru, mewn dyffryn cuddedig ger Ddyffryn Tanat, rhwng Llangedwyn a phentref Llansilin. Roedd cartref Glyndwr yn un godidog, fel y nodwyd gan Iolo Goch yn ei gerdd “Llys Owain Glyndwr” yn ei lyfr ‘Iolo Goch : Poems’.

                Hyd at heddiw mae rhywun yn cael blas o’r awyrgylch yma, gyda’r pyllau pysgod a’r ail ddefnydd o bosib o’r hen domen Mwnt a Beili Normanaidd fel y gwnaeth yng Nglyndyfrdwy, dyma le lle roedd croeso i Uchelwyr eraill o ardal y Gororau, dyma lys Ewropeaidd ei naws, yn edrych allan, yn addysgiedig, yn gyfoethog, yn rhan o’r gymdeithas Uchelwyr.  Mae nifer wedi awgrymu fod cerdd Iolo Goch hefyd yn ddrych ar y math o gymdeithas roedd Glyndwr yn perthyn iddi.

                Ddiwedd y prynhawn a’r myfyrwyr wedi ei throi hi am adre am y nos, mae dal digon o oleuni i mi gyrraedd Llanrhaeadr ym Mochnant. Rwyf eisiau cael lluniau o’r faen-hir sydd yn cynnwys carreg filltir gan nodi y pellter i Amwythig a Llundain a rwyf hefyd am dynu llun y cofebau ar wal y fynwent i William Morgan, un mae’n rhaid dweud braidd yn wyrdd dyddiau yma oherwydd mwsogl.

                Wedyn rhaid dilyn y lon fechan droellog am rhai milltiroedd at y Pistyll Rhaeadr. Dyna sioc, mae yna geir ymhobman, y maes parcio yn llawn, pobl o gwmpas – sydd yn dda i’er econiomi leol wrthreswm – ymwelwyr cynnar – Croeso i Gymru. Penderfynais osgoi’r dorf a dilyn y llwybr i ben y pistyll. Mae angen pen da am uchder.

                Llai na chanllath o ben y pistyll sylwais ar bentwr o gerrig, dwi’n gwybod be di hwn meddyliais, felly dyma ddilyn y llwybr mynydd rwan i gyfeiriad y Berwyn go iawn. Ie wir, dyma olion crug claddu neu garnedd gladdu o’r Oes Efydd. Mae un tebyg iawn ger Bwlch y Ddeufaen sydd yn dwyn yr enw Barclodiad y Gawres ond ddim i’w ddrysu hefo’r siambr gladdu ger Aberffraw yn amlwg. O fewn ugain llath i’r garnedd yma dyma sylwi ar adfeilion hen hafodty. Tirwedd archaeolegol unwaith eto, olion dyn ymhobman.

                Y diwrnod canlynol rydym yn ymweld a Thomen Castell ym mhentref bach taclus tu hwnt, Llanfechain. Doedd neb o’r dosbarth wedi ymweld a’r castell Mwnt a Beili yma o’r blaen a mae’n braf cael tywys pobl i rhywle newydd. Mae’r ffosydd a’r domen i’w gweld yn glir ar ochr y ffordd o Lanfyllin i lanfechain ond does dim modd curo rhoi troed ar y tir. Rhaid sefyll ar safle i gael y profiad llawn.

Eto dyma safle trawiadol iawn. Cwestiwn da os yw’n safle Normanaidd neu un Cymreig ? Un peth sydd yn sicr mae’n gorwedd yn Nyffryn Cain ger y Gororau ac yn hanesyddol  dyma ardal lle bu dipyn o ymrafael dros reolaeth yr ardal. Fe all fod yn gastell Cymreig yn defnyddio’r arddull Normaniadd. A’i yma oedd castell Tywysog Powys, Owain Fychan ap Madog a fu’n brwydro yn yr ardal yma o Fochnant o  gwmpas 1166 ?

Felly y “Penwythnos Mwnt a Beili” fel cafodd ei fathu. Dau safle hynod, a dau safle y byddwn yn argymell yn fawr iawn i ddarllenwyr yr Herald ymweld a nhw.

Thursday 15 March 2012

Herald Gymraeg 14 Mawrth 2012


Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol  Clwyd Powys yn gweithio yn ardal Walton, Sir Faesyfed, ers y 90au fel rhan o Brosiect Basn Walton yn dilyn darganfod safleoedd archaeoleg drwy awyrluniau. Yr hyn a geir yma yw basn naturiol, yn wir o sefyll yn ardal Walton ac o edrych o gwmpas mae’n ymdeimlo fel petae rhywun wedi galnio mewn amffitheatr anferth naturiol.

                Y tebygrwydd yw, fod dyn dros y canrifoedd wedi sylwi ar y tir ffrwythlon sydd yma a hefyd dyma’r bwlch naturiol o Loegr i Gymru. Cofiwch yn ol yn y cyfnod cyn-Hanesyddol doedd yna ddim cysyniad o Gymru fer rydym yn adnabod y darn yma o dir erbyn heddiw ond o ran y ffordd o’r dwyrain i’r gorllewin dyma ffordd naturiol i ddyn deithio – o’r gwastadedd tuag at y tir uwch a’r mynyddoedd maes o law.

                Y math yma o resymeg sydd felly yn esbonio fod yma olion o’r cyfnod Neolithig, cyfnod yr amaethwyr cyntaf tua 5 mil o flynyddoedd yn ol, olion a meini o’r Oes Efydd a wedyn yn ddiweddarach, olion y Rhufeiniaid. Digon o waith fod yr olion Neolithig yn dal i sefyll pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid – wedi’r cwbl mae mwy o amser rhwng y Neolithig cynnar (3000 CC) a’r Rhufeiniaid na sydd wedi mynd heibio ers i’r Rhufeiniad adael Cymru tua’r 383 OC a heddiw.

                Felly mae’n debyg mae’r lleoliad sydd yn bwysig yn yr achos yma, yn strategol, yn ddaearyddol ac yn ddewis amlwg i’w anheddu yn hytrach na unrhyw gof gwerin  neu olion oedd wedi goroesi o un cyfnod i’r llall. Ta oedd trigolion Walton o’r Neolithig, drwy’r Oes Efydd hyd at gyfnod y Rhufeiniaid wedi ail adrodd storiau am “yr hen bobl” oedd yn byw yn y basn ? Go brin ond nid amhosib.

                Hyd at  heddiw mae’r tir yma yn dir amaethyddol ffrywthlon a felly o ganlyniad i’r aredig, mae unrhyw olion archaeolegol wedi hen ddiflanu o wyneb y ddaear, ond mae yna ddigonedd o olion yn gorwedd o dan y pridd yn aros i gael eu cloddio, eu darganfod a’u dadansoddi. Drwy gyfrwng yr awyrluniau awgrymwyd fod yma dirwedd defodol yn dyddio o’r Neolithig.  Gwelir olion dau loc hirgron anferth ac un rhodfa neu gwrsws.

                O ran maint, mae’r cwrsws ei hyn yn 680 medr o hyd a 60 medr o led. Mae’r mwyaf o’r ddau loc yn 2.35km o hyd ac yn cynnwys 34 hectar. Felly mae’r llociau i’w gweld o’r awyr fel cy;lchoedd tywyll yn y caeau ond siomedig iawn fyddai arwain taith gerdded Edward Llwyd i ymweld a’r safle achos does dim o gwb i’w weld ar y ddaear, felly rhaid cloddio os am ddeall mwy am y llociau.

Cefais gyfle Dydd Mawrth dwetha i ymuno a thim Clwyd Powys yn Walton. Dyma godi yn fore, gadael Caernarfon a chyfarfod y criw ger y gamlas yn y Trallwng toc wedi 8 y bore. Treuliais ddwy flynedd hapus iawn o fy mwywyd yn gweithio i Clwyd Powys 1984/85 cyn i’r hen fusnes Canu Pop ma hawlio fy sylw a dyma gyfle i ail gyfarfod a hen ffrindiau, hen gyd weithwyr – archaeolegwyr fuais hefo nhw yn cloddio yn Four Crosses, Trefaldwyn, Capel  Maelog (Llandrindod) ac wrthgwrs y Gaer Rhufeinig yng Nghaersws.

Braf, roedd fel “bod adre”, pawb yn ddoethach, ond dim wedi newid chwaith – son am gael croeso a theimlo’n gyfforddus. Rhwng Forden, Yr Ysgog a Thref y Clawdd dyma drafod safle Walton a’r hyn oedd yn ein wynebu wrth gloddio. Ffenestr fechan arall, diolch i CADW, i geisio deal mwy am y safle arbennig yma a fel rhywbeth allan o Time Team roedd pump twll neu safle wahanol wedi eu hagor gan y Jac Codi Baw i ni gael cip olwg arnynt.

Joban cyntaf y diwrnod oedd glanhau wyneb bob twll – gyda’n trywal bach – gan gribo’n ofalus i gael y golwg cyntaf ar beth oedd dan y pridd. Dydi cyffrous ddim ynddi bois bach. Roedd hwn yn hawdd yn un o’r dyddiau hynny lle mae rhywun wirioneddol yn diolch i ba bynnag argwydd ddiolchodd Cerys Matthews iddo am gael bod yn Gymro ond roeddwn yn rhoi archaeolegydd o Gymro i mewn yn lle’r Cymro unig yng nghan Catatonia.

Roeddwn ochr yn ochr unwaith eto a’r archaeolegydd Nigel Jones, cyfaill i mi yn nyddiau Four Crosses hyd at Caersws, fel dywedais fawr wedi newid ond fod Nigel bellach yn uchel ei barch yn y maes a wedi cyhoeddi sawl adroddiad a finnau bellach yn gallu rhesymu ac yn dallt archaeoleg cymaint gwell nac yr oeddwn yn ol yn y dyddiau cythryblus yna ddechrau’r 80au lle roedd Punk Rock yn dylanwadu ac yn galw a Thatcher yn mynnu sylw ein gwrthryfel.

Nid gorddweud mae hwn oedd un o dyddiau gorau fy mwywyd, yn sicr yn archaeolegol, achos o fewn yr 8 awr o gloddio reoddwn wedi gweithio ar ddarn o’r lloc Neolithig a hefyd ar ddarn o fynedfa’r Vicus, sef y dref ger y gaer Rhufeinig. Nid aml mae rhywun yn gallu cloddio dau gydnod fel hyn ar yr un diwrnod. Yn sicr dydwi rioed di gwneud hyn o’r blaen !

Cwestiwn mawr prosiect Walton yw beth oedd pwrpas y llociau anferth hirgron yma ? Mae’r llociau yn rhy fawr i ddefnydd amaethyddol, nid y “mart” lleol oedd hyn ar gyfer gwerthu gwartheg, gallwn fod yn weddol sicr o hynny. Mae awgrym fod y fynedfa i’r lloc yn gyfyn, sydd yn awgrymu efallai fod yna reoli ar fynediad i’r lloc a mae’r cwrsws gyfagos yn amlwg yn atgyfnerthu’r ddadl fod hwn yn dirwedd defodol. Fedra ni ddim ond dychmygu …………..

Thursday 8 March 2012

Ann Griffiths v Real Powys Herald Gymraeg 7 Mawrth 2012




Mae ambell i wahoddiad yn rhy dda i’w wrthod, y cynnig daeth i law oedd gan yr awdur Mike Parker i mi ymuno ag e i gerdded ar hyd llwybr Ann Griffiths o Bont Llogel draw i Ddolanog ar ddiwrnod hyfryd, hyfryd o fis Fedi ar hyd yr hyfryd, hyfryd Efyrnwy yn yr hyfryd, hyfryd rhan yma o Faldwyn. Parker wrthgwrs yw awdur llyfrau fel  “Neighbours From Hell, English Attitudes to the Welsh” (y Lolfa) a “Map Addicts” (Collins).

                Rwan go iawn, bu i ni fynd ar y daith yma ar y 3dd o Fedi, 2010 ond roeddwn wedi gaddo na fyddwn yn sgwennu am y daith nes ei fod e yn cyhoeddi ei lyfr diweddaraf “Real Powys” (Seren), sydd allan nawr.  Blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, dwi ddim am ail adrodd hanes y daith yn ei chyfanrwydd a thecach efallai fydd rhoi sylw i lyfr hyfryd, hyfryd  Parker.

                Mae’n  lyfr teithio amgen os mynnwch, wedi ei selio ar y ddamcaniaeth lled radicalaidd o’r enw seico-ddaearyddiaeth, sef i bob pwrpas dilyn eich trwyn heb ormod o gynllunio. Yn ol y son bu cryn ddadlau rhwng Parker a golygydd y gyfres, Peter Finch  (sydd yn cynnwys  Real Cardiff, Real Merthyr, Real Newport) os oedd seico-ddaearyddiaeth yn bosib yn nghefn gwlad yn hytrcah na’r amlwg dref neu ddinas. Yn amlwg bu Parker  yn llwyddianus yn ei ymdrechion i ddarbwyllo Finch.

                A dweud y gwir, wrth i mi drafod hyn a Parker, mae’n hollol amlwg i mi fod seico-ddaearyddiaeth yn gweithio yn unrhywle, yn wir fe sgwennais golofn i’r Herald rhyw flwyddyn yn ol yn gwneud hyn yng Nghaernarfon gan gerdded o’r Maes i’r Gaer Rhufeinig yn Segontium gan nodi unrhywbeth o ddiddordeb oedd ar hyd y daith. Felly mae seico-ddaearyddiaeth yn gweithio tu allan i’r cyd-destyn trefol Mr Finch !

                Un o’r peth doniolaf a ddigwyddodd i ni ym Mhont Llogel ar y bore hynny o Fedi oedd fod Parker wedi awgrymu ein bod yn cyfarfod ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth am 11 y bore. Ddigon hawdd. Dwi’n cyrraedd mewn da bryd ond dim golwg o Mike. Mae Mike hefyd yn cyrraedd mewn da bryd a dim golwg o Mwyn ? Dim signal i’r ffon symudol feklly ar ol hanner awr o sefyllian dyma’r ddau ohonnom yn penderfynu cerdded am dro i ganol Pont Llogel a dyna un o’r digwyddiadau “Dr Livingstone hynny”. Pwy fydda wedi disgwyl i le mor fach (a hyfryd) a pont Llogel i gael dau maes parcio, un naill ochr i’r pentref.

                Go dda rwan, Parker yn ddyn mapia a finna yn dywysydd ac o’r ardal yn wrieddiol ! Do fe chwerthodd y ddau ohonnom, nid yn unig am fod y peth yn ddoniol ond dwi’n amau’n gryf iawn fod y ddau ohonnom wedi teimlo braidd yn wirion o feddwl ein diddordebau mewn mapiau ! Ta waeth, un peth oedd yn taro rhywun wrth i ni gychwyn ar hyd Llwybr Ann Griffiths oedd pam mor hollol llonydd oedd yr Efyrnwy. Roedd y dwr yn frown, tybiaf oherwydd y mawn yn yr ucheldir, ond roedd yr afon fel awgryma Gwilym Colwlyd yn dangos lun y dydd ar len y dwr.

                Y distawrwydd llethol oedd y peth arall oedd yn amlwg, dim swn y Byd, dim swn ceir, dim ond ambell i ddafad neu fran, unwaith eto, dyma wirioneddol deimlo fod yr enaid yn cael llonydd yma, yn wir, fod posib i enaid gael llonydd yma – mae hynny bellach yn beth prin a rhywbeth i’w drysori.  Yn y bennod yma, sydd a’r penwad (i’w disgwyl yndoedd) “Gwlad y Plygain, Gwlad y Pync” mae Parker yn defnyddio ein sgwrs fel sail i’r bennod, felly ar hyd lan yr Efyrnwy dyma roi y Byd yn ei le, do fe fu rhaid trafod Plygain ar hyn a elwir gan Parker fel “storm in a tea cup” sef darllediad Radio Cymru o artistiad gwerin cyfoes yn dehongli Plygain, a mae awgrym ganddo yn y llyfr ei fod yn credu fy mod yn feistr ar greu digwyddiadau dadleuol a hynny yn fwriadol er mwyn creu sylw. Ymlaen a ni ………….

                Wrth i ni gyrraedd pentref Dolangog, dyma fentro i fewn i Gapel Coffa Anne Grifiths, y tro cyntaf i mi, rhag fy nghywilydd, ond heb os dyma oedd uchafwbynt y daith o ran swrealaeth a seico-ddaearyddiaeth. Astudiodd y ddau ohonnom gerflun Ann Griffiths, y cerflun gwyn hynny, yr unig ddelwedd o Ann, ac yn ol y son, dim sylwedd i’r ddelwedd, dim ffynhonnell, dim llun, dim portread arall o Ann.

                Agorwyd y capel ym 1904 fel capel i goffau Ann ac yn bensaerniol mae’n perthyn i’r dylanwad Celf a Chrefft, sydd efallai yn anarferol i gapel anghydffurfiol. Adeiladwyd y capel ar safle hen gapel Methodistaidd Salem a adeiladwyd ym 1830 ac a adnabyddir fel “Ty’r Ysgol” ond a oedd mewn fath gyflwr erbyn dechrau’r Ugeinfed Ganrif fel roedd rhaid ei ddymchwel.

                Un diddorol yw delwedd Ann, does dim modd weud os oed hi’n ferch ddel neu ddim, mae’n ddelwedd eiconaidd wrthgwrs, achos dyna’r unig un, ond does dim awgrym o “hwyl” a fe dreuliodd y ddau ohonnom weddill ein amser cinio yn trafod Ann, sut ferch oedd hi, y dewrder mewn ffordd wrth iddi adael yr Eglwys yn Llanfihangel yn Ngwynfa, cefnu a chrefydd ei theulu  a throi at y Methodistiaid – dipyn o ferch yn sicr.

                Un peryg yr olwg oedd John Hughes, Pontrobert, cytunodd y ddau ohonnom na fydda’r un ohonnom yn dadlau hefo John Hughes ar noson dywyll ar strydoedd cefn Pontrobert cyn i ni adael Dolanog a dringo Allt Dolanog tuag at yr hen gaer Oes Haearn. Bu i mi ymweld a chaer Allt Dolanog yn ystod fy nyddiau coleg gan i mi selio fy nhraethawd hir ar Fryn Gaerau Dyffryn Banw a’r Cylch. Ar y diwrnod hyn mae’r rhedyn yn uchel, ffordd hir i fynd a Dolwar Fach angen  cael tic yn y bocs felly gwybio heibio naethom ond gan godi llaw (neu het) ar hen bobl Celtaidd Dolanog.

                I droi yn ol at lyfr Parker, Real Powys mae’n lyfr sydd yn gorlifo gyda perlau bach, llefydd bach diddorol di-arffordd, anweladwy, angof, llefydd angen cyfeirnod map – llefydd bach diddorol led led Powys o’r De i’r Gogledd, Dwyrain i’r Gorllewin. Prynwch y llyfr ac ewch am dro !

Thursday 1 March 2012

Herald Gymraeg 29 Chwefror 2012.

Yn y rhifyn cyfredol (Mawrth-Ebrill 2012) o’r cylchgrawn ‘British Archaeology’ mae cryn sylw, a gofod sylweddol, gan gynnwys y dudalen flaen, cyfweliad ag e, llythyrau a gwerthfawrogiad,yn cael ei roi i’r ffaith fod Mick Aston yn gadael y rhaglen Time Team.  Yr hyn sydd yn amlwg o ddarllen y cyfweliad cignoeth a gonest hefo Mick yw ei fod yn mynd o ran “egwyddor”, wrth i gynhyrchwyr Time Team ildio i bwysau ma’n siwr i gael cyflwynwyr ifanc newydd (mwy deiniadol ?) ar y rhaglen.

                Mae un darn yng nghyfweliad Aston sydd yn dweud y cyfan, wrth iddo honni i Tony Robinson, cyflwynydd rheolaidd y gyfres, ei ddarbwyllo i ddewis ei eiriau yn ofalus wrth siarad gyda Sianel 4. Dyma’r linell wnaeth y fwyaf o argraff arnof, fod rhai, a ddigon teg, yn poeni bellach am gadw eu swyddi – rydym yn hen gyfarwydd ar ymadroddiad Saesneg hynny o “beidio ysgwyd y gwch” – a dyna oedd awgrym Robinson yn yr achos yma.

                Dwi’n dweud “ddigon teg” achos mae rhywun yn deall yn iawn pam mor galed yw hi allan yna dyddiau yma, mae costau byw ar i fyny, mae angen trio cadw swyddi neu cadw mewn gwaith a mae pawb yn y Byd go iawn (h.y heblaw y bancwyr, Aelodau Seneddol  a’r Cyflafwyr mawr) yn trio eu gorau i roi bwyd ar y bwrdd fel petae.

                Ond canlyniad hyn i gyd yw fod fy mharch tuag at Aston wedi cynyddu 200% ac yn drist iawn, fy mharch at Robinson bellach wedi gostwng o ffigwr tebyg. Deallaf nad oes disgwyl i Robinson a’r cyflwynywr eraill i gyd gerdded allan, ac eto mewn ffordd dyma oedd ei angen, “mewn undeb mae nerth”. Felly bydd Time Team yn parhau, yn parhau i fod yn hynod  boblogaidd wrth reswm ac o fewn ychydig raglenni bydd y mwyafrif wedi anghofio am Aston.

Rhyw fyd ddigon creulon yw’r Byd Teledu, gofynnwch i Gerallt Pennant a chriw Wedi 7 yng Nghaernarfon, ie dyna’r math o fyd yw e, mae rhaglenni yn mynd ac yn dod, mae comisiynau yn cael eu rhoi ac eu gwrthod, ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes elfen o “wyneb-galedrwydd” yn perthyn i’r Byd yma – a hynny mor aml gyda “Arian Cyhoeddus” yn hytrach nac arian masnachol yng ngwir ystyr y gair - yn sicr yma yng Nghymru.

Felly edmygaf safiad Aston, efallai ei fod rhy hen i newid, rhy hen i blygu hefo’r gwynt llai teg newydd, efallai ei fod ddigon hen i beidio bod ofn Sianel 4, ac er nad yw ei safiad yn un mawr o ran hawliau dynol neu rhyw ymgyrch wleidyddol benodol – mae yna rhywbeth braf iawn mewn gwybod fod rhai yn dal yn fodlon dilyn eu calonnau yn hytach na’r cyfrif banc.

Digon o waith bydd Aston yn cael gofod ar Sianel 62 onibai ei fod yn rhoi sioc i ni gyd ac ymddangos yn ei newydd wedd fel “Dysgwr y Flwyddyn” a go brin y gwelwn i Gerallt Pennant chwaith ar Sianel 62 er tybiaf na fydd rhywun o safon a phrofiad Pennant ddim yn hir nes bydd yn ymddangos unwaith eto ar Calon y Genedl.

Roedd cryn gyffro i’r “Sianel Newydd” yndoedd, sylw mawr ar y Cyfryngau a’r gwybodysion wrthi yn trydar “yn fyw” fel daeth y sianel yma yn fyw arlein. Yn ogystal a’r datblygiadau gyda Radio’r Cymry fydd yn cael ei lansio cyn bo hir – eto ar lein – mae’n weddol amlwg fod cenhedlaeth newydd o ddarpar gynhyrchwyr rhaglenni allan yna. Credaf mae’r ysgogiad pennaf i’r datblygiadau newydd cyffrous yma yw’r diffyg mewn gwirionedd o ddewis o raglenni a chynwys yn y Gymraeg.

Bellach does dim modd bodloni’r Genedl gyda un gorsaf deledu neu un orsaf radio a’r hyn sydd yn hollol amlwg i bawb (heblaw’r penaethiaid efallai ?) yw fod Cymry ifanc yn sicr yn rhugl arlein, ac isio mwy, mwy o ddewis, mwy o sylwedd, mwy o arbrofi, mwy o fentro. Croeso i’r dyfodol.

Yr hyn sydd yn ddiddorold mewn ffordd o ystyried cyd destun y datblygiadau ar lein yma yw fod C2/Radio Cymru wedi cynhyrchu un o’u rhaglenni gorau ers blynyddoedd yn “Caneuon Protest” sydd yn olrain hanes y gan brotest yn y Byd Pop Cymraeg. Gyda cyflwynydd ifanc, deallus a hynod wrandadwy yn Griff Lynch, mae C2 wirioneddol wedi taro’r hoelen ar ei phen – dyma’n union ddylia fod wedi bod ar Sianel 62 ar ffurff ffilm ddogfen  yn hytrach na darlith (sermon) sych Steffan Cravos Tynged yr Iaith 2.

Nid fi oedd yr unig un i ddiflasu, yn sicr o ddilyn Trydar, tiwnias i mewn i Sianel 62 gyda mawr gyffro ond siom oedd cael rhywun yn pregethu, nid annisgwyl, ond diflas braidd. Yr hyn sydd yn gyffrous am Sianel 62 yw fod y Gymdeithas wedi rhoi mwy o ddewis ar y fwydlen, fel bydd Radio’r Cymry yn ei wneud a mae pobl ifanc Cymru yn haeddu cael eu bwydlen gynhwysfawr yn y Gymraeg. Dewis fydd o wedyn, mwy o ddewis, a mae hynny yn beth da.

Efallai hefyd fod hyn yn rhoi gorau i’r un siop, yr un modd (monopoli) o gael pethau allan, sydd wedi tagu creadigrwydd yn y Byd Cymraeg dros y blynyddoedd. Rhaid dweud mae’r holl beth yn teimlo yn gyffrous a’r gobaith yw y bydd mwy o sianeli  teledu / radio yn ymddangos ar lein ac y cawn o’r diwedd Bopeth yn Gymraeg !