Cefais wahoddiad i fynychu “Parti Dolig” Cymdeithas Archaeoleg Llanelwy, cynnig a dderbyniais gyda brwdfrydedd, felly ar Nos Fercher aeafol, dyma deithio ar hyd yr A55 am Lanelwy. Roedd y parti yn y clwb cricied lleol, ond gan nad wyf yn ddyn cricied mawr, bu rhaid ebostio ysgrifenyddes y Gymdeithas, Maria Blagojevic, i ofyn am gyfarwyddiadau.
Roedd y Clwb Cricied tu ol i dafarn y Plough medda Maria. Hawdd, rwyf yn gyfarwydd iawn a thafarn y Plough yn Llanelwy. Yn ystod yr 80au hwyr roedd y Plough yn ganolfan bwysig ar y gylch-daith pop Cymraeg. Dan ddylanwad Cell Clwyd o Gymdeithas yr Iaith a’r cylchgrawn-ffansyn ‘Llmych’ roedd Clwyd pryd hynny yn ardal fywiog a brwdfrydig a roedd criw o drefnwyr ifanc yn rhoi nosweithiau Cymraeg rheolaidd yn y Plough.
Un o nodweddion y ffansyn Llmych oedd ei fod yn ymddangos fel anagram gwahanol bob tro, felly er i mi gyfeirio ato fel Llmych mae gennyf un copi yn fy nghasgliad gyda llun o’r Cyrff ar y dudalen flaen dan yr enw ‘Hymllc’. Rhyw elfen brancaidd – Situationist-aidd gan y golygyddion dybiwn i.
Heb fynd yn ol at fy nyddiaduron, fedrai ddim bod yn fanwl gywir yn fan hyn, ond mae gennyf rhyw gof o fod yma hefo’r grwp U Thant, gyda Ffa Coffi Pawb yn eu cefnogi, ac yn sicr bu’m yna gyda grwp o Wlad y Basg oedd yn canu yn yr Iaith Basg , sef y grwp Delirium Tremens hefo’r Cyrff yn eu cefnogi.
Dyma’r cyfnod “tanddaearol” yn y Byd Pop Cymraeg (SRG) cyfnod da, arloesol, gwrthryfelgar, gwleidyddol, hunan gynhaliol, radical. “Tanddaearol” achos ar y pryd roedd y Sefydliadau a’r Cyfryngau Cymraeg wedi mwy neu lai llwyr anwybyddu’r twf mewn grwpiau newydd oedd efallai ddim yn dangos ddigon o barch at hen stejars y Byd Pop Cymraeg – sef yn union sut ddylia roc a rol fod yn ei hanfod !
Ond, wrth fynd heibio’r Plough, prin ges i gyfle i hel atgofion melys am y “dyddie da” (Hergest) hynny hefo U Thant a’r Cyrff gan fod y clwb cricied o’m blaen yn barod. Mewn a ni a dyma gael croeso yn syth. Mae’r ddarlith ar waith cloddio diweddar yn Tan y Llan, Ysceifiog ar fin cychwyn felly dyma eistedd yn ddistaw a gwrando ar yr hanes.
Mae’n debyg mae ffermdy cyfoethog yn dyddio yn ol i’r 16ed Ganrif yw Tan y Llan. Fe ddymchwelwyd yr adeilad gwreiddiol ym 1909 ond mae ty arall yno heddiw, o’r un enw, a mae’r gwaith cloddio ar yr hen safle mwy neu lai yng ngardd y ty presennol. Rheswm arall dros y gwaith cloddio gan Gymdeithas Archaeoleg Llanelwy yw nad oes unrhyw luniau o Tan y Llan wedi goroesi neu cael eu darganfod. Felly mae’n rhaid cloddio os am ddarganfod mwy am yr hen dy.
Ceir ambell i gyfeiriad hanesyddol at Tan y Llan. Roedd ceidwad eglwys o’r enw Edward Jones yn byw yma tan ei farwolaeth ym 1779. Daethpwyd hyd i’w ewyllys a mae ei garreg fedd yn yr Eglwys lleol yn cyfewirio ato fel un “late of Tan y Llan”. Gwelir Tan y Llan hefyd ar fap yn dyddio o 1793, yr unig dy yn ardal Ysceifiog sydd yn cael ei enwi – awgrym efallai o bwysigrwydd y ty.
Bu’r ty hefyd ym meddiant Stad Gosvenor, mwy na thebyg oherwydd hawliau mwyngloddio haearn, calch-faen a manganese yn yr ardal hon. Ymhlith y gwrthrychau a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio mae darn o ffram ffenstr gerrig sydd yn dyddio o’r Ail ganrif ar Bymtheg cynnar a hefyd tameidiau o’r to sydd wedi dod o chwarel gyfagos Gwespr – chwarel ddaeth i ben ym 1793 – unwaith eto yn galluogi’r cloddwyr dyddio’r adeilad – neu oleiaf rhoi dyddiadau perthnasol o fewn stori Tan y Llan.
Criw o wirfoddolwyr brwdfrydig sydd yn y Gymdeithas, a sefydlwyd yn ol ym mis Hydref 2004 a sydd belllach gyda dros 40 o aelodau. Yn dilyn y ddarlith cefais sawl sgwrs hefo’r aelodau, pawb yn gytun fod hi’n bwysig fod archaeoleg yn berthnasol i bawb, fod pawb yn cael cyfle i ymwneud a’r maes, boed hynny drwy gloddio neu drwy fynychu darlithoedd neu ymweliadau maes.
A chan fod hi’n Barti Dolig mae gwledd o fwyd yma i’r mynychwyr, y bwffe wrthgwrs, felly dyma hel platiad (gormod o felysion) a mynd o sgwrs i sgwrs. Y gair mawr yn y byd dehongli archaeoleg y dyddiau yma yw “cyd-destyn” , sef beth yw perthnasedd unrhyw safle neu waith cloddio i’r darlun mawr. Pwy oedd yn byw yn Tan y Llan a beth oedd eu statws o fewn y Gymdeithas ? Sut fath o gymdeithas oedd hi’n lleol ? Sut fath o fywyd oedd gan y Cymry lleol ?
Er mor ddiddorol yw manylder darganfyddiadau a gwrthrychau unrhyw waith cloddio – does fawr o ddiddordeb wedyn i neb o du allan i’r criw sydd wedi cloddio onibai fod hyn yn gwneud rhyw fath o synnwyr yn y darlun mawr – sef yn cael ei roi mewn cyd-destyn – o fewn Hanes Cymru – a beth oedd yn mynd ymlaen yn y cyfnod. Dyna fydd ei angen nesa yn stori Tan y Llan – ei roi o fewn ei gyfnod yn Ngogledd Dwyrain Cymru.
Rhaid dweud i mi gael croeso cynnes gan griw Cymdeithas Archaeoleg Llanelwy , cafwyd noson ddiddorol, cyfle i gyfarfod pobl newydd, sgyrsiau difir a gwledd gyda’r bwffe – rwyf yn hynod ddiolchgar am y gwahoddiad !
No comments:
Post a Comment