Wednesday 31 December 2014

Derwyddon Mon @ Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 31 Rhagfyr 2014


 

Credaf fod y rhan fwyaf ohonnom yn gobeithio nad ydym yn rhy rhagfarnllyd. Yn sgil tŵf rhagfarnau amlwg UKip, rydym nawr yn gallu diffinio ein gwleidyddiaeth mewn dau ffordd pendant. Yr amlwg, ein safbwyntiau ar Gymru a’r Iaith Gymraeg, cenedletholdeb, annibynniaeth a’r holl bethau yna sydd yn ein effeithio / poeni fel Cymry Cymraeg. Ond wedyn oherwydd UKip, rydym nawr yn diffinio ein gwleidyddiaeth fel beth da ni ddim yn gredu ynddo.

            Felly yn y gobaith nad wyf yn hiliol, homoffobig,”little Englander” (amhosib fel Cymro) awgrymaf yn garedig mae’r unig ddau beth da am Mr Farrage yw ei fod (fel Thatcher gynt) wedi rhoi rhywbeth i ni wrthwynebu yn angerddol a hefyd (er yn anfwriadol) mae’r gwynt wedi diflannu o hwyliau Mr Griffin yntydi ! Sylwer fod y gwirioneddol rhagfarnllyd o hyd yn dweud pethau fel “dwi ddim yn hiliol ond …….”, neu “dwi ddim yn homoffobig ond ……..”.

            Gadewch i mi fod yn glir, dwi ddim yn rhagfarnllyd ond ….. 1. Rwyf yn cael cryn drafferth gwrando ar gerddoriaeth gwerin Seisnig, 2. Dwi rioed wedi gallu uniaethu a hipis, 3. Fyddwn i ddim yn mynd i Glastonbury dros fy nghrogi, 4. Fedra’i ddim gwrando ar rwdlan ar y cyfryngau, 5 Dwi’n casau “trackies llwyd”, 6. Dwi’n chael hi’n anodd peidio meddwl am wisg y KKK pob tro dwi’n gweld Gorsedd y Beirdd, 7. Fedrai’ ddim gwrando ar Eric Clapton (oherywdd y solos heb son am ei gefnogaeth ar un adeg i Enoch Powell). Ond, ie dyma ni yr ond yma eto, nes i rioed honni bod yn berffaith.

            Dipyn o her personol felly, i beidio bod yn rhy rhagfarnllyd a sinigaidd, oedd mynychu digwyddiad i ddathlu diwrnod bryaf y flwyddyn ym Mryn Celli Ddu ar yr 21ain o Ragfyr – digwyddiad wedi ei drefnu gan Gylch Derwyddon Mon. Hyd yn oed wrth gyrraedd y maes parcio a gweld pobl yn ymgynyll yn ei gwisgoedd llaes, rhai du, rhai gwyn, roedd yn anodd cadw tymheredd y gwaed yn isel a pheidio dod allan o’r car a dechrau dadlau.

            Rwyf dipyn hŷn nawr, rhydd i bawb ei ddefodau, dwi ddim am ddadlau hefo nhw, ond rhywben bydd rhaid trio cyfarfod a rhai o’r derwyddon a chael sgwrs iawn. Rwyf angen deall beth yn union mae nhw’n gredu – a sut yn union mae nhw wedi cyrraedd Bryn Celli Ddu?

            Yr anhawster mawr gennyf yw deall beth yn union yw’r cysylltiad derwyddol a Bryn Celli Ddu. Codwyd Bryn Celli Ddu oddeutu 3000 cyn Crist. Does dim dadl o gwbl fod y cofadail wedi ei osod yn fwriadol fel fod yr haul gyda’r wawr ar hirddydd Haf yn treiddio i mewn i gefn y siambr gladdu drwy’r cyntedd. Rydym yn derbyn fod yr amaethwyr cynnar, yn y cyfnod Neolithig, wedi cynllunio llinell y cofadail yma yn ofalus. Ac wrthgwrs roedd yr haul yn holl bwysig iddynt – heb yr haul does na ddim cnydau, dim bwyd ar y bwrdd – digon siwr fod elfen o addoli’r haul yn rhan o’u bywyd.

            Ond, os oedd Derwyddon ar Ynys Mȏn yn y canrifoedd cyn Crist, hynny yw cyn Suetonius Paulinus a’i ymosodiad arnynt yn 60/61 oed Crist, mae Bryn Celli Ddu yn dal i ddyddio dros 2500 o flynyddoedd cyn unrhyw dderwydd. Rydym ni, heddiw yn 2014, yn agosach mewn amser i’r derwyddon na’r amaethwyr cynnar a gododd y siambr gladdu.

            Amhosib yw gwybod yn union beth oedd defodau’r amaethwyr cynnar yn y bedwaredd a thrydedd mileniwm cyn Crist, ac heblaw am propaganda Rhufeinig haneswyr fel Tacitus, Caesar a Ptolemy does dim tystiolaeth ‘archaeolegol’ wedi goroesi i ategu unrhyw hanes na’r mannau sanctaidd oedd yn cael eu defnyddio gan y derwyddon. Yr unig safle ar Fȏn go iawn lle mae tystiolaeth o offrymu i’r ‘llyn sanctaidd’ yw safle Llyn Cerrig Bach – sgwni os oedd hwn yn un o safleoedd y derwyddon?

            Disgrifiais y digwyddiad ar y 21ain ym Mryn Celli fel un ‘diddorol’ ar Facebook. Roedd oddeutu 70 neu fwy o bobl yno, y mwyafrif yn ymuno mewn cylch oddi fewn i ffȏs y cofadail. Lleiafrif go iawn oedd yno , fel fi, i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Dwi ddim yn amau i rai o’r derwyddon sylweddoli fy mod yno i weld yn hytrach nac i gymeryd rhan ond mae’r cofadail yma yn perthyn i mi gymaint a nhw felly – rhydd i bawb fwynhau y diwrnod yn y ffordd y dymunant.

            Eto, a rwyf angen sgwrs hefo’r derwyddon am hyn, methais a deall beth yn union oedd y cysylltiad Mabinogi a Bryn Celli Ddu. Clywais son am Lleu a Gwydion yn ystod eu defod. Petawn yn mynychu gwasanaeth mewn Eglwys mae’n siwr byddwn ar goll hefo rhan helaeth o hynny hefyd. A phwy sydd wirioneddol ddeall beth oedd yn mynd drwy meddwl Iolo Morganwg a Chynan yn ddiweddarach? O ddifri, ‘Dawns y Blodau’?

            Yn hynny o beth, doedd y derwyddon yn gwneud ddim drwg, roedd pobl yn mwynhau, roedd y digwyddiad yn denu pobl draw i Fryn Celli. Ond, gan feddwl am rhywun fel Richard Dawkins, mae hi mor anodd peidio cwestiynu – beth yn union sydd yn mynd ymlaen? Onid nonsens llwyr yw’r holl beth? Does dim ateb gennyf go iawn, rwyf angen deall y peth yn well, ond mae fy holl ragfarnau yn dweud wrthof fod hyn yn gawlach o hyn a llall mewn crochan, fel unrhyw grefydd, fel unrhyw gylch, fel unrhyw orsedd – mae pobl angen credu.

            Y cwestiwn sylfaenol efallai yw, a yw y bobl yma yn creu hanes ffug, ac oes ots ?

Wednesday 24 December 2014

"The people want what the people get" Herald Gymraeg 24 Rhagfyr 2014


 

Yn ei ragymadrodd i’r llyfr hynod a hanfodol, ‘100 o Olygfeydd Hynod Cymru’ mae’r awdur, Dyfed Elis-Gruffydd yn dweud hyn: “… fy mod i’n mawr obeithio y daw darllenwyr y llyfr, heb sȏn am gynhyrchwyr rhaglenni S4C, yn llawer mwy ymwybodol o bwysigrwydd y prosesau daearegol sydd wedi rhoi bod i bryd a gwedd y Gymru sydd ohoni”.

Dyma chi ddyn ar genhadaeth, i addysgu’r genedl am bwysigrwydd y prosesau daeaegol a phwy all anghytuno. Cefais sgwrs gyda Dyfed yn ddiweddar, a gan wisgo fy het archaeoleg, pwysleisiais nad oes cystadleuaeth rhwng y gwahanol astudiaethau – rhaid i ni weld y darlun llawn, y cyd-destyn ehangach, y dirwedd yn ei gyfanrwydd. Mewn ffordd rydym angen cofio mae mewn undeb mae nerth.

Ond rhaid oedd ei holi am ei sylwadau ynglyn ac S4C. Fel un a dreuliodd rhan helaeth o’r 1980au ar 1990au yn feirnaidol iawn o ddiffygion S4C o ran adlewyrchu a dadansoddi’r Byd Pop Cymraeg  mae rhywfaint o gydymdeimlad gennyf tuag at yr hyn roedd Dyfed yn ei fynegi. A wedyn wrthgwrs fel un sydd wedi bod yn cenhadu dros Archaeoleg yn ystod y blynyddoedd diweddar, dim ond rwan, rydym yn gweld cyfres fel ‘Olion Palu am Hanes’ ar y sgrin fach yn ymdrin ac archaeoleg yn y Gymraeg.

Er tegwch i S4C rhaid cydnabod fod y rhaglen ‘Darn Bach o Hanes’ a rhaglenni Fion Hague yn rhai rhagorol ac yn rhai sydd yn gwneud cyfiawnder ag agweddau o Hanes Cymru ond yn amlwg dydi hyn ddim yn ateb cwyn Dyfed. Efallai mae comisiynwyr S4C mae Dyfed yn ei olygu yn hytrach na’r cynhyrchwyr. Y comisiynwyr sydd yn penderfynu beth rydym ni y werin bobl yn ei weld.

Sawl gwaith dros y blynyddoedd mae gwahanol gynhyrchwyr wedi dod atof gyda syniadau am raglenni ar archaeoleg, rhai radio yn ogystal, ond y comisiynwyr – o fewn BBC Radio Cymru ac yn y blaen sydd ar gair olaf. Does gennyf ddim ateb, ond atgofion o’r union frwydr yma yn yr 1980au yn trio dwyn persawd ar ymchwilwyr a chynhyrchwyr fod grwpiau fel Datblygu (ffefrynnau John Peel) a’r Cyrff (dau aelod o Catatonia) yn rhai o safon.

Y tro dwetha i mi sgwrsio hefo Huw Jones, Cadeirydd S4C, roeddem yn cymeryd rhan mewn rhaglen o’r enw ‘Hawl i Holi’ gyda Dewi Llwyd ar gyfer BBC Radio Cymru yng Ngregynog a gofynais i Huw pam na fydda S4C yn comisiynu mwy o gynnwys Cymraeg ar gyfer y we yn hytrach na chanolbwytio eu holl egni ar y “sianel”, yr unig sianel deledu Cymraeg.

Yma dwi’n credu fod dadl ddilys.Y nȏd heddiw ddylia creu cynnwys Cymraeg aml-lwyfan yn hytrach na “rhaglenni teledu”, Wedyn oes yw’r byd daearegol gyda apel leiafrifol (does bosib) oleiaf gall Dyfed gael ei gyfres ei hyn ar safle we S4C os ddim ar y brif sianel. Dwi ddim yn dallt pam fod hyn ddim yn digwydd ?

Ond cofiwch dwi ddim chwaith yn deall sut mae’n bosib cael rhywbeth mor ddichwaeth ac aflafar a Tomo ar y radio. Yn hyn o beth rwyf yn cael fy hyn yn cytuno a Gwilym Owen ar adegau. Roedd yr holl ymgyrchu yn ystod yr 1980au ymlaen i godi safon diwylliant Cymraeg i fod i gael gwared a phethau fel hyn unwaith ac am byth.

Os bu i ymgyrchu’r 80au a 90au arwain yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at lwyddiant grwpiau pop fel Catatonia – lle aeth pethau o’i le?

 

 

Tuesday 23 December 2014

2014 The Year of the Raconteur

 

 

 

 

raconteur - a person who tells anecdotes in a skilful and amusing way



Its been a good year, busy ...... talking, lecturing, tour guiding, doing workshops. I have scanned the 2014 Diary and here's a rough count :

During 2014 I did around 30 talks, mainly on Archaeology for various societies around north Wales. The most popular lecture by far was on "What is Archaeology" but a few of the Welsh language / literary societies opted for a talk on "writing articles" and the inspiration behind various articles, this comes as a result of my weekly column for Herald Gymraeg.

Around March 1st / St David's Day and on a couple of other occasions I also gave 5 'After Dinner Speeches'.

In Anhrefn days we would do anything between fifty and a hundred gigs a year - many of these gigs in smaller Welsh communities and the talks have a similar feel, in and out of community centres in small villages, but its all the same mission - to deal with who we are and where we are - its always about Wales and Welsh culture.

I did around 25 media interviews, give or take a few, mostly BBC Radio Cymru / Radio Wales and a few for S4C. Its as close as we get in Wales to being a 'pundit' - some of this was reviewing the papers for Radio Cymru and there were quite a few News items wanting comment. And on the subject of S4C they broadcasted their archaeological series 'Olion' earlier this year for which I contributed to 2 programmes.

Classes and workshops come up to 106 - these include Dynamo sessions, WEA classes and Cymraeg i Oedolion classes for Bangor University. The classes are brilliant. This year I had the privilege of making new friends at Abersoch and Golan - its a two way street, I talk archaeology and they provide local knowledge.

Summer was busy with guided walks / tour guiding with around 33 days of guiding / events. Again this is mainly archaeology with sites such as Barclodiad y Gawres, Bryn Celli Ddu, Segontium and Tre'r Ceiri being popular but I also did a Welsh Pop Music Tour of Caernarfon this summer as part of Gwyl Arall which was fun.




I also started a Monday afternoon show on Mon FM this summer (2-4pm)  - with a weekly guest and generally looking at art, culture and the history of Anglesey.
I have presented 24 shows during 2014.
All the playlists are listed on the Blog
 http://rhysmwyn.blogspot.co.uk/2014/07/mon-fm-mona-antiqua-playlist.html

The MonFM show has been a pleasure. Its all quite underground and its nice to work with no pressure, away from mainstream media. At the moment there is no listen again facility, or rather we have not uploaded any of my shows. Again I quite like the idea of this, catch it live on monfm.net or miss it.
There were many highlights but my conversation with Dafydd Iwan on Pete Seeger, Woody Guthrie and Paul Robeson is one that I am particularly pleased with - this was Dafydd under a different spotlight - talking about his early musical influences.




2015 looks to be busier still. I have a book out called 'Cam i'r Gorffennol' on north Wales Archaeology which will be promoted via talks in the new year. So far I have done 2 official book signing sessions.



@awenmeirion


Another event that I look forward to is a discussion panel hosted by Cymdeithas yr Iaith on the 10th January at Aberystwyth to discuss the radical and political aspects of Welsh language music. Should be the usual mix of controversy and anarchy http://ow.ly/i/7WyUx

Onwards and upwards !

Wednesday 17 December 2014

Mwy am Blas Gwynfryn, Herald Gymraeg 17 Rhagfyr 2014.




Braf iawn yw derbyn ymateb i’r hyn mae rhywun yn sgwennu (neu ei ddweud). Yn ddiweddar bu i’r cylchgrawn Golwg ail godi’r drafodaeth am adeiladwaith Sir Basil Spence yn Atomfa Trawsfynydd ond fel esboniodd Magnox, bu i Cadw benderfynu peidio rhestru’r adeiladwaith yn ȏl yn 2010 er fod y gerddi a gynlluniwyd gan Sylvia Crowe wedi eu rhestr.

Er i Golwg yn amlwg ofyn am ymateb gan Magnox, unwaith eto cafwyd yr ateb tila nad oes modd derbyn pob cais i ymweld a’r safle “am resymau diogelwch”. Yr oll ofynais amdano oedd cael ymweliad er mwyn sgwennu erthygl am bensaerniaeth Spence. Fel y dywedais yn flaenorol ar y mater hyn – rwyf yn hynod siomedig gyda agwedd Magnox.

Does fawr o bwrpas trafod ymhellach, gwrthodwyd unrhyw gais i gadw pensaerniaeth Spence yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn 2008-2009 felly mater o amser yw hi nawr cyn bydd y safle yn cael ei dirweddu a choncrit Spence yn diflannu i bob pwrpas.

Cafwyd ymateb llawer mwy positif i fy erthygl am Blas Gwynfryn, Llanystumdwy gan i mi dderbyn galwad ffȏn gan Sian Davies, fferm Gwynfryn, yn rhoi gwahoddiad draw i mi gael golwg agosach ar y plasdy, y gerddi a’r adeiladau cysylltiedig ar y fferm.

Fel yn achos Atomfa Trawsfynydd, nid y fi yw’r cyntaf i leisio pryderon am adeilad hanesyddol sydd mewn peryg neu sydd yn dirywio yn gyflym. Bu ychydig o drafod 2010 / 2011 ynglyn a chyflwr Plas Gwynfryn. Yn ȏl y son does dim wedi digwydd ers hynny, a gan fod y tȏ wedi diflanu, mae synnwyr cyffredin yn dweud fod yn rhaid fod yr adeilad wedi dioddef oherwydd glaw / dŵr hyd yn oed yn y ddwy neu dair mlynedd dwetha.

Y pryderon yma a fynegwyd gan rai mewn gohebiaeth gyda Chyngor Gwynedd sydd wedi arwain at ambell un yn gyrru ebyst atof yn gofyn i mi oleiaf drio dod ac achos Plas Gwynfryn i sylw ehangach. Y broblem fawr os wyf yn dallt yn iawn gyda Plas Gwynfryn yw fod y buddsoddwyr o’r 1980au mwy neu lai wedi gadael i’r plasdy ddirywio ers hynny. Wrth siarad hefo pobl leol, yr argraff yw nad oes neb yn siwr pwy sydd yn gyfrifol am y plas bellach.

Yr hyn sydd yn sicr, ac yn hollol amlwg, yw nad oes unrhyw un, neu gorff na sefydliad i weld yn cymeryd cyfrifoldeb. Canlyniad colli tȏ yw bydd dwr glaw yn treiddio drwy’r waliau. Rhowch 10-20-30 mlynedd arall iddi (neu lai) a bydd rhai o’r tyrrau yna ar Blas Gwynfryn yn debygol o fod yn sigledig os nad yn dymchwel. Does ond rhaid cymharu dirywiad Plas Pren, Hiraethog – yn fy oes i, mae Plas Pren wedi bron llwyr ddiflannu – dim ond gaelodion y llawr cyntaf sydd bellach yn sefyll.

Y cwestiwn felly, yw beth, os unrhywbeth, ddylid ei wneud nesa? Pam mor bwysig yw’r hen adeiladau yma i ni fel Cymry? Beth bynnag yw’r ateb, cefais bnawn hyfryd yng nghwmni Sian, Gwynfryn, yn cael esboniad o’r gwahanol adeiladau ar y fferm. Syndod er engraifft oedd cael deall fod un adeilad ar un adeg wedi bod yn safle cynhyrchu nwy ar gyfer y plasdy.

Pleser or eithaf oedd cael crwydro’r hen erddi caeedig gyda Sian, gan gael cipolwg ar yr hen daigwydr, a’r adeilad brics coch gyda tȏ sinc lle bydda’r garddwr wedi cadw ei bethau dybiwn i. Wrth wneud ychydig mwy o ymchwil deuthum o hyd i safle we welshruins.co.uk lle mae nifer o sylwadau gan rai sydd yn cofio’r plas pan roedd yn westŷ dan ofal rhyw Mr Cotterrill, yn ȏl y son hyrwyddwr bocsio (a chyfaill i’r Krays yn ȏl  stori arall).

 

 

Tuesday 9 December 2014

Lucian Freud ac Ysgol Uwchradd Caereinion, Herald Gymraeg 10 Rhagfyr 2014


Chwith i dde: David Dawson, Sian James, Rhys Mwyn.
 

Golygydd Economeg y BBC yw Robert Peston, a digwydd ei glywed wnes i yn ddiweddar yn sgwrsio ar y radio am ei elusen ‘Speakers For Schools’. Rhan o’r syniad yw fod cyn-ddisgyblion yn dychwelyd i roi sgwrs yn eu hen ysgol gyda’r bwriad o ysbrydoli’r genhedlaeth nesa i wneud yn dda neu i fynd amdani – i lwyddo mewn rhyw ffordd. Ond mae rhestr faith ganddo hefyd o siaradwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r elusen, yn eu plith engreifftiau fel  Danny Alexander, Paul Boateng, Sayeeda Warsi ac Ed Balls o’r byd gwleidyddol.

Yng Nghymru mae cynllun sydd yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru o’r enw ‘Dynamo’ sydd yn canolbwyntio ar ysbrydoli pobl ifanc i fentro yn y byd busnes gan gynnal gweithdai mewn ysgolion a cholegau gan ‘fodelau rol’ o’r byd busnes Cymreig.

Ond fe waneth syniad Peston ddod i’m meddwl bythefnos yn ȏl wrth i mi fod yn rhan o noson yn Institiwt Llanfair Caereinion i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Roeddwn yno i gynnal sgwrs hefo’r arlunydd David Dawson, yn bennaf am ei gyfnod yn gweithio gyda’r arlunydd enwog Lucian Freud. Felly rhwy noson “yng nghwmni” David Dawson oedd hon, fi fel holwr a dros gant o bobl wedi troi allan i gefnogi ac i wrando.

Yr hyn oedd yn ofnadwy o ddiddorol am y noson (orlawn) oedd fod modd rhannu’r gynulleidfa yn syth i’r Cymry Cymraeg (reoddwn yn eu hadnabod) a’r di-Gymraeg, nifer yn fewnfudwyr (rioed di gweld nhw o’r blaen). Peth da yw hyn, neuadd bentref yn orlawn yn enw’r Eisteddfod a chelf yn pontio rhwng y ddau ddiwylliant.

Peth da hefyd yw gweld y di-Gymraeg yn mentro, neu yn agosau, tuag at y Byd Cymraeg (Eisteddfod) er mewn gwirionedd tybiaf mae’r drafodaeth am Lucian Freud oedd wedi eu denu. Ond dyna fo, dyma ddangos iddynt fod yna groeso, nad yw’r ‘pethe’ Cymraeg yn hollol styffi ac elitaidd. Croesawf hefyd y ffaith fod Lucian Freud yn cael ei drafod yn y Gymraeg – mae’n gweithio ddwy ffordd. Mae’r Byd Cymraeg ddigon agored (aeddfed) i gynnal sgwrs ddwy-ieithog am Lucain Freud i godi arian i’r Steddfod.

Bron a bod bydda rhywun yn awgrymu fod y trefnwyr wedi bod yn radical iawn yma, ond ar y llaw arall dyma lwyddo hefyd yn y nod o godi arain tuag at Eisteddfod Meifod. Pawb yn hapus. Da o beth.

Dawson yw un o ffotograffwyr y llyfr hyfryd  Freud at Work’ ar y cyd a Bruce Bernard, gyda Dawson yn gyfrifol am hanner y lluniau. Detholiad o’r lluniau yn y llyfr yma oedd yn cael eu dangos yn y sgwrs yn Llanfair Caereinion. Cychwynais drwy holi David sut y bu iddo gyfarfod a Lucian i ddechrau a dros yr awr nesa dyma fynd am dro drwy bortffolio David o luniau o Freud wrth ei waith. Cafwyd ychydig o hwyl wrth drafod llun Lucan Freud o’r Frenhines a David yn ddiplomat rhagorol er fy nhuedd i dynnu coes.

Diwddglo’r drafodaeth oedd dros ddwsin o gwestiynau neu sylwadau gan y gynulleidfa. Rydym yn son yn aml fod nifer y cwestiynau yn aml yn adlewyrchiad teg o sut fath o hwyl gafodd y gynulleidfa ar y noson. Dim cwestiwn o gwbl yn gyfystyr a diflas – adre a ni, ond anarferol iawn yw cael gymaint o gwestiynau neu sylwadau ac y gafwyd y noson hon yn Llanfair Caereinion.

Llywydd y noson oedd Myfanwy Alexander, ac yn ystod y toriad hanner amser, fe ‘m hatgoffwyd i wneud sylw o’r ffaith fod y tro ohonnom ar y llwyfan yn gyn ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caereinion. Yn sicr roedd yn braf gallu dweud hyn, fod y tri ohonnom yn gyfoedion yn Ysgol Uwchradd Caereinion. Wrth edrych allan ar y gynulleidfa doedd dim modd osgoi presenoldeb y gantores werin Sian James. Fy nisgrifiad i o Sian bob amser yw cantores (telynores) gyda mwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau gyda pedwar aelod.

Ac wrth feddwl yn ȏl am fy nyddiau ysgol, cofiaf yn iawn wrnado ar Linda Gittins (Linda Plethyn) yn canu mewn gwasanaeth neu steddfod ysgol, ei llais mor glir ac er cyn llied roeddwn yn ddeall am gerddoriaeth cyn dyfodiad Punk Rock ym 1977 roedd yn amlwg fod Linda yn un arall hefo mwy o dalent yn ei bys bach na’r Sex Pistols a’r Clash gyda’u gilydd.

Soniodd rhywun ar y noson fod y ddarlledwraig Bethan Elfyn yn gyn-ddisgybl. Cofiwch mae Bethan llawer fengach na ni felly fyddwn i ddim callach os bu hi yn yr ysgol ond yr hyn sydd yn amlwg yw fod cymaint o dalent wedi dod o’r ardal, wedi mynd drwy’r ysgol. Cofiwch ar y noson pwysleisias nad oeddwn yn ystyried fy hyn un un o’r criw disglair yma. Doedd y di-Gymraeg ddim yn chwerthin ar fy jocs sal a’r Cymry Cymraeg ddigon parod i fynegi barn am safon y jocs ar ddiwedd y noson. Dwi ddigon ‘tyff’, mae angen trio codi gwen yndoes !

Deffrais y bore wedyn yn fy ngwelu yn ȏl yn Sir Gaernarfon gyda’r teimlad hapus yna oedd mor gyfarwydd ar ȏl cyngherddau da gyda’r Anhrefn. Y wefr a’r balchder fod hi wedi bod yn noson dda, fod y gynulleidfa wedi mwynhau – a dyna’r peth pwysica. Gyrrais neges destyn i David Dawson i ddweud fod hon wedi bod yn noson arbenig. Fe gafwyd croeso cynnes gan bobl Maldwyn i’r cyn ddisgyblion ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny !

Wednesday 3 December 2014

Call of Duty yn Gymraeg, Herald Gymraeg 3 Rhagfyr 2014


 


A finnau bellach yn llwyr allan o’r Byd Pop Cymraeg, efallai maddeuwch i mi am golofn yn rhoi fy sylwadau ar gyflwr diwylliant poblogaidd Cymraeg (ac ambell beth Cymreig). O’r tu allan felly, yn wrthrychol, dyma deimlo fod aeddfedrwydd wedi disgleirio fel haul ysblennydd dros y Byd diwylliant poblogaidd Cymraeg a Chymreig yn ddiweddar.

Dros y flwyddyn neu ddwy ddwethaf mae sawl cân wedi creu argraff fawr arnaf. Meddyliaf er engraifft am y gân ‘Dere Mewn’ gan y grwp Colorama, cân bop ysgafn, ond anodd ei churo o ran pa mor afaelgar yw’r alaw. Clywais hi yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli a chefais i ddim fy siomi gan berfformaid byw Carwyn Ellis.

Cân arall amlwg sydd heb ei hail (Saesneg y tro yma) yw ‘Week of Pines’ gan Georgia Ruth. Dyma chi gân o’r radd uchaf, heb os mae’r gân yma yn ddarn o gelf, yn bop perffaith a petae Georgia Ruth yn ymddeol fory a byth yn cyfansoddi eto byddai ei chymwynas a diwylliant Cymreig yn un enfawr.

Ac yn ddiweddarach eleni dyma ‘Chwyldro’ gan Gwenno. Electronica yn Gymraeg, popeth yn Gymraeg, mae unrhyw beth yn bosib bellach. O’r curiad cyntaf mae’r gan yn hudo rhywun. Fel basydd (mewn bywyd arall) mae rhyddm y bass yn sefyll allan, yn gyrru’r cerbyd, yn hypnotaidd a fe lwyddodd Gwenno i ddenu Pat Datblygu allan o’i hymddeoliad i berfformio ar sesiwn ar gyfer C2 yn ddiweddar.

Ac i gloi y ganmoliaeth, dyma chi ‘Torri’n Rhydd’ oddi ar CD newydd Elin Fflur. Er mor dalentog yw, ac a fu Elin erioed, mae’r gân yma gyda bît Motown yn dangos Elin ar ei gorau eto. Anodd credu fod llais Elin yn gallu aeddfedu, fod modd i Elin ragori ymhellch, ond gyda’r gân yma byddwn yn awgrymu fod Elin wedi cymeryd cam arall ymlaen. Dyma chi gantores neu leisydd sydd bellach yn gallu dal ei thir gyda unrhywun un arall o Gymru (dwi’n awgrymu cystal a Shirley a Mary felly).

Ddylia rhywun ddim dweud wrth artist beth i’w wneud, ond os caf fod mor hu ac awgrymu, albym o ganeuon mewn arddull Motown gan Elin Fflur …….

Felly fel mae’r safon yn rhagori, (ddim am y tro cyntaf wrth reswm os cofiwn am Jarman, Stevens, Heather, Big Leaves, Plethyn, Sian James a llawer llawer mwy)

Yn ddiweddar bu i mi gyflwyno cyfres o sgyrsiau i fyfyrwyr ysgol am sut mae agweddau tuag at y Gymraeg wedi newid dros y blynyddoedd. Er mwyn cadw rhyw fath o ffocws ar fy sgwrs dyma ganolbwyntio ar y Byd Pop Cymraeg gan ddechrau ym 1967 gyda’r Blew – sef y tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn “cŵl”. (Ond beth am Bob Roberts Tai’r Felin ?)

Wedyn dyma neidio i 1977 a’r Trwynau Coch, ffefrynnau’r diweddar John Peel – eto y Gymraeg mor “cŵl” a chyffrous. A fel petae hyn yn batrwn fesul degawd, dyma grybwyll 1987 a’r Cyrff, y grwp o Lanrwst, o bosib y grwp gyda’r steil gwallt a’r steil dillad gorau welodd Cymru erioed. Erbyn 1997 roedd ganddom “girlbands” Cymraeg a dyma ddangos lluniau o TNT ar glawr blaen y cylchgrawn ‘Redhanded’ – y genod yn “noeth” yn y gwely - dyma “rhyw” yn y Gymraeg.
 
 
Ond heddiw, lle da ni’n mynd ? Wrthgwrs mae grwpiau fel Yr Ods, Plu, 9Bach yna i’w darganfod a’u mwynhau ond awgrymais fod angen mwy na canu pop bellach ar gyfer y genhedlaeth nesa. Chwarae X-Box mae’r genhedlaeth ifanc gyda cerddoriaeth yn gefndir i’r gemau cyfrifiadurol. Dyna’r her nesa , mae angen ‘Call of Duty’ a ‘Grand Theft Auto’ yn Gymraeg. Cytuno neu ddim mae angen Popeth yn Gymraeg os am gadw’r Iaith yn berthnasol