Sunday 27 January 2019

Herald Gymraeg 23 Ionawr 2019 Celf, Diwylliant a Rhyfel





Un o ddyfyniadau Van Gogh oedd ‘Art is to console those broken by life’. Dyfyniad sydd yn gwneud rhywun feddwl yntydi. Pa bwrpas celf? Wrthgwrs mae’r ateb yn llawer mwy cymhleth na un dyfyniad – hyd yn oed os ydi’r dyfyniad hynny gan Van Gogh.
Ar hyn o bryd yn yr oriel fach yn Storiel, Bangor, mae arddangosfa o waith gan artistiaid o Syria dan yr enw ‘Cyffwrdd Syria’. A fel bydda rhywun yn ddisgwyl mae’r delweddau yn aml yn ymwneud a’r sefyllfa wleidyddol a’r rhyfel gartref drychinebus yn Syria. Rhywbeth sydd tu hwnt i’n hamgyffred ni go iawn yma yng Nghymru fach, dim ots sawl bwletin newyddion da ni yn ei wylio.

Un o’r artistiad sydd yn gysylltiedig a’r prosiect yw Khaled Youssef, meddyg o ran ei alwedigaeth ond sydd hefyd yn ychwanegu bardd at ei CV diwylliannol. Gweithio yn Ffrainc fel meddyg mae Youssef, o ddewis. Cydweithiodd a chwmni Dr Zigs, cwmni bybls o Gymru, gan dynnu lluniau dros y Byd o blant yn bennaf yn chwarae hefo bybls.

‘Bybls i bawb o bobl y Byd’ medda ni. Ond mae’r cysyniad celfyddydol yn ddigyfaddawd er ei symlrwydd. Rhowch i blant bybls a fe gewch wen a hapusrwydd (os ond am eiliadau neu funudau). Syml. Rhoi gwen ar wyneb y plant sydd yn creu yr effaith – dros y Byd i gyd – ta beth sydd yn digwydd yn y cefndir. O ran Syria amcangyfrifir fod oleiaf 11 miliwn o bobl wedi gorfod symud o’u cartrefi, 6 miliwn o fewn Syria a 5 milwin arall wedi gorfod gadael Syria.

Dros y ffordd a Storiel mae Pontio. Pnawn Sadwrn roedd y bardd o Gymru, yn wir y prifardd, Ifor ap Glyn yn cynnal sesiwn sgwrs a holi gyda Youssef a bardd arall o Syria o’r enw Bashar Farahat – eto dan faner a gweithgareddau ‘Cyffwrdd Syria’.

Bellach esboniodd Farahat mae’n athro yn Llundain. Mae Bashar hefyd yn fardd a fel Khaled yn feddyg o ran ei alwedigaeth gwreiddiol. Alltud gwleidyddol yw Farahat. Nid drwy ddewis, ond yn dilyn cyfnodau o garchar ac arteithio gan y Llywodraeth doedd dim modd aros yn Syria.

’Art, Culture & War’ oedd teit y sgwrs rhwng Ifor a’r ddau fardd o Syria. Doedd dim disgwyl i hyn fod yn wrando hawdd ac eto cafwyd hiwmor a thrafodaeth bwyllog a gonest. Cafwyd drafodaeth am reolau barddoniaeth hefyd – am y mesurau caeth yn y Gymraeg a’r Arabeg.
Fel un uniaethodd gyda barddoniaeth Attila the Stockbroker, Porky the Poet a John Cooper Clarke yn fy arddegau fyddwn i ddim yn rhuthro allan i brynu llyfrau barddonaiaeth y ddau o Syria. Byddwn yn fwy tebygol o chwilio am band rap neu pync o Syria er mwyn uniaethu yn ddiwylliannol.

Er hyn roedd ambell beth yn ystod y sgwrs, lle roeddwn yn gweld yr agwedd rap neu pync yn amlygu ei hyn – iaith Rock’n Roll os mynnwch. Fe ddwedodd un o’r beirdd ‘humainity is the only nation’. Yn union fel petae aelodau o band anarchaidd fel Crass wedi eu geni yn Damascus.

Drwy awgrymu mai dynolryw yw’r unig genedl neu wladwriaeth roedd yma awgrym yn cynnig rhywbeth tu hwnt i ‘genedlaetholdeb’. Diddorol iawn – brawddeg y dydd i mi yn sicr. Wrth deithio gyda’r Anhrefn o amgylch Ewrop yn  ystod y 1980au hwyr a’r 1990au cynnar fe ddatblygodd ein syniadau ‘gwelidyddol’ ni du hwnt i ffiniau cenedlaetholdeb arferol Cymru Rydd.

Sawl gwaith o’r llwyfan gyda’r Anhrefn gweiddais ‘get rid of passports, get rid of borders’ wrth ein ffrindiau yn Prag neu Donegal, Bryste neu Berlin. Rhywsut roedd geiriau Bob Marley ‘One Love’ yn cadarnhau ein bod yn iawn. Rydym yn un bobl, yn frodyr a chwiorydd. Dwi dal felly, dal i deimlo mai brodyr a chiorydd ydym – dwi ddim yn berson ffiniau a pasport glas.

Dyma ni yn rhedeg i Fangor. Ar drywydd diwylliant. Mae o yma yng ngogledd Cymru ond i ni fod yn fodlon gwneud yr ymdrech. Rhaid chwilota hefyd (weithiau). Fyny grisiau yn Storiel – cyn mynd mewn i’r oriel fawr mae yna arddangosfa o waith Brenda Chamberlain. Rydych yn adnabod gwaith Chamebrlain yn syth. Delweddau o Enlli fel y disgwyl a’r cymeriadau gyda gwynebau pinc mymryn rhy hir a chul i fod yn naturiol. Bendigedig.



Drws nesa yn Pontio, ym Mhontio, mae gwaith newydd gan Ann Catrin Evans, y gof a’r grefftwraig artisan. Gwaith pren wedi ei gerfio neu ei lunio gan beiriant argraffu laser. Cyd weithio gyda’r FabLAB / Arloesi Pontio fu Ann gyda sawl artist arall er mwyn creu gwaith newydd sydd ddim yn nodweddiadol o waith arferol yr artistiaid – yn sicr o ran defnydd o dechnoleg.

Cewch groesi’r ffordd, A5 Thomas Telford, nol ac ymlaen rhwng Pontio a Storiel felly. Dilynwch y trywydd a’r diwylliant o un ganolfan i’r llall. Treuliwch amser gyda gwaith Ann Catrin wedyn ewch yn nol at Brenda Chamberlain. Fe gewch bleser pur.



Llosgodd Ann ei phren cyn ei sgleinio. Torrodd yr argraffydd laser gynlluniau Ann oedd yn bodoli yn unig yn ei dychymyg a wedyn ar raglen gyfrifiadur. Nid dyma’r trywydd arferol celfyddydol. Dyna’r pwynt. Fel gyda’r bybls. Fel gyda’r gosodiad mai dynolrwy yw’r unig genedl. Does dim malu awyr yma o gwbl, boed yn Ann Catrin neu Chamberlain.
Gedewir digon o ofod i’r dychymyg. Fe gewch synfyfyrio a chroeso. Ond mae yma gelf sydd yn gwneud y pwynt ac yn ei wneud o yn gynnil ac i bwrpas.



Tuesday 8 January 2019

Canol-y-ffordd-eiddio, Herald Gymraeg 9 Ionawr 2019




Y geiriau rwyf yn eu defnyddio yn ddiweddar wrth wrando ar gerddoriaeth ac yn wir wrth dadansoddi a gwerthfawrogi’r gerddoriaeth hynny yw geiriau fel ‘o’r pridd’, neu ‘organig’. Dwi’n dechrau swnio fel garddwr. Mewn gwirionedd rwyf yn hoffi fy moron yn ddi siap gyda pridd arnynt nid y pethau unionsyth hollol gyson a glan da chi yn ei gael yn yr archfarchnadoedd.

Cymhariaeth od, llysiau a cherddoriaeth, ond roedd record hir gan y grwp Plethyn yndoedd yn 1979 ar Label Sain (Sain 1145). Enw’r record yna oedd ‘Blas y Pridd’. Meddyliaf yn syth am wyrddni tirwedd Sir Drefaldwyn. Meddyliaf am y lonydd bach cefn gwlad rhwng Pontrobert a Dolanog. Meddyliaf am lais perfaith glir (fel rhyw nant y mynydd groyw loyw) Linda Griffiths, Linda Plethyn.

Dyma lle cefais y syniad neu’r ysbrydoliaeth am y busnes ‘o’r pridd’ yma ar gyfer dadansoddi cerddoriaeth. Diolch i Plethyn. Diolch i Plethyn am hyn – ond diolch i Plethyn am lawer mwy na hyn. Ar y record hir ‘Rhown garreg ar garreg’, 1981 (Sain 1226) cawn y gân ‘Ymryson Canu’.

Rwan, ‘Ymryson Canu’ ydi’r gân sydd efallai yn cyfleu yr ysbryd yma orau i mi achos mae yna fynd yn y gân – mae hi’n teimlo fel cân sydd yn carlamu, yn symud ymlaen gyda angerdd, egni a hwyl. Dychmygaf hon yn gân berffaith i godi’r hwyl a chodi’r canu mewn Noson Lawen.

Noson Lawen go iawn. Un mewn cegin fferm gyda ceir wedi parcio yn y buarth. Tywyllwch tu allan. Erbyn hyn rwyf yn dychmygu Triawd y Coleg yn canu ‘Triawd y Buarth’ neu ‘Hen Feic Peni Ffardding’ – yn y gegin. Darganfod y purdeb yw’r nod yma – y peth organig (fel cariad) sydd heb esboniad ond yn eich cyffwrdd ac yn eich heffeithio.

Gwyliais raglen ‘Noson Lawen’ ar y teledu cwpl o weithiau dros y Dolig – roedd rhaglenni yn dathlu penblwydd Dafydd Iwan a Caryl - a hollol deilwng o beth yw hynny. Fel arfer fyddwn i ddim yn gwylio ‘Noson Lawen’. Gyda’r ‘glitz’ ffug a’r gynulleidfa yn eistedd yn fwy llonydd na’r wyneb llyn yna ddisgrifiodd Gwilym Cowlyd yn ei Awdl - ‘ar len y dŵr lun y dydd’ – fedra’i ddim meddwl am unrhywbeth pellach o’r ysbryd gwreiddiol o godi canu a hwyl.

Y tueddiad yn y Gymru Gymraeg yw chwarae’n saff. Ond mae rhywbeth gwaeth na hynny yn cael ei amlygu ar raglenni fel ‘Noson Lawen’ a chymaint o raglenni eraill boed hynny ar radio neu deledu. Cyfeiriaf at hyn fel y broses o ‘ganol-ffordd-eiddio’. Mewn gwirionedd, sugno unrhyw ysbryd ac enaid allan o’r perfformiad yw’r canlyniad. Anodd credu mai hynny yw’r nod?

Cofiwch, rhy hawdd yw i mi yma fel colofnydd gyffredinoli a son am dueddiad y Cymry i ‘ganol-ffordd-eiddio’. Tydi rhaglen Jools Holland fawr gwell. Cymaint o dalent ond cyn llied o ‘soul’. Nid beirniadu ‘talent’ cynhenid wyf felly wrth gael ‘pop’ bach at Noson Lawen. Ond gofyn y cwestiwn – lle mae’r angerdd?

Wrth wylio Jools yn chwarae ei biano mewn arddull ‘honky-tonk’ drwy bob cân ar ei sioe nos Galan edrychais yn ofalus am chydig bach o ‘soul, chydig bach o angerdd neu hyd yn oed rhywun yn chwysu. Un artist oedd yn dallt hi go iawn ar y sioe yna. Nile Rodgers o’r grwp Chic oedd hwnnw – yng ngahnol un o’r caneuon dyma Nile yn rhoi cyfarwyddyd i’r band i dorri pethau lawr yn gerddorol. Peidiodd rhai chwarae, distewodd eraill, cafwyd egwyl gerddorol, eiliad neu ddau o bwyllo cyn ail-godi’r hwyl. Roedd Nile yn chwarae hefo ni y gwrandawyr – chwarae hefo ni yn gerddorol drwy greu tensiwn a deinameg o fewn y gân.

Cofiwch mae’r boi yn athrylith – ond, a mae hyn yn ond pwysig iawn – Nile oedd yr unig un ar y sioe i wneud hyn – roedd pawb arall rhy brysur yn chwarae’n brysur drwy bob eiliad o bob cân.

Os, ac efallai fy mod yn anheg yn cyffredinoli fel yn, ond os oes tueddiad yn y Gymru Gymraeg i chwarae’n saff onid canlyniad i’r traddodiad Steddfodol yw hyn? Sefyll yn llonydd ar lwyfan – a dim emosiwn heblaw stumiau gwyneb. Neu beth am roi bai ar y Methodiastiad am ymwrthod a ‘Hwyl’ yn ôl yn y dydd.

Neu, beth am wrando ar CD newydd Lleuwen ‘Gwn Glân Beibl Budr’ campwaith o ganeuon amrwd priddlyd angerddol o’r un llinach angerddol a Nansi Richards, Llio Rhydderch, Plethyn, Van Morrison, Sister Rosetta Tharpe, Mahalia Jackson. Dyma’r record llia ‘canol y ffordd’ fedrwch chi wrando arno a mae’n berffeithrwydd cerddorol o ran caneuon ysbrydol, gafaelgar a chynhyrchu cynnil ac amrwd – ond amrwd i bwrpas.

Pwy arall fydda yn gallu rhagori ar fersiwn Richie Thomas o ‘Hen Rebel’ neu cyfansoddi cân mor amserol a ‘Bendigeidfran’ ynglyn a gwallgofrywdd Brexit a’r angen am bontydd rhyfeddol fydd angen eu codi nawr er mwyn cael pobl (a theuluoedd) yn ôl at eu gilydd.

Yn ystod 2018 cafwyd recordiau gwych o’r safon uchaf gan artistiaid Cymraeg. Dim un ohonnynt yn debygol o ymddangos ar Noson Lawen. Camodd Marc Cyrff yn ôl ar y llwyfan gyda albym ‘Oesoedd’ dan yr enw MR. Mewn amser bydd caenuon fel ‘Y Pwysau’ a ‘Bachgen’ yn gymaint o glasuron ac unrhywbeth gyfansoddodd Mark hefo’r Cyrff neu Catatonia.

Cafwyd caneuon pop perffaith (ond ddigon amrwd) fel ‘Rebel’ gan Mellt o Aberystwyth ar eu CD ‘Mae’n hawdd pan ti’n ifanc’. Mae artistiaid fel Dan Amor a Mr Phormula yn dal i gyfansoddi a ‘chwydu tiwns’. Does dim rhaid i bethau gael eu ‘canol-y-ffordd-eiddio’.

Herald Gymraeg 2 Ionawr 2019, ‘Cleddyf tywysogion Gwynedd’





Pennawd BBC News, 21 Tachwedd 2017 ‘Row over Llanberis Sword Location’. A dyma fi mor euog yn dechrau’r golofn hefo beth sydd yn cael ei ddisgrifio fel ‘clicbait’ pan mae pobl yn gwneud hyn ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Defnyddio pennawd neu frawddeg ddadleuol neu drawiadol er mwyn denu eich sylw.

Cofiwch, mae penawdau ‘dadleuol’ neu’r holl beth o greu dadl er mwyn denu sylw yn gallu bod yn effeithiol iawn. Na’th bod yn ‘ddadleuol’ ddim drwg i werthiant recordiau y Rolling Stones, y Sex Pistols na Frankie Goes To Holywood, Yn yr un modd, doedd bod yn ‘enfant terrible’ yn y Byd Celf ddim yn beth rhy ddrwg ar CV artistiaid fel Francis Bacon neu Lucian Freud.

Yn ddiweddar mae enw da (neu enw drwg) Banksy yn sicrhau sylw rhyngwladol pan mae darn o graffiti Banksy yn ymddangos ar wal mewn rhodfa gefn ym Mhort Talbot. Beth fydd tranc y celf dros nos yma sgwn’i? Tŷ gwydr parhaol drosto efallai gyda tal mynediad?

Meddyliaf wedyn am Gaban gwyrdd Joseph van Lieshout ger Pontio ym Mangor, yn eistedd yn daclus o dan y Coleg ar y bryn. Dadleuol. Oedd ac ydi - a bu llythyru cyson a’r wasg leol am wythnosau wedyn. Felly beth am y cleddyf yn Llanberis?

Gwaith y gof Gerallt Evans yw’r cleddyf 20 troedfedd o uchder. Cleddyf heb du mewn – cnociwch arno a fe glywch mai ‘cast’ neu cleddyf wedi ei greu mewn mowld yw hwn. Nid arf felly. Wedyn mae’r cleddyff yn eistedd gyda blaen y llafn mewn sylfaen o goncrit. Y carn yn yr awyr – 18-20 troedfedd i fyny.

Yn ddiddorol iawn does dim esboniad o gwbl yma ar lan Llyn Padarn, ger y maes parcio ar ymyl y llyn. Dim byd i ddweud pwy, pam be. Rhan o gynllun ‘Blwyddyn y Chwedl’ (2017), Llywodraeth Cymru gyda chymorth Cyngor Gwynedd. Nid mwy o sylw drwg sydd yma ond trafodaeth bellach.

O ran Hanes Cymru ac Archaeoleg Cymru mae parhau a’r drafodaeth yn bwysig. Mae unrhyw drafodaeth yn well na dim trafodaeth. Byddaf yn datgan yn aml fod bwrlwm yn creu bwrlwm ond mae distawrwydd yn arwain at ddistawrwydd llethol. Tydi hynny ddim yn iach.
Rwyf hefyd wedi datgan mor aml yn y golofn hon fod y diffyg Cymraeg yn y byd archaeolegol Cymreig yn pwyso yn drwm arnaf. Digaloni – ydw weithiau. Ymladd yn ôl – ydw weithiau. Tro ar ôl tro byddaf hefyd yn dychwelyd at ein ‘difaterwch ni’ – meddyliwch am gan Huw Jones ‘Sut Fedrwch chi anghofio’. Mae’r Cymry yn arbenigwyr ar gwyno am gestyll Edward I – ond beth yw arwyddocad y cleddyf ger y llyn?

Tywysogion Gwynedd sydd yn cael eu dathlu / cydnabod yma gan gleddyf rhydlyd coch / oren Gerall Evans. Felly yn bennaf rydym yn son am dywysogion Gwynedd yn ystod y 13eg ganrif. Y ddau Llywelyn – ab Iorwerth ac ap Gruffudd, Fawr ac ein Llyw Olaf. Nid cymaint felly Owain Glyndŵr?

Dwi wedi clywed enw Glyndŵr yn cael ei grybwyll yng nghyd destun cleddyf Llanberis ond mae gwrthryfel Glyndŵr yn digwydd dros ganrif ar ôl brwydrau’r ddau Llywelyn hefo Harri III a Edward I. Er fod hyn oll yn rhan o ‘Hanes Cymru’ tydi taflu Glyndŵr i’r un pair a’r ddau Llywelyn ddim cweit yn fanwl gywir. Daeth teyrnasiad tywysogion Gwynedd i ben go iawn pan ddaliwyd Dafydd ap Gruffudd ar Bera yn y Carneddau ym Mehefin 1283.

Tydi’r dyddiad yna yn Rhagfyr 1282 ddim cweit yn iawn chwaith felly. Er mor bwysig yw cofio am Llywelyn ap Gruffudd a Chilmeri – rhaid peidio gwneud hynny ar draul Dafydd druan – y brawd a achosodd y rhyfel yn y lle cyntaf – a’r person cyntaf i’w ddienyddio am deyrn-fradwriaeth. A hynny yn yr Amwythig ar y 3dd Hydref, 1283.

Gan ddychwelyd at ein cleddyf rhydlyd ar lan Llyn Padarn. Bu ymateb ddigon negyddol gan nifer. Ymhlith yr ymatebion yw fod y cerflun yn ‘hyll’ neu ‘ddim yn gweddu’. Hmmmm, dwi ddim mor siwr am hynny. Os mai cynrychioli tywysogion Gwynedd oedd (ac yw) y nod – sut fedrith hynny fod yn beth drwg?

Saif pentref Llanberis, pentref chwarelyddol yn hanesyddol, tu allan i ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Yr un yw’r stori ym Methesda a Blaenau – y pentrefi rhy ddiwydiannol neu ôl-ddiwydiannol i gael eu cynnwys o fewn ardal o harddwch naturiol? Hanes yw hanes. Onid yw’r trefol a’r archaeoleg diwydiannol yr un mor hardd mewn gwirionedd – ac yn sicr yr un mor bwysig.

Yn y cefndir – i’r gogledd ddwyrain, pen pella’r llyn, tu cefn y cleddyf gallwn weld tŵr crwn Castell Dolbadarn. Castell Llywelyn ab Iorwerth a Siwan a godwyd rhywbryd yn ystod y 1220au a’r 1230au. Cartref brenhinol i dywysog Gwynedd a merch y Brenin John. Heb os mae Castell Dolbadarn yn bwysicach na rydym yn sylweddoli.

Mewn cyd-destun felly, os edrychwn yn holistaidd ar hanes tywysogion Gwynedd – mae cleddyf Gerallt Evans yn gwneud synnwyr. Yn hanesyddol felly ac yn ddaearyddol felly – ond doedd hynny ddim yn cael sylw ar y Cyfryngau yn ôl yn 2017.

Sylwch hefyd fy mod wedi gallu sgwennu colofn gyfan heb unrhyw grybwyll o’r Brenin Arthur. Beth bynnag eich barn am gleddyf Llanberis mae yn holl bwysig fod yr arweinydd 5ed ganrif DDIM yn cael ei daflu mewn i’r pair. Does DIM yw DIM cysylltiad yma a’r brenin Arthur.