Wednesday 31 May 2017

It's Art Baby! Herald Gymraeg 31 Mai 2017

Sian Phillips (Andrew Logan)



“Da fod pethau fel hyn yn digwydd yng ngogledd Cymru”. Rhywbeth felly oedd geiriau’r artist Bedwyr Williams wrth iddo agor noson Nova, gwobr gelf newydd ar gyfer artistiaid o dan 35 oed yn yr RCA  (Royal Cambrian Academy) yng Nghonwy. Yn ogystal a chyflwyno’r noson roedd Bedwyr yn gwneud ‘perfformiad celfyddydol byw’ a oedd yn ymwneud a llwy oedd yn sefyll yng nhganol  llawr yr oriel wrth iddo ddarllen’darn’.

Hawliodd Bedwyr sylw pawb oedd yn bresennol, yn wir cyn cychwyn ei ‘berfformiad’  cyhoeddodd fod angen i’r band Piwb fod yn ddistaw tu cefn i’r llwyfan. Roedd y grwp ifanc Piwb newydd berfformio set rock’n roll amgen, amrwd, llawn egni a oedd yn atgoffa rhywun o berfformiadau cynnar y Velvet Underground (a’r Cymro o Garnant, John Cale) yn un o ddigwyddiadau Andy Warhol.


Hefo Llyr PIWB

Fel mynegodd Bedwyr, da o beth yw gweld pethau fel hyn yng ngogledd Cymru. Diwylliant. Diwylliant o fath gwahanol efallai, ond un angenrheidiol os yw gogledd Cymru i brofi y math o aeddfedrwydd diwylliannol sydd mor gyffredin, yn arferol hyd yn oed, mewn dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe neu Lerpwl a Manceinion.


Bedwyr Wiliams (perfformiad)


Wrth drafod celf, fe ddyliwn grybwyll y rhaglen rhagorol a ddarlledwyd yn ddiweddar ar Sky Arts yn dilyn teithiau JMW Turner i beintio Castell Norham yn Northumberland. Rhan o gyfres ‘Tate Britain, Great British Walks’ gyda’r curadur a’r hanesydd diwylliannol Gus Casely-Hayford oedd y rhaglen hon a’i gyd-deithiwr yn Norham oedd Cerys Matthews.
Peintiodd Turner Castell Norham wrth i’r haul godi (mae’n debygol yn y flwyddyn 1845) a dyma’r llun hyfryd hynny lle prin gallwch weld y castell drwy’r tawch a’r golau llachar wrth i’r haul wawrio tu cefn i adfeilion y castell. Prin fod angen datgan fod Cerys yn gyd-deithiwr brwdfrydig, deallus a hynod ddiddorol. Fel dinesydd o Wynedd, ac er i mi fwynhau pob eiliad o’r rhaglen, anodd iawn oedd peidio gweiddi “A beth am Gastell Dolbadarn?” at y sgrin fach.

Gan fod y arlunudd a’r cerflunydd Andrew Logan yn arddangos yng Ngŵyl Biwmares eleni penderfynais roi gwahoddiad iddo ymuno a ni ar gyfer fy rhaglen radio Nos Lun ar BBC Radio Cymru. Dewisiodd Andrew  ‘Je Ne Regrettte Rien’ gan Edith Piaf, ‘La Mer’, Charles Trenet, Strauss a Maria Callas. A dwweud y gwir mae Maria Callas yn ychydig o obsesiwn gennyf ar y funud. Hi oedd hoff gantores fy mam a chofiaf yn glir y recordiau Maria Callasoedd yn y tŷ wrth i ni dyfu fyny.


Maria Callas (Andrew Logan)



Cerfiodd a chreodd Logan gerflun anferth gwydr o Maria Callas, mae’r darn yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Biwmares dros gyfnod Gŵyl Biwmares ar wal y theatr / ystaflell berfformio. Gan fod cymaint o wydr clir ar wyneb Maria mae rhywun yn gweld adlewyrchiad o’r theatr wrth edrych ar y cerflun.

Drws nesa yn yr ystafell cegin i’r dde o’r cyntedd mae blodau gwydr mewn potiau a cherflun hyfryd o’r actores Gymreig Siân Phillips. Y cerflun o’i  hwyneb yr un mor drawiadol a’i wyneb trawiadol naturiol. ‘Esgyrn da’ mae nhw’n ddweud. Tydi oed ddim yn amharu ar Siân boed yn naturiol neu mewn cerflun, mae hi’n bytholwyrdd-drawiadol. Atgoffir rhywun o Caligula, y Rhufeiniaid a dadfeilio’n hardd, hardd-lances. Er mor wych yw gwaith Logan mae elfen o ddafeilio’n hardd yn perthyn I bob darn. Nid perffeithrwydd sydd yma ond rhyw arallfyd o harddwch sydd ar fin datgymlau.

Wrth grwydro Biwmares rhaid oedd taro i mewn i Amgueddfa Deithiol Andrew Logan oedd wedi ei osod ar y ‘Green’, y darn hynny o dir sydd wedi ei godi lle roedd unwaith y môr. Carafan yw’r Amgueddfa Deithiol. Bu’r garafan yn Steddfod Meifod. Bach ond wedi ffurfio yn berffaith. Sobr o goch o ran lliw tu mewn a sobor o wyn a streipiau du o’r tu allan.
Wrth sefyllian tu allan I’r Amgueddfa Deithiol cefais wahoddiad i ymuno a’r awdur Jon Savage a Logan ei hyn dros baned o de camomil. Wrth eistedd mewn ystafell a edrychai dros y ‘Green’ dyma Savage yn danos copi o record hir cyntaf yr Anhrefn roedd newydd ei phrynnu am £3 mewn siop elusen. Dyna chi – rydym ôll yn dadfeilio yn raddol. Genu wnaeth Logan – digon o waith ei fod yn gyfarwydd a’r Anhrefn.

Esbonias fod y ddafad ar gefn skateboard ar glawr blaen y record yn rhyw fath o ‘ddatganiad’ gan y grwp yn ôl yn 1987 er mwyn tanseilio’r cyhuddiadau oedd yn dod o dy’r Saeson o hyd,  ein bod fel cenedl yn hoffi cyfathrachu gyda defaid. Gwell yw chwerthin am eu pennau na gwylltio – dyna’r ffordd orau o danseilio agweddau nawddoglyd – chwerthin. Rydym yn yfei ein paned yn Victoria Terrace, adeilad a gynllunwyd gan Joseph Hamson, y boi nath ddyfeisio’r ‘Hansom Cab’.


Amgueddfa Deithiol Andrew Logan


Felly yn ogystal a diwylliant yn y Cambrian yng Nghonwy mae yna ddiwylliant ym Miwmares dros gyfnod yr ŵyl. Da o beth heb os.  Dwi’n trio gwneud synnwyr o’r pethau yma yn y cyd-destun gogledd Cymru.

Rhaid teithio. Rhaid chwilio am wybodaeth. Rhaid bod yn barod i fentro. Rhaid disgwyl yr anisgwyl. Rhaid cadw meddwl agored. Rhaid cefnogi. Rhiad sgwennu adolygiadau fel hyn. Rhaid peidio gadael i’r pethau yma ddigwydd mewn bybl – mae hynny rhy hawdd i bawb.
Dwi’n mwynhau y crwydro a’r teithio – dwi’n mwynhau y celf a’r celfyddyd. Dwi’n mwynhau y cymeriadau ac yn mwynhau yr herio. 

Dwi hefyd yn credu fod angen i’r Gymraeg fod yn fwy allweddol. Rhaid i hyn ddod o’r ddau gyfeiriad. Rhaid I ni hefyd, fel Cymry Cymraeg, fod eisiau gweld y dirwedd ddiwylliannol yn ehangach peth na’r Steddfod nesa.


Wednesday 24 May 2017

Castell Holt, Herald Gymraeg 24 Mai 2017




I’r de o Gaer, i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam, ydi pentref Holt hyd yn oed yng Nghymru? Ydi mae o, mae’n rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, ond faint o honnom sydd yn wirioneddol gyfarwydd a hanes Holt? Wrth i rhywun agaosau at y ffin rhwng Cymru a Lloegr mae yna dirwedd anweledig, bron fel tir neb, neb yn siwr lle mae’r ffin, perthyn i nunlle. Cofiwch mae’r trigolion lleol yn gwybod.

Wrth son am ardal y ffin, atgoffir rhywun o’r grwp electronig Cymraeg, Brodyr (y Ffin) – ar un adeg yn byw yn Saltney, dyna chi le sydd ar y ffin go iawn ac yn ochri a Afon Dyfrdwy unionsyth.  Anodd credu fod unrhyw faner yn gallu chwifio mewn lle mor ffiniol. Mor dir neb. Lle unig rhywsut.

Ond yn perthyn i Holt mae’r bont hyfryd ganol oesol gyda’i wyth bwa dros Afon Dyfrdwy. Y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Farndon ar yr ochr Seisnig a dau fwa sych ar yr ochr Gymreig. Gallwch gerdded drwy y bwa sych yn Holt ac yn y caeau o’ch blaen wedyn roedd y safle gwenud teils yn y cyfnod Rhufeinig. Lle pwysig.

Tywodfaen goch nodweddiadol o’r ardal yw adeiladwaith y bont ond gan fod tywodfaen yn gwisgo mor hawdd, mae’n amlwg o wahanol gyflwr y cerrig fod yma ganrifoedd o gynnal a chadw. Efallai fod y bont wreiddiol mor gynnar a’r 15fed ganrif neu hyd yn oedd ddiwedd y14eg ganrif.

Castrum Leonis neu Chastellion yw’r enw a roddir ar Gastell Holt a adeiladwyd dan orchymyn Edward I rhwybryd yn fuan ar ôl diwedd y rhyfel gyda Llywelyn ap Gruffudd. Os felly rydym yn son am John de Warenne yn adeiladu o 1283 ymlaen tan tua 1311 wedi iddo ddrbyn y tir gan Edward I. Roedd de Warenne hefyd bellach yn gyfrifol am Gastell Dinas Bran, Llangollen, ond iddo ddewis adeiladu yn Holt yn agosach i’r mor ar lan orllewinol Afon Dyfrdwy.

Erbyn heddiw dim ond muriau mewnol y castell sydd wedi goroesi a hynny ar ffurf pump ochr (pentagon). Wedi hen ddiflannu drwy broses o ail-gylchu dros y canrifoedd, ar gyfer adeiladu tai Holt fe dybiaf, mae’r mur allannol a’i bump tŵr.

Drwy waith cloddio a chynal a chadw archaeolegol Stephen Grenter o Gyngor Wrecsam mae Castell Holt yn llawer mwy deniadol i ymwelwyr erbyn heddiw. Cyn y gwaith adfer roedd yr adfeilion yn dynfa i ieuenctyd yr ardal oedd yn chwilio am fangre gysgodol i gael yfed dan oed ac i wneud y pethau mae pobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi eu gwneud heb i oedolion a rhieni gael gweld.

Bellach mae llwybr a grisiau yn tywys rhywun at du mewn y castell. Mae concrit coch ru’n lliw a’r dywodfaen yn rhwystro y muriau rhag disgyn, mae byrddau dehongli yn cyfleu yr hanes. Ern ad yw hwn yn un o gestyll amlwg Edward I, mae’n rhannu rhan o’r un hanes – sef y concwest o Gymru ar ôl cwymp Llywelyn 1282.

Nid yw’n gastell mor drawiadol a’r rhan fwyaf. Does dim tŵr amlwg. Er hyn byddwn yn dadlau yn gryf fod yn werth ymweld a Holt. Mae’r cyfuniad o’r castell, y bont, y groes hynafol yng nghanol y pentref, y pyllau pysgod i’r gorllewin ôll yn gwneud pnawn bach diddorol ac hamddenol yn y gornel fach yma o Gymru.





Bu’m yma yn ddiweddar yng nghwmni Cyngor Archaeoleg Prydain / Cymru a dwi bron yn sicr mai y fi oedd yr unig siradwr Cymraeg ymhlith y sawl dwsin ddaeth draw i Holt. Rwyf yn poeni am hyn, pam fod y Cymry mor gyndyn o ymwneud a Hanes Cymru os yw’r hanes yna yn digwydd y tu allan i’r ffyrdd neu leoliadau arferol.

Wednesday 17 May 2017

Stamp 2 Caernarfon @ y Castell, Herald Gymraeg 17 Mai 2017




Am yr ail flynedd mae digwyddiad celfyddydol Stamp yn digwydd yng Nghastell Caernarfon. Yr hyn sydd yn digwydd go iawn yw nifer o osodiadau celfyddydol gan y ACI’s (artistiaid Cymreig ifanc) – a chyn i neb brotestio, does neb wedi eu galw yn hunna, jest fi sydd yn chwarae gyda geiriau. Prosiect i adfywio Caernarfon yn ddiwylliannol yw Stamp sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd.

A da o beth. Mae gweld gosodiadau celf gan artistisd cyffrous Cymreig fel Natasha Brooks, Llŷr Erddyn Davies, Catrin Menai a llawer llawer mwy yn beth da. Hefyd yn beth da yw fod castell Edward I, 1283, yn cael ei ail-feddiannu gan ni Gymry!  Ond na, jôc fach, dwi ddim yn rhannu’r feddylfryd hynny go iawn - o ran ‘ail-feddiannu’, dwi jest yn hapus gweld celf yn y castell, mewn adeilad o’r 13eg ganrif.

Chydig bach o nonsens yw cwyno am Edward I yn 2017. Mae’r castell wedi dychwelyd i ddwylo’r Cymry ers llawer dydd, fel y gwnaeth castell mwnt a beili Robert Rhuddlan yng nghyfnod Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Rhaid delio a hanes ond rhaid peidio cael ein gorthrymu a’n diffinio ganddo. Fe esboniodd Bob Marley hyn yn llawer gwell na fedra’i byth yn ei gân ‘Redemption Song’ pan awgrymodd “only you can free your mind”.

Wrth wisgo fy het ‘archaeolegydd’ mae’r gosodiadau celfyddydol yn hyd yn oed mwy cyffrous. Gall y byd archaeolegol fod yn un digon sych (a rhy Seisnig) yng Nghymru a mae chwalu’r ffiniau rhwng celf / Hanes Cymru / archaeoleg yn beth hynod bwysig. Y gair allweddol bob amser yw ‘diwylliant’ a hynny o fewn cyd-destun y dirwedd ddiwylliannol. Tydi hanes ac arcaheoleg Cymru ddim yn bodoli mewn gwagle a mae hanes ac archaeoleg Cymru yn parhau i gael ei greu a digwydd yn ddyddiol.




Yn Nhŵr Du y castell roedd gosodiad Jŵls Williams. Jŵls wrthgwrs gyd-weithiodd gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd rai blynyddoedd yn ôl ar brosiect Meini Hirion Môn gyda disgyblion ysgol yn peintio rhai o feini hirion amlycaf yr ynys. Felly mae Jŵls wedi hen arfer gyda pontio (a pheintio) rhwng celf ac archaeoleg. Ei gosodiad tro yma yw strip o olau coch-binc.

Drwy gyd-weithio ar artist Mattt Moate (sydd yn gyfenw addas rhywsut ar gyfer digwyddiad mewn castell) mae Jŵls wedi creu darn o’r enw Balistaria II, 2017. Dwi’n cymeryd mai Baistaria I oedd y gosodiad llynedd 2016. Chwarae hefo’r syniad o’r golau sydd yn dod drwy’r tyllau saethau i mewn i’r castell mae Jŵls a Matt hefo’r gosodiad. Awgrymir hefyd ganddynt fod tu fewn y castell bellach yn ddi-amser.

Wrth fwynhau y gosodiad siaradais a rhywun arall yn y tŵr a ddefnyddiodd y gair ‘effeithiol’ i gyfleu ei theimladau am yr hyn a welodd. Roedd blodau angladdol Llŷr Erddyn Davies yn ddigon effeithiol ond roedd ganddo ddarn mawr o bibell neu diwb metal oedd yn cael ei guro yn rythmig gam lwyth o blant ifanc  yn y capel yn y Tŵr Du. Fy ymateb oedd gwenu.




Heb os mae Natasha Brooks yn un da. Unwaith eto mae dŵr yn amlwg iawn yn ei gwaith. Cofiaf ei sioe graddio gyda’r fideo ohonni yn y bath yn cael ei ddangos mewn bath go iawn. Y tro yma taflu llun o ddŵr ar do un o loriau y Tŵr Siamberlin wnaiff Natasha. Dwi’n credu fod rhywun angen gorwedd ar ei gefn ac edrych am i fyny i werthfawrogi’r  tawelwch ysbrydol sydd yn gysylltiedig a’r gosodiad.




Felly da o beth. Da iawn. os am gael mwy o wybodaeth mae angen dilyn @stampcaernarfon ar Trydar. Siaradais a nifer oedd heb glywed am y digwyddiad. Mae’n gweithio dwy ffordd. Rhaid i bawb gysylltu.

Friday 12 May 2017

Pop Cymraeg yn y MOSTYN, Herald Gymraeg 10 Mai 2017




Dros y penwythnos roeddwn yn rhoi sgwrs ar ‘Hanes Canu Pop Cymraeg’ yn y MOSTYN, Llandudno. Dyma un o fy hoff orielau celf. Rwyf yn hoff o’r pensaerniaeth concrit garw (Brutalist) mewnol, rwyf yn hoff o’r caffi a rwyf yn hoff o’r celf a’r arddangosfeydd heriol. Rwyf yn hoff o’r ffaith fod y MOSTYN yn Llandudno, creadigaeth Fictoraidd, Seisnig ei naws, (heblaw am siopwyr Cymraeg).

Flynyddoedd maith yn ôl, yn yr 1980au, ymwelais ar oriel am y tro cyntaf ar bnawn Dydd Sadwrn llwm gaeafol i weld arddangosfa o luniau o’r cylchgrawn diwylliannol THE FACE. Pryd hynny roedd rhywbeth, (unrhywbeth) ‘diwylliannol’ yn ymwneud a diwylliant pop yn rhywbeth pwysig iawn yma yng ngogledd Cymru. Roedd yn cynnig gobaith yn ogystal ac ysbrydoliaeth. Welais i neb arall yno ar y pnawn Sadwrn hynny, yn sicr neb oedd yn siarad Cymraeg.

O beth fedra’i gofio roedd Siouxie yn un o’r delweddau yn yr arddangosfa a Pamela Stephenson noeth (Not the Nine o’Clock News) a siawns fod Weller yna yn rhywle. Y noson cyn i mi ymweld, sef yn y ‘parti lansio’ roedd y grwp Offspring o Fethesda wedi perfformio yno yn y MOSTYN gyda Hefin Huws (Maffia Mr Huws) yn canu’r prif lais.



Arhosodd yr atgof yma o’r ymweliad cyntaf hefo mi ers hynny.Enillodd y MOSTYN gornel fechan o fy nghalon fel rhyw hen gariad o ddyddiau ysgol. Felly fe ddyliwn fod yn defnyddio ansoddeiriau neu eiriau fel ‘braint’, ‘anrhydedd’, mewn cyswllt a’r gwahoddiad i roi sgwrs yn y MOSTYN fel rhan o weithgareddau arddangosfa yn seiledig ar siop gerdd Wagstaff. Rhan o gyfres ‘Hanes’ yn y MOSTYN.

Yn sicr roeddwn yn gwerthfawrogi’r gwahoddiad. Fel rhan o fy sgwrs fe chwaraeais recordiau Cymraeg. Chwaraeais ‘Maes B’ gan Y Blew fel y record roc Cymraeg cyntaf – a hynny o 1967. Pan fyddaf yn chwarae’r Blew ar fy sioe Nos Lun ar Radio Cymru rwyf yn tueddu i ddweud yr un peth am y Blew – “dal i swnio’n dda”, ond dyna’r ffiath – mae’r record yma o 1967 yn swnio’n rhyfeddol o ffres a hanfodol 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Chwaraeais ‘N.C.B.’ gan Y Llygod Ffyrnig fel y record ‘punk’ cyntaf i’w rhyddhau yn y Gymraeg, ac o bosib y record mwyaf amrwd erioed yn yr Iiaith Gymraeg. Pwysleisiaf y positif yma wrth ddefnyddio’r disgrifiad ‘amrwd’. Esboniais sut roedd N.C.B yn adlewyrchiad cerddorol o dirwedd ôl-ddiwydiannol Llanelli yn 1978. Gyda’r diwydiant tin (Tinopolis) wedi dod i ben ymateb y canwr Dafydd Rhys wrth geisio dyfalu beth fyddai’r dyfodol yn gynnig iddo oedd “sai’n gwbod medda fi”.

Chwaraeais ‘Angela’ gan y Trwynau Coch, oddiar y record feinyl 12” coch. Dyma gyfle i drafod rhyw, yr elfen holl bwysig honno mewn diwylliant pop cyfoes. Pwy oedd ddim yn ffansio Angela Rippon? A dangosais y llun enwog hynno o Angela yn dangos ei choesau ar rhaglen Morcambe and Wise. Fel rhywbeth o oes o’r blaen.

Nid mor hawdd (heddiw/2017) trafod sengl gyntaf y Trwynau Coch ‘Merched dan 15’. Yn y dirwedd ôl-Saville tydi’r geiriau ddim cweit mor ddiniwed, ac eto fel disgyblion ysgol yn 1977 dwi ddim yn credu i’r record ymddangos fel fawr mwy na chydig o hwyl heriol / rhywiol. Gwahanol iawn yw’r awyrgylch heddiw a peth anodd yw trafod record fel ‘Merched dan 15’. Dyna pam dwi’n ei gynnwys mewn sgyrsiau fel hyn – rhaid ni wynebu a thrafod – nid osgoi ac anwybyddu.

Chwaraeais ‘Lebanon’ gan Y Cyrff, un o recordiau cyntaf Y Cyrff o Lanrwst. Eto record amrwd ond llawn angerdd ac wrth ddatblygu’r sgwrs wrthgwrs mae rhywun yn cyrraedd rhyw fath o ddiweddglo gyda Mark a Paul o’r Cyrff yn cael llwyddiant rhyngwladol gyda’r grwp Catatonia. Y diweddglo diweddara yw fod Mark Cyrff yn recordio hefo Dave Datblygu a John Llwybr Llaethog dan yr enw Messrs a mae’r record newydd cystal ac unrhywbeth ac eto yn record hanfodol.



Dewisiais ‘Casserole Efeilliaid’ gan Datblygu fel hoff gân John Peel, efallai, ond dwi’n amau fod yr hen Peel yn hoff o’r gân yma achos mai hon oedd yr unig un oedd modd ei ynganu ar Radio One yn ddi-drafferth. Rhoddodd hyn gyfle i mi adrodd y stori am John Peel yn fy ffonio yn hwyr y nos yn aml i ofyn sut roedd ynganu Llwybr Llaethog neu rhyw grwp arall Cymraeg cyn darlledu ar yr awyr.

Rhaid oedd hefyd, fel rhan o’r wers hanes, cynnwys y gân ‘’Dyddiau Braf (Rap Cymraeg)’ gan Llwybr Llaethog, o bosib, os nad yn weddol sicr, y record rap /hip-hop cyntaf yn yr Iaith Gymraeg. Edmygaf John a Kevs Llwybr Llaethog am ddal ati dros yr holl flynyddoedd, heb eu hurddo, heb fawr o dâl, heb hanner digon o sylw a dim ond parch gan y gwybodusion a dim hanner digon o gydnabyddiaeth gan y diwylliant canol y ffordd Cymraeg.

Cefais gynulleidfa Cymraeg a di-Gymraeg felly roedd y sgwrs yn un dwy-ieithog ond hamddenol felly. Yr unig record Saesneg i mi chwarae oedd Offspring ‘One More Night’ er mwyn gwneud y cysylltiad a’r arddangosfa The Face.

Braf oedd cyfarfod criw Blog Sôn am y Sîn sydd yn gwneud gwaith da hefo’r blog yn trafod y byd pop Cymraeg a braf oedd cyfarfod ambell un arall sydd yn ddilynwyr o’r sioe radio. Braf hefyd oedd gweld cymaint o bobl di-Gymraeg yn mynychu ac efallai yn darganfod cerddoriaeth yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Dwi ddim yn siwr faint yn yr ystafell oedd yn gyfarwydd a’r Blew?

Pa well fordd o dreulio pnawn Sadwrn na chwarae recordiau Cymraeg mewn oriel gelf? Diolch am y gwahoddiad MOSTYN.


Thursday 4 May 2017

Castell Bach, Herald Gymraeg 3 Mai 2017




‘Castell Bach’ meddai’r Cofis am y ffug-gastell neu’r ffug-dŵr (i fod yn fanwl gywir) sydd yn pethyn i stad Coed Alun ar ochr orllewinol Afon Saint yng Nghaernarfon. ‘Seiont’ meddai pawb yn anghywir mae’n debyg, gan mai ‘Saint’ yw’r enw cywir ar yr arfon fel y mae ‘Coed Alun’ yn ffurf cywir a nid ‘Coed Helen’ ar y stad a’r neuadd gyfagos sydd yn dyddio yn rhannol i 1606.

‘Pont Saint’ medda’r Cofis wedyn am y bont sydd yn croesi’r afon – Seiont / Saint – sydd yn ei hyn yn od os mai ‘Pont Saint’ sydd yn croesi ‘Afon Seiont’? Ond wedyn onid oes cysylltiad a’r enw Seiont a Segontium, y gaer Rufeinig gyfagos yn Llanbeblig? Cyfeiriodd Caesar at lwyth o’r enw Segontiaci ond gan fod rhain yn ne Prydain, yn ardal Caint heddiw, tydi hyn ddim yn berthnasol i’r enw yng Nghaernarfon.

Mae’r busnas enwau llefydd yma yn gallu gyrru rhywun yn benwan, diddorol yn sicr ond nid mor hawdd cael sicrwydd. Yn Saesneg mae ffug-dŵr Coed Alun yn cael ei gyfeirio ato fel ‘Summerhouse’, ‘hafdy’ felly. Dylid osgoi ‘Tŷ haf’ gan fod hynny yn mynd a rhywun ar drywydd hollol wahanol. Does dim cysylltiad rhwng Meibion Glyndŵr a’r ffug-dŵr!

Cerddais draw yn ddiweddar, drwy’r maes carafannau, gan holi yn y dderbynfa yng Nghoed Helen (Alun wrthgwrs go iawn) lle yn union oedd y garreg hefo’r dyddiad 1606 sydd yn cael ei chrybwyll yn llyfr y Comisiwn Brenhinol Sir Gaernarfon(1960) ac i’w gweld ar ochr y neuadd yn rhywle.  Rwyf wedi edrych droeon heb hwyl.

Gofyn yw’r peth gorau fel arfer a dyma gael hyd i’r garreg ddyddiad ar ochr y neuadd, ddim mor amlwg, yn uchel ar y wal ogledd-ddwyreiniol. Felly os mai hon oedd y garreg a osodwyd wrth godi’r neuadd, neu oleiaf rhan o’r neuadd, mae gennym ddyddiad adeiladu. O hen luniau gallwn awgrymu fod y ffug-dŵr yn dyddio o’r 18fed ganrif. Dyma lle roedd y teulu yn cael eu te bach yn yr Haf felly!



Yn ystod Mis Mawrth bu criw ohonnom archaeolegwyr yn cloddio yng Nghae Mawr, Caernarfon ar lan orllewinol Afon Saint ac ar gyrion Coed Alun ac o dan gysgod y ffug-dŵr,  ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Chwilota am olion Rhufeinig oedd y bwriad ond aflwyddiannus fu’r cloddio mewn gwirionedd. Doedd dim olion pendant yma, fawr mwy na gweddillion hen glawdd terfyn o bosib. Yn sicr chafwyd ddim byd cadarn o ran olion neu adeiladwaith Rhufeinig er gwaetha’r ffaith i ni gael hyd i gryn ddipyn o lestri pridd Rhufeinig yno.

Digon o waith fod gweddillion y clawdd mor hen a hynny er ei fod yn gorfod dyddio cyn y caeau presennol sydd yn ymddangos ar y mapiau Degwm 1837/40. Oleiaf nawr rydym yn gwybod nad yma oedd y ‘villa Rhufeinig’. Dyna oleiaf oedd ein jôc wrth ddod a’r gwaith cloddio i ben. Weithiau mae rhaid gwneud gwaith fel hyn i gadarnhau nad oes unrhywbeth o bwys yma, siomedig efallai ond pwysig.

Drwy feddwl am waith archaeolegol fel hyn fel rhan o broses o ddarganfod a dysgu am ein tirwedd hanesyddol, mae hyd yn oed profi y negatif yn bwysig o ran ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth. Hefyd o weithio yng Nghae Mawr dros yr wythnos ym Mis Mawrth roedd rhywun hefyd yn dychmygu y byddai boncyn Castell Bach a Twthill yn fannau addas ar gyfer gwylfan dros Afon Menai yn y cyfnod Rhufeinig.

Petae rhywun yn dychmygu’r dirwedd Rufeinig, fyddai na ddim byd yn ardal y Maes, Caernarfon, fydda castell Edward I ddim yna ond pwy a wyr beth oedd ar lan Afon Saint o dan Hen Walia y gaeran Rufeinig ychydig i’r gorllewin o Segontium. Rhaid fod doc Rhufeinig yna yn rhywle.