Sunday 6 June 2021

Treforys, Cwm Ystradllyn, Llafar Gwlad 152

 


Adeiladwyd Treforys yn 1857 ar gyfer gweithwyr chwarel Gorseddau a’u teuluoedd. Saif y ‘pentref’ ar lethrau Moel Hebog, i’r gogledd o Lyn Ystradllyn. Lle gwlyb, agored, garw pan mae’r tywydd yn troi. Erbyn 1871 roedd Treforys yn wag. Methiant fu’r chwarel a methiant fu Treforys.

Dyma hanes nodweddiadol o gyfnod y Fictoriaid. Gormod o frwfrydedd a mentergarwch heb ddigon o sylw i answadd y llechi. Adeiladwyd tramffordd rhwng y chwarel a’r felin yn Ynysypandy – gallwch gerdded rhan o’r tramffordd hyd heddiw o Dyddyn Mawr draw at y chwarel. O 1854 ymlaen roedd y chwarael ym meddiant Robert Gill a John Harris a chafwyd cymorth gan y peiriannydd mwyngloddio Almaenig, Henry Tobias Tschudy Von Uster.

Roberth Griffith Morris o Fangor oedd perchennog y tir lle adeiladwyd cartrefi’r chwarelwyr ac ef sydd yn rhoi ei enw i Dreforys, y pentref sydd wedi ei gynllunio yn ôl pob tebyg mewn swyddfa o bell. Anodd credu fod y pensaer erioed di troedio llethrau gwlyb Moel Hebog.

Cyn cyrraedd Plas y Llyn, lle reodd rheolwr y chwarel yn byw, mae llwybr yn dringo tua’r gogledd ac yn arwain at Dreforys. Gelwir rhan gyntaf y llwybr yn Ffordd y Plwyf. Wrth gyrraedd Treforys gwelir dair rhes o dyddynod dwbl. Mae 18 adeilad i gyd, 36 o dai, pob un mwy neu lai yr un cynllun a’r un maint. Croglofftydd oedd i’r tai, mae ffenestri lloft bythynnod 12 ac 13 yn y rhes ganol yn parhau i sefyll (am y tro).



Yn ystod mis Chwefror a Mawrth eleni (2021) bu archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwneud archwiliad manwl o’r safle. Cofnodwyd pob un o’r 18 adeilad gyda nodiadau a mesuriadau manwl, cofnod ffotograffaidd a thynwyd awyr luniau gyda drôn er mwyn creu modelau 3D o’r adeiladau.

Dyma engraifft gwych o sut bu i dirwedd Cwm Ystradllyn newid o ganlyniad i ddiwydiant. Newidwyd patrwm bywyd rhai o’r trigolion am gyfnod ond heblaw am dwll chwarel a thomenni enfawr Gorseddau prin fod yr olion diwydiannol yn amlwg heddiw, mae’r cwm bellach yn ôl yn gwm amaethyddol. Suddo yn raddol i’r corsdir mae Treforys, y waliau yn disgyn, y tir yn wlyb.

Dim ond y ffaith fod tair rhes o dyddynnod cyfochrog a ffyrdd union syth yn rhedeg gerllaw sydd yn awgrymu rhywbeth anarferol o ran tirwedd gwledig Cymru. Cawn engreifftiau lu o ffermdai a hafotai hynafol o amgylch Cwm Ystradllyn ond tydi cynllun Treforys ddim yn ‘perthyn’ rhywsut. Dyma’r ‘planned village’ allan o gymeriad ac eto mae rhywbeth Cymreig am yr adeiladau hefyd. Cerrig y mynydd a ddefnyddiwyd i’w adeiladu. Mae’r cruglofftydd yn fy atgoffa o dai y chwarelwyr ar Fynydd Cilgwyn, Dyffryn Nantlle (Sardis yn engraifft amlwg neu meddyliwch am Cae’r Gors yn Rhosgadfan).

Roedd darn o dir yn perthyn i bob tyddyn. Daw rhesi tai Mynydd Llandegai i’m meddwl o ran cymhariaeth fras. Rhaid pwysleisio hefyd mai cartrefi oedd rhain yn Nhreforys, gyda teuluoedd ynddynt – felly nid barics ar gyfer gweithwyr oedd yn dychwelyd adre ar y penwythnos.

Wrth archwilio bwthyn rhif 13 yn y rhes ganol roedd yn weddol amlwg fod bron i hanner ffenestr ffrynt y tŷ wedi ei cau yn fwriadol gyda wal gerrig. Gan fod y drws ffrynt a’r ffenestri ffrynt yn wynebu’r de / de-orllewin tybiaf fod y preswylwyr wedi penderfynu fod gormod o damprwydd a gwynt yn treiddio i mewn i’r tŷ.



A’i dyma engraifft arall o gynllunio o bell? Efallai mai ffasiwn y dydd oedd cael digonedd o olau i mewn i dai? Awgrymodd Bill Jones sydd wedi archwilio tai y chwarelwyr yng Nghwm Orthin fod rhywbeth tebyg wedi digwydd yn ochrau Stiniog. Lleihau maint y ffenestri er mwyn cadw’n glud. Trafodaeth ddiddorol.

Y broblem fwyaf o ran cadwraeth yn Nhreforys yw fod y tir mor wlyb ac o ganlyniad mae ochrau y tai yn rhoi wrth i’r dŵr danseilio’r ddaear. Pan gynlluniwyd Treforys roedd cyfres o ffosydd yn arwain y dŵr i ffwrdd o’r tai. Heddiw mae’r dyfrffosydd wedi llenwi, y ffosydd wedi ffendio cwrs newydd a’r holl safle yn wlyb iawn. Os bydd cynllun cadwraeth hirdymor ar gyfer Treforys bydd rhaid ail dorri’r dyfrffosydd a chael y dŵr yn glir o’r safle.

Bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw a’r rhai o’r tyddynnod. Yn sicr dylid ceisio cadw rhai o’r waliau a llefydd tân yn y rhes ganol. Os yn bosib dylid hefyd sicrhau fod ffenestri croglofftydd 12 ac 13 yn cael eu gwarchod gan fod hyn yn nodwedd mor bwysig o’r adeiladau.

Yn sicr o ran hanes a chynllun mae Treforys yn rhan bwysig o dreftadaeth a hanes y diwydiant llechi yng ngogledd-orllewin Cymru. Lle hyfryd ar gyfer cerdded ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu llacio.