Saturday 20 October 2018

Sut Mae Naratif Brexit Wedi Newid, Herald Gymraeg 17 Hydref 2018



“Ohh David bach, beth wyt ti wedi wneud?” Dwi jest yn dychmygu’r sgrws. Distaw iawn fu David Cameron ers canlyniad y Refferendwm. Yn ôl wefan The Week bu rhan health o’i amser yn cael ei dreulio yn sgwennu ei hunangofiant gan faddau i Johnson ond gan ddarnio Gove? Efallai fod y frawdgarwch Etonaidd mor gyrf a hynny felly.

Amseru fydd y peth nesa ynde. Pryd bydd cyhoeddi hunangofiant o’r fath? Nid cyn Brexit mae’n debyg, ond wedyn fydd na byth amser da i Michael Gove. Nid fy mod yn mynd i goli unrhyw gwsg os bydd Cameron yn taflu goleuni llai na chymwynasol a’r Michael Gove. Sut bydd Cameron yn cyfiawnhau galw refferendwm mor drychinebus a mor bell gyrrhaeddol o ran effeithiau economaidd niweidiol? Fydda’i yn sicr ddim yn un fydd yn trafferthu darllen.

Beth bynnag oedd addewidion (anelwig, tywyllodrus, anghywir, afreal, amhosib) Brexit does neb bellach i weld yn smalio honni y bydd unrhyw fanteision go iawn “The overwhelming opportunity for Brexit is over the next 50 years” meddai Jacob Rees-Mogg ar Channel 4 News. Ar LBC dyma Farrage yn cyhoeddi “I never promised it would be a success”. Yn well neu waeth oleiaf bydd Sofreniaeth yn ôl gennym yw ateb Farrage.

Bydd Rees Mogg wedi hen adael y ddaear yma felly cyn gwybod beth fydd canlyniadau Brexit go iawn. Rhywbeth hollol wahanol oedd gan Farrage felly, nid ‘manteision’ economaidd honedig ond adfer rhyw synnwyr o ‘Britannia Rules the Waves’ ymhlith y ‘Little Englanders’ a bydd popeth yn iawn. Nostalgia am yr uncorn.

Yr hyn sydd yn ddiddorol efallai yw sylwi ar sut mae’r naratif wedi newid dros y misoedd dwethaf ynglyn a Brexit. Wedi mynd yn ôl i’r orsaf bwsiau mae’r bws mawr coch hefo’r holl addewidion. Hyd yn oed pan mae lluniau o Johnson a Gove neu pwy bynnag o flaen y bws – mae mor hawdd iddynt wadu, newid y sgwrs, camarwain.

Efallai mai gohebwyr a newyddiadurwyr Prydain, golygyddion newyddion a phapurau newydd sydd wedi bod mwyaf cydsyniol yn y broses. Llawer gormod ohonnynt yn sicr.  Prin iawn yw’r adegau lle mae’r holwyr yn mynnu ateb gan y gwleidyddion. Rhy aml mae Rees -Mogg, Duncan Smith, Redwood, Leadsom ac yn y blaen yn rhoi ‘soundbites’ allan, un ar ôl y llall gan osgoi unrhyw gynnig ar ateb.

A beth yn union yw’r busnes yma o gael gofyn un cwestiwn yn unig i wleidyddion? Oleiaf fe gafodd Richard Madely y ‘guts’ i droi ar Gavin Williamson. Ond meddyliwch am hyn - onid oedd gwylio Corbyn yn ail ateb yr un cwestiwn bump gwaith yn boenus i’w wylio? Rho ateb. Atebolrwydd?

Heb os mae’r naratif wedi dechrau gwneud cylchoedd o amgylch y goedwig. Roedd datganiad diweddaraf Andrea Jenkyns AS ‘Its better to go down fighting and honouring the decision of our British people’ yn ymylu ar y gwallgofrwydd. Rhethreg syth allan o gomic Ail Ryfel Byd. Beth ???? Gwell colli’r cyfan, gwell suddo’r gwch na rhoi mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

O lle ddiawl y daeth hyn i gyd? Doedd dim o hyn ar ochr y bws nagoedd. Rhywsut mae’r Toriaid wedi colli unrhyw synnwyr o synnwyr cyffredin. Does ’nelo Brexit ddim ôll a’r Ail Ryfel Byd mwy na’r Undeb Sofietaidd yn ein carcharu ond mae’r rhethreg yn cynyddu, yn cynyddu mewn afresymoldeb yn ddyddiol.

Wedi eu cymeryd allan o gyd-destun oedd datganiadau Hunt mae’n debyg. OK dyna popeth yn iawn felly. Os yw’r naratif yn newid mae Trump yn rhan o’r newid hinsawdd. Wrth reswm tydi Trump ddim yn credu mewn ‘newid hinsawdd’ ond fe fydd ei weithredoedd yn uniongyrchol arwain at waethygu’r hinsawdd – a Duw a’n helpo o ran unrhyw hinsawdd wleidyddol.

Pwy fydda wedi dychmygu, dyweder hyd yn oed mor ddiweddar a thair – pedair mlynedd yn ôl byddai celwyddau noeth yn deillio o’r Tŷ Gwyn ar raddfa dyddiol. Os yw Arlywydd yr Unol Daliaethau yn gallu palu nhw – wel, does dim problem wedyn nagoes i gymeriadau fel Johnson a Gove wrth-ddweud eu hunnain o un wythnos i’r llall.

Drwy ‘normaleiddio’ celwydd neu ‘normaleiddio’ camarwain gwleidyddol heb wiro rydym yn creu cynsail ofnadwy o beryglus. Rhaid bod y Cyfryngau a’r Wasg yn rhydd er mwyn gwiro yr hyn sydd yn cael ei ddweud gan wleidyddion. Dyna’r ddelfryd. Y realiti wrthgwrs yw fod agendas gwleidyddol wedi bod ynghlwm a’r Wasg a’r Cyfryngau ers y dechrau. Heddiw, 2018 mae’r angen am wiro yn fwy nac erioed.

Dwi’n gweld hi yn ofnadwy o anodd sgwennu colofn fel hyn heb ddechrau ‘rantio’. Os yw’r naratif wedi newid, onid felly yw hi’n amser i ail edrych ar yr holl beth? Petae rhywun yn gofyn am restr syml iawn – rhowch i mi dri fantais clir o ganlyniad i Brexit? Syml – fedra’i ddim hyn yn oed meddwl am un. O ddifri rwan, yn amlwg roeddwn o blaid aros yn yr UE ond petae rhywun yn gofyn i mi am un fantais heb son am dri o ganlyniad i Brexit fedrai ddim eu rhestru.

Byddwn yn gofyn hyn i bobl Brychdyn, rhai oedd o blaid Brexit – staff Airbus oedd o blaid Brexit – sut yn union mae Brexit yn fanteisiol os yw yn bygwth eich swyddi yn Airbus? Pa ddarn o addewidion Johnson, Farrage, Rees Mogg sydd yn gwneud colli swydd yn beth da – yn beth werth pleidleisio drosto.

Rantio neu ddim. Trump yn Arlywydd – mae’n dweud gormod am gyflwr y byd. Er fy holl dueddiadau anarchaidd doeddwn ddim yn disgwyl naratif mor wallgof.

Wednesday 3 October 2018

Glen Matlock ym Mhorthmadog, Herald Gymraeg 3 Hydref 2018


Clwb Peldroed Port hefo Glen


Credwch fi mae chwystrelliad o ddiwylliant yn beth da i’r enaid a’r ysbryd – a dwi di cael wythnos lle roedd y pair ddiwylliannol yn gorlifo. Ond, bore heddiw wrth sgwennu’r golofn, rwyf wedi y-m-ladd. Nid cwffio ond yr hyn yn Saesneg fydda rhywun yn ei alw yn ‘knackered’. Hapus felly. Hapus iawn. Ond y gora fedra’i neud ydi cadw’r paneidiau te i fynd.

Efallai fod y Rhys 56 oed angen arafu ’chydig. Pedair noson hwyr ar y trot – a dwi’n diodda – ond fel dywedais – mor hapus a mae’r paneidiau hefo gormod o lefrith a siwgr brown yn cadw rhywun ar yr ochr iawn o dir y byw. Nos Fercher ddechreuodd y wibdaith ddiwyllianol wrth i’r gantores ‘gwlad /soul’ Chastity Brown ymddangos yn y Fic, Porthaethwy.

Chastity yn Fic Porthaethwy

Efallai i chi weld Chastity ar rhaglen Jools Holland yn ddiweddar. ‘Dwys’ yw un ffordd o ddisgrifio caneuon Chastity. O gefndir croenddu a gwyn – yn frown felly – nid yn wyn nac yn ddu – ac yn hoyw. Doedd Chastity ddim yn caniatau i gynulleidfa’r Fic eistedd yn gyfforddus. Ar un pwynt dyma hi’r rhoi ‘llith’ am bobl hiliol gwyn – llith rhwng cân ddaru bara am oleiaf 5 munud. Dwi’n credu i ni gyd deimlo yn euog – hyd yn oed y mwyaf gwrth-hiliol ohonnom.

Wrthgwrs rwyf wrth fy modd hefo artistiaid sydd yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo yn anghyfforddus – roedd Chastity yn enaid byw hanfodol a’r llais yna – bron cystal ac Aretha – oedd wir – y llais soul cryf fydda yn dymchwel adeiladau gor-uchel gyda un nodyn. Ar ddiwedd y cyngerdd mae Owen Cob (y trefnydd) yn fy nghyflwyno i Chastity ac o fewn eliadau rydym yn trefnu ‘roadtrip’ archaeolegol o Ynys Mon i Chastity ar ddiwedd ei thaith o amgylch Prydain. Rwyf yn gaddo mynd a hi i weld y meini cerfiedig rhyfeddol hynny ym Marclodiad y Gawres.



Nos Iau mae Pwyll ap Sion (a Wyn Thomas Prifysgol Bangor) yn lansio’r gyfrol.  Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyfrol swmpus holl bwysig. Cymwynas a’r Gendl rwyf yn galw cyfrolau fel hyn. Hanfodol – dyma’r gair yma eto. Dyma lawlyfr gyda gwybodaeth am bob artist, grŵp, cerddor, cyfansoddwr o Gymro.

Chwerthais yn uchel wrth darllen Pennod M. O dan Mwyn dyma “Yn gerddor a gitarydd bas gyda’r grwp pync roc Anhrefn”. Dyna chi, fe gâf farw yn hapus nawr – mae Pwyll ap Sion wedi fy nisgrifio fel ‘cerddor’. Lansiwyd y gyfrol ym Mhrifysgol Bangor Nos Iau dwetha. Heb os roedd trefniannau lleisiol Côr Seiriol yn fendigedig gyda ‘F’ fawr, Rhyfeddol a hudolus – mewn cytgord wrth reswm ond gyda chymaint o harmoniau nes fod rhywun yn boddi mewn ysblander lleisiol.

Uchafbwynt y noson i mi oedd Osian Candelas yn cerdded i’r llwyfan yn ei jaced jeans. Y cyntaf ‘scruffy’ ar y lwyfan a da o beth oedd hynny. Angen chwistrelliad o rock’n roll ar y ‘teips’ clasurol meddyliais wrth wenu. Dwy gân berfformiodd Osian –‘Anifail’ a ‘Lwytha’r Gwn’. A hynny yn hollol hollol acwstig – dim meicroffon ar gyfer y lle. Dim band chwaith – dim bas, dryms nac ail gitar. Profodd Osian yn ei ffordd dawel ddi-ymhongar mai ‘cân dda ydi cân dda’.



Nos Wener rwyf yn ôl yng nghwmni Owen Cob gan fod ei driawd Cajun ‘Pon Bro’ yn perfformio yn Nhŷ Glyndŵr, yng Ngweriniaeth Cofiland. Pon Bro oedd un o uchafbwyntiau llwyfan Pen Bar Lag yng ngŵyl The Good Life Experience eleni, Cerys Matthews wedi gwirioni hefo nhw. Dyma grwp sydd yn rhoi gwen ar wyneb rhywun. Yn swnio fel y ‘deal go iawn’ – amhosib peidio eu mwynhau. Sypreis mawr oedd cael gwahoddiad i ymuno gyda nhw ar y ddwy gân olaf – a dyma brofiad newydd i mi. Chwaraeais y ‘washboard’ gyda llwy de. Braint ac anrhydedd.

Sut mae curo hyn medda chi? Nid hawdd yn sicr, ond ar y nos Sadwrn roedd fy hen ffrind a chyfaill ers dyddiau’r grwp The Rich Kids, Glen Matlock yn canu yn y Clwb Peldroed ym Mhorthmadog. Rwan dwi’n dweud Glen o’r Rich Kids – un o fy hoff grwpiau erioed a grwp cefais y pleser o reoli a threfnu cyngerddau iddynt am dair mlynedd rhwng 2007 a 2010.

Glen wrthgwrs oedd basydd gwreidiol y Sex Pistols ac ar nos Sadwrn roedd Clwb Peldreod Port dan ei sang ac yn nofio mewn mor o grysau-T ‘Never Mind The Bollocks’. A hynny gan ‘ffans’ o bob oed. Rhyfeddol gweld pobl mor ifanc a 10 oed yn y gynulleidfa – yn cael dod i weld un o’r Pistols hefo ‘Dad a Mam’. Blydi brilliant – maddeuwch am y rhegi – ond mi oedd o!

Cefais ‘selfies’ ac ysgwyd llaw hefo cymaint o bobl yno – nid jest yn ffans o Glen, ond hefyd rhai oedd yn morio canu ‘Rhedeg i Paris’ – fel dywedodd Joe Stummer – “heb gynulleidfa does ganddom ni ddim byd”. Does dim teimlad gwell yn y byd na chlywed gan bobl sydd yn dweud bod nhw yn mwynhau y sioe radio ar nosweithiau Llun – neu wedi mwynhau ‘Paris’ fel cân. Job done.

Gyda llaw mae gan Glen record newydd allan – ‘Good To Go’. Casgliad o ganeuon rock’n roll, rockabilly, blues – petae Elvis angen ‘comeback’ record yn 2018 hon fydda’r record iddo fo.

DJ Lewgi

Arwr y noson oedd Lewgi Lewis o Port. Y trefnydd. Does ond parch gennyf i rhai fel Lewgi ac Owen Cob – yn mentro i drefnu, yn rhedeg y risg o golli pres. Wyddo’chi be – dros y pedair noson yma roedd gogledd Cymru fwy hip na Paris, Efrog Newydd, Llundain a Chaerdydd.