Saturday 17 December 2011

Dyddiadur Cloddio (Cyhoeddwyd yr erthygl wedi ei olygu yn Barn Rhifyn 585 Hydref 2011)

Fel hogyn un ar bymtheg oed y dechreuais gloddio am y tro cyntaf, a hynny ar safle Mwnt a Beili  Normaniadd ‘Hen Domen’ ar gyrion Trefaldwyn dan ofal Philip Barker awdur y llyfr “The Techniques of Archaeologiacal Ecxavation” (1977). Haf poeth 1978, y pridd yn ofnadwy o sych a llychlyd a Barker yn ein hyfforddi sut i ddefnyddio trywel i dynu un haenen o bridd ar y tro oddi ar wyneb y safle cloddio archaeolegol, sut i gadw’r safle yn daclus a hynny heb ddefnydd o frwsh hel llwch (sydd yn tueddu  i drochi’r pridd a chuddio’r dystiolaeth).
                Heddiw pan soniaf i mi gychwyn fy ngyrfa archaeolegol dan ofal Barker mae cloddwyr eraill yn cydnabod Barker fel arbenigwr o fri yn ei faes, dwi hefyd yn cydnabod pam mor ffodus y bu’m  yn y dyddiau cynnar hynny i gael hyfforddiant mor dda yn y technegau cloddio.
                Y bwriad ar gyfer y tymor cloddio 2011 oedd treulio cymaint o amser ac y byddai gwaith yn ei ganiatau yn cloddio. Y dyddiau yma mae’r rhan fwyaf sy’n cloddio yn wirfoddolwyr, yr arian yn amlach na pheidio yn dod gan CADW a wedyn un neu ddau o archaeolegwyr proffesiynol yn goruwchwylio’r gwaith. Dwi ddigon hapus hefo hynny, cyn belled a fod digon o waith arall i dalu’r biliau a dyna fu’r patrwm dros Haf 2011, treulio rhyw ddiwrnodd neu ddau bob wythnos yn cloddio ar dyddiau arall yn gwneud “gwaith go iawn” oedd yn talu.

Llanfairpwll Chwefror 2011.
Mae’r tynmor yn dechrau ychyding ynghynt na’r disgwyl gan fod George Smith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (GAT) wedi sicrhau arian gan CADW i gael cipolwg ar safle lloc lled hirsgwar ger y Fenai yn agos i Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll. Yn wir bob bore wrth groesi’r fynwent i’r cae rydym yn cerdded heibio carreg fedd Syr John Morris Jones.

                Criw bach ohonnom sydd yma, ‘Beaver’ o Lanfairfechan a Jeff Marples o Sir Fon y selogion, y ddau ym mynd gyda GAT  ar bob safle lle bydd galw am wirfoddolwyr, bron y gellid eu galw yn wirfoddolwyr llawn amser gan fod y ddau wedi ymddeol, ond fel archaeolegwyr profiadol does fawr all eu curo. Felly hefyd gyda Smith, heb ei ail fel archaeolegwr, un o’r cloddwyr mwyaf profiadol yn y wlad, a braf cael gweithio gyda e a gweld safon ei waith.
Er i ni ddod o hyd i gynllun y lloc, y ffos a’r fynedfa yn ddigon hawdd, prin iwan yw’r gwrthrychau yma yn Llanfairpwll gan fod y cyfnod yma o’r Oes Haearn yn un lle nad oedd defnydd o lestri pridd yng Ngogledd Cymru.
Bryn y Bedd, Dolwyddelan Mai 2011.
Tynnwr coes o fri yw W.T (Bill) Jones arweinydd Cymdeithas Hanes Dolwyddelan a’r dyn sydd yn gyfrifol am y gwaith cloddio ers naw mlynedd bellach ym Mhenamnen ar safle hen gartref Maredudd ap Ieuan. Oes mae yna hwyl yma, rhaid gwylio pob amser rhag y tynu coes a rhaid bod yn barod i chwerthin achos mae Bill siwr Dduw o’ch dal allan cyn diwedd diwrnod o waith.
                Ar safle Bryn y Bedd rydym yn cloddio i ddod o hyd i olion yr Eglwys wreiddiol yn Nolwyddelan, cyn i Maredudd adeiladu’r Eglwys bresennol yn niwedd y Bymthegfed ganrif yn y pentref. Er gwaethaf arolwg geo-ffisegol does dim olion o gwbl yma, dim seiliau adeilad a dim llechi na cherig man fel fydda rhywun yn ei ddisgwyl petae adeilad wedi ei ddymchwel yn fwriadol.  Cwestwin amlwg felly os yw’r cloddio yn y rhan anghywir o’r cae – ond oleiaf rydym yn gwybod hynny nawr.

Penamnen, Dolwyddelan, Gorffennaf 2011
Stori wahanol iawn yw hi yng Nghwm Penamnen ar safle hen gartref Maredudd ap Ieuan gan fod yma adeiladwaith o garreg a hefyd tystiolaeth hanesyddol yn disgrifio’r safle. Rydym yn gwybod pry’n yw ty  Maredydd a hyd yn oed wedi dadarchuddio  llechi llawr ei fuarth tu cefn i’w dy.
                Criw bach sydd yn cloddio yma hefyd, Mary gwraig Bill ac Avis un o’r criw Cymdeithas Hanes yma bob dydd, ac eraill yn dod fel mae prysurdeb bywyd ymddeoledig yn ei ganiatau. Awyrgylch braf ac hamddenol sydd yma ond fod y pridd yn wlyb iawn a gormod o lawer o hen bryfid bychain sy’n brathu ond fel “iawndal” am hyn  mae’r pridd gwlyb yn sicrhau fod yna ddigonedd o wrthrychau wedi goroesi felly mae hyd yn oed lledr o gyfnod Maredudd wedi goroesi.
                Trafodaeth ddiddorol iawn yn y cwt amser cinio oedd pwrpas yr addurn lliw aur, er rhyw gyfuniad o gopr neu efydd oedd o go iawn, a esbonwyd yn ddiweddarach i fod yn offer dal goriadau ar wisg merch, yr hyn a elwir yn “chateaulin” o bosib ?


Pentrwyn, Pen y Gogarth Mehefin 2011
                Unwaith eto gwaith cloddio dan ofal George Smith (GAT) a chriw bach iawn o wirfoddolwyr, Beaver a Jeff yno fel arfer, a’r tro yma Dave Chapman o gwmni Ancient Arts, a oedd yn gyfrifol am ddarganfod y ddwy safle hynod yma. Lloches o dan y graig yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig (Oes Cerrig Ganol) yn uchel i fyny oedd y cyntaf a wedyn safle gweithio copr o’r Oes Efydd yn agos iawn i’r ffordd o amgylch y Gogarth oedd yr ail. Y ddwy safle dan fygythiad o erydu neu o gael eu dinistrio yn anfwriadol gan ddringwyr felly roedd angen cloddio i weld beth yn union oedd yma a wedyn ceisio sicrhau fod y safleoedd yn cael eu rhestru fel henebion gan CADW.

Yn sicr mae Chapman yn un o’r bobl hynny hefo gweledigaeth ynglyn a pherthnasedd arcahaeoleg i’r gymuned a phleser o’r mwyaf oedd cael treulio deuddydd gyda e yn archwylio’r samplau pridd am olion o weithio copr. Yn wir bu i ni ddod ar draws olion haearn yn y gwaddod a oedd yn rhan o’r ol-gynnyrch o weithio copr. Dyma dystiolaeth cynnar iawn o weithio copr yng Nghymru os nad y cynhara hyd yma !
Meillionydd Gorffennaf 2011.
Anodd curo safle Meillionydd ar ochr Mynydd Rhiw ger Aberdaron o ran ei olygfeydd dros Mynydd Anelog a chipolwg o Enlli. Myfyrwyr o Brifysgolion Bangor, Caerdydd a Vienna oedd yn cloddio yma dan ofan Dr Kate Waddington a’r Athro Raimund Karl o Brifysgol Bangor. Cefais wahoddiad ganddynt i dywys disgyblion ysgolion lleol o amgylch y safle. Roedd angen rhywun a siaradai Gymraeg ac oedd yn adnabod yr ardal, roeddwn wrth fy modd,a disgyblion Ysgolion Llidiardau a Crud y Werin yn awchu am gael eu dwylo yn y pridd, braf gweld y fath frwdfrydedd ymhlith ieuenctyd Pen Llyn.
Cynnig arall yn ystod gwaith cloddio Meillionydd i’r Brifysgol oedd cyflwyno darlith i’r gymuned lleol, a fod angen i hynny fod yn y Gymraeg neu yn sicr yn ddwy ieithog dan orchymyn teulu fferm Meillionydd, perchnogion y tir, felly dyma’r alwad yn dod gan Kate, “a fyddwn yn cyd-gyflwyno’r ddarlith gyda hi ?”
Hyd y gwyddwn i, dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, a phriodol fod hyn wedi digwydd yng Nghanolfan Bryncroes, canolfan a hanes wrthgwrs, ac un o’r llefydd yna yng nghesail Mynydd Rhiw, Pen Llyn lle mae’r Gymraeg yn fyw a mor naturiol o fewn y gymuned.  Felly yng Nghanolfan Bryncroes cyflwynwyd y ddarlith Archaeolegol Ddwy-Ieithog cyntaf erioed gyda dau gyflwynydd yn rhoi yr un ddarlith am yn ail yn y Gymraeg a’r Saesneg fesul llun ar y taflunydd.
Un o nifer o’r llociau cylchfyr dwbl sydd mor nodweddiadol o Ben Llyn sydd yma ym Meillionydd ac yn dilyn gwaith cloddio gan Leslie Alckock ar Gastell Odo yn ol yn y 60au pwrpas y cloddio yw ceisio gweld pa debygrwydd sydd yma ym Meillionydd ac os oes olion yn mynd yn ol i’r Oes Efydd hwyr fel yng  Nghastell Odo (Mynydd Ystum).

Tai Cochion, Brynsiencyn.
Heb os gwaith mawr yr Haf oedd yr ail dymor o gloddio ar safle Rhufeinig Tai Cochion ger Brynsiencyn. Yr hyn sy’n hynod yma yw fod yma safle Rhufeinig yn dyddio’n gynnar  o’r ail Ganrif a honno yn safle heb ei hamddiffyn. Y ddamcaniaeth yw fod yma safle masnachu rhwng y Rhufeiniaid a’r trigolion lleol – sef y Celtiaid wrthgwrs, a hynny mwy neu lai gyferbyn a’r Gaer Rhufeinig dros y Fenai yn Segontiwm, Caernarfon.
                Prin hanner can mlynedd yn gynharach roedd Suetonius Paulinus wedi ymosod ar gadarnle’r Derwyddon yma ar Fon, ac efallai wir i hynny ddigwydd yn agos iawn i’r man croesi diweddarach yma. Dyma dystiolaeth felly fod y Celtiaid a’r Rhufeiniaid yn cyd-fyw, sef cyfnod o sefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd; mae’r rhyfela drosodd ! Yn aml byddaf yn son mewn gwirionedd mae ffolineb fyddai hero’r Fyddin a’r Drefn Rhufeinig a mae’n debyg fod y llwythi Celtaidd lleol wedi dallt hi yn o fuan ar ol i Agricola sefydlu’r Gaer yn Segontiwm yn 78 O. C.
                Dyma  gyfarfod a Beaver a Jeff eto, ond y tro yma mae dros ddwsin o wirfoddolwyr yn cloddio yma pob dydd. Mae hwn yn dim mawr, ond eto ar ol ychydig ddyddiau mae pawb yn ymwybodol iawn eu bod yn rhan o’r tim ac yn cyfeillio yn hawdd. Gan fod hon yn safle mor fawr mae George Smith a Dave Hopewell  o GAT yn cyfarwyddo’r gwaith. Fel yr arfer mae  mwy o olion yn dod i’r olwg ar yr wythnos olaf o gloddio felly does dim modd cwblhau’r cloddio yn llwyr a does dim sicrwydd bydd modd dychwelyd yma i Dai Cochion ym 2012.
                Yr hyn sydd yn amlwg o dai Cochion yw fod rhaid i ni ail feddwl, ac ail sgwennu’r hanes am y berthynas rhwng y Rhufeiniaid a’r trigolion Celtaidd lleol, y ffermwyr lleol os mynnwch achos yn sicr amaethyddiaeth  fyddai wedi cynnal yr economi bryd hynny.


                Nid gor-ddweud yw fod cael cloddio ar y safleoedd yma yn fraint, mae hynny yn sicr, gan fod rhywun yn cael cyfle i ail gysylltu a’r hen bobl, yn yr union llefydd lle roedd yr hen bobl yn byw ac yn gweithio. Fe soniodd Kate Waddington hefo mi ar ol i mi gael gweithio ar Ben y Gogarth y byddai pobl wedi bod yn fodlon talu i gael y cyfle cloddio  ar y fath safle.
                Pleser arall wrthgwrs yw’r brawdgarwch ymhlith y cloddwyr, pawb yn hapus ar eu penygliniau gyda eu trywel. Y cwestiwn bob amser i mi yw’r darlun ehangach, beth mae hyn yn ei olygu o ran ein dealltwriaeth o hanes Cymru, a weithiau ar ol y tymor cloddio rydym yn agosach at gyfrannu i’r drafodaeth honno.
Uchafbwynt yr Haf heb os oedd wynebu neuadd orlawn yn nghanolfan Bryncroes i gyflwyno’r ddarlith gyda Kate, hyn yn dystiolaeth o faint oddiddordeb sydd ganddym fel Cymry yn ein hanes a’n archaeoleg !

No comments:

Post a Comment