Wednesday 25 March 2020

Gwrandewch Ar Hyn! Pwysigrwydd Diwylliant, Herald Gymraeg 25 Mawrth 2020





Mae hi bron yn amhosib gwybod beth i’w sgwennu yr wythnos hon. Rydym yn wynebu cyfnod o ansicrwydd tu hwnt i unrhyw brofiad yn ein bywydau. Gan fod y sefyllfa a’r amgylchiadau gyda’r feirws Corona yn newid o ddydd i ddydd a finnau yn sgwennu dros y Sul a’r golofn yn cael ei chyhoeddi ar ddydd Mercher, anodd gwybod faint fydd wedi newid yn y cyfamser. Yr unig beth sicr yw’r ansicrwydd.

Rhywbeth weddol amlwg yw fod cymaint ohonnom yng Nghymru yn gweithio yn llawrydd, yn fusnesau bychain ac yn hunan-gyflogedig. A nifer fawr ohonnom wedyn o fewn y sectorau creadigol a diwylliannol. Mi fydd pethau yn galed. Rhan helaeth o fy ngwaith a chyflog i yw darlithio, teithiau tywys a’r gwaith cysylltiedig yn y maes archaeoleg. Hyd yma mae popeth yn ystod Ebrill a Mai wedi ei ohurio. Efallai bydd modd ail-drefnu ambell beth ond bydd llawer o’r gwaith wedi ei golli.

Tydi rhywun ddim yn rhaglweld bydd pethau unrhyw well yn ystod Mehefin. Sylwaf fod rhai yn ail-drefnu digwyddiadau erbyn yr Hydref. Mawr obeithiaf fod eu optimistiaeth yn cael ei wireddu. Rhaid cyfaddef rwyf yn bryderus iawn o wneud gormod o gynlluniau ar hyn o bryd – efallai fod rhaid aros a gweld, ac os bydd modd ail-afael mewn gweithgareddau ddiwedd yr Haf neu yn yr Hydref fod modd trefnu yn sydun.

Dwi’n berson trefnus, sydd wedi hen arfer trefnu pethau yn sydun. Yn hynny o beth dwi ddim yn or-bryderus, ond mae fy ngreddf yn dweud aros a gweld sut mae pethau yn datblygu dros yr wythnosau nesa cyn rhuthro i ail-drefnu rhy fuan a wedyn gorfod gohurio eto am yr eildro. Pwy a wyr? Dwi ddim am gynnig unrhywbeth yma – jest gweld sut bydd pethau yn digwydd.

Ar adegau fel hyn mae’n hollol amlwg fod y flaenoriaeth ar iechyd, teulu, cymdeithas – bydd angen edrych ar ôl ein gilydd ar sawl lefel a mae cyflogau pobl yn amlwg yn rhan o hyn. Hyd yma aneglur ac ansicr yw’r cyfarwyddiadau gan y Llywodraeth o ran yr hunan-gyflogedig. Am y tro rhaid aros a gweld, ond bydd miloedd ohonnom yn colli cyflog dros y misoedd nesa.

Yn y cyfamser mae rhywun yn cadw pellter cymdeithasol, bron a bod yn hunnan ynysu cymaint a phosib hyd yn oedd os ddim yn dangos symptomau amlwg o’r feirws. Da ni’n trio bod mor gall a phosib. Wrth sgwennu’r golofn rwyf yn ymwbodol iawn fod angen amser i ni addasu ar gyfer hyn ôll. Yn ara deg mae’n debyg bydd rhywun yn addasu ei ffordd o fyw ac yn dechrau dygymod a ffyrdd newydd. Rydym mewn cyfnod o sioc a chyfnod pryderus.

Wrth weld y gwaith tywys yn cael ei ohurio, fy ymateb cyntaf oedd y byddwn yn gallu defnyddio’r amser i ddechrau sgwennu’r cyfrol Archaeoleg nesa ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch. Bydd y llyfr yma yn edrych ar olion archaeolegol yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yma ychydig iawn dwi di gallu sgwennu. Trechir fy nghreadigwrydd a’r ‘awen’ gan gyfnodau o or-bryder. Ddigon rhesymol efallai? Dwi heb gyrraedd y pwynt o allu rheoli hyn eto.

Dwi di llwyddo i sgwennu ychydig ar gyfer y llyfr. Ar hyn o bryd rwyf yn gwenud gwaith ymchwil ar siambr gladdu Neolithig o’r enw Pen y Wyrlod ger Llanigon, Gelligandryll. Siambr yn perthyn i’r grwp Cotswold-Hafren. Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am y safle yw mai yma cafwyd hyd i un o offerynnau cerdd cynhara Cymru – sef chwiban o asgwrn dafad. Parhau mae’r drafodaeth o fewn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru os yw’r gwrthrych yma yn offeryn cerdd go iawn neu darn o asgwrn hefo olion danedd anifael arno yn hytrach na thyllau pib.

Darllen yw’r peth arall gall rhywun wneud hefo’r amser sbar. Eto mae’n bosib gwneud hyn ond mae angen cadw draw o’r newyddion a Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol neu mae rhywun yn llithro’n ôl i boeni, gor-feddwl a gor-ddadansoddi. Dealladwy mae’n debyg yn y cyfnod cychwynnol yma.

Y llyfr rwyf yn ddarllen ydi ‘Sit Down! Listen To This’. Hanes Roger Eagle ar ffurf cyfraniadau llafar gan y rhai oedd yn ei adnobod. By Roger Eagle yn ffigwr amlwg fel DJ yn y Twisted Wheel ar ddecharu pethau fel Northern Soul. Bu Eagle hefyd yn trefnu gigs gyda artistiaid Blues fel John Lee Hooker, Muddy Waters a Screaming Jay Hawkins ym Manceinion.

Yn ddiweddarach bu Eagle yn rhedeg clwb ‘Erics’ yn Matthew Street, Lerpwl. Bydd fy nghenhedlaeth i yn cofio Erics fel y clwb Punk yn Lerpwl lle roddwyd llwyfan cynnar i bands fel y Sex Pistols a’r Clash yn hwyr yn 1976 ac yn fuan yn 1977. Erics roddodd lwyfan wedyn i’r bandiau amlwg o Lerpwl fel Teardrop Explodes, Mighty Wah! ac Echo and the Bunnymen. Erics a Roger Eagle hefyd roddodd lwyfan cynnar a hwb i yrfaeodd pobl fel Jayne Casey, Bill Drummond (KLF) a Holly Johnson (Frankie Goes to Hollywood).

Brwdfrydedd ac angerdd Roger tuag at gerddoriaeth a diwylliant yw’r peth amlwg mae rhywun yn glywed amdano wrth ddarllen. Disgrifir Eagle fel ‘addysgwr cerddorol’. Ei ‘beth o’, oedd cenhadu dros gerddoriaeth a grwpiau newydd. Soniodd Jayne Casey yn y llyfr fod Eagle wedi dweud wrthi fod diwylliant mor bwysig a bywyd ei hyn. Diwylliant yw bywyd.

Gallaf ddeall hynny yn iawn. Ar ôl y feirws yma fynd heibio bydd gwaith mawr i’w wneud i adfer elfennau o’r diwylliant Pop Cymraeg fu mor bwysig i bobl fel fi yn tyfu fyny a dros y blynyddoedd wedyn.

Tuesday 17 March 2020

Effaith Brexit ar Dreftadaeth Cymru, Llafar Gwlad 147




Rwyf yn sgwennu’r golofn hon ychydig ddyddiau ar ôl Etholiad Cyffredinol 2019. Er nad oes modd rhagweld y dyfodol, mae buddugoliaeth Boris Johnson yn debygol o arwain at wireddu Brexit. Y cwestiwn mawr mae’n debyg yw sut fath o Brexit fydd Johnson yn sicrhau? Ymbellhau yn sylweddol o’r UE neu cadw’n weddol agos? Un peth weddol amlwg dros y blynyddoedd dwetha wrth i’r drafodaeth am Brexit fynd yn fwy-fwy eithafol ac adain dde, does fawr o drafodaeth wedi bod ar effaith hyn ar dreftadaeth.

Mae fy marn wedi bod yn ddigon cyhoeddus ers y dechrau. Does dim da all ddod o Brexit, fedra’i ddim enwi un mantais. Cenedlaetholdeb Seisnig / Lloegr a’r gwrthwynebiad tuag at mewnfudo, ffantasi o ail greu’r Ymerodraeth Brydeinig – popeth sydd yn groes i genedlaetholdeb radical Gymreig. Er fy mod yn ystyried fy hyn yn fwy o anarchydd na chenedlaetholwr rwyf yn derbyn fod yr hyn sydd yn cael ei alw yn ‘genedlaetholdeb Gymreig’ ar y cyfan yn un agored, sydd yn edrych allan i’r Byd yn hytrach nac am i mewn. Yn hyn o beth rydym yn rhannu’r un math o genedlaetholdeb a’r Alban.

Er wedi dweud hyn, mae gennyf amheuon mawr am y syniad Yes Cymru a phawb dan un faner. Does dim modd cerdded o dan yr un faner a’r adain dde a ffasgwyr – Cymry neu ddim. Rhaid i genedlaetholwyr Cymreig drafod hyn neu bydd ‘Annibyniaeth’ fel ‘Brexit’ yn troi mewn i slogan heb ei ddiffinio. Nid wedyn mae cael y sgwrs!

Wrth grwydro hyd a lled Cymru yn sgwennu cyfrolau archaeoleg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch byddaf yn aml yn sylwi ar fyrddau gwybodaeth wrth gyrraedd safleoedd hanesyddol a henebion – weithiau ar ochr adeilad, weithiau ger y safle neu’r maes parcio. Sylwais yn aml ar arwydd ERDF (European Regional Development Fund) a baner yr UE. Heb orfod meddwl rhy galed, dyma sydd ger y maes parcio i siambr gladdu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn a dyma sydd ar wal y caffi yng Nghastell Henllys ger Trefdraeth, Sir Benfro.

Bryn Celli Ddu yw un o’r siambrau claddu Neolithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Siambr gladdu cyntedd sydd yma yn y traddodiad Gwyddelig. Siambrau Dyffryn Boyne fel Knowth, Dowth a Newgrange yw’r engreifftiau amlycaf o’r siambr cyntedd (passage grave). Yr hyn syn hynod am gyntedd Bryn Celli Ddu yw ei fod yn wynebu’r dwyrain a wedi ei osod ar linell codiad yr haul ar hirddydd haf. Roedd hyn yn fwriadol gan yr amethwyr cynnar a adeiladodd y siambr oddeutu 3100 cyn Crist.

Byddaf yn dychweld yn aml at ddyfyniad Dr Eurwyn William yn Discovered in Time, Treasures From Early Wales (Amgueddfa Genedlaethol Cymru 20011). Dyma’r dyfyniad: “… in Wales there are no ‘natives’; we are all incomers, and it is only the degree that differs”.
Yr hyn sydd gan Eurwyn mewn golwg yw fod pawb wedi mudo yma i Ynysoedd Prydain rhywbryd ar ôl Oes Yr Ia, wrth i’r ia doddi a chaniatau i bobl ail sefydlu yma – hyn tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. O Ewrop ddaeth bawb felly. O Ewrop ddaeth amaethyddiaeth tua 4000 cyn Crist. O Ewrop ddaeth technoleg metal tua 2000 cyn Crist. Felly i bob pwrpas rhaid ni ddiolch i Ewrop a’r Cyfandir am mwy neu lai bob datblygiad pwysig yn y cyfnod cyn-hanesyddol – yn sicr amaethyddiaeth a defnyddio metal.

O safbwynt siambrau claddu cyntedd Ynys Môn mae Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres yn perthyn i’r traddodoiad Gwyddelig. Does ond rhaid cymharu cerfiadau Newgrange a Barclodiad a byddai plentyn pedair oed yn gweld y cysylltiad. Yr un yw’r traddodiad. Ymhell cyn gychod o harbwr Caergybi roedd y Gwyddelod yn croesi’r dŵr ac ym ymgartrefu ar yr ynys. Dyma lle mae dyfyniad Eurwyn Williams mor berthnasol.



Yn y cyfnod ôl-Rufeinig a’r Canol Oesoedd Cynnar roedd mudo o’r Iwerddon i ardal Sir Benfro a’r hen Sir Aberteifi yn ymddangos yn rhywbeth gymharol gyffredin. Er nad oedd ffasiwn beth a Sir Benfro na Ceredigion, roedd yr aradl de-orllewinol yma o Gymru yn amlwg yn denu mewnfydwyr o’r Iwerddon a gellir gweld y dystiolaeth o hyn yn yr holl gerriig bedd Ogam sydd i’w canfod yno.

Ogam yw’r wyddor gynnar Wyddelig, ffurf Ganol Oesol Gynnar o’r Wyddeleg a mae’r ffaith fod cymaint o gerrig dwy-ieithog (Lladin ac Ogam) yn y de-orllewin yn awgrymu fod nifer wedi mudo i’r ardal yma yn y cyfnod oddeutu’r 5ed / 6ed ganrif ôl Crist. Rwyf wediu sgwennu am hyn yn helaeth yn y gyfrol Cam i’r Deheubarth, Safleoedd Archaeolegol yn ne-orllewin Cymru, (2017, Gwasg Carreg Gwalch).



Bryngaer Oes Haearn ger Trefdraeth yw Castell Henllys sydd bellach dan ofal Parc Cenedlaethol Arfodir Sir Benfro. Cloddiwyd y safle yn archaeolegol a wedyn fe ail-greuwyd rhai o’r cytiau crynion lle byddai’r trigolion wedi byw. Dyma chi brofiad gwych os am ymweld a’r safle gan fod rhywun yn gallu gweld sut fydda bywyd mewn bryngaer fel hyn dros 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Brodorion Celtaidd fyddai wedi adeiladu’r gaer a byw yno. Does dim awgrym o fudo yn gysylltiedig a Chastell Henllys. Ond ar gyfer yr erthygl yma rwyf yn cyfeirio at y ffaith fod arian Ewropeaidd wedi cyfrannu at y cyfleusterau a’r ganolfan ymwelwyr.  Chlywais i ddim gair am dreftadaeth yn ystod y drafodaeth Brexit. Mae ymweld a Chastell Henllys yn amlygu hyn. Mi fydd Cymru ar ei cholled mewn sawl ffordd.

Rwyf yn anghytuno yn chwyrn a’r penderfyniad a rhaid cyfaddef nad wyf o’r farn fod angen ‘parchu’r penderfyniad’ fel atgoffir rhywun yn ddyddiol gan y Brexiters. Dyma ffolineb o’r radd flaenaf a fel Cymro cydwybodol a fel archaeolegydd o Gymro, mae brwydr fawr o’n blaenau nawr i adfer synnwyr cyffredin yn ogystal ac i warchod treftadaeth Cymreig.



Wednesday 11 March 2020

Cofio Mick-e Punk (RIP) Herald Gymraeg 11 Mawrth 2020





Yn aml iawn mae cerddoriaeth neu gig / cyngerdd byw yn mynd a rhywun yn ôl i amser penodol, digwyddiad o bwys efallai, cyfnod tyngedfennol neu trawsffurfiol mewn bywyd neu ar ei orau yr eiliad na’th rhywun syrthio mewn cariad. 1984 oedd y flwyddyn i mi, pan syrthiais mewn cariad hefo’r ferch oedd, o’r eiliad cyntaf, yn mynd i fod yn ‘soulmate’ weddill oes. Felly mae’r cyfnod cychwynnol yna o ‘ganlyn’ yn un o nifer o atgofion cerddorol melys.

Yn gynnar iawn yn y cyfnod ‘canlyn’ fe a’th Nêst a finnau draw i gig drwy’r dydd o flaen Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Un o Lanrwst oedd Nêst a finnau pryd hynny yn dal yn Llanfair Caereinion, felly roedd ‘road trip’ heibio Blaenau yn gwneud synnwyr. Roedd llwyfan ar gyfer y bandiau ar faes parcio Ysgol y Moelwyn. Y math o lwyfan a sgaffoldau fydda byth yn cael caniatad gan swyddog iechyd a diogelwch heddiw dybiaf i.

Dwi’m yn siwr (ddim yn cofio) beth oedd yr achlysur ond mae rhywbeth yng nghefn fy meddwl yn dweud mai gig neu gŵyl ‘Heddwch / gwrth-niwclear’ oedd o. Dwi yn cofio fod Chwarter i Un (12:45) yn chwarae a hefyd y band Offspring o Fethesda. Dau fand ddigon da i ni wneud y road trip heb os. Wrth i ni gyrraedd Blaenau (yn gynnar) doedd neb ar y llwyfan ac wrth i ni gyrraedd giatiau’r ysgol roedd hogia 12:45 ar eu ffordd am y dafarn. Dyma ddweud ‘Helo!’ a gaddo ymuno a nhw mewn ychydig funudau.

Siwr fod ni isho cael ‘reccie’ o’r llwyfan a chael gweld pwy arall oedd o gwmpas. Pryd hynny roedd Blaenau yn rhywle doedd rhywun ddim mor gyfarwydd a fo. Tref dosbarth gweithiol ol-ddiwydiannol, Cymraeg. Gwahanol iawn i bentrefi gwledig Maldwyn. Gwahanol i hen dref farchnad Llanrwst. Y math o le, lle bydda ambell un oleiaf yn dilyn cerddoriaeth Punk ac ambell un arall yn dilyn cerddoriaeth yn y Gymraeg. Roeddwn hyd yn oed yn disgwyl gweld ambell skinhead Cymraeg (o bosib).



Mor gynnar a 1984 roeddwn yn ymwybodol o Offspring drwy fy nghyfeillgarwch hefo hogia Mafia Mr Huws o Fethesda. Yn wir roedd Sion a Hefin Maffia yn perfformio hefo Offspring ar y pnawn yma. Yr un gang cerddorol mewn ffordd. Ond yr hyn oedd yn od iawn i Nêst a finnau y diwrnod hynny oedd clywed Hefin yn canu yn Saesneg. Dyma gyfnod Adfer, 

cylchgrawn Sgrech a myfyrwyr Adferaidd JMJ. Roedd canu yn Saesneg yn ‘tabŵ’ go iawn.
Felly oedd hi. Roedd yr Adferwyr yn gallu bod yn beryg. Roedd stiwdants yn gul. Doedd Punk Rock ddim wirioneddol wedi gwreiddio yn iawn yn y Byd Cymraeg er fod Llygod Ffyrnig a Trwynau Coch wedi gosod y sylfeini. Rhyw flwyddyn neu ddwy wedyn oddeutu 1985 / 1986 bu chwyldro diwylliannol gyda grwpiau fel y Cyrff a Datblygu yn newid pethau unwaith ac am byth. Ond yn 1984 roedd i dal yn oes y ‘Denasoriaid Denim’ (fel soniodd Gruff Rhys am y cyfnod).



Dwy sengl ryddhawyd gan Offspring, ‘One More Night’ a ‘Doctors and Nurses’, wedi eu cyfansoddi gan Les Morrison, cerddor a chynhyrchydd o Fethesda. Mentraf awgyrmu eu bod yn glasuron o punk-pop New Wave gyda’r gitars yn janglo a Hefin Huws yn tarro’r nodau ar y llais. Gwnaeth Les enw iddo ei hyn yn ddiweddarch drwy sefydlu Stwidio Les a recordio nifer o grwpiau ifanc Cymraeg. Gadawodd Les yr hen fyd yma yn 2011 ar ôl treulio ei flynyddoedd olaf yn gweithio fel gitar tec i gerddorion fel Gruff Rhys pan ar daith.

Un arall o aelodau Offspring oedd Mick-e ‘Punk’ Fearon. ‘Mick-e Punk’ oedd pawb yn ei alw o. Gitarydd gyda wyneb bythgofiadwy, chydig bach o James Dean a chydig bach o Paul Simenon. Cheekbones. Un doniol oedd Mick-e – aelod o gang Bethesda ond yn amlwg wedi ‘darganfod’ punk tra roedd y gweddill dal braidd am eu denims. Yn rhyfedd iawn dwi di bod yn sgwennu amdano a’r sîn gerddorol ym Metrhesda yn ddiweddar ar gyfer cyfrol ‘Real Gwynedd’.

Fe adwodd Michael Fearon yr hen fyd yma ym mis Chwefror yn 58oed. Ru’n oed a finnau. Yn bell rhy fuan yn amlwg. Bu Mick-e yn byw yn Newcastle am gyfnod yn ystod yr 1980au hwyr ac wrth i’r Anhrefn wneud gigs yn y Broken Doll neu’r Riverside yn y dref honno, gyda Mick-e fydda ni yn aros dros nos bob tro yn ei fflat bach a chlyd.


Un o fy atgofion am Mick-e oedd ei fod byth a beunydd yn darganfod band neu grwp newydd ac wrth genhadu yn fyrlymys am ei ddarganfyddiad diweddaraf bydda yn edrych i fyw fy llygaid gan ddweud “they are the future of Rock’n Roll …….”. Yr un dywediad oedd ganddo gyda bob grwp newydd. Bron fy mod yn cyd-adrodd erbyn y diwedd.

Y tro dwetha i mi ei weld, oedd yn ei stiwdio fechan yn Llanllyfni. Roedd fy mrawd (Sion Sebon) a finnau wedi galw draw gyda’r bwriad o ddefnyddio’r stiwdio i recordio demos o ambell gân newydd. Cafwyd hwyl hefo Mick-e, sawl panad, ond ‘mwydro’ na’th pawb go iawn a dim gwaith a fe anghofwyd am y syniad o recordio demos hefo Mick-e druan.

Roedd hynny tua 5 mlynedd yn ôl. Felly sioc o fath oedd galwad gan Sion Maffia yn dweud ei fod wedi ein gadael a fi fel pawb arall heb ei weld ers rai blynyddoedd. Trist.