Sunday 4 December 2011

Llygod Ffyrnig "Coal Mines as a backdrop......."

Dwi di bod yn meddwl ers amser fod Hanes Pop Cymraeg yn bwnc sydd yn haeddu cael ei ddysgu mewn ysgolion a cholegau, mae'n siwr ei fod o mewn rhai llefydd ond dwi ddim yn cael yr argraff fod pobl wirioneddol wedi sylweddoli pwysigrwydd yr SRG dros y blynyddoedd. Wedyn wrthgwrs mae agweddau penodol o Ganu Pop Cymraeg, fel Punk Rock neu y Frwydr Iaith ayyb, yn galluogi rhywun i gymeryd golwg manylach ar yr SRG  o ran cyd-destyn cymdeithasol a gwelidyddol y peth.
Mae Hanes Canu Pop Cymraeg hefyd yn rhywbeth gall hyd yn oed fod yn sgwrs i gymdeithasau fel Merched y Wawr - dwi di bod yn tynnu coes hefo rhai yn ddiweddar y dyliwn ofyn am wahoddiad swyddogol i ddweud hanes yr Anhrefn yn teithio Ewrop neu sut bu i ni ddechrau yn yr SRG yn Sir Drefaldwyn 1979. Digonedd o stwff. Digon o hwyl. Digon o storiau.
Yn y cyfamser dyma ysgol yn cysylltu ar ran disgybl sy'n gwneud treuthawd am ddylanwad Pync Efrog Newydd a'r y sin Pync yn Lloegr / Cymru. I raddau helaeth beth ddigwyddodd yn Lloegr yn 1976-77 sydd wedi dylanwadu fwyaf ar Pync Cymraeg - sef Llygod Ffyrnig a Trwynau Coch ar ddiwedd y 70au. Ond dyna braf oedd cael siarad hefo, a rhoi disgybl ysgol ar ben ffordd !!!

Fel rhan o hyn dyma fynd ati i sganio cloriau y sengl 7" N.C.B. Dyma gefn clawr NCB a rhyddhawyd ar label PWDWR yn ol ym 1978.



Tra roeddwn yn rhedeg Label Crai ar ran Sain yn ystod y 90au daeth cyfle i drwyddedu Sesiwn Sain Abertawe gan y Llygod Ffyrnig i label Incognito o Stuttgart yn yr Almaen (1997). Roedd Incognito wedi rhyddau nifer o albyms Anhrefn a roedd Bernd o hyd wedi dangos diddordeb yn y Llygod Ffyrnig.
Beth oedd yn braf oedd cael hyn ar feinyl 7", cael fersiynau gwahanol o NCB, Sais a Cariad y Bus Stop i'r fersiynau ar y sengl Pwdwr a hefyd cael trac ychwanegol Merched Glanllyn.

Dyma glawr Ingognito


A pleser o'r mwyaf wedyn oedd cael cyfansoddi'r nodiadau ar gyfer y clawr cefn mewn arddull Burchill / Savage / Morley / Parsons

Dyma'r label gwreiddiol ar Pwdwr - roedd dau pressing, un hefo label gwyrdd a'r llall hefo stamp inc.



1 comment:

  1. tasa nw dysgu am srg yn ysgolion fydd on neu kids gal hyd yn oed mwy o ragfarnau yn erbynh y gymraeg, os maeon y system addysg dio DDIM YN CWL. ffansins sisho

    ReplyDelete