Sunday 18 December 2011

Llythyr gan Cedwyn Aled (Y Sefydliad)



Cefais barsel drwy'r post ychydig ddyddiau yn ol, dyma un o'r hogia yn ei agor, a tu mewn roedd poster o'r grwp RICH KIDS o gylchgrawn  'Oh Boy' yn dyddio o 1978. Gyrrwr y llythyr oedd fy hen gyfaill Cedwyn Aled. Hefyd hefo'r poster roedd un o'r pethau prin iawn hynny yn yr oes ebost, electroneg, digidol yma - sef llythyr ysgrifenedig.

Ar un adeg dyma oedd y cyfrwng wrthgwrs. Ar bnawniau Sadwrn yn nechrau'r 80au byddwn yn treulio oriau yn ateb llythyron gan ffans yr Anhrefn - roedd rhywun yn gydwybodol am hyn achos roedd hyn yn rhan o gadw a meithrin ffans i bands pryd hynny. Treuliais fwy byth o oriau yn ateb cwestiynau ffansins - eto roedd ffansins yn ffordd mor effeithiol o ledaenu'r neges cyn oes y We.

Tra yn sgwennu fy hunangofiant 'Cam o'r Tywyllwch' yn ol ym 2006 fe ddarllenais gannoedd o lythyrau - i gyd wedi eu cadw mewn ffeiliau cardboard, mewn trefn - a bellach rwyf wedi trosglwyddo rhain i gyd i Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon. Petawn yn sgwennu am y cyfnod diweddar prin byddai'r llythyrau yn llenwi un ffeil cardboard - sgwn'i faint o ebyst fydd wedi eu cadw ar gyfer archifau'r dyfodol ?

Ond ar y llaw arall mae llwyth o stwff "archifol" ar y We wrthgwrs - fel y clip yma o ymddangosiad cyntaf Y Sefydliad ar y teledu - rhaglen Ser ar S4C. Yn ol ym 1982/83 roeddwn yn rhannu fflat hefo'r gitarydd Dewi Gwyn a'r basydd Robin Hughes. Roedd y fflat, 51 Heol yr Egwlys Gadeiriol, Caerdydd uwchben swyddfa'r Blaid  hefyd yn dyblu fyny fel ystafell ymarfer - rhywfath o fersiwn Cymraeg i "Rehersals Rehersals" y Clash neu Denmark Street y Pistols.

Phil Lewis yr ail gitarydd yn y Sefydliad oedd wedi cyflwyno pawb i Cedwyn Aled, roedd y ddau o ardal Abergwaun / Casblaidd yn Sir Benfro hefo acenion priodol. Roedd Cedwyn wedi gweithio ar y rheilffyrdd ac efallai wedi byw ychydig mwy na'r gweddill ohonom oedd i bob pwrpas yn fyfyrwyr ifanc yn cael rhedeg yn wyllt yn y Ddinas fawr - ac yn cael hwyl a chreu yn y broses.

Dyma gyfnod dechrau herio'r Sin Gymraeg, bu sawl "scuffle" mewn rhyw dafran yn y Ddinas - hefo Dewi Pws neu rhyw seren pop Cymraeg - go iawn doedda nhw ddim wedi gwneud dim byd o'i le ond dyma gyfnod lle roedd dylwanwad Punk Rock yn fawr - yn sicr mi roeddwn i yn grediniol mae'r ffordd ymlaen oedd dilyn mantra Malcolm McLaren a Francis Bacon - "You have to destroy in order to create". Dwi ddim yn amau fod hi'n gywir i'n disgrifio (neu rhai ohonnom yn sicr) fel gobshites bach drwg !

Da ni'n son yma am gyfnod yn Hanes Canu Pop Cymraeg cyn i ni fathu'r tern "tanddaearol" go iawn. Oedd, mi oedd y Gwyliau Tanddaearol wedi bod yn digwydd yn Llanerfyl ond  roedd angen i ddyfodiad grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu a Tynal Tywyll i'r peth ffrwydro go iawn. Beth gafwyd yn y cyfnod yma - cyn 1983 oedd twf mewn cenhedlaeth o grwpiau oedd i bob pwrpas yn ol-punk fel Y Brodyr, Sgidie Newydd a hyd yn oed yn eu ffordd eu hunnain y Treiglad Pherffaith a gyhoeddodd sengl yn anibynnol.

Ond Y Sefyliad oedd y grwp hefo'r maniffesto gorau - dwi'n gwybod achos fe fuo'n ni'n dadlau drwy'r nos am y pethau yma ym 51 Heol yr Eglwys Gadeiriol. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn aelod na'n cynrychioli'r band ond mi roedd dadla am egwyddorion a maniffesto punk yn rhywbeth roeddwn yn credu'n gryf ynddo - i'r pwynt fy mod wedi cyhuddo'r Sefydliad sawl gwaith dros y blynyddoedd o "werthu allan" neu rhyw bollocks o'r fath - dwi ddim yn credu iddynt wneud hynny o gwbl erbyn heddiw !

Dwi'n credu mae rhan o'r peth oedd cael dadlau drwy'r nos hefo Cedwyn Aled a trio hawlio perchnogaeth ar egwyddorion punk - roedd pawb yn ei ddehongli yn ei ffordd ei hyn - dyna beth oedd mor wych - a dyna efallai i mi fethu ei weld ar y pryd. Roeddwn o hyd yn symleiddio pethau i Pistols v Clash yn union fel y Beatles v Stones - wedi'r cwbl fy arwyr oedd McLaren a Jamie Reid fel rheolwyr a Morley, Parsons, Burchill a Savage fel colofnwyr .......

Beth gafwyd gan y Sefydliad oedd sleisys o pync-pop gwych yn y Gymraeg. Dwi'n cofio chware y sengl "Dawnsio Ar Ben Fy Hyn" ar raglen i C2 yn gymharol ddiweddar a synnu pam mor dda roedd y sengl yn swnio heddiw - i ddefnyddio'r disgrifiad punk cywir - digon o "bollocks".


Ond i droi yn ol at y poster Rich Kids, dyma'r grwp sefydlodd Glen Matlock ar ol iddo cael ei gicio allan o'r Pistols. Dwi di disgrifio'r grwp fel "grwp o hogia roedd hogia yn gallu eu ffansio" - roedd y Rich Kids yn ddipyn bach fwy glam na llawer o'r bands punk a'r sengl gyntaf mewn clawr coch plaen - gwych. Roedd Steve New o'r band o hyd yn un o fy arwyr fel hogyn yn y 6ed Dosbarth.

Ym 2008 cefais alwad ffon i gyfarfod New yn Llundain, roedd cansar ganddo, ac ond 3 mis i fyw. Drwy bobl roeddwn yn ei adanabod yn y diwydiant pop fe awgrymwyd y gallwn helpu New i gael trefn ar ei faterion. Bu'm yn reolwr arno a'i grwp Beastellabeast wedyn tan 2010 gan rhyddhau dwy albym ar Label Anhrefn.

Yr uchafbwynt yn un ystyr oedd rhoi y Rich Kids yn ol at eu gilydd ym mis Ionawr 2010 - dyma oedd gig olaf Steve New - ar y llwyfan hefo fo roedd Midge Ure, Glen Matlock, Rusty Egan o'r line up gwreiddiol a wedyn Mick Jones, Tony James, Viv Albertine, Gary Kemp, Ian Broudie i gyd yno yn ymuno am y gan olaf ......Fe aeth elw'r noson i gronfa i blant Steve, Frank a Diva New.

Felly fe ddaeth y postar a gwen fawr i'm gwyneb - diolch Cedwyn !

1 comment:

  1. 'Ond 'doedde nhw'n ddyddie da' ;)

    Cofio dadle 'da Ian Bone yn y fflat hefyd - tro diwetha' siaradais 'da fe wedd mewn gig yn y 90au pan wedd e'n heclo Allen Ginsberg - ond ma hwnna'n stori arall.

    Diolch am y sylwadau, Ced

    ReplyDelete