Fe sonias yn fy ngholofn ddwetha (Llafar Gwlad 133, Awst
2016) ein bod am gloddio yn Hedd yr Ynys ger Llangefni gyda Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd dros yr Haf. Soniais hefyd ein bod yn gobeithio darganfod
mynwent ganol oesol ar y safle. Does byth sicrwydd beth yn union fydd yn cael
ei ddarganfod nes ein bod yn cloddio a dros y bythefnos o gloddio bu i Jane
Kenney a minnau gadw dyddiadur o’n hynt a’n helyntion wrth gloddio.
Diwrnod
1: 30 Mehefin 2016
Er nad yw’r gwirfoddolwyr yn cyrraedd tan Ddydd Llun
mae’r gwaith wedi dechrau wrth i ni baratoi’r safle ar gyfer y gwaith cloddio.
Cafodd y cae ei droi yn y gorffennol felly does dim disgwyl i unrhyw olion
archaeolegol fod wedi goroesi yn y pridd uchaf ac o ganlyniad rydym wedi
defnyddio peiriant i symud y pridd a’r tyweirch.
Yn ystod y gwaith yma bu Cliff ‘Beaver’ Hughes a Ian
Harrison-Brown yn archwilio’r pridd gyda synhwyrydd metal a chofnodwyd yn union
lle cafwyd unrhyw wrthrych. Ymhlith y gwrthrychau roedd nifer o hoelion, llawer
o ddarnau o haearn a hefyd darnau arian Fictoraidd, un darn dime Americanaidd, pwysau plwm a
gwrthrych diddorol iawn o efydd sydd heb ei adnabod eto.
Er hyn, roedd darganfyddiadau eraill hyd yn oed fwy
diddorol. Cafwyd hyd i un darn gwael ei olwg o lestr pridd Rhufeinig a chrafwr
callestr cyn-hanesyddol sydd yn awgrymu fod gweithgaredd yma yn y cyfnodau
Rhufeinig a chyn-Hanesyddol. Mae hyn ôll yn addawol iawn.
Diwrnod
3: Gorffennaf 4dd
Dyma ddiwrnod cyntaf y cloddio gyda gwirfoddolowyr ar y
safle. Rhaid gwneud y gwaith papur gyntaf, egluro am iechyd a diogelch a
chefndir y safle cyn i’r gwirfoddolwyr ddechrau gweithio go iawn.
Roedd dipyn o waith glanhau’r safle gyda tryweli ond buan
iawn dechreuodd nodweddion ymddangos yn y pridd. Ar ôl gorffen y gwaith
glanhau, cawn olwg manylach ar rai o’r ffosydd a rhai o’r clystyrau o gerrig a
all fod o ddiddordeb.
Daethpwyd o hyd i nifer o wrthrychau o’r pridd uchaf a
chafwyd hyd iddynt drwy ddefnydd o’r synhwyrydd metal ond y gobaith nawr yw y
cawn fwy o wrthrychau wrth ddechrau cloddio’r nodweddion. Awgrymir y
gwrthrychau fod defnydd o’r safle yn y cyfnod Rhufeinig.
Diwrnod
4: Gorffennaf 5ed
Pawb yn brysur cloddio. Does neb yn gwybod beth sydd yma
eto ond mae’n edrych yn ofnadwy o ddiddorol.
Diwrnod
7: Gorffennaf 8fed
Rydym ar ddiwedd yr wythnos gyntaf a mae’r tywydd wedi
bod yn ffafriol. Doedd rhagolygon Dydd Iau ddim cyn waethed a’r disgwyl ac o
ganlyniad i’r tamprwydd mae’n haws trywelu’r pridd.
Erbyn hyn mae sawl ffos wedi ei osod ar draws gwahanol nodweddion
a bu nifer wrthi yn tynnu lluniau er mwyn cofnodi’r nodweddion.
Rydym bellach wedi darganfod ffos y lloc petryal a welir
yn yr arolwg geoffisegol. Cafwyd hyd i wrthrych o garreg gyda ochr miniog fel
pyramid yn y ffos: ond does neb yn siwr beth oedd ei bwrpas?
Cafodd pydew sylweddol a dwfn ei gloddio. Roedd y pydew
wedi llenwi a cherrig a’r ddamcaniaeth ar hyn o bryd yw mai twll postyn yw hwn
wedi llenwi a cherrig ar ôl i’r postyn gael ei symud. Os felly, fe ddylid cael
hyd i fwy o dyllau pyst er mwyn gweld cynllun adeilad. Awgrymir maint y twll
fod hwn yn perthyn i adeilad sylweddol. Mae angen mwy o waith er mwyn draganfod
tyllau pyst eraill.
Cafwyd hyd i ddarn arian Rhufeinig wedi glynu i fwd ar
waelod esgid un o’r gwirfoddolwyr a charreg a all fod yn ddarn o garreg hogi
gan ei fod yn garreg mor llyfn ger un o’r ffosydd.
Diwrnod
12: Gorffennaf 15
Dyma ddiwedd y cyfnod cloddio gyda gwirfoddolwyr. Dros y
bythefnos rydym wedi cael nifer dda o wirfoddolwyr ac yn amlwg roeddynt wedi
mwynhau y profiad. Cafwyd tywydd amrywiol gyda Dydd Iau yn ddiwrnod poeth iawn
a Dydd Gwener wedyn yn ddiwrnod gwlyb. Gan mai clai yw’r pridd naturiol yma
mae’r broses o drywelu yn anoddach wrth i’r pridd sychu a chaledu ond pan yn
wlyb mae’n mynd yn fwdlyd dros ben ac y mwd yn mynd i bobman, gan gynnwys dros
y gwirfoddolwyr. Er gwaethed y tywydd parhaodd pawb i weithio gyda gwen.
Gan fod cymaint o ffosydd a nodweddion ar y safle, nid
hawdd yw dadansoddi’r hyn rydym yn ei weld ac yn enwedig perthynas y gwahanol
nodweddion a’u gilydd. Ymdebygai’r nodweddion yng nghornel gogledd-orllewinol y
safle i olion anheddiad.
Edrychwn ymlaen at y Diwrnod Agored Ddydd Sul. Gyda 128
wedi rhoi eu henwau yn barod mae’r teithiau tywys bron wedi eu llenwi.
Diwrnod
Agored: Gorffennaf 18
Cafwyd Diwrnod Agored hynod lwyddiannus gyda dros 150 yn
ymweld a’r safle. Gyda’r tywydd yn braf roedd yr ymwelwyr wedi mwynhau a rhwng
y teithiau tywys roedd ein pabell gyda’r gwrthrychau yn orlawn.
Dros y ffordd roedd y caffi dros dro gan Julia Morgan yn
cynnig paneidiau a chacan i’r ymwelwyr. Codwyd dros £600 ar gyfer elusen
‘Digartref’, elusen sydd yn codi arian
ar gyfer y di-gartref yn lleol, drwy redeg y caffi am y prynhawn.
Argraffiadau
ar ddiwedd y cloddio
Bu 56 o wirfoddolwyr hefo ni ar wahanol gyfnodau dros y dair wythnos a
hoffai Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ddiolch o waelod calon am eu holl
ymdrechion. Cyflawnwyd gwyrthiau mewn cyfnod byr.
Mae diolch arbennig i Wyn a Julia Morgan am eu holl gymorth
ac am ganiatau i ni gloddioa r eu tir.
Felly beth gafwyd ar y safle? Mae cynllun o’r safle yn dangos nifer o
ffosydd gan gynnwys y ffos lloc hirsgwar a welwyd ar yr arolwg geoffisegol. Yn
wahanol i’r disgwyl ni chafwyd unrhyw awgrym o fynwent ar y safle, ac yn sicr
dim olion beddau.
Cafwyd un ffos sydd yn rhedeg ar linell fymryn yn
afreolaidd ar draws y safle o’r dwyrain tua’r gorllewin gyda phroffil siap
llythyren V sydd yn awgrymog o ffos amddiffynnol Oes yr Haearn. O edrych yn fwy
manwl ar yr arolwg geoffisegol gwelir fod y ffos yma yn ymuno a ffos sylweddol
tu allan i’r ardal cloddio. Gwelwn wagle yn y ffos honno gyda dau blob du ar
naill ochr, sydd yn awgrymu mynedfa drawiadol gyda thyllau pyst sylweddol. Fe
all fod y ffosydd yma yn rhan o loc yn dyddio o Oes yr Haearn a mewn defnydd yn
y cyfnod Rhufeinig, fel yr awgrymir gan y gwrthrychau rydym wedi eu darganfod
ar y safle. Mae draen gyda cerrig capan, cerrig llawr, rhigolau bach syth a
phydew yn awgrym o breswylio o fewn y lloc bosib.
Gan na chafwyd gwrthrychau y gellir eu dyddio yn y
nodweddion penodol yma wrth gloddio, anodd yw profi fod hwn yn aneddiad o’r
cyfnod Oes yr Haearn / Rhufeinig ond mae hyn yn bosibilrwydd cryf. Fe all fod
rhai o’r ffosydd ar gyfer llociau bychain neu gorlannau.
Cafwyd tri pydew o faint sylweddol yn rhan ogleddol y cloddiad.
Ymddengys fod rhain o gyfnod hwyrach na’r aneddiad bosib ond ansicr yw eu
pwrpas hyd yma. Fe all fod y pydewau yn dyddio o’r 16ed neu 17ed ganrif gan i
ddarnau o lestri pridd o’r cyfnod yna ddod i’r amlwg yn rhan uchaf y pydewau.
Mae mwy o waith i’w wneud nawr o ran astudio’r
gwrthrychau, y samplau pridd ac edrych yn fanylach ar yr holl gynlluniau o’r
safle. Siawns bydd hyn yn help i esbonio beth oedd yn digwydd yma.
Fe fydd adroddiad rhagarweiniol yn barod erbyn ddiwedd Mawrth
2017 a bydd hwn ar gael ar safle we
heneb.co.uk. Bydd adroddiad llawn yn dilyn adroddiadau am y gwrthrychau a’r
samplau.