Rwyf am aros yn y byd diwylliannol eto yr wythnos hon.
Cyfeiriais yn ddiweddar at CD’s ardderchog Bendith a Rogue Jones yn y golofn
hon a dyma un arall wedi fy nghyrraedd, yr un mor safonol, hyfryd a gwych: Interior Design gan HMS Morris.
Rydym mewn cyfnod hynod lewyrchus o ran safon
cerddoriaeth a chreadigrwydd cerddorol yng Nghymru. Dadeni arall. Am y tro
cyntaf (efallai) ers Cool Cymru ar ddiwedd y 1990au mae Cymru yn cynhyrchu
grwpiau sydd o safon rhyngwladol. Rwyf yn dweud hyn ar sail safon y cyfansoddi,
safon y cynhyrchu, natur arbrofol ac amgen y gerddoriaeth - OND yn sicr cerddoriaeth
gyda apel eang.
Mae’r apel (ehangach) yma yn mynd a ni i lefydd gwahanol
fel awgrymai’r hen hysbysebion cwrw Heineken ers llawer dydd – yn cyrraedd
mannau gwahanol. Heddiw cawn haenau gwahanol o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig
yn ei holl ogoniant – bydd ein pobl ifanc yn chael hi’n anodd amgyffred pam
roeddem yn cwyno a brwydro am ‘rhywbeth gwell’ yn ystod yr 1980au – cyn i Cool
Cymru wireddu’r chwyldro cyntaf o ail hanner y 1990au ymlaen.
Anhygoel meddwl a dweud y gwir, er yr holl greadigrwydd
dros y blynyddoedd diweddar, fod artistiaid fel Bendith, Rogue Jones a HMS
Morris yn rhyddhau CDs sydd mor bell-effeithiol a bwled arian o ran rhoi ergyd
ddiwylliannol i rhywun gan achosi i’r gwrandawydd aros yn ei unfan am eiliad a sylweddoli
beth yw gwir ystyr y gair ‘talentog’.
Anodd yw osgoi natur dwy-ieithog rhai o’r CDs . Yn
bersonol, byddwn yn dadlau fod yn biti fod cyn llied o ganeuon Cymraeg ar CDs
Rogue Jones a HMS Morris, os ond am resymau hunanol fel cyflwynydd gyda’r nos
ar BBC Radio Cymru - gallwn chwarae llawer mwy ar y caneuon Cymraeg! Ond hefyd fel gyda dwy-ieithrwydd yn
gyffredinol mae’n ymddangos mai’r grwpiau gyda’r gallu dwy-ieithog sydd yn
arloesi a rhagori ar hyn o bryd. Fedra’i ddim enwi grwp Cymreig sydd ddim a
chaneuon Cymraeg sydd yn gwneud y fath argraff?
Dwy gân Gymraeg sydd ar Interior Design ac eto mae’r
holl CD yn swnio yn Gymreig. Prin fod rhywun yn sylwi. Mae ‘Nirfana’ yn
gyfarwydd i glustiau’r Cymry hynny sydd yn gwrando ar y Cyfryngau Cymraeg. Hon
di’r gân hefo’r “Aa Www” yn rhedeg trwyddi. Cân bop berffaith afaelgar a
chrefftus. Mae’n hyfryd, hyfryd iawn.
Gallwn ddadlau fod y gân yma yn ddigon. Fel mynegodd y Situationists Internationale rydym wedi
gadael yr Ugeinfed Ganrif. Rydym yn gwybio drwy’r Unfed Ganrif ar Hugain. Mae’n
wych fod rhywbeth mor grefftus a Nirfana yn bodoli yn Gymraeg ochr yn ochr a
chaneuon artistiaid fel Gwenno ac Ani Glass – yn hip bron heb ymdrech, yn hip
heb orfod gweiddi a sgrechian.
Yr ail gân Gymraeg ar Interior
Design yw ‘Gormod o Ddyn’ eto gyda synnau ailadroddus gafaelgar drwyddi.
Dyma Massive Attack petae’r Bristoliaid wedi croesi’r Avon a wedi eu magu yng
Ngwalia fach. A dwi heb ddechrau adolygu gweddill y CD. Un gair: rhagorol.
Rhywbeth arall rwyf wedi ei fwynhau yn ddiweddar yw’r
dewis sydd ar gael ar Radio Cymru Mwy – nid ar y donfedd radio prif-ffrwd ond yn
ddigidol ar y we ac ar Sky. Gwrandewais yn ddiweddar ar awr o ddewisiadau
cerddorol Gareth (Gaz Top) Jones. Ar ddechrau’r rhaglen dyma Gareth yn cyfaddef
ei fod yn llai rhugl na rhai – ond doedd dim angen iddo – dydi’r ‘plismyn iaith’
traddodiadol ddim yn debygol o wrando ar raglenni digidol.
Chwa o awyr iach oedd cael gwrando ar Gareth yn cyflwyno.
Dyma un o’r cyflwynwyr mwyaf brwdfrydig rwyf yn ei adnabod. Bu Gaz Top yn enw
cyfarwydd ar raglenni fel ‘How 2’ ac ar raglen fore Sadwrn ‘It’s Just Not
Saturday’ hefo Danni Minogue. Unwaith eto, croeso i’r Byd Cymraeg, os nad
croeso yn nôl, fedrith Gareth ond cyfoethogi’r arlwy Cymraeg, bratiog neu ddim,
ddim bod hynny o unrhyw ots! Mae o yn gwbod i stwff yn gerddorol hefyd (ond
does dim angen dweud hynny).
Yr hyn sydd i’w gael ar Radio Cymru Mwy go iawn yw
amrywiaeth cyflwynwyr ond y ddolen gyswllt efallai yw’r ffaith fod y rhan fwyaf
yn ifanc, yn leisiau newydd ac yn sicr yn frwdfrydig dros y gerddoriaeth. Gwych
o beth yw meithrin talentau newydd fel hyn. Fel Gaz Top mae’r cyflwynwyr yn
gwybod eu stwff yn gerddorol. Dyma agosau at wneud y math o arlwy a gawn ar orsaf
fel BBC 6 Music yn bosib yn y Gymraeg – nid yr un caneuon yn amlwg ond yr un
hyder ffwrdd a hi.
O ran cyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg ac argymell y
tri chwarter miliwn arall fod yna werth yn y Gymraeg a fod hi werth yr ymdrech i
ddysgu, mae’n rhaid ail feddwl a chynnig
mwy – llawer mwy. Rhywsut rhaid darbwyllo poblogaeth llefydd fel Prestatyn fod
gwerth dysgu’r Gymraeg ac er nad Gaz Top yw’r darlledwr sydd yn mynd i achub yr
Iaith Gymraeg mi neith fymryn o les.
Mae Gareth oleiaf yn siarad yr un Iaith a phobl y gogledd
ddwyrain. Diolch i Radio Cymru Mwy mae
modd clywed y lleisiau yma. Bydd lleisiau rhai fel Gareth yn rhoi ail-berchnogaeth
i’r di-freinteiedig ieithyddol a diwylliannol yn y gogledd ddwyrain yn sicr.
Credaf fod yna Ddadeni newydd gyda artistiaid fel HMS
Morris a chredaf fod yna ddatblygiadau cyffrous fel Radio Cymru Mwy – y cam
nesa yw cael hyn i dreiddio, fel yr Heineken, ar hyd y lonydd bach cefn gwlad
led led Cymru a strydoedd trefol fel Fflint
neu Port Talbot.
No comments:
Post a Comment