Os byddwn yn gorfod rhestru fy hoff recordiau hir erioed,
mae’n debyg y byddwn yn gorfod cynnwys Never Mind The Bollocks. The Clash,
Inflammable Material, Gwesty Cymru, Crossing The Red Sea, Cut a Colossal Youth
yn y 10 Uchaf. Er dweud hyn, mae rhai o’r dewisiadau uchod yn perthyn i’w
cyfnod. Faint bynnag o effaith gafodd y Sex Pistols arnaf neu faint bynnag o
wefr oedd clywed John Peel yn chwarae albym gyntaf Stiff Little Fingers yn ei
gyfanrwydd – chydig iawn o sylw fyddaf yn roi i’r Pistols a SLF y dyddiau yma.
Ond, dydw’i rioed wedi diflasu ar albym Young Marble
Giants y band hynod hynny o Gaerdydd mwy na dwi di diflasu ar Jarman dros yr
holl flynyddoedd, rhyfedd ynde. Er mor bwysig yw’r recordiau hir uchod, mae’r
wefr o ddarganfod recordiau hir newydd yn parhau a fe ysgrifennais yn ddiweddar
am y grwp Bendith – heb os albym Bendith yw albym Cymraeg 2016.
Albym tra wahanol yw ‘The Lost Songs of St Kilda’. Dyma
chi record hir y clywais amdani ar sioe fore Sul Cerys Matthews ar BBC 6 Music
– a dyma deimlo yr un wefr a chlywed Colossal Youth am y tro cyntaf. Clywed y
gerddoriaeth fendigedig yma ar y radio a mynd ati i brynu’r record hir y
diwrnod canlynol.
Gan fod trigolion dwetha St Kilda wedi gadael yr ynys ers
1930 nid un o drigolion yr ynys sydd yn perfformio ar y CD. Dyma chi stori
wahanol iawn. Yn ôl y son fe ddysgwyd gwr o’r enw Trevor Morrison sut i
chwarae’r piano gan un o drigolion St Kilda yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ol i
Trevor gael ei yrru o Glasgow i Ynys Bute rhag y bomio tra yn hogyn ifanc
.
Wrth ei ddysgu i chwarae’r piano rhaid fod yr athro o St
Kilda wedi trosglwyddo rhai o’r hen alawon iddo a hynny er gwaetha’r ffaith nad
oedd piano ar ynys St Kilda – felly dyma’r tro cyntaf i’r alawon yma gael eu
trosglwyddo i’r piano. Caneuon llafar oedd rhain yn wreiddiol. Caneuon yn cael
eu canu gan y trigolion wrth iddynt hel wyau adar o’r clogwyni.
Bu farw Trevor yn 2012 mewn cartref hen bobl yng
Nghaeredin. Ef mae’n debyg oedd y person olaf oedd yn cofio’r alawon yma.
Diolch i’r nefoedd bu cyfaill iddo, Terry Blair, ddigon craff i berswadio Trevor
i recordio’r caneuon yma ar ei gyfrifiadur gan recordio ar y piano yn cartref
preswyl.
Mor hawdd, mor hawdd, fyddai fod y caneuon yma wedi myng
yn angof am byth. Ychwanegir at yr holl naws gerddorol gan fod y recordiad yn
syml ac yn finimol a dweud y lleiaf. Anodd curo hen biano plincdi plonc. Cawn synnau
organig minimol tebyg ar albym Bendith ac yn yr oes yma o berffiethrwydd
digidol, glan a di-enaid mae clywed synnau go iawn, amrwd a chynnes yn rhywbeth
i’w gofleidio.
Cawn ambell i drefniant cerddorfaol hefyd, un gan Francis
Macdonald (o’r Teenage Fanclub) gyda llais hyfryd Gaeleg Julie Fowlis yn ychwanegu
at y naws, ond heb os yr wyth recordiad gan Trevor Morrison ar ei biano syml
sydd yn rhagori.
Er na fuais erioed i St Kilda, mae’r gerddoriaeth hudol yn
ein hudo yno yn syth. Beth bynnag rydym yn ei ddychmygu, mae’r gerddoriaeth yn
gwneud i ni ddychmygu. Os cefais wefr a phleser o chwarae albym Bendith drosodd
a throsodd, mae hon yn albym arall fydd yn cael ei gor-chwarae yn Mwyn HQ. Braf
cael darganfod rhywbeth hen/newydd/newydd/hen. Heb os mae cerddoriaeth fel hyn
yn rhoi pleser a gwen, yn gwneud dirwnod yn well diwrnod.
Mewn ffordd rhyfedd mae rhywun hefyd yn dychmygu Ynys
Enlli. Dyma chi le arall, arall-fydol. Sgwn’i fu yna erioed alawon gwerin a
oedd yn perthyn i Enlli? Cwestiwn. Does gennyf ddim ateb, ond byddai mor braf
darganfod fod yn Enlliwyr wedi cyfansoddi caneuon Enlliaidd unigryw.
Cyfeirio at y creigiau, y darnau anferth o graig, yr
ynysforoedd, yr archipelago yn gorwedd yng nghanol y mor tua 64 kilomedr i’r gorllewin
o weddill Ynysoedd Heledd (Hebrides Allanol) mae’r teitlau fel Stac Lee, Boreray, Stac an
Armin. Cawn ein hudo gan y teitlau cyn cychwyn gwrando ar y gerddoriaeth, onid
yw Boreray yn creu darlun ac yn ysgogi’r dychymyg o’i ddarllen yn unig?
Rydym yn pontio rhwng y gwerin a’r clasurol yma (fe
wnaeth Bendith yr un peth) a does dim o’i le a hynny. Cyfeirio at ddefaid Neolithig
ac Oes Efydd mae Soay a Boreray a mae gwrthrychau Neolithig wedi eu darganfod
ar yr ynysforroedd yma.
Cawn hefyd stordai o garreg sydd yn unigryw i’r ynysoedd
ar St Kilda o’r enw cleitean neu bothy.
Mae dros fil ohonynt ar ynys Hirta ac ar Boreray cawn y Cleitean
MacPhàidein sef y ‘pentref’ o dri
cleit hefo’u gilydd. Stordai fyddai rhain ar gyfer tatws, wyau, pysgod, cig,
adar y mor wedi eu halenu yn ogystal ac offer pysgota. Fe all rhywun eu cymharu
i’r cwt tatws neu’r ‘cladd’ Cymreig fel sydd i’w gweld yn Nhudweiliog (yn y Cwt
Tatws) neu fel yr un sydd wedi ei adfer ar Stad Egryn yn Ardudwy.
Anodd
ddyddio’r cleitiau gan fod defnydd dros gyfnod hir iawn o amser o’r math yma o
stordai. Byddai taith i weld yr archaeoleg yn St Kilda yn gwneud y tro yn sicr.
Yn y cyfamser rhaid bodloni hefo’r gerddoriaeth hyfryd iawn ar y CD ‘The Lost
Songs of St Kilda’ a diolch byth fod Trevor Morrison wedi llwydo i’w recordio
ar gof a chadw.
No comments:
Post a Comment