Ychydig yn ôl cefais gyfle i gyfweld a Dr Sarah Hill o Brifysgol Caerdydd ar fy sioe Nos Lun ar BBC Radio Cymru a fe gyfeiriodd Sarah at gerddoriaeth ‘ganol y ffordd’ Cymraeg fel y ‘prif-ffrwd’. Dyna chi ddisgrifiad da. Doeddwn ddim wedi dod ar draws y disgrifiad yma o’r blaen er yn amlwg rwyf yn gyfarwydd iawn a’r gerddoriaeth (a wedi ceisio ei osgoi ers fy nyddiau ysgol).
Dros y blynyddoedd mae diwylliant Cymraeg ac yn sicr y
Byd Pop Cymraeg wedi cael ei dagu a’i rwystro rhag datblygu a gwireddeu ei wir
botensial oherwydd yr obsesiwn yma hefo’r ‘prif-ffrwd’ - hynny yw canol y
ffordd. Dydi’r prif-ffrwd ddim hyd yn oed yn gorfod bod yn dda - dim ond ‘poblogaidd’
hefo’r gynulleidfa ‘draddodiadol’.
Efallai mai un o’r engreifftiau gorau o hyn yw beth
ddigwyddodd yn ystod Cool Cymru ar ddiwedd y 1990au. Dyma grwpiau amgen (rhai gwych
gyda llaw) Cymraeg fel Ffa Coffi Pawb, U Thant, Crumblowers a’r Cyrff yn
trawsnewid i fod yn grwpiau prif-ffrwd (er dal yn fymryn amgen) fel Super Furry
Animals a Catatonia, yn canu yn Saesneg, ac yn gwerthu mwy o recordiau na’r
prif-ffrwd Cymraeg hefo’u gilydd erioed.
Yn ddiweddar bu cyfres wych ar S4C o’r enw Cool Cymru
wedi ei gyfarwyddo gan Alun Horan (Tinopolis) yn olrhain y stori yma. Gan fod
Alun rhy ifanc i fod yn rhan o’r peth cafwyd ffilm wrthrychol heb unrhyw agenda
cudd – a dyna chwa o awyr iach. Wedi ei ffilmio yn gyffrous, yn symud yn gyflym
a wedi ei oleuo yn dda – dyma ffilm lwyddodd i bonito yn hawdd rhwng y Cymry
Cymraeg a’r di-Gymraeg gan osod Kevin Allen (Twin Town) a Richard Parfitt (60
Ft Dolls) ochr yn ochr a siaradwyr Cymraeg fel Owen Powell (Catatonia) a Dafydd Ieuan (Super
Furry Animals). Felly mae hi yn y Byd go iawn. Felly ddylia hi fod. Un Cymru.
Doedd neb yn datgan y peth go iawn, ond erbyn 1993/94
doedd dim dewis gan y cerddorion Cymraeg amgen ond canu yn Saesneg achos roedd
y Byd Cymraeg wedi cefnu arnynt mewn gwirionedd, yn sicr yn fasnachol. Beth
oedd y pwynt ffurfio band newydd er mwyn bod yn brif grwp yn yr Eisteddfod unwaith
eto? (a dal yn gorfod cadw’r ‘day-job’)
Fe barhahodd y brif-ffrwd Cymraeg yn ei flaen fel arfer,
fel petae Cool Cymru erioed wedi digwydd. Ddysgodd neb wers o’r peth. Heddiw
mae’r amgen yn ‘chydig fwy gweledol ond yr un mor dlawd. Dwy-ieithrwydd yw’r
norn newydd.
Roedd ffilm Alun Horan mor dda a dyma edrych ymlaen at wylio S4C yn
wythnosol ond dwi ddim wedi clywed fawr o ymateb na chanmoliaeth i’r gyfers.
Dydi’r gynulleidfa draddodiadol ddim i weld unrhyw falchach o hyn heddiw mwy
nac yr oeddynt yn 1997. Y prif-ffrwd ar S4C yw Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.
A weithiau mae’r ser pop yn troi yn ôl at y Gymraeg a
rydym yn hynod ddiolchgar ond mae bywyd yn haws iddynt ganu yn unrhywle ond
Cymru. Caf fy atgoffa o ‘Gân yr Ysgol’ gan Dafydd Iwan. Byddwn ddiolchgar.
Nid byddinoedd Che na’r Sandanistas oedd Cool Cymru ond
cerddorion yn gobeithio am fywoliaeth. Nid chwyldro oedd Cool Cymru ond sel
bendith dros dro gan Gyfryngau Llundain.
A beth am ein cysyniad o gyrraedd y miliwn o siaradwyr
Cymraeg - mae’n rhaid i ni ail-feddwl pethau. Rhaid meithrin prif-ffrwd ddiwylliannol
newydd achos dydi’r hen brif-ffrwd erioed wedi gallu symud tu hwnt i’w ffiniau
presennol. Yn rhyfedd iawn roedd y gystadleuaeth Euros 2016, llwyddiant
peldroed Cymru a chaneuon fel ‘Bing Bong’ yn cynnig llygedyn o obaith a wedyn
cafwyd Brexit. Un cam ymlaen a cham anferth yn ôl.
No comments:
Post a Comment