Beth bynnag rwyf wedi ei ddweud a wedi ei ysgrifennu am y
Byd Pop Cymraeg dros y blynyddoedd, faint bynnag rwyf wedi ddamcaniaethu a
beirniadu, mae un peth cyson yn hyn oll. Mae gweithio yn y maes pop dros y
blynyddoedd wedi dod a fi i gysylltiad a chymeriadau hynod iawn. Yn wir, byddwn
yn dweud fy mod wedi mod yn freintiedig iawn, a lwcus iawn mewn ffordd, i gael ’nabod
rhai ohonnynt.
Erbyn heddiw, yn 2016, a hynny 37 mlynedd ers i mi
ddcehrau teithio ar y llwybr pop, dydi pob un o fy nghyfoedion ddim wedi
cyrraedd y pwynt yma, mae gormod ohonynt wedi ein gadael a llynedd fe ddechreuais feddwl fod angen
gwneud rhywneth i gofio amdanynt. Rhywbeth i gydnabod yr ymroddiad llwyr a roddwyd
i greu cerddoriaeth (ac ambell i chwyldro) yn yr Iaith Gymraeg.
Peth od iawn ydi’r Byd Cymraeg ’ma, heb son am y Byd Pop
Cymraeg (sydd o safbwynt masnach yn llai byth). Fydda na ru’n cerddor Cymraeg
yn filiwnydd, a dwi ddim yn credu i unrhyw gerdddor Cymraeg ddisgwyl hynny. Ar
y gorau ella byddai cerddor Cymraeg yn crafu byw, onibai eu bod yn un o’r chydig
iawn iawn o gerddorion sydd am ba bynnag reswm yn cael eu derbyn gan y ‘brif-ffrwd’
ond hyd yn oed wedyn, byr oes yw’r yrfa fel arfer.
Yn y Byd Cymraeg, yr unig ffordd o wneud bywoliaeth fel
cerddor Cymraeg yw cael swydd arall hefo’r Cyfryngau neu canu yn Saesneg. Da
neu ddrwg, dyna’r ffaith plaen amdani. Mae’r rhan fwyaf ohonnom ar yr un gwch –
yn gwneud sawl peth er mwyn talu’r biliau. Dydi’r gerddoriaeth ddim yn ddigon. Does
yna ddim dewis.
Dechreuodd pawb gyfansoddi a pherfformio am y rhesymau
iawn – sef fod awydd yna i ddweud rhywbeth, i rannu cerddoriaeth boed hynny ar
record neu ar lwyfan. Dwi rioed di clywed neb yn dweud eu bod wedi dechrau band
er mwyn gwneud pres. Creadigrwydd a chelfyddyd oedd yn eu gyrru.
Fel casglwr recordiau rwyf wrth fy modd hefo’r recordiau
bach feinyl du 7” hynny rwyf yn eu galw yn ‘brin’. Meddyliaf yn syth am y
record ‘N.C.B’ gan y Llygod Ffyrnig neu ‘Maes B’ gan y Blew. ‘Casgliadwy’ medda
ni am rhain, ond gofynnwch i’r casglwr, neu unrhywun arall enwi aelodau’r band
a mi fydd na chwys go arw ar y talcen.
Hawdd iawn yw rhestru aelodau’r Stones, neu’r Stranglers
hyd yn oed, ond yn y Gymraeg does na fawr o wasg gerddorol, dim hanner digon o
drafod a dadansoddi ac o ganlyniad prin iawn yw gwybodaeth pobl am yr unigolion
sydd yn ffurfio grwpiau Cymraeg. Diolch byth am raglenni nos Radio Cymru ( a
dwi’n dweud hyn gan ddatgan diddordeb amlwg) ond mae Lisa Gwilym, Georgia Ruth
a Huw Stephens yn rhoi ‘parch’ i artistiaid.
Yn achlysurol cawn raglenni o safon uchel ar S4C. Rwyf yn
meddwl am y gyfres gyfredol ‘Cwl Cymru’ gan Alun Horan (Tinopolis) a rhaglen
ddogfen ragorol Gareth Potter ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ lle cawn
werthfawrogiad o wahanol gyfnodau yn hanes cerddoriaeth pop Cymraeg. Ond hyd yn
oed wedyn, triwch chi enwi holl aelodau’r Cyrff, neu’r Fflaps, neu Maffia Mr
Huws, neu Elfyn Presli?
Mae’r pedwar grwp yna wedi colli aelod gwreiddiol o’r
band, Barry, Johnny, Al a Bern a mae llawer llawer mwy wedi ein gadael fel Lwi
o’r Rocyrs, Huw Brodyr. Pippa Gwefrau neu Rheinallt H Rowlands. Mae angen
gwneud mwy, i gofio, i ddathlu ac i ddiolch iddynt.
Bydd cyngerdd yn Neuadd Ogwen, Bethesda Nos Sadwrn 12
Tachwedd i ddathlu cyfraniad rhai o’r cerddorion uchod. Elw at elusen
Cerddoriaeth Mewn Ysbytai drwy ddymuniad y teuluoedd.
http://neuaddogwen.com/events/fay-ray-rabo-de-toro-welsh-rebel-outpost-burnham-burnham-white-ether/
No comments:
Post a Comment