Dwi ddim yn amau fod magwraeth mewn cartref lle roedd
copi o record hir The Incomparable Voice
of Paul Robeson wedi cyfrannu yn sylweddol at fy niddordeb eang mewn cerddoriaeth
erbyn heddiw. Gallwn ddadlau mai ferswin Robeson o ‘Ol Man River’ yw fy hoff gân erioed. Mae ambell ‘hoff gân erioed’
gennyf, fel pawb arall ma’n siwr, ac ar rhai dyddiau mae ‘Tracks of My Tears’ Smokey Robinson yn rhoi cystadleuaeth go dda i Robeson.
Ar ddiwrnod arall ‘I wish I knew how it
would feel to be free’ gan Nina Simone sydd yn cipio’r dlws.
Ychydig yn ôl dangoswyd y ffilm ‘Proud Valley’ ar y sgrin
fawr yn Pontio, Bangor a dyma fynychu fel teulu – yr hogia hefo ni, y ddau wedi
eu trwytho yn hanes Robeson yn cael ei rwystro rhag teithio dramor yng nghyfnod
McCarthy. Heb os, un o’r digwyddiadau pwysicaf o ran hanes diwylliant yng Nghymru
yw Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl, 1957, pryd cannodd Robeson dros y ffôn o
Efrog Newydd i’r gynulleidfa o dros 5000 ym Mhafiliwn Porthcawl.
Cefais gyfle i sefyll ar yr union lwyfan lle bu Cor
Meibion Treorci yn cyd-ganu a Robeson yn weddol ddiweddar a dyna’r peth cyntaf
ddywedodd pawb wrth droedio’r llwyfan. Doedd syndod fy mod yng nghwmni y canwyr
protest Billy Bragg, Martyn Joseph a’r bardd Patrick Jones ar y diwrnod penodol
hwnnw. (Noson i gofio Streic y Glowyr oedd honno).
Mae recordiad yn bodoli o’r cyngerdd hanesyddol hwnnw yn 1957
a mae modd cael gafael ar y CD drwy gwmni Sain. Daw dagrau i’m llygaid bob tro
wrth wrando ar anerchiad Wil Paynter, llywydd y glowyr, wrth iddo groesawu Robeson (dros y ffôn) i’r
Eisteddfod. Edrych braidd yn wirion felly oedd gwaharddiad Adran y Wladwriaeth
wrth i Robeson gael croeso i Gymru, pasport neu ddim!
Fe sgwennodd Paynter at Robeson wedi’r cyngerdd gan ei
sicrhau am “the feeling that exists in
Wales for you and your release from the bondage now forced upon you”. Dyma wers hanes bwysig i rheini beleidleisiodd
dros Brexit yng Nghymoedd y De yn ddiweddar. Mewn Undeb mae Nerth. Mae ymwybyddiaeth
o’n hanes mor bwysig.
Cyn dangos y ffilm yn Pontio cafwyd cyflwyniad uniaith
Gymraeg gan Dafydd Iwan gyda chyfieithu ar y pryd ar gyfer y di-Gymraeg. Rwyf
wedi hen arfer gwneud cyflwyniadau dwyieithog pan fyddaf yn trafod archaeoleg a
byddaf yn dadlau yn aml fod dwyieithrwydd (naturiol) fel hyn yn ffordd reit dda
o bonito ac o gyflwyno’r Gymraeg i bobl.Ond ar y noson hon roedd unieithrywdd
Dafydd yn cryfhau’r ymdeimlad o gefnogaeth radicalaidd i unigolyn fel Robeson.
Ar noson fel hon, doedd neb yn mynd i gwyno am y ffaith
fod Dafydd wedi siarad yn uniaith Gymraeg. Teimlais fod hyn yn gwneud lles
iddynt. Dysgwch Gymraeg!! Doedd dim anhawster dilyn gyda’r cyfieithu ar y pryd
a mewn ffordd roedd Dafydd yn gwneud y pwynt, pam fod rhaid cyfaddawdu o hyd ac
o hyd. Byddai Robeson wedi gwenu meddyliais.
Gyda llaw roedd gwylio’r ffilm ar y sgrin fawr yn brofiad
bendigedig. Ffilm du a gwyn (1940) o stiwdios Ealing (ond nid comedi).
Sicrhaodd presenoldeb Robeson a drama a hiwmor y ffilm fod yr hogia (12 ac 13
oed) wedi eu cyfareddu. Sylwer ar balchder y tad yma. Yn ddiweddarach bu i mab
Robeson, Paul Robeson Jr, wneud sylw fod y dyn du yn marw ar ddiwedd y ffilm
ond I mi dewder Robeson oedd yn cael ei gyfleu yma yn hytrach na’r dyn du yn
cael y diweddglo drwg.
Mae yna linell yn y ffilm lle mae arweinydd y côr yn
siarsio rhywun a farnodd liw croen Robeson, “ein bod oll yn ddu dan ddaear”.
Rhagorol. Diolch Pontio. Diolch Dafydd Iwan.
No comments:
Post a Comment