Wednesday 2 September 2015

Lucy Worsley a Roy Strong, Herald Gymraeg 2 Medi 2015



Dwn’im faint ohonnoch lwyddod i weld y rhaglen gyda Lucy Worsley yn holi Roy Strong ar BBC 4 yn ddiweddar ond dyma raglen a ysbrydolodd. Roy Strong wrthgwrs oedd yn gyfrifol am ddeffro’r Oriel Portreadau Genedlaethol a’r Victoria & Albert allan o’u trwmgwsg a’u llusgo i fwrlwm creadigol, ffasiwn a gwleidyddiaeth ail hanner yr Ugeinfed ganrif. Ef, fwy na neb, wnaeth yr ‘amgueddfa’ a’r ‘oriel gelf’ yn rhywbeth perthnasol os nad hanfodol – a mawr ddiolch iddo am hynny.

Er, wrth gydnabod hyn, ac yn ddigon naturiol i nifer ohonnom fel Cymry Cymraeg, mae cefnogaeth Strong i’r Teulu Brenhinol (a’r cysyniad) yn gallu bod braidd yn groes i’r graen, ond yn ystod y cyfweliad o awr fe siaradodd fwy o synnwyr na wnaeth o rwdlan.

Lambastiodd y BBC (Prydeinig) am ostwng safonau ac am gefnu ar ddiwylliant. Chwerthais wrth feddwl sut fydda Strong yn ymateb felly i ‘Taro Tarw Tomo’ ? Weithiau mae’n beth da nad yw pawb yn siarad Cymraeg. Er popeth ddywedodd Benjamin Zephania ar faes y Steddfod am ddysgu Cymraeg yn ysgolion Lloegr – mae angen rhoi trefn ar ddiwylliant Cymraeg cyn agor y drysau yn rhy agored. Oleiaf mae BBC 4 yno i Lucy gyfweld a Strong.

‘Lliwgar’ yw un ansoddair ar gyfer Strong, (gwisg yn ogystal a’i farn) eto diolch byth fod cymeriadau fel hyn yn bodoli, yn herio, yn gofyn cwestinau, yn gwrthod cyd-ymffurfio ac yn ein gorfodi i feddwl a ffurfio barn yn ddiwylliannol. Does neb tebyg i Roi Strong yn y ‘Byd Cymraeg’ ond yn ei lyfr ‘Is-Deitlau yn Unig’, mae Emyr Glyn Williams yn cyffwrdd ar rhywbeth tebyg am ddiffygion creadigol y Cyfryngau wrth drafod S4C.

Rwan ta, beth bynnag mae rhywun yn feddwl o ddisgrifiad Emyr o S4C, mae wir angen y drafodaeth arnom (yn rhywle, siawns?) Dyma ddywedodd Emyr: “Does dim angen mynydd rhew i suddo S4C – mae difaterwch a diffyg asgwrn-cefn y capteiniaid a’r criw ….. a dyheuadau’r gynulleidfa dros y degawdau wedi bod yn ddigon i’w suddo hi”. Rhaid chi ddarllen ‘Is-Deitlau yn Unig’ er mwyn cael y cyd-destyn llawn.

Ond yr hyn sydd yn ddiddorol am beth ddywedodd Emyr, (a mae o yn son yn bennaf am y diffyg traddodiad sinematig yn y Gymraeg) i mi, yw’r ffaith iddo awgrymu fod yna ddifyg dyhead gan y gynulleidfa Gymraeg. A yw hyn yn awgrymu rhywsut ein bod wedi prynu tocyn ar fwrdd y llong heb fawr o ystyriaeth am lle roedd y llong yn hwylio iddi? Tra fod Emyr yn son am ffilmiau yn yr iaith Gymraeg, byddwn yn arall eirio ei ddadl a gweiddi’r gair ‘Archaeoleg’ !

Awgrymai Emyr fod ein hobsesiwn gyda llenyddiaeth, barddoniaeth a hanes ac yn y blaen wedi bod ar draul datblygu elfennau eraill o’r diwylliant Cymraeg. Cytuno i raddau, pwynt oedd yn sicr yn gwneud mi feddwl (a gwenu) ac eto, o fy mhrofiad personnnol i o’r Byd Cymraeg, yr unig ffordd mae pethau yn digwydd yw drwy fynd ati i greu ar liwt eich hyn.

Ar y cyfan does yna fawr o ddeheuad allan yna, dim ond rhyw dderbyn pethau. Efallai i David R Edwards grisialu’r peth (yn ddiwylliannol) wrth iddo ganu ‘Mae byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu’. Ond y pwynt hefo rhai fel Roy Stong yw, oleiaf fod y dewis ganddynt yn Saesneg, mae BBC6Music yn bodoli ar gyfer cerddoriaeth amgen, mae BBC 4 yn bodoli ar gyfer y celfyddydau a diwylliant ehangach.

Yn y Gymraeg dydi’r dewis DDIM yna, a dyna pam efallai fod rhywun wedyn yn digaloni cymaint gyda “Taro Tarw Tomo”. Petae gwell amrywiaeth byddai’n haws anwybyddu’r pethau gwael. Dwi wrthi yn pregowtha y math yma o neges ers 1977, efallai’r cwestiwn sylfaenol yw beth yn union yw dyheuadau’r gynulleidfa Gymraeg?


http://rhysmwyn.blogspot.co.uk/2015/08/lucy-worsley-roy-stong-some-cultural.html
 


No comments:

Post a Comment