O ran darlithio mae hi wedi bod yn bythefnos brysur os nad
hynod ddiddorol. Cefais wahoddiad i roi sgwrs yng ngwasanaeth ‘Mawl Medi’ yng
Nghadeirlan Bangor a chytunais yn fras i son am hanes y gadeirlan a’r
cysylltiad gyda Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd (y ddau wedi eu claddu yno
yn rhywle).
Yn agosach at y noson, dyma ddeall mai’r prif atyniad ar y
noson fyddai Cor Glanaethwy a dyma sylweddoli ella bydd na ddipyn go lew yn
mynychu felly. Ar y noson ei hyn, roedd y gadeirlan yn orlawn, rhai cannoedd yn
mynychu, a’r her i mi oedd trio eu “cyrraedd”. Dwi ’di hen arfer rhoi sgyrsiau
mewn festri capel a neuadd bentref o flaen rhyw 30 aelod o Ferched y Wawr ond
roedd trio dal sylw’r cannoedd yn y gadeirlan yn stori wahanol iawn.
‘Sgwrsio’ hefo pobl dwi yn ei wneud go iawn, nid darlithio.
Does na ddim sgript na threfn bendant i bethau gennyf – dwi jest yn agor fy
ngheg a gweld lle mae’r sgwrs yn mynd. Gyda agosatrywdd mae rhywun yn gweld
ymateb pobl, yn gwybod os ydynt hefo fi neu ddim ac yn gweld faint o chwerthin
sydd yna i fy ‘jokes’ gwael. Rwyf yn
ddiolchgar iawn i griw y gadeirlan am y gwahoddiad ac yn weddol ffyddiog i mi
gyflwyno ddipyn o hanes tywysogion Gwynedd i’r dorf (yn lle’r bregeth arferol).
Os oedd y gwahoddiad i roi sgwrs yng Nghadeirlan Bangor yn
un ‘anarferol’, roedd y lleoliad nesa yn fwy ‘diddorol’ byth. Y tro yma
gwahoddiad gan Cerys Matthews (ie y gantores / gyflwynwraig yn yr het wen) a
gefais i roi sgwrs yn yr wyl ‘Good Life Experience’ mae hi’n guradu gyda
Charlie, Caroline a Tara Gladstone (o dras Ewart wrthgwrs) ar Stad Fferm
Penarlag. Eto archaeoleg oedd dan sylw.
Fy llwyfan y tro yma oedd y llwyfan ‘Cooks & Books’ ac eto dyma her arall. O fy mlaen cafwyd
arddangosfa goginio gan enwogion fel Valentine Warner a Thomasina Miers. Wedyn
y fi yn trafod ‘Archaeoleg Gogledd Cymru’.
Does ru’n diwrnod ru’n fath – mae hynny yn sicr. Eto, dwi’n credu i mi
lwyddo i roi rhyw fath o gyflwyniad o dirwedd archaeolegol gogledd Cymru i’r
gynulleidfa dybiaf oedd yn bennaf o Lundain neu yn sicr o ffwrdd.
Gofynwyd sawl cwestiwn ar y diwedd, sydd o hyd yn fesur da
os oedd y sgwrs yn cydio, a cherddodd neb allan o’r babell. Eto rwyf yn hynod
ddiolchgar i Cerys a’r Gladstones am y gwahoddiad. Cefais fy nghyflwyno i’r llwyfan gan Cerys ei hyn a fe
ddywedodd bethau caredig tu hwnt amdanaf. Ella mae’r peth gorau ddywedodd Cerys
am ein cyfnod yn cyd-weithio yn ystod dyddiau cynnar Catatonia yw fy mod wedi
eu hargymell i ‘redeg’ oedd yn ffordd dda iawn o arall-eirio ‘mynd amdani’.
Roedd y rhaglen wedi fy rhestru fel ‘cerddor a bardd’ a
chafwyd hwyl wrth esbonio i’r dorf, fy mod yn ‘gerddor punk’ ella wir, ond yn
sicr nid yn fardd – ac yn sicr nid yn ‘gerddor go iawn’. Duw a wyr beth oedda
nhw yn ei ddisgwyl ond fe aeth lluniau o sgerbydau cyfnod Llychlynaidd yn
Llanbedrgoch i lawr yn ffafriol iawn yn y Babell Fwyd !!
Ar ol gorffen ‘sgwrsio’ dyma gyfle i fwynhau ychydig ar yr
Wyl ei hyn. Y noson flaenorol roeddwn wedi cael cyfle i weld perfformiad gan
Wilko Johnson, cyn aelod o Dr Feelgood a cherddor / canwr yn y dull ‘Blues’ / R&B’. Gyda Norman Watt-Roy
(o’r Blockheads) ar y bas, dyma un o’r perfformiadau mwyaf egniol dwi wedi weld
ers blynyddoedd. Triawd oedd y grwp ond roedd Wilko Johnson mor agos at
berffeithrwydd a sydd yn bosib, roedd popeth yn ei le a phopeth i bwrpas o ran
y gerddoriaeth.
Cefais gyfle i wrando ar fy hen gyfaill o Missouri, Jeb Loy
Nichols yn siarad, DJ’io ac yn canu ym mhabell ‘ Caught by the River’, pabell wedi ei threfnu gan Jeff Barrett, y
gwr sydd newydd arwyddo’r gantores Gwenno i’w label ‘Heavenly’. Dyma’r tro cyntaf
i mi gyfarfod Jeff, ond roedd yn gyfarwydd a’r Anhrefn, felly digon hawdd cychwyn
a chynnal sgwrs a dyma drafod sut fod llwyddiant Gwenno yn ddiweddar wedi newid
y naritif o ran cerddoriaeth Cymraeg – fel dywedais wrth Barrett ‘normal not
novelty”.
Atgoffwyd mi o gyfnod hapus iawn yn gweithio fel rheolwr
gyda Jeb rhwng 2007 – 2010 yn teithio
America ac yn rhydhau recordiau ac heb os dyma wr diddorol, deallus, doniol –
athrylith. Yn anffodus doedd dim ‘cyflog’ wrth weithio gyda artistiaid fel Jeb,
fell roedd angen troi yn ol at yr archaeoleg, ond braf oedd mwynhau ei gwmni yn
yr haul poeth ym Mhenarlag.
Methais a chael cyfle i wrando ar y nofwraig awyr-agored,
Vivienne Rickman-Poole, gwraig hynod ddiddorol sydd ar hyn o bryd yn nofio ym
mhob llyn yn Eryri fel ‘prosiect’ – dros 150 ohonnynt. Y rheswm am fethu ei
gweld oedd fod y babell yn orlawn a ddim posib cael mynediad. Bu Vivienne yn
sgwrsio yn yr Wyl llynedd ac yn amlwg mae ei hanturiaethau yn rhai hynod
boblogiadd – mi fu Vivienne ar Countryfile
yn ddiweddar, felly ella fod hynny wedi sicrhau mwy byth o wrandawyr iddi.
No comments:
Post a Comment