Tuesday, 22 September 2015

Castell Carndochan, Herald Gymraeg 23 Medi 2015


 

Castell Carndochan, un o gestyll Llywelyn Fawr, yn uchel uwchben Llanuwchllyn. Un o’r cestyll Cymreig yng ngwir ystyr y gair, un o gestyll tywysogion Gwynedd. Mae yna linell hyfryd yn y gan ‘London’s Calling’ gan The Clash, lle mae Joe Strummer yn canu ‘and you know what they said, well some of it was true’. Y llinell yma sydd yn dod i’m meddwl wrth ystyried ein perthynas a’r Cestyll Cymreig neu’r Cestyll yng Nghymru.

Efallai wir fod Cestyll Edward I wedi hawlio mwy na’u siar o’r sylw dros y blynyddoedd, ond rhaid gofyn y cwestiwn a oes bai arnom fel Cymry Cymraeg am ganiatau’r sefyllfa hon. Rwyf wedi awgrymu sawl gwaith fod ein tuedd i roi y bai ar eraill, boed yn gyfundrefn addysg neu’n gyrff cyhoeddus, efallai yn rhy hawdd, yn cyflawni fawr mwy na rhoi esgusion am ein difaterwch ni. Gofynnwch y cwestiwn, faint ohonnom sydd yn gyfarwydd a Chastell Carndochan?

Faint bynnag o sylw mae Conwy, Harlech, Caernarfon a Biwmares wedi eu hawlio (am resymau da iawn gyda llaw) does dim esgus go iawn nad ydym yn gallu darllen, mynd ar Google, mynd am dro a darllen y Map O.S. Beth ddigwyddodd i’r antur o ymchwilio a darganfod?

Ond i fynd yn ol at dyfyniad Strummer, fod “rhan o hyn yn wir”, dyma ganmol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Cadw am sicrhau fod gwaith archaeolegol newydd ddigwydd am yr ail dymor i fyny ar safle castell Carndochan. Does dim amheuaeth fod Carndochan yn un o gestyll “llai amlwg” tywysogion Gwynedd a dyma gynnig ateb uniongyrchol i’r diffyg gwybodaeth a diffyg ymwybyddiaeth.

Does fawr o dystiolaeth hanesyddol am gestyll tywysogion Gwynedd. Cawn gyfeiriad at y Castell ym Meirionnydd er engraifft ym Mrut y Tywysogion ar gyfer 1221, ond hyd yn oed wedyn, dydi Castell y Bere ddim yn cael ei enwi. Felly pa obaith i Gastell Carndochan? Mae’r ffaith fod Carndochan ar ochr y mynydd, yn ddringfa o hanner awr go dda i’r copa ac yn weddol ‘anghysbell’ hefyd wedi cyfrannu’n hanesyddol at y diffyg ymwybyddiaeth o’r safle.
 

Felly, yn lle “cwyno” am ddiffyg gwybodaeth mae David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol, mewn partneriaeth a’r Parc a Cadw wedi mynd ati i gloddio ychydig ar y safle. Os does na ddim hanes mewn dogfennau hanesyddol rhaid palu o dan y ddaear felly yn achos Carndochan, archaeoleg yw’r ateb – o bosib yr unig ateb.

Bu gwaith cloddio ar Garndochan llynedd (2014) yn bennaf i weld faint o’r muriau oedd yn weddill neu yn dal i sefyll o dan yr holl gerrig oedd wedi disgyn o furiau’r castell dros y canrifoedd. Daethwpyd o hyd i ddarnau sylweddol o’r muriau yn gyfan, er efallai ddylia hyn ddim fod yn ormod o syndod gan fod y cerrig sydd wedi disgyn wedyn wedi cadw’r rhan isaf o’r mur yn weddol ddiogel dros y canrifoedd.

Llynedd, llwyddodd Hopewell a’r tim cloddio gadarnhau fod dau dwr siap-D ar y safle yn ogystal a gorthwr sgwar a thwr crwn. Y twr siap-D yw’r rhai nodweddiadol o adeiladwaith tywysogion Gwynedd (gweler Castell y Bere, Dinas Bran , Ewloe). Yn wir roedd yr ail dwr siap-D  yn ddarganfyddiad newydd i bob pwrpas.

Eleni daethwpyd o hyd i’r fynedfa, sydd yn ddarganfyddiad ofnadwy o gyffrous. Yn raddol mae’r archaeoleg yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r safle hynod yma. Cafwyd Diwrnod Agored hynod llwyddianus fel rhan o gynllun ‘Drysau Agored’, Cadw, a braf oedd gweld y gymysgedd arferol bellach o Gymry Cymraeg lleol ac ymwelwyr o bell yn mentro’r llwybr mynydd serth er mwyn cael gwerthfawrogi’r safle a’r gwaith archaeolegol. O sefyll yno mae rhywun yn gweld pam y dewisiodd Llywelyn ab Iorwerth y safle hon i reoli Dyffryn Dyfrdwy.
 
Lluniau: drwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

No comments:

Post a Comment